Home
  By Author [ A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z |  Other Symbols ]
  By Title [ A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z |  Other Symbols ]
  By Language
all Classics books content using ISYS

Download this book: [ ASCII | HTML | PDF ]

Look for this book on Amazon


We have new books nearly every day.
If you would like a news letter once a week or once a month
fill out this form and we will give you a summary of the books for that week or month by email.

Title: Ceiriog
Author: Hughes, John Ceiriog, 1832-1887
Language: Welsh
As this book started as an ASCII text book there are no pictures available.


*** Start of this LibraryBlog Digital Book "Ceiriog" ***

This book is indexed by ISYS Web Indexing system to allow the reader find any word or number within the document.

from the 1902 Ab Owen edition.



This Etext is in Welsh



CEIRIOG

by John Ceiriog Hughes



CYNHWYSIAD.

Rhagymadrodd
Nant y Mynydd
Meddyliau am y Nefoedd
Mae John yn mynd i Loegr
Bugail yr Hafod
Ti wyddost beth ddywed fy nghalon
Y fenyw fach a'r Beibl mawr
Dychweliad y Cymro
Addfwyn fiwsig
Y Carnadau
Bugeilio'r Gwenith Gwyn
Mae'n Gymro byth
Mi welaf mewf adgof
Dim ond unwaith
Y march ar gwddw brith
Y Ferch o'r Scer
Pa le mae'r hen Gymry
Maes Crogen
Tros y Garreg
Bardd yn ei Awen
Codiad yr haul
Llongau Madog
Serch Hudol
Breuddwyd y Bardd
Corn y Gad
Dafydd y Garreg Wen
Toriad y Dydd
Yr Eneth Ddall
Codiad yr Hedydd
Ar hyd y Nos
Morfa Rhuddlan
Dim ond dechreu
Difyrrwch Gwyr Harlech
Trot y Gaseg
Llances y Dyffryn
Yn Ynys Mon
Cadlef Morgannwg
Mwyn yw myned tua Mon
Hun Gwenllian
Ar ddol pendefig
A laeswn ni ddwylaw
Llwybr y Pererin
Bedd Llywelyn
A ddywedaist ti fod Cymru 'n dlawd
Peidiwch byth a dwedyd hynny
Dydd trwy 'r ffenestr
Cerddi Cymru
I gadw 'r hen wlad
Myfi sy'n magu 'r baban
Tua Thegid dewch
Hen gwrwg fy ngwlad
Pob rhyw seren fechan wenai
Claddedigaeth Morgan Hen
Myfanwy
Gofidiau Serch
Wrth weld yr haul yn machlud
Y fodrwy briodasol
O weddi daer
Y baban diwrnod oed
Y fam ieuanc
Ceisiais drysor
Y fynwent yn y coed
Claddasom di, Elen
Annie Lisle
Y defnyn cyntaf o eira
Cavour
Y milwr na ddychwel
Garibaldi a charcharor Naples
Glogwyn anwyl
Ffarwel iti, Gymru fad
Tros un o drumiau Berwyn
Dychweliad yr hen filwr
Trwy wledydd dwyreiniol
Y Garreg Wen
Tuag adre
Beibl fy mam
Alun Mabon



RHAGYMADRODD.



Ar un o lethrau'r Berwyn y ganwyd ac y magwyd Ceiriog.  Gadawodd ei
gartref anghysbell a mynyddig pan yn fachgen; a'i hiraeth am
fynyddoedd a bugeiliaid bro ei febyd, tra ym mwg a thwrw Manceinion,
roddodd fod i'w gan pan ar ei thlysaf ac ar ei thyneraf.

Mab Richard a Phoebe Hughes, Pen y Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog,
oedd John Ceiriog Hughes.  Ganwyd ef Medi 25ain, 1832.  Aeth i'r
ysgol yn Nant y Glog, ger y llan.  Yn lle aros gartref ym Mhen y
Bryn i amaethu ac i fugeila wedi gadael yr ysgol, trodd tua
Chroesoswallt yn 1848, i swyddfa argraffydd.  Oddiyno, yn 1849, aeth
i Fanceinion; ac yno y bu nes y daeth ei enw yn adnabyddus trwy
Gymru.  Deffrowyd ei awen gan gapel, a chyfarfod llenyddol, a chwmni
rhai, fel Idris Vychan, oedd yn rhoddi pris ar draddodiadau ac
alawon Cymru.

Yn 1858 yr oedd yn adrodd rhannau o'i gan fuddugol,--"Myfanwy
Fychan,"--yn Eisteddfod Llangollen, am y mynydd a'i gartref.  Yn
1860 cyhoeddwyd ei "Oriau'r Hwyr;" daeth hwn ar unwaith yn un o'r
llyfrau mwyaf poblogaidd yng Nghymru.  Yn 1861 priododd un o rianod
gwlad Ceiriog.  Yn 1862 cyhoeddwyd ei "Oriau'r Bore," lle mae ei
awen ar ei thlysaf ac ar ei grymusaf.  O hynny hyd ddiwedd ei oes,
daliodd i ganu.  Y mae dros chwe chant o'i ganeuon wedi dod a
llawenydd i galon miloedd o Gymry, ac ambell un ddeigryn i lawer
llygad.

Yn 1865, daeth Ceiriog yn orsaf feistr i Lanidloes.  Aeth oddiyno i
Dowyn yn 1870, oddiyno i Drefeglwys yn 1871, ac oddiyno i Gaersws yn
yr un flwyddyu.  Yno y bu farw, Ebrill 23ain, 1887.  Treuliodd ei
febyd, felly, yn Nyffryn Ceiriog, rhan ganol ei oes ym Manceinion,
a'r rhan olaf ym mlaen Dyffryn yr Hafren.

Trwy'r blynyddoedd yr oedd tri pheth yn agos iawn at ei galon,--
llenyddiaeth Cymru, yr Eisteddfod, ac addysg Cymru.  Yr oedd yn hoff
o Ddafydd ab Gwilym; yr oedd ganddo gariad greddfol at y naturiol
a'r cain.  Yr oedd ei fryd ar ddiwygio'r Eisteddfod, ac ar ei gwneyd
yn allu cenhedlaethol.  Hiraethai am ddadblygiad cyfundrefn addysg,
ac ymfalchiai yng Ngholeg Prifysgol Cymru.  Un o wir feibion y
mynyddoedd oedd.


Wrth drefnu'r gyfrol hon, ceisiais ddewis darnau perffeithiaf
Ceiriog, gan adael allan bopeth lle na welir y bardd ar ei oreu.  Y
canlyniad ydyw hyn,--dewiswn, er fy ngwaethaf, y dwys a'r tyner yn
ei awen, ac nid y digrif.  I'r dwys y rhoddodd Ceiriog fwyaf o'i
enaid, ac ymarllwysiad teimlad ei oriau pruddaf yw ei ganeuon goreu.

Dymunwn ddiolch yn gynnes i'r Mri. Hughes am gyhoeddi y gyfrol hon
imi.  Y mae ganddynt hwy hawl ar y rhan fwyaf o lawer o'r caneuon
sydd yn y gyfrol.  Ni buaswn yn gofyn iddynt gyhoeddi y pigion hyn,
oni buasai fy mod yn gwybod y codir awydd ymysg llawer i brynnu y
ddwy gyfrol brydferth gyhoeddwyd yn ystod bywyd Ceiriog, a than ei
ofal, ganddynt hwy.

Ceiriog, yn ddiameu, yw bardd telynegol mwyaf Cymru.  Y mae ei
naturioldeb syml a'i gydymdemlad dwys wedi rhoi swyn anfarwol i'w
gan.  Nid oes telyn yn yr un bywyd na chyffyrdda Ceiriog a rhai o'i
thannau.  Tra aber yn rhedeg yn loew dros raian man, a thra bo gwrid
mwyn yn hanner gyfaddef serch, ca'r galon ddynol fwynhad a nerth o
ganeuon Ceiriog.

"Alun Mabon" yw ei gampwaith.  Y mae miwsig hen alawon yn yr odlau;
y mae bywyd y bugail yma yn ei bryder a'i fwynder.  Ynddo darlunia
Ceiriog ei fywyd ei hun, a bywyd pob mynyddwr.

"Ond bugeiliaid ereill sydd ar yr hen fynyddoedd hyn."  Nid teulu
Ceiriog sydd yn byw ym Mhen y Bryn yn awr.  Ym mynwent Llanwnog, ger
Caersws, ymysg y bryniau hanesiol mud, y rhoddwyd y prydydd i huno.
Ar groes ei fedd y mae ysgrif syml, ac englyn o'i waith ei hun, -

ER
COF AM
JOHN CEIRIOG HUGHES,
A ANWYD MEDI 25,
1832,
A FU FARW EBRILL 23,
1887.


Carodd eiriau cerddorol,--carodd feirdd,
      Carodd fyw 'n naturiol;
   Carodd gerdd yn angerddol,
   Dyma 'i fedd,--a dim lol.


OWEN M. EDWARDS.
Rhydychen,
Mawrth 1, 1902.



NANT Y MYNYDD.



Nant y mynydd, groew, loew,
   Yn ymdroelli tua'r pant;
Rhwng y brwyu yn sisial ganu,
   O na bawn i fel y nant.

Grug y Mynydd yn eu blodau,
   Edrych arnynt hiraeth ddug
Am gael aros ar y bryniau
   Yn yr awel efo'r grug.

Adar man y mynydd uchel,
   Godant yn yr awel iach;
O'r naill drum i'r llall yn hedeg -
   O na bawn fel deryn bach.

Mab y Mynydd ydwyf innau,
   Oddicartref yn gwneyd can,
Ond mae'm calon yn y myuydd
   Efo'r grug a'r adar man.



MEDDYLIAU AM Y NEFOEDD.



Y mae y tri phennill hyn mewn rhan yn wreiddiol, ac mewn rhan yn
gyfieithiedig.

Daw meddyliau am y nefoedd
   Gydag awel wan y nawn,
Gyda llanw'r mor fe ddeuant,
   Gan lefaru 'n felus iawn;
Pan fo 'r mellt fel ser yn syrthio,
   Yn y storm gynhyrfus, gref -
Pan fo 'r llong yn teimlo 'r creigiau,
   Daw meddyliau am y nef.

Daw meddyliau am y nefoedd,
   I unigedd fforest goed,
Ac i'r anial, lle nas tyfodd
   Un glaswelltyn bach erioed.
Ar fynyddau 'r ia tragwyddol,
   Ac ar greigiau llymion, lle
Bydd eryrod yn gorffwyso,
   Daw meddyliau am y ne.

Daw meddyliau am y nefoedd
   I ynysig leia 'r aig,
Lle mae 'r don yn gosod coron
   Gwrel wen ar ben y graig;
Trwy holl gyfandiroedd daear,
   Glynnoedd dwfn, a bryniau ban,
Pur feddyliau am y nefoedd
   Ddont eu hunain i bob man.



MAE JOHN YN MYND I LOEGER.



Y mae hen don wladol o'r enw Gofid Gwynan, ac un led dlos ydyw ar y
cyfan, ond nid i gyd felly.  Ysgrifennwyd y geiriau canlynol i'w
canu arni, ond nid ydynt yn ymbriodi a'r alaw mor hapus ag y
dymunwn.  Dymunwn ddyweyd am y gan ganlynol, mai ychydig iawn o
ddychymyg sydd ynddi, ond fy mod yn dyweyd fy mhrofiad oreu gallwn.

Mae John yn mynd i Loeger,
   A bore fory 'r a;
Mae gweddw fam y bachgen
   Yn gwybod hynny 'n dda;
Wrth bacio 'i ddillad gwladaidd,
   A'u plygu ar y bwrdd,
Y gist ymddengys iddi,
   Fel arch ar fynd i ffwrdd.

Mae ef yn hel ei lyfrau,
   I'r gist sydd ar y llawr;
Yn llon gan feddwl gweled
   Gwychderau 'r trefydd mawr.
Nis gwel e 'r deigryn distaw
   Ar rudd y weddw drist;
Na 'r Beibl bychan newydd
   A roddwyd yn y gist.

Yn fore, bore drannoeth,
   Pan gysgai 'r holl rai bach;
Wrth erchwyn y gwelyau
   Mae John yn canu 'n iach.
Carasai aros gartref,
   Ond nid oedd dim i'w wneyd -
Fe gawsai aros hefyd,
   Pe b'asai 'n meiddio dweyd.

I gwrdd y tren boreuol,
   Cyn toriad dydd yr a, -
"Ffarwel, fy mhlentyn anwyl,
   O bydd yn fachgen da!
Y nef a'th amddiffynno,
   Fy machgen gwyn a gwiw;
Paid byth anghofio 'th gartref,
   Na 'th wlad, na 'th iaith, na' th Dduw."



BUGAIL YR HAFOD.
ALAW,--Hobed o Hilion.



   Pan oeddwn i'n fugail yn Hafod y Rhyd,
   A'r defaid yn dyfod i'r gwair a'r iraidd yd;
   Tan goeden gysgodol mor ddedwydd 'own i,
   Yn cysgu, yn cysgu, yn ymyl trwyn fy nghi;
      Gwelaf a welaf, af fan y fynnaf,
      Yno mae fy nghalon, efo hen gyfoedion
Yn mwynhau y maesydd a'r dolydd ar hafddydd ar ei hyd.

   Pan oeddwn i gartref, fy mhennaf fwynhad
   Oedd naddu a naddu ar aelwyd glyd fy nhad;
   Tra 'm chwaer efo 'i hosan a mam efo carth,
   Yn nyddu, yn nyddu, ar garreg lan y barth,
      Deued a ddeuo, anian dynn yno,
      Hedaf yn fy afiaeth ar adenydd hiraeth
I'r hen dy, glangynnes, dirodres, adewais yn fy ngwlad.

   Mae'r wennol yn crwydro o'i hannedd ddilyth,
   Ond dychwel wna'r wennol yn ol i'w hanwyl nyth;
   A chrwydro wnawn ninnau ymhell ar ein hynt,
   Gan gofio 'r hen gartref chwareuem ynddo gynt.
      Pwyso mae adfyd, chwerwi mae bywyd,
      Chwerwed ef a chwerwo, melus ydyw cofio
Annedd wen dan heulwen yr awen a wena arnom byth.



TI WYDDOST BETH DDYWED FY NGHALON.



Achlysurwyd y penillion hyn gan eiriau ymadawol mam yr awdwr, pan
oedd hi yn dychwelyd i Gymru, ar ol talu ymweliad iddo.

Yn araf i safle 'r gerbydres gerllaw,
   Y rhodiai fy mam gyda'i phlentyn;
I waelod ei chalon disgynnodd y braw,
   Pan welai y fan oedd raid cychwyn.
Ymwelwodd ei gwefus--ei llygaid droi 'n syn,
   Rhy floesg oedd i roddi cynghorion;
Fe'i clywais er hynny yn sibrwd fel hyn, -
   "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Canfyddodd fy llygad mewn dagrau 'n pruddhau,
   Gwir ddelw o'i llygad ei hunan;
Hyn ydoedd am ennyd fel yn ei boddhau,
   Er nad fy nhristau oedd ei hamcan.
Ond er fod cyfyngder yr ennyd yn gwneyd
   Atalfa ar ffrwd o gysuron,
Mudanrwydd rodd gennad i'w hanadl ddweyd, -
   "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Nid son am gynllwynion y diafol, a'i fryd,
   Er ennill ieuenctid i'w afael -
Nid son am ffolineb, a siomiant y byd,
   Yr ydoedd pan oedd yn fy ngadael;
Dymunai 'n ddiameu bob lles ar fy nhaith,
   Trwy fywyd i fyd yr ysbrydion;
Ond hyn oedd yr oll a ddiangodd mewn iaith, -
   "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

I eiriau dirmygus, dieithrol nid wyf,
   Mi wn beth yw llymder gwatwariaeth;
Y munud diffygiwn dan loesion eu clwyf,
   Yn nesaf dro'i oll, yn ddieffaith
Do, clywais hyawdledd--er teimlo ei rym,
   Mewn effaith ni lyn ei rybuddion;
Ond hyn gan dynerwch fyth erys yn llym, -
   "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Mae ysbryd yr oes megis chwyddiad y mor,
   Yn chware a chreigiau peryglon;
O'm amgylch mae dynion a wawdiant Dduw Ior,
   Wyf finnau ddiferyn o'r eigion;
Fy nghamrau brysurant i ddinistr y ffol,
   Ond tra ar y dibyn echryslon
Atelir fi yno gan lais o fy ol, -
   "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Pe gwelwn yn llosgi ar ddalen y nef,
   Y tanllyd lythrennau "NA PHECHA;"
Pe rhuai taranau pob oes yn uu llef -
   "Cyfreithiau dy Dduw na throsedda;"
Pe mellten arafai nes aros yn fflam,
   I'm hatal ar ffordd anuwiolion,
Anrhaethol rymusach yw awgrym fy mam, -
   "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."



GWYN, GWYN YW MUR.



Gwyn, gwyn yw mur y bwthyn ar y bryn,
O'i bared tyf rhosynau coch a gwyn;
Tu allan, hardd a pharadwysaidd yw -
Tu fewn mae'r ferch, fy nghariad wen, yn byw.



Y FENYW FACH A'R BEIBL MAWR.



[Mae y gan hon yn un a gerir gennyf fi tra byddaf byw, am fy mod
wedi digwydd ei chyfansoddi rhwng 9 a 10 o'r gloch, boreu Ebrill y
3ydd, 1859.  Boreu trannoeth derbyniais lythyr ymylddu o Gymru, yn
dwyn imi y newydd fod fy anwyl dad wedi cau ei lygaid ar y byd hwn,
ar y dydd a'r awr grybwylledig.--J. C. H.]

Disgynnai 'r gwlaw, a gwynt y nos
   A ruai yn y llwyn;
Pan oedd genethig dlawd, ddifam,
   Yn dal ei chanwyll frwyn;
Wrth wely ei chystuddiol dad,
   A'i gliniau ar y llawr,
Gan dynnu 'r wylo iddi' hun,
   A darllen y Beibl mawr.

Disgynnai 'r gwlaw a gwynt y nos
   Gwynfanai am y dydd,
A llosgi 'r oedd y ganwyll frwyn
   Uwchben y welw rudd;
A gwylio 'r oedd y fenyw fach
   Ei thad o awr i awr,
Gan dorri mewn gweddiau taer,
   A darllen y Beibl mawr.

Disgynnai 'r gwlaw, a gwynt y nos
   Dramwyai drumiau 'r wlad,
A chwsg a ddaeth i esmwythau
   Ei chystuddiedig dad;
Ond pa fath gwsg, nis gwyddai hi,
   Nes dwedai 'r oleu wawr,
Ei fod ef wedi mynd i'r nef,
   Yn swn yr hen Feibl mawr.

Disgynna 'r gwlaw, ac eto 'r gwynt
   A rua yn y llwyn,
Uwchben amddifad eneth dlawd,
   Tra deil ei chanwyll frwyn;
Ar ol ei thad, ar ol ei mham,
   Ei chysur oll yn awr
Yw plygu wrth eu gwely hwy,
   A darllen y Beibl mawr.



