Home
  By Author [ A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z |  Other Symbols ]
  By Title [ A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z |  Other Symbols ]
  By Language
all Classics books content using ISYS

Download this book: [ ASCII ]

Look for this book on Amazon


We have new books nearly every day.
If you would like a news letter once a week or once a month
fill out this form and we will give you a summary of the books for that week or month by email.

Title: I'r Aifft Ac Yn Ol
Author: Jones, D. Rhagfyr
Language: Welsh
As this book started as an ASCII text book there are no pictures available.
Copyright Status: Not copyrighted in the United States. If you live elsewhere check the laws of your country before downloading this ebook. See comments about copyright issues at end of book.

*** Start of this Doctrine Publishing Corporation Digital Book "I'r Aifft Ac Yn Ol" ***

This book is indexed by ISYS Web Indexing system to allow the reader find any word or number within the document.



[Illustration: _YR AWDWR._]



                             I’R AIFFT
                                 AC YN OL:



                                 GAN Y

                        Parch. D. RHAGFYR JONES,

                                TREORCI.



                               GWRECSAM:
                       Hughes a’i Fab, Cyhoeddwyr

                                 1904.



                              CYFLWYNIAD.


                                  I’R
                   Henadur E. H. Davies, Ysw., Y.H.,
                            PENRE, RHONDDA,
                      YR HWN YN GYNTAF A GEISIODD
                    GENYF WNEUD MOES-GYFARCHIAD YN Y
              FFURF YMA I’R CYHOEDD ODDIAR LWYFAM Y WASG,
                 A’R HWN SYDD YN DYFOD YN FWY HYSBYS O
                    FLWYDDYN I FLWYDDYN YN EI ENWAD
                     A’I WLAD FEL UN O’R BONEDDWYR
                       MWYAF LLENGAROL, DYNGAROL,
                             A CHRISTGAROL,
                Y CYFLWYNAF Y GYFROL FECHAN ANELWIG HON,
                           TRWY EI GANIATAD.



                              RHAGDRAETH.


YMAE llawer wedi ei ysgrifenu ar ymweliadau â’r Aifft a Chanaan, o dro i
dro, mewn ieithoedd eraill yn gystal ag yn y Gymraeg. Ond credaf fod lle
i’r llyfr hwn, am ei fod yn wahanol i’r rhan fwyaf, os nad yr oll, o’i
gyfathrach.

_Bydd yn fwy personol._

Yma ceir y golygfeydd a’r digwyddiadau nid yn sefyll allan ar eu pen eu
hun, fel pethau diberthynas; yn hytrach deuant atom â lliw myfyrdod y
gweledydd arnynt i gyd. Bydd arddull ac argraffiadau meddyliol yr awdwr
yn rhan o honynt, ac yn eu gwneud felly yn wahanol i’r hyn ydynt gan neb
arall.

Nid yw llyfr o fath hwn i’w restru ymysg arwein-lyfrau (_guide-books_) a
phethau o’r fath: llenyddiaeth ydyw, ac fel llenyddiaeth y mae i’w
ddarllen a’i fwynhau. Os na fydd y darllenydd yn cydweled â phobpeth,
bydd hyny’n glod i’r awdwr ac iddo yntau, fe ddichon; oblegid gwn mai
hoffach gan yr awdwr fydd deffro meddwl, a’i gadw ar ddihun, nag enill
rhywysgafn-air ogymeradwyaeth teg yr olwg arno, ond byr ei hoedl.

Os daw’r llyfr â ni i adnabod yn well y Dwyreinfyd didwrf, cryd yr hil a
chryd ein crefydd, bydd hyny yn dâl am ei ddarllen ac am ei ysgrifenu.

                                                             ELFED.

    Llundain: Gorphenaf, 1904.



                              Gan GWYLFA.


                  Lle mae’r _Nile_ yn llifo’n llachar
                    Buost yn ymdeithydd llesg,
                  Lle bu _Joseph_ yn y carchar,
                    Lle bu _Moses_ yn hesg;
                  Ac wedi gweled byd mor bell,
                  Difyr oedd d’od i _Gymru_’n well.

                  Un o’m hoff freuddwydion inau
                    Oedd cael gwel’d y _lotos_ pêr,
                  A phob un o’r pyramidiau
                    Tan ei goron wen o sêr:
                  Ond mwyach ni rwgnachaf fi,
                  Mae’r _Aifft_ i gyd yn dy gyfrol di.

                  Yno mae yr _Arab_ hapus,
                    Yno mae y _Sphinx_ diwên;
                  Bywyd yn segurdod melus,
                    Harddwch yn bererin hen:
                  A dyma wlad y rhamant fawr
                  Mewn cyfrol fach _Gymreig_ yn awr.

                  Plygodd hi ei haden dirion
                    Dros fy Iesu y’more’i oes,
                  A hi ofalodd yru _Simon_
                    Tua’r bryn i ddwyn ei Groes:
                  Gwell yw anghofio’i gorthrwm cas,
                  A chofio’r _Aifft_ y’nyddiau’i Gras.

                  _Mehefin_, 1904.



                            GAIR YN EI BRYD.


TEG yw d’we’yd i lawer o gynwys y llyfryn hwn ymddangos mewn rhifyne o’r
_Celt_ a’r _Tywysydd_; eto, ceir yma dwsged o bethe’n gwel’d gole’ dydd
am y tro cynta’, heblaw fod y lleill dipyn yn fwy trwsiadus eu lliw a’u
llun. Prin y b’aswn yn eu cyhoeddi mewn ffurf mor ymhongar oni bai am
gymelliade cyfeillion, y penaf o ba rai yw’r boneddwr y cyflwynaf y
llyfryn iddo. Ceisiaf yn ostyngedig i’r cynorthwyon fod gryfed a’r
cymelliade, fel na bo i farug Siomiant ddifa blagur f’anturiaethe
llenyddol.

Mae’r un mor deg hefyd imi grybwyll enwe a chydnabod persone a wnaethant
fy nhaith yn gysurus a llwyddianus drwy eu caredigrwydd ffodus a
diffwdan. Heblaw f’eglwys fy hun yn y cyfanswm o honi, na’r hon nid oes
ei gwell y’_Nghymru_, dyna W. _Phillips_, Ysw., Cynghorwr W. T. _Jones_,
Ysw., D. _Morgan_, Ysw., Mri. T. E. _Jones_, A. _Pimm_, a _Henry Jones_,
o _Dreorci_; y Parch. J. R. _Davies_ a’i deulu dedwydd, _Caerdydd_; J.
_Davies-Bryan_, Ysw., _Alecsandria_; E. _Davies-Bryan_, Ysw., _Cairo_;
y’nghyda thri o “o fechgyn” yr ola’, sef _Jones_, _Huws_, a _Roberts_.
Dymunaf ore’ deufyd iddynt oll, a bendith gwraig a phlentyn dros ben.

                                                   Oddiwrth yr AWDWR.



                               CYNWYSIAD.


                                   PENOD.                 TUDAL
                                                              .

                I. Parotoade                                  1

               II. Y Llong a’i Phreswylwyr                    6

              III. Rhagor am y Criw a’r Swyddogion           11

               IV. Bywyd bob Dydd                            16

                V. Rhagor am y Bywyd bob Dydd                20

               VI. Ar y Daith                                26

              VII. Fy Nyddiadur                              32

             VIII. Dalen arall o’m Dyddiadur                 38

               IX. Un arall eto                              43

                X. Glanio                                    48

               XI. Mewn Dalfa                                54

              XII. Trem oddiar y Trothwy                     59

             XIII. Ffawd a Ffwdan                            64

              XIV. Ar Grwydr                                 73

               XV. Yn y Tren i Gairo                         81

              XVI. Cairo wedi’r Dydd                         88

             XVII. Cairo wedi’r Nos                          95

            XVIII. Anturiaethus                             101

              XIX. Byd ac Eglwys                            107

               XX. Ar yr Afon                               118

              XXI. Lle bu’r Mab Bychan                      126

             XXII. Ar Fin yr Anialwch                       134

            XXIII. Ychydig o Friwfwyd Gweddill              142

             XXIV. Yn Ol                                    152



                               DARLUNIAU.


                                                           TUDAL.

         Yr Awdwr.                              (_Wyneb-ddarlun_)

         Alecsandria. _I wynebu tud._                           9

         Cairo. _I wynebu tud._                                41

         Pont dros y Nile. _I wynebu tud._                     89

         Dan y Palmwydd. _I wynebu tud._                      105

         Myfyrio’r Coran. _I wynebu tud._                     121

         Darn o’r Bazaar. _I wynebu tud._                     137

         Cheops a’r Sphinx. _I wynebu tudal._                 153



                                PENOD I.


                                   *

                               PAROTOADE.

PAN o’wn yn hogyn bychan, yn yr oedran ag y mae plant yn cael eu cyfri’
gan eu rhïeni y tu hwnt o gall, a phob gair a dd’wedant yn cael ei
gadarnhau â chwerthin, ei drysori yn y cof, a’i drotian allan er budd y
cym’dogion bob tro y ceir cyfle—mi glywes fodraboedd imi yn d’we’yd fy
mod yn araf sillebu un o’r Salme ar brydnawn Sul, ac, wedi cael gafel go
lew ar yr ymadrodd cynta’, imi droi yn sydyn at ’rhen ŵr ’nhadcu, yr hwn
oedd yntau’n ymlwybro drwy’r wythfed benod o’r Rhufeinied ar ei ffordd
i’r Ysgol, a gofyn iddo:

“’Nhaid, ddoi di i’r _Aifft_?”

’Ro’em ein dau yn bur hy’ ar ein gilydd, er ei fod e’ flynydde yn hŷn na
mi. _Ti_ a _tithe_ oedd y dull o siarad rhyngom fynycha’, oblegid yn fy
myw y gallwn wel’d y cysondeb o arfer y person cyntaf unigol pan yn
siarad â Duw, a’r person cynta’ llïosog pan yn siarad â dynion. Bid fyno
am hyny, bu’r hen bererin am amser y’methu sylweddoli cwestiwn ei ŵyr,
ac ebai’n hurt:

“By-be’ ddeudest ti? I’r _Aifft_? Be’ ’nawn ni fan hono?”

“Wel,” meddwn, “mae acw ddigon o le, weldi;” ac yr wyf yn dra sicr nad
oedd neb yn cael mwy o le yn y fan lle’r oedd na myfi.

“Sut y gwyddost ti hyny?” gofynai drachefn, gan edrych dros ei ’spectol.

“Ond ydi’r Beibil yn deud fod _Israel_ wedi myn’d odd’no,” meddwn; a mi
ddarllenes mewn tôn fuddugoliaethus:

“Pan aeth Israel o’r Aifft, tŷ Jacob oddiwrth bobl anghyfiaith!”

A f’ymresymiad i oedd—os oedd _Israel_ “wedi myn’d odd’no,” nad oedd
dim i’n lluddias ni i fyn’d a meddianu’r wlad.

Beth bynag oedd fy syniad y pryd hwnw am fyn’d i’r _Aifft_, mi wn imi
fod am dros ddeng mlynedd ar hugen wed’yn na freuddwydies am y
posibilrwydd o hyny. Ond pan agorodd y ganrif bresenol ei llyged, daeth
breuddwyd y plentyn i ben yn rhanol. Mi es i yno, ond heb yr hen ŵr. Y
rheswm na ddaethe efe gyda mi i’r _Aifft_ oedd, ei fod wedi myn’d i
_Ganaan_ flynydde cyn hyny. Ac o’r ddau, efe gafodd y fargen ore’.

Pe bawn yn tueddu at fod yn ofergoelus, gan osod coel ar bethe a elwir
yn arwyddion ac argoelion, ni chychwynaswn byth. Heb roi mymryn gormod o
liw ar yr helynt, yr oedd fel pe bai ryw impyn maleisus yn chware’ ei
brancie â mi o’r diwrnod y penderfynes gychwyn.

Os ydych yn ame’, gwrandewch.

Gan mai er mwyn y fordeth yn bena’ yr o’wn y’myn’d, rhaid oedd cael
llong a fuase’n treulio mwy o amser ar y dw’r na llonge teithio
cyffredin. Ond pan aed ati i chwilio am long o’r desgrifiad, bron nad
aech ar eich llw eu bod wedi myn’d i waelod y dw’r bob un. O’r diwedd,
ar ol i deliffôn _Abergorci_ grygu, ac i gwmnïe _Caerdydd_ ddechre
dangos gwỳn eu llyged, dyma genadwri’n d’od fod llong wedi ei chael oedd
y’myn’d bob cam i _Alecsandria_ heb ymdroi dim ar y ffordd, a taw gore’
pa gynta’ i mi oedd setlo’n bersonol â’r swyddogion y’_Nghaerdydd_.

Trefn y dydd bellach oedd ffrwst a thrwst a thryste, a mi ro’wn yn y
swyddfa’n talu’r llong−lôg yn yr amser a gymer i ambell bregethwr
besychu. Ar ol cwblhau hyny o wasaneth, i ffwrdd a mi i swyddfa
arall—swyddfa’r Bwrdd Masnach; ac ni welsoch y fath firi erioed.
Y’nghanol y casgliad rhyfeddaf o feibion dynion—yn wỳn, a du, a choch,
a melyn, yn faw, a sâ’m, a saw’r, o’r _Cymro_ i’r _Chinëad_, ac o’r
_Gwyddel_ i’r _Hindŵ_; y rhai oedd yno naill ai i _gael_ eu cyflogi,
neu, _wedi_ eu cyflogi, yn cymeryd yr ardystiad (nid y dirwestol), ac yn
derbyn ernes eu cyfloge—mi es ine at y bwrdd i arwyddo fy nghydsyniad i
was’naethu fel _talydd_ ar y llong y bum yn setlo â hi, hyd nes y
dychwele o’r fordeth hono; a mi foddlones i dderbyn swllt y mis am fy
ngwasaneth. Mi gefes chwecheiniog o ernes cyn symud o’r fan: ond
rhyngoch chwi a mine, mae’r cenafon yn fy nyled o’r gweddill hyd heddyw.
Prif waith y talydd mewn llong gargo, fel yr awgryma’r enw, yw talu
arian y criw fel bo’r angen arnynt; a cheisie’r perch’nogion a’r cadben
osod yn fy mhen taw mantes i mi mewn mwy nag un ystyr oedd bod ynddi fel
swyddog, ac nid fel teithiwr. Y’mysg manteision erill, golyge y caffe fy
nghelfi lonydd gan swyddogion y dollfa wedi i mi gyredd y làn draw.

Mi es ar y bwrdd yn brydlon, a thri o ffyddlonied yr achos hefo mi—un o
ba rai gychwynodd gyda mi ar fordeth arall dros ugen mlynedd yn ol,
mordeth sydd heb “fwrw angor” iddi eto. Rywbryd yn ystod y dydd,
cliriwyd y dec, a ffarweliwyd yn gynes; a rywbryd yn ystod y nos codwyd
yr angor, a dechreuwyd ageru i gyfeiriad y _Sianel_. Ond cyn ini adel y
_Basin_ yn y _Bari Doc_—a phrin y tramgwyddai’r un trochwr wrth y
_basin_ hwn—pan oedd y llong o fewn haner ergyd careg i’r agorfa sy’n
arwen i’r môr, dyma floedd! a bloeddiade! a chwiban! a sŵn! a chrac! A
chyn imi wybod fod dim allan o le’n bod, dyma’r cadben yn d’od ataf yn
gyffrous, ac yn d’we’yd:

“_I’m afraid, Sir, you will have another fortnight on shore!_”

Ac felly bu. Y’mhen y pythefnos i’r diwrnod hwnw y cefnais ar ddoc y
_Bari_. Yn ystod y pythefnos yna, nid o’wn yn perthyn i dir, na dw’r,
nac awyr—hyny yw, nid o’wn na phregethwr, na dïacon, nac aelod
cyffredin; a phe cyfarfyddase fy nghyfell gore’ â mi ar ’stryd
_Caerdydd_ y dyddie hyny, dodase fi i lawr fel morwr ar dramp, neu
grimpyn yn chwilio am ’sglyfeth. A dyna oedd y drychineb: angor llong
arall oedd wedi myn’d i mewn i ystlys y llong ’ro’wn i arni, a’i rhwygo
ychydig islaw i wyneb y dw’r. Bu raid ei haner dadlwytho mewn canlyniad,
a’i gyru i’r ysbyty am bedwar diwrnod-ar-ddeg cyn iddi dd’od yn ffit i
ail gychwyn.

A dyna o’wn yn hala ato, ys d’wedai un o garitors _Brutus_: pe bai
rywfaint o ofergoeledd yn llechu dan fy ngwasgod, mi wnaethwn fy meddwl
i fyny’n ddi-droi-yn-ol taw bys Rhaglunieth oedd yma yn dangos y ffordd
yn ol i _Dreorci_, ac nad oedd ond dyfrllyd fedd yn f’aros, os mai mỳnu
myn’d i’r môr a wnawn. Ond mentrodd un f’adgofio o’r hen air sy’n
d’we’yd nad oes boddi i fod ar y dyn ga’dd ei eni i’w grogi! Wel,
meddwn, os taw felly y mae, fe gaiff “Dafydd Jones” y siawns gynta’.

Ac am saith o’r gloch, yr unfed-ar-hugen o’r mis bach, yn y flwyddyn un
fil naw cant ac un, aethom allan gyda’r llanw i’r _Sianel_ ac i’r nos.



                               PENOD II.


                                   *

                        Y LLONG A’I PHRESWYLWYR.

HWYRACH yr hoffech wybod am y tŷ yr o’wn yn byw ynddo’r pythefnos nesa’,
a’r dynion oedd yno’n byw hefo mi.

Nid yw mesuriad y llong genyf wrth law, tae fater am hyny; ond yr oedd
yn llai na llong deithwyr, ac yn fwy na llong bysgota. Ymddangose’n fwy
yn y doc nag ar ganol y dwr, ond yr oedd o faintioli mwy na’r cyffredin
o’r dosbarth y perthyne iddo. Yr oedd golwg anghynes arni pan yn cael ei
llwytho, a llwch glo dros ei gwyneb i gyd. Ofnwn taw golwg anghynes
fydde arnaf fine hefyd os taw dyna oedd ei chyflwr i fod hyd ddiwedd y
daith. Pan es i gysgu’r noson gynta’, yr oedd can ddued a’r glöyn; pan
ddeffröes y bore’ cynta’, yr oedd can wyned a’r carlwm. Ni weles erioed
drawsffurfiad mor fawr mewn amser mor fyr, oddigerth ar gyflwr ambell i
ddyn.

Heblaw’r dec isa’, yr hwn a ymestyne o’r naill ben i’r llall o honi, yr
oedd iddi dri dec ucha’,—un o’r tu blaen, un o’r tu ol, ac un yn y
canol. O dan y dec blaen yr oedd ystafelloedd y criw a’r tanwyr, lle y
bwytaent ac yr yfent, a’r lle hefyd y cysgent,—trindod o ddyledswydde
ag oedd yn gofyn cymwysdere neillduol i’w cyflawni yn y fan hono. O dan
y dec canol yr oedd cabane’r peirianwyr, dri o honynt; a dyma’r lle gore
ar y llong i fyn’d drwy rai dyledswydde cynil yn gysurus (megis eillio,
er engraff), am mai dyma lle teimlid ei hysgogiade leia’ o bobman. O dan
y dec ol yr oedd ystafelloedd y cadben, y ddau brif swyddog, a’r
’stiward. Dyma hefyd lle’r oedd f’ystafell ine, a’r prif gaban lle’r
eisteddem i fwyta. Ar y dec canol yr oedd ystafell breifat arall, lle
bydde’r cadben a’r swyddogion yn marcio taith y llestr wrth y siart.
Mewn cysylltiad â hon yr oedd ystafell yr olwyn. Yr olwyn sy’n
llywodraethu ysgogiade’r llestr, ac yr oedd ei gofal ar bedwar o
ddynion, y rhai a gymerent ddwyawr bob un i’w throi. Uwchben y darn yma
drachefn yr oedd y bont, yr hon a gyraedde o ochr i ochr ar draws y
llestr yn ei man lletaf. Ar y bont y bydde’r gwyliedydd yn cerdded yn ol
a blaen dros ei orie gwylio; ac un o’m prif ddifyrion oedd bod gydag e’
am awr ar noson dywell, pan fydde’r môr yn arw a’r llong yn siglo. O’r
dec canol i’r dec ol yr oedd pont arall yn rhedeg gyda hyd y llestr, yr
hon a arbede ini fyn’d i’r dec isa’ pan fydde arnom eisie croesi o’r
naill i’r llall.

Ar y dec isa’ yr oedd y goginfa, y fynedfa i’r peiriandy odditanodd, a’r
agorfeydd i’r seleri lle cedwid y cargo. Yr wyf y’meddwl imi dd’we’yd
eisoes taw llwyth o lo oedd genym y’myn’d allan, ac at y wybodeth yna yr
wyf yn ychwanegu taw llwyth o wynwyn a hade cotwm oedd genym yn
dychwelyd. Yr oedd y glo i lawr yn y seleri o’r golwg, ond yr oedd y
wynwyn yn ffetaneidie uchel ar dop yr agorfeydd y sonies am danynt, ac
yn cyraedd i fyny hyd at yr ail bont a rede gyda hyd y llestr. Nid yw’r
swyddogion a’r criw y’malio fawr am lwyth o’r natur yma, am ei fod yn
’chwanegu at risg y llong ar dywydd garw.

Heb imi fyn’d ar ol y manylion, dyna i chwi ryw syniad am adeiladeth y
caban coed y bum yn byw ynddo am y pythefnos nesa’. Bellach at ei
breswylwyr.

Dim ond un _Cymro_ oedd ar y bwrdd heblaw fy hunan, a _than_ y bwrdd y
bydde hwnw gan amla’, oblegid peirianydd ydoedd. Safe’n drydydd yn y
dosbarth. Hon oedd ei fordeth gynta’, ac yr oedd yn wrthrych cyfleus
iawn i’r bechgyn erill hogi eu tafode arno. Cymere arno wybod y cwbl ond
sut i siarad _Cymraeg_, a mi ges allan cyn diwedd y daith taw siarad
_Cymraeg_ oedd y peth gore’ all’sai wneud. Pan aethom allan, yr oedd mwy
o wynt, a nwy, a chalch ynddo na dim arall; erbyn ini gyredd _Môr y
Canoldir_, yr oedd ei ddillad lawer rhy fach iddo.

Brodor o _Ogledd Lloegr_ oedd y prif beirianwr, a’r mwyaf anodd ei
ddeall yn siarad o neb a glywes erioed. Heblaw fod ei dafodieth yn flêr,
a’i lais yn debyg i ffliwt wedi cael anwyd, yr oedd ganddo dric
annymunol o siarad yn ei wddf, yr hyn a’i gwnai’n boenus i wrando arno.
D’wedais “Ië” wrtho ganweth pan ddylaswn dd’we’yd “Nage,” a “Do” pan
ddylaswn dd’we’yd “Naddo;” eto mi gredaf fy mod yn llai cyfrifol am hyny
nag am lawer o bethe.

[Illustration: _ALECSANDRIA._]

Bachgen o’r un gym’dogeth oedd yr ail beirianwr, a chân ar ei wefus
drwy’r dydd. Gwydde am holl ganeuon y dawnsdai, am holl ffraethebion y
chwareudai, ac am holl ’streuon y clybie. Clywes ef yn canu mewn
cyngherdde droion yn _Alecsandria_, ac yr oedd yn debycach o gael encôr
na neb. Yr oedd ei lais yn uwch na llais pawb, a’i chwerthiniad i’w
glywed mewn cystadleueth a’r elfene. Bu’n help i godi f’ysbryd i
sgoroedd o weithie, pan y bygythie fyn’d yn is na f’esgidie.

O dan y rhai hyn ceid y tanwyr,—y dosbarth isa’u moese ar y llestr.
Cy’d ag y bu’r llong yn _Alecsandria_, ni wnaeth y llabystied hyn ond
meddwi, ymladd â’r heddgeidwed, a threulio nosweithie dan glo. Mi weles
un o honynt yn taro’r prif swyddog yn ei fedd’dod, ac yn cael ei osod
mewn gefyne am hynny. Bu’n gorwedd ar y dec am orie’n rhwym wrth un o’r
ateg-byst, yn engraff truenus o “dwyll pechod.” Codasant eu harian i gyd
cyn cychwyn ar y fordaith adre’, a gwariasant bob dime goch ar wirod, a
myglys, a dirwyon; ac erbyn i’r llong gyredd _Lloegr_, nid oedd ganddynt
ffyrling ar eu helw, na hatling i ymgroesi.

Adwaenid y saer y’naturiol iawn wrth yr enw _Chips_. Brodor o _Norwe_
oedd efe, ac yn ddyn trigen oed. Un o garitors y llong oedd y saer. Yr
wyf yn cofio ei fod yn gwneud rhywbeth i’w hystlys ar ddiwrnod pur
frochus, pan y llithrodd tòu o gryn faintioli drosodd, gan ei daro yn ei
wyneb nes syrthio o hono’n fflechtan ar y dec. Tybiwyd am foment ei fod
wedi ei ladd neu ei foddi; a phan ddaeth ato’i hun, y peth cynta’
dd’wedodd oedd ei fod wedi llyncu llon’d ei safn o hoelion!

“Gwell iti lyncu’r mwrthwl eto, _Chips_,” ebe’r ail beirianwr.

Mae’n debyg fod yr hoelion ganddo yn ei safn, yn ol arfer seiri, pan
ddaeth y dòn, a chan na welwyd yr un o honynt wed’yn, nid gwaith anodd
oedd credu iddynt oll fyn’d i lawr ei gorn gwddf. Byth ar ol hynny,
’doedd dim a yrai _Chips_ allan o’i bwyll yn waeth na gofyn iddo wrth
basio am fenthyg yehydig hoelion. Tebycach fyddech o gael y morthwyl at
eich pen, oni phrysurech eich camre.

D’wedais fod gofal yr olwyn ar bedwar o ddynion, y rhai a gymerent
ddwyawr bob un i’w throi. Llanc o _Gernyw_ oedd un, ac ymddangose mor
anystwyth ei symudiade a phe buase wedi bod yn labro hyd y funud hono.
Cydwladwr i _Chips_ oedd y llall, yr hwn oedd y’ngafel y declein. Am y
ddau arall, mae genyf chwedl i’w hadrodd, os deil eich amynedd heb
fethu.



                               PENOD III.


                                   *

                    RHAGOR AM Y CRIW A’R SWYDDOGION.

GWYDDEL oedd un, a llanc o’r _Eidal_ oedd y llall. Hen grëadur difyr a
dyddan oedd y blaena’, a’i brofiad o’r môr yn haner cant oed. _Ryan_
oedd ei enw. Yr oedd yr ola’ drachefn mor ffyddlon a pharod a neb ar y
llong, a’i enw’n _Angelo_. Ffrindie calon oedd y ddau, fel y profa’r
’stori wyf y’myn’d i’w hadrodd.

Pan oedd y llong yn ymyl y cei yn _Alecsandria_, yr oedd _Ryan_ yn
paentio’r ochr tu fa’s iddi. Safe ar rafft oedd a’i dadgysylltiad lawer
y’nes na dadgysylltiad yr Eglwys Wladol; ac yr oedd wedi d’od ar ei hynt
i ymyl gwàl y cei, pan y tarodd yn ei ben i ddringo’r wàl gyda help ochr
y llestr, yn hytrach na throi’n ol i’r fan lle’r oedd yr ysgol. Ond buan
y cafodd _Ryan_ wybod taw’r ffordd bellaf yw’r ffordd agosaf, ac felly,
trwy gwrs o ymresymiad greddfol, taw’r ffordd feraf yw’r ffordd hiraf yn
aml. Pan dybiodd ei fod wedi cael un droed i wagle dïogel yn y wàl, gan
ddefnyddio’r ddwyfraich i wasgu’n erbyn y wàl ar y naill du, ac yn erbyn
ochr y llong ar y tu arall—rhoddodd wth i’r rafft oedd dano â’r droed
oedd yn segur, nes ymsaethu o honi i bellder boddhaol. Pan ddes i droi’r
peth yn fy meddwl wedy’n, bu raid i mi adde’ i mi fy hun fod y _Gwyddel_
yn siwr o fod wedi cael ffit o’r bendro. A mi dd’wedaf y rheswm pa’m.

’Doedd dim yn galw arno i yru y rafft i ffwrdd mor ddiseremoni. Ni fuase
ar ei ffordd o gwbl, oblegid i fyny’r amcane’r dyn fyn’d, ac nid i lawr;
ond bu ei waith yn gwneud i ffwrdd â hi y’mron a sicrhau ei fynediad i
lawr yn lle i fyny. A dyna lle’r oedd yn hongian gerfydd ei freichie,
neu wrth ei benelinoedd yn hytrach—un droed yn y wàl, a’r droed arall
yn siglo fel pendil cloc uwchlaw’r dw’r. Yr oedd fel pe b’ai mewn feis;
ni fedrai newid ei safle pe gwelai sharc yn ffroeni ei sawdl. Aeth i
ddechre gwanhau. Bygythie ei ddwyfraich ei ollwng i’r dyfnder
odditanodd; ac yn y sefyllfa beryg’ hono, dyma rês o’r oernade mwya’
torcalonus yn dod oddiwrtho:

“_Angelo! Angelo!_”

Digwyddwn fod yn eistedd ar y pŵp uwch ei ben, mewn anwybodaeth cysurus
o’r helynt ddifrifol odditanaf; a phan ddaeth y floedd, bu agos imi
neidio dros y bwrdd gan ei sydynrwydd a’i gwawch. Edryches i lawr, a
dyna lle’r oedd _Ryan_, druan, yn edrych fel ’sgadenyn wedi ei ’sgiwrio,
ac yn gwaeddi “_Angelo!_” nes rhwygo’r awyr. Yr oedd gwàl y cei bellach
yn frith o frodorion; ac yn lle estyn llaw o gymorth i’r creadur,
chwarddent am ei ben, a dynwaredent ef yn galw ar _Angelo_. Mae hwnw’n
d’od yn union, a’i wynt yn ei ddwrn; ac ar ol eryn ffwdan, codwyd y
_Gwyddel_ i’r làn yn fwy marw na byw. Os oedd lle, yr oedd y ddau yn
hoffach o’u gilydd nag y buont erioed.

Dyn tàl, tene’, oedd y cogydd, mewn tipyn o oed, tebyg i grydd,
brasderog ei olwg, a bysedd un o’i ddwylo heb fod ganddo. Nid oedd cofio
am y cogydd yn un help i mi i fwyta pryd o fwyd, a gwnawn fy ngore’ i
wadu ei fodolaeth cy’d ag y byddwn wrthi.