DYCHWELIAD Y CYMRO I'W WLAD EI HUN.



O Hinsawdd i hinsawdd mi grwydrais yn hir,
   O rewdir y Gogledd i Itali dlos:
Am danat ti Walia, ar for ac ar dir,
   Hiraethais y dydd a breuddwydiais y nos.
Cyfeiriais fy nghamrau i'r ardal hoff hon,
   Ar gopa Clawdd Offa gosodais fy nhraed;
Daeth awel y mynydd fel gwin i fy mron,
   A golwg ar Gymru gynhesodd fy ngwaed,
   A golwg ar Gymru gynhesodd ngwaed.

Ar dywod yr anial bu ol fy nau droed,
   Mi deithiais yn oerfel a phoethder yr hin;
O'r fro lle nas tyfodd glaswelltyn erioed,
   I wledydd y mel a gwinllanoedd y gwin;
Yng Nghymru parhaodd fy nghalon o hyd,
   Anwylach a harddach oedd hen Walia wen;
Mi groesais y mor i eithafoedd y byd:
   Ond croesais yr Hafren i orffwys fy mhen,
   Yng nghartref fy nhadau gorffwysaf fy mhen.



ADDFWYN FIWSIG.



Addfwyn Fiwsig, addfwyn Fiwsig,
Gwenferch gwynfa ydwyt ti;
Pan anedli, adfywiedig
   Awel haf ddaw atom ni.
      Gauaf du helbulon,
         Droi yn ha;
      Danat rhew y galon,
         Toddi wna, toddi wna.
Dafnau melus bro gogoniant,
Yn dy lafar di ddisgynnant;
Blodau Eden yn ddiri',
Dyfant, wenant, beraroglant,
Yn dy lais a'th wyddfod ti.
Nefol ferch ysbrydoledig,
Ti sy 'n puro 'r fron lygredig,
Ti sy 'n llonni 'r cystuddiedig.
Addfwyn Fiwsig, addfwyn Fiwsig
   Gwenferch gwynfa ydwyt ti.



Y CANIADAU.



Nid oes gennyf fawr o bleser gydag ysgrifennu un math o farddoniaeth
heblaw caneuon bychain o'r fath hyn.  Fy mhlant fy hun ydyw'r
Caniadau.  Dymuniad fy nghalon a balchder fy mynwes ydyw eu dwyn i
fyny yn blant da.  Wrth adael i rai ddawnsio mewn plentynrwydd, ac
i'r lleill chwerthin ac ysmalio, caiff nifer o honynt gadw
carwriaeth ac eraill ganu hen alawon eu brodir.  Caiff bechgyn
weithio yn y graig, a bugeilio ar y mynydd, a phan fydd dolefiad
corn y gad yn galw, fe'u cyfeiriaf i faes y frwydr i amddiffyn eu
cartref, ac i farw'n ddewr tros Ryddid eu mamwlad.  Yn nesaf at ofni
Duw ac anrhydeddu y brenin, cant garu eu gwlad a meddwl yn dda am eu
hiaith a'u cenedl.



BUGEILIO 'R GWENITH GWYN.
ALAW,--Bugeilio 'r gwenith gwyn.



Eisteddai merch ar gamfa'r cae,
   A'i phen gan flodau 'n dryfrith,
I gadw 'r adar bach ffwrdd
   Rhag disgyn ar y gwenith.
Rho'i ganiatad i'r deryn to,
   A'r asgell fraith gael disgyn;
Rhag ofn ei fod yn eos fach,
   A dyna deimlad plentyn.

Pan welot tithau eneth wan,
   Yn gofyn am dy gymorth:
Wrth gil y drws, a glywi di,
   Mo ymbil chwaer am ymborth?
Os wyt am fendith ar dy faes,
   Gogwydda glust i'w gweddi;
Yr oedd yr haul, a'r gwlith, a'r gwlaw,
   Yn meddwl am roi iddi.

Os wyt am fedi gwenith gwyn,
   Gofala beth a heui;
A wyt ti'n hau y dyddiau hyn
   Yr hyn ddymunet fedi?
Tra gwelot wlith a gwlaw y nen,
   A'r heulwen yn haelionus;
Wel dos i hau ar dir y tlawd,
   A chofia'th frawd anghenus.



MAE 'N GYMRO BYTH.
ALAW,--O Gylch y Ford Gron.



Mae'n Gymro byth pwy bynnag yw,
   A gar ei wlad ddinam;
Ac ni fu hwnnw 'n Gymro 'rioed,
   A wado fro ei fam.
Aed un i'r gad a'r llall i'r mor,
   A'r llall i dorri mawn;
A chario Cymru ar ei gefn
   A wnaiff y Cymro iawn.

Cydgan:  Does neb yn caru Cymru 'n llai,
   Er iddo grwydro 'n ffol;
Mae calon Cymro fel y trai
   Yn siwr o ddod yn ol.

Er mynd ymhell o Walia Wen,
   A byw o honi 'n hir,
Ac er i'r gwallt claerdduaf droi
   Yn wyn mewn estron dir,
Mae 'r cof am dad a mam yn mynd
   I'r bwthyn yn y ddol,
A chlychau mebyd yn y glust
   Yn galw galw 'n ol.

Enilled aur ac uchel glod,
   Mewn gwlad o win a mel;
Aed yn ei longau ar y mor,
   Er maint o'r byd a wel;
Wrth edrych ar fachludiad haul
   A gwylio ser y nos,
Bydd clychau arian yn y gwynt
   Yn son am Gymru dlos.



MI WELAF MEWN ADGOF.
ALAW,--Difyrrwch Arglwyddes Owen.



Mi welaf mewn adgof hen ysgol y Llan,
A'r afon dryloew yn ymyl y fan:
O'm blaen mae pob carreg yn rhedeg yn rhes,
A'r coedydd gysgodent fy mhen rhag y gwres.
Yng nghanol eu cangau mae telyn y gwynt,
Yn eilio 'r hen alaw a ganwn i gynt;
Rwy 'n teimlo fy nhalcen dan heulwen yr haf,
A 'nghalon yng Ngwalia ple bynnag yr af.

Rwy'n gweled y defaid a'r wyn ar y bryn,
Rwy 'n gweled gwynebau sy 'ngwaelod y glyn;
Rwy'n clywed rhaiadrau yn adsain o draw,
Ar mawrwynt yn erlid y cenllysg ar gwlaw.
O sued yr awel, a rhued y don,
Beroriaeth adgofion yn lleddf ac yn llon,
Boed cwpan dedwyddyd yn wag neu yn llawn,
Yng Ngwalia mae 'r galon ple bynnag yr awn.



DIM OND UNWAITH YN Y FLWYDDYN.



Dim ond unwaith yn y flwyddyn,
   Awn i fyny 'r cymoedd cain;
Awn i ogli 'r peraidd borwellt
   Llysiau 'r mel a blodau 'r drain.
Dim ond unwaith yn y flwyddyn
   Gwena 'r ddaear oll fel gardd;
      Awn aan dro, tua bryniau 'n bro
Dim ond unwaith yn y flwyddyn,
   Pwy na chwery, pwy na chwardd?



Y MARCH A'R GWDDW BRITH.
ALAW,--Y Gadlys.



Caradog eilw 'i ddeiliaid,
   Ag udgorn ar ei fant;
Fe ruthrodd y Siluriaid,
   Cwympasant yn y pant.
Enciliodd arwyr enwog,
   Ond ar y march a'r gwddw brith
   Fe ddaw 'r frenhines deg i'w plith
I edrych am Garadog.

Mae cynnwrf yn y ceunant,
   Ar derfyn dydd y gad;
A dynion dewr orweddant,
   I farw tros eu gwlad.
Yr afon foddodd fyddin,
   Ond ar y march a'r gwddw brith,
   Fe ddaw 'r frenhines deg i'w plith,
I edrych am y brenin.

Fe welodd y Rhufeiniaid
   Y march a'r gwddw brith;
Ond gwelodd y Brythoniaid
   Frenhines yn eu plith.
Mae 'r corn yn ail-udganu,
   Brythoniaid yn eu holau dront,
   Rhufeiniaid yn eu holau ffont,
O flaen cleddyfau Cymru.



Y FERCH O'R SCER.
ALAW,--Y Ferch o'r Scer.



Dywedir fod Merch y Scer yn ddarpar gwraig i'r telynor am rai
blynyddau, ond gan iddo trwy ryw ddamwain golli ei olwg, fe
berswadiwyd y llances gan ei pherthynasau a chan ei theimladau ei
hun i roi pen ar y garwriaeth.  Gwnaed y don gwynfanus a phrydferth
hon gan y telynor i arllwys allan ei siomedigaeth a'i ofid.

'R wyf yn cysgu mewn dallineb
   Ganol dydd a chanol nos;
Gan freuddwydio gweled gwyneb
   Lleuad wen a seren dlos.
Tybio gweld fy mam fy hunan -
   Gweld yr haul yn danbaid der;
Gweld fy hun yn rhoddi cusan
      I fy chwaer a Merch y Scer.

Gwresog ydyw'r haul gwyneblon,
   Oer, ond anwyl, ydyw 'r ser;
Gwres oer felly yn fy nghalon
   Bar adgofion Merch y Scer.
Mae fy mam a'm chwaer yn dirion,
   Yn rhoi popeth yn fy llaw;
Merch y Scer sy 'n torri 'm calon,
   Merch y Scer sy 'n cadw draw.

Cariad sydd fel pren canghennog,
   Pwy na chara Dduw a dyn?
Cangen fechan orflodeuog
   Ydyw cariad mab a mun.
O! 'r wy'n diolch ar fy ngliniau,
   Am y cariad pur di-ball;
Cariad chwaer sy 'n cuddio beiau -
   Cariad mam sy'n caru 'r dall.



PA LE MAE 'R HEN GYMRY?
ALAW,--Llwyn Onn.



Bernid unwaith, nid yn unig gan Gymru hygoel, ond gan yr holl
deyrnas, fod llwyth o Indiaid Cymreig yn preswylio parth o'r America
ar gyffiniau yr afon Missouri, ac mai y Padoucas neu y Mandanas
oeddynt.  Y mae yr hanes am JOHN EVANS o'r Waunfawr, yn Arfon, yn
hynod effeithiol.  Cenhadwr ieuanc, llawn o ysbryd gwladgarol ac o
sel grefyddol ydoedd ef.  Ymgymerodd a'r gorchwyl mawr o fyned i
eithafoedd America, i chwilio am ddisgynyddion Madog, ac i bregethu
yr efengyl iddynt.  Dilynodd John Evans yr afon Missouri am 1,600 o
filldiroedd, ond tarawyd ef a'r dwymyn, a bu farw, ymhell o'i fro
enedigol, ac mor bell ag erioed oddiwrth yr Indiaid Cymreig.  Y mae
pedwar ugain mlynedd er hynny, ac y mae ein barn, gan mwyaf, wedi
cyfnewid o barth i fodolaeth bresennol disgynyddion Madog ap Owen
Gwynedd.  Gweler draethawd Thomas Stephens, Ysw., Merthyr Tydfil, ar
y mater.  Y mae amcan mawreddus, ynni anturiaethus, taith
aflwyddiannus, a diwedd torcalonnus y Cymro ieuanc hwn yn hynod
darawiadol.

Mae 'r haul wedi machlud, a'r lleuad yn codi,
   A bachgen o Gymru yn flin gan ei daith;
Yn crwydro mewn breuddwyd, ar lan y Missouri,
   I chwilio am lwyth a lefarent ein hiaith.
Ymdrochai y ser yn y tonnau tryloewon,
   Ac yntau fel meudwy yn rhodio trwy i hun;
"Pa le mae fy mrodyr?" gofynnai i'r afon
"Pa le mae 'r hen Gymry, fy mhobol fy hun?"

Fe ruai bwystfilod, a'r nos wnai dywyllu,
   Tra 'r dwfr yn ei wyneb a'r coed yn ei gefn;
Yng nghaban y coediwr fe syrthiodd i gysgu,
   Ac yno breuddwydiodd ei freuddwyd drachefn.
Fe welai Frythoniaid, Cymraeg wnaent lefaru,
   Adroddent eu hanes, deallai bob un.
Deffrodd yn y dwymyn, bu farw gan ofyn,
"Pa le mae 'r hen Gymry, fy mhobol fy hun?"



MAES CROGEN BORE TRANOETH.
ALAW,--Y Fwyalchen.



Ar y ffordd rhwng y Waun a Glynceiriog, y mae ty fferm mawr, o'r enw
Crogen Iddon.  Bu brwydr dost yn yr ardal hon yn 1164, rhwng y
Cymry, tan arweiniad Owen Gwynedd, a Harri II.  Y mae ol ei wersyll
mewn amryw fannau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin--ac ar ran o'r
mynydd perthynol i'r amaethdy y'm ganwyd ac y'm magwyd i.

Y frwydr aeth trosodd o'r diwedd,
   A baeddwyd y gelyn yn llwyr;
A'r ser edrychasant ar Wynedd,
   A'r bore ddilynodd yr hwyr.
'R oedd yno ieuenctid yn gorwedd,
   Am sefyll tros Wynedd yn bur -
Yn fore daeth mamau a gwragedd,
   I chwilio am feibion a gwyr.

Fe ganai mwyalchen er hynny,
   Mewn derwen ar lannerch y gad;
Tra 'r coedydd a'r gwrychoedd yn lledu,
   Eu breichiau tros filwyr ein gwlad.
Gorweddai gwr ieuanc yn welw,
   Fe drengodd bachgennyn gerllaw;
Tra i dad wrth ei ochor yn farw,
   A'i gleddyf yn fyw yn ei law.

Gan frodyr, chwiorydd, a mamau,
   Fe gasglwyd y meirwon ynghyd;
Agorwyd y ffos ac fe 'i cauwyd,
   Ond canai 'r Fwyalchen o hyd.
Bu brwydyr Maes Crogen yn chwerw,
   Gwyn fyd yr aderyn nas gwyr
Am alar y byw am y meirw,
   Y bore ddilynodd yr hwyr.



TROS Y GARREG.
ALAW,--Tros y Garreg.



Pan y bydd llanciau a merched sir Feirionnydd mewn llefydd rhwng
Bwlch Llandrillo a Chlawdd Offa, soniant yn fynych am fyned am dro i
sir Feirionnydd, tros Garreg Ferwyn a thros y Bwlch.  Awgrymwyd y
gan hon gan lodes oedd yn myned ag arian i helpu ei mam dalu y rhent
am y ty bychan lle y ganwyd ac y bu farw ei thad.

Fe ddaw wythnos yn yr haf,
Gweled hen gyfeillion gaf;
   Tros y mynydd
   I Feirionnydd,
Tros y Garreg acw 'r af.
Ar y mynydd wele hi,
Draw yn pwyntio ataf fi;
Fyny 'r bryn o gam i gam,
Gyda 'm troed fy nghalon lam;
   Af ag anrheg
   Tros y Garreg
I fy unig anwyl fam.

Fe gaf chware ar y ddol,
Fe gaf eistedd ar y 'stol,
   Wrth y pentan,
   Diddan, diddan,
Tros y Garreg af yn ol.
Pan ddaw 'r wythnos yn yr haf,
O fel codaf ac yr af,
Fyny 'r bryn o gam i gam,
Gyda 'm troed fy nghalon lam;
   Af ag anrheg
   Tros y Garreg
I fy unig anwyl fam.



BARDD YN EI AWEN.
ALAW,--Bardd yn ei Awen.



Mae llawer eraill o ddulliau yn bod ar y mesur hwn, ond nid wyf yn
alluog, oddiwrth yr engreifftiau sydd gennyf, i roi barn nac opiniwn
pa un o'r amryw fathau yw y mwyaf dewisol.  Y mae y don yn ddigon
ystwyth ac ufudd, modd bynnag, i addasu ei hun at y cyfan.  Efallai


Nad oes faws na dwys fesur
O un baich i hen don bur,


mwy nag i awen.

Mae Bardd i ddod ryw ddydd,
A brenin-fardd ein bryniau fydd,
   Fe ddaw i Gymru lan;
Ei wlad a glyw ei lef,
A ni a phawb a'i hoffwn ef,
   Pan gwyd pen gawr y gan;
Fe aiff i ddwyfol fan,
   Yn nghiliau dwfn hen galon dyn:
Am Hedd fe gan o hyd,
Fod angel Hedd yn hel ynghyd,
   Enwadau 'r byd yn un.

Fe ddaw y Bardd i'r byd,
A'i gan i ben, O! gwyn eu byd
   Y dorf a wel y dydd;
Pwy wel y bore gwyn,
Ac heulwen deg cyflawniad hyn,
   Y fath gyfundeb fydd!
Daw bardd i fysg ein plant,
   I daro tant yn natur dyn;
Am Hedd fe gan o hyd,
Fod angel Hedd yn hel ynghyd
   Enwadau 'r byd yn un.



CODIAD YR HAUL.
ALAW,--Codiad yr Haul.



Mae yr alaw hon yn fwy addas feallai i'w chanu ar offeryn na chyda
llais, oblegid ei bod mor gyflym, nes y mae synwyr, barddoniaeth
geiriau, ac odlau yn cael llithro trostynt o'r bron heb eu cyffwrdd.
Yr oedd Handel yn gydnabyddus iawn gyda'r hen donau Cymreig, ac fe
ddefnyddiodd hon yn ei Acis and Galatea.  Yr oedd cyfaill o Sais un
tro yn chware yr alaw o dan fy nghronglwyd, ac wedi myned unwaith
neu ddwy tros y don, pan waeddodd allan tros ei ysgwydd, "Ai ton
Gymreig y galwch chwi hon?  Ton o waith Handel yn don Gymreig!"  Yr
oedd yn dda gennyf gael cyfleustra i esbonio iddo.

   Gwel, gwel! wyneb y wawr,
   Gwenu mae y bore-gwyn mawr:
Ac wele'r Haul trwy gwmwl rhudd,
Yn hollti ei daith gan dywallt Dydd!
   I'w wydd adar a ddont,
   Dreigiau 'r Nos o'i olwg a ffont.
Pwy ddwed hardded ei rudd,
Wyched yw gwynfreichiau Dydd!
   Try y mor yn gochfor gwaed,
   A'r ddaear dry o dan ei draed,
   A'r ddaear dry o dan ei draed.

   Haul, Haul! hyfryd yw Haul,
   Gwyneb Hedd yw gwyneb yr Haul:
I fyrdd y dysg fawredded yw
Y gwynwedd dan gyneuodd Duw!
   I'w daith' fyny y daw,
   Llygaid dydd a'i gwelant ef draw;
Egyr pob blaguryn byw,
Ar ros a gwaun yn rhesi gwiw -
   Gwel pob peth wyn haul y nen,
   E' gwyd y byd pan gwyd ei ben,
   E' gwyd y byd pan gwyd ei ben.



LLONGAU MADOG.
ALAW,--Difyrrwch y Brenin.



Wele'n cychwyn dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg;
Wele Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Mynd y mae i roi ei droed,
Ar le na welodd dyn erioed:
Antur enbyd ydyw hon,
Ond Duw a'i dal o don i don.