Personolieth tra gwahanol oedd i’r stiward. Dyn byr, tew, oedd efe, o’r
un hyd a’r un lêd, glân ei groen a syber ei wisg—a’r gore’ o neb oedd
ar y llong i gerdded y dec pan fydde’r llestr yn chware’ _Euclid_ ac yn
delio mewn ongle. Yr oedd ei ystafell o dan yr un tô a’r prif gaban, a
da oedd genyf gael ei gwmni pan fydde’r elfene’n gwneud pêl droed o’r
hen long. Mi weles y ’storm yn gwneud galanas enbyd ar ei lestri un
tro—ymdroellent o gwmpas ein pene fel cerig, a tharawent yn erbyn eu
gilydd yn y modd mwya’ nwydwyllt a dïalgar. Mi glywes y weilgi wyllt
oddiallan yn taro’n erbyn y pared ddwseni o weithie tra’r eisteddwn
gyda’r ’stiward, a hyny gyda’r fath swn a nerth, nes credu o honof fod y
cwbl yn d’od i fewn, a rhagor. Prin y rhodde neb bisin grôt am fy hoedl
y prydie hyny; ac oni buase fod y stiward genyf yn gwmni, mi fuase’n
ddrud am bisin tair. Mae genyf gof pleserus am ei garedigrwydd didrwst
sgoroedd o weithie; ac yr oedd gwel’d ei wyneb crwn, heulog, wrth fy
ngwely bob bore’, ar wahan i’r coffi sawrus a gariai yn ei law, i mi fel
gwel’d gwyneb angel.

Deuaf yn awr at y swyddogion a’r cadben.

Cydwladwr i _Ryan_ oedd yr ail swyddog, ’beitu dwy ar hugen oed, heb
flewyn ar ei wyneb na deilen ar ei dafod, yn forwr bob modfedd o hono,
a’i symudiade’n d’we’yd yn uwch am y llong hwylie nag am y llong ager.
Yr oedd cystal chwibanwr a’r ail beirianydd am ei ddanedd, ond ni
chlywes i rêg erioed yn d’od allan o’i ene’, er ei fod yn d’od i
gyffyrddiad agosach â’r criw na’r prif swyddog. Bu hefo mi mewn
gwasanaeth crefyddol ragor na siwrne. Presbyteriad oedd o ran y ffydd.
Nid oedd ganddo y cydymdeimlad gwanaf â _Home Rule_, am y crede fod
hyny’n gyfystyr â _Rome Rule_ yn syniad y cynhyrfwyr Gwyddelig.

Brodor o _Denmarc_ oedd y prif swyddog, prin ddeugen oed, a golwg tywydd
garw ar ei wyneb-pryd. Mae’n debyg fod ei gyfran o hwnw’n fwy na’r
cyffredin. Yr oedd croen ei wyneb wedi myn’d fel memrwn, a difyr oedd ei
glywed y’myn’d dros ei helyntion. Mi dreulies lawer awr yn ei gwmni ar y
bont ac yn ei gaban; ac ni rodde dim fwy o foddhad iddo na sôn am ei
wraig a’i blant, at y rhai y medde gariad y tu hwnt i bobpeth. Croge
darlun mawr o honynt uwchben ei wely, ar yr hwn y sylle nes cwympo i
gysgu; ac yr oedd darlunie llai yn britho’r ystafell drwyddi. Ysgrifenu
gartre’ oedd ei bleser mwya’, ac ni weles ddyn erioed yn gallu taflu ei
gydwybod yn llwyrach i’w waith. Ni wnele eithriad o bryd bwyd, ond
clirie beth bynag a osodid ger ei fron gyda’r cydwybodolrwydd mwya’
cysurus.

Un o _Canada_ oedd y cadben. Hon oedd ei long gyntaf a’i ail fordeth yn
y cymeriad hwnw. Dyn byr, tywyll, ’sgwarog, penderfynol ydoedd—ei drem
yn waharddiad, a’i air yn ddeddf. Fel rheol, prin oedd ei eirie a phell
ei osgo. Ond ryw noson, pan oedd gwynt cythryblus yn ymosod arnom o
_Gulfor Lyons_, a’n dau yn eistedd yn ystafell y siart, adroddodd ei
hanes i gyd wrthyf mewn llai na theirawr. O hyny allan, nid oedd gyment
dirgelwch i mi a chynt. Yr oedd yn llwyrymwrthodwr cadarn, yn ysmygwr
difefl, yn ddarllenwr mawr, yn fwytawr bychan, yn feistr cryf, ac yn
foneddwr o’i goryn i’w sawdl. Bu gwylio’i hunanfeddiant a’i bwyll mewn
adege o berygl yn help i mi droion i feddianu f’ened fy hun mewn
amynedd. Efe oedd fy nghwmni yn _Alecsandria_ b’le bynag yr awn, a
gwydde am bob twll a chornel o’r ddinas. Yr oedd yn ddyn o arg’oeddiade
crefyddol dyfnach na chyffredin, a chane done _Sanci_ yn y gwasaneth nos
Sul mor galonog nes tynu sylw erill ato. Balch wyf i restru’r cadben
y’mysg fy ffrindie gore’.



                               PENOD IV.


                                   *

                            BYWYD BOB DYDD.

BUM bythefnos ar y dw’r cyn cyredd y làn arall, ac yr oedd pethe wedi
myn’d dipyn yn unffurf cyn i’r pythefnos dd’od i ben, hyd y’nod i mi, na
wydde ddim am fywyd o’r fath cyn hyny. Yr un amgylchoedd, a’r un
gwynebe, a bron yr un bwyd o ddiwrnod i ddiwrnod, nes yr o’wn wedi cael
f’addfedu er’s meityn i newid fy myd, er gwell neu er gwaeth. Yn wir,
nid oedd genyf y gronyn lleia’ o gydymdeimlad â’r ymadrodd cyfleus hwnw:
“Gwell yw y drwg a wyddoch na’r drwg na wyddoch.” Yr o’wn yn berffeth
barod i gofleidio’r ola’, os gallwn drwy hyny gael gwared o’r blaena’.

Wrth geisio desgrifio un diwrnod, mi fydda’n desgrifio pob diwrnod, a
chewch ch’ithe farnu a wyf y’mhell o’m lle wrth alw’r bywyd yn unffurf.

Dihunwn yn y bore’ ’beitu saith o’r gloch, a’r gŵr oedd gyfrifol am hyny
oedd y ’stiward, yr hwn ddeue a chwpaned o goffi twym’ i mi, y’nghyda
“biscïen.” Cryn gamp oedd myn’d drwy’r seremoni hon mewn pryd erbyn
brecwast: yr oedd y coffi boethed, a’r fiscïen galeted. Prin o le oedd
genyf i orwedd ynddo, heb sôn am gyflawni dyledswydde erill; ac erbyn y
cyfrifwch symudiade sydyn y llestr ambell fore’, mi wn eich bod yn
ddigon rhesymol i gredu taw bwyta ac yfed dan anhawsdere ’ro’wn yr
amsere hyny. Pan y ceisiwn yn gynil gusanu’r coffi dros ymyl y cwpan, fe
rodde’r hen long dro yn ei gwely hithe: y canlyniad o hyny oedd, fod
traflwnc o’r gwlybwr poeth yn llifo i lawr fy nghorn gwddf fel hylif
tân, a rhoi i mi brofiad o burdan am eiliad. Rhwng caledwch y fiscïen a
thanchwa’r coffi, ’ro’wn bron a myn’d i gredu na fydde genyf dafod na
dant erbyn y cyrhaeddwn adre’.

Blinfyd arall oedd ymwisgo. Gelwid y lle y gorweddwn ynddo’r nos yn
_bunk_, ac yr oedd un arall odditano. Dewisais yr ucha’ am ei fod yn nes
i’r ffenest’; ond y troion cynta’ bum bron ei newid am y llall. Rhyw
deimlad o urddas a leche rhwng f’asene barodd imi beidio. Cawn drafferth
nid bychan i fyn’d iddo; ond ’doedd hyny’n ddim yn ymyl y drafferth a
gawn i dd’od o hono. A phe gwelech fi’n ceisio myn’d i mewn i’m llodre’,
arswydaf wrth ddych’mygu’ch beirniadeth. Prin y mae angen imi dd’we’yd
ei bod yn fater o reidrwydd imi gydio âg un o’m dwylo mewn rhywbeth
sefydlocach na mi fy hun; ond y funud y gollyngwn fy ngafel, collwn fy
nghydbwysedd, ac wrth geisio’i adfer, ’doedd dim dal nad ele’r llodre’n
fagl imi, ac nad ar fy hyd ar y llawr y cawn fy hun, a ’mhen wedi d’od i
wrthdarawiad â’r bwnc isa’. Ar adege neillduol, yr oedd awr o amser
lawer ry fach imi fyn’d drwy’r gwasaneth i gyd; a phan ’r eisteddwn i
lawr am wyth o’r gloch i fwyta fy more’bryd, fe fydde peth o ôl y frwydr
arna’ i fynycha’.

Yr o’em yn bedwar wrth y bwrdd ar brydie bwyd, os bydde amgylchiade’n
caniatau—y cadben, y ddau swyddog, a mine. Beth bynag arall ellid ei
dd’we’yd am y prydie, byddid yn ddiogel ei wala pe d’wedid am danynt eu
bod yn _sylweddol_. Triphryd y dydd oedd y mesur, gydag ambell i sgwlc
’nawr ac eilweth.

Y peth cynta’ geid i frecwast oedd “uwd.” Un o ffrindie bore’ oes oedd
efe; ond nid o’wn wedi ei wel’d yn edrych cystal er pan o’wn yn grwt
gartre’. Bob tro y digwyddwn gwrdd âg e’ wed’yn, ryw erthyl diymadferth
ydoedd, a’i “anelwig ddefnydd” yn pregethu darfodedigeth. Ond yn y llong
yr oedd fy hen ffrind dewed ag erioed. Gwedi cyfnewid syniade â’n
gilydd, cymerwyd ei le gan ddysgled barchus o gorachod tordyn a
brasderog y gelwid “sosinjers” arnynt yn y dyddie gynt. Yr o’ent bron a
bod o’r un hyd a’r un led fel y ’stiward; ac yr oedd eu crwyn mor dỳn am
danynt, fel nad oedd eisie ond gosod min y gyllell i gyffwrdd â hwy i
beri iddynt ymffrwydro’n fygythiol. Nid oedd golwg ddymunoled arnynt
wed’yn. Helpid y bechgyn hyn i lawr gan bytatws oedd wedi colli eu
hunanieth cyn cyredd y bwrdd, a myn’d yn un i’w gilydd. Yn fy myw y
gall’swn gofio imi erioed fwyta pytatws gynared ar y dydd, a deue rhyw
hen dorïeth felly rhyngof a’u mwynhau fel y caraswn. Eto, gwnes fy
ngore’ dan yr amgylchiade; ac erbyn i rif y trydydd ganlyn ar ffurf
“pwdin reis,” nid oedd genyf ysbryd mwyach i bara ’mlaen. Neu hwyrach
taw’r cylla oedd yn cellwair. Yr oedd y cyflenwad olaf hwn yn edrych mor
sylweddol a dim oedd ar y bwrdd. Pe bai’r fath beth yn bosib’ ag i’r
trymaf o honom fedru dawnsio ar ei grystyn—neu pe’i teflid yn enw pêl
droed ar hyd y dec nes blino o honom, nid wyf yn meddwl y dygai ddim o’r
node, nac y cwynai oherwydd y gamdrinieth.

Dïau taw’r adeiladeth ore’ i mi oedd gwylio’r ddau swyddog wrthi.
Eisteddwn gyferbyn iddynt, a’r cadben wrth f’ochr. Mi dd’wedes eisoes
taw bwytawr bychan oedd y cadben, ond gwnai’r lleill iawn digonol am ei
ympryd ef a mine. Cenfigenwn wrth y modd blysig a deheuig yr aent ati; a
phan ddeue’r prydie erill heibio’n eu tro, ceid ganddynt ail a thrydydd
argraffiad, gydag ychwanegiade, o bryd cynta’r dydd.



                                PENOD V.


                                   *

                      RHAGOR AM Y BYWYD BOD DYDD.

AM un cenid y gloch ginio.

Cawl go dene’ oedd y rhagarweiniad i’r eilbryd fynycha’. Nid yr un oedd
ei ddeunydd bob dydd, ond yr un oedd ei drwch. Yna fe ddeue rhyw
gymysgfa y gelwid _curry_ arno. Pare hwn imi chw’thu, a chw’su, a
chochi, a thynu f’anadl ataf, a cholli dagre, gan mor dwym’ ydoedd; ond
yr oedd y ddau frawd ar fy nghyfer yn peri iddo ddiflanu heb grychu
talcen. Arferwn yfed swm difrifol o ddw’r wrth drafod y crëadur yma, nes
y des i wel’d nad oedd dim yn tycio, yna ymatelies. Cig eidion, neu borc
wedi ei biclo a ddilyne, mor flasus â dim oedd yn y fwydgell. Caled oedd
y blaena’, a meddal yr ola’, ond canwn eu clodydd yn uwch na dim arall,
a bendithiwn y diwrnod pan y gwnaent eu hymddangosiad ar y bwrdd.
Dirwynid y ginio i fyny weithie gan ŵr bonheddig o’r enw _Roland
Poland_—yr hwn, yn ein munude mwya’ chwareus, a alwem yn “_roly-poly_;”
a phrydie erill gan bwdin o’r un teulu a’r llall y sonies am dano.
Bydde’r pryd nesa’n cyfranogi o rai o’r elfene dywededig, y’nghyd a
chwpaned o dê oedd yn peri i mi ame’ ai nid coffi ydoedd. Hwn oedd y
_pryd_ cyfreithlon ola’; ond mi fydde aelode’r Cyfrin-gyngor yn cael
sgwlc cyn y wyliedwrieth naw o’r nos, a mine yn eu cysgod. Yr wyf yn
meddwl imi wneud y sylw yna o’r blaen, yr hyn a ddengys nad dibwys yw yn
fy ngolwg i.

Tra ar y pen hwn, cystal imi sôn am y modd yr ymdarawem wrth y bwrdd ar
dywydd garw.

Wedi ini fyn’d i fewn i’r _Bau Mawr_, ac i hwnw, ’nol ei arfer, ein
siglo’n ddiseremoni, nes gwneud i’m cydbwysedd i a sefydlogrwydd
gwahanol bethe dd’od yn faterion i alw sylw atynt—gwelwn y ’stiward un
diwrnod, pan oedd yn tynu at amser cinio, yn sicrhau rhyw grëadur cam a
chrwca wrth y bwrdd, ac y’myn’d ymaith. Nis gwyddwn beth i wneud o hono.
Ar ol taith igam-ogam, es ato, ac ni bum yn hir cyn d’od i’r
penderfyniad taw nid peth i’w fwyta ydoedd. Gwir na wyddwn am
gyraeddiade’r cogydd y ffordd yna, ond teimlwn yn bur hyderus na fu’r
creadur hwn erioed mewn na chrochan, na sospan, na phadell ffrïo. Gwneid
ef i fyny o beder ’styllen, yn rhedeg gyda hyd y bwrdd, a dwy bob pen yn
rhedeg gyda’i lêd. Yr oedd tri o wagleoedd rhwng y ’styllod, a’r canol
oedd y lleta’. Wrth edrych arno’n ddyfal, tybiwn fod y wawr yn tori, a
disgwyliwn y ’stiward yn ol a’r datguddiad gydag ef. Ac i wneud ’stori
fer o ’stori hir, dyma ydoedd:

Math o garchar i gadw’r dysgle a’r platie rhag dïanc dros yr ymylon pan
fydde’r llong y’myn’d wŷsg ei hochr i radde mwy nag a fydde’n ddymunol.
Amddiffyn y llestri lleia’ rhag direidi’r llestr mwya’ oedd ei
genhadeth, ac yr oedd yn amlwg na ellid gwneud hebddo. Yr oedd defnyddio
cyllill a ffyrc dan amode fel hyn yn orchwyl peryg’; ac yr oedd yn rhaid
i ddyn gadw’i lyged yn agored os am gadw’i geg yn iach. Yr enw arno oedd
_crwth_. Nid oedd ynddo ddim yn debyg i grwth cyffredin, ond yr oedd y
llestri pridd a phiwtar yn tynu tipyn o fiwsig allan o hono. Bu raid ini
wrth wasaneth y “crwth” cy’d ag y buom yn y bau, a throion wed’yn; a
’does dim dadl nad oedd yn un o’r cre’duried mwya’ gwas’naethgar yn y
llong.

Fy nghydymeth ffyddlona’ wrth fyn’d a dychwelyd oedd cath fechan ar ei
phrifiant o’r enw _Bismarc_. Nid oedd yr enw’n ffitio’i rhyw, oblegid yr
oedd y’nes perthynas i wraig _Bismarc_ nag i _Bismarc_ ei hun yn yr
ystyr hono. Tebyg taw cath ystrai ydoedd, a ddaethe i fewn yn y _Bari
Doc_ pan oedd y llong yn llwytho. Talai am ei lle y’null arferol y math
yma o bedrod, sef trwy hela llygod a’u dal. Mae morwyr yn hoff o
gre’duried ar y bwrdd, a bydde lladd un o honynt trwy fwriad neu
amryfusedd yn creu hylabalŵ ofnadwy. Yr oedd byd braf ar _Bismarc_, ac
yr oedd ei gôt yn profi hyny. Gofale’r cadben am ei frecwast, y prif
swyddog am ei ginio, a’r ail am ei dê. Nid wyf yn gwybod pa’m y dodwyd
yr enw _Bismarc_ arno, os nad oblegid ei hirbeneiddiwch. Os methwn a
bwyta’r cwbl osodid ger fy mron, deue _Bismarc_ heibio, a dealle’r
sefyllfa’n union. Nid oedd terfyn ar ei rwbio a’i ganu nes y cynygid y
gweddillion iddo; ond os dealle fod pob un y’meddwl myn’d trwy ei waith
heb adel dim ar ol, fe ymneilldue’r gwalch nes y bydde’r cwbl drosodd.
Yna fe ddychwele at ei blât ei hun.

Treulies lawer o f’amser i chware’ gyda’r gath, ac nid oes arnaf
g’wilydd d’wedyd hyny. Mae’n amheus genyf a fu’r crëadur bach ar y môr
o’r blaen, oblegid ’roedd symudiade dideddf y llestr yn peri dyryswch
mawr iddo. Credwn weithie fod ganddo wybodeth reddfol fy mod i’n debyg
iddo yn hyny o beth. Bid fyno, hefo mi y myne fod pan fydde’r gwynt yn
uchel, a’r môr yn dringo wrth ei sodle. Yr oedd yn siwr o fod wedi
cyfri’ ar fwy o gydymdeimlad gen i na neb arall. Pan gode’r llestr ar ei
hochr, nes gwneud i mi genfigenu wrth y clêr am fedru cerdded a’u peue’
i lawr, safe _Bismarc_ yn sydyn am eiliad, fel pe bai’n ceisio
ymresymu’r pwnc—yna fe ruthre ar ei gyfer mor wyllt a diseremoni, nes
yr ofnwn iddo daro’i fenydd yn erbyn y pared. Cyn ei fod wedi cael ei
draed dano, mae’r llong yn rhoi tro i’r ochr arall, nes gyru _Bismarc_,
druan, i’r cyfeiriad cyferbyniol, a’i edrychiad fel edrychiad dyn
meddw’n ceisio bod yn sobr. Nid oes amheueth genyf nad oedd y gath
y’ngafel selni’r môr lwyred y bu cath erioed—na dyn chwaith, pytae
fater am hyny. Ar ol i’w fewnolion gael eu troi a’u trosi, eu chwilio
a’u chwalu, eu corddi a’u cordeddu tua dau ddwsin o weithie yn y modd
yna, fe orwedde i lawr yn y man lle bydde fel un wedi rhoi’ fyny’r
ysbryd, a cholli pob gobeth am wel’d llygoden byth ond hyny.

Ni fydd y benod yn gyflawn heb i mi dd’we’yd gair am y dydd cynta’ o’r
wythnos. Yr o’wn wedi awgrymu i’r cadben mewn pryd y byddwn at ei
wasaneth i bregethu ychydig i’r dwylo ar y dec, neu i fyn’d dros rai o
done _Sanci_ hefo’n gilydd. Ond ce’s ar ddeall yn fuan fod yn well
ganddo beidio; a’i reswm oedd—fod yna’r fath gasgliad o wahanol
opiniyne ar faterion crefyddol a gwleidyddol, nes ei gwneud yn ddoethach
i gadw’n glir oddiwrth bethe felly’n gyhoeddus, a gadel ei ryddid i bob
un i feddwl fel y myne am y naill a’r llall, neu i beidio meddwl o gwbl.
Er nad o’wn o’r un farn ag e’ ar y pwnc, efe oedd y meistr, ac nid oedd
apelio i fod oddiwrth ei ddyfarniad.

Y Sul cynta, es am dro cy’belled a phen blaen y llong, ac yno gwelwn
gortyne o’r naill bôst i’r llall, ac arnynt bob math o bilin, gwlyb a
sych, adnabyddus ac anadnabyddus, o bob lliw a llun, cyfen ac anghyfen,
yn chwyfio’n yr awel ac yn clecian yn y gwynt, nes peri imi feddwl fod
yno gynrychioleth o faneri holl genedloedd y byd. Wedi holi, ce’s ar
ddeall taw _dy’ Sul oedd diwrnod golchi’r criw_; a dyna lle’r oedd rhai
o honynt wrthi’n brysnr—un yn golchi ei grys, un arall yn golchi ei
’sane, ac un arall yn golchi ei gorff ei hun, oedd fryntach na’i grys
na’i sane. Gan nad oedd yr arogl a ddeue odd’no’n ddymunol iawn i’r
ffroene, mi a ddychweles i’m caban, ac a dreulies y gweddill o’r dydd yn
cydaddoli o ran yr ysbryd â’m pobl fy hun gartre’.

[Illustration]



                               PENOD VI.


                                   *

                              AR Y DAITH.

MAE’N bryd imi bellach gymeryd stoc o’r byd sy’n gorwedd o’r tu allan
i’r llong, rhag i chwi fyn’d yn sal o glefyd y môr drwy gael eich
cyfyngu cy’d rhwng y plancie.

Yr oedd y nos y cychwynes allan o ddoc y _Bari_ yn “dangos gwybodeth” ar
ei gore’, ac yn “traethu ymadrodd” cystal a’r dydd am ei ddanedd. Fe
wincie goleuade _Gwlad yr Ha’_ draw arnom fel pe ba’em y’myn’d allan ar
ryw ddireidi, a nhwthe’n y gyfrinach. Wrth edrych yn ol, gwelwn fod
goleuade glane _Morganwg_ yn cenfigenu wrth eu chwiorydd yr ochr arall
i’r Sianel, ac am hòni cyment o wybodeth a’r Saeson, a d’we’yd y lleia’.
’Roedd ambell i oleuad yn ymddangos i mi fel pe bai’n cael difyrwch
diniwed am ein pen; un funud edryche arnom fel plentyn drwg yn ei
wely—y funud nesa’ fe fydde a’i ben dan y dillad—i fyny drachefn heb
ei ddisgwyl—i fyny ac i lawr, i fyny ae i lawr, mor brofoclyd a dim
wolsoch erioed. Gelwir y math yma’n oleuad trofäol; ac erbyn sylwi, y
mae i’w gael ar ei ganfed ar hyd y glane y’mhobman. Nid oedd y lleni
wedi eu tynu dros ffenestri’r ffurfafen chwaith, ac yr oedd cysgod engyl
i’w wel’d yn pasio heibio iddynt ol a gwrthol. Dyna oedd f’esboniad i
pan yn blentyn ar ansefydlogrwydd y sêr, ac ni elles ymddihatru
oddiwrtho byth. Adlewyrche’r dw’r o gwmpas sêr y nefoedd a sêr y glane,
a theimlwn yn ddigon hunanol i feddwl fod yr holl gre’digeth wedi d’od
allan i ddymuno mordeth dda i mi. Cure calon yr hen long mor rheoledd a
phe bai’n canu unod mewn cystadleueth, a gwylltie’r hwylysydd weithie
mewn cyfeiliant iddi. Rhodde’r môr ffordd yn foneddigedd i’r llestr
basio, cusane’r mân done ei hochre geirwon wrth fyn’d heibio, ac
ymestyne ei llwybr yn ol i fynwes y nos fel llwybr arian.

Dacw oleuade _Ilfracombe_ yn pefrio’n y pellder; ac wele gilfach
_Westward Ho!_ lle bum unweth yn chwilio am unigedd ac yn temtio
seibiant, heb ddim ond gole’ gwyliedydd y glane i dd’we’yd lle mae. Wedi
murmur “Nos da” wrth ynys _Lundy_, trymhaodd fy llyged, ac yn hwyrfrydig
es i chwilio am fy ngorweddle. Nid heb gryn gyflafareddiad y llwyddes
i’w sicrhau at fy ngwasaneth; ac wedi myn’d iddo, yr oedd pobpeth fel
wedi ymdynghedu i’m cadw’n effro. Bum amser hir yn ysbïo drwy’r ffenest’
gron oedd yn f’ymyl ar oror _Cernyw_ y’myn’d ac yn d’od. Bum wed’yn yn
gwrando ar ddirgryniade’r llestr, neidiade’r hwylysydd yn union
odditanaf, ergydion y peiriant, a llaib y dw’r yn erbyn yr ochre. Y peth
nesa’ wy’n gofio’n groew ydyw’r stiward yn d’od i fewn a’i gwpaned
coffi. Ond noson drallodus ydoedd; a phe b’asech yn fy lle, gwn na
f’asech damed gwell, os cystal, er eich bod yn awr yn barod i chwerthin
am fy mhen.

Pan ddeffröes y bore’ cynta’, yr oedd pen pella’ tir _Pryden_ ar fin
myn’d o’r golwg. Delies i syllu arno hyd y gall’swn, a phan y colles ef,
daeth ochened drom i fyny o rywle heb fy nghaniatâd. Tybiwn imi glywed
eco iddi o’r tu ol, a mi drois yn sydyn; ond ni weles neb ond yr ail
beirianydd yn chwilmanta gerllaw. Ni wyddwn am ei dricie’r pryd hwnw;
ond wedi i mi dd’od i’w adnabod yn well, a meddwl am y peth, drwg dybiwn
ef o fod yn gwneud difyrwch o honof, a taw efe oedd yr eco. Erbyn hyn,
’doedd dim yn y golwg ond môr ac awyr, ac ambell i long arall yn pasio.
Yr o’em bellach yn nesu at y _Bê Bisce_, yr hwn oedd wedi bod i mi’n
fwgan y dydd, ac yn hunlle’r nos oddiar pan y penderfynes fyn’d y ffordd
hono. Clywswn gyment o sôn am dano, ei fôd yn grëadur mor ofnadwy, nes
fod myn’d drwyddo bron bod yn gyfystyr a myn’d trwy lỳn cysgod ange’.

Ond diwrnod ardderchog oedd hwn, gan’ad sut y bydde’n y _Bau_. ’Does dim
eisie’ croesi’r bont cyn d’od ati. “Digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun.”
Mae’r haul yn gry’, a’r gwynt yn isel. Mae’r môr fel gwydr, a’r gwylanod
yn ein dilyn yn ffyddlon. Chwareua haid o bysgod y gelwir “porpoesied”
arnynt yn ymyl trwyn y llestr. Neidiant o’r dw’r y naill ar ol y llall,
yn cael eu blaenori gan borpoesyn mwy na’r cyffredin; desgrifiant haner
cylch yn yr awyr ar eu taith, yna plymiant i’r dyfnder drachefn, gan
fyn’d drwy’r un chware’r ochr arall. Bum yn gwylio’r rhai hyn am orie
bwy gilydd. Yn y cyfamser, ele llonge erill heibio i ni, ager a
hwyl—rhai yr un ffordd, a rhai i’n herbyn. Ha! dacw hen drampes fel
nine ychydig o’n blaen, gafodd gwarter awr o fantes arnom wrth gychwyn
o’r _Bari_. Yr ydym wedi enill arni, a dyma hi’n “râs.” Mae ei thanwyr
yn cael gorch’mynion i lanw’i berwedyddion â glo, a chw’da fwg du, tew,
allan o’i gene’ nes cuddio’i hun o’r golwg. Gwnawn nine’r un fath, nes
peri imi dybied am foment fy mod y’nghanol gwaith _Dowles_. Erbyn i’r
mwg glirio, ’ro’em ar y blaen i rywle. Caed aml i brofion ar hyd y daith
taw gwaith anodd oedd curo hon gan longe o’r un dosbarth a hi. Nid
llawer o gyffröade sy’ mewn bywyd ar fwrdd llong o’r natur yma; ond mae
rhedeg râs â llong arall yn sicr o fod yn un o honynt.

Yr ail nos mi dreulies y _dog-watch_ ar y bont y’nghwmni’r ail swyddog.
Ymestyna’r wyliadwrieth yma o chwech i wyth. Mae’r gwyliadwriaethe erill
yn beder awr bob un. Sut y daw hon i fewn, nid wyf yn gwybod, na pha’m y
gelwir hi _dog-watch_. Buont yn ceisio esbonio’r blaenaf i mi, ond mae’r
bai naill ai ar fy neall neu ar fy nghôf. Ni wyddent yr olaf eu hunen,
felly, ni ddisgwylir i mi ei wybod. Gallaf ddych’mygu, ond nid ’grifenu
dych’mygion wyf, eithr ffeithie. Yr o’wn wedi gwneud darpariade heleth
ar gyfer y ddwyawr ar y bont; a phe gwelech fi, gwn y bydde’n naturiol i
chwi gredu fy mod ar y ffordd i’r _Pegwn Gogleddol_. Côt fawr dros fy
nghôt isa’, a chôt ar gyfer gwynt a gwlaw dros hono drachefn, a
choleri’r tair i fyny fel tair catrod. Menyg tewion am fy nwylo, a chap
blewog am fy mhen. Yr oedd gan y cap glustie, ac yr oedd gen ine
glustie, a gwasanaethe’r naill i amddiffyn y lleill. Rhwng pobpeth, yr
o’wn mor gysurus a phe b’aswn wrth y stôf yn y caban. Cyn i’r
wyliadwrieth dd’od i fyny, aeth un o’r llonge mwya’ heibio i ni o fewn
cwarter milldir; ac yr oedd yn ymddangos fel pentre wedi ei oleuo ar
amser rhïolti.

Pan y ceisies godi’r ail fore’, methwn a dyfalu beth oedd yn bod. Ni
fu’r fath helynt erioed ar ddyn yn ceisio d’od o’i wely; ac erbyn y
cofiwch fod y “bwnc” y gorweddwn ynddo gryn bellder o’r llawr, golyge
anturieth bwysig.

“Mae’r bendro arnaf,” meddwn; “neu ’rwy’ wedi tori ’nirwest heb wybod i
mi fy hun.”