Ser y nos a haul y dydd,
O gwmpas oll yn gwmpawd sydd;
Codai corwynt yn y De,
A chodai 'r tonnau hyd y ne;
Aeth y llongau ar eu hynt,
I grwydro 'r mor ym mraich y gwynt;
Dodwyd hwy ar dramor draeth,
I fyw a bod er gwell er gwaeth.

Wele'n glanio dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg:
Llais y morwyr glywn yn glir,
'R ol blwydd o daith yn bloeddio "Tir!"
Canent newydd gan ynghyd,
Ar newydd draeth y newydd fyd -
Wele heddwch i bob dyn,
A phawb yn frenin arno 'i hun.



SERCH HUDOL.
ALAW,--Serch Hudol.



   Serch Hudol swyn,
   Sy'n llanw 'r llwyn,
Pan fo myrdd o adar mwyn,
   Yn canu yn y coed.
Mae anian oll yn canu 'nghyd,
'D oes dim yn fyddar nac yn fud,
Mae mwy o fiwsig yn y byd
   Na thybiodd dyn erioed.
   Corau 'r Wynfa wen,
A ganant byth heb ddod i ben,
Maer delyn aur gan deulu 'r nen,
   Yng ngwyddfod Duw ei hun.
Mae can yn hedeg ar ei hynt,
Yn swn y mor a llais y gwynt,
Bu ser y bore 'n canu gynt,
   Paham na chana dyn?

   Serch hudol yw,
   Pob peth sy'n byw,
Yn y nef a daear Duw;
   O'r haul sy'n llosgi fry -
I'r pryfyn tan yr hwn a roed,
I rodio 'r clawdd a gwraidd y coed,
I oleu ar y llwybyr troed
   Sy'n arwain i dy dy.
   Hardd yw llun a lliw,
Pob peth a ddaeth o ddwylaw Duw,
I ble 'r a llygad dyn nad yw,
   Yng ngwydd y tlws a'r cain?
Prydferthwch sydd yn llanw 'r nef,
A phob creadur greodd Ef,
O'r eryr ar ei aden gref,
   I'r dryw sydd yn y drain.



BREUDDWYD Y BARDD.



Nis gwn am un engraifft o bennill ar y mesur hwn, ac nis gwn am neb
sydd yn gallu yr hen alaw odidog heblaw y cyfaill Idris Vychan.  Y
mae seibiant yn y don ar ddiwedd y chweched llinell, a'r llinell
olaf yn llwythog o ofid a siomedigaeth.  Ymdrechais yn y geiriau
gadw at gymeriad neilltuol y llinell olaf.  Mae hi fel moeseb
oddiwrth, neu eglurhad ar, y chwe llinell flaenorol.

ALAW,--Breuddwyd y Bardd.

[Music not transcribed--DP]

Eisteddai hen fardd yn ei gadair,
   Yn wargrwm a'i wallt fel y gwlan;
A'i feddwl a hedodd i'r amser
   Y gwelid ei blant wrth y tan.
Ei amrant a gauodd, ac yna breuddwydiodd
   Yn weddw ac unig heb neb iw wahardd -
Yng ngwynfyd ei galon breuddwydiodd y bardd.

Fe welodd ei hun yn priodi,
   Genethig anwylaf y wlad;
Fe glywodd ei gyntaf anedig
   Gan wenu 'n ei alw fe 'n "dad!"
Ni welodd ef gladdu ei briod a'i deulu,
   Na deilen wywedig yn disgyn i'r ardd -
Na, breuddwyd ei febyd freuddwydiodd y bardd.

Fe glywai hen glychau Llanarmon,
   Yn fachgen fe deimlodd ei hun,
Breuddwydiodd hen deimlad y galon,
   Sef hiraeth am ddyfod yn ddyn.
Ni chofiodd ef helynt y dyddiau'r aeth trwyddynt,
   Ond tybiodd fod popeth yn hyfryd a hardd -
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.

Er na bu un linell mewn argraff
   O waith y breuddwydiwr erioed;
Fe wel ef ei waith yn gyfrolau,
   A dynion yn rhodio fel coed,
A bechgyn yn darllen cynyrchion ei awen,
   Fe wel anfarwoldeb trwy gwsg, ac fe chwardd -
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.



CORN Y GAD.
ALAW,--Rhyfelgan Ap Ivan Bennaeth.



Ar y mynydd rhodiai bugail,
Gwelai 'r gelyn ac yn uchel,
Bloeddiodd allan--"Llongau Rhyfel!"
Yna clywai gorn y gad.
      Corn y gad!
Dyna ganiad corn arswydion,
Traidd ei ddolef trwy Blunlumon,
Cawdor sydd yn galw 'i ddynion.
Corn y rhyfel hollta 'r nefoedd,
Tery arswyd trwy 'r mynyddoedd,
Etyb creigiau pell y cymoedd
         Gorn y gad.

Fel mae Draig hen Gymru 'n deffro
Tan y amynydd yn ei hogo',
Cerrig ateb sydd yn bloeddio,
Chwythu 'n uwch wna corn y gad;
      Corn y gad!
Meibion Berwyn ydynt barod,
Llifant o'r mynyddoedd uchod,
Duant y gwastadedd isod;
Meirch i'r frwydyr gydgarlamant,
Holl gleddyfau Cymru fflamiant,
Mewn urdduniant, cydatebant
         Gorn y gad!



CORN Y GAD.



Meddaf y pleser o ysgrifennu geiriau am y waith gyntaf i hen
ryfelgan Gymreig o radd uchel; o leiaf nid wyf yn gwybod fod neb o'm
blaen wedi cyfansoddi can ar yr alaw.  Ni bu y gerddoriaeth ychwaith
yn argraffedig.  Fe ddichon fod y don wedi ei chyhoeddi, ac fe
ddichon fod rhai o'm cyfeillion yn gwybod am eiriau hefyd llawer
rhagorach na'm heiddo i.  Fe ddywedaf ar fyr eiriau pa fodd y daeth-
um ar ei thraws.  Fel yr oedd Idris a minnau un noswaith yn hwmian
hen donau i'n gilydd, fe ofynnodd ef braidd yn sydyn, "A glywsoch
chwi Ivan ap Ivan Bennoeth erioed?"  Dywedais, os darfum ei chlywed,
na chlywais hi ar yr enw hwnnw.  "O," ebai yntau, "hen don anwyl,
nad oes ei gwell gan ein cenedl.  Mae tebygrwydd ynddi, fel yn amryw
alawon eraill, i 'Difyrrwch Gwyr Harlech,' ac nid oes llawer lai o
nerth a mawredd ynddi."  Digwyddodd fod ei lais yn well nag arferol,
a'm ystafell innau yn fechan, ac allan a hi nes oedd y bwrdd yn
crynnu, a phlant a phobl ar yr heol yn sefyll i wrando wrth y ty.
Dywedai iddo ei chlywed, er yn blentyn, yn cael ei chware gan
seindorf Dolgellau.



DAFYDD Y GARREG WEN.



Tyddyn yw y Garreg Wen, ger Porthmadog.  Yno yn y flwydd 1720 y
ganwyd Dafydd, i'r hwn y priodolir cyfan-soddiaeth y don sydd ar ei
enw.  Dywedir hefyd, ond ar ba sail nis gwyddom, mai efe ydyw awdwr
Codiad yr Hedydd, Difyrrwch Gwyr Cricieth, ac alawon eraill.  Y mae
y don yn un o'r rhai prydferthaf sydd gennym, ac yn nodedig o alarus
a dwys.  Bu y cerddor gobeithiol hwn farw yn 1749, yn 29 oed, a
chladdwyd ef ym mynwent Ynys Cynhaiarn, lle mae cofadail i'w
goffadwriaeth, a llun ei delyn yn gerfiedig arni ynghyd a'r
geiriau,--"BEDD DAVID OWEN, neu DAFYDD Y GARREG WEN."

'R oedd Dyfydd yn marw, pan safem yn fud
I wylio datodiad rhwng bywyd a byd;
"Ffarwel i ti 'mhriod, fy Ngwen," ebai ef,
"Fe ddaeth y gwahanu, cawn gwrdd yn y nef."

Fe gododd ei ddwylaw, ac anadl ddaeth
I chwyddo 'r tro olaf trwy 'i fynwes oer, gaeth;
"Hyd yma 'r adduned, anwylyd, ond moes
Im' gyffwrdd fy nhelyn yn niwedd fy oes."

Estynwyd y delyn, yr hon yn ddioed
Ollyngodd alawon na chlywsid erioed;
'R oedd pob tant yn canu 'i ffarweliad ei hun,
A Dafydd yn marw wrth gyffwrdd pob un.

"O! cleddwch fi gartref yn hen Ynys Fon,
Yn llwch y Derwyddon, a hon fyddo 'r don,
Y dydd y'm gosodir fi 'n isel fy mhen," -
A'i fysedd chwareuant yr "Hen Garreg Wen."

'R oedd Dafydd yn marw, pan safem yn fud
I wylio datodiad rhwng bywyd a byd;
Yn swn yr hen delyn gogwyddodd ei ben,
Ac angau rodd fywyd i'r "Hen Garreg Wen."



TORIAD Y DYDD.
ALAW,--Toriad y Dydd.



Fe welid cant o honom
   Yng ngoleu 'r lleuad brudd,
Yn dringo fyny 'r Wyddfa fawr
   I weled Toriad Dydd.
Edrychem ar y nefoedd,
   Wrth fynd o fryn i fryn;
Edrychem ar y llynoedd dwr,
   A phwysem ar ein ffyn.
A gwelem y Saith Seren
   Oedd yn y gogledd draw,
Yn gwenu ar Saith Seren wen
   Oedd yn y llyn gerllaw.
Ond nid oedd amser sefyll,
   Nid oedd ond hanner awr,
Na byddai Toriad Dydd yn dod
   Ar ben y Wyddfa fawr.

O'r diwedd cyrhaeddasom
   At ffynnon ger ei phen,
Gan ddiolch am gael gwin y graig
   Mor agos at y nen.
Dringasom ris i fyny,
   A threm fawreddus gaed, -
Yr holl ddwyreiniol fyd yn goch,
   Yn fflamio wrth ein traed;
Ataliodd pawb ei anadl,
   A phlethodd pawb ei law,
Wrth weld y goelcerth goch yn dod,
   A'r nos yn treiglo draw.
Galwasom am y delyn,
   Ac yng ngoleuni 'r wawr,
Canasom don ar "Doriad Dydd"
   Ar ben y Wyddfa fawr.



YR ENETH DDALL.
ALAW, Toriad y Dydd.



Mae llawer un yn cofio
   Yr eneth fechan ddall;
Ni welodd neb un fach mor fwyn,
   Mor brydferth, ac mor gall;
Fe gerddodd am flynyddau
   I ysgol Dewi Sant,
Ar hyd y ffordd o gam i gam,
   Yn nwylaw rhai o'r plant.
'R oedd gofal pawb am dani,
   A phawb yn hoffi 'r gwaith
O helpu 'r eneth fach ymlaen,
   Trwy holl drofeydd y daith;
Siaradai 'r plant am gaeau,
   A llwybrau ger y lli,
Ac am y blodau tan eu traed,
   Ond plentyn dall oedd hi.

Fe glywai felus fiwsig
   Yr adar yn y dail;
Fe deimlai ar ei gwyneb bach
   Belydrau serch yr haul;
Aroglai flodau 'r ddaear;
   Ond nis adwaenai 'r fun
Mo wen yr haul, a mwy na 'r oll
   Mo wen ei mam ei hun.
Mae 'r plentyn wedi marw, -
   Ar wely angau prudd
Fe wenodd ar ei mam gan ddweyd,
   "Mi welaf doriad dydd!"
Ehedodd mewn goleuni
   Oddiwrth ei phoen a'i phall,
A gweled golygfeydd y nef
   Y mae yr ENETH DDALL.



CODIAD YR HEDYDD.
ALAW,--Codiad yr Hedydd.



Dywedir fod D. Owen wedi mynd i noson-lawen i Blas y Borth,
Porthmadog, ac fe arosodd y telynor yn rhialtwch yr arwest, tan ddau
neu dri o'r gloch yn y bore.  Fe ddaeth dydd ar warthaf Dafydd a'i
delyn pan oedd y ddau ar y ffordd adref.  Eisteddodd y llanc ar
garreg sydd i'w chanfod eto yn yr ardal, i sylwi ar ehedydd uweh ei
ben yn taro cyweirnod ei galon ar doriad dydd.  Dyna'r fan a'r pryd
y cyfansoddwyd y don Codiad yr Hedydd.

Clywch, clywch foreuol glod,
O fwyned yw 'r defnynnau 'n dod
   O wynfa lan i lawr.
Ai man ddefnynnau can
Aneirif lu ryw dyrfa lan
   Ddiangodd gyda 'r wawr?
Mud yw 'r awel ar y waun,
   Brig y grug yn esmwyth gryn;
Gwrando mae yr aber gain,
   Yn y brwyn ymguddia 'i hun.
Mor nefol swynol ydyw 'r sain
   Sy 'n dod i ddeffro dyn.

Cwyd, cwyd ehedydd, cwyd,
O le i le ar aden lwyd,
   Yn uwch, yn uwch o hyd;
Can, can dy ddernyn cu,
A dos yn nes at lawen lu
   Adawodd boen y byd, -
Canu mae a'r byd a glyw,
   Ei alaw lon o uchel le;
Cyfyd hiraeth dynol ryw
   Ar ei ol i froydd ne:
Yn nes at Ddydd, yn nes at Dduw,
   I fyny fel efe.



AR HYD Y NOS
ALAW,--Ar hyd y Nos.



Holl amrantau 'r ser ddywedant,
   Ar hyd y nos,
Dyma 'r ffordd i fro gogoniant,
   Ar hyd y nos.
Goleu arall yw tywyllwch,
I arddangos gwir brydferthwch
Teulu 'r nefoedd mewn tawelwch,
   Ar hyd y nos.
O mor siriol gwena seren
   Ar hyd y nos;
I oleuo 'i chwaer-ddaearen
   Ar hyd y nos.
Nos yw henaint pan ddaw cystudd,
Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd,
Rhown ein goleu gwan i'n gilydd
   Ar hyd y nos.



MORFA RHUDDLAN.
ALAW,--Morfa Rhuddlan.



Gwgodd y nefoedd ar achos y cyfion,
   Trechodd Caethiwed fyddinoedd y Rhydd;
Methodd gweddiau fel methodd breuddwydion,
   Cleddyf y gelyn a gariodd y dydd;
Cuddied y Morfa tan eira tragwyddol,
   Rhewed yr eigion am byth tros y fan;
Arglwydd trugarog, O! tyred i ganol
   Achos y cyfiawn a chartref y gwan.

Brenin y gelyn fydd pen ein gwladwriaeth,
   Lleiddiad Caradog a gymer ei le;
Cwymped y delyn ar gwympiad Caradog,
   Syrthied i'r ddaear fel syrthiodd efe.
Eto, edrychaf ar draeth y gyflafan,
   Wadwyd mo Ryddid, a chablwyd mo 'r Ior;
Gwell ydoedd marw ar Hen Forfa Rhuddlan,
   Gwell ydoedd suddo i Ryddid y mor.



'DOES DIM OND EISIEU DECHREU.
ALAW,--Y Gadlys.



'Does dim ond eisieu dechreu,
Mae dechreu 'n hanner gwaith,
I ddysgu pob gwybodau
   A deall unrhyw iaith.
Nac ofnwch anhawsderau,
   'Does un gelfyddyd dan y rhod
   Nad all y meddwl diwyd ddod,
I'w deall wedi dechreu.
"Fe hoffwn innau sengyd
   Ar ben y Wyddfa draw,"
Medd hen foneddwr gwanllyd
   A phastwn yn ei law.
Cychwynnodd yn y boreu,
   Ac erbyn hanner dydd yr oedd
   Ar ben y mynydd yn rhoi bloedd,
"'Doedd dim ond eisieu dechreu."

I fesur y planedau
   Sy'n hongian er erioed;
I ddarllen tudalennau
   Y ddaear tan dy droed -
Y bachgen efo 'i lyfrau
   Ymlaen yr a, ymlaen yr a
   I wneuthur drwg neu wneuthur da,
'Does dim ond eisieu dechreu.
Wel, deuparth gwaith ei ddechreu,
   'Does un ddihareb well;
Cychwynnwch yn y boreu,
   Fe ellwch fynd ymhell.
Edrychwch rhwng y bryniau
   Ffynhonnau bach sy'n llifo 'i lawr,
   Ond ant i'r mor yn genllif mawr,
'Does dim ond eisieu dechreu.



DIFYRRWCH GWYR HARLECH
ALAW,--Difyrrwch Gwyr Harlech



Wele goelcerth wen yn fflamio,
   A thafodau tan yn bloeddio,
Ar i'r dewrion ddod i daro
   Unwaith eto 'n un;
Gan fanllefau 'r tywysogion,
Llais gelynion, trwst arfogion,
A charlamiad y marchogion,
   Craig ar graig a gryn.
Cwympa llawer llywydd,
Arfon byth ni orfudd;
Cyrff y gelyn wrth y cant
   Orffwysant yn y ffosydd;
Yng ngoleuni 'r goeleerth acw,
Tros wefusau Cymro 'n marw,
Anibyniaeth sydd yn galw
   Am ei dewraf dyn.

Ni chaiff gelyn ladd ac ymlid
Harlech!  Harlech; cwyd i'w herlid;
Y mae Rhoddwr mawr ein Rhyddid,
   Yn rhoi nerth i ni;
Wele Gymru a'i byddinoedd
Yn ymdywallt o'r mynyddoedd!
Rhuthrant fel rhaiadrau dyfroedd
   Llamant fel y lli.
Llwyddiant i'n lluyddion,
Rwystro bar yr estron,
Gwybod yn ei galon gaiff
   Fel bratha cleddyf Brython.
Cledd yn erbyn cledd a chwery,
Dur yn erbyn dur a dery,
Wele faner Gwalia i fyny,
   Rhyddid aiff a hi.



TROT Y GASEG.
ALAW--Trot y Gaseg.



Rhaid imi basio heno
   Ty geneth lana'r fro,
Dymunwn alw yno,
   Ond ni wnaiff hynny 'r tro.
      Tyrd ti fy merlen hoew,
      I fyny 'r dyffryn acw;
      Da gwyddost am y ty
      Y trig fy ngeneth gu -
Dynesu mae yr afon,
Cynesu mae fy nghalon,
Wrth basio 'r Dolydd Gleision,
      Ar gefn fy merlen ddu.

Mae miwsig hen alawon,
   Yn swn dy bedwar troed:
Rwy 'n croesi tros yr afon
   Mi welaf lwyn o goed.
      Tra 'r afon ar y graian,
      Yn hwian iddi' hunan,
      Mae seren Gwener gu
      Yn crynnu uwch y ty,
A'm calon wirion innau
Yn crynnu am y goreu.
Wrth fynd ar loergan oleu
      Ar gefn fy merlen ddu.