Ond mi ddigwyddes edrych drwy’r ffenest’ fach, a mi weles fod y môr wedi
codi hefyd, a thrafferthed a mine wrth y gorchwyl. Yr oedd fel pe bai’n
ddig wrth yr hen long am ei aflonyddu’n rhy fore’—fel y byddwn ine wrth
y ’stiward ambell dro; ac ysgydwe hi’n enbyd—fel y bygythiwn ine wneud
i’r ’stiward. Wedi do’d drwy’r anhawsdere o wisgo a ’molchi, mi gerddes
mor barchus ag y medrwn i’r dec, ac yno mi ddealles ein bod wedi myn’d i
mewn i’r _Bau Mawr_ rywbryd yn y nos, a’n bod wedi myn’d gwarter y
ffordd drwyddo. Yr oedd y gwynt o’r gogledd-ddwyren, ac yn fwy o help
ini nag o rwystr. Ond, O’r symudiade! Yr oedd gwel’d y llong yn cusanu’r
dw’r hyd ei rhagfurie, a’r tone’n neidio drostynt, y mynydde dyfrllyd yn
erlid ar ein hole, a’r pantie dyfnion a grëid gan y sugndyniad, _Chips_
yn cael ei ddala’r ochr yma, a’i wlychu at y croen, a’r ’stiward yn
gwylio’i gyfleusdra’r ochr arall, ac yn dïanc â chroen ei ddanedd—yr
oedd bod yn dyst o’r golygfeydd hyn a’u cyffelyb am haner awr cyn
brecwast yn gosod y prawf llymaf ar f’ystumog a’m calon. Dyma’r bore’ y
daeth y “crwth” i’r ford gynta’. “Dal llygoden a’i bwyta” oedd y drefn
ar bryd bwyd bellach, a’r “dal” yn fwy o gamp na’r bwyta. Dyma fel y bu
drwy’r dydd, a dyma fel y bu drwy’r nos wed’yn. Nid af i gelu fod braw
arnaf, ond dim salwch. D’wedir i mi pan fo salwch nad oes dim braw.
P’run yw’r gwaetha’, nis gwn. Ni dd’wedaf chwaith sut y treulies y nos
hono, rhag crechwenu o’r Philistied. Ond ganol dydd dranoeth yr o’em
wedi myn’d drwy’r _Bau_, ar ol haner cant o orie gerwin eu gwala.
Bellach, dyma “Wlad yr Haul” yn y golwg.



                               PENOD VII.


                                   *

                             FY NYDDIADUR.

AR draul ail-adrodd fy hun—yr hyn yw fy “mhechod parod” wrth siarad a
’sgrifenu—gosodaf yma ddarne o’m dyddiadur. Mae hwnw’n siwr o fod mor
agos i’w le o ran cywirdeb a dim sydd wedi ymddangos, ac a ymddengys
eto. I dreulio’r uwd a’r pytatws a gawswn i frecwast, y peth cynta’
wnawn oedd ’sgrifenu ar fy nyddiadur, oni fydde’r hen long yn bechadurus
o ansefydlog; ac af yn feichie dros y nodiade sydd ynddynt, eu bod yn
adlewyrchiade gonest o’r hyn a weles, a glywes, ac a deimles drwy’r holl
helyntion. Chwi gofiwch fy mod yn ’sgrifenu ddiwrnod ar ol y dyddiad a
geir.

Dydd Sadwrn, Chwef. 23ain.—Y’nghanol y _Bê Bisce_. Wedi myn’d drwy ran
o hono neithiwr, dïolch am hyny. Yn weddol o dawel drwy’r bore’, ond ar
ol haner dydd dechreuodd y tone guro ar y llong, a’n hanes wed’yn oedd
ymsuddo ac ymrolio hob yn ail—weithie o ben i ben, bryd arall o ochr i
ochr—a’r dw’r yn golchi dros y dec yn gyfrole trwchus. Felly am y
gweddill o’r dydd, ac ar hyd y nos—ond nid oedd blas genyf i ganu’r hen
alaw. Bwyta mewn gefyne. Pawb fel wedi meddwi, a’r hen long y’nghanol ei
bloddest. Lle rhyfedd yw’r bau hwn: y mae fel pytae pobpeth o chwith
yma. Pysgod y’neidio allan o’r dw’r, ac adar y’myn’d dros eu pene iddo.
Porpoesied yw’r naill, a gwylanod yw’r lleill. Mor falch yw’r gwyliedydd
i wel’d yr haul yn d’od i’r golwg pan y mae’n gymylog! Mae’r haul yn
cadarnhau’r cyfeiriad. Ond pan na bo haul, na lloer, na seren yn y
golwg, mae’r cwmpas ganddo o hyd. Gŵyr y mordeithwyr ysbrydol am rywbeth
tebyg.

“Tywydd da yw hwn,” ebe’r ail swyddog.

“O’r anwyl! beth am y drwg, ynte?” meddwn wrtho.

Ofn nad oes dim llawer o gysgu heno eto. Dim gogwydd at selni mor
belled. Dywed y cadben wrthyf fy mod yn un o fil. Mỳn y ’stiward fy mod
wedi camgymeryd fy ngalwedigeth—taw morwr ddylaswn fod. Yr wyf o’r un
farn ag e’ weithie’ am y cynta’, ond yn ame’r ola’n fawr. Beth dd’wede
pobl _Bethania_, tybed?

Dydd Sul, y 24ain.—Codi am saith. Y llong yn chware’i phrancie o hyd, y
môr yn tori drosti, a phawb ar y dec yn wlyb dyferu. Eto, dyma dywydd
cyffredin y _Bê Bisce_! Fel hyn y budrwy’r bore’; ond erbyn canol dydd
yr o’em wedi dianc o’i grafange. Ysgyrnygu ei ddanedd arnom yr oedd y
crëadur yn y bore’n ddiame genyf, wrth ein gwel’d yn ffoi o’i derfyne.
Gobeithio’r anwyl na cheidw’i ddialedd nes y dychwelwn. Wedi cael tir
_Sbaen_ rhyngom a nerth y gwynt, aeth yn dawelwch mawr. Ac O! brydnawn
Sul. Haul clir, tanbed, ffurfafen ddigwmwl, môr didone, a’r llong yn
cerdded drosto fel boneddiges y’nhraed ei ’sane—ardderchog, a d’we’yd y
lleia’. Y tir o gwmpas _Corunna_ ddaeth i’r golwg gynta’. Cofio am _Syr
John Moore_, a’r farwnad anfarwol a wnaed iddo gan y Parch. _Charles
Wolfe_. Gorffwysdra i’r llygad oedd gwel’d tamed o dir ar ol y fath
dafell o fôr. Dacw’r arfordir gorllewinol i lawr hyd Benrhyn
_Finisterre_. Cawsom engraff o ddïogi’r _Sbaenied_ yn y _Penrhyn_ hwn.
Mae yma orsaf i dderbyn arwydd llonge. Codasom yr arwyddion arferol, ond
ni ddaeth arwydd yn ol mewn atebiad; a thynge’r cadben (nid yn
gableddus) taw cysgu oedd y tacle. ’Doedd dim perswâd ar yr ail
beirianwr na chlywse hwy yn chw’rnu’r pellder hwnw! Mynyddig a garw yw’r
darn yma o dir _Sbaen_. Collasom ef yn fuan, a disgwyliwn wel’d tir
_Portugal_ ’fory.

Dydd Llun, y 25ain. Bore’ heddyw disgynodd fy llyged ar dir _Portugal_.
Mor wahanol i dir _Sbaen_! Yn lle mynydde uchel a geirwon yn codi’n syth
o’r môr, ceir yma ffermdai a phentrefi bychen a mawrion i’w gwel’d
y’mhob man. Caëe a gwinllane, perllane ac olewydd-lane ar lechwedde’r
brynie, a’r mynydde draw yn y pellder yn dir cefn iddynt. Pentrefi
pysgota ar y làn, a thraethe swynol o dywod gwỳn a chaled yn
dysgleirio’n yr haul. Lle braf i fyn’d a phicnic Ysgol Sul am brydnawn.
Hwyrach taw’r ffordd fydde dipyn y’mhell o _Gwm Rhondda_. Yr oedd yn
ddiweddar yn y dydd pan weles gyffinie _Lisbon_. Yr oedd y ddinas ei hun
yn llechu o’r golwg i fyny’r afon _Tagus_. ’Roedd hafdy’r brenin yn
sefyll ar fan amlwg iawn, yn union uwchben y ddinas, mi allwn dybied.
Adeilad mawr gwỳn ac unffurf ydoedd, yn pregethu llai o gysur na bwth
_Beti New Cross_ ar dir y _Godor_, mi wna’ lw. Ar y dde’ mae tair neu
beder o greigie daneddog yn codi’n ddirybudd o ganol y dyfnder.
Creigie’r _Birlings_ y gelwid hwy. Mae dim ond edrych arnynt yn ddigon
i’ch argyhoeddi eu bod yn beryg’ i longe, ’nenwedig ar amser niwl. Yn
agos i’r fan yma y collwyd llong fawr berthyne i’r _Anchor Line_. Dacw
Benrhyn _Espechel_, lle cawsom yr arwydd. Ar bigyn ucha’r mynydd fan
draw mae lleiandy aruthrol—y mwya’n y byd, medde nhw. ’Roedd ei
adeiladu’n golygu llafur blynydde i rywrai. Un o olygfeydd mwya’ dymunol
y darn yma o’r byd yw y bade pysgota tlws a syber sy’n dawnsio o’n
deutu, Mi weles sgoroedd o honynt heddyw, a rhedent o flaen yr awel mor
ysgafn-droed a’r awel ei hun. Cyfarfyddasom â llong ryfel, a
chyfarchasom hi. Dychwelodd hithau’r cyfarchiad yn foneddigaidd ei
gwala. Mae’r môr mor dawel â Llyn _Tegid_ ganol ha’, a thripia’r llong
yn llawn mursendod drosto. Cyredd gyferbyn â Phenryn _Rocca_ cyn nos. Y
tir yn cilio eto, ac nis gwelwn ef mwy hyd y bore’. Dïolch  i Dduw am ei
amddiflyn.

Dydd Mawrth, y 26ain.—Tybies fod rhywun yn curo’r ffenest’ pan o’wn
rhwng cysgu a deffro. Beth oedd ond gwlaw! Bysedd y gawod a’m dihunodd.
Bu’n gwlawio’n drwm drwy’r bore’. Mae gwlaw a niwl yn cydgyfeillachu ar
y môr: anaml y ceir y naill heb y llall. Diflas yw bod ar dir pan y
mae’n bwrw gwlaw; diflasach yw bod ar y dw’r. Ond daeth yn deg cyn
cinio, a pharodd yn deg drwy’r dydd. Cryfhaodd yr haul, a chryfhaodd y
gwynt o’r tu ol ini, nes peri i’r llestr siglo’n enbyd ar brydie. Tir yn
y golwg, ond yn rhy bell i wneud fawr o hono. Pasio heibio i leoedd a
hanes iddynt, megis _St. Vincent_ a _Trafalgar_. Mae’r hen long yn cael
côt newydd o baent y dyddie hyn—nid rhyfedd ei bod mor rodresgar ei
symudiade.

Dydd Mercher, y 27ain.—Wedi myn’d drwy Gulfor _Gibraltar_ yn y nos—yn
hytraeh, dri o’r gloch y bore’. D’wede’r cadben wrthyf fod y llong wedi
teithio’n gyflymach o’r _Bari_ i’r _Gib_ nag y gwnaethe’ ’rioed o’r
blaen. Mor garedig yw’r Llywodraethwr Mawr ini! Mae’r Hwn sy’n cadw’r
gwynt yn ei ddwrn yn ei ollwng allan yn dameidie cysurus, a’r Hwn
gerddodd ar y tone gynt yn cerdded arnynt eto. Dyma _Fôr y Canoldir_ o’r
diwedd! Y _Môr Mawr_! Môr yr Apostol _Paul_! A’r môr y taflwyd _Jona’_
’styfnig iddo! Onid yw yn llawn swyn i’r efrydydd Beiblaidd? Mae ei
ddyfroedd yn loew ac yn lâs heddyw, a’i dòne’n fân ac yn fuan. Yr ydym
bellach y’mordwyo tua’r dwyren—o’r blaen tua’r de’ y mordwyem. Mae fy
wyneb yn awr tua chodiad haul. Dacw dir _Affrig_ yn y golwg i’r dde’, a
thir _Sbaen_ yn y golwg i’r aswy. Mynydde uchel, a’u coryne’n wynion gan
eira. Dilynant ni am dros gan’ milldir. Mae golygfa fawreddog i’w chael
arnynt. Sylles yn hir ar y cyfandir tywyll, a cheisiwn adgofio pob emyn
ac adnod a dd’wedent rywbeth am dano.

Mi ro’is dro yn y tŷ peiriant cyn myn’d i gysgu, o dan arweiniad yr ail
beirianwr. Teithies dan y dec o’r naill ben i’r llall. Ni fum mewn gwlad
ryfeddach erioed. Dyma lle mae cyfnewidiad hinsodde! Ceir y gwynt oera’
a’r gwres mwya’ llethol am y drws i’w gilydd. Mae yma bob sicrwydd dynol
am ddiogelwch. Ele iase drosof pan ddechreuwn feddwl taw dim ond ychydig
droedfeddi oedd rhyngof a’r dyfnder du; ac yr oedd llaib y dw’r yn ymyl
fy nhroed yn gwneud imi oeri a chw’su bob yn ail. Cyn dychwelyd i’r dec,
cymeres stoc o’r tanwyr y’ngole’r ffwrneisie. ’Roedd eu düwch, a’u
meindra, a’u taldra, a’u noethder yn eu trawsffurfio’n ellyllon mewn
ymddangosiad. Wedi eu gwel’d wrth eu gwaith, nid o’wn yn synu mwyach eu
bod mor sychedig.

Mae’n ddiwrnod ardderchog, a’r haul yn ei ogoniant. Mae’r awyr eisoes yn
gliriach nag awyr _Pryden_. Erbyn diwedd y dydd, yr ydym wedi gosod dros
dri chant ar ddeg o filldiroedd hyngom a’r _Hen Wlad_.



                              PENOD VIII.


                                   *

                       DALEN ARALL O’M DYDDIADUR.

DYDD Iau yr 28ain.—Pen yr wythnos ar y dw’r. Dacw dir _Affrig_
eto—glane _Morocco_ ac _Algeria_. Dim ond mynydde uchel sydd i’w
gwel’d, a rheiny’n edrych yn noeth, a chas, a thywyll. Ni weles fynydde
’rioed a’r fath olwg ddiserch arnynt. Tybed nad rhein yw’r “mynyddoedd
tywyll” y sonia’r proffwyd am danynt? Trwy’r ’spïeinddrych gwelaf
ychydig bentrefi yma a thraw, ond y maent yn rhy bell i’w gwahaniaethu’n
glir. _Arabied_ yw’r boblogeth, a lladronllyd yw eu cymeriade. Mae’r
pentrefi hyn yn hen nythleoedd môr-ladron o’r rhywogeth waetha’.
D’wedodd y cadben bethe rhyfedd wrthyf am danynt. Maent wrth eu
hanfadweth heddyw pan gânt gyfle. Anfonodd Swltan _Morocco_ rybudd dro’n
ol i holl deyrnasoedd _Ewrob_, am i’w llonge beidio caniatau i fade
lanio’n sengl ar y traethe hyn oherwydd y môrladron; ac os bydde i
rywbeth anymunol gymeryd lle ar ol y rhybudd, na fydde fe’n gyfrifol i
neb am hyny. Ond aeth bâd allan o long _Ellmynedd_ ar waetha’r
gwaharddiad. Yr oedd haner dwain o ddynion ifanc gwamal ynddo; a phan
ddaethant o fewn haner milldir i dir, ymsaethodd tri o fade hirion,
meinion, yn llawn o ddynion, allan o un o’r cilfache, cymerasant hwy yn
garcharorion heb fawr trafferth, ac yr o’ent oll wedi diflanu cyn i neb
ar y llong wybod fod dim wedi cymeryd lle. A’r darn prudda’ o’r hanes
yw, na chlyw’d siw na miw am y trueinied byth wed’yn! Nid oes lle i ame’
na chawsant eu cludo i un o farchnadoedd y _Sahara_, a’u gwerthu’n
gaethion i’r canolbarth.

Mae’r tywydd mor ddiserch a’r tir, heb fawr haul, a’r gwynt yn eillio
mwy nag a f’asech yn feddwl mewn lle fel hyn. Mi deimles fwy o wres
lawer gwaith yn yr _Hen Wlad_ y’mis Chwefror nag a deimlaf heddyw y’
_Môr y Canoldir_. Mae’r dyfroedd yn dawel ryfeddol, a’r llestr yn cadw
heb siglo ond ychydig. Dim ond un llong a weles drwy’r dydd—nyni sy’n
teyrnasu. Ddoe ’roedd y dw’r yn loew iawn; heddyw y mae’n dywyll iawn. Y
rheswm o hyny yw fod y dyfroedd yn adlewyrchu gwyneb y wybren. Awyr lâs,
ddigymyle oedd awyr ddoe—glas a gloew oedd y dyfroedd; awyr o blwm yw
awyr heddyw—cyfranoga’r dyfroedd o’r un lliw yn union. Onid yw hyn
y’meddu ar wirionedd cyfatebol mewn cylchoedd moesol a chrefyddol? Mi
sylwes fod y llestr yn cynyrchu ei thone a’i hawel ei hun wrth fyn’d
rhagddi, ac mi ofynes i mi fy hun—Onid yw dyn yn gwneud peth tebyg wrth
fyn’d drwy’r byd, beth bynag fo’i gymeriad? Prydferth yw gwel’d y
gwylanod yn gorphwys ar y tone. Mae’r Hwn ddysgodd _Petr_ i gerdded ar y
môr gynt yn dysgu ei saint eto i droi tone dig môr bywyd i fod o
wasaneth iddynt, i’w helpu i gyredd pen y daith. Dyna ddigon o bendrymu;
rhaid ymneillduo bellach. Dacw ole’ _Algiers_ yn dawnsio yn y pellder
draw, ac es i gysgu wrth edrych arno drwy’r ffenest’ gron.

Dydd Gwener, Mawrth 1af.—Diwrnod braf, dïolch  am dano. Mwy o haul, a
llai o wynt. Yn wir, ’does dim gwynt o werth son am dano heddyw, yn unig
awelen o grë’digeth y llong ei hun. Pasiwyd _Algiers_, fel _Gibraltar_,
yn y nos. Yr unig at-daliad a geisiaf yw eu pasio yn y dydd wrth
ddychwelyd. Gorore’r cyfandir du yn y golwg o hyd. Y mynydde’n uwch, ac
eira ar goryne y rhai ucha’. Cip ar fynydde’r _Atlas_, sy’n cadw gwynt
deifiol yr anialwch rhag gwneud _Ewrob_ yn bentewyn. ’Does dim yn
ddeniadol mor belled yn y darn hwn o dir _Affrig_—hwyrach y gwella wrth
fyn’d y’mlaen. Rho’es y cadben ei ’spïeinddrych mawr yn fy llaw, a
pharodd imi edrych i gyfeiriad y gogledd. Gwnes hyny, ac ar ol cael y
crëadur i ganolfan prïodol, a fy hunan i fedru ei ddal heb grynu, gwelwn
fwg yn dyrchu’n dew draw’n y pellder, Wedi deall taw mynydd _Etna_ yn
_Sicili_ ydoedd, ’r o’wn yn falch dros ben, er na welwn ond ei fwg. Nid
o’em lawer yn fyr o gan’ milldir oddiwrtho, ond ’roedd y pellwelydd yn
un cryf dros ben. Oera’r awyrgylch yn fawr ar ol machlud haul, a
disgyna’r gwlith yn drwm. Par hyny ei bod yn beryg’ i mi fod allan ar y
dec wedi iddi ddechre’ t’w’llu. Mae’r criw wrthi fel lladd nadrodd yn
glanhau’r hen long, drwy ei phaentio a’i thrwsio, ei golchi a’i thario.
Bwriedir iddi fod fel prïodasferch wedi ymdrwsio i’w phriodas erbyn
cyredd _Alecsandria_. Eto, unffurf iawn yw bywyd o hyd. Dathlu Dy’gwyl
_Dewi_ yn fy meddwl, drwy ddwyn ar gof i mi fy hun sut y dathlem ef pan
yn blant yn hen dre’r sir. Cofio am y seindyrf yn chware’, y clybie’n
cerdded, y baneri’n chwyfio, a’r pwdine a gaem y’nghysgod ein perthynas
â rhai o’r swyddogion. Torwn allan i chwerthin weithie pan ddeue ambell
i ddireidi i’r wyneb, a thybiwn fod y prif swyddog yn edrych yn amheus
arnaf. Ni ŵyr y _Cymro_ arall ddim am _Dewi Sant_ a’i wyl, mwy nag y
gŵyr twrch daear am yr haul.

[Illustration: _CAIRO._]

Dydd Sadwrn, yr 2il.—Tir _Tunis_ yn y golwg. Safle’r hen _Garthage_,
cartre’ _Hanibal_, a gwrthymgeisydd _Rhufen_ am feistroleth y byd. Dacw
bont grogedig _Bizarte_. Dyma ynysoedd _Galita_, y _Brodyr_, _Zembra_, a
_Zambretta_. Mae mynachlog yn perthyn i Eglwys _Groeg_ ar ben _Zembra_.
Mae darne’ o’r ynysoedd hyn dan arwyneb y dw’r, ac felly’n beryg’ i
longe. Darne o’r cyfandir, yn ddïame, ydynt oll, ond wedi myn’d yn
wahanedig rywbryd drwy gyffröad tanddaearol a thanforol. Gwel’d amryw o
bysgod hedegog; y mae un o honynt o faintioli ’sgadenyn go fawr. Ceir
sharcod y ffordd yma hefyd, er na weles i yr un. Ped ymollyngwn dros
ymyl y llong i’r môr i ymdrochi, gwnawn fy llw y teimlwn y cna’n union,
os na welwn ef. Tynu at _Malta_—disgwyliwn ei gwel’d rywhryd ’fory.

[Illustration]



                               PENOD IX.


                                   *

                             UN ARALL ETO.

DYDD Sul, y 3ydd.—Tywydd tawel o hyd—dïolch i Lywydd y môr am hyny.
Diwrnod golchi’r criw: golygfa ryfedd i _Gymro_ crefyddol. Mae pen blaen
y llong fel cefen un o dai _Treorci_, yn gortyne a dillad golchedig o
gẁr i gẁr. Rywbryd yn y bore’ aethom heibio i ynys o’r enw
_Pantellaria_. Perthyna i’r _Eidal_, ac y mae ynddi benydfa i droseddwyr
dan lygad y Llywodreth. Mae’r tai a’r gerddi i’w gwel’d yn dlws a swynol
nodedig o’r llong. Tua chanol dydd ce’s gipolwg ar un o’r ynysoedd
_Melitaidd_ draw y’mhell—prin y gwyddwn y gwahanieth rhyngddi a chwmwl
yn codi o’r môr. Erbyn tri y prydnawn yr o’em wedi d’od gyferbyn â hi.
_Gozo_ yw ei henw, a hi yw’r ail mewn maintioli. Mae’n ddarn braf a
gwrteithiedig drosti. Ceir arni bentrefi mawrion, heb fawr o drefn, ond
llawer o brydferthwch. Cyfnewidiwyd arwyddion wrth basio. Yn union ar ol
cwmpasu _Gozo_, dyma _Malta_ i’r golwg—_Melita_ Llyfr yr _Actau_.
Meddwl mwy am _Paul_ nag erioed. _Oasis_ y’nghanol anialwch dyfrllyd yw
_Malta_. Ceir perllane a gwinllane’n dryfrith drosti. Mae’r llwybre
cochion sy’n croesi’r caëe yn peri imi redeg yn ol i _Bontargothi_. Y
brif dre’ yw _Valetta_. Mi weles long y’myn’d i mewn i’r porthladd. Mae
gene hwnw’n gul, a chyflegre fel rhes o ddanedd ar ei fin. Ce’s olwg
braf ar y dre’, am ei bod ar safle uchel. Dacw’r _barracks_ a phebyll y
milwyr, a dacw’r milwyr eu hunen y’myn’d drwy eu hymarferiade. Dacw ddwy
neu dair o eglwysi’n dyrchu eu pigdyre i gyfeiriad y nefoedd. Ust! mae’r
awel yn cario sain clyche un o honynt dros y tone i glustie’r alltud
unig nas gŵyr beth a wna, ai chwerthin ai wylo. Dacw’r castell coch ei
furie, ac adfel hen fynachlog. Ha! a dacw’r ’strydoedd llithrig a
cheimion, a phobl yn esgyn ac yn disgyn ar hyd-ddynt fel gwybed ar
gwarel ffenest’. Mae hen air yn d’we’yd na fedr un _Iuddew_ fyw
y’_Malta_ nac _Aberdeen_; a’r rheswm am hyny yw, fod y _Melitied_ a’r
_Ysgotied_ yn gorfaelu cribddeilieth, fel nad oes dim ar ol i’r
_Iuddew_. Dangoswyd i mi fau bychan ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol i’r
ynys, a elwir _Bau Sant Paul_, am y tybir taw yno y daeth efe a’r
achubedigion erill i dir. P’run bynag a oedd hyny’n wir neu beidio, yr
oedd yn wir i mi ar y pryd; a daliwn i syllu ar y fan nes i’r ynys fyn’d
o’r golwg. Mi weles heno’r haul-fachludiad gogoneddusaf a weles erioed.
Nid af i geisio’i ddesgrifio, am ei fod y’mhell y tu hwnt i’m darfelydd
egwan i. Fel ’roedd yr haul y’machlud, fe ddeue’r lleuad i fyny’r ochr
arall, ac er fy syndod, yr oedd yn _werdd_ i gyd drosti! Yr oedd yn
debycach i gosyn o gaws _Gorgonzola_ na dim arall. Gofynes i rywun pa’m
yr oedd felly, a’r atebiad ge’s oedd taw gwyrdd oedd prif liw’r haul
wrth fachlud, a taw cyfranogi o hwnw oedd y lleuad. Cyflwynaf ef am ei
werth, ond nid yw’n anhygoel. Dim tir eto nes cyredd yr _Aifft_.

Dydd Llun, y 4ydd.—Dim helynt o fath yn y byd heddyw. Darn diserch iawn
o’r daith yw hwn o _Malta_ i _Alecsandria_. Dim ond awyr a môr a
haul—ac ä’r haul o’r golwg weithie. Dim aderyn yn y wybren—dim
pysgodyn y’neidio allan o’r dw’r—dim llong ar wyneb yr eigion yn unman.
Meddyliwn am gân _Alecsander Selkirk_:—

        “I am monarch of all I survey,
         My right there is none to dispute.”

A gall’sai’r hen long fabwysiadu’r syniad yn llawn cystal. Yr haul yn
gwresogi ar brydie, ond y gwynt o’r gogledd-ddwyren yn para i eillio o
hyd, gan gymedroli’r gwres. Disgyna gwlith trwm yn gynar wedi i’r haul
fyn’d lawr. Mae hyn yn nodweddiadol o’r dwyren. ’Does dim rhyfedd fod
cyment o son am wlith yn y Beibl. Gwneir parotöade mawrion ar gyfer
glanio, a theimlaf ychydig gyffro yn fy meddianu ine.

Dydd Mawrth, y 5ed.—Y tone wedi codi, ac yn peri i’r llestr siglo’n
enbyd. Y gwynt yn gry’ ac yn oer. Cael y môr i ni ein hunen o hyd.
Ysgrifenu at deulu bychan y’_Nhreorci_, sydd a’i bryder yn fawr am
danaf. Ysgriblo gore’ medrwn at gyfeillion hefyd. Tynu i derfyn y daith,
a dïolch am hyny.

Dydd Mercher, y 6ed.—Dyma’r diwrnod gwaetha’ gawsom oddiar pan y
gadawsom y _Bari_. O’r anwyl! Daeth rhuthrwynt ofnadwy o’r gorllewin
arnom, a gwlaw mawr yn ei gôl. Yr enw sy’ gan y morwyr ar y math yma o
dywydd yw _squall_. Mae’r tone fel mynydde, ac yn disgyn ar y dec yn
dunelli. Mae’r llong yn gwegio fel meddwyn, nes ei gwneud yn a’mhosib’
cerdded yn gywir, bwyta’n weddus, nac ysgrifenu’n daclus. Mae’r cadben
yn bryderus rhag y bydd yn rhaid i’r llong aros o’r tu allan i’r
porthladd, a’i thrwyn i’r gwynt oherwydd y ’storm. Dipyn yn beryg’ yw
myn’d i mewn i ambell i borthladd ar dywydd garw. Mae porthladd
_Alecsandria_ felly, am fod ei ene mor gul. Ar ol d’od i ymyl y làn mor
ddidrafferth, mae’n anodd i’r bechgyn gadw ffrwyn yn eu gene wrth wel’d
y drafferth wedi eu gorddiwes yn y diwedd. Nid oes genyf ond gobeithio y
tawela’r gwynt erbyn y bore’, ac y cawn fynediad cysurus i’r hafan cyn
nos yfory. Cyflwynaf fy hun, a’r llong a’i llwyth, i ofal yr Hwn y
ceisiaf yn anheilwng ei was’naethu.

Dydd Iau, y 7fed.—Y gwynt wedi gostegu, y môr wedi tawelu, a’r gweddïe
wedi eu hateb. Daethom i olwg y tir cyn haner dydd. Hwre!

O hyn allan gadawaf fy nyddiadur, gan roi hanes fy helyntion tra yn yr
_Aifft_, heb ymgais i’w dyddio a’u trefnu, yn union fel y digwyddant
guro wrth ddrws y côf.

[Illustration]



                                PENOD X.


                                   *

                                GLANIO.

GWEDI pythefnos o ymlwybro ar hyd wyneb y dyfnder, a “Dafydd Jones” yn
“byhafio” fel gŵr bonheddig—yr un fath a phe gwydde fod iddo gâr o’r un
enw ar fwrdd y llong—des i olwg tir yr _Aifft_ pan o’wn bron yn ei
ymyl. Y rheswm am hyny yw, fod y tir yn fflat fel eich llaw, heb iddo na
mynydd, na bryn, na bryncyn, na chodiad cyment a thwmpath gwahadden yn
dir cefen i’w farcio allan o’r pellder. Pan ddaeth y llygad noeth yn
alluog i’w wahaniaethu, ymddangose fel llinell lwyd wedi ei thynu gan
bwyntil o blwm, ac yn tori rhwng dw’r ac awyr. Ond dyna! cyn imi braidd
gael amser i roi ’nghap yn deidi ar fy mhen, ce’s arwyddion y’nes ataf
fod tir gerllaw.