Yn y coedwigoedd agos,
   Fy merlen lo'wddu lefn,
Y clywais lais yr eos
   Wrth deithio ar dy gefn.
      Pan oeddit ti yn trotian,
      Yr oeddwn innau 'n dotian,
      Wrth wrando 'r eos gu
      Ac edrych ar y ty.
Pan dderfydd y gostegion,
Bydd Merch y Dolydd Gleision,
Mewn cannaid ddillad gwynion,
      Ar gefn fy merlen ddu.



LLANCES Y DYFFRYN.
ALAW,--Llances y Dyffryn.



Llances y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn,
Llanwodd lawenydd fy nghalon yn llawn;
Glanach yw 'r defaid ar ochr y bryn,
Gwynnach yw 'r alarch ar ddwfr y llyn:
Clysach yw 'r blodau, a glasach yw 'r coed;
Harddach, prydferthach y byd nag erioed.
Gwnaed fi yn ddedwydd foreuddydd a nawn,
Llances y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.

Llances y Dyffryn oleuodd y fro,
Gloewach yw 'r afon a glanach yw 'r gro;
Purach fy meddwl a hoewach fy nhroed,
Hoenach yr awen na bu erioed.
Hoffach yw 'r Dyffryn a llonnach pob lle,
Mwynach yw 'r awel o'r dwyrain a'r de;
Trom fu fy nghalon, ond 'rwan distawn,
Llances y dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.



YN YNYS MON FE SAFAI GWR.
ALAW--"Ymdaith y Mwnc."



Yn Ynys Mon fe safai gwr
Ym min y nos ar fin y traeth;
Fe welai long draw ar y dwr,
      A'i hannerch ar yr eigion wnaeth:-
   Dos a gwel fy machgen gwiw,
   Dos a sibrwd yn ei glyw
         Yn iaith ddinam
         Ei anwyl fam,
   A dywed fod ei dad yn fyw.
Ymwel gyda 'm plentyn, a dwed fod ei dad,
   Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.
O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o'th wlad,
   A thyner bo'r awel lle bynnag 'r ei di.
         Dos tros y don,
            Cei henffych well,
         Dwed yno'n llon
            Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli'r un Duw,
Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.

      Fod ywen ddu yn hardd uwchben
         Y garreg las lle cwsg ei fam,
      Ac fod ei dad a'i farf yn wen,
         Yn grwm ei war, a byr ei gam;
   Fod y pistyll eto 'n gry,
   Fod yr afon fel y bu,
            Ar wely glan
            O raian man,
   Yn sisial ton wrth ddrws y ty.
Ymwel gyda 'm plentyn, a dwed fod ei dad,
   Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.
O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o'th wlad,
   A thyner bo'r awel lle bynnag 'r ei di.
            Dos tros y don,
               Cei henffych well,
            Dwed yno 'n llon
               Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli 'r un Duw,
Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.

         Fod ganddo chwaer ar ddelw 'i fam,
            Sydd yn parhau i'w garu ef,
         Sy 'n llawenhau wrth feddwl am
            Gael eto gwrdd yn nef y nef.
   Fod ei wlad heb weld ei hail
   Am glysni teg a glesni dail;
               A dal wrth ben
               Ei Gymru wen
   Mae awel nef a melyn haul.
Ymwel gyda 'm plentyn, a dwed fod ei dad,
   Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.
O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o'th wlad
   A thyner bo 'r awel lle bynnag 'r ei di.
               Dos tros y don,
                  Cei henffych well,
               Dwed yno 'n llon
                  Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli 'r un Duw,
Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.



CADLEF MORGANNWG.



O "Syr Rhys ap Tomos."

Clywch, clywch, hen gadlef Morgannwg,
Wele Rys a'i feirch yn y golwg,
      I'w atal ymlaen
      'Dyw mynydd ond maen
            Adewir mewn llwch ar ei ol.
Corn y gad ydyw miwsig yr awel,
Heddyw gwledd gydag Arthur yw rhyfel,
Yn galw ar fynydd a dol.
Wel sefwch yn hyf gyda 'ch dreigiau,
Ac edrychwch i lawr megis creigiau,
   Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gad
         I godi'r hen wlad yn ei hol.

Mae breichiau myrdd yn caledu,
A ffroenau y meirch yn lledu;
      A berwi mae gwaed,
      Gwyr meirch a gwyr traed,
            I godi'r hen wlad yn ei hol.
Fry, fry, cyhwfan mae 'r faner,
Trywanu mae 'r cledd at ei hanner;
Yn uwch eto 'n uwch gyda 'r dreigiau,
Ac edrychwch i lawr megis creigiau,
   Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gad,
            I godi 'r hen wlad yn ei hol!



MWYN YW MYNED TUA MON.
ALAW,--Hufen Melyn.



A ddowch chwi' rwyf--o ar yr
af--on, A ddowch chwi' gan-u yn-o'n gor?

I weld hy--naws--ed yd--yw
nos-on, A mwyn-ed murmur tonau'r mor?

A gawn ni fyn-ed ar y Fenai hen- o, I
Yn--ys Mon-a rhwyf--wn gyda'r don:  O
dowch i gan-u, dowch i nof--io, Dowch i rwyf-o
gyda'r don:  Mae croes--o an-wyl in--i
yn--o, O mwyn yw myn-ed tu--a Mon.

Mae 'r bad yn nofio ar yr afon,
   A nos o fwyniant ydyw hon;
Mae 'r ser a'r lleuad yn dryloewon,
   A'r cor yn canu ar y don.
Wel ar y Fenai, ar y Fenai heno,
   Y llawen ganwn, rhwyfwn gyda 'r don, -
A dyma 'r canu, dyma 'r nofio,
   Dyma 'r rhwyfo gyda 'r don;
Mae aelwyd lawen inni yno,
   O mwyn yw myned tua Mon.



HUN GWENLLIAN.
ALAW,--Hun Gwenllian.



Hun Gwenllian, ferch y brenin,
   Gwyn dy fyd ti tan y gwys;
Cwsg Wenllian, dyner blentyn,
   Yn y ddaear ddistaw ddwys.
Cledd y Norman wnaeth gyflafan,
   Nid oes gennyt fam yn awr;
Hun Gwenllian, hun Gwenllian,
   Cwsg ymhell o'r cystudd mawr.

Hun Gwenllian, i'th fendithio
   Duw 'th gymerodd yn ei gol;
Mae th frawd hynaf wedi cwympo,
   Ni ddaw 'r iengaf byth yn ol.
Yn dy gartref trig y Norman,
   Seren Cymru aeth i lawr;
Hun Gwenllian, hun Gwenllian,
   Cwsg ymhell o'r cystudd mawr.



AR DDOL PENDEFIG.
ALAW,--Y Gwenith Gwyn.



Ar ddol pendefig, heidden wen
   Ymgrymai' phen yn hawddgar;
'R oedd cnwd o honynt ar y cae,
   Fel tonnau hyd y ddaear;
A cher y fan, ar fin rhyw lyn,
   'R oedd gwenith gwyn yn gwenu;
Un gwlith, un gwlaw, oedd ar y ddau,
   Y cnydau prydferth hynny.

Fe roddodd Duw mewn gwlaw a gwlith,
   Ei fendith ar y maesydd;
A dyn a godai gyda 'r wawr
   I dorri lawr y cynnydd.
Ond rhwng y ddeufaes trowynt ddaeth,
   A rhuo wnaeth i'r nefoedd, -
"Fod un yn mynd er bendith dyn,
   A'r llall i ddamnio miloedd."



A LAESWN NI DDWYLAW?
ALAW,--Llwyn Onn.



A Laeswn ni ddwylaw yng nganol y rhyfel,
         Tra 'r gelyn yn erlid, a fynnwn ni hedd?
      Tra llidiart y fynwent a'i sgrech ar ei hechel
Wrth dderbyn y meddwon i stafell y bedd?
      Mae'r blodau sy'n tyfu ar feddrod y meddwyn
Yn gollwng eu dagrau tan gysgod yr yw;
   A'r gwynt wrth fynd heibio, fel taran; yn gofyn
"Pa un ai moesoldeb ai meddwdod gaiff fyw?"



LLWYBR Y PERERIN.



Mi dybiais fod ffordd y pererin i'r nef
   Yn un lefn ac hardd-esmwyth trwy ddyffryn glas gain;
Dangosaist Di 'r ffordd--ac un gul dywell oedd,
   Garegog a blin trwy fieri a drain.
Mae temlau a phlasau heb ofid na phoen,
   Ond y maent tros gagendor o dir y rhai byw;
Mae afonydd o hedd, ond pa le maent i'w cael, -
   Yn y nef yno maent, fry yn nefoedd fy Nuw.



BEDD LLYWELYN.
ALAW,--Goslef Llywelyn.



I Feddrod Llywelyn mae 'r tir wedi suddo,
   Ac arno 'r gwlawogydd arosant yn llyn;
Mae 'r lloer wrth ymgodi, a'r haul wrth fachludo,
   Yn edrych gan wrido ar ysgwydd y bryn.
   Fy Nghymru, fy Ngwlad, a wyddost ti hyn!
      Pa le mae Gwladgarwch yn dangos ei gwedd?
Mae dagrau y cwmwl yn gwybod am dano,
      A deryn y mynydd yn nabod y bedd.

Ar ddamwain mae 'r Cymro yn dyfod i weled,
   Lle cwympodd yr olaf fu ddewr ar ei ran;
Yr awel a gwyna a'r ddaear a ddywed,
   Fod calon hen Walia yn curo 'n lled wan;
   Dieithriaid a ddont i weled y fan
      Y gorffwys Llywelyn wrth ochor ei gledd;
Wel diolch am ddeigryn o'r nefoedd i waered,
      Ac am y glaswelltyn yn ymyl y bedd.



A DDWEDAIST TI FOD CYMRU 'N DLAWD.



A Ddwedaist ti fod Cymru 'n dlawd,
   Am fod ei llannau 'n llonydd,
A thithau 'th hun yn cloddio, frawd,
   Ym mryniau aur Meirionnydd?
Mae mwy o gyfoeth tan dy droed,
Na ddaeth i galon dyn erioed,
Anwiredd mwy erioed ni wnawd -
Na ddywed byth fod Cymru 'n dlawd.

I ble y trown o fewn y tir,
   Nas gwelir mwn ei meini
Nad yw 'r meteloedd o'u gwelyau
   Yn edrych am oleuni,
Nad yw y pres a'r arian faen,
Yn galw ar bob Cymro 'n mlaen,
I roi ei ffydd a threio 'i ffawd
Yn holl oludoedd "Cymru dlawd?"

Estyna 'th fys pan glywot hyn,
   Yn cael ei ddweyd am Gymru,
At unrhyw graig, at unrhyw fryn,
   Fo 'n edrych ar i fyny.
Mae 'r nentydd oll wrth fynd i'r aig
A cherrig ateb ym mhob craig,
Yn dwedyd "Nac yw" gyda gwawd -
Na ddywed byth fod Cymru 'n dlawd.



PEIDIWCH BYTH A DWEDYD HYNNY.



[Ysgrifennwyd y geiriau i Miss Edith Wynne, yr hon a'u canodd yn
Eisteddfod Genhedlaethol Caernarfon, 1862.]

D'wedwch fod fy ffroen yn uchel,
   Fod fy malchder yn drahaus,
Fod gwamalrwydd ar fy wyneb
   A mursendod yn fy llais.
Ond mae terfyn i anwiredd,
   I greulondeb a sarhad.
Peidiwch byth a dwedyd hynny,
Imi golli m serch at Gymru,
   Imi golli iaith fy ngwlad.

II.

O mor barod ydyw dynion
   I drywanu at y byw;
O mor gyndyn ydynt wedyn
   I roi eli ar y briw.
Dodwch garreg ar fy meddrod,
   Fel y mynnoch bo 'r coffad;
Dyna 'r pryd i dd'wedyd hynny,
Imi golli 'm serch at Gymru,
   Imi golli iaith fy ngwlad.



DYDD TRWY 'R FFENESTR.
ALAW,--Dydd Trwy 'r Ffenestr.



Mae rhyddid i wylan y mor gael ymgodi,
   Ac hedeg i'r mynydd uchelaf ei big;
Mae rhyddid i dderyn ar greigiau 'r Eryri
   Ehedeg i waered i weled y wig;
O rhowch imi delyn, gadewch imi dalu
   Croesawiad i Ryddid ar doriad y dydd;
   Yfory gyda 'r wawr, byddwn ninnau 'n rhydd,
      Byddwn yn rhydd!

Yfory pan welir yr haul yn cyfodi,
   Caf deimlo llawenydd na theimlais erioed;
Ac fel yr aderyn yng ngwlad yr Eryri
   Yn ysgafn fy nghalon, ac ysgafn fy nhroed;
Pan welom oleuni yn gwynnu 'r ffenestri,
   Rhown garol i Ryddid ar doriad y dydd;
   Yfory gyda 'r wawr, byddwn ninnau 'n rhydd,
      Byddwn yn rhydd!



CERDDI CYMRU SYDD YN BYW.



Cerddi Cymru sydd yn byw,
Trwy 'r blynyddau yn ein clyw;
Sibrwd ein halawon gynt,
Mae cwynfanau trwm y gwynt;
Dwyn yn ol lais mam a thad
Mae hen donau pur ein gwlad.

Pan sisialo dail y llwyn,
Clywir chwi yn lleddf a mwyn;
Dweyd mae 'r mor wrth ruo 'i gan
Ddarnau cerddi Cymru lan;
Ac mae clust y Cymro 'n gwneyd
I'r gre'digaeth oll eu dweyd.



I GADW 'R HEN WLAD MEWN ANRHYDEDD.



I gadw 'r hen wlad mewn anrhydedd,
   A'r cenin yn fyw a difeth;
Mae rhai yn prydyddu 'n ddiddiwedd,
   Ond dyma fy marn am y peth, -
Mwy gwerthfawr nag awen y beirddion,
   Neu'r dalent ddisgleiriaf a roed,
Yw tafod y bachgen bach gwirion,
   Na ddwedodd anwiredd erioed.

Cydgan:  Rhown bopeth sydd hardd ac anfarwol,
   Mewn miwsig, barddoniaeth, a cherdd,
I'r geirwir, a'r gonest, a'r gwrol,
   Sy'n cadw'r geninen yn werdd.

Mi adwaen gribddeiliwr ariannog,
   Sy'n deall bob tric i wneud pres;
Ond anhawdd anichon cael ceiniog
   O'i boced at ddim a fo les.
Pan allan, os a yn ei gerbyd,
   Pan gartref os tyn yn ei gloch;
Mae 'n well i ni'r gonest a'r diwyd
   Pe na bai yn werth dimeu goch.

Ym mhell y bo 'r bobol sy'n grwgnach,
   Yn erbyn caledrwydd y byd,
Y rhenti a'r prisiau a'r fasnach,
   Tra plethant eu dwylaw ynghyd.
Nid felly y byddai 'r hen Gymry,
   Ac os yw dy waed ti yn bur,
'R wyt yn edrych yn wrol i fyny
   Ac yn fachgen sy'n gweithio fel dur.



MYFI  SY'N MAGU 'R BABAN.



[Can mamaeth Gymreig wrth fagu Tywysog Seisnig cyntaf Cymru o
"Cantata Tywysog Cymru."]

Myfi sy 'n magu 'r baban,
   Myfi sy 'n siglo 'r cryd,
Myfi sy 'n hwian, hwian,
   Ac yn hwian hwi o hyd.
Bu 'n crio bore heddyw,
   O hanner y nos tan dri;
Ond fi sy 'n colli 'm cysgu,
   Mae 'r gofal i gyd arnaf fi.

Myfi sy 'n magu 'r plentyn,
   Bob bore, prydnawn a hwyr;
Y drafferth sydd ei ganlyn,
   Fy hunan yn unig wyr.
Nis gwyr ef air o Saesneg,
   Nac un gair o'n hen hiaith ni, -
I ddysgu 'r twysog bychan,
   Mae 'r gofal i gyd arnaf fi.

Ond os caf fi ei fagu,
   I fyned yn llencyn iach;
Caiff iaith brenhinoedd Cymru
   Fod rhwng ei ddwy wefus fach.
A phan ddaw ef yn frenin,
   Os na wnaiff fy nghofio fi,
O! cofied wlad y cenin,
   Y wlad sydd mor anwyl i ini.



TUA THEGID DEWCH.



Chwi feirdd y trefydd mawr
   Sy 'n byw ar fwg a llwch;
Dowch gyda fi yn awr,
   Dowch neidiwch i fy nghwch.
Fyny 'r hen Ddyfrdwy nofiwn,
   A ffarwel i'r mwg sydd ar ein hol,
Rhwyfwn ymlaen, a chanwn
   Dan y coed a'r pynt, o ddol i ddol.
         Ger tref y Bala
         Mae lle pysgota,
            Ar loew loew lyn;
      Awn ymlaen tua 'r dyfroedd hyn,
         Moriwn yng nghanol Meirion;
            Tynnwn rwyf gyda rhwyd yn hoew,
         Ar groew loew lyn.

Draw, draw yng nghanol gwlad,
   Deg, deg fel Eden ardd;
Ceir yno adfywhad
   I'r cerddor ac i'r bardd.
Bywyd sydd yn yr awel
   Fel y del o'r coed, o'r allt, a'r rhiw,
Bywyd y Cymry 'stalwm,
   Ysbryd can a mawl sydd yno 'n byw.
         Ger tref y Bala, &c.

Chwi wyr y trefydd mawr,
   Gwyn, gwyn eich gruddiau chwi,
O dowch am hanner awr
   Mewn cwch ar hyd y lli;
Rhwyfwn i fyny 'r afon,
   Gyda gwrid ac iechyd dychwel gewch;
Mae mor rhwng bryniau Meirion,
   Tua Thegid dewch, i Degid dewch!
         Ger tref y Bala, &c.



HEN GWRWG FY NGWLAD.



Hen gwrwg fy ngwlad ar fy ysgwydd gymerwn,
   Pan oeddwn yn hogyn rhwng Hafren ac Wy.
Ac yno y gleisiad ysgwyddog dryferwn
   Ar hyfryd hafddyddiaut nas gwelaf byth mwy.
Pe rhwyfwn ganw ar y Ganges chwyddedig,
   Neu donnau 'r Caveri, rhoi hynny foddhad;
Ond glannau bro Gwalia ynt fwy cysegredig,
   A gwell gan fy nghalon hen gwrwg fy ngwlad.

Hen gwrwg fy ngwlad, 'rwyf fi gyda thi 'n nofio
   Afonydd paradwys fy mebyd yn awr;
Hen glychau a thonau o newydd wy 'n gofio,
   A glywn ar y dyfroedd pan rwyfwn i lawr.
Mi dreuliais flynyddau a'r llif yn fy erbyn,
   I'm hatal rhag dyfod i gartref fy nhad;
Ond pan ddof yn ol fe fydd cant yn fy nerbyn,
   I roi i'm rwyf eto yng nghwrwg fy ngwlad.

Hen gwrwg fy ngwlad, mi a'th rwyfais di ganwaith,
   Hyd lynnoedd tryloewon tan goedydd a phynt;
Cymeraist fi hefyd i fynwes wen lanwaith,
   Yr hon a ddisglaeriodd trwy f' enaid i gynt.
Trwy Venice fawreddog mi fum mewn gondola,
   Esgynnais y Tafwys a'r Rhein yn fy mad;
Ond pasio hen gastell Llywelyn llyw ola,
   Sydd well gan fy nghalon yng nghwrwg fy ngwlad.



POB RHYW SEREN.



[Suo-gan y Monwyson o "Cantata Tywysog Cymru."]

Pob rhyw seren fechan wenai,
   Yn y nefoedd glir uwch ben;
Rhwyfai cwch i fyny 'r Fenai,
   Yng ngoleuni 'r lleuad wen.
         Clywid canu--sucganu,
            Yn neshau o Ynys Mon, -
         Canu, canu, suoganu,
            Melus orfoleddus don.

Mewn awelon ac alawon,
   At y Castell rhwyfai'r cor;
Ar y tyrau suai 'r chwaon,
   Wrth eu godrau suai 'r mor.
         Canent, canent, suoganent,
            Ar y Fenai loew, dlos;
         Dan ystafell y Frenhines,
            Suoganent yn y nos.

"Fel mae 'r lloer yn hoffi sylwi
   Ar ei delw yn y lli;
Drych i Rinwedd weld ei glendid
   Fyddo oes dy faban di."
         Suoganu i'r Frenines,
            Dan y ganlloer loew, dlos,
         Felly canodd y Monwyson,
            Ar yr afon yn y nos.



CLADDEDIGAETH MORGAN HEN.



Hen frenin hoff anwyl oedd Morgan Hen,
   Fe 'i carwyd yng nghalon y bobloedd;
Esgynnodd i'w orsedd yn ddengmlwydd oed,
   A chadwodd hi gant o flynyddoedd.
Ar ddydd ei gynhebrwng dilynwyd ei arch
   Gan ddengmil o'i ddeiliaid tylodion;
A theirmil o filwyr fu 'n ymladd o'i du,
   Ac wythcant o'i ddisgynyddion,
      Rhai wrth eu ffyn, a'u gwallt yn wyn,
         Eraill ar fronnau yn dechreu byw;
      Wyrion, gorwyrion, a phlant gorwyrion
         Gladdasant y brenin yn Ystrad Yw.

Ni welwyd un blewyn yn wyn ar ei ben,
   Na rhych ar ei dalcen mawr llydan;
'R oedd deuddeg o'i feibion yn edrych yn hyn
   Na'r brenin oedrannus ei hunan.
Yn nhorf ei gynhebrwng 'roedd bachgen bach mwyn,
   Yn drist a phenisel yn twyso
Y march heb ei farchog--y cyfrwy, a'r ffrwyn,
   A'r cleddyf yn unig oedd yno.
      Rhai wrth eu ffyn, a'u gwallt yn wyn, &c.

Fe welodd ryfeloedd, bradwriaeth, a thrais,
   A gwelodd Forgannwg yn gwaedu;
Ond cadwodd ei goron, a'i orsedd yn ddewr,
   A'i diroedd tan faner y Cymry.
Enillodd a chollodd mewn brwydrau dirif,
   Am hynny ni chollodd un deigryn;
Ond ar gladdedigaeth ei filwyr, a'i blant,
   Fe wylai, fe griai fel plentyn.
      Rhai wrth eu ffyn, a'u gwallt yn wyn, &c.



MYFANWY.
[O "Myfanwy Fychan".]



   "Myfanwy! 'rwy 'n gweled dy rudd
      Mewn meillion, mewn briall, a rhos;
   Yng ngoleu dihalog y dydd,
      A llygaid serenog y nos;
   Pan gyfyd claer Wener ei phen
      Yn loew rhwng awyr a lli,
   Fe 'i cerir gan ddaear a nen.
I f' enaid, Myfanwy, goleuach, O tecach wyt ti,
      Mil lanach, mil mwynach i mi.

   "Fe ddwedir fod beirddion y byd
      Yn symud, yn byw ac yn bod,
   Rhwng daear y doeth a Gwlad Hud,
      Ar obaith anrhydedd a chlod;
   Pe bai anfarwoldeb yn awr
      Yn cynnyg ei llawryf i mi,
   Mi daflwn y lawryf i lawr -
Ddymunwn i moni, fe 'i mathrwn os na chawn i di, -
      Myfanwy, os na chawn i di.

   "O! na bawn yn awel o wynt
      Yn crwydro trwy ardd Dinas Bran,
   I suo i'th glust ar fy hynt,
      A throelli dy wallt ar wahan;
   Mae 'r awel yn droiog a blin -
      Un gynnes ac oer ydyw hi;
   Ond hi sy 'n cusanu dy fin.
O feinwen fy enaid, nid troiog fy serch atat ti,
      Tragwyddol yw 'm serch atat ti.

   "Mewn derwen agenwyd gan follt
      Draig-fellten wen-lachar ac erch;
   Gosodaf fy mraich yn yr hollt
      A chuddiaf beithynen o serch.
   Ni'm gwelir gan nebun, ond gan
      Y wenlloer--gwyn fyd na baet hi,
   Er mwyn iti ganfod y fan.
Ond coelio mae 'm calon, fod ysbryd eill sibrwd a thi -
      Eill ddwedyd y cwbl i ti.

Petrusai Myfanwy pwy oedd a roisai'r beithynen yn gudd?
A dwedai,--"rhyw ffolyn o fardd," ond teimlodd ei gwaed yn ei grudd;
Disgynnodd ei llygaid drachefn ar "na bawn yn awel o wynt
Yn crwydro trwy ardd Dinas Bran,"--o churodd ei chalon yn gynt.
"Mi droellet fy ngwallt--O mi wnaet! wyt hynod garedig," medd hi,
"A phe bawn yn suo i'th glust, mi ddwedwn mai gwallgof wyt ti;
Mi hoffet gael cusan, mi wnaet! ond cymer di 'n araf fy ffrynd," -
Hi geisiai ymgellwair fel hyn,--ond O! 'r oedd ei chalon yn mynd!
'R oedd wedi breuddwydio dair gwaith, heb feddwl doi'r breuddwyd i
ben,
Fod un o g'lomenod ei thad, yn nythu yn agen y pren -
Heb gymar yn agen y pren.



GOFIDIAU SERCH.



Wyt ti 'n cofio 'r lloer yn codi
   Dros hen dderw mawr y llwyn,
Pan ddywedaist yr aberthet
   Nef a daear er fy mwyn?
Wyt ti 'n cofio 'r dagrau gollaist
   Wrth y ffynnon fechan draw?
Wyt ti 'n cofio 'r hen wresogrwydd, -
   Wyt ti 'n cofio gwasgu 'm llaw?

"Hyd fy marw" oedd dy eiriau,
   Y parhaet yn ffyddlon im';
O fy ngeneth, O fy nghariad!
   Nid yw poenau marw 'n ddim.
Er wrth dorri 'th addunedau,
   I ti dorri 'm calon i, -
Magi anwyl, mae dy gariad
   Eto 'n gariad pur i ti.

Mae 'th lythyrau yn gwneyd i mi
   Lwyr anghofio mi fy hun;
Mae dy gudyn gwallt yn hongian,
   Fel helygen tros dy lun.
Llun dy wyneb, Magi anwyl,
   O mae 'n twynnu fel yr haul,
Nes 'r wy 'n teimlo gwae a gwynfyd
   Nef ac uffern bob yn ail.

O f' anwylyd! er mai CYFAILL
   Yw yn awr fy enw 'i,
Maddeu i mi am ddefnyddio
   Yr HEN ENW arnat ti;
CARIAD wyt ti, Magi anwyl,
   Bur ddihalog fel erioed;
Troi 'st dy wyneb, cefnaist arnaf,
   Minnau garaf ol dy droed.



WRTH WELD YR HAUL YN MACHLUD.



Wrth weld yr haul yn machlud,
   Mewn eurog donog dan;
A mil o liwiau 'n dawnsio 'n deg,
   Ar fyrdd o donnau man.
'Rwy 'n teimlo dwyfol wyddfod -
   Shecina Natur yw;
Yn datgan ei ogoniant Ef
   Yr Hollalluog Dduw.

Wrth weld yr haul yn codi,
   Yn loew lan ei bryd;
Rwy 'n gweld y glaer Shecina fawr,
   Yn amgylchynnu 'r byd.
Os gormod gwedd yr heulwen
   I lygad marwol ddyn;
Fath ydyw ei ogoniant Ef
   Y Crewr Mawr ei Hun!

Ar godiad haul yng Nghymru,
   Ces lawer boreu gwiw;
Pan blygai 'm tad wrth ben y bwrdd,
   I ddiolch am gael byw.
Caem eistedd yn y cysgod,
   Tra 'r haul yn croesi 'r nef;
Mi gofiaf byth y weddi hwyr,
   Ar ei fachludiad ef.



Y FODRWY BRIODASOL.



Cymer hi Annie, o cymer hi heno,
   Mae'th fys gyda 'th galon yn crynnu gan fraw;
Dy fodrwy di ydyw, ni waeth it heb grio
   Os nad wyt yn meddwl am wrthod fy llaw.
Cyn mynd at yr allor y foru gad imi,
   A'th fys ei chysegru wrth fynd hyd y ddol -
Wel dyna hi 'n gymhwys, da gwyddwn O Annie,
   Na wnaet ti byth dynnu 'th addewid yn ol.

Cymer hi Annie, 'does arni ddim cerfiad,
   Na gemau cywreinion i'w gweled yn awr;
Ond ceisiwn roi arni berl Rhinwedd, fy nghariad,
   Mae engyl ar hwnnw yn edrych i lawr.
Mae gennym ni gariad a leinw 'n holl fywyd,
   Yn hwnnw 'r ymffurfia y maen o fawr werth;
Yn hwnnw mae cyfoeth, bywoliaeth ac hawddfyd,
   Yn hwnnw, fy nghariad, mae mawredd a nerth.

Cymer hi Annie, a'r nefoedd ro inni
   O fewn ein haur- fodrwy fan fechan i fyw,
Yn bur ac yn ddedwydd--yn unig boed ynddi,
   Heblaw ti a minnau, blant bychain a Duw.
Mae 'r bydoedd yn grynion a'r haul a'u goreura,
   Gan wneuthur pob planed a lleufer yn llon;
Ond nid oes breswylfod rhwng daear a gwynfa,
   Ddedwyddach, berffeithiach, a chrynach na hon.

Cymer hi, Annie, yn arwydd cyfamod, -
   Dwy enfys fach ydyw a'u deuben ynglyn;
Y gyntaf yn amod mai fi fydd dy briod,
   A'r ail un yn amod mai ti fydd fy mun.
Mae'n gyfan, mae'n brydferth, heb gymorth y gemau,
   Arwyddnod perffeithiach y ddaear ni fedd;
Does dim eill ei thorri ond pladur lem angau,
   Na dim eill ei rhydu ond lleithder y bedd.

Cymer hi, cymer hi, ofer yw rhwystro,
   Dyferwlaw 'r amrantau rhag tywallt i lawr;
Mae 'n storm gyda minnau, gad imi tra dalio,
   Roi 'm pen ar dy ysgwydd--rwy'n well Annie 'n awr.
Mae'th ddeigryn fy nghariad, a'm deigryn bach innau,
   Yn uno fel gwlithos neu fan arian-byw -
Ond moes imi 'r fodrwy, ti cei hi 'n y boreu
   Yng ngwyddfod yr allor, y Beibl, a Duw.



O WEDDI DAER.
[O "Jona."]



O WEDDI DAER! gwyn fyd y fron
   A fedro dy anadlu,
Yng nghalon edifeirwch gwir
   Y cuddiodd Duw dy allu;
Yr isel lwch yw'th gartref di,
   Ac mewn sachlian gwisgi,
Gwyn fyd y llais crynedig gwan
   Dywallto 'i hun 'i weddi.

O WEDDI DAER! tramwyfa wyt
   I lu o engyl deithio
I lawr i'r dyfnder at y gwan,
   I roi eu hedyn trosto, -
I wlychu gwefus oer y llesg,
   A gwin a'i calonoga;
O ddyn! os tynni wg y nef,
   Dos ar dy lin--GWEDDIA.



Y BABAN DIWRNOD GED.



'R oedd swn magnelau yn y graig,
   A swn tabyrddau 'n curo,
   A chlywid trwst ofnadwy traed
      Y Ffrancod wedi glanio,
   A'r waedd i'r frwydr chwyddai 'n uwch,
      Gan alw 'r dewr i daro;
         Terfysgwyd y glannau
         Gan rym y taranau
            A ruent ar lan y mor.

I dai 'r tylodion rhuthrai gwyr,
   Gan ladd y diamddiffyn,
   A flamiai palas hardd gerllaw
      Gan dan o longau 'r gelyn;
   Fe ffoai mamau gyda'u plant,
      A chodai 'r claf mewn dychryn;
         Ond 'r oedd yno ddynes,
         A babi 'n ei mynwes,
            Rhy waelaidd a gwan i ffoi.

Ei gwr erfyniai wrth ei phen, -
   "O cwyd!  O cwyd! fy Eurfron!
Mae 'r march a'r cerbyd wrth y drws,
   Tyrd iddo ar dy union!
Olwynwn ymaith fel y gwynt, -
   Anwylyd, clyw 'r ergydion!
      O Dduw, a ddaeth diwedd
      Fy mab, fy etifedd?
         Fy mhlentyn a anwyd ddoe!"

Atebai 'r wraig yn llesg ei llais, -
   "Fy mhriod, clyw fy ngweddi,
O gad fi ar y gwely hwn,
   Ond gad y baban imi;
Dos at y rheng i gadw 'th wlad,
   Fe gadwaf finnau 'r babi."
      Y plentyn a hunai,
      A'r tad a'i cusanai,
         Ac yna fe ffodd i'r rheng.

'Roedd swn cleddyfau yn neshau,
   Gwawchiadau ac ysgrechian;
A'r wraig weddiai 'n daer ar Dduw,
   Gan edrych ar ei baban;
Ac yna holltwyd drws y ty
   Gan filwyr oddi allan.
      A hithau mewn dychryn
      A wasgodd ei phlentyn
         Yn nes at ei chalon wan.

Ar glicied drws ei 'stafell wag,
   Hi welai fysedd llofrudd,
Ac ar y foment rhuthrodd haid,
   Yn swn rhegfeydd eu gilydd;
A syllent fel gwylltfilod erch,
   O amgylch ei gobennydd;
      Ar wraig wan yn crynnu,
      A ddaliodd i fyny
         Ei babi bach diwrnod oed.

Atebwyd gweddi 'r ffyddiog fam,
   A hi a'i mab achubwyd;
Mae hi yn awr ym mynwent werdd
   Yr eglwys lle 'i priodwyd;
Ac erbyn heddyw mae y mab
   Yn hen weinidog penllwyd,
      Yn estyn ei freichiau
      I ddangos y Meichiau, -
         Y baban y anwyd i ni.



Y FAM IEUANC.



Yr hon a fu farw ymhen ychydig wythnosau ar ol genedigaeth ei
bachgen bychan cyntafanedig.


"Cewch eto deimlo 'r heulwen
   Yn gynnes ar eich grudd;
Cewch eto deimlo 'r awel
   Am lawer hafaidd ddydd;
Peidiwch a son am farw,
   Peidiwch a meddwl am
I'ch plentyn fyw heb glywed
   Na' nabod llais ei fam.

"Peidiwch a son am farw,
   Daw eto haul ar fryn;
Ac iechyd ddaw i'ch codi
   O'r hen gystuddiau hyn.
Yn wan ei llais atebodd,
   Peidiwch a son am fyw!
'Rwy 'n rhoi fy machgen anwyl
   I'ch gofal chwi a Duw."

Gadawyd yr ystafell
   Am ddim ond ennyd fach,
A chlywid llais yn sibrwd, -
   "Fy anwyl fachgen bach!
Fy machgen, O! fy machgen!
   O na b'ai 'th fam yn iach;
Fy nghyntaf, olaf blentyn,
   Fy anwyl fachgen bach!

"Fy nghyfaill bychan NEWYDD
   'R wyf fi yn mynd i'r nef;
'R wy 'n myned at yr Iesu,
   HEN gyfaill ydyw Ef!"
Bu farw, ac hi wywodd
   Fel blodyn ar y dail,
Gan ddyweyd,--"Fy machgen anwyl!"
   Ac "Iesu!" bob yn ail.



CEISIAIS DRYSOR



Ceisiais drysor yn y byd
      Mi geisiais ac mi gefais un,
      Oedd fwy o werth na 'r byd ei hun,
Fy anwyl Ann, fy nhrysor drud

Yn yr arch mae 'r oll yn awr,
      Oddigerth y blodeuyn llon
      Adawodd angau ar ei bron
I wenu ar y storom fawr.

Pan suddai 'm llong, tan rym y lli,
      O'i hystlys daeth rhyw nerth i'm dwyn
      Yn ol i'r lan.  Fy mhlentyn mwyn
Bywydfad bychan oeddyt TI.

Mi hoffwn innau fynd i lawr.
      Ond er dy fwyn fy mhlentyn llon,
      Mi geisiaf fyw o don i don
Ar wyneb mor fy ngofid mawr



Y FYNWENT YN Y COED.



Yn araf y cerddasom,
   I'r fynwent yn y coed;
Ac yno y claddasom
   Chwaer fechan bedair oed;
Gan bedair o'i chyfeillion iach,
   Mewn dillad gwynion claer,
Yng ngwydd ei thad a'i brodyr bach,
   I huno rhoed ein chwaer.

Ar waelod bedd y fechan,
   Cyn gollwng corff ein chwaer;
Canfyddem arch wen newydd
   Fel daeth o ddwylaw 'r saer.
Ein hanwyl fam oedd yno 'n fud,
   Heb fawr o feddwl am
I'r plentyn OLAF yn y cryd
   Ddod GYNTAF at ei fam.

Pan gaffom ninnau 'n gollwng,
   Mae gennym weddi daer, -
O boed ein llwch yn deilwng
   O lwch ein mam a'n chwaer.
Fe awn yn fynych dros y cae
   I'r fynwent yn y coed;
Y fan mae mam, a'r fan y mae
   Chwaer fechan bedair oed.



CLADDASOM DI, ELEN.



Claddasom di, Elen, ac wrth roi dy ben
   I orwedd lle fory down ni,
Dihangodd ochenaid i fyny i'r nen,
   A deigryn i lawr atat ti.

Claddasom di, Elen, a chanwyd dy fedd,
   Pe hefyd bai bosibl ei gau;
Mae llygad yn edrych o hyd ar dy wedd,
   Ac ni fedr angau nacau.

Cyflawnwyd dy freuddwyd, ond ni ddarfu 'r gro,
   Ar gauad yr arch dy ddeffroi;
Ond udgorn a gan, ac o'r dywell fro,
   Yn wen a dihalog y doi.

Ai "tywell" ddywedasom?  Nid tywyll i ti
   Fu pyrth tragwyddoldeb a hedd,
Dy lamp oedd wenoleu;--nid ti, ond nyni,
   Sy 'n dwedyd mai du ydyw 'r bedd.