O amgylch ogylch y llestr yr oedd bade, fychen a mawrion, yn llawn o
fode ar lun dynion—rhai yn rhwyfo, erill yn eistedd a’u dwylo ’mhleth,
ac erill drachefn yn sefyll ar eu traed mor ddidaro a phe baent ar y
làn. Y peilot oedd un, a’i neges ef oedd ein cyfarwyddo i mewn i’r
porthladd. Un o swyddogion y dollfa oedd y llall, yn d’od i archwilio’r
papyre, y’nghyda chargo unrhyw deithiwr fel fy hunan a all’sai fod ar y
bwrdd. Yn awr y gweles y fantes o fod ar enw un o swyddogion y llong,
hyd y’nod pytae heb fod ond gwerth swllt y mis. Oblegid wrth fy ngwel’d
â phin ysgrifenu wrth fy nghlust, un arall rhwng fy nanedd, bwndel o
bapyre yn fy llaw, fy nghap ar fy ngwegil, ac awdurdod diapêl yn
argraffedig uwchben fy llyged, cafodd f’eiddo i lonydd, a’u perchenog y
fath arwyddion o barch, nes gwneud iddo dybied am foment ei fod yn
perthyn i warchodlu Arglwydd _Cromer_.

Dyma’r meddyg yn d’od i wel’d fod pawb yn iach yn ein plith. Yr oedd y
ffaith fy mod wedi arwyddo’r erthygle fel talydd yn fy nïogelu rhag
ymosodiade hwn eto. Ac mi dd’wedaf wrthych pa’m. Pe daethe i wybod taw
fel dyn claf yn chwilio am iechyd yr es allan, deg i un na f’ase’n
gwneud y ffwdan creulona’, yn gwarafun i’r llong fyn’d i’r porthladd nes
y ceid ardystiad o’r ochr hyn i sicrhau nad o’wn wedi bod yn dyodde’
oddiwrth glefyd heintus—hwyrach y gorfodid y llong i aros o’r tu allan
am wythnos neu ragor, yr hyn fydde’n golygu coste o ganoedd o bune i’r
perch’nogion. Ond megis y mae llawer ffordd i ladd ci heblaw ei grogi,
felly y mae rhagor nag un ffordd i dd’od allan o honi heblaw drwy ddrws
y ffrynt, a’r naill onested a’r llall.

Ha! dyma’r llythyr-gludydd, wirionedd i, yn d’od a’r llythyre i’r bwrdd.
Efe oedd yn cael y croeso mwya’ o bawb. Mor dda oedd genyf fyn’d ’nol i
_Dreorci_ am bum’ munud, a rhoi llam dros dair mil o filldiroedd o fôr i
siarad â rhai oedd anwyl genyf. Nid yw fy “ngwir gymar” wedi f’anghofio,
nac _Eunice_ fy merch, fy unig blentyn, o’i hysgol yn _Caint_. Bendith
arnynt! Erbyn imi dd’od i ben draw’r epistole, yr o’em wedi d’od i ben
draw’r daith, a bwrw angor yn ymyl y cei. Y’mysg y dyrfa amryliw a
wylie’n dyfodiad oddiar y cei, yr oedd nifer o blant o bum’ mlwydd oed a
than hyny, heb ddim o’u cwmpas i ddynodi eu rhyw, a chan ddued a’r
eboni. Tra’r o’wn yn syllu arnynt gyda dyddordeb, diflanasant fel mwg,
heb un ar ol; ac yn fy myw y medrwn ddyfalu pa beth a ddaethe o honynt.
Ond pan drois fy llyged dros ymyl y llong yr ochr nesa’ i’r môr, mi
weles ddwsin o bene duon y’nofio fel cyrc hwnt ac yma, ac yn crio
“_Bacsheesh!_” dros y lle. Mi dafles ddwy neu dair ceiniog i’w canol, ac
i lawr a hwy ar eu hole fel pysgod. Buont cy’d yn d’od i’r wyneb
drachefn, nes peri i mi ofni eu bod wedi glynu yn y mwd ar y gwaelod!
Ond pan ddaethant, mi weles arwyddion yn union oedd yn d’we’yd fod yna
ysgarmes ofnadwy wedi bod o’r golwg, a’r cwbl am dair ceiniog! Gwn am
ddynion—heb sôn am blant—y’nes yma na’r _Aifft_, a ânt drwy ysgarmese
a farciant eu cymeriade—heb sôn am eu cyrff—hyd y bedd, yn eu hawydd
aniwall i gofleidio traed y duw _Mammon_.

O’r diwedd, ar ol pwffio, a ’sgriwio, a chwibanu, a gwaeddi mwy na mwy,
gollyngwyd yr angor, a sicrhawyd y llong â rhaffe wrth gyrn ei hallor ei
hun. Cyn pen pum’ munud, yr o’wn mewn bâd hwylie y’nghwmni’r cadben yn
’sgimio dros wyneb y dw’r yn groes i’r porthladd, i’r ochr nesa’ i’r
ddinas. Enw’r badwr oedd _Alec_, ac enw’i brentis oedd _Achmed_. Cofier
taw _Cymraes_ yw’r “ch” yn enw’r prentis. Daeth y badwyr a mine’n
ffrindiol ryfeddol cyn i mi ddychwelyd. Daethant a ni’n gysurus i’r làn
draw. Neidies o’r bâd yn gynta’, a theimles fy nhraed yn taro tir yr
_Aifft_ am y tro cynta’ ’rioed. O’m cwmpas yr oedd scoroedd o _Arabied_
talgryf ac ysgwyddog, capie cochion hirgul ar eu pene, a’u gwisgoedd yn
fath o gymodiad rhwng Dwyren a Gorllewin. Pan o’wn yn croesi’r ffin or
plentyn i’r llanc, yr wy’n cofio’n dda na yre dim fwy o arswyd arnaf na
gwel’d “dyn du” ar y ’stryd: rhedwn adre’ ar golli f’anadl, ac ni
theimlwn yn ddïogel nes y cawn fy hun yn llechu dan ffedog fy nain, fel
estrys a’i ben yn y tywod. Ac er fy mod yn ddyn “llawn deugen mlwydd
oed” pan ge’s fy hun y’nghanol yr ebonied clebrllyd y prydnawn hwnw yn
_Alecsandria_, nid heb ychydig bach o gyffro yn f’ochr chwith y gall’swn
gymeryd ’stoc o honynt â chil fy llygad.

Pan ddechreues sylweddoli’r ffaith fod gwadne fy nhraed a daear yr
_Aifft_ wedi cusanu eu gilydd, meddianwyd fi gan deimlad go ddyeithr.
Dyma’r wlad y mae ei hanes y’myn’d yn ol i fabandod y byd, a’i
gwareiddiad yn berffeth “cyn bod _Abraham_.” Dyma’r wlad lle magwyd
_Moses_ bach, yr addysgwyd ef yn holl ddoethineb yr Aifftied nes y daeth
yn _Foses_ mawr, ac y dysgyblwyd ef i gyfrinion Duw’r _Hebrëwyr_ nes
iddo fyn’d yn _Foses_ mwy. Dyma’r wlad lle bu’r etholedig genedl yn codi
temle a phyramidie oesol y _Pharöed_, yn gweithio am y rhan fwya’ o
bedwar cant a haner o flynydde â phriddfeini heb wellt iddynt, ac yn
cynyddu mewn rhifedi a nerth er gwaetha’r caledi a ro’id arnynt i’w cadw
i lawr. Dyma wlad y _Nile_, dyfroedd yr hon a dröwyd yn waed gan Dduw i
ddïal gwaed ei bobl, ar fynwes yr hon y gosodwyd gwaredwr cynta’
_Israel_ i orwedd dan gysgod yr hesg a’r prysglwyni, a’r hon a addolid
gynt, ac a addolir eto, gan filiyne o breswylwyr ei glenydd. Dyma’r wlad
lle bu Duw (ys d’wedai’r anfarwol _Dewi Ogwen_), yn agor dwylo _Pharo’_
bob yn fys i ollwng y genedl i ffwrdd, lle bu rhan o “lu mawr” yr
_Arglwydd_—y llau, y llyffent, a’r locustied—yn cyflawni eu hymdeth
ddinystriol wrth orchymyn eu llywydd, a lle bu angeu’n cynal ei loddest
y’mhob teulu’r un pryd trwy’r wlad i gyd ond _Gosen_. Ac os cywir y
casgliad taw’r _Saeson_ yw’r deg llwyth sydd ar wasgar, ac a gollwyd
y’mysg y cenhedloedd, dyma’r wlad sy’n cael ei llywodraethu heddyw gan
ddisgynyddion y dynion fu’n gaethion ynddi bum’ mil o flynydde’n ol. A
dyma’r wlad, mi greda’, a ddaw eto’n ail i _Eden_ mewn prydferthwch, i
ddyffryn yr _Iorddonen_ mewn ffrwythlonrwydd, i _Bryden Fawr_ mewn
gwareiddiad, ac i _Walia Wen_ mewn crefyddolder, y’mhen dwy neu dair o
genedlaethe.

Yr o’wn wedi myn’d i freuddwydio ar ddihun fel hyn, y gwaetha’ o bob
breuddwydio, a llais y cadben ddaeth a mi’n ol at sylwedde bywyd:—

“_Come away, sir, or they will think you mad!_”

A phan edryches, dyna lle’r oedd tẁr o fadwyr cymysgliw o’m cwmpas yn
syllu arnaf fel pe bai dau gorn ar fy mhen. Mi ge’s ragor na dau ar fy
nhraed cyn dychwelyd; ond ni fu brys mawr arnaf wed’yn i freuddwydio ar
ganol y ’stryd.

[Illustration]



                               PENOD XI.


                                   *

                              MEWN DALFA.

NI raid i chwi fod fawr o amser y’ngwlad yr _Aifft_ cyn y cewch eich
taro gan amldra ei thrigolion. Y maent fel locustied, nid yn unig yn y
trefi a’r dinasoedd, ond hefyd yn y pentrefi a’r wlad oddiamgylch.
D’wedir nad yw nifer trigolion _Alecsandria_ dros dri chan’ mil; ond
wrth gerdded dros ei ’strydoedd, hawdd fydde madde’ i chwi pe haerech
fod yno filiwn. Mae culni’r ’strydoedd yn peri fod y dre’n ymddangos yn
llawnach nag ydyw mewn gwirionedd. Gydag ychydig eithriade, ac heb
gyfri’ y rhan hono lle mae _Ewropied_ yn byw ac yn dwyn y’mlaen eu
trafnidieth, chwi ellwch boeri o un ochr i’r llall yn y ’strydoedd
brodorol, a hyny heb aflonyddu ond y nesa’ peth i ddim ar gyhyre eich
gwyneb. Y canlyniad yw, fod y dynion yn ’sgwyddo’u gilydd fel mewn
ffair. Weithie, chwi gewch eich hunen y’nghanol y dyrfa ryfedda’ heb
fedru symud cam i’r dde’ na’r aswy, y’mlaen nac yn ol, mor ddigymorth ag
aderyn mewn rhwyd. Chwi aethoch i’r sefyllfa boenus yna’n ddïarwybod i
chwi, a chwi ddeuwch allan o honi’r un modd. Yn sydyn, mae’r wasgfa’n
cilio; ac os ydych yn bryderus o gywreingar i wybod yr achos o’r
waredigeth, byddwch ar eich gwyliadwrieth y tro nesa’ y cewch eich hunen
mewn sefyllfa debyg. Buan y gwelwch haner dwsin o heddgeidwed y’nghyrion
y dyrfa, a buan y clywch sŵn eu pastyne’n dyfod i wrthdarawiad â nifer o
bengloge ’styfnig ar eich cyfer. Rhydd hyn ollyngdod mawr cyn pen
ychydig eiliade, a pharod fyddwch i ddïolch  taw nid ar eich pen chwi y
disgynodd y pastwn.

_Soudanied_ yw’r heddgeidwed bron yn ddieithriad—brodorion y wlad sy’n
gorwedd i’r de a’r de-orllewin o’r _Aifft_; a gwneir heddgeidwed o
honynt ar gyfri’ eu gwydnwch a’u ’stoicieth. “Gwŷr cedyrn” ydynt o
ddifri’—tal, ’sgwyddog, brest-lydan, can ddued a’r t’w’llwch, a’r duwch
hwnw’n dysgleirio fel grât y gegin ar fore’ Sadwrn y’nhŷ’r wraig syber
Gwefuse tewion, yn ymestyn y’mlaen, ffroene llyden, yn ymestyn yn ol o
glust i glust y’mron, a dwylo fel dwy balfes gwedder. Ar y pen yr oedd
cap coch, hirgul, tebyg i lestr blod’yn wedi ei droi a’i wyneb yn isa’,
a thusw o’r un lliw yn rhedeg dros yr ymyl. Am y traed yr oedd esgidie o
ledr, cryfion a thrwchus, yn dwyn tebygrwydd nid bychan i ddwy wagen
gymedrol; a’r syndod i mi ydoedd, sut yr oedd y dynion yn gallu dygymod
â’r fath garchar ar ol bod yn draednoethion erioed dros dywod yr
anialwch. Rhwng y ddau eithafion yna—y pen a’r traed—yr oedd ganddynt
wisg o’r un doriad ag eiddo heddgeidwed _Morganwg_, ond fod y botwne’n
fwy. Maent i’w cael ar ben pob heol, os nad yn amlach; a chwi dde’wch ar
eu traws fynyched nes eich cyfiawnhau i ame’ ai tybed nad gwylio’ch
symudiade chwi oedd neges fawr eu bywyd. Ar y cynta’, wrth feddwl am
hyn, tueddwn i fyn’d dipyn yn bryderus; ond mi dde’s yn gyfarwydd â’r
gwŷr yn fuan. Yn wir, mi dde’s i delere siarad â dau neu dri o honynt a
gerddent yn ymyl y doc. Yr o’wn wedi pigo ychydig froddege _Arabaeg_ i
fyny’r diwrnode cynta’, a defnyddiwn bob cyfleusdra a gawn i’w hawyru.
Pan y’myn’d o’r llong i’r dre’ yn y bore’, cyfarchwn hwy â’r frawddeg,
“_Narak said_,” wrth basio, ystyr yr hyn yw, “Dydd da;” a phan y
dychwelwn yn yr hwyr, dywedwn, “_Iltak said_,” sef “Nos da:” chyfarchent
fi’n ol bob tro’n siriolach nag y gwneir yn aml y’_Nghymru_.

Eu pechod parod yw bod yn or-swyddogol a garw pan gânt gyfle. Rhyngoch
chwi a mine, hwyrach taw dyna yw pechod parod eu brodyr sy’n byw y’nes
atom na’r _Aifft_. Yn ddystaw bach, onid dyna bechod parod pawb sy’ mewn
swyddogaeth? Gan nad beth am hyny, parodd rhein dipyn o flinder i mi ar
ddau achlysur yn eu hawydd angerddol i fawrhau eu swydd. I ddirwyn y
benod i fyny’n brydlon a blasus, mi dd’wedaf wrthych pysut.

Rhwng y docie a’r dre’ yr oedd clwydi tebyg i’r hen dollbyrth gynt. Yn
eu hymyl safe nifer o blismyn, gwaith y rhai oedd edrych na bydde nwydde
trethol o un math yn cael eu smyglo drwodd o’r llonge i’r dre’, ac o’r
dre’ i’r llonge. Yr ochr arall i’r ffordd, yn union gyferbyn a’r clwydi,
yr oedd adeilad crwn, tebyg i dŵr castell, yn yr hwn yr eistedde dau
swyddog o awdurdod dïamheuol, y rhai a agorent ac a archwilient bob
pecyn a ddrwg-dybid—ac na ddrwg-dybid yn aml. Nid oedd hawl gan y
bechgyn yn ymyl y clwydi, er ame’ eich pecyn, i’w agor, nac hyd y’nod
i’w gymeryd o’ch llaw yn y fan hono: eu dyledswydd hwy oedd myn’d a chwi
a’ch pecyn i’r tŷ crwn yr ochr draw. Ond yr oedd ambell un y’mynu rhoi
cam neu ddau dros ben ei ddyledswydd, ac fe wnele fyr waith o’ch eiddo’n
bur ddiseremoni o dan lyged y werin, os nad argyhoeddech ef eich bod
cystal gŵr ag yntau am ei ddanedd. Gwnaed hyny â mi ddwyweth—pan o’wn
y’myn’d i ddal y trên i _Gairo_, a phan o’wn yn dychwelyd. Ond mi
achwynes arnynt y ddau dro yn y tŷ crwn, ac ni chlywsoch erioed y fath
dafod a gawsant! Ceisiasant wneud yr un peth â mi wed’yn, heb fy
adnabod; ond daliodd un o honynt fy llygad mewn pryd, d’wedodd air wrth
ei gymydog, a gwthiasant fi’n llyth’renol i’m ffordd—megis y gwthie’r
_Aifftied_ yr _Israelied_ gynt i’w taith. Ar ol hyny, yr wyf bron yn
sicr y gall’swn smyglo faint fyd fynwn o “lâs,” a thybaco, a sigeri
drwy’r clwydi o dan drwyne’r heddgeidwed, pe dewiswn, a phe bawn yn
tueddu at bethe felly, heb iddynt dd’we’yd gair, ond yn falch i wel’d fy
nghefn yn diflanu’n y pellder.

Pa faint roe ambell un adwaenwn am gyfleusdra tebyg!

[Illustration]



                               PENOD XII.


                                   *

                         TREM ODDIAR Y TROTHWY.

SON yr o’wn am amldra’r trigolion pan ddaeth yr heddgeidwed i fewn i’r
fusnes—y byddai hyny’n un o’r pethe cynta’ a’ch tarawe.

Peth arall a’ch tarawe mor debyg a dim fydde amrywieth y gwynebe a’r
gwisgoedd. Nid y bechgyn sy’n peryglu’r heddwch wrth geisio’i gadw yw yr
unig rai sy’n gwisgo capie cochion, ond ceir hwy’n gyffredin iawn. Yr
enw arnynt yw “tarbwshus,” a mi weles dri o honynt yn cael eu gwneud
wrth orchymyn, yn y siop lle’r es i’w prynu. Gwisgwn un fy hun wedi’r
nos yn _Cairo_, a thybiwn fy mod yn gwneud _Arab_ go lew. Mae’n siwr gen
i taw prin y tybie neb arall hyny. Mae’r “turban” bron mor gyffredin a’r
llall. Math o ddeunydd gwỳn, neu las, neu felyn, yw hwn, wedi ei dorchi
drosodd a throsodd am y penglog, a chryn lawer o fedr yn cael ei ddangos
yn y gwaith. Mae gan y _Mahometanied_ selog ystyr i’r gwahanol liwie:
dynodant radde o agosrwydd ysbrydol i’r blaenor _Mahomet_. Gwisgir
mantelli hirllaes dros y corff hyd at y traed gan y mwyafrif o’r bobl, o
bob lliw yn y byd; ac am y traed, weithie sandale, ond yn amlach
hebddynt. Rhwbir rhyw fath o sylwedd melyn ar wadne’r traed i’w caledu
rhag y gwres, a defnyddia’r merched a’r gwragedd yr un ’stwff at ewinedd
eu dwylo—i’w caledu, medd rhai, i’w prydferthu, medd erill. Fy marn i
oedd taw prin oedd y prydferthwch; ond dyna, ’does dim cyfri’ i fod am
chwaeth. Bid fyno, mae blaenion bysedd y boneddigese’n ymddangos yr un
fath yn union a phe baent yn bwyta mêl â hwynt drwy gydol y dydd.

Ryw ddiwrnod, mi ge’s gader i eistedd arni ar ben drws un o swyddfeydd
llonge _Alecsandria_, fel y gall’swn wylied y “llïaws cymysg” a elent
heibio. Bum yno awr: ac i mi, yr oedd yn un o’r orie mwya’ difyr ac
adeiladol a dreulies yn yr holl wlad.

Dyma beneth rhyw lwyth _Arabedd_ yn pasio, naill ai mewn dwfn fyfyrdod,
a’i ben ar ei frest, neu mewn hwyl herfeiddiol, a’i drwyn yn yr awyr.
Fel rheol, clobyn o ddyn tal, cyfartal, prydweddol, lluniedd, ystwyth, a
chryf yw’r “shêch,” neu’r peneth; ei groen yn bygddu, ei drwyn yn hir a
syth, ei lyged yn fychen, duon, ac aflonydd, fel pe baent yn chwilio am
elyn ar bob llaw, ei wefuse’n feinion, ei ffroene’n deneuon, ei farf yn
dywyll a chwta, a’i ben yn hirgul. Crachboera wrth basio pob _Ewropiad_,
a chwi ellwch ei glywed yn murmur melldithion ar ei ben wedi iddo fyn’d
heibio. Pe cae ef a’i wehelyth eu hewyllys, ’sgubid ymeth bob ci o
_Gristion_ allan o’r terfyne cyn pen fawr amser, ac allan o’r byd gynted
a hyny. Dyna i chwi deip o’r gwir _Arabiad_,—cydnerth, cyfrwys,
creulon, coelgrefyddol.

Dyma _Negröed_ o’r canolbarth, a mwy o’r anifel yn perthyn iddynt na dim
arall: eu pene’n fawr a chrynion, eu pengloge’n gelyd a gwlanog fel
gwlan y ddafad ddu, eu crwyn yn ddu a seimlyd, eu trwyne’n fflat, eu
ffroene’n llyden, eu gwefuse’n dewion, a’u danedd fel ifori. Plant y
cyhydedd a’r anialwch ydynt, a phrin y cânt eu hanadl y’nghanol y
’strydoedd culion.

Dyma i chwi _Dwrc_ a’i wyneb difynegiant——

Ac ar ei ol _Bersiad_ yn ei garpie——

Ac wrth ei sodle ynte un o breswylwyr _Ceylon_ a
hireth-_Cymro_-am-ei-wlad yn ei lyged——

A dacw _Chinëad_ a’i gynffonbleth——

A’r ochr arall i’r ’stryd ŵr o _Japan_ a’i lyged bychen hirgrwn, a’i
aelie ymofyngar——

A dyma _Roegwr_ llyswenog——

A _Sais_ o filwr yn ei gôt goch yn ei ddilyn——

Ac un o blant _Abram_ yn plygu dan bwyse’r groes ro’ed ar gefn ei
genedl——

A morwr o _Ynys Pryden_ yn cerdded yn ’sgwarog ar ei ol——

——Hach! beth yw hwn sy’n moes-ymgrymu o fy mlaen, ac o ba le y daeth?
Edrycha fel tẁr o ddillad budron parod i’w golchi, neu dẁr o garpie
parod i’w llosgi. Dyma law a braich yn ymestyn dan y carpie tuag ataf,
ac O! nid ydynt ond croen ac esgyrn ar y gore’. Rhytha gwyneb ’sgerbydol
arnaf odditan benguwch ffïedd, a llosga dwy lamp loew y’nhylle’r llyged.
Prin y mae arnaf ei ofn, a phrinach y mae arnaf ei chwant. Dealles yn
fuan taw un o fegeried y wlad ydoedd, yn ei dawch a’i duchan; a haws
oedd i _Paul_ ysgwyd y wiber oddiwrth ei law, nag i mi gael gwared o’r
aflendid hwn. Dosbarth sy’n nodweddiadol iawn o’r Dwyren yw ei fegeried,
y rhai sy’n boen ac yn bla i’r ymwelwyr. Glynant wrthynt fel gelod. I
geisio rhoi cyfeiriad arall i’w gamre, mi ro’is iddo geiniog; ond yn lle
hel ei bac at ei gilydd a myn’d i’w ffordd, dal i estyn ei law wnele’r
hen bechadur, gan furmur rhwng ei ddanedd, a gofyn am ragor, fel _Oliver
Twist_. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi gwneud ei feddwl i fyny taw aderyn
hawdd ei blyfio o’wn i, ac nid o’wn yn chwenych ei ewinedd fwlturedd,
rhag iddo fyn’d y’nghyd a’r gwaith yn llyth’renol. Ond mi ge’s brawf
buan fod Rhaglunieth yn gofalu am ei phlant. Dyma un o ddynion y swyddfa
yn d’od allan ar y funud, pan oedd pethe’n dechre gwisgo gwedd go
ddifrifol—ac ar ol deall sut oedd pethe’n sefyll, gỳr y cardotyn egr ac
aflan ymeth gyda rhes o’r geirie mwya’ cyflym eu dylanwad a glywes
erioed. Ni f’asech byth yn credu gynted y casglodd y crëadur ei gwbl
y’nghyd, ac y symudodd ei bres’noldeb afiach o’r gym’dogeth. Afred yw
’chwanegu iddo dywallt diluw o felldithion ar ben fy nghymwynaswr, ac
anghofio dïolch i mine am y geiniog a gawse.

Dacw ferched o Ynys _Malta_’n pasio, ac edrychent mor ’smala nes imi
syllu ar eu hole’n hŵy nag y mae’n weddus i ddyn prïod wneud peth
felly’n gyffredin. Yr o’ent o faintioli glew y’naturiol, ond yr oedd y
fantell oedd am danynt yn gwneud iddynt ymddangos deirgwaith gyment. Nis
gwn beth oedd deunydd y fantell, ond yr oedd yn sicr o fod o ddeunydd
ysgafn iawn. Cychwyne am y pen fel cwcwll, yna tynid ef i mewn am y
gwddf, nes yr oedd fel awyren fechan. Dyna balŵn No. 1. Wed’yn, fe rede
i lawr hyd at y wâsg, tynid ef i mewn yno drachefn, nes cyfansoddi balŵn
No. 2. No. 3 oedd y fwya’, oblegid yr oedd hono’n rhedeg i lawr o’r wâsg
i’r ffere. Wrth edrych arnynt o’r tu ol, yr oedd y tair awyren yn
ymddangos mor ddoniol o ddigri’, nes peri i mi dynu sylw a chilwg ambell
i hen shêch a ele heibio, gan mor uchel y chwarddwn. Pan gydgerdde tair
o honynt ochr yn ochr, cyrhaeddent o balmant i balmant; a’r peth a’m
syne i oedd—os taw felly y gwisgent yn Ynys _Malta_, sut gebyst yr
o’ent yn cael lle yno! Yr oedd modrwye ganddynt ar bob bys, hyd y’nod y
bodfys, a breichlede ar arddwrn a migwrn—os nad yw sôn am freichled ar
figwrn yn sawru braidd yn _Wyddelig_. Sut bynag, dyna fel ’roedd. A peth
arall oedd yn ogleisiol: O dan yr ardderchawgrwydd i gyd, mewn sidan, a
modrwye, a breichlede, yr oedd pob un o honynt yn droednoeth, heb gysgod
hosan na sandal yn agos iddynt!



                              PENOD XIII.


                                   *

                            FFAWD A FFWDAN.

MAE _Alecsandrida_’n ddinas fawr, a’i phoblogeth dros dri chan’ mil; ond
ni weles ei haner. Mae ynddi rai ’strydoedd gwychion, a llu o adeilade
fydde’n gredyd i _Paris_; ond culion a brwnt oedd y rhan fwya’. Wedi
’sgriwio drwy haner dwsin o’r rhai cula’, a dyodde’ dirdyniade heb fesur
oherwydd a’mhwylledd y gyriedydd ac arafwch y gwŷr traed i symud oddiar
y ffordd, ryw ddiwrnod ce’s fy hun yn sydyn yn y _Grand Square_, a’r
cadben hefo mi. Mae’r ’sgwâr hwn yn deilwng o unrhyw ddinas yn _Ewrob_.
Dyma lle mae’r bancie, a’r gyfnewidfa, a’r prif fasnachdai, a’r
swyddfeydd pena’, a’r gwestai gwycha’. Y’nghanol y ’sgwâr y mae cofadel
i _Mahomet Ali_ (os wy’n cofio enw’r gŵr yn iawn), un o gynfawrion y
tir, a gerddi, a sedde; tra y rhuthra olwynion masnach a phleser heibio
o bob tu ac i bob cyfeiriad. Cedwir y ’sgwâr yn lân a chryno, ac y mae
i’r llygad fel darn o Baradwys y’nghanol yr anialwch. Allan o hono y
rheda’r brif heol a elwir ar enw _Cherif Pasha_, ac yma de’s i
gyffyrddiad â’r _Cymro_ twym’galon a gwladgarol y soniaf am dano yn fy
Rhagymadrodd. Oni b’ase am dano ef a’i frawd yn _Cairo_, mae’n anodd
gwybod pa beth a ddaethe o honof yn y wlad bell hono. Er yn frodor o Sir
_Gynarfon_, mae wedi enill ei blwy’ yn yr _Aifft_ er ys agos i ugen
mlynedd; a’i frawd yr un modd. Nid oes ei barchusach y’mhlith dinaswyr
_Alecsandria_. Masnachu y mae mewn nwydde _Seisnig_, a’i lwyddiant yn
gyfiawn ac yn sicr. Y’mhlith ei wasanaethwyr yr oedd bachgen o _Gymro_
o’r enw _Huws_ o _Abergele_, a bachgen melynddu o’r enw _Selim_, y rhai
fuont arweinwyr i mi o bryd i bryd. Preswylia’r boneddwr ychydig allan
o’r ddinas, a che’s y mwynhad o dreulio un prydnawn Sabbath o dan ei
gronglwyd. Mewn “fflat” y trigai—y “fflat” ucha’n yr adeilad, yr hwn
oedd yn sicrhau nen y tŷ at wasaneth y teulu. Yr oedd yn cynwys amryw
’stafelloedd, wedi eu dodrefnu’n bena’n ol y dull Dwyreiniol. Yr oedd yr
holl ffenestri’n agored, a’r awel garedica’n tramwy drwy’r tŷ. Oddiar
nen y tŷ ceid golwg braf ar y ddinas a’r wlad oddiamgylch; ac mewn congl
gerllaw fe gane ceiliog yn _Gymraeg_, ac fe ymdreche iar neu ddwy
glochdar yn yr un iaith. Boneddiges o _Aberystwyth_ yw Mrs. _Bryan_, ac
yr oedd ganddi, pan o’wn i yno, beder o’r merched bach tlysa’ fu gan fam
erioed. Gwyn oedd fy myd I’r prydnawn hwnw; bydded hwythe wynfydedig
byth gan yr Arglwydd.