I ninnau mae breuddwyd i ddyfod i ben, -
   Canfyddem di mhell oddi draw
Ar furiau Caersalem, a'th wisg yn glaer-wen,
   Yn gwenu gan estyn dy law, -

I'n derbyn yn ninas dragwyddol dy Dduw;
   A thybiem ein bod wedi dod,
I gyffwrdd a'th law, ond deffroisom yn fyw,
   Ymhell oddiwrth gyrraedd y nod.

Claddasom di, Elen, ond rhyngot a ni,
   Nis erys gagendor yn hir;
O fewn y bedd yna lle rhoisom dydi,
   Claddasom ein hunain yn wir.

Na, na, nis ffarweliwn, mae 'r Iesu yn fyw,
   I'n dwyn ato 'i hun a thydi;
Mae 'r ffordd yn agored o'r ddaear at Dduw,
   A'r nef mewn addewid i ni.



ANNIE LISLE.
(Lledgyfieithiad.)



Ar fin yr afon araf yn y goedwig gain,
Fan mae 'r dwr yn gwneud arluniau gwiail melyn main,
Fan mae 'r adar haf yn canu yn eu temlau dail,
Yma 'r ydoedd am ryw adeg annedd Annie Lisle.

Cydgan:  Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
   Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
   Anwyl Annie Lisle.

Mwyn, mwyn yw 'r awel beraidd, gana fel y del,
Trwy ryw fyrdd o erddi gwyrddion, lifant laeth a mel,
Ond ar wely wedi marw gorwedd Annie Lisle,
Hi ni egyr ei du lygad, Angau 'n dyn a'i deil.

Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
   Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
   Anwyl Annie Lisle.

"Cwyd fi, fy mam anwylaf, gad i'm weld y plant,
Yn y brwyn a'r melyn helyg draw ar fin y nant;
Hust! mi glywaf fiwsig nefol, miwsig Iesu 'r nef,
Mam anwylaf, mi anelaf at ei fynwes Ef."

Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
   Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
   Anwyl Annie Lisle.



Y DEFNYN CYNTAF O EIRA.



Yr od, yr od! mae 'r eira 'n dod!
Rhwng y simneiau dacw fe,
Y defnyn cyntaf yn dod or ne;
Yn chware fel aderyn gwyn,
Trwy fwg a chaddug y melinau hyn.
Mae 'n ofni disgyn, ac fel pe bae
Yn ail-ymgodi, ond disgyn mae.
Mae yn bwrw golwg tros y ddinas fawr,
Ac yn mesur y ffordd wrth ddod i lawr;
Gan edrych trwy 'r ffenestri ban,
Fry gyda 'r awel o fan i fan.
Mae 'n ymddyrchafu ac yn ymgrynhoi,
Ac yn dal i ddisgyn, ac yn dal i droi -
Ond gwel ei lengoedd!  Mil myrddiwn man
O angylion gwynion y gauaf glan,
Sy 'n dod ag amdo a chistfeddau ia,
I gladdu meirwon flodau 'r ha.
   Y nef sy 'n galw 'r blodyn hardd
I fyw a gwenu o lwch yr ardd.
A phan fydd farw, nis anghofia 'r nef
Mo dyrfa wen ei angladd ef.



CAVOUR.



   I Fyny 'r mynydd dringai ef
      Wrth ochor Garibaldi,
   I weld yr haul yn dringo 'r nef -
      Haul Rhyddid Itali.
Ond cyn i'r haul ymddangos ar ben y mynydd mawr
Fe gloddiwyd bedd i Cavour, yng ngoleu gwyn y wawr.



Y MILWR NA DDYCHWEL.



"Ni syrthiodd neb erioed i'r bedd,
      Na welwyd rhywun prudd ei wedd,
   Yn gollwng deigryn arno;
Ond wrth i filwr fynd i lawr,
Mae gwlad yn dod i'w arwyl fawr,
   A chenedl oll yn wylo."

A thithau, gyfaill, i dy fedd
   Gollyngwyd ti,
Yn filwr ieuanc teg ei wedd -
   Yn ei filwrol fri.

Pan wyliem dy febyd darllennem dy lygaid,
A gwelem wrhydri cynhennid dy enaid,
   A gwreichion dy ysbryd yn cynneu dy rudd;
Pan droet orchestion dy gyfoed yn wegi,
A phob anhawsderau o'th flaen yn cyd-doddi,
   Coronwyd ti 'n arwr ym more dy ddydd.

Mae cofio'th rinweddau fel milwr a Christion,
Yn hafaidd belydru trwy brudd-der ein calon,
   Yn taflu goleuni tros len dy goffhad.
Fe'th ddysgwyd yn fore am Dduw dy rieni -
Ond cyffiwyd y gliniau fu 'n plygu mewn gweddi,
   Yn haiarn i elyn dy Dduw a dy wlad.

Pan wyliem ormesiaeth a'i duon adenydd
Fel nos yn ymledu tros wyneb y gwledydd,
   E rwygwyd yr awyr gan udgorn y gad;
Dyrchafwyd y grechwen,--"Cychwynnwn, cychwynnwn,
Yn ysbryd ein tadau arfogwn, ymruthrwn,"
   Nes galwyd i'r frwydr holl gedyrn y wlad.

Arfau 'n tadyrddu a swn oedd yn dilyn,
Aem ninnau i'r porthladd i'w gweled yn cychwyn,
   Ond cadwem yn ymyl ein cyfaill ohyd.
Pan welai 'r fath bryder, ac ofn yn ein calon,
Gorchfygwyd ei lygad gan ddagrau tryloewon,
   Ond ffarwel obeithion oleuodd ei bryd.

Fel gwennol yn dilyn y llong tros yr eigion,
Felly 'r dychymyg ddilynodd ein gwron,
   Nes glaniwyd yn llawen heb arf o nacad -
Gwersyllwyd am ennyd, ond ber fu'r orffwysfa,
Nes sangwyd ar fryniau bythgofiol yi Alma,
   Uwchben amchwareufa ddychrynllyd y gad.

Edrych gyferbyn ar lengoedd y gelyn
Fel dirif locustiaid yn gwneuthur y dyffryn
   Mal affwys echryslon y fall -
A mil o fagnelau yn agor eu gyddfau,
I chwythu tymestloedd ac eirias gawodau,
   I gladdu holl rengoedd y llall.

         Ond megis ia llithrol
         Yr Alpau tragwyddol,
Tros greigiau anhygyrch yn ceisio 'r gwrthentyrch islaw:
         Trwy danllyd ryferthwy
         Gwneir rhuthur ofnadwy,
Trwy 'r afon i'r llechwedd gerllaw.

Mae rhai yn ymestyn at ystlys y gelyn,
A'r lleill fel taranfollt yn hyrddio i'w erbyn,
   I loches y fagnel a'r tan;
Ond llamwyd i'r gloddfa, gorchfygwyd yn Alma,
   A'r meirwon led-glywsant y gan.

Pwy welais yn arwain hen gatrawd fy ngwlad,
   Yn flaenaf, yn nesaf i'r gelyn?
Pwy gwympodd ar fynydd llosgfalog y gad,
   Gan godi o'i waed i oresgyn?

Pwy oedd yr un hwnnw a ddaliodd fel twr,
   Yr ufel raiadrau diri?
Tydi, tydi gyfaill, tydi oedd y gwr,
   A milwr fel hyn oeddyt ti.

Mynyddoedd yr Alma ddatganant dy werth,
   Dy ddewredd, a'th fedr milwrol;
Ond draw yn Scutari datguddiwyd dy nerth,
   Fel arwr ar faes Cristionogol.

Ar wefus y milwr dolurus a gwan,
   Y gwasget rawnsypiau tosturi;
A llawer ochenaid daer ddwys ar ei ran,
   Gyrhaeddodd y nef yn dy weddi.

Esmwythaist y clwyfus a balm oddi fry,
   Pan ballai daiarol feddygaeth;
A glyn cysgod angau oleuwyd i lu
   Pan ddaliet ti lamp Iachawdwriaeth.

Er cymaint y caret dangnefedd dy wlad,
   Ac aelwyd dy riaint yn drigfan;
Rhy bur dy gydwybod i dderbyn mwynhad
   A throi oddiwrth erchwyn y truan.

Pan ddaw y fath adeg--pan na fydd y byd
   Yn agor cyfrolau rhyfeloedd,
Coffeir y gwir filwr, a'i enw o hyd,
   Fydd beraidd am fil o flynyddoedd.

Tra dyn ar y ddaear ac hefyd tra bo
   Y nefoedd yn edrych ar rinwedd;
Bydd glan y Mynorfor yn anwyl mewn co
   Lle rhoddwyd gwir filwr i orwedd.

Gorphwysa fy nghyfaill yn ngwychder dy fedd,
   Ar filoedd disgynned dy ysbryd;
Ond bwried rhyfeloedd i foroedd o hedd,
   A dyn i heddychol ddedwyddyd.



CARCHAROR NAPLES.



Mewn carchar du oer y cadwynwyd fi,
   Ond clywaf y bobloedd yn bloeddio--bloeddio!
A bloeddio yn nes ac uwch mae y cri,
Fod y dydd yn dod i fy nghollwng i;
   A dyna fagnelau yn rhuo,--rhuo!
Mae 'r dorf yn cyhoeddi Jubil-ddydd,
Garibaldi sy 'n dyfod im' gollwng yn rhydd.

Mi glywaf yn dod offerynau pres,
   A mil o dabyrddau yn tyrddu,--tyrddu!
Can rhyddid yw hi, a theimlaf ei gwres
Fel y del yn mlaen, yn nes ac yn nes,
   Nes mae fy hen garchar yn crynnu,--crynnu!
Fe wel fy ngolygon oleu ddydd,
Garibaldi sy 'n dyfod i'm gollwng yn rhydd.

Ein heiyrn a dawdd dan gyffyrddiad ei fys,
   Fy nghydgarcharorion, O! bloeddiwn--bloeddiwn,
Mae 'r Eidal ein gwlad yn rbydd yn ddilys,
Mae y sedd yn wag yn y gormes lys,
   Caneuon Itali, O! canwn,--canwn!
A diolch i'r nefoedd, daeth y dydd,
Garibaldi gyrhaeddodd, mae 'r Eidal yn rbydd.



GLOGWYN ANWYL.
[O "Owain Wyn."]



"Glogwyn anwyl, hoff gan i
   Yw hamdden am fynudyn,
Taflu carreg i fy nghi,
   Neu eistedd ar dy gribyn:
Gwylio'r afon glir islaw,
   A gollwng fy myfyrion
I'r terfysglyd drefydd draw,
   Ym miwsig ei murmuron.

Bywyd Bugail--bywyd yw
   Nas gwyr y byd am dano,
Heibio 'r bryniau wele 'r byw
   Fel nant yn rhedeg heibio;
Golud, enw, bydol fri,
   Yw eilun-dduwiau dynion;
Mwy na 'r oll i'm golwg i
   Yw praidd y bryniau gwylltion.

Praidd y mynydd--O! fy mhraidd!
   Mae pleser wrth eich gwylio,
Cyn i'r ser fachludo braidd,
   A chyn i'r dwyrain ddyddio;
Pan gusano'r haul y lli',
   Y'm gyda chwi ein defaid;
Fel ein calon, felly chwi
   Ym mynwes eich bugeiliaid.

Gyda phraidd y mynydd gwyllt,
   Tynghedwyd ni a'n dyddiau;
Llwybrau defaid, wyn a myllt,
   Yw 'r llwybrau deithiwn ninnau;
Weithiau tan y creigiau certh,
   Yng nghanol y mynyddoedd,
Dim i'w weld ond bryniau serth,
   A thyner lesni'r nefoedd;

Yna dringo pen y bryn,
   Hyd risiau craig ddaneddog,
Gweld y nant, y cwm, a'r glyn,
   Y ddol, y gors, a'r fawnog;
Edrych ar y ceunant du,
   Fel bedd ar draws y bryniau;
Bedd, yn wir, medd hanes, fu
   I lawer un o'n tadau.

Llawer craig fygythiol sydd
   Yn gwgu ar ein bywyd;
Ond mae arnynt ddwylaw cudd,
   Ac nid oes maen yn syflyd;
Clywir llais y dymhestl gref,
   A chwiban y corwyntoedd,
Rhua croch daranau 'r nef,
   Ond huno wna 'r mynyddoedd.

Fel yr hen fynyddoedd clyd
   Y'm ninnau ym mysg dynion;
Ysed tan ddinasoedd byd,
   A chwymped seddau 'r mawrion,
Llwybro gyda 'n defaid wnawn,
   A thrin ein huchel diroedd;
Hun o bur dawelwch gawn
   Ym mynwes y mynyddoedd.



FFARWEL ITI, GYMRU FAD.



Ffarwel iti, Gymru fad,
   Mynd yr ydym tros y tonnau,
   Mynd gan adael ar ein holau
Beddau mam a beddau tad;
O ffarwel, ein hanwyl wlad.

Tua 'r lan fe drodd y bad,
   Tra cyfeillion ger yr afon
   Godant eu cadachau gwynion;
Rhaid dy adael, Gymru fad,
O! ffarwel, ein hanwyl wlad.

Ffarwel, ffarwel, Gymru fad,
   Bydd yr heniaith a ddysgasom,
   A'r alawon a ganasom
Gyda ni mewn estron wlad;
Ffarwel iti, Gymru fad.



TROS UN O DRUMIAU BERWYN.
[O "Owain Wyn."]



Tros un o drumiau Berwyn.
   Ryw noson ddistaw oer,
Y teithiai gwr lluddedig
   Wrth oleu can y lloer.
Fry uwch ei ben yn crynnu
   'Roedd llawer seren dlos,
A chlywid yntau 'n canu
   Fel hyn i glust y nos:-

"Hen fynyddoedd fy mabandod,
   Syllant eto ger fy mron;
Wele fi yn ail gyfarfod
   Gyda 'r ardal dawel hon;
Cwm wrth ochr cwm yn gorwedd,
   Nant a nant yn cwrdd ynghyd,
A chlogwyni gwyllt aruthredd
   Wyliant uwch eu pennau 'n fud.

"Mewn pellenig gartrefleoedd
   Wedi ofn a phryder hir,
Hoff freuddwydion fy mlynyddoedd
   Sylweddolwyd gan y gwir;
Os ffarweliodd anobeithion
   Ar fy ngenedigol wlad,
Ni ffarweliais yn fy nahalon
   Gydag anwyl dy fy nhad.

Dacw 'm cartref is y goedwig,
   Groesaw! hen arwyddion hedd;
Dacw 'r fynwent gysegredig,
   Wele 'r ywen--dyna 'r BEDD!"
Darfyddodd can y teithiwr
   Mewn teimlad llon a phrudd,
A deigryn gloew, gloew,
   Ollyngodd tros ei rudd.

Aeth heibio dor ei gartref,
   Os gofyn wnei paham,
Awgrymed dy deimladau,
   A chofia FEDD EI FAM!
A threnlio 'r noson honno
   Ar fedd ei fam wnaeth ef,
Nes suddo 'r seren fore
   I eigion gwyn y nef.



DYCHWELIAD YR HEN FILWR.



Pell, pell, yw telyn Cymru
   O fy llaw;
Do, dywedais gan alaru -
   Byth ni ddaw,
O'r dydd y cenais ffarwel
A chwi wrth fynd i ryfel,
O'm mewn bu 'r geiriau dirgel -
   "Byth ni ddaw."
A rhuai safn y fagnel,
   "Byth ni ddaw."

Ffarweliais pan yn fachgen
   Gyda chwi,
Yng nghanol dyddiau llawen
   Rhannwyd ni;
Ond nid yw 'r floedd fu 'n galw
Tros ryddid, gwlad, ac enw,
O fewn fy nglust yn farw,
   Na, mae cri
A llais yr amser hwnnw
   Gyda mi.

Ond nid yw 'r holl wynebau
   Ger fy mron,
Yr hardd rosynaidd ruddiau
   Ieuanc llon.
Bu pellder i'n gwahanu,
Bu amser yn ein gwynnu, -
Do, do, mae wedi claddu
   Oll o'r bron;
Ac atynt y'm yn nesu
   Bawb a'i ffon.

Wyt eto, delyn Cymru,
   Yn fy llaw;
Ond ieuanc nerth i'th ganu,
   Byth ni ddaw.
Ond clywaf swn dy dannau
Yn murmur megis tonnau,
Ar for yr hen amserau
   Yn ddidaw;
Yn torri ar hoff lannau -
   Pell, pell, draw.

I'th erbyn delyn heddwch,
   Pechais i;
Ond eto mewn tawelwch
   Wele ni.
Mae llaw a driniodd arfau,
Mae llaw wasnaethodd angau
Yn cyffwrdd gyda'th dannau
   Anwyl di;
Os aeth o gof dy chwarau,
   Torrer hi.

Na, na, er ei chaledu
   Gan y cledd,
Daw rhwng y bysedd hynny
   Bennill hedd;
Os gwelir dwfn ysgrifen
Blynyddoedd ar fy nhalcen,
Os ciliodd enw bachgen
   O fy ngwedd -
Rwy 'n teimlo eto 'n llawen,
   Ger fy medd.

Gwir sylweddoliad breuddwyd
   Ger fy mron,
Yw gweled eto 'r aelwyd
   Anwyl hon.
Ar faesydd rhuddion angau
Trwy dewfwg y magnelau,
Cyfeiriais fil o weithiau
   Tros y don;
At gysegredig furiau
   Mebyd llon.

Pell, pell, fu telyn Cymru
   O fy llaw;
Do, dywedais gan alaru, -
   Byth ni ddaw.
Ond wele ni, gyfeillion,
Yn yfed gwin cysurlon
O gwpan hen adgofion
   Yn ddifraw, -
A wele 'r tannau mwynion
   Yn fy llaw.



TRWY WLEDYDD DWYREINIOL.
[O "Owain Wyn."]



Gadewais fy mhraidd ar y mynydd,
   A chefnais ar drumiau fy ngwlad,
Breuddwydiais am fyd o lawenydd
   Tu allan i furiau fy nhad;
Yn ol i'r mynyddoedd dychwelais,
   Ond dysgais, a'm dagrau yn lli,
Os bywyd y milwr arweiniais,
   Mai'r cymoedd yw'r cartref i mi.

Trwy wledydd dwyreiniol tramwyais
   Ond cofio gwyllt Walia oedd loes;
O wagedd ieuenctyd yr yfais
   Nes chwerwais felusder fy oes;
Nid ofnaf lefaru fy nheimlad, -
   Chwi wledydd goruchel eich bri,
Yn mhell byddoch byth o fy llygad, -
   Mynyddau 'r hen Ferwyn i mi.

Mae gobaith cael eto cyn angau
   Ailddringo llechweddau fy mro,
I gasglu y praidd i'w corlannau
   Hyd lwybrau cynefin i'm co;
Uwch bedd anrhydeddus y milwr
   Mae enfys arddunol o fri;
Ond rhowch i mi farw 'n fynyddwr,
   A beddrod y bugail i mi.



Y GARREG WEN.



Os pell yw telyn aur fy ngwlad
   O'm dwylaw musgrell i;
Os unig wyf o dy fy nhad,
   Lle gynt chwareuid hi:
Mae 'r IAITH er hynny gyda swyn,
Fel ysbrydoliaeth yn fy nwyn,
I ganu cerdd, os nad yn fwyn
   I'r byd--mae'n fwyn i mi.

Mae nant yn rhedeg ar ei hynt
   I ardd fy nghartref i,
Lle cododd un o'm teidiau gynt
   Ddisgynfa iddi hi.
Mae helyg melyn uwch y fan,
Lle syrthia tros y dibyn ban,
A choed afalau ar y lan,
   Yn edrych ar y lli.

O dan ddisgynfa'r dwr mae llyn,
   A throsto bont o bren;
A charreg fawr, fel marmor gwyn,
   Gynhalia'r bont uwch ben.
Fy mebyd dreuliais uwch y lli,
Yn eistedd yno arni hi;
A mwy na brenin oeddwn i,
   Pan ar fy Ngharreg Wen.

Pan ddeuai 'r Gwanwyn teg ei bryd
   Ar ol tymhestlog hin,
Ac adfywhau 'r llysieuog fyd
   Yn ei gawodydd gwin;
Yn afon fawr ai 'r gornant fach;
Pysgotwn ar ei glennydd iach -
A phin blygedig oedd fy mach
   Yn grog wrth edau lin.

Ni waeth pa ran o'r eang fyd
   A grwydraf tra b'wyf byw,
Wyf wrth y Garreg Wen o hyd,
   A'r nant sydd yn fy nghlyw;
A phan hysbyswyf estron ddyn,
Mai ati' hedaf yn fy hun,
Maddeua 'm ffoledd am mai un
   O gofion mebyd yw.

Ffurfafen bell yw mebyd oes,
   Serenog fel y nen;
Ac ymysg dynion neb nid oes,
   Na hoffa godi ei ben
I edrych draw i'r amser fu -
A syllaf finnau gyda'r llu -
Ac O! fy seren fore gu
   Wyt ti, fy Ngharreg Wen.

Os cyraedd ail fabandod wnaf,
   Cyn gollwng arna'r llen;
Os gauaf einioes byth a gaf,
   A'i eira i wynnu 'm pen -
Bydd angau imi 'n "frenin braw,"
Nes caffwyf fynd i Walia draw,
At dy fy nhad, i roi fy llaw
   Ar ben y Garreg Wen.

Byth, byth ni ddygir o fy ngho'
   Gyfeillion mud yr ardd;
Nis clywir trystfawr swn y gro
   Ar gauad arch y bardd;
A dagrau pur tros ruddiau 'r nen
Fo 'r oll o'r dagrau uwch fy mhen -
Os cyfaill fydd, gwnaed garnedd wen
   O gerrig gwynion hardd.

Colofnau wnaed i feibion bri,
   Uchelfawr tua'r nen;
Ond noder fy ninodedd i
   Gan garnedd uwch fy mhen;
'Rol gado gwlad y cystudd mawr,
Os byw fy enw hanner awr,
Na alwed neb fi ar y llawr
   Ond Bardd y Garreg Wen.



TUAG ADRE.



O ddydd i ddydd mae melyn haul
   Yn pasio yn ei gerbyd;
O nos i nos mae 'r lleuad wen
   Yn codi ac yn machlud?
O awr i awr mae 'r ser yn troi
   Ar draws yr eangderau; -
Yn wir, mae holl greadigaeth Duw
   Yn teithio tuag adre.

Mae 'r ffrydlif fach, ar ben y bryn,
   Yn rhedeg megys crwydryn;
Ac afon fawr, y dolydd is,
   Yn rhedeg yn y dyffryn;
Mae 'r gwynt yn crwydro yn y nef,
   A symud mae 'r cymylau; -
Ac O! mae holl greadigaeth Duw
   Yn teithio tuag adre.

Mae gwynt Diwygiad ar ei daith,
   A derw Cymru 'n gildio,
Mae swn gorfoledd yn y dail, -
   Mae swn canghenuau 'n cracio;
O!  Anadl, tyrd o'r pedwar gwynt,
   A chymer y byd mewn hymnau,
Can a moliant iddo Ef,
   I byrth tragwyddol gartre.



BEIBL FY MAM.



Y cyfan oll sydd genny 'n awr
   Yn y cyfanfyd crwn
Yw 'r fendigedig gyfrol hon,
   Yw 'r Beibl anwyl hwn.
Mae 'n dechreu gyda dalen deg
   Ein pren teuluaidd ni:
Fy mam wrth farw, megis mam
   A roddodd hwn i mi.

Rwy'n cofio 'n dda rai enwau hoff,
   Ar ddechreu 'r gyfrol hon;
Fy mrawd, fy chwaer, a'r baban bach
   Fu farw wrth y fron.
Rwy 'n cofio 'r hwyr darllennai 'nhad,
   Am Grist ac angeu loes;
Ac fel y codai 'r Beibl hwn
   Wrth son am waed y groes.

Mi dreuliais lawer awr erioed,
   I feddwl am y fan;
Rwy 'n gweld y teulu 'n fyw, er fod
   Eu beddau yn y Llan.
Rwy 'n gweld y plant ar derfyn dydd,
   A'r bychan byr ei gam
Yn myned ar ei ddeulin bach,
   Wrth lin fy anwyl fam.

Mae 'r byd yn wag, cofleidiaf di,
   Fy Meibl anwyl iawn;
Y fynwent a'th ddalennau di
   Yw 'r unig bethau llawn.
Esmwytha di fy ffordd i'r bedd
   Trwy ddysgu 'r ffordd i fyw:
Crynedig dwylaw fo 'n dy ddal
   Fys anweledig Duw.



ALUN MABON.
BUGEILGAN DELYNEGOL.



I.

'R oedd Alun Mabon yn ei ddydd
Yn fachgen cryf a hoew;
Yn berchen grudd a thalcen hardd,
   A llygad gloew, gloew.
Er nad oedd goeth 'nol dull y byd,
   Fe ellid dweyd er hynny
Fod ganddo galon gynnes bur
   Yn natur wedi tyfu.

Ar fin y mynydd ganwyd ef,
   Ac fel y blodyn bychan
Oedd ar y grug wrth gefn ei dy,
   Blagurodd yntau allan. -
Fe gafodd hafddydd yn yr haul,
   A gauaf yn y stormydd;
Ac yna megis blodyn grug,
   Fe wywodd ar y mynydd.

II.

Ar fin y mynydd ganwyd ef,
Ac fel yr hedydd rhyngo a'r nef
Fe ganodd lawer anthem gref,
   Lle nad oedd carreg ateb.
Ond dywed traddodiadol go,
I'r llon a'r prudd o dro i dro
Ddod ato yn ei fryniawg fro
   Fel haul a storm i'w wyneb.

Ar rai o fydrau Cymru lan,
Rhyw gais at roi arluniau man
O fywyd Alun ydyw 'r gan
   Fugeiliol sydd yn canlyn;
Ac mae bywgraffiad byw o'r dyn,
Yn ei ganeuon ef ei hun,
A'i "Arad Goch" yw 'r gyntaf un
   Gaiff fyned efo 'r delyn.

III.

Os hoffech wybod sut
   Mae dyn fel fi yn byw,
Mi ddysgais gan fy nhad
   Grefft gyntaf dynol ryw;
Mi ddysgais wneyd y gors
   Yn weirglodd ffrwythlon ir,
I godi daear las
   Ar wyneb anial dir.
         'Rwy'n gorwedd efo'r hwyr,
            Ac yn codi efo'r wawr,
         I ddilyn yr og, ar ochr y Glog,
            A chanlyn yr arad goch
            Ar ben y mynydd mawr.

Cyn boddio ar eich byd,
   Pa grefftwyr bynnag foch,
Chwi ddylech ddod am dro
   Rhwng cyrn yr arad goch;
A pheidiwch meddwl fod
   Pob pleser a mwynhad
Yn aros byth heb ddod
   I fryniau ucha'r wlad.
         'Rwyn gorwedd efo'r hwyr, &c.

Yn ol eich clociau heirdd,
   Bob bore codwch chwi:
Y wawr neu wyneb haul
   Yw 'r cloc a'n cyfyd ni;
Y dyddiaduron sydd
   Yn nodi 'r haf i chwi;
Ond dail y coed yw 'r llyfr
   Sy 'n dod a'r haf i ni.
         'Rwyn gorwedd efo'r hwyr, &c.

Nis gwn i fawr am fyw
   Mewn rhwysg a gwychder byd;
Ond diolch, gwn beth yw
   Gogoniant bwthyn clyd;
Ac eistedd hanner awr
   Tan goeden ger fy nor,
Pan aiff yr haul i lawr,
   Mewn cwmwl tan i'r mor.
         'Rwyn gorwedd efo 'r hwyr, &c.

Cerddorion Ewrop ddont
   I'ch mysg i roddi can:
'R wyf innau 'n ymfoddhau
   Ar lais y fronfraith lan;
Wrth wrando 'r gwcw las,
   A'r hedydd bychan fry,
A gweled Robyn Goch
   Yn gwrando 'r deryn du.
         'Rwy'n gorwedd efo'r hwyr, &c.

Ddinaswyr gwaelod gwlad,
   A gwyr y celfau cain,
Pe welech Fai yn dod,
   A blodau ar y drain -
Y rhosyn ar y gwrych,
   A'r lili ar y llyn;
Fe hoffech chwithau fyw
   Mewn bwthyn ar y bryn.
         'Rwy'n gorwedd efo'r hwyr, &c.

Pan rydd yr Ionawr oer
   Ei gaenen ar yr ardd,
Y coed a dro'nt yn wyn
   Tan flodau barrug hardd;
Daw bargod dan y to
   Fel rhes o berlau pur,
A'r eira ddengys liw
   Yr eiddew ar y mur.
         'Rwy'n gorwedd efo'r hwyr, &c.

Daw Ebrill yn ei dro,
   A chydag ef fe ddaw
Disymwth wenau haul,
   A sydyn gawod wlaw;
Fel cyfnewidiog ferch,
   Neu ddyn o deimlad gwan,
Galara 'r awyr las,
   A gwena yn y fan.
         'Rwy'n gorwedd efo 'r hwyr,
            Ac yn codi efo 'r wawr,
         I ddilyn yr og ar ochor y Glog
            A chanlyn yr arad goch
            Ar ben y mynydd mawr.

IV.

Dowch i'r mynydd yn y bore,
   Chwi gewch weld y wawr-ddydd deg
Yn ymwrido ar y bryniau,
   Fel genethig dair-ar-ddeg.
      Diffodd lampau 'r nos,
      Goleu 'r ddaear dlos,
         Rhodio tros y bryniau mawr,
      Gosod cymyl claer
      Mewn ymylon aur,
         Dyna waith y wylaidd wawr.

Dowch i'r mynydd gyda'r hwyrddydd,
   Pan aiff haul i'w fachlud awr;
Chwi gewch weled brenin Gwynddydd
   Yn ei waed yn cwympo i lawr.
      Duo 'n ddyfnach bydd
      Mynwent laith y dydd,
         A daw nifwl ar y mor,
      Lleuad gwyd ei phen,
      Hwyrddydd rodia 'r nen
         I ail oleu lampau 'r Ior.

V.

Mi genais gerdd i'r Arad Goch,
   A cherdd ar Ddowch i'r Mynydd:
Ond beth be bawn i eto 'n dod
   I ganu can anghelfydd
Ar alaw anwyl "Blodau 'r Cwm,"
   Mae pawb yn gwybod honno;
A beth pe bawn yn dewis pwnc
   Y gwyr pob dyn am dano?

O! gwyn ei fyd yr hwn nis gwyr
   Am ferch fu 'n flinder iddo;
Ond wn i ddim yn sicr chwaith,
   Ai gwyn ei fyd, ai peidio.
Mae'n ddigon hawdd gan ambell un
   Sydd wedi cael ei ginio,
Areithio llawer wrth ryw blant
   Y gallant aros hebddo.

Fe guchia gwyneb llawer tad,
   Pan glywant gan cariadau:
Tra 'u plant eu hunain wrth eu traed
   Yn chwerthin am eu pennau;
Ni welais i 'run deryn bach
   Yn hoff o fyw yn unig;
Ac ni fu oen yn hoff o'i fam
   Nad oedd yn hoff o oenig.

Ac ni fu dyn yn hoff o ddyn
   Na mam yn hoff o'i phlentyn,
Nad ydoedd serch at ferch neu fab
   Yn gyntaf wedi ennyn.
Mae holl ddynoliaeth dyn yn gudd,
   A'i enaid fel yn huno,
Nes daw rhyw lygad fel yr haul
   I wenu cariad arno.

Aeddfedodd dyn erioed yn iawn
   Ar gangen fawr dynoliaeth,
Os bydd ei wedd heb wrido 'n goch,
   Yng ngwydd ei anwyl eneth.
Ond nid athromaeth dal i feirdd, -
   Barddoniaeth ydyw 'r testyn:
Am hynny tyred, Menna Rhen,
   Fy awen a fy nhelyn.

VI.

Pan welais gyntaf Menna Rhen
   Yn myned tua 'r mynydd,
Yr oedd plentynrwydd tyner llon
   Yn dirion ar ei dwyrudd;
Ac efo 'i brawd y byddai beunydd,
Yn adsain miwsig hyd y meusydd;
'R oedd ganddi lais, a chanddi ddeall
I ganu a charoli'n ddiwall,
Ond nid oedd dim yn Menna Rhen -
   Ddim mwy na rhywun arall.

Mi welais eilwaith Menna Rhen
   Yn myned tua 'r mynydd;
A byth er hynny, coeliwch fi,
   Bu 'n boenau imi beunydd.
Yr oedd y don a genid ganddi
Fel yn aros gyda myfi;
Mi dreuliais ddyddiau mewn myfyrion,
A nosweithiau mewn breuddwydion,
Nes credais fod can Menna lan
   Yn ngwaelod isa 'nghalon.

Mi welais wedyn Menna Rhen
   I'r mynydd hwnnw 'n myned,
Ac mi ddilynais ol ei throed
   Bob cam a fedrwn weled;
Ond hi o'r diwedd oddiweddais,
Ac O! mi deimlais, ac mi ddwedais
Farddoniaeth dlysach mewn un munud
Na dim a genais yn fy mywyd,
Wrth roddi cangen fedwen ferth
   Yn nwylaw fy anwylyd.

VII.

Tra 'n cysgu 'r nos ddilynol
   Canfyddais trwy fy hun,
Y gangen fedwen honno 'n bleth
   Am wddf fy anwyl fun;
Y dail a ddeuent arni,
   Yn wyrdd a llawn bywhad;
A gwelwn hi 'n blodeuo 'n hardd,
   Ac yna 'n hadu had.
Ond wrth fwynhau fy mreuddwyd
   O freuddwyd heb ei ail!
Canfyddwn locust melyn ddu
   Ymysg y bedw ddail;
Ymlusgodd ac ymrwyfodd
   Nes cyffwrdd gwddf y ferch,
Ac yna breuddwyd mwy nid oedd,
   Ond hunllef hagr erch.

Diolchais am gael deffro
   Pan ddaeth yn doriad dydd;
Ond cofiais ddechreu'r breuddwyd hwn
   Yn fwy na 'i ddiwedd prudd. -
Meddyliais am y blodau
   Oedd ar y brigau cain,
Yn fwy nag am y locust erch
   Lochesid yn y rhain.
Fy nghalon losgai ynnof
   Wrth gofio llygad Men;
Ac adeiladais lawer llys
   A chastell yn y nen;
Ond maluriasant ymaith,
   Cyn dechreu mynd yn hen,
Oherwydd cangen GOLLEN ddaeth
   Oddiwrth fy Menna Rhen.

VIII.
ALAW,--Hob y Deri Dando.

Mae gan bawb ei brofedigaeth,
   Paid a siarad gwirion,
Ond myfi gadd siomedigaeth
   Paid a thorri 'th galon;
Rhyfedd iawn os na wnaf farw,
   Siwr, siwr iawn,
Siomedigaeth chwerw arw;
      Mwyn, mwyn, er ei mwyn,
      A fyddai marw er ei mwyn.

Rown i'n meddwl ei bod hi'n ddidwyll,
   Paid a meddwl gwirion, -
Peidiwch chwithau bod yn fyrbwyll;
   Dyna fel mae dynion.
Dynion sydd a'r synwyr cryfa,
   Siwr, siwr iawn,
Ond gwrthodwyd fi gan Menna;
      Mwyn, mwyn, er ei mwyn,
      A fyddai marw er ei mwyn.

Rhoddais iddi gangen fedwen,
   Beth ddywedodd Menna?
Gyrrodd imi gangen gollen,
   Wel, hi wnaeth yn eitha'.
Ond parhaf o hyd i'w hoffi,
   Siwr, siwr iawn,
Pe b'ai 'n gyrru amdo imi;
      Mwyn, mwyn, er ei mwyn,
      A fyddai marw er ei mwyn.

IX.

'R oedd gennyf fi gyfaill pur anwyl a hoff,
   Yn fy nghyfarfod bob amser a gwen;
Ac wrtho mi ddwedais fy mod wedi rhoi
   Fy neheulaw i Menna Rhen.
Ond ef pan ddeallodd yr hyn oedd yn bod,
   Siaradodd a'r llances ei hun -
Efe oedd y locust ddisgynnodd ar ddail
   Y fedwen a welais trwy f' hun.

Mae llawer ffordd i lofruddio dyn
   Yn y byd llofruddiog hwn;
Os cwrddwch a lleidr yng ngwyll y nos,
   Bydd angau ar ffroen ei wn;
Fe gymer eich arian ar ol eich lladd,
   I'w logell losgedig ei hun,
Ac yna fe 'ch tafl i ffos y clawdd, -
   Dyna ffordd LLEIDR i fwrdro dyn.

Mae arall o falais yn dod gyda gwen,
   I ro'i i ddyn ddiod yn hael,
Mae yntau 'n cymeryd, ond bychan y gwyr
   Mai cwpan o wenwyn mae 'n gael;
Mae un yn ymdrengu, a'r llall yn boddhau
   Rhyw deimlad sydd ynddo fe 'i hun -
Fe ddygodd y gwenwyn ryw amcan 'i ben,
   Dyna ffordd LLOFRUDD i fwrdro dyn.

Mae arall yn byw ac yn bod gyda chwi,
   Fel cyfaill diffuant bob pryd,
Ac rywfodd i'ch mynwes yn gynnes yr a,
   Nes cael eich cyfrinach i gyd. -
Ac yna mae 'n myned i sibrwd ei serch
   I galon un garech eich hun -
Yn ennill y llances garasech erioed;
   Dyna ffordd CYTHRAUL i fwrdro dyn.

X.
ALAW,--Y Melinydd.

Ond chaiff y gangen fedwen
   Ddim gwywo 'n goch ei lliw
Nes af i siarad eto
   Yng ngwyneb Menna wiw.
      Fa la, &c.

Mae gennyf dy fy hunan,
   Heb ddegwm, rhent, na threth;
A phan eisteddaf ynddo,
   'Rwy'n frenin ar bob peth.
      Fa la, &c.

Mae gennyf barlwr bychan,
   Ac aelwyd fechan lan;
A'm tegell i fy hunan
   Sy 'n canu wrth y tan.
      Fa la, &c.