Yr wyf y’meddwl imi ddechre’r benod hon gyda chyfeiriad at y cadben a
mine y’myn’d i mewn i’r ’sgwâr yn y cerbyd ar ryw ddiwrnod, ac yr wyf
y’meddwl hefyd taw’r diwrnod y glanies oedd y diwrnod hwnw. Ar ol bod yn
y llong am bythefnos, yr oedd fy aelode isa’ dipyn yn chwareus, a chawn
fy hun yn taro’n erbyn rhyw _Ismaeliad_ o hyd. Anodd oedd peidio, gan
mor aml y dynion a chul yr heolydd. Cymerasom y traed cyn cymeryd y
cerbyd, ac wedi pasio drwy un o byrth y deyrnged, cawsom ein hunen
y’nghanol y dyrfa. Croesasom y ’stryd—anturieth heb fod yn ddiberyg’, o
herwydd y cerbyde o bob math a chwim-basient i fyny ac i lawr. Heb fod
nepell oddi-yma y mae palas y _Khedive_, brenin yr _Aifft_. Gorchuddia
ddarn mawr o dir, ac nid oes dim yn brydferth ynddo. Llanastr o dŷ isel
ydyw, yn wỳn i gyd drosto, yn ffenestri bob tamed o hono, ac yn gwynebu
i’r môr. Yr oedd yn anodd dal i edrych arno, gan fel yr oedd yr haul yn
t’w’nu ar ei furie gwynion a’i ffenestri gloewon. Nid yw y brenin yn byw
yma’n barhaus. Yn _Cairo_ y mae ei brif balas; ond pan ä’n rhy boeth i
fyw yno’n gysurus, symuda i _Alecsandria_, i gael y fantes o awelon y
môr. Dilynir ei esiampl gan y rhan fwya’ o’r mawrion. Troisom ar y dde i
heol gul, oedd yn llawn siope, a swydd-dai, a cherbyde, a phobl, a
phlant. Yr oedd yr heol guled fel, pe safech ar ei chanol, y gallech
ysgwyd dwylo’n dalïedd â’r dynion oedd bob ochr i chwi. Yr oedd lled
llaw o balmant yn rhedeg gyda’r ochre’ ond camp i chwi fydde sefyll arno
am ragor nag eiliad. A phan wthid chwi oddiarno gan rywun neu gilydd un
foment, gyrid chwi’n ol y foment nesa’ gan ryw _Jehu_ a fygythie redeg
drosoch. Yr oedd siope agored bob ochr i’r ’stryd, tebyg i stondine
ffeirie _Cymru_, yn y rhai yr oedd pob math o nwydde, a dau neu dri o
beryt yn crogi wrth eu cewyll oddiallan, ac yn ’sgrechen _Arabeg_ i dynu
sylw’r dyrfa. A mi wna lw nad oedd sylw neb yn fwy effro na f’eiddo i.

I b’le bynag y crwydrwn yn _Alecsandria_, deuwn yn ol, fel swllt drwg,
i’r llong erbyn pob hwyr i gysgu. Weithie’n gynar, weithie’n ddiweddar:
dibyne hyny ar hŷd y daith am y diwrnod, ac ar y cwmni, ac ar yr
amgylchoedd y cawn fy hun ynddynt. Nid o’r un cyfeiriad y deuwn bob tro,
ac nid ar fy nhraed y byddwn bob amser. Dïogelach oedd llogi cerbyd pan
fydde wedi myn’d yn hwyr iawn, er hwyrach y byddem yn ddau a thri mewn
nifer. Gwneud cilwg gâs ar dramorwr o’r Gorllewin mae dosbarth o’r
_Arabied_, ac ysgyrnygant ddanedd arno pan dybiant y gallant wneud hyny
a bod yn groeniach. Ymddygant felly liw dydd gole’; afred yw d’we’yd eu
bod yn fwy haerllug liw nos pan gânt gyfle. Ni fum i heb gwmni’n cerdded
i’r llong gyment ag unweth, ond bum yn un o ddau gryn ddwsin o weithie;
ac er na ddigwyddodd i mi na niwed nac anffod yn y gwibdeithie nosol
hyn, mi ge’s beth braw ragor na siwrne. Bernwch chwi.

Yr oedd y cadben a mine wedi bod ar ein hynt yn rhywle, ac wedi cael ein
hunen rywbryd gyda’r nos, rhwng dau ole’, yn bur bell o’r fan lle’r oedd
y llong yn gorwedd, ac wedi blino heb gellwer: y gwyneb a’r dwylo’n
’stiff gan lwch a haul, y pen yn poeni, a’r traed yn poethi—yr o’em
wedi myn’d i hercian fel dau drempyn er’s meityn, ac yn hiraethu am y
caban bach yn y llestr, er lleied oedd. Drwy ryw gydymdeimlad cyfrin,
daethom i ddeall beth oedd prif angen y naill a’r llall yr un pryd; a’r
canlyniad oedd, ini alw’n dau yr un pryd ar gerbydwr a ele heibio, yr
hwn, ar ol cymeryd arno ei fod yn gwybod y cwbl ac yn deall rhagor, a’n
cymerodd o’r fan hono yn ei gerbyd. Ac O, gyfnewidiad cysurus! Rhoisom
raff i’n mwynhad, a buom ddall, mud, a byddar i bobpeth arall am ysbed
chwarter awr. Tybiaf ini dd’od ’nol i’n hamgylchoedd agosa’ tua’r un
adeg. Beth bynag, tynodd y cadben fy sylw i at gymeriad amheus y
gym’dogeth yr aem drwyddi, a thynes ine ei sylw ynte at gymeriad amheus
y gyriedydd a eistedde o’n blaen.

“Nid dyma’r ffordd i’r doc!” ebe’r cadben.

“Nid hwn yw’r dreifer a logasom!” ebwn ine.

Yr oedd y cadben y’nes i’w le na mi. Gwge hen furddynod hagr arnom ar
bob llaw, sarheid ein ffroene diniwed gan arogliade amryw a dieithr, a
merwinid ein clustie gan gri begeried. “Bwrw tân” atom y bydde ambell i
lygad wrth basio; ac er galw ar _Jehu_, ni chymere arno’n clywed, ond
gyru’n ynfyd a wnai. Y’mhen hir a hwyr, daethom at ffordd haiarn, ac yr
oedd yn rhaid ei chroesi neu droi’n ol. Er fod y clwydi’n gauad, nid
oedd na thrên na pheiriant yn y golwg. Disgynodd _Jehu_ i agor y clwydi
o’r ochr hyn, ac wedi arwen y ceffyl a nine i ganol y cledre, dyma
chwibaniad! a dyma’r swyddog oedd yn gofalu am y groesffordd yn d’od
allan o’i focs, yn cydio y’mhen y crëadur o law’r crëadur arall, ac yn
gollwng allan y diluw mwya’ ’sgubol o fras hyotledd. “Tra yr oedd hwn yn
llefaru,” dyma ruthr o gyfeiriad y clwydi cyferbyniol, lle’r oedd dynion
a cherbyde ganddynt yr ochr arall, ac yn disgwyl am gyfleusdra i groesi.
Heb estyn dim at y ’stori, yr oedd yno gryn haner cant o’r tafode
grymusa’, yn cael eu helpu gan draed, a dwylo, a llyged, a danedd, duon
a gwynion, fflachiade mellt y’nghanol caddug—y cerbyd, a nine ynddo, ar
ganol y rheilie—dim posib’ myn’d y’mlaen, dim siawns i fyn’d yn
ol—trên yn ymyl a’i beiriant yn ’sgrechen ei anadl allan—a’r
_Pandemonium_ mwya’ cysurus o amgylch ogylch! Golygfa i’w chofio ydoedd.
Deallem eu bod oll y’mhen ein gyriedydd ni, ond haws oedd deall iaith
gwydde _Cymru_ amser Nadolig, na iaith y gwerinos hyn. Yr oedd gwyneb y
cadben wedi newid ei liw droion, ac nid oedd fy ngwep ine ronyn gwell,
mi wn. Yr oedd e’ o’r farn taw gwell oedd disgyn; barnwn ine taw gwell
oedd ini lynu wrth y cerbyd, ar dir rheswm a ’sgrythyr. A dyna fu ore’.
Wedi ymryddhau o’r criw ’stwrllyd, a chael llwybr clir drachefn, cawsom
ddigon o achosion i ddïolch taw nid ar ein traed yr o’em. Yr oedd y
cerbydwr wedi colli’r ffordd cyn cyredd y clwydi, a chollodd ei ben
wed’yn; y canlyniad oedd, ini gael awr arall o chw’sfa cyn cyredd y doc,
rhwng ofn a phryder a phobpeth. Chwarddasom yn galonog y noson hono, ar
ol ini gael ein traed ar ein tomen ein hunen.

Pan o’wn wedi bod yn treulio’r prydnawn Sul hwnw gyda’r ffrind o _Gymro_
y sonies am dano, tua chwech o’r gloch mi feddylies ei bod yn bryd i mi
gychwyn yn ol, os o’wn am gael odfa bregeth yn y Sefydliad i’r Morwyr,
yn ol y cynllun. Yr oedd genyf awr o amser wrth gefn. Cymerodd fy
nghyfell boen i’m cyfarwyddo sut i gael gafel ar y tram, ond bum yn hir
cyn d’od o hyd iddi. Cerddes fwy na mwy, ac er holi, nid oedd neb yn fy
neall, na mine’n deall neb. O dïolch, dyma hi o’r diwedd—ond mae hon yn
rhy lawn i gynwys rhagor. Gadewes iddi fyn’d, ac aroses am y nesa’. Wel,
wel, mae hon yn llawnach na’r llall, ac yn colli drosodd o ddynion!
_Rhaid_ imi dreio bachu’r drydedd, neu ffarwel i’r odfa. Neidies i fyny,
a ches led troed ar y grisyn i sefyll. Ni welsoch gynifer o bobl erioed
mewn un cerbyd. Dringent ar hyd ei ochre fel gwybed. Yr oedd yn rhaid
i’r tocynwr dreisio’i ffordd drwy’r dyrfa, a synwn at ei amynedd. Mor
bell ag y gall’swn wel’d, myfi oedd yr unig ddyn gwyn o fewn i’r lle; a
mi’r o’wn getyn gwynach nag arfer hefyd. Dywedase fy nghyfell wrthyf fod
y tram y’myn’d drwy’r _Grand Square_, a llygadwn am hwnw’n bryderus.
G’yd y deuem iddo! Tybed fy mod wedi camgymeryd y cerbyd! Ond para i
redeg a wnae ar hyd heolydd culion—mor gulion, nes peri i mi wasgu fy
hun yn erbyn ochr y cerbyd rhag fy ’sgathru gan y murie. Mi benderfynes
lynu wrtho b’le bynag yr ae, deled a ddele i’m cyfarfod. Cofiwn i hyny
dalu’r ffordd imi’n ddiweddar. Mi ofynes i’r swyddog fy ngosod i lawr yn
ymyl y _Gabara_, neu’r carchar. Nid am fy mod wedi bod ynddo, ond am y
gwyddwn fy nghyfeiriad oddiwrtho. Eithr ysgwyd ei ben a dangos ei
ddanedd wnae’r swyddog pan dd’wedes y gair, ac y mae mor debyg a dim nad
o’wn yn ei seinio’n briodol. O’r diwedd, dyma’r ’sgwâr, a dyma ben ar fy
mhenyd ine. Milldir arall, a disgynes ar gyfer y _Gabara_; ac ar ol ugen
munud o gerdded cyffrous, mi gyrhaeddes y Sefydliad yn brydlon erbyn y
bregeth.

Yr ochr nesa’ i’r ddinas o’r tollborth sy’n arwen o’r docie mae tua
dwsin o dafarne, isel y’mhob ystyr, y rhai sy’n byw’n bena’ ar arian a
dillade’r morwyr. Cedwir nifer o sharcied ar lun dynion yn y tylle hyn,
a denant _Jac_ i fewn; yna dygir ei synwyre oddiarno gan y gwenwyn a ŷf,
a theflir ef allan i’r heol agos y’noethlymun. Dilynodd dau o’r giwed
hyn myfi ac un arall un noson am bellder ffordd, a chynyddent mewn
beiddgarwch er gwaetha’n protestiade. ’Doedd dim i wneud ond troi
arnynt. Prynaswn ffon o groen _rhinoceros_ ychydig cyn hyny, a phan y
bygythies hwy â hono, ciliasant yn eu hole fel dau whelpyn wedi eu curo.
Da i mi na wyddent beth dd’wede fy nghalon!

[Illustration]



                               PENOD XIV.


                                   *

                               AR GRWYDR.

CERBYD sy’ mewn bri mawr yn yr _Aifft_ yw yr un y gelwir _arabeyah_
arno. Tebyga i _hansom cab_ ein gwlad ni, ond ei fod yn ysgafnach na
hwnw, a’r gyrwr o’ch blaen yn lle o’ch ol. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi
eich dwyn i gyffyrddiad a’ch gilydd yn y benod flaenorol. Mae canoedd o
honynt i’w cael yn y prif drefi, a’r oll yn gyfrifol i’r Llywodreth.
Maent wedi eu rhifo’n ofalus, a’r gyrwyr hefyd, yr un modd a nine. Eto,
prin yr anturiech i ambell un o honynt, gan mor ddigymeriad yr ymddengys
y cerbyd a’r cerbydwr. Ac os anturio wnewch, yr ydych yn y purdan c’yd
ag y byddwch ynddo. Mi allwn dybied nad oes yno un ddeddf yn gwahardd ac
yn cosbi gyru eithafol. Paradwys i “yrwyr ynfyd” o ddosbarth motorwyr a
dwy-rodwyr y Gorllewin; ac ni fydde gan aml i amaethwr wrthwynebiad i
ryddid gogoneddus o’r fath wrth ddychwelyd o’r dre’ brydnawn Sadwrn. Y
syndod i mi oedd, sut na fase llawer yn cael eu hanafu a’u lladd, yn
enwedig o blant, gan mor llawn a chulion y ’strydoedd, a chan mor
ddireswm y gyrid. Ni chlywsoch y fath _Babel_ erioed ag sy’ rhwng y
gyrwr yn dirwyn ar y ceffyl ac yn gwaeddi ar y dyrfa i symud oddiar y
ffordd, ar y naill law, a’r dyrfa hithe yn tywallt anatheme ar ei ben,
ar y llaw arall.

Pe gallech feddianu eich hun i gymeryd ’stoc o’r amgylchoedd, deuech yn
fuan i fod o’r farn taw un o’r cyfrynge gore’ i wel’d bywyd cyffredin y
bobl yw yr _arabeyah_. Yr ydych yn eu canol, ac eto’n ddidoledig
oddiwrthynt. Ond bydd chwarter o ysgol, a d’we’yd y lleia’, yn ofynol
cyn y llwyddwch i gyredd y ’stad ddymunol yna. Rhaid i mi gyfadde i mi
fethu. Y tro cynta’r es iddo, yr oedd yn ferthyrdod perffeth. Sôn am
’storm ar y môr! Yr oedd yn felus o’i chymharu â chwarter awr mewn
_arabeyah_! Ni weles neb mor ddibris o einioes a meddiane.

Yr wyf wedi sôn am olwg ddiolwg y cerbyd a’r cerbydwr; mae’n ddrwg genyf
orfod d’we’yd am y ceffyl, nad oedd ynte, druan, ddim gwell. Yr oedd
edrych arno ef, a’i gyd-grë’duried yn dwyn i’m cof bob ’stori a glywes
am geffyle tene erioed. Cofiwn am y gŵr cyflym hwnw a basie heibio i
efel gôf pan oedd ceffyl yn aros i’w bedoli. P’run ai sefyll ai gorwedd
oedd y crëadur, mae’n anodd d’we’yd gan mor dene ydoedd.

“Ai dyma lle ma’ cyffyle’n ca’l u gneud?” gofyne’r gŵr cyflym i’r gôf.

“Eu gneud!” ebe mab _Vulcan_, heb wel’d yr ergyd; “bewt ti’n feddwl?”

“O, dim ond ’mod i’n gwel’d ffrâm ceffyl yn y fan yma, dyna i gyd!”
ebe’r arabus; a ffwrdd ag e’. Gyda llaw, fe dd’wedwyd i mi fod y gôf
hwnw heb wel’d yr ergyd byth! Un go dew ei fenydd yw ambell i ôf,
ysyweth.

Sonie _Kilsby_ am gi oedd mor dene nes ei bod yn angenrheidrwydd poenus
arno i bwyso yn erbyn y wàl bob tro y cyfarthe!

Pan o’wn yn byw ar _Gefncoedcymer_, yr oedd yna bydler yn gweithio
y’ngwaith y _Gyfarthfa_ a chanddo gi can deneued a’r teneugi teneua’ a
welsoch mewn deng mlynedd. Llusge’r ci ar ol ei feistr i’r gwaith bob
dydd. Gofynodd rhywun iddo—nid i’r ci, ond i’r pydler:

“B’le ce’st ti’r ci ’na, _Ianto_?”

“Dw i ddim wedi ga’l o yto,” ebe _Ianto_.

“Sut hyny, bachan?”

“O, d’od ma’s yn rhana’ ma’ fa,” ebe’r pydler. “Pan ddaw a ma’s i gyd,
mi fydd yn gyfrol biwr ddigynyg!”

Perthyn i’r dosbarth yna o bedwar-carnolion ysgerbydol yr oedd y ceffyl
a lusge’r cerbyd y bum i ynddo ar un achlysur yn _Alecsandria_. Tebyg
i’r buchod a welse _Pharo_’n ei freuddwyd—drwg yr olwg a chul o gig. Yr
oedd ffrewyll y gyrwr ar ei wàr a’i ochre’n ddibaid, a’i lais cryglyd yn
gwaeddi ar y bobl am droi o’r neilldu’n ddïatal. Lletye ’nghalon yn fy
ngwddf c’yd ag yr eisteddwn o’r tu ol iddo. Gwelwn ddynion a merched yn
cael eu gwasgar o’i flaen fel haid o ddefed; a chauwn fy llyged yn dỳn
pan dybiwn fod cerbyd arall y’myn’d i’n rhedeg i lawr.

Yr unig dro y mwynhês i fy hun mewn _arabeyah_ oedd pan aeth y cadben a
mine am ddarn diwrnod allan o’r dre’ i wel’d Colofn _Pompi_, y Bedde
Tanddaearol, Gerddi’r Brenin, glane’r _Nile_, a _Ramle_, un o’r
maesdrefi. Ac am y tro hwnw yr wyf y’myn’d i sôn yn awr.

Heblaw _Jehu_, llogasom ddyn o’r enw _Moses_ yn arweinydd i ni; ac yr
oedd yr enw a’r swydd yn taro eu gilydd i’r dim. _Arabiad_ oedd _Moses_,
ac arno ef yr oedd gofal y llong yn y nos c’yd ag yr oedd yn y doc.
Edryche’n frwnt ddiraen wrth ei waith, ond y prydnawn hwn yr oedd wedi
ymbincio’n anghyffredin; yr oedd ei wisg yn wèn fel eira, a’i
ymddangosiad yn foneddigedd dros ben. Efe oedd yr unig _Arabiad_ a
glywes yn ceisio siarad _Cymraeg_; ond cystal i mi ei dd’we’yd a
pheidio, nid oedd ei eirie’n yr hen iaith mor ddewisol ag y b’aswn yn
caru eu bod. Yr oedd ganddo ddwy wraig a thri o blant. Bydde’r prif
swyddog yn hoff o gellwer ag ef.

“P’sawl gwraig, _Moses_?”

“Dwy.”

“P’sut wyt ti’n gallu rheoli dwy, a fine’n methu rheoli un?”

“Rhoi un i ofalu am y llall, a fine i ofalu am hono,” ebe _Moses_.

“Faint o blant sy’ genti?”

“Tri.”

“O, un-a-haner bob un, ai e? Oes cynffone gyda nhw, _Moses_?”

“Nag oes,” ebe’r _Arab_ yn syn.

“Siwr o fod—mwncis bach ydyn’ nhw, _Moses_,—chwilia di am u cynffone
nhw heno!” Ni ddangose _Moses_ gysgod anfoddlonrwydd i’r cateceisio
manwl hwn, ond fe ddangose’i ddanedd gwynion mewn llawn tymer dda.

Y lle cynta’ y daethom iddo oedd Colofn _Pompi_ a’r Bedde. Un darn
anferth yw’r Golofn, sydd yn peri i chwi synu sut y gosodwyd hi ar ei
phen erioed. Un o gadfridogion _Rhufain_ oedd _Pompi_, yn byw oddeutu
haner cant o flynydde cyn Crist. Ai ganddo ef ei hun, ynte gan rywun
arall er cof am dano, y codwyd y golofn, ’does neb a ŵyr. Ond mae’n sicr
o fod yn hen iawn, fel bron bobpeth sydd yn y wlad ’rwy’n traethu am
dani.

Yn ymyl mae’r _Catacombs_, neu’r Bedde Tanddaearol. Yn gynta’, eir i
lawr ddeugen o risie’n yr awyr agored; yn ail, eir i fewn yn sydyn i
fath o dwnel; ac yn drydydd, disgynir yn raddol wrth ole’ canwylle nes y
deuir i d’w’llwch y gellir ei deimlo. Tybir taw’r _Crist’nogion
Coptaidd_ cynta’ gleddid yn y bedde hyn; ond mae’r cyrff oll wedi eu
symud i’r Amgueddfa yn _Alecsandria_. Mi weles nifer o honynt yr un
diwrnod wrth ddychwelyd. Y bedde’n unig oedd yma. Math o dylle hirgul
oedd y rhein, wedi eu gweithio i fewn i’r ochre, ac i’w cael ar bob llaw
i’r llwybre. Mae’n hawdd i ddyn golli ei ffordd yn y dyrysle hwn, ac oni
bai fod genym arweinydd lleol,—ein harwen _at_ y lle’n unig wnai
_Moses_,—mae’n amheus genyf a wele’r cadben a mine ole’ dydd drachefn.
Wesul tipyn, daethom i ’sgwâr, o’r hwn yr oedd yr holl lwybre’n rhedeg,
ac i’r hwn y dychwelent. Ar ganol y ’sgwâr yr oedd careg anferth o dywod
wedi caledu, a throsti yr oedd canoedd o enwe wedi eu ’sgriblo gan
bersone fuont yno, fel fy hunan, yn aberthu i dduw henafieth. Ar ol
chwilio am damed glân, tores ine f’enw y’mhlith y llu, er afrwydded
oedd. Yr oedd hyn yn fwy o gamp nag a feddyliech; ac wedi gorffen,
dyhewn am dd’od o’r twll myglyd i anadlu awyr iach Duw’r Nefoedd. Pan
ddaethom allan, yr oe’m yn chw’su fel tanwyr, yn chw’thu fel cŵn ar wres
mawr, yn wincio ar yr haul fel dallhuanod, ac yn siglo fel dynion wedi
meddwi. Ac wedi meddwi yr o’em ar beth gwaeth na chwrw a licwr,—ar awyr
wenwynig, yr hon y buom awr gron gyfan yn drachtio o honi.

Ffwrdd a ni wed’yn i gyfeiriad yr afon, a buom yn olwyno gyda’i glane am
hir ffordd. Yr ochr arall iddi yr oedd canoedd o fwdgabane, a dynion yn
ymolchi ynddi ac yn yfed o honi. Yr ochr hyn iddi yr oedd gerddi
gorwych, pyrth henafol yn arwen i mewn i balase teg, ac hyd y’nod i hen
furddyne adfeiliedig. Gwelwn ambell i fad afrosgo’n croesi, ac weithie’n
glynu’n yr hesg. Tyfe’r hesg yn dew ac yn uchel dros rane o’r afon,—mor
dew ac mor uchel nes cuddio peryg’ i’r ymdrochwyr a’r gwehynwyr dwfr.
Welwch chi’r tamed tywyll acw sydd yn edrych fel darn o bren pwdr
y’nghanol y llafrwyn? Ha! dyna fe’n symud, ac yn llithro’i lawr i’r
dw’r. Beth yw hwna, _Moses_? Dyna un o grocodilied yr afon, y rhai a
ddeuant i lawr can ised a hyn yn amser newyn, a’r rhai a addolir gan y
bobl fwya’ anwybodus, fel na wnant ddim iddynt i achub eu bywyd eu hun
na bywyde eu gwragedd a’u plant.

Ar ol teithio tair milldir neu ragor gyda glàn yr afon, troisom i fewn i
erddi’r Brenin. Maent yn eang ac yn ffrwythlon, ond mor afler a’r tamed
gardd sydd genyf fi y tu cefn i’r tŷ lle’r wyf yn byw. Ceir ynddynt goed
palmwydd wrth y miloedd, yn enwedig y _date-palm_. Tŷf y rhai’n yn
dalion iawn. Mi weles ddynion yn rhedeg i fyny i’w brige ucha’ fel
gwiwerod, i’w talfyru. Rhwymant wregys cryf am eu canol, ac am y pien,
ac esgynant mewn cyfres o herciade. Mae yma hefyd nifer fawr o goed
ffigys a banane. Nid hir y buom cyn myn’d i’r Amgueddfa i wel’d y cyrff
fu’n gorwedd ar yr estyll yn y Bedde Tanddaearol. Ni ddeil hon i’w
chymharu âg Amgueddfa _Ghizeh_, yn _Cairo_. Ei phrif nodwedd oedd
hyfdra’r swyddogion ofalent am dani. Codent dreth arnoch am gael anadlu
’mron, a bu gorfod i mi siarad tipyn o _Gymraeg_ â hwy cyn iddynt dewi,
er mawr ddifyrwch y cadben. Cafodd amgenach dylanwad arnynt hwy nag a
gafodd ar hen sipsiwnen wrth draed y _Pyramidie_, am yr hon y cewch
glwed eto. Bu’r hen iaith o fantes anrhaethol i mi ragor na siwrne. Yr
oedd y cnafon yn deall acen a goslef y _Sais_ a’r _Ffrancwr_; ond nid
oedd ganddynt syniad am dafodieth Cwm _Rhondda_, a gosodwn y diffoddydd
arnynt mewn byr amser.

Aethom allan i’r wlad drachefn, o dan gysgod y palmwydd am filldiroedd,
nes d’od i _Ramle’_, un o faesdrefi _Alecsandria_. Dyma lle mae’r
bendefigeth yn byw, a braf yw eu byd. Erbyn hyn yr oedd yn dechre’ nosi,
a throisom yn ein hole. Pan gyrhaeddasom y llong, yr o’em ein dau mor
newynog a bleiddied ar amser eira, ac mor flinedig a phlant sy’n talu
’mlaen am eu gwely wrth chware’ ar hyd y dydd.

A d’wedwch chwi os na fum yn crwydro y diwrnod hwnw.

[Illustration]



                               PENOD XV.


                                   *

                           YN Y TREN I GAIRO.

MAE gwel’d trên yn yr _Aifft_ yn ysbeilio’r wlad henafol hono o swm nid
bychan o’r gogoniant gysylltir â hi’n gyffredin, ac â phob gwlad o’i
bath. Bid siwr, ceir ynddi gamelod ac asynod, ychen a dromedaried,
y’nghyda phedwaried cyffelyb; ond ceir ynddi drên hefyd, ac y mae hwnw’n
Gorllewineiddio pethe’n anghyffredin. Ac eto, oni bai am y trên, sut y
galle teithwyr glirio cyment o dir mor ddidrafferth, a gwel’d cynifer o
ryfeddode mewn can lleied amser? Yr oedd y pryd hwnw’n rhedeg i
_Cartŵm_, pellder o ddwy fil o filldiroedd; ac y mae wedi rhedeg bwer
y’mhellach oddiar hyny. Tebyg yw na orphwysa mwy nes y tramwya o eitha’r
Gogledd i eitha’r De. Pan yn codi tocyn o _Alecsandria_ i _Cairo_, mi
ofynes o gywreinrwydd pa faint a gostie tocyn o _Alecsandria_ i _Cartŵm_
un ffordd: a be’ feddyliech oedd yr atebiad? “_Deg punt ar hugen!_” Mi
wnes fy meddwl i fyny’n union taw gwell i mi oedd peidio myn’d mor bell
a hyny y tro hwn, gan’ad sut y bydde wed’yn. Gorwedda dros chwech ugen
milldir o dir gwastad i’r llygad rhwng _Alecsandria_ a _Cairo_, a
rhedasom y pellder yna, neu rhedodd y trên a ni, mewn teirawr, yn gwneud
cyfartaledd o ddeugen milldir yr awr. Pan gofiwch nad yw’r peiriant na’r
peirianwyr i fyny y’mhopeth ag eiddo’n gwlad ni, chwi gydnabyddwch ini
redeg yr yrfa’n òd o ebrwydd. Mi dybia’ fod y daith hon yn werth penod,
ac felly cychwynwn yn ddiymdroi.

Codir y tocyn o’r tu allan i’r orsaf: ni cheir mynediad i mewn hyd y’nod
i’r ystafell aros, heb sôn am y platfform, heh docyn teithio. Hyny yw,
at wasaneth teithwyr, a theithwyr yn unig, mae’r orsaf yn _Alecsandria_.
Cyflwynaf y wers i awdurdode rheilffyrdd y wlad hon. Nid yw _Cairo_
cystal. Mae tri dosbarth yn perthyn i drên yr _Aifft_ fel trên _Lloegr_,
gyda hyn o wahanieth,—nid yw’r trydydd i’w gael gyda’r cyntaf a’r ail.
Ymffurfia hwnw’n drên ar ei hen ei hun. Ce’s gip arno pan yn aros yn un
o’r gorsafe, a thebygwn ef yn fy meddwl i drycie dâ’r T. V. R. ugen
mlynedd yn ol! Es i fewn i gerbyd o’r ail ddosbarth. Mae tri neu bedwar
o’r rhein mor agos gysylltiedig â’u gilydd, fel y gellwch gerdded yn
gysurus o un pen i’r naill i’r pen arall i’r llall. Mae llwybr i’w gael
o bwrpas i’r perwyl. Rhwng pob cerbyd mae platfform isel, i fyny’r hwn
yr ewch wrth fynd i fewn, ac ar yr hwn y gellwch sefyll, os dewiswch, ac
os na thry eich pen yn _Brotestant_, c’yd ag y mynoch, yn yr awyr
agored, ac heb ddim rhyngoch a’r wlad oddiallan. Bum yn sefyll arno
droion am amser hir, a mi dd’wedaf wrthych yn union pa’m.

Yr oedd y trên yn llawn o deithwyr, ac ni fum yn cyd-drafaelu â
theithwyr rhyfeddach yn fy nydd erioed. Brodorion y wlad o’ent gan
mwya’, yn dduon, a melynion, a chochion,—a budron hefyd lawer o honynt.
Eisteddent ar y sedde a’u traed odditanynt fel teilwried, ac ysmygent
sigreti’n ddidor. Ychydig sylw wnaent o’u gilydd, a llai fyth o’m siort
i, os na fydde eisie tân arnynt; dïolchent am fatsen fel pe bai
ffortiwn. Bum am ysbed heb wel’d neb arall, a thybiwn taw myfi oedd yr
unig ddyn gwyn yn y lle,—er y gell’sid ame’ fy lliw ine. Ond mi gwrddes
â dau _Ellmyniad_ yn fuan ar fy hynt drwy’r cerbyde, y rhai a edrychent
can wyllted a geifr ar darane. Yr o’wn wedi eu gwel’d o’r blaen
y’ngerddi’r Brenin yn _Alecsandria_. Wrth eu clywed yn ymddifyru gyda’r
“ch,” mi ofynes iddynt yn _Gymraeg_:

“Ai sych yr ymbesychasoch?”

Ond edrych arnaf mor hurt a lloi a wnaent. Treies wedy’n:

“Ai chwech-a-chwech yr un a roisoch am berchyll bychen cochion eich hwch
goch chwychwi a’ch chwaer?”

Bobl anwyl! Dyma’r gafod greulona’n dilyn mewn atebiad, nes y bu gorfod
i mi droi at ryw hen “shêch” a eistedde gyferbyn â mi am amddiffyniad,
yr hwn oedd yn dangos ei ddanedd fel pe’n deall y cwbl.

Yr oedd digon o ffenestri yno i foddloni ffatri, ac yr o’ent oll yn
agored. Y canlyniad oedd fod y gwynt mwya’ dïarbed yn tramwy pob cwr o’r
trên, yn cario lon’d ei gôl o dywod, ac yn ei daflu i’ch llyged ac ar
draws eich dillad mor ddiseremoni a phe baech wedi rhoi archeb am y
cwbl. Lle ofnadwy ydoedd i ddyn oedd yn ferthyr i’r ddanodd! Weithie, fe
ddeue’r gwynt gyda’r fath ruthr direidus nes dynoethi’ch pen, oni
fyddech ar eich gwyliadwrieth. Gwnaeth hyny â mi siwrne, a bu mor
anfoesgar a bwrw fy nghapan i wyneb yr hen “shêch” y sonies am dano. Bu
raid i mi wneud ymddiheurad i hwnw drosof fy hun a’r gwynt, a’r aberth
cymod oedd haner dwsin o “fatsus.” Dyna pa’m y safwn am ysbed ar y
platfform, i gael llai o wynt a mwy o gysgod. Ond ’roedd yno ddigon
wed’yn i droi meline Sir _Fôn_ bob un! Gwell oedd peidio ffraeo âg ef,
oblegid yr oedd meddyginieth yn ei esgyll oddiwrth wres a phob
drwg-arogl.

Yn rhyfedd iawn, ni welwn un o’r “rhyw deg” yn un man wrth gychwyn, dim
ond dynion geirwon lle bynag yr awn. Ai tybed fod merched yr _Aifft_ yn
fwy ceidwadol na’r dynion, gan ddewis yn hytrach lynu wrth yr asyn a’r
camel na chymeryd eu llusgo wrth gynffon yr agerbeiriant? Ond cyn cyredd
_Cairo_, mi ge’s allan fod ganddynt hwy eu cerbyd eu hunen, a gwae’r
crëadur y gelwir “dyn” arno fuase’n anturio i’w presenoldeb! Y fath
chwedleua raid fod yn y cerbyd hwnw! Oblegid mae’r foneddiges o’r Dwyren
mor hoff o ’stori ag yw ei chwaer o’r Gorllewin am ei danedd.

Sut yr edrycha pethe oddiallan? Drwy ba fath wlad y teithiwn? Wel, mae
pethe oddi allan mor hynod ag yw pethe oddifewn. Nid trwy ganol caëe
gwair a meusydd llafur, coed a pherthi, mynydde a brynie, heirdd drefi a
harddach pentrefi y teithiwn, fel pe bawn y’_Nghymru_, ond dros
wastadedd o dywod, a mwd, a dwfr,—tywod, a mwd, a dwfr,—tywod, a mwd,
a dwfr. Pasiwn heibio i wmbredd o bentrefi, yn fwy ac yn llai, a ’doedd
dim yn hardd ynddynt i lygad a chwaeth _Cymro_. Tomene o laid wedi
sychu’n yr haul nes bod fel y gallestr—nen y tŷ’n fflat, lle mae
dillade’n crogi, dynion yn gorwedd, a ffowls yn ffraeo—yr ochre wedi eu
rhidyllu bob hyn-a-hyn, y tylle mwya’n golygu’r dryse, a’r tylle lleia’n
golygu’r ffenestri. Plant yn chware’ heb bilin yn eu cylch i’w cloffi—y
mame’n clebran â’u gilydd yn y cywer C dwbl—y gwŷr yn ceisio dal pen
rheswm â’u hasynod a’r asynod y’methu cydwel’d. Ychydig o balmwydd
talion yn ysgwyd eu dail uwch eu pene, a’r amgylchoedd pell ac agos yn
cyfranogi’n bena’ o dywod, a mwd, a dwfr—tywod, a mwd, a dwfr.

Dyna’r pentrefi; a’r unig wahanieth rhyngddynt a’r trefi oedd fod yr
ola’n domene mwy eu maint. Ymsaetha pinacl y “mosc” i fyny o ganol y
pentre’ gwaela’, ac y maent i’w gwel’d yn y trefi draw bron can amled
a’r tai. Heb fod nepell o’r pentrefi agosa’, gwelwn ddarn o dir wedi ei
gau i fewn, a chodiade trefnus a chyfartal dros y rhan fwya’ o hono.
Wedi imi gael esboniad, mi ddealles taw mynwentydd o’ent, y rhai a
gedwir gan yr _Arabied_ lawer glanach na’u tai. I dori’r unffurfieth,
gan fod yn help i’r llygad orphwys, fe ddeue i’r golwg weithie gaëe
gleision o ryw fath o borfa i ddyn ac anifel. Ymddangose’n dehyg i’r
llysie y gelwir “berw’r dw’r” arnynt; a mi weles sacheidie o hono wed’yn
yn _Cairo_ gan yrwyr anifeilied, y rhai a’i bwytaent bob yn ail a’u
gilydd, a’r naill mor awchus a’r llall.

Trwy gydol yr amser yr oedd miloedd o bobl yn pasio i fyny ac i
lawr—llu ar draed, lluaws ar anifeilied, a lluoedd mewn cerbyde o bob
math—a neb yn brysio, ond pawb yn ysgafala. Gwelwn y _Nile_ o hyd, ac
ar y cynta’ cawn fy nyrysu gan ei thröade sydyn a diddeddf. Bron na wnai
imi gredu ei bod y’mhobman yr un pryd. Ond pan gofies fy mod y’myn’d
drwy ei _delta_, a bod iddi saith tafod o’r pen meina’ i’r pen lleta’,
sef o _Gairo_ i’r môr (yn ol yr Ysgrythyre), darfyddodd fy nyryswch yn y
fan. Yr afon ryfedda’n y byd yw’r _Nile_. Yr un ffurf yn union sydd i’r
_Pyramidie_ ag sydd i _ddelta_’r afon: ai tybed taw oddiwrth yr ola’ y
ca’dd cynllunydd y blaena’ ei syniad? Tra’r o’wn mewn syn-fyfyrdode o’r
natur yna, dyma gyffro y’mysg y teithwyr—mae’r trên yn arafu—ac heb
ragor o ragymadrodd, ce’s fy hun y’ngorsaf _Cairo_. Yn siwr i chwi, nid
wyf bell o dŵr _Babel_ o ran lle nac amser. Nid oedd genyf ond un
celfigyn yn fy llaw, eithr ymestyne cant o ddwylo duon am dano. Yr oedd
pawb yn siarad ond myfi, ond yr wyf y’meddwl taw myfi oedd yr unig un
oedd yn gwrando. Syllwn hefyd o’m cwmpas yn bur bryderus am y gŵr oedd
wedi addo fy nghyfarfod; a phan oedd fy nghalon ar fin cychwyn ei thaith
i lawr i gym’dogeth f’esgidie, clywn rywun yn gwaeddi:

“Ai _Cymro_ ydych?”

[Illustration]



                               PENOD XVI.


                                   *

                           CAIRO WEDI’R DYDD.

CYMRO o’r un enw a mine ddaeth i’m gwaredu o ddwylo’r _Arabied_
y’ngorsaf _Cairo_, ac i mi yr oedd fel angel Duw. ’Does dim dwyweth nad
oedd y giwed haerllug wedi ffroeni diniweidrwydd cyfleus o gwmpas fy
mhersonolieth i, a fy mod wedi cael fy marcio allan ganddynt fel aderyn
hawdd i’w blyfio; ac er fy mod yn ceisio gwneud gwep gâs, gwyddwn yr un
pryd taw methiant cywilyddus ydoedd. Haws genyf gredu fy mod yn edrych
yn debycach i ddafad ar goll, nag i lew wedi ei yru yn erbyn y wàl. Gwn
fod mwy o’r ddafad nag o’r llew yn f’esgyrn. Bachgen o _Gynarfon_ oedd y
Moses hwn, ac aelod yn _Salem_; ac er na fydde’i weinidog byth yn
ymwel’d ag e’, yr oedd ganddo ef “olwg” ryfeddol ar ei weinidog, a
siarade am dano hyd at ei addoli bob tro y cai gyfle. Cynorthwywr ydoedd
y’ngwasanaeth brawd fy nghymwynaswr _o Alecsandria_; ac er i hwnw fod
mor garedig i mi ag oedd modd, synwn i ddim na thynodd ei frawd yn
_Cairo_’r “shein” o hono, Hwyrach iddo gael gwell cyfleusdra. Yr oedd y
ddau’n gyfranog yn y gwaith o anfon “Jones bach” i’m cyfarfod; a bendith
ar eu pene.

[Illustration: _PONT DROS Y NILE._]

Mi fydde’n dda gen i fod yn help i roi anfarwoldeb i’r bechgyn o
_Gairo_. Ni wyddwn am danynt cy’myn’d yno, ond nid aeth diwrnod heibio
wed’yn nad y’nt wedi bod yn fy nghôf ac yn fy nghalon. Yr oedd yna
wahanieth dybryd rhyngddynt, ond yr oedd pob un o honynt yn garedig yn
ei ffordd ei hun, ac am y caredica’. _Jones_ oedd yn cael ei ollwng
amla’ hefo mi, am ei fod yn “Sentar” fel fine. Bachgen glân ei groen a’i
siarad oedd efe—gwisgi ar ei droed a’i dafod—ei bersonolieth yn
f’adgofio o _Towyn_ a’i “arian byw”—y’medru siarad â’r brodorion fel un
o honynt hwythe—ac yn gwybod am bob “twll a chornel” yn y ddinas cystal
a’r trempyn o gi mwyaf afradlon y tu fewn i’r lle. Bu’n waredwr i mi
ragor nag unweth ar ol y tro hwnw’n yr orsaf, ac ni f’aswn iached fy
nghroen na llawned fy llogell yn gadel _Cairo_ oni bai am dano ef. Un o
ardal _Gwrecsam_ oedd _Roberts_, ac ni che’s ei gwmni ef ar ei ben ei
hun, fel y ddau arall, ond bob tro’n un o’r tri. Dipyn yn dỳn ar ei
’piniwn oedd _Roberts_, ac mi a’i gweles siwrne agos a d’od a ni i
drybini go gâs oherwydd yr elfen amlwg hono yn ei natur. Ac eto, fe
ddeue i fyny fel corcyn i wyneb y dw’r pan fydde pobpeth y’myn’d i brofi
ei fod i lawr yn y gwaelod er’s meityn. Collasom y ffordd un noson, ac
er y myne _Jones_ a’r brawd arall taw i’r cyfeiriad yma y dylasem fyn’d,
yr oedd ewyllys _Roberts_ yn gryfach na’r ddau, ac i’r cyfeiriad acw’r
aethom. Wedi bod yn crwydro “drwy leoedd geirwon, enbyd iawn,” yn chwŷs
ac yn lludded—_Roberts_ yn ei brasgamu o’n blaen, _Jones_ a mine’n
tuchan ar ei ol, a _Huws_ yn murmur anatheme wrth ein sodle—am awr o
amser, cawsom afel ar ein lledred o’r diwedd; ac ebe _Roberts_ mor
hunan-feddianol a bricen—

    “_Fi oedd yn reit, boys, drwy’r cwbwl!_”

—yr un fath yn union a phe na baem wedi bod wrthi bum’ munud. Yr oedd
ganddo allu rhyfeddol i ddisgyn ar ei draed o bob d’ryswch yn y byd. Yr
olaf, ond nid y mwya’ dibwys o’r tri, oedd _Huws_—hamddenol, ’smala,
gogleisiol ei sylwade, a mwy o stoicieth y Gorllewin yn perthyn iddo nag
o nwyd y Dwyren. Ni weles ef yn cael ei gynhyrfu ond siwrne, pan y
rho’wd iddo ychydig o dybaco’r _Hen Wlad_ ar ol bod “yn haner starfio’i
hun ar sychddail llwydwyn yr _Aifft_.” Mi gredes yn siwr y b’asai’n cael
ffit y pryd hwnw. Dyna’r “tri llanc” wnaethant i mi deimlo’n rhydd a
chartrefol y’nhir y caethiwed, ac y mae iddynt le cysurus yn ymyl y tân
ar aelwyd gynes fy nghalon.

I ddychwelyd i’r orsaf. Ni fu _Jones_ chwinciad cyn gwasgaru fy
mhoenwyr, a myn’d a mi mewn “bus” reit gyffredin i’r gwesty lle’r o’wn i
aros. Yr oedd hwnw’n cael ei alw ar enw _Bryste_—pa’m, nis gwn: _Hotel
Bristol_, yn ol dull _Ffrainc_ o siarad. _Groegwr_ oedd yn ei gadw, a’i
enw yn cynwys y rhan fwya’ o lyth’rene’r wyddor. Ar ol ymolchi, ac
ymdrwsio, ac ymborthi, aeth fy ffrind a mi i wel’d ychydig o’r lle, ac
yr oedd genym brydnawn cyfan wrth ein cefne.

I gychwyn, croesasom bont hir-lydan oedd wedi ei bwrw dros y _Nile_,
oblegid nid oedd yr afon eto wedi fforchogi’n saith tafod. Cewch gip ar
y bont yn y darlun gerllaw. Pwysasom am dipyn ar wàl y _barracks_, lle’r
oedd nifer fawr o filwyr y’myn’d dan ddysgyblaetb. Yna troisom i’r dde,
a cherddasom dan gysgod y palmwydd, allan o dwrw a gwres yr heolydd,
y’nghanol y golygfeydd mwyaf atdyniadol i lygad gŵr o wlad machlud haul.
Draw gwelwn dẁr o _Ewropied_ yn chware’ _cricket_, a’u dillad gwynion yn
disgleirio’n yr haul, heb hidio botwm am _Rudyard Kipling_ na neb. A
pha’m lai? Ar bob llaw ini yr oedd y “gamŵs” yn talu treth am ei
fodoleth. Y “gamŵs” sy’n gwneud pobpeth ar y tir i’r llafurwr
_Aifftedd_. Yr enw sydd ar y dosbarth yma yw’r _fellaheens_, meibion y
tir; a d’wedir taw hwy yw hen frodorion y wlad. Mae’r “gamŵs” i’r
_fellaheen_ fel mae’r ych neu’r ceffyl i ffermwr _Cymru_; ’does dim pall
ar ei adnodde. Crëadur onglog, afrosgo ydyw; ei ddefnyddioldeb, ac nid
ei brydferthwch, sy’n ei wneud yn werthfawr. Mae traddodiad gan yr
_Arabied_ am dano. Pan wnaeth Duw y fuwch, cenfigenodd _Satan_ wrtho, ac
aeth ynte i geisio gwneud un debyg; ond be’ ddaeth allan o’i law e’ ond
y “gamŵs!” Wel, gwnaeth beth salach ganweth. Dyna haid o adar yn codi o
ymyl rhyw furgyn, ac yn rhuthro dros ein pene.

“Beth yw rheina, _Jones_?” meddwn.

“Brain,” ebe ynte. A dealles nad yw brain yr _Aifft_ yn dduon, ond
brithion, hyd at fod yn wynion, rai o honynt. Mi dybies yn union taw
dyma lle’r oedd _genesis_ yr “hen frân wen” y canodd _Emrys_ am dani!
Hawyr! oes yma “rasus dynion” heddyw? Beth yw’r ddau slimin main hyn
sy’n rhedeg mor gyson ochr-yn-ochr, a’u gwisg fel pe wedi tyfu am danynt
fel crwyn? Rhedegwyr o flaen cerbyde gwŷr mawr ydynt hwy, druen; a
chyda’r gair, dyma gerbyd gwych yn dilyn, a dau o fonedd y wlad ynddo.
Neges y rhedegwyr ydyw clirio’r ffordd i’r cerbyd, a d’wedid wrthyf y
rhedent ugen milldir yn aml heb aros. Derbyniant gyfloge uchel, ond nid
ydynt byth yn byw yn hir. Pa ryfedd? Rhedant eu hunen allan o wynt cyn
haner eu dyddie. Ond dyma gerbyd heb redegwyr iddo, ac ebe’m cydymeth
wrthyf:

“Craffwch ar y dyn nesaf atoch.” Mi graffes, ac mi dynes fy het iddo, yn
ol yr esiampl a gefes. Cydnabyddodd y cyfarcbiad yn siriol, a gofynes i
_Jones_ pwy ydoedd.

“Arglwydd _Cromer_,” medd ynte. Edryches ar ei ol nes aeth o’r golwg,
oblegid teimlwn yn falch o gael cipolwg ar y dyn sy’n llywodraethu’r
_Aifft_ yn enw _Pryden_, ac wedi gwneud y wlad yr hyn ydyw heddyw.
Gwelwn adeilad aruthrol o’m blaen, yn cael ei gylchynu gan erddi
ardderchog. Hen balas i un o’r teulu brenhinol ydyw, wedi ei droi’n
westy, a gelwir ef y _Ghezireh_. Troisom i fewn i’r gerddi, a buom yno’n
eistedd am awr neu ddwy yn gwrando ar un o’r seindyrf milwrol yn
chware’. Yr oedd y lle’n llawn o ymwelwyr—_Americanied_ gan mwya’.

Yn lle dychwelyd i’r ddinas yr un ffordd ag y daethom, croesasom yr afon
mewn bad bychan, a glaniasom mewn cẁr arall o honi. Drwy ran o’r hen
ddinas y daethom yn ol. Heolydd culion a phelmynt culach, yn llawn o
bobl, ac yn llawnach o nwydde. Bu raid i mi wasgu fy nhrwyn rhwng bys a
bawd bron ar hyd y daith hono—yr oedd yr arogliade mor apeliadol.
Cawsom dipyn o waith pigo’n llwybr o’r afon i’r ’sgwar lle’r oedd y
cerbyde trydanol. Yn ymyl yr afon mae pob bryntni’n byw; a chryn orchwyl
oedd osgoi’r clêr gwenwynig a garient hade marwoleth gyda hwy i bobman,
a’r begeried a ffroenech o draw, a’r cryts a’r crotesi haner noethion a
waeddent “_Backsheesh!_” yn eich gwyneb egred ag _Arabied_ y ’strydoedd
yn eu man perffeithia’. Yr oedd y gwiberod bychen yn pigo’ch sodle bob
cam a roech, a bu raid ini droi arnynt yn sydyn a sarug ragor na siwrne;
a cheid digrifwch nid bychan wrth edrych arnynt yn cwympo draws eu
gilydd yn eu hymgais i ddïanc. Chwardde rhai o’r edrychwyr yn iach am eu
pene, ond cilwgu’n ofnadwy wnai’r lleill.

Erbyn ini gyredd y man y cychwynasom o hono, yr o’em ein dau yn chwŷs
dyferol, ac yn chw’thu fel dau ddromedari.

[Illustration]



                              PENOD XVII.


                                   *

                           CAIRO WEDI’R NOS.

GORCHWYL blinedig yw cerdded yno’n hir iawn. Un peth sy’n peri hyny yw,
fod y gwres gyment. Peth arall, nid yw’r dynion sy’n myn’d i’r dwyren am
dro yn gwneud fawr wahanieth yn eu gwisgoedd: o ganlyniad, teimlant yn
fwy oddiwrth y gwres. Temtasiwn i mi oedd gwisgo “mwfflar” yn yr
_Aifft_, yn unig am ei fod yn bechod parod imi y’_Nghymru_. A pheth
arall, ar amsere neillduol ar y flwyddyn, yn enwedig cyn i’r haf dd’od i
fewn, disgyna gwlaw lled drwm; a rhwng y gwlaw a’r deunydd meddal sy’n
cyfansoddi’r ffyrdd, gadewir swm cyfrifol o fẁd trwchus ar ol. Dyma’r
adeg y mae pobl y Gorllewin yn ymwel’d â’r _Aifft_ fynycha’; ac y mae
cerdded ar wadne llyfn o ledr yn y mẁd _Aifftedd_ hwn yn orchwyl sy’n
tynu’r chwŷs ac yn trethu’r dymer. Bron nad ydych y’myn’d gyment yn ol
ac y’mlaen, fel mai ychydig o gynydd ymarferol a wnewch drwy’r dydd. Nid
yw’r brodorion yn teimlo dim oddiwrth yr anhawsder yma, am eu bod yn
droednoeth; a thra byddwn i’n cosbi ’nghorff i gadw ’nghydbwysedd, yn eu
blaen yr elent hwy fel pe baent wedi eu geni mewn mẁd, ac mor gartrefol
ynddo a chŵn yr heolydd. Erbyn pob hwyr, yr o’wn fel un o’r “German
Band” a welir weithie’n cerdded o fan i fan, mor glunhercyn a phe bydde
geny’ gorn dan bob bys.

Ond os am wel’d, a sylwi, a chraffu, a marcio’n fanwl, yr unig ffordd am
dani yw _ar draed_. Mi wnes rai o’m pererindode mwya’ dyddorol yn y modd
hyn. Os na fyddwn wedi blino gormod ar ol bod yn crwydro’r dydd, yr oedd
myn’d am dro gyda’r hwyr, wedi i’r haul fachlud, yn talu am bob
anhwyldeb. Ar draed, rhwng cinio a gwely—cinio gwŷr mawr, cofiwch!—y
gweles ochr seimlyd dinas _Cairo_; ac os oedd rhyw gyment o gariad ynof
tuag at bechod yn flaenorol, yr wyf yn meddwl iddo ddiflanu i gyd y
noson hono. Mi adroddaf i chwi’r helynt.

Yr o’em yn bedwar gyda’n gilydd—pedwar _Cymro_. Yr oedd y bechgyn yn
f’aros tra’r o’wn i’n mwynhau pryd ola’r dydd, ac yr oedd golwg ddoniol
arnynt. Capie cochion ar eu pene, a ffyn yn eu dwylo, eu lwyne wedi eu
gwregysu, a’u lampe wedi —— na, gan gofio, nid oedd lampe ganddynt:
ond parodd eu hymddangosiad i mi feddwl yn gry’ am blant _Israel_ yn
cychwyn o’r wlad y sangwn ei daear y funud hono. Gan mai prin y mae’n
ddïogel i _Sais_ fentro allan yno heb ffon wedi’r dydd, chwaithach
wedi’r nos, cymeres ine un brâff ei gwala; a chan ei bod yn fantes i
gydffurfio â dull y bobl o wisgo hyd ag y mae’n weddus, mi ’stwffies ine
’mhen i gap coch; a dyna ni’n barod i gychwyn. Gwydde’r bechgyn am bob
careg yn y ddinas, ac yr o’ent y’myn’d a mi y noson yr wy’n sôn am dani
i ranbarth neillduol lle’r oedd _Satan_ yn ben a Phechod yn teyrnasu.
Chware’ teg iddynt, rhoisant i mi fy newisiad i fyn’d neu beidio.
D’wedent wrthyf ei fod yn lle garw, ac y byddem yn gosod ein bywyde mewn
enbydrwydd—ond y lleihaem y peryg’ wrth gadw gyda’n gilydd, a taw myfi
fydde’r _Cymro_ cynta’ i fyn’d hefo hwy y ffordd hono, os mentrwn. Ac yn
y blaen. Gan fod y Crëawdwr Mawr wedi rhoi dogn da o ysbryd anturiaethus
yn fy natur, mi es hefo hwy: a’r hyn a weles â’m llyged, a glywes â’m
clustie, ac a deimlodd fy nghalon y noson hono, yr wyf y’myn’d yn awr
i’w fynegi i chwi.

Enw’r lle’r aethom iddo ydoedd “_Wassa_,” ystyr yr hyn yw _cul_. Mae’r
’strydoedd mor gulion fel nad oes eisie breichie _Phineas Fletcher_ o
ddyn i gyffwrdd y ddwy ochr yr un pryd. Y maent hefyd mor llawn o
ddynion, fel y cymer i chwi haner awr i fyn’d gwarter milldir; a chyda’r
anhawsder mwya’ y llwyddem i gadw gyda’n gilydd. Dyma’r darn isela’i
foese yn yr holl ddinas. Yma’r ymgynull lladron a llofruddion: ac yma y
cedwir puteinied o dan nawdd y Llywodreth _Aifftedd_, a chymeradwyaeth y
Llywodraeth _Brydeinig_—merched ieuenc o bob lliw, a bron o bob gwlad a
chenedl, wedi eu cau i fyny fel anifeilied gwylltion mewn ffeue, ac yn
llygadu arnoch drwy fare’r ffenestri. Ceir hwy’n yr oedran tyner o
bymtheg, ïe, a deuddeg, ïe, a _deg_, yn gosod eu hunen yn ebyrth
gwirfoddol i raib a nwyd y crëadur y gelwir “dyn” arno! Yr oedd yn dda
geny’ glywed nad oes byth eneth _Brydeinig_ yn eu plith. Gynted y clyw
Llysgenadwr _Pryden Fawr_ fod yn _Cairo_ neu _Alecsandria_ ferch o’r hen
wlad wedi gadel ei gwasaneth, ae mewn peryg’ o fyn’d ar ddisberod,
ymofynir am dani’n union, a thelir ei llong-lôg yn ol i’w gwlad ei hun
gyda’r cyflymdra cynta’. Gwaedu wnai ’nghalon bob cam wrth wel’d
golygfeydd mor ofnadwy. Ferched ieuenc fy ngwlad! gwerthfawrogwch
gymeriade da, a pheidiwch byth a gwerthu’ch diweirdeb am bris yn y
byd—oblegid pa beth a ro’wch yn gyfnewid am dano?

Yn sydyn, collasom un o’r cwmni.

“B’le mae _Roberts_?” gofyne’r naill i’r llall. Gyda hyny, dyma sŵn
chwibanogl yn disgyn ar ein clustie. Chwibanogl _Roberts_ ydoedd, a
thystio’r oedd fod ei pherchen mewn peryg’, ac y’mofyn ein help. Yn ol a
ni, a buan y cawsom ein cydymeth dewr yn dal pen rheswm a ’beitu haner
dwsin o’r tacle mwya’ digymeriad yr olwg arnynt a welsoch mewn blwyddyn,
y rhai a’i rhwystrent i dd’od yn ei flaen. Nid wy’n meddwl eu bod ar y
cynta’n golygu dim ond direidi, nes iddynt wel’d _Roberts_ yn dechre’
dangos y “bluen wen.” Troisant yn gâs wed’yn; a phan y daethom atynt,
mae’n rhaid cyfadde fod pethe’n edrych dipyn yn ddifrifol yno. Edryche
_Roberts_ ei hun can wyllted a phe b’ase wedi cael ei hun yn y lleuad.
Clebre â hwynt mewn amryw ieithoedd, a digri’ oedd clywed ambell i air
_Cymraeg_ yn cael ei seinio mewn lle ac amgylchiade mor anghartrefol.
Ond ’doedd dim yn tycio. Os dealla’r gwehilion hyn fod arnoch eu hofn,
hwy sydd ben; ond os trowch arnynt heb fenyg ar eich dwylo, hen
gywardied o’r fath waela’ ydynt, a pharotach ydynt i’ch llyfu na’ch
llarpio. Gwelodd _Roberts_ ni’n d’od, a dechreuodd ymwroli: cododd ei
ffon, a dygodd hi i wrthd’rawiad â, chymale duon dau neu dri o
honynt—gwnaethom nine’r un peth â’r lleill; wedi cael _Roberts_ o’u
gafaelion, bygythiasom hwy eilweth, a ehawsom yr hyfrydwch o’u gwel’d yn
slincio’i ffwrdd fel corgwn, a’u cynffone rhwng eu coese. Eto, tybiasom
taw doetnineb ynom oedd cefnu ar y diriogeth hono gynted y gallem.

Ar y ffordd, troisom i fewn i ffau _Ffawd_, i wel’d yr hap-chwareuwyr.
Pregeth ar drachwant gaed yma—trachwant aur ac arian: a phregeth
effeithiol dros ben ydoedd. Mi sylwes yn arbenig ar un dyn, yr hwn oedd
yn colli’r cwbl a roe ar y bwrdd, a’r hwn oedd wedi colli llawer cyn i
ni fyn’d yno. Yr oedd ei lyged bron a chwympo allan o’i ben—yr oedd mor
welw a’r galchen, ac eto, rhede’r chwŷs yn ddiferyne mawrion dros ei
dalcen, y naill ar ol y llall—ei ddanedd a rincient yn erbyn eu
gilydd—yr oedd ei law’n crynu fel taw prin y gallase osod ei arian ar y
lliw—a phob tro y colle, fe ollynge’r fath ochened nes cynyrchu
crechwen drwy’r ffau.

“Dowch allan, hogie,” meddwn; “mae pum’ munud mewn lle fel hwn fel pum’
mlynedd.” Ac allan yr aethom. Ni wnaethom ond yn hrin gyredd y ’stryd,
nag y rhuthrodd rhywun heibio i ni, heb het ar ei ben, ac fel pe bydde
lleng o gythreulied wrth ei sodle.

“Dyna’r dyn oedd yn colli,” ebe _Roberts_. Cauodd y dyrfa am dano, a
synwn i ddim na chollodd o ’i gorff a’i ened cyn haner nos.

Wedi gwel’d rhagor, a chlywed mwy, y rhai a ferwinent eich clustie pe’r
adroddwn hwynt i chwi bob yn un ac un, tynasom tuag yn ol; ac erbyn imi
gyredd f’ystafell wely, ac edrych arna’ fy hun yn y drych, mi dybies am
foment fod un o boenwyr _Roberts_ wedi fy nilyn! Breuddwydies lawer cyn
y bore’ am lewod a theigrod ar lun dynion. Nid wyf wedi edifaru imi
fyn’d i wel’d _Cairo_ wedi’r nos; ond mae’n amheus genyf a chwenychwn y
profiad eto.



                              PENOD XVIII.


                                   *

                             ANTURIAETHUS.