Mae gennyf gant o ddefaid
   Yn pori ar y bryn,
A gallaf godi 'm cyfrwy
   Ar gefn fy ngheffyl gwyn.
      Fa la, &c.

Mae gennyf ferlyn mynydd,
   I fynd i weled Men;
Nad all neb ond fy hunan
   Roi rheffyn yn ei ben.
      Fa la, &c.

Mae 'r ardd, a'r cae, a'r ffriddoedd,
   A'r ty yn eiddo im';
Ond heb fy Menna anwyl
   'Rwyf fel pe bawn heb ddim.
      Fa la, &c.

Fe 'i ceisiaf unwaith eto,
   Ac os gwrthodir fi,
Tros fil o weithiau wedyn
   Am Fenna ceisiaf fi.
      Fa la, &c.

XI.

Gwelais bren yn dechreu glasu
   Ei ganghennau yn yr ardd
Ac yn dwedyd wrth yr adar, -
   "Wele daeth y Gwanwyn hardd."
Daeth aderyn bychan heibio,
   Ac fe safodd ar ei frig;
Ac fe ganodd gyda deilen
   Newydd irlas yn ei big.

Daeth aderyn bychan arall
   Ar las gangen yn y coed,
Fe ysgydwodd blu ei aden
   Ac fe ddawnsiodd ar ei droed;
Canodd yntau, a dewisodd
   Fan lle carai wneyd ei nyth,
O! mae 'r Gwanwyn fel yn cadw
   Natur hen yn ieuanc byth.

Eis o dan fy nghoeden fedwen
   Ac mi godais fry fy mhen,
Ac mi welais ol y gyllell,
   Lle torasid cangen Men.
Gwnaeth adgofion i'm ofidio
   Na buasai 'r gainc yn wyw;
Ond canfyddais gangen ieuanc
   Yn y toriad hwnnw 'n byw.

O mae gobaith mewn gwrthodiad,
   Meddwyf innau wrth fy hun;
Er fy nhorri gallaf dyfu
   Eto yn serchiadau 'r fun.
Troes fy wyneb tuag adref,
   Teflais lawer tremiad ffol
Tros fy ysgwydd at y fedwen
   Las adewais ar fy ol.

XII.

Wrth ddychwel tuag adref,
   Mi glywais gwcw lon,
Oedd newydd groesi 'r moroedd
   I'r ynys fechan hon.

A chwcw gynta'r tymor
   A ganai yn y coed,
'Run fath a'r gwcw gyntaf
   A ganodd gynta' 'rioed.

Mi drois yn ol i chwilio
   Y glasgoed yn y llwyn,
I edrych rhwng y brigau,
   Ple 'r oedd y deryn mwyn.

Mi gerddais nes dychwelais
   O dan fy medw bren;
Ac yno 'r oedd y gwcw,
   Yn canu wrth fy mhen.

O! diolch iti, gwcw,
   Ein bod ni yma 'n cwrdd -
Mi sychais i fy llygad,
   A'r gwcw aeth i ffwrdd.

XIII.

Ar ol i'r gog fy ngadaw, efo 'r pren,
Dechreuais ganu 'r alaw Mentra Gwen;
   Cyfodi wnes yn union,
   A theimlais fwy na digon
O ganu ar fy nghalon, Mentra Men,
Er gwaethaf fy ngelynion, Mentra Men.

Os gyrraist imi gollen, Menna Wen,
Fe yrraf eto fedwen Menna Wen,
   Pe b'ai holl fedw Cymru
   Tan farn yn gwywo 'fory,
Mi ddaliwn innau i ganu, Mentra Men,
Nes byddent yn aildyfu, Menna Wen.

Os gwelaist ddail yn syrthio, ar y pren,
A blodau 'r haf yn gwywo, Menna Wen.
   Perogli wedi marw
   Wna 'r dail sydd ar y bedw,
Gan ddal y tywydd garw, Menna Wen,
Pren cariad ydyw hwnnw, Menna Wen.

XIV.
ALAW,--Clychau Aberdyfi.

Wrth feddwl am y gangen gyll
   Ddanfonodd Menna imi;
Draw 'n y pellder clywwn swn
   Hen glychau Aberdyfi -
      "Menna eto fydd dy fun,
      Gad y pruddglwyf iddo 'i hun,
      Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,"
         Meddai clychau Aberdyfi.
   "Un-dau-tri-pedwar-pump-chwech
      Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,"
         Meddai clychau Aberdyfi.

Hawdd gan glychau ganu 'n llon,
   Tra na bo dim i'w poeni:
Hawdd yw cael gweniadau merch,
   Ond mil mwy hawdd en colli.
      "Menna eto fydd dy fun," &c.

Pe bai etifedd i wr mawr
   Yfory 'n cael ei eni;
I ganu cainc dechreuech chwi,
   Hen glychau Aberdyfi.
      "Menna eto fydd dy fun," &c.

Pe bai rhyw ddeuddyn yn y wlad,
   Yfory 'n mynd i'w priodi,
I ganu cainc dechreuech chwi,
   Hen glychau Aberdyfi,
      "Menna eto fydd dy fun," &c.

Pe bawn i fory 'n mynd i'r bedd,
   A'm calon wedi torri;
I ganu cainc dechreuech chwi,
   Hen glychau Aberdyfi.
      "Menna eto fydd dy fun,
      Gad y pruddglwyf iddo 'i hun,
      Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,"
         Meddai clychau Aberdyfi.
   "Un-dau-tri-pedwar-pump-chwech
      Cwyd dy galon, bydd yn ddyn"
      Meddai clychau Aberdyfi.

XV.

'R wyf wedi canu llawer
   O gerddi Cymru lan,
Ond dyma 'r darn prydferthaf
   Sydd gennyf yn fy nghan;
Ymhen rhyw flwyddyn wedyn,
   At Menna Rhen daeth brys,
Nes aeth yn Menna Mabon
   A modrwy am ei bys.

Yn mhen rhyw flwyddyn arall,
   A dyma ddernyn cain;
Pan oedd y gog yn canu
   A'r blodau ar y drain,
Yr wyn ar ben y mynydd
   Yn chware naid a llam,
Fe wenai Mabon bychan
   Ar freichiau gwyn ei fam.

XVI.

Ar ysgwydd y gwan fe ddaeth pwys
   Trafferthion a helbul y byd,
Fy nheulu gynyddodd, a daeth
   Gofynion am 'chwaneg o yd;
Ychwaneg o fwyd i'r rhai bach,
   Ychwaneg o lafur a thraul;
Er hynny yn nghwmni fy Men,
   Yr oedd imi gysur i'w gael.

Un gweryl a gawsom erioed,
   A chweryl dra chwerw oedd hon;
Fe yrrwyd fy hunan a'm gwraig,
   Ar ty'n bendramwnwgl bron. -
Yr oedd hi 'n bur hoff o roi tro
   I weled ei mam tros y bryn;
Ac wrth imi ddwedyd gair croes,
   Dechreuodd areithio fel hyn:-

"Cymeryd fy hel a fy nhrin,
   Fy maeddu heb ddarfod na phen:
Cymeryd pob tafod a rhenc,
   Fel pe bawn yn ddernyn o bren!
Ai dioddef fel carreg a raid,
   Heb deimlad--na llygad--na chlyw!
O! na wnaf, os gwelwch chwi 'n dda,
   Wnaf fi ddim er undyn byw!

"A chymer di fi ar fy ngair,
   Fe 'i cedwais erioed hyd yn hyn;
Cyn cei di fy ngwddf tan dy droed,
   Bydd dy ben yn eitha gwyn. -
Cymeryd diflasdod a chas,
   A galw fy modryb yn 'sgriw.' -
O! na wnaf, os gwelwch chwi 'n dda,
   Wnaf fi ddim er undyn byw!

"Ni flasa i fynd allan o'r ty,
   I weled fy chwaer na fy mam,
Nad codi 'r gloch fawr byddi di,
   Heb reswm, nag achos, na pham. -
Wna i mono fo, Alun, er neb,
   Mi gadwaf anrhydedd fy rhyw;
O! na wnaf os gwelwch chwi 'n dda,
   Wnaf fi ddim er undyn byw!

"'Does gen' ti 'r un galon o'th fewn,
   A phwyll yn dy goryn ni 'roed;
A gwae fi o'r diwrnod a'r awr [yn crio.]
   Y gwelais dy wyneb erioed!
Mi af tros y bryn at fy nhad,
   I'm hatal 'does undyn a wiw;
Ac aros yn hwy efo 'th di -
   Wnaf fi ddim--wnaf fi ddim!
   Wnaf fi ddim er undyn byw!"

Ac i ffwrdd yr aeth hi, ac i ffwidd y bu hi, ac i ffwrdd yr arosodd,
am nas gwn i pa hyd.  Ond tra yr oedd hi efo 'i mam a'i theulu, a
minnau yn fy helbul efo fy mhlant bach, mi genais gerdd i ysgafnhau
fy nghalon, ac fel hyn y cenais, -

XVII.

Mae 'r lloer yn codi tros yr aig
   Ac ogof Craig Eryri;
Ond beth yw cartref heb fy ngwraig,
   Ond ogof ddioleuni?
Y mae pob munud megis awr,
   Ac awr, O!  Menna, 'n flwyddyn.
Pe bawn i heno 'n dderyn to,
   Caet heno weled Alun.

O na bai cadair Morgan Mud,
   Neu un o'r hen freindlysau,
Yn mynd a fi, fy ngeneth wen,
   Tros ben y coed a'r caeau.
Mi rown fy ngwefus wrth dy glust,
   A gwnawn i ti freuddwydio;
Nes codet trwy dy gwsg i ddod,
   Yn ol at Alun eto.

Ond i fy nghadair wellt yr af,
   A cheisiaf huno, Menna;
Ac mewn breuddwydion cyn bo hir
   Mi ddeuaf innau yna.
Yn awr 'rwy 'n cau fy amrant swrth
   Wrth gychwyn i dy wyddfod;
Breuddwydia dithau, felly hed,
   A thyred i'm cyfarfod.

XVIII.

Mi dreuliais wythnos gyfan,
   A Menna bach i ffwrdd;
A'r ty yn llanast tryblith,
   A'r llestri hyd y bwrdd.
'R oedd gennyf was a hogyn
   Yn cynhauafa mawn:
Ac eisiau pobi bara
   A daeth yn fuan iawn.

'R oedd godro un o'r gwartheg
   Yn gasach na phob peth,
Oherwydd Menna 'n unig
   Gai gydied yn ei theth.
A throi yn hesp wnaeth pedair
   O'r gwartheg mwyaf blith;
A llaeth y lleill a surodd,
   A'r byd a drodd o chwith.

Ac am y gegin, druan,
   'R oedd hi heb drefn na llun:
Y plant ddechreuent grio,
   A chriais innau f' hun.
Mi flinais ar fy einioes,
   Aeth bywyd imi 'n bwn:
A gyrrais efo 'r hogyn
   I Menna 'r llythyr hwn:-

XIX.
ALAW,--Bugail Aberdyfi.

Mi geisiaf eto ganu can,
I'th gael di 'n ol, fy ngeneth lan,
I'r gadair siglo ger y tan,
   Ar fynydd Aberdyfi;
Paham, fy ngeneth hoff, paham,
Gadewaist fi a'th blant dinam?
Mae Arthur bach yn galw 'i fam,
   A'i galon bron a thorri;
Mae 'r ddau oen llawaeth yn y llwyn,
A'r plant yn chware efo 'r wyn;
O tyrd yn ol, fy ngeneth fwyn,
   I fynydd Aberdyfi.

Nosweithiau hirion mwliog du
Sydd o fy mlaen, fy ngeneth gu:
O! agor eto ddrws y ty,
   Ar fynydd Aberdyfi.
O! na chaet glywed gweddi dlos
Dy Arthur bach cyn cysgu 'r nos,
A'i ruddiau bychain fel y rhos,
   Yn wylo am ei fami;
Gormesaist lawer arnaf, Men,
Gormesais innau--dyna ben:
O tyrd yn ol, fy ngeneth wen,
   I fynydd Aberdyfi.

Fel hyn y ceisiaf ganu can
I'th gael di 'n ol, fy ngeneth lan,
I eistedd eto ger y tan,
   Ar fynydd Aberdyfi;
'Rwy 'n cofio'th lais yn canu 'n iach -
Ond 'fedri di, na neb o'th ach,
Ddiystyrru gweddi plentyn bach
   Sydd eisieu gweld ei fami.
Rhyw chware plant oedd d'weyd ffarwel,
Cyd-faddeu wnawn, a dyna 'r fel,
Tyrd tithau 'n ol, fy ngeneth ddel,
   I fynydd Aberdyfi.

XX.

Fe ddaeth yr hogyn adref,
   A rhoddodd sicrhad,
Fod Menna 'n mynd 'i aros
   Yn nhy ei mam a'i thad.
Os oeddem wedi priodi,
   Yn bendant dwedai hi
Nad oedd dim modd cymodi
   A dyn o'm tymer i.

Fod i'r holl fechgyn fyned
   I'w magu ganddi hi:
Ac i'r genethod ddyfod
   O dan fy ngofal i.
'R oedd hi yn ymwahanu,
   Ac felly 'n canu 'n iach;
Ond hoffai roddi cusan
   Ar wefus Enid fach.

A thrannoeth hi ddychwelodd
   I ddwyn y rhwyg i ben:
Ond O! fe dorrodd dagrau
   O eigion calon Men;
Cymerodd Arthur afael
   Am wddf ei fam a fi,
Ac fel rhyw angel bychan,
   Fe 'n hailgymododd ni.

XXI.

Wyddoch chwi beth, mae ffraeo
   Yn ateb diben da;
Pe na bai oerni 'r gauaf
   Ni theimlem wres yr ha;
Pe na bai ymrafaelio,
   Ni byddai 'r byd ddim nes,
Yn wir mae tipyn ffraeo
   'N gwneyd llawer iawn o les.

XXII.

Awel groes ar fy oes godai 'n gryf wedyn,
Daeth i mi adwyth mawr, clefyd, a thwymyn:
Rhoddai mhlant ddwylaw'n mhleth, ogylch fy ngwely,
Minnau 'n fud welwn fyd arall yn nesu.
Is fy mhen, ias fy medd deimlais yn dyfod,
A daeth ofn, afon ddofn, ddu i'm cyfarfod;
Ond 'roedd grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua,
A rhoi gwin ar fy min ddarfu fy Menna.

O! os bu ias y bedd, allan o'r briddell,
Hi a fu ennyd fer yn fy hen babell;
Yn fy nhraed teimlais waed, dyn wedi huno,
Ond fe drodd angau draw wedi fy nharo.
Fel y graig safai 'm gwraig anwyl yn eon,
Ac i'r nef, gweddi gref yrrodd o'i chalon:
Rhoi ei grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua,
A rhoi gwin ar fy min, ddarfu fy Menna.

XXIII.

      Ar ol fy hir gystudd,
      'Rwy 'n cofio 'r boreuddydd
Y'm cariwyd mewn cader dros riniog fy nor:
      Ac ar fy ngwyn dalcen
      Disgynnodd yr heulwen,
Ac awel o'r mynydd ac awel o'r mor.
      Ar ol imi nychu
      Yn gaeth ar fy ngwely
Am fisoedd o gystudd, o glefyd a phoen;
      Fy nghalon lawenodd
      Wrth weld ar y weirglodd
Y gaseg a'r ebol, y ddafad a'r oen.

      Trwy wenlas ffurfafen
      Fe wenai yr heulwen,
Ac mi a'i gwynebais, ac yfais y gwynt;
      A'r adar a ddeuent
      I'm hymyl, a chanent,
Nes teimlais fy nghalon yn curo fel cynt.
      Fy ngeneth ieuengaf
      Ac Arthur ddaeth ataf,
A gwenu mewn dagrau wnai Menna gerllaw;
      A daeth fy nghi gwirion,
      Gan ysgwyd ei gynffon,
A neidiodd i fyny a llyfodd fy llaw.

XXIV.

   Ond O! mae llawer blynedd,
   Er pan own gynt yn eistedd,
O flaen fy nrws tan wenau 'r haul;
   'Rol gadael gwely gwaeledd.
   A llawer tywydd garw
   Sydd er yr amser hwnnw,
Mae 'm plant yn wragedd ac yn wyr,
   A Menna wedi marw.

   Claddasom fachgen bychan,
   Ac yna faban gwiwlan,
Ond chododd Menna byth mo'i phen
   'Rol ini gladdu 'r baban.
   'Rwy 'n cofio 'r Sul y Blodau
   Yr aeth i weld eu beddau,
Pan welais arwydd ar ei gwedd,
   Mai mynd i'r bedd 'roedd hithau.

   Penliniodd dan yr ywen,
   A phlannodd aur-fanadlen,
Mieri Mair, a chanri 'r coed,
   A brig o droed y glomen.
   Y blodau gwyllt a dyfent
   Ar ddau fedd yn y fynwent;
Ond gywo 'r oedd y rhosyn coch
   Ar foch y fam a'i gwylient.

   Ac er pan gladdwyd Menna,
   Un fynwent yw 'r byd yma:
Y fodrwy hon sydd ar fy mys
   Yw 'r unig drysor fedda.
   Y fodrwy hon a gadwaf,
   Y fodrwy hon a garaf,
A dyma destun olaf cerdd,
   Gwreichionen awen, olaf.

XXV.

Mae Menna 'n y fynwent yn isel ei phen,
A thi ydyw 'r fodrwy fu ar ei llaw wen:
Ar law fy anwylyd rwy 'm cofio dy roi,
Ac wrth imi gofio, mae ni calon yn troi -
Fy llygaid dywyllant, a chau mae fy nghlyw,
'Rwyf fel pe bawn farw, ac fel pe bawn fyw:
Ond megis fy mhriod wrth adael y byd,
Mae modrwy 'r adduned yn oer ac yn fud.

Pan roddwyd ti gyntaf ar law Menna Rhen,
'R oedd coedydd yn ddeiliog, a natur mewn gwen,
Y clychau yn canu, a'r byd fel yn ffol, -
Ond cnul oedd yn canu pan ges i di 'n ol.
Mewn gwenwisg briodas y dodais i di,
O wenwisg yr amdo dychwelaist i mi;
O! fodrwy 'r adduned, nes gwywo 'r llaw hon,
Fe'th gadwaf di 'n loew, fe'th gadwaf di'n gron.

XXVI.

Aros mae 'r mynyddau mawr,
   Rhuo trostynt mae y gwynt;
Clywir eto gyda 'r wawr,
   Gan bugeiliaid megis cynt.
Eto tyfa 'r llygad dydd,
   Ogylch traed y graig a'r bryn;
Ond bugeiliaid newydd sydd
   Ar yr hen fynyddoedd hyn.

Ar arferion Cymru gynt,
   Newid ddaeth o rod i rod;
Mae cenedlaeth wedi mynd,
   A chenedlaeth wedi dod.
Wedi oes dymestlog hir,
   Alun Mabon mwy nid yw;
Ond mae 'r heniaith yn y tir,
   A'r alawon hen yn fyw.





*** End of this LibraryBlog Digital Book "Ceiriog" ***

Copyright 2023 LibraryBlog. All rights reserved.



Home