NID wyf wedi d’wey’d ond y nesa’ peth i ddim eto am y merched a’r
gwragedd yn yr _Aifft_. Gwir nad wyf wedi d’we’yd ond ychydig am neb.
Ond gwn y dylase’r boneddigese fod wedi cael y sylw cynta’ a’r sylw
pena’, am eu bod bellach yn arfer ei gael, ac, o ganlyniad, yn ei hawlio
y’mhob cylch a safle. Nid yw cyment ag wyf wedi ei dd’we’yd am danynt yn
òd o flasus, a rhyw betruso’r wyf sut y cymerant yr hyn fyddaf yn ei
dd’we’yd am danynt yn y benod hon. Bid fyno, rhaid ei dirwyn i ben ar ol
dechre’.

Mae’r gwragedd _Mahometanedd_ oll yn cuddio’r darn isa’ o’u gwynebe â
math o hugan, yr hwn a sicrheir y tu ol i’r pen â rhwymyn; sicrheir ef
hefyd ar ganol y talcen â darn o fetel gloew. Y ddau lygad yn unig sydd
yn y golwg, a sylla’r rhai hyn arnoch yn felancoledd i’w ryfeddu. Mae’r
merched ieuenc yn cerdded allan â gwyneb agored; ond gynted y prïodant,
yr hyn gymer le’n aml pan nad y’nt ond deuddeg oed, ymneillduant y tu ol
i’r llen y sonies am dani, ac nid oes neb yn cael gwel’d eu gwynebe mwy
y tu allan i gylch uniongyrchol y teulu. Gorchwyl go beryg’ yw syllu mwy
na mwy arnynt, yn enwedig os bydd y gwŷr yn digwydd bod gerllaw. Mi
glywes am un, oedd a’i gywreinrwydd yn fwy na’i synwyr, fentrodd
lygadrythu’n sarhaus i wyneb un o’r gwragedd gwyledd hyn, ac a aeth mor
bell ac estyn ei law at y gorchudd. Buasai’n well iddo beidio. Bu raid
iddo adel y wlad ar ffrwst mewn canlyniad. Dilynid ef i bob man lle’r
ele, a phrin y dïangodd a’i fywyd ganddo ragor na siwrne. Achwynodd ei
gŵyn wrth un o gynrychiolwyr awdurdodedig ei wlad; a chynghorodd hwnw
ef, ar ol deall yr amgylchiade, i ddychwelyd adre’ y cyfle cynta’ gaffe.
Nid gorchwyl pleserus hyd y’nod y’_Nghymru_ yw tynu gwg y “rhyw deg”
arnoch; ond yn y Dwyren y mae yn ymgymeriad difrifol. Cuddiant eu
gwynebe rhag dyeithried er yn eu tai eu hunen, ac y’nghanol eu pobl eu
hunen.

Ce’s achlysur i fyn’d i dri o anedde’r _Arabied_—un yn _Alecsandria_,
un yn _Cairo_, ac un yn ymyl y _Pyramidie_. Cy’myn’d i’r ddau gynta’, yr
oedd yn rhaid rhoi rhybudd mewn pryd; ac yr oedd hyny’n anfantes i wel’d
y gwreiddiol yn ei wreiddiolder. Ond aeth fy ffrind a mine i mewn i’r
llall heb ganu’r gloch, yn syth ar ein cyfer. Ac nid anghofiaf yr
olygfa. Yr wyf yn meddwl taw _Huws_ oedd hefo mi, ac yr oedd yn
ddatguddiad i ni’n dau. Ni ddigiwch wrth destyn y benod pan adroddaf i
chwi sut yr ymdarawsom.

’Roedd yr haul mor danbed oddiallan, a’r goleuni mor brin oddifewn, fel
y cymerodd ychydig eiliade ini fedru gwel’d ein hamgylchoedd. Bob yn
dipyn, fel tomen ludw ar doriad gwawr, daeth i’r golwg y ddynes hagraf a
weles yn fy nydd, heb orchudd dros ei gwyneb, ond y synedigaeth hyotlaf
yn ei llyged. A’r fath lyged! ’Ro’ent mor fawrion a chrynion a dwy soser
dê gymedrol! P’run o honom oedd wedi cael mwya’ o ddychryn, ai hi ynte
_Huws_ a mine, mae’n anodd d’wey’d. Sut bynag, pan ddeallodd yr hen
chwaer ei sefyllfa, trodd ei chefn arnom, a gweles hi wrthi’n prysur
wneud rhywbeth â’i dwylo o gwmpas ei phen—yn debyg fel y gweles rai o
foneddigese ieuenc _Treorci_’n maldodi eu gwallt o’r tu ol, mewn trefn i
gael allan wrth synwyr y fawd os yw’r gyrlen yn ei lle, a’r pine ar eu
gwyliadwrieth! Mi dybies i taw ’molchi oedd y genawes, oblegid ’doedd
dim dadl nad oedd hyny’n ddyledswydd a esgeulusid ganddi; ond gynted y
gwynebodd ni drachefn, gwelsom taw wedi bod yn gosod y gorchudd i fyny’r
oedd. A phe b’asech yn gwel’d y ddau lygad mawr, byw, a duon rheiny oedd
yn bwrw tân dros ben y gorchudd, heb eich bod wedi cael cip ar y wyneb
yn gyflawn cyn hyny, awn ar fy llw, pe bydde raid, y b’asech yn d’od i’r
penderfyniad ei bod yn un o’r merched glanaf yn y byd. Ah! fel y medr y
_veil_ dwyllo dyn! Yn siwr i ch’i, mae iddi ei mantes yn y Dwyren. A pha
ryfedd fod y dych’mygol mor berffeth y’mysg y Dwyreinwyr, pan mae’r
llyged gloewen hyny sy’ fel y wenlloer yn ’sbïo arnoch o’r tu ol i’r
cwmwl yn pregethu prydferthwch cyffredinol mor onest a hyodl!

Garech ch’i glywed sut fu arnom yn y mwd-gaban wrth draed y _Pyramidie_?
Dïau i’r hen wraig deimlo dïogelwch arbenig y’nghysgod y gorchudd; ac
fel milwr wedi codi gwrthglawdd rhyngddo a’r gelyn, dechreuodd danio’n
union. Nis gwyddwn beth a dd’wede, ond barnwn wrth ei llyged a’i hoslef
ei bod yn trin ei thafod yn erwin. Ac erbyn y cymerwch bobpeth i
ystyrieth, ’doedd o ryfedd yn y byd. Dealle fy nghyfell un gair am bob
dwsin, a dyfale’r unar-ddeg erill oddiwrth yr un hwnw. Ond bu raid iddi
yn y diwedd ymatal i gymeryd ei hanadl; ac yn y saib byrhoedl hwnw,
amcanodd _Huws_ dd’we’yd wrthi beth oedd ein neges, taw d’od i wel’d y
tŷ y daethom, ac nid ei gwel’d hi. Ac fel prawf ymarferol o hyny, a
ystyrie ’fe yn anwrthwynebol, dangosodd iddi ddarn bychan o arian ar ei
law.

Mae’n ddrwg genyf orfod d’we’yd yn y fan yma i’r hen dafotreg gamddeall
geirie fy nghyfell, a chamddeall cenadeth y darn arian. Hwyrach nad oedd
ei _Arabeg_ cystal ag yr arfere dybio ei fod, neu hwyrach fod y darn
arian yn _rhy_ fychan; nis gwn am hyny, ond cofiaf y canlyniade tra
b’wyf byw. Cododd wythod ar ei thôn, nes eich cyfiawnhau i gredu fod
ganddi glôch dan bob dant; a chauodd ei dyrne, gan eu chwyfio fel pe
b’ai wedi ymdrawsffurfio’n felin wynt. ’Doedd dim posib’ cael gair i
fewn ar ei ochr. Wrth wel’d _Huws_ y’methu, treieis ine hi’n _Gymraeg_;
ond och fi! yr oedd yr hen iaith fel olew ar y tân, yn peri iddi losgi’n
fwy. Erbyn hyn, yr oedd nifer o blant wedi ymgasglu o gwmpas y drws, a
haner dwsin o fenywod. ’Roedd yn hawdd gwel’d fod rhein yn deall y cwbl,
a rhagor, a chlebrent fel gwydde â’u gilydd.

[Illustration: _DAN Y PALMWYDD._]

“Gwell ini gym’ryd y goes,” meddwn wrth fy nghyfell, yr hwn oedd wedi ei
gythruddo’n fawr am na b’ase’r ddynes yn ei ddeall yn siarad. Mi
gyfeiries tua’r drws gyda’r gair, a dilynodd ynte mor barchus ag oedd
modd. Ond hyd y’nod wedi ini osod y _Sphinx_ rhyngom â’r lle, yr oedd ei
chlôch yn ein clustie’n barhaus. Ar ol cyredd _Cairo_, adroddasom yr
helynt wrth gyfell arall. Wedi chwerthin yn iachus am ein trybini, trodd
atom ein dau, ac ebe fe’n ddifrifol:

“Wel, ’roedd yn dda i ch’i nad oedd gŵr y ddynes gartre’.”

“Sut f’ase pethe wed’yn?” gofynwn yn gyffrous.

“O,” ebe ynte, a’i ddifrifoldeb yn chwyddo, “caech fedd yn y tywod am
ddim, a neb i adrodd yr helynt. Mae claddu’n y tywod dan amgylchiade
neillduol yn y ffasiwn ffordd yma byth er amser _Mosus_, pan wnaeth o’r
gymwynas hono â’r _Aifftiwr_ ’slawer dydd.”

Ein tro ni’n awr oedd chwerthin.

Ond wedi hilio’r cwbl, cawsom taw dyna oedd ein pechod mawr—dala’r
faeden heb ei gorchudd, a chynyg arian iddi os tyne’r gorchudd i ffwrdd
eilweth, er mwyn ini gael syllu ar ei gwyneb glân, a’i thegwch
cynddiluwedd. Dyna fel ’roedd hi wedi esbonio pethe; a dyna lle gadawaf
hi’n awr i ddawnsio ar ei thomen ei hun.

[Illustration]



                               PENOD XIX.


                                   *

                             BYD AC EGLWYS.

RYW fore’, yr o’em yn chwech mewn nifer ar gyfer un o brif fasnachde
_Cairo_, yn barod i gychwyn i daith ag oedd wedi cael ei threfnu’r
diwrnod cynt. Yn ol y dosbarthiad cyffredin, yr oedd y chwech yn cael eu
gwneud i fyny o bedwar bôd rhesymol a dau afresymol. Ond fe f’ase’r
sylwedydd diduedd yn siwr o droi’r ffigyre’n ol y bore’ hwnw, a sicrhau
fod y chwech yn cael eu gwneud i fyny o ddau fôd rhesymol a phedwar
afresymol. A phan y byddaf yn meddwl yn f’orie hamddenol am yr hynt a’r
helynt hono, yr wyf yn cael fy hun yn gogwyddo i’r un farn ag ef. Un o’r
trindod ffrindie yr wyf wedi bod yn sôn am danynt eisoes, a mine, dau
arweinydd brodorol, a dau asyn oedd yn cyfansoddi’r finte. Chwi allech
feddwl ein bod y’myn’d i _Timbuctoo_. _Jones_ oedd y ffrind, ac _Ali_ a
_Mustapha_ oedd enwe’r arweinwyr enwe arnynt o gwbl. Ond yr wyf yn cofio
eu teithi meddyliol yn dda, a chofiaf hwynt tra bwy’ byw. _Ali_ oedd
bïa’r asynod, ond _Mahomet_ oedd bïa _Ali_, gorff ac ened.

Yr o’em wedi trefnu i fyn’d i ymwel’d â’r “bazaars,” ac un o’r prif
eglwysi _Mahometanedd_, a bore’ cyfan i gael ei gyflwyno i’r gwaith.

“Dewiswch eich anifel,” ebe _Jones_ yn garedig. Yr o’wn, wedi cymeryd
stoc o’r ddau’n barod, ac wedi astudio’u pwyntie, da a drwg, yn bur dda,
dybygwn i.

“O’r gore,” meddwn, “mi gym’ra’ i at y brawd yma;” a chyfeiries at yr un
a ymddangose i mi y diniweitiaf o’r ddau. Yr oedd y llall yn bradychu
drwg-dymer anghyffredin—yn ffroeni ac yn sodli, yn cychwyn ac yn
cilio—nes ei bod yn beryg’ i _Gristion_ sefyll yn ei ymyl. Ond yr oedd
ei frawd yn peri imi feddwl am _Issachar_, yr hwn y d’wede’i dad am dano
ei fod fel “asyn asgyrnog yn gorwedd rhwng dau bwn.” Yr unig symudiad a
wnai oedd ysgwyd tipyn ar ei ben mewn protest mud pan y deue cleren neu
wybedyn i ’sbïo bôn ei glust. Nid o’wn wedi bod mor agos a hyny i asyn
pedwartroed er pan o’wn yn hogyn, ac yr oedd hen adgofion am y
gymdeithas yn gwneud imi ddyfalu sut y cymerem at ein gilydd.

Bid fyno, wedi gwneud y dewisiad, prysurwyd gwartholion nag y ce’s
f’argyhoeddi o dwyll y crëadur oedd danaf. Aeth yn grëadur newydd yn y
fan. Yn lle ei fod yn _Biwritan_ hyfwyn a thringar, aeth yn wrthryfelwr
penboeth, a ’doedd dim posib’ ei gael i fyn’d yn ei flaen wrth reol. Ele
ar garlam wyllt un eilied, yna fe safe’n sydyn nes d’rysu cydbwysedd y
truan oedd ar ei gefn, a’i yru ef yn ei flaen yn ddïewyllys. Desgrifie
gylche ac ongle ar y ’stryd mor gywir a dim a welsoch mewn _Euclid_, ac
yr oedd yn ymddangos i mi’r prydie hyny fel pe’n awyddus i wybod safle
anianyddol ei gynffon. Yr o’wn yn hollol at ei drugaredd, ac nid hir y
bum cyn d’od yn arg’oeddedig fod yn rhaid i mi fod ar ddihun o’m pen i’m
traed y diwrnod hwnw os am fod yn groeniach. Wedi gwneud penderfyniad
o’r natur yna, yr oedd yn rhaid glynu wrtho; a cha’nad o’wn mewn cyflwr
prïodol o ran fy meddwl i fedru gwahaniaethu rhwng y penderfyniad a’r
asyn—er fod genyf ryw syniad amrwd fod yna berthynas gyfrin
rhyngddynt—mi dybies fod glynu wrth y naill yn gyfystyr a glynu wrth y
llall. A dyna fel y llwyddes.

Trwy gydol yr amser, edryche _Ali_’n dawel arnom; a phan y ’storiwn
ddigon o anadl i apelio ato, dyna dd’wede:

“Peidiwch ofni—daw ato’i hun yn union!”

A gwir a dd’wedodd. Ond pan ddaeth ato’i hun, daeth _Ali_ ato hefyd, a
dechreuodd ei bastynu’n ddidrugaredd: a dyna sy’n gwneud i mi betruso
rhwng y rhesymolion a’r afresymolion. Sut na fase _Ali_ yn ei bastynu
pan oedd yr asyn yn an’stywallt, ac nid wedi iddo edifarhau? Ond os
o’ent hwy’n deall eu gilydd, pa wahanieth?

Pan y gelles anturio edrych heibio’i ddwy-glust, gwelwn _Jones_ yn y
pellder, a’i asyn ac ynte fel pe baent wedi eu morteisio. Mi weles yn
union ei fod e’n feistr ar y sefyllfa, ac wedi bwrw’i brentisieth er’s
blynydde. O, fel y gofidiwn na b’aswn wedi dewis yr asyn arall pan ge’s
y cyfle! Tra’r o’wn yn ffigyrol fwyta f’ewinedd fel hyn, rhoes _Ali_
bren yn fy llaw, gyda chyfarwyddyd i chwilio am eis y crëadur: gwnes
hyny, a che’s fy hun yn ymyl pedion y llall fel cyfri’ llyfrithen. Mi
ddealles fod gogles ar _Ned_ yn y gym’dogeth hono, a bu’r wybodeth o
fantes i mi wed’yn.

Gwaith cynil oedd ymlwybro drwy’r dyrfa o ddynion ac anifeilied a
cherbyde ar hyd y ffordd, ac mi gredes fy mod yn d’od i helbul ragor na
siwrne. Profiad dyeithr i mi oedd bod ar gefn asyn mewn dinas yn y
Dwyren—camelod a dromedaried yn f’amgylchu yn lle ceffyle a gwartheg,
ac _Arabied_ cilwgus yn lle _Cymry_ rhadlon. Ga’nad beth, ’mhen hir a
hwyr cyraeddasom y fynedfa i fewn i un o’r “bazaars,” a roedd yn rhaid
gadel y dynion a’r asynod o’r tu allan. Nid wy’n cofio perthyn i ba wlad
neu genedl yr oedd y gynta’r aethom iddi, ond i lygad anghyfarwydd fel
’r eiddo’ fi, ychydig o wahanieth oedd rhyngddynt. Lleoedd culion,
hirion o’ent, yn llawn o nwydde a dynion—mor llawn fel taw prin y
gallech weithio’ch ffordd y’mlaen gyda’r gradd lleia’ o lwyddiant. Yr
oedd yn gryn gamp i ni ein dau dena’ i gerdded ochr-yn-ochr ambell i
getyn. Stondine bychen ar bob llaw, ar dori gan y ’stwff gwerfchfawr a
diwerfch a werthid, y’nghyda mynedfa gul yn y canol i’ch arwen i fewn
i’r faelfa ryfeddol sy’ o’r golwg; a phan y byddwch yn pasio dan edrych
o’ch cwmpas, daw’r gwerthwr allan o’i faelfa i’ch cyfarfod yr un fath yn
union a phry’ copyn yn d’od allan o’i dwll i gwrdd a’i ysglyfeth. Ceid
llawer yn gweithio’u crefft y tu allan i’w siop—gwaith ede a nodwydd
o’r fath cywreiniaf; ac nid oedd dim yn eu plesio’n fwy na gofyn
cwestiyne iddynt am y gwaith oedd yn eu dwylo. Traethent yn hyodl mewn
cymysgieth o _Saes’neg_, a _Ffranceg_, ac _Arabeg_, am ddirgelion eu
celf; ond pwnc go anodd f’ase penderfynu pa faint o wir a pha faint o
anwir a gynwyse eu truth. Nid yw’n bechod i _Fahometan_ dwyllo dyn o
grefydd arall mewn gair a gweithred; nid wyf yn siwr nad ystyrir ef yn
rhinwedd mawr. Yr oedd ambell un yn daer dros ben: gwthie ei nwydde
arnoch, a bron na chydie’n eich braich i’ch llusgo i fewn, bodd neu
anfodd, i’w barlwr. _Iuddewon_ a _Groegwyr_ oedd y dosbarth mwya’ egr; a
difyr oedd gwrando ar _Jones_ yn dal pen rheswm â hwy—yn eu tynu allan
i gredu fod ganddynt ddau gwsmer hawdd eu twyllo—ac ar ol eu dwyn i
ymyl bargen, yn ysgwyd pen, gan dd’we’yd:

“_Mwsh aws!_” ystyr yr hyn yw. “Dim eisie!” ac yn cerdded i ffwrdd mor
ddihidio a chocosen. Mi fydde’r crëadur cellweirus wedi myn’d yn ei
flaen weithie tra fyddwn i’n breuddwydio; a phan y trotiwn ar ei ol,
dilynid fi gan furmuron bygythiol y gwerthwr.

“Be’ mae o’n ddeud, _Jones_?” gofynwn, ar golli f’anadl.

“Bwrw anatheme ar eich ol, gorchymyn eich corff i’r fwlturied, a’ch ened
i’r poenwyr,” ebe’m cyfell, gyda’r un llyfnder ag y dywede’i bader.

“Mae’n dda iddo nad o’wn yn ei ddeall,” meddwn, “onide fe’i tanbelenwn â
rhai o derme barddonol _Dafydd ab Emwnt_, fel y gwnaeth _Talhaiarn_ â’r
’sgrech hono o _Billingsgate_.” Chwarddodd fy ffrind yn galonog, a
d’wedodd hwyrach y cawswn gyfleusdra arall yn fuan.

“Mae eisie ffon arnaf,” ebwn yn sydyn; ac aeth a mi at stondin hen
_Roegwr_ a adwaene. Rhoes ar ddeall i hwnw fy neges, a ffwrdd a’r
“coryn” deudroed i’w gastell, gan ddwyn odd’no ffon lathr wedi ei gwneud
o groen unicorn. Enw arall ar yr unicorn yw _rhinoceros_.

“Dyma hi,” ebe fe, a gwên fuddugoliaethus ar ei wefus fain. “Bargen
fawr—plygu fel chwip—dim nam,” a throai’r ffon yn bob ffurf yn y byd o
flaen ein llyged.

“_Bekamde?_” ebe _Jones_; “hyny yw, Beth yw ei phris?”

Ond cyn dweyd ei phris, parhau i dywallt ffrydlif o eirie cymeradwyol
i’r ffon a’i rhinwedde wnai’r hen gono, nes bron a gwneud i mi gredu taw
hen ffon _Moses_ ydoedd, neu ffon _Aaron_ ei frawd, a dweyd y lleia’; a
pharod o’wn i’w phrynu ar unrhyw bris.

“_Bekamde?_” ebe _Jones_ eilweth, mor swrth a phlismon.

“_Eshreim_,” ebe’r gwerthwr, gan geisio ailddechre. Ond torodd _Jones_
ar ei draws yn ddiseremoni—

“_Mwsh aws_,” ebe fe, a ffwrdd ag e’ dan chwibanu. Es ar ei ol, a
gofynes iddo pa’m na phrynase’r ffon.

“Am ei fod yn gofyn punt am werth coron.” Cauodd ben y mwdwl ar unweth.
Y’mhen chwarter awr’ro’em yn pasio heibio stondin y _Groegwr_ drachefn,
a dyna lle’r oedd a’r ffon yn ei law o hyd.

“_Bekamde?_” ebe _Jones_ y drydedd waith, heb aros dim, ac mor anibynol
a miliwnêr.

“_Arba_,” ebe ynte’n union; a che’s y ffon am _bedwar swllt_! Hen
eillwyr ofnadwy yw gwŷr gwlad _Groeg_, cystal a gwŷr gwlad _Canaan_
unrhyw ddydd; ac yr oedd geirie _Paul_ yn tori bob ochr pan dd’wedodd
nad oedd “gwahanieth rhwng _Iuddew_ a _Groegwr_.”

Aethom drwy’r maelfeydd _Tyrcedd_, _Persiedd_, _Indiedd_, a _Melitedd_
oll yn eu tro, a’u rhyfeddode’n amlhau ac ymehangu bob cam o’r ffordd.
Yr oedd cyfoeth a gwychder y lle yn fy synu. Yr oedd fy nghydymeth yn
adwaen rhai o’r maelfäwyr, ac yn ei gysgod ce’s fwrw golwg dros rai o’r
dirgelion oddifewn. Dynion caredig o’ent oll cy’d ag y safech gyda hwy i
fargeinio; wn i ddim sut rai all’sent fod wedi i chwi droi cefn heb
brynu. Meddent ar allu nodedig i edrych yn serchus ac i edrych yn gâs,
fel y bydde’r cymhellion. Y ffordd effeithiolaf i gael llonydd ganddynt
oedd siarad yn sarug â hwy, a thynu croen eich talcen dros haner eich
llyged. Dyn a’ch helpo os na fedrech wneud hyny; fe’ch blingent yn fyw.
I fyny ac i lawr—i’r dde’ a’r aswy—y’mlaen ac yn ol—a’r naill le mor
debyg i’r llall ag y gallent fod: yr oedd yn syndod i mi sut oedd yr
hogyn yn gwybod ei ffordd cystal. O’r diwedd, ar ol troi a throsi, a
chamu a chroesi ganoedd o weithie, mi all’swn dybied, dyma whiffyn o’r
awyr agored yn disgyn ar fy ffroene—dyna oernad asyn yn disgyn ar fy
nghlustie—dacw ddau o honynt yn sefyll yn hamddenol yn y fan draw, a
phen y naill wrth gynffon y llall—a dacw _Ali_ a _Mustapha_’n pwyso
arnynt mor hamddenol a hwythau, dan chw’thu colofne o fwg sigarets allan
o’u ffroene. ’Roedd deubeth yn peri iddynt fod hamddened—stoicieth eu
natur a’u credo, a’r wybodeth taw wrth y dydd y cyflogid hwy.

Ffwrdd a ni drachefn. Yr oedd gwahanol aelode’r finte yn deall eu gilydd
yn well erbyn hyn. Gadewes i _Jones_ flaenori, a da i mi fu hyny cyn
nemor o amser. Cyfeiriem yn awr i’r eglwys y sonies am dani, ac yr oedd
yn rhaid ini fyn’d drwy ganol y farchnad _Dyrcedd_ os am fyn’d yno’r
ffordd agosa’. Ceir yma arwerthiant boblogedd bob bore’, a’r dyrfa’n dew
yn ’i gilydd, ac yn rhifo’i miloedd. Yr o’em yn ei chanol cyn ini’n brin
osod ein hunen yn daclus ar y cyfrwy.

“Cauwch cich côt, a meindiwch eich ’watch!’” oedd gorchymyn _Jones_ mewn
llais croch, cynhyrfus. Ceisies wneud gore’ medrwn, ond yn fy myw y
gall’swn guddio’r gadwen o’r golwg, am nad oedd y gôt yn botymu’n ddigon
isel. Ni welsoch erioed y fath helynt, ac ni chlywsoch erioed y fath
fwstwr. Fel y d’wedes, _Jones_ oedd yr arloesydd, ac yr oedd yn gofyn
iddo dreisio’i ffordd yn llyth’renol drwy’r dyrfa—fel pe gwelech aing
y’myn’d i mewn i bren. Dilynid ef gan _Mustapha_, yna, down ine, ac
_Ali_ ar f’ol. Gwaedde’r ddau _Arab_ ar ucha’u llais yn ddïatal am i’r
bobl glirio; gwaedde _Jones_ c’uwch a’r ddau: ond ce’s glywed wed’yn fy
mod i wedi myn’d i waeddi c’uwch a’r tri cyn d’od yn rhydd o’r giwed
guchiog. Gynted y cyll dyn ei hun dan rai amgylchiade!

Sut bynag, daethom drwyddynt yn ddïogel, a chawsom ein hunen yn fuan
wrth gyntedd allanol yr eglwys. Bu raid ini wisgo sandale am ein traed
cy’ myn’d i mewn, a gadel yr asynod a’r arweinwyr fel o’r blaen y tu
allan. Daeth gŵr arall i’n cyfarwyddo, yr hwn a ymgyfathrache â ni trwy
arwyddion. Wedi gadel y porth, daethom i gyntedd agored anferth, yn yr
hwn yr eistedde ac y gorwedde miloedd o ddynion, yn dỳre ar wahan, fel
dosbarthiade mewn Ysgol Sul, ac athraw ar bob dosbarth. Yn llaw pob un
yr oedd rhôl fechan, a dealles yn fuan taw darn o’r _Coran_ oedd hwnw.
Murmurent yn haner hyglyw ar hyd yr amser, ac yr oedd eu sŵn fel sŵn
byddin o gacwn yn llawn gwaith. Pigem ein llwybr yn ofalus ar ol ein
harweinydd—weithie’n cwmpasu, ac weithie’n camu dros goes y naill, a
dwygoes y llall, a chorff y trydydd. Ni syfle un o honynt gyment a bys
er mwyn ini basio’n hwylusach. Yr o’ent oll o dan belydre crasboeth haul
y canolddydd, ac ymestyne rhai ar eu hyd, fel pe baent wedi eu llwyr
orchfygu ganddo. Aethom i fewn i’r adeilad sy’ dan dô, a chawsom
ail-argraffiad o’r un olygfa. Ce’s fy ngogleisio’n sydyn gan rywbeth neu
gilydd wrth groesi’r ystafell hon, a throis at _Jones_ am gydymdeimlad.
Nid af i wadu na ddarfu i mi chwerthin yn uwch nag oedd yn weddus, erbyn
cofio y’mhle’r o’wn. Ga’nad beth am hyny, dyma lais main, crynedig, yn
cyredd fy nghlust:

“Er mwyn y Nefoedd, peidiwch a chwerthin, na siarad yn uchel!”

Mi feddylies fod yno _Gymro_ arall gerllaw, ond dealles mewn pryd taw
_Jones_ oedd wrthi; a rhwng y llais a’r geirie, mi lynces yr awgrym, ac
ni fum anufudd i’r datguddiad. Mae’n debyg imi beri i rai o honynt golli
eu gwers: mi ge’s un fy hun nad anghofies mo’ni wed’yn, Erbyn hyn, yr
o’em wedi d’od at ystafell y puredigeth. Cymeres gipdrem ar y fan, yne
mi drois ar fy sodle’n sydyn, cydies yn dỳn yn fy nhrwyn, a gwadnes hi
odd’no gynted y gallwn. Yr oedd yn llawn bryd. Da oedd genyf hefyd gael
gwared o’r sandale. Enw’r eglwys hon oedd “Eglwys y Brif-Ysgol,” a
d’wedwyd i mi fod yno bymtheg mil o eneidie y bore’ hwnw, yn ddynion i
gyd, heb wraig, na merch, na phlentyn yn agos i’r lle. Cofies am
Ysgolion Sul _Cymru_, ac nis gall’swn beidio cymharu a chyferbynu.

Dyna i ch’i dro byr i fyd ac eglwys. A’r hyn sy’n rhyfedd yw—fod yn
rhaid i chwi adel yr asynod allan cyn y cewch fyn’d i fewn i’r naill
na’r llall o honynt.

[Illustration]



                               PENOD XX.


                                   *

                              AR YR AFON.

AFRED yw d’we’yd pa afon a olygir. Yr wyf wedi sôn am dani eisoes, neu o
leia’ am un o’i thafode, yn ymyl _Alecsandria_. Dyna lle mae’n llepian
_Môr y Canoldir_ â’i saith tafod yr un pryd. Yn ymyl _Cairo_ y mae’n
fforchogi. Oddiyno ’mlaen i’r môr y mae’n cofleidio’r holl wlad am
bellder o chwech ugen milldir; ac y mae rhagor na hyny o bellder rhwng
ei thafode eitha’ wedi y cyrhaeddo derfyn ei thaith. Ar yr afon y dibyna
pobl y wlad yna am gynalieth. Pan y gorlifa ar ei hamsere, gedy swm
trwchus o fẁd ar ol yn gynysgeth i’r trigolion. Mae hwn yn dir ac yn
wrteth o’r fath ore’, a phroffwyda gynhaua’ toreithiog. Mae’r gorlifiade
drachefn yn dibynu ar y swm o eira fydd ar fynyddoedd _Abyssinia_.
Ychydig a wydde neb am y _Nile_ yn ei chrwydriade drwy’r anialwch hyd yn
ddiweddar: ar ol iddi gyredd gwlad yr _Aifft_ y daw’n fwya’ hysbys.
Hanes yr _Aifft_ yw ei hanes hithe er y dyddie boreua’; ac am fod y wlad
wedi bod mor enwog ac adnabyddus ar hyd y canrife, felly mae hithe, yn
rhinwedd y berthynas, wedi bod yn cyfranogi o’r un enwogrwydd. Addolir
hi gan yr hen _Aifftied_, ac addolir pob crëadur sy’n byw yn ei
dyfroedd. Coleddir teimlade eithafol tuag ati gan bawb o’r trigolion yn
ddiwahanieth; ac os mynwch i mi dd’we’yd ambell i wir sy’ ore’ i’w gelu,
mi dd’wedaf taw nid heb beth braw yr edrychwn ine ar yr hen ddewines bob
tro y cawn gyfle, yn enwedig fin nos wrth ole’r lloer.

Bum y’nes ati na’i glane. Croeses hi amryw weithie dros bontydd, fychen
a mawrion; a chroeses hi mewn bade ac ar rafftie droion a throion. Bum i
fyny ar hyd-ddi yn y wlad am rai milldiroedd. _Huws_ oedd hefo mi’r
diwrnod hwnw. Cawsom afel ar fâd môr-ladronllyd yr olwg arno ryw
brydnawn, ac aethom iddo’n fentrus dros ben; a dyna lle buom am ddwyawr
neu ragor at drugaredd dau o’r pechaduried dua’u crwyn a mileinia’u
llyged a weles mewn breuddwyd erioed. Mae’n amheus genyf a weles i ryw
lawer o’r wlad yr aethom drwyddi, gan fel y gwyliwn symudiade’r badwyr;
ac yr oedd colofne o fwg rhyngof a gwel’d fy nghydymeth, yr hwn oedd
wedi ’mollwng iddi cystal ag un _Twrc_. Yr unig beth wn I i sicrwydd am
y wibdeth hono yw—ini gefnu ar y ddinas, a mordwyo i’r wlad am gryn
getyn. Mae genyf gôf niwliog i _Huws_ bwyntio â’i fys at gruglwyth o
hesg gerllaw, a murmur rhywbeth am “_Moses Bach_.” Ce’s allan wed’yn fod
traddodiad yn d’we’yd taw dyna’r ’smotyn y daeth merch _Pharo’_ o hyd i
waredwr dyfodol plant _Israel_. Wel, ’ro’dd’no ddigon o hesg i guddio
sgoroedd o blant yr _Hebrëwyr_. Nid wyf yn cofio dim arall o’r daith,
oddieithr fy llawenydd o gael fy nhraed ar y tir ar ei diwedd.

Ni fum erioed _yn_ yr afon, ac ni fu dafn o’i dyfroedd erioed ynof ine,
trwy wybod imi. Nis gwn p’run yw’r gwaetha’, ai yfed o honi ai ymolchi
ynddi. Mi weles erill yn gwneud pob un o’r ddau, a ’roedd hyny’n ddigon,
a mwy na digon i mi.

Pan yn ei chroesi un diwrnod ar rafft, tynwyd fy sylw at ddyn oedd
y’myn’d trwy ddefod ei buredigeth (dybygwn i) yr ochr ucha i ni. Yr oedd
hyd ei forddwydydd yn y dw’r, heb bilin am dano, ac wrthi mor brysur a
phe b’ase blwyddyn wedi myn’d heibio oddiar pan y bu wrthi ddiwedda’.
Wedi i mi fod yn gwylio’r crëadur noethlymun am bum’ munud mor fanwl a
phe bawn yn disgwyl iddo droi allan yn löwr o _Abergorci_, ebe _Huws_
wrthyf—oblegid efe oedd hefo mi’r tro hwn eto:

“Dacw i ch’i bictiwr arall yr ochr isa’; ’drychwch arno y’ngole’r
llall.”

Edryches, a dyma be’ weles. Dyn o’r un lliw a’r llall yn y dw’r hyd at
ei benlinie, a chostrel o groen yn hongian wrth ei ochr yn geg-agored, a
thamed o flwch alcan wedi ei fylchu drosto, tebyg i hen “dìn sa’mon”
wedi ei wagio a’i daflu i’r afon, yn ei law dde’n codi dw’r i’r gostrel.
Pan ddaethom y’nes ato, mi weles taw “tìn sa’mon” ydoedd yn ddïos. Yr
wyf wedi gwel’d llwythi o honynt y’ngwely’r _Hondda_ i fedru eu
camgymeryd y’ngwely’r _Nile_. Cyn ini gyredd y tir, yr oedd y gŵr wedi
llanw’r gostrel a myn’d i’w ffordd. Ond yr oedd y llall wrthi o hyd yr
ochr ucha’; a myne _Huws_, pe baem yn ddigon agos ato, y gwelem drwch o
faw yn llifo oddiwrtho ar hyd wyneb yr afon. Nid o’wn yn synu dim at
hyny; ond pan y ’chwanegodd fod y bade’n methu croesi weithie pan fydde
dau neu dri’n ymolchi’r un pryd, oherwydd y trwch, mi weles ei bod yn
bryd imi gymeryd pinsied o halen. Yr oedd _Huws_ wedi dal y dwymyn
ddychymyg sy’n y Dwyren i radde mwy na’i gyfeillion.

[Illustration: _MYFYRIO’R CORAN._]

Wedi i ni fyn’d drwy ’stryd neu ddwy, dyma fy nghyfell yn cydio’n fy
mraich yn sydyn, yn pwyntio â’i fys i ganol y ’stryd, ac yn gofyn:

“’Drychwch ar y dyn acw—welwch ch’i o?”

“Gwela,” meddwn; “pwy ydi o? Ai’r _Cedif_ ynte’r _Mullah_?”

“Ydach ch’i ddim yn ’i ’nabod o, mewn difri’?” ebe _Huws_.

“Mae arna’ i ofn fod yn rhaid i mi wadu’ anrhydedd,” meddwn, gan geisio
bod yn watwarus, am y tybiwn ei fod e’n ceisio bod yn ddigri’ ar fy
nghôst i.

“Dowch hefo mi ato”—a ffwrdd ag e’, a mine ar ei ol.

Ond nid cynt y des wyneb-yn-wyneb a’r dyn nag yr adwaenes ef. Y gŵr oedd
a’r gostrel yn yr afon ydoedd: ond ni adewes i _Huws_ wel’d fy mod yn ei
adnabod. Edrychwn mor hurt arno a phe nad o’wn wedi ei wel’d erioed; a
llyncodd fy ffrind yr abwyd.

“Mae o’n gwerthu dïod neis iawn,” ebe fe; “gym’rwch ch’i lasied?”

“Be’ di henw hi?” gofynes, cyn imi gau pen y mwdwl yn gyflawn. Clywes ef
y’mwmian rhwng ei ddanedd mewn atebiad, a cheisie f’argyhoeddi i taw
d’we’yd yr enw _Arabeg_ ar y ddïod yr oedd. Cydsynies i gymeryd glasied
ar yr amod iddo ynte gymeryd un.

“O’r gore’,” ebe fe; ond gwyddwn nad oedd yn blasu hyny. Wedi cael y
stwff i’m llaw, edryches arno—yr oedd mor dew â bwdran; arogles ef—yr
oedd fel physig dâ. Yna, mi edryches ar _Huws_.

“Yfwch ef i fyny,” ebe fe.

“Fel mater o foesgarwch,” ebwn ine, “_chwi_ ddyle yfed iechyd da i mi’n
gynta’.” Mynes ei wel’d yn cymeryd dracht o hono; yna, heb aros i wel’d
ei wep, mi defles y corn a’i gynwys i’r ddaear, ac ymeth a mi nerth fy
nhraed i’r cyfeiriad a gymerem yn flaenorol, yn cael fy nilyn gan
leferydd y dwfr-werthwr a chamre breision fy nghydymeth—yr hwn ynte
oedd wedi cael ei werthu hefyd. Profodd hegle hirion _Huws_ yn gynt na’m
postion byrion i, a buom ein dau’n chwerthin ar ganol y ’stryd nes
gwneud i’r teilwried a eisteddent yn goes-groes yn ymyl y dryse dynu eu
pibelle allan oddirhwng eu danedd, a murmur “_Allah!_” Ceisiodd _Huws_
genyf beidio adrodd y ’stori wrth y ddau _Gymro_ arall. Addewes ine ar
yr amod iddo gyfadde’ taw c’uwch cwd a ffetan. Ac aeth yn fargen.

Er imi wneud amod â mi fy hun na sangwn mwyach ar ysgraff i blesio
undyn, mi anghofies y cwbl pan ofynodd _Huws_ imi brydnawn arall os
d’own i wel’d y _Nilometer_. Cyn imi gael amser i ofyn beth oedd hwnw,
yr oedd fy nhraed ar y plancie.

Fuoch ch’i ar rafft rywdro? Os naddo, ni raid i chwi chwenychu’r
profiad. Y peth tebyca’ weles iddo yn y wlad hon oedd busnes y barile
dros afon _Teifi_ y’nghym’dogeth _Rhydybont_. Ond pe b’ai’n fater o
ddewis rhwng y ddau, yr ola’ gele’n fôt i heb betruso, fel y mwya’
teilwng o ymddiriedeth. Tybiwch am ddwsin o ’styllod hirion a phreiffion
wedi eu sicrhau wrth eu gilydd—a dwsin erill o’r un ysgol wedi eu gosod
ar groes, a’u sicrhau wrth eu gilydd ac wrth y rhai cynta’. Dyna’r
ysgraff. Ond tybiwch ei bod, oherwydd oedran ac esgeulusdra, wedi magu
mwswg’ a phob anialwch dros ei gwyneb a rhwng y rhigole, nes ei bod yn
beryg’ i chwi sefyll arni, ac yn anymunol i chwi feddwl eistedd arni.
Tybiwch eto taw swyddogion y bâd agored hwn oedd dau _Arab_ o faintioli
cawredd, y rhai, gyda chymorth dau bolyn hir, a hwylysent ei
symudiade—ac weithie a’i anhwylysent. Ac ychwanegwch at hyn oll fod yna
dipyn o chwyrnlif tua chanol yr afon, yr hyn bare i’r bâd a’i
breswylyddion gael ymosodiad o’r bendro: yr wyf yn dra sicr y caf eich
cydymdeimlad y’nhroion yr yrfa hon. Yn ystod y mis cyfa’ y bum ar y môr,
wrth fyn’d a dychwelyd, ni theimles y gogwydd lleia’ o selni’r môr, ar
dywydd teg na garw; ond pe gofynech imi pa bryd y bum agosaf iddo,
atebwn taw ar y rafft yn croesi’r _Nile_ y’ninas enwog _Cairo_.

Mi sonies am y _Nilometer_ megis rhwng cromfache, a hwyrach fod
cywreinrwydd rhywun wedi cael ei gyffroi, a’i ddychymyg wedi myn’d i
grwydro. Yr wyf yn cofio imi grybwyll yr enw’n ddamweiniol mewn cwmni,
pan geisiwyd genyf adrodd ychydig o’m helyntion, ac i un cyfell oedd yn
gwrando’n safn-agored ofyn y’niniweidrwydd ei galon:

“Sut grëadur oedd hwnw, deudwch? Oedd o’n debyg i’r crocodil?”

’Roedd o wedi credu’n siwr taw un o breswylwyr rheibus yr afon oedd y
_Nilometer_, ac yn anfoddlon i mi ei basio heibio mor ddisylw, heb roi
desgrifiad llawn o’i ’sgerbydeth a’i arferion. I ochel unrhyw amryfusedd
tebyg, mi dd’wedaf ar unweth taw offeryn i fesur uchder yr afon ydyw.
Onid yw ei enw’n egluro’i bwrpas? Y mae i’w gael ar ynys fechan
y’nghanol yr afon, ac ar ben ucha’r ynys, ar dwyn sy’ a pheth o hono’n
naturiol, a pheth yn gelfyddydol. Mae tŵr wedi ei godi yn y fan yma, ond
y mae’n ddigon isel i chwi fedru edrych i lawr iddo. Wedi i’ch llyged
ymgydnabyddu â’r t’w’llwch, chwi welwch ddyfroedd yr afon yn y gwaelod
pell, a phren hir yn codi ’fyny’n syth o’r gwaelod, a marcie arno bob
hyn-a-hyn. Cyrhaedda’r pren hyd at ene’r tŵr. Yn ol y marcie y mesurir
uchder y dw’r. Am y rhan fwya’ o’r flwyddyn, ni ŵyr am y codiad lleia’;
ond fel mae amser y gorlifiade’n agosâu, ymofynir â’r _Nilometer_ yn
fynych, ac os ceir arwyddion myn’d tuag i fyny yn y dw’r, clywir sŵn
llawenydd a gwaith trwy’r holl wlad. Tebyg taw cynllun cyffelyb oedd
ganddynt yn amser y _Pharöed_. Mae pobpeth yn yr _Aifft_ naill ai yn
“hen bowdwr” neu’n “newydd fflam!” Sicrhaodd _Huws_ i mi fod hwn er
dyddie _Pharo Neco_! Hwyrach hyny, ond rhedeg at y bocs halen wnes i.

[Illustration]



                               PENOD XXI.


                                   *

                          LLE BU’R MAB BYCHAN.

HYNY yw, lle bu’r Mab Bychan yn ol traddodiad. Traethu am f’ymweliad â’r
mane hyny yw baich y benod hon.

Hen Eglwys y _Coptied_ oedd un o’r mane ’rwyf yn sôn am danynt.

D’wedwyd wrthyf fod y bobl hyn y’mysg hen frodorion yr _Aifft_, o’r rhai
oedd yn addoli un Duw. Yr enw arnynt unweth oedd _Monophistied_—enw
sy’n myn’d y’mhell i brofi nad o’ent yn credu mewn aml-dduwieth. Tua
dechre’re’r ail ganrif, unwyd hwy âg eglwys arall oedd yn dal golygiade
tebyg ar Berson Crist; a dyna’r pryd y daethant i gael eu galw’n
_Coptied_. Gyda llaw, onid _Coptied_ yw’r aelode hyny sydd ar gynghore
addysgol y dyddie hyn y’_Nghymru_, y rhai nad ydynt wedi eu dewis yn
uniongyrchol gan lais y werin? Hwyrach y bydd gwybod y naill yn help i
gofio’r llall. Mae’r Eglwys _Goptedd_ yn _Cairo_ mewn cyflwr isel a
dilewyrch iawn. Mae ei hoffeiried mor anwybodus a’r bobl, a dygir ei
gwasaneth y’mlaen yn yr hen iaith _Gopteg_, yr hon nid oes neb yn ei
deall. Mae’r _Coptied_ yn cyfri’ eu hunen yn _Grist’nogion_, ac y mae
marc y Groes ar arddwrn pob un o honynft. Mi a’i gweles ar lïaws o
arddyrne. Y mae wedi bod o fantes iddynft weithie, ac o anfantes droion.
Ond y maent yn glynu’n rhyfedd wrfth eu heglwys, a hawliant berthynas â
_Christ’nogion_ pob gwlad. Nid oes cyfafchrach rhwng y _Mahometanied_ â
hwy, ac nid ä’r un _Mahometan_ selog yn agos i’w hanedde ar gyfri’n y
byd. Trigant mewn darn o’r hen ddinas, yn drefedigeth anibynol; ac y
mae’r darn hwnw yn cael ei roi i fyny’n hollol iddynft hwy, i bob pwrpas
ymarferol. Wedi clywed â’m clustie sôn am danynt, yr o’wn yn egru am
gyfle i ymwel’d â hwy.

Awyddwn yn enwedig i gael cip ar yr hen adeilad, petawn yn gorfod gadel
lleoedd erill ar ol. Mi gês berswâd ar Huws i dd’od hefo mi ryw
brydnawn, ar yr amod imi roi cyflenwad iddo o dybaco’r Hen Wlad.
Cerddasom yn galed am hir ffordd ac amser, ac nid oedd pethe’n gwella o
gwbl wrth fyn’d y’mlaen. O’r diwedd, daethom at borth henafol, yn ymyl
pa un yr eistedde dau gardotyn o’r fath druenusa’u cyflwr. Yr o’wn wedi
eu harogli y’mhell cyn d’od atynt, a _Huws_ roes esboniad imi ar y
tawch. Bron nad allech ei wel’d. Y syndod mwya’ i mi oedd sut na b’asent
wedi cael eu cario i ffwrdd i fynwes rhywun neu gilydd gan y dyrfa o
bryfed oedd mor ofalus o honynt. Aethom drwy’r porth dan wasgu’n trwyne,
a bu mwg myglys fy nghyfell o fendith fawr i ni. Cynygies brynu pibell
arall iddo, fel y galle ddefnyddio’r ddwy’r un pryd; ond gohirio’r peth
a wnaeth y tro hwnw.

Wedi myn’d drwy’r porth, yr o’em y’nhiriogeth y _Coptied_; a bum yn hir
dan yr argraff nad oedd neb yn byw yno. Tai uchel, heb ffenestri iddynt
amgen na thylle bychen ’sgwâr hwnt ac yma, nes gwneud ini dybied taw cu
cefne oedd ar y ’stryd hono, a taw ’stryd arall oedd yn cael y fraint o
wel’d eu gwynebe. Yr oedd golwg felancoledd arswyddus ar bob peth, ac
nid oedd sŵn dieithr ein hesgidie ar y palmant cerig yn ychwanegu dim at
sirioldeb y gymdogeth. Bob yn dipyn daethom i olwg yr hen eglwys; ac o
gwmpas i hon yn unig yr oedd pob gronyn o fywyd oedd yn y lle wedi
ymgasglu. Yr oedd yma ’beitu haner dwsin o ferched, a chynifer a hyny o
gŵn, crwt neu ddau, a nifer a’mhenodol o fegeried. Y peth cynta’
wnaethant oll, oddigerth y cŵn, wedi iddynt ein gwel’d, oedd dangos llun
y Groes ar eu garddyrne, i’n hadgofio o’r berthynas, ac i’n rhybuddio y
disgwylient i ni eu cofio’n sylweddol cy’ myn’d odd’no. Iddynt hwy, nid
oes ond _Crist’nogion_ a _Mahometanied_ yn y byd; gwyddent taw nid
dilynwyr y gau broffwyd o’em, rhaid felly ein bod yn ddysgyblion y
proffwyd o _Nazareth_ fel hwythe.

Os oedd y tai’n uchel, yr oedd yr eglwys yn ddigon isel. Yr oedd yn
rhaid disgyn i fyn’d at ei phorth allanol; ac yn y fan hono daeth tamed
o ddynolieth i’n cyfarfod, a thamed o _Saesneg_ ar ei dafod. Prin y
gallem ei wel’d gan fychaned oedd, a th’wlled y lle. Dan ei arweiniad
aethom i fewn. Cydiodd mewn darn o lafrwyn, tebyg i ganwyll frwyn y
dyddie gynt; goleuodd hi mewn canwyll oedd yn ole’n barod, ac archodd ni
i’w ddilyn. Nid oedd fawr o wahanieth rhwng ei “seis” ef a “seis” y
llafrwyn. _Huws_ bïa’r sylw yna. Cawsom ein hunen mewn ystafell tebyg i
gapel—a digon anhebyg hefyd—yn llawn cornele, heb fainc i eistedd
arni, a’r t’w’llwch yn herio’r dwsin canwylle oedd yno’n esgus goleuo, i
feiddio cyffwrdd âg e’. Yr oedd yno banele cywren tu hwnt, a cherflunie
arnynt yn gosod allan ryw drafodeth Feibledd. Ceisie’r crwt dd’we’yd
wrthym mewn _Saesneg_ tebyg i _Saesneg_ gwaelod Sir _Benfro_, beth oedd
y llunie; ond trwy fod _Huws_ o Sir _Gynarfon_, a mine o _Feirion_, nid
o’em fawr callach o’i ddehongliad. Tremies drwy’r t’w’llwch, a gweles
fath o gangell a desc o’r naill ochr; tybies taw rhan yr offeiriad oedd
yn y fan hono, ac ni chenfigenwn wrtho.

Yr o’wn wedi meddwl yn sicr nad oedd modd myn’d yn îs, ond wele’r gŵr
bach yn disgyn drachefn dros risie cerig, gryn ddwsin o honynt, a nine
wrth ei sodle, nes y cawsom ein hunen mewn ystafell eang arall, a thyrfa
o bileri trwchus yn dal ei nenfwd i fyny. Nid oedd yma na phanele, na
changell, na dim o’r cyfryw; ond yr oedd yma gelloedd bychen agored yn
erbyn y murie. Safasom yn ymyl un o honynt, a thybies fod gŵr y ganwyll
frwyn yn d’we’yd rhywbeth gyda mwy o bwysles nag arfer.

“Be’ mae o’n ddeud, _Huws_?” meddwn.

“O, deud mae o mai dyma’r lle y bu’r Mab Bychan yn ymguddio, gyda’i dad
a’i fam, tra bu’n aros yn yr _Aifft_.”

Mi apelies at yr arweinydd, rhag ofn fod _Huws_ rhwng difri’ a chware’,
fel y bydde weithie; a gwnes i hwnw fyn’d dros y ’stori wed’yn yn
arafach. Ce’s fod fy ffrind yn d’we’yd y gwir, p’run bynag a oedd y crwt
yn d’we’yd y gwir neu beidio. Nid es i holi, na manylu, na chysoni, na
dim: yr o’wn yn y teimlad i dderbyn y ’stori fel gwirionedd. Yr oedd
_Matthew_ wedi d’we’yd am fföedigeth y Mab Bychan a’i rïeni i’r _Aifft_,
ac yr oedd yr hen eglwys yn ymddangos o leia’n ddwy fil o flynydde mewn
oedran: pa’m lai na all’se pethe fel hyn fod? Yr o’wn wedi myn’d i ganol
yr amgylchiade fel yma dros fy mhen, a bu raid i _Huws_ ddihuno tipyn
arno’i hun cyn iddo lwyddo i’m dihuno i. Pe cawswn lonydd, yno y b’aswn;
yr oedd y ’stori wedi fy swyno gyment. Nid wyf yn siwr nad wy’n ei
chredu byth.

Ar ol d’od i fyny drachefn o fysg y tanddaearolion bethe, yr oedd y
lle’n llawn o ferched yn dangos eu garddyrne a’u dwylo. Yn yr Eglwys
_Fahometanedd_ y dydd o’r blaen, ’doedd dim ond dynion i’w gwel’d; yn yr
Eglwys _Goptedd_ heddyw, ’does dim ond merched a phlant i’w gwel’d. Nid
yw rhein yn gwisgo gorchudd dros dri chwarter eu gwynebe fel merched
_Mahomet_, ac y maent o bryd a gwedd dymunol iawn. Haere _Huws_ taw hwy
oedd y merched tlysa’n y byd. Yr o’wn yn synu at egni’r llanc, oblegid
’doedd yno neb yn haeru i’r gwrthwyneb. Ond mae’n amheus genyf a fydde
rhywun y’ _Mangor_ yn blasu’r athrawieth yna. Yr oedd y mynediad i mewn
yn rhad, ond yr oedd y mynediad allan trwy dalu. Nis gall’swn lai na
theimlo echryd yn gwisgo drosof wrth edrych ar y tai drachefn. Yr o’ent
mor debyg i hen gewri wedi tynu eu llyged allan. Yr oedd y ddau
_Lazarus_ yn ymyl y porth o hyd, a’r pryfed heb fyn’d a nhw. Dilynwyd ni
gan y cŵn a’r begeried erill hyd at y porth allanol, a da oedd genym
gael gwared o’r gelach ddig’wilydd.

Dro arall, aeth _Jones_ â mi i ben fy helynt i rywle,—rhywle nad oes
genyf fawr o gyfri’ i’w roi am dano. Yr wyf yn cofio ini gymeryd trên,
ond nid yn yr orsaf y de’s iddi o _Alecsandria_. Aeth y trên â ni drwy
amryw orsafe, a heibio golygfeydd oedd a mwy o’r Dwyren yn perthyn
iddynt na dim a weles. Wedi teithio ’beitu pymtheg milldir wrth fesur
ffansi, disgynasom, a cherddasom eilwaith ’beitu milldir ar hyd ffordd
oedd a’i magwyrydd yn goed blode a ffrwythe, a’i hawyr yn bersawr
hyfryd. Nid oedd ond ychydig dai’n y golwg, ac yr oedd y wlad yn fflat
fel eich llaw.

“Wel, _Jones_,” meddwn, “gyda phob dyledus barch i’ch pwyll a’ch
amynedd, yr wyf o’r farn ei bod yn llawn bryd i chwi ddatguddio
cyfrinach y lle hwn i mi.”

“O’r gore’,” ebe _Jones_; ac heb ragor o ymdroi, d’wedodd wrthyf enw’r
lle ar hyn o bryd. Pe cynygiech ganpunt imi am gofio hwnw, byddech yn
eitha’ dïogel; ond pan y chwanegodd taw’r hen _Heliopolis_ ydoedd, a
dinas _On_ cyn hyny, teimlwn fel pe bawn ar wastad _Tywi_’n union.
Meddienes y lle ar unweth. A dyma lle cafodd _Joseph_ ei wraig! Lle’r
oedd tŷ _Potiphera’_, ei dady’nghyfreth, ’sgwn i? A fu _Asnath_ yn
cerdded y ffordd hon pan yn ferch ifanc, tybed? Dyma ddarn hirfen,
uchel, yn codi o ’mlaen yn syth a sydyn, tebyg i nodwydd _Cleopatra_, yn
llawn saetheirie, heb le i chwi roi eich ewin rhyngddynt.

“Dyma’r unig weddillyn sy’n aros o’r hen amser y ffordd yma,” ebe’m
cyfell. “Tyhir ei fod yn dair mil o flynydde mewn oedran.”

“Os felly,” meddwn, wrthyf fy hun yn fwy nag wrth _Jones_, “bu _Moses_,
a _Joseph_, ac _Abr’am_ yn syllu ar hwn!”

Troisom yn ol i gyfeiriad arall, ac wedi myn’d i mewn i lecyn cysgodol
o’r neilldu, cyfeiriwyd fy sylw at hen bren oedd yn ymddangos yn rhy
grin i sefyll ar ei draed. Yr oedd yn ganghenog a llydanfrig, a dyge
olion toriade â chyllill drosto ’mhob man, hyd y’nod i’w gangen ucha’.
Barnwn fod pob llythyren y’mhob gwyddor ar ei foncyff, ac yn fuan
chwaneges ine f’eiddo at y llïaws.

“Be ’di hwn, _Jones_?” meddwn.

“Hen bren y d’wed traddodiad am dano ddarfod i’r Mab Bychan a’i rïeni
lechu dan ei gysgod ar eu ffordd i’r _Aifft_,” ebe _Jones_, sobred a
mwnc.

Yn rhyfedd iawn, meddianwyd fi’n union gan deimlade tebyg i’r rhai a
ddaethant drosof yn yr hen eglwys ddiwrnod neu ddau cyn hyny. Y Mab
Bychan eto? A fu ynte’r ffordd hon? Ar ol teithio mor bell, ai tybed
iddo grïo gan flinder dan y goeden, fel rhyw blentyn arall? Pa gân a
gane _Mair_ wrth geisio’i lonyddu dan y sêr? A pha sawl angel oedd
y’mhob seren yn edrych arno?

Pan dd’es ataf fy hun o’r tir pell hwn, dyna lle’r oedd _Jones_ ar ben y
pren yn pocedu’r brige. Es ine’n hy’ ar y rhisgl wed’yn. Mae’r brige a’r
rhisgl y’_Nhreorci_ bellach er’s dros dair blynedd.

[Illustration]



                              PENOD XXII.


                                   *

                          AR FIN YR ANIALWCH.

I’R rhan fwya’ o bobl y Gorllewin, mae’r _Aifft_ yn gyfystyr â dau beth,
a deubeth yn unig—y _Nile_ a’r _Pyramidie_. Ac nid y’nt y’mhell o’u
lle. Yr wyf wedi cysegru penod i’r blaena’; beth pe bawn yn cyflwyno
darn o hon i’r ola’?

Ni fydde’r hanes y peth y dyle fod heb ynddo gyfeiriad at y _Pyramidie_.
Pwy sy’ heb glywed sôn am danynt? Pwy sy’ heb wel’d eu llunie? A phwy
sy’ heb dybied ei fod yn gwybod y cwbl yn eu cylch? Ond dyna sy’n
òd——y blynydde diwedda’ mae henafiaethwyr wedi d’od o hyd i ben llinyn
eu hanes. Os oes rhywun yn gwybod mwy am danynt na neb arall sy’n fyw,
dyn o’r enw _Petrie_ yw hwnw. Efe gafodd afel ar y fynedfa i’r
’stafelloedd sy’n y _Pyramid_ mwya’, ac efe sy’ wedi bod yn darllen ei
eis a’i ddeint er mwyn d’od o hyd i’w oedran. Ac eto dywed _Petrie_ nad
yw efe wedi meistroli hyd y’nod y wyddor o honynt! Maent wedi herio
gwybodeth a dychymyg dyn am filoedd o flynydde, a synwn i ddim na
pharant i’w herio am filoedd o flynydde i dd’od.

Ond mi adwaenwn ambell un ddigwyddodd dreulio dam diwrnod yn eu golwg,
ac a ddaeth adre’ i _Gymru_ a’r _Pyramidie_ ar ei fenydd! ’Doedd dim na
wydde am danynt. Hwyrach y syne llawer cynulleidfa pe gwydde leied ŵyr y
darlithydd trwy sylwadeth bersonol am y pethe y sieryd mor wych a
thafod-lithrig am danynt. Nid yw y sylw yna’n ysgubol, ond y mae’n
cynwys nifer fwy nag a feddyliech. Mi glywes ragor na siwrne gan
ffrindie yn _Cairo_, taw yn y tŷ lle’r arosent y treulie dau ŵr enwog
allaswn enwi, eu hamser c’yd ag y buont yn y ddinas. Nid oedd y ddau
yno’r un pryd; ond yr oedd mor anodd codi’r ddau allan o’r tŷ ag oedd i
godi’r tŷ dros eu pene. Hwyrach yn fwy anodd. A thaere’r ffrindie
dd’wedent y gyfrinach wrthyf, taw ofn oedd yn eu caethiwo felly! Pan yn
gwrando arnynt ar lwyfan y ddarlith, hawdd fydde madde i chwi am dybied
taw hwy ddarganfyddodd y wlad! Tir cynil yw hwn i gerdded drosto, a rhag
ofn ffrwydriade, gwell i mi ymgilio.

Cystal i chwi dd’we’yd eich bod wedi bod yn _Llunden_ heb wel’d _St.
Paul’s_, neu yn _Llanberis_ heb wel’d y _Wyddfa_, a d’we’yd eich bod
wedi bod yn yr _Aifft_ heb wel’d y _Pyramidie_. Felly, mi benderfynes y
b’aswn yn treulio peth amser ar fin yr anialwch, lle maent yn sefyll,
a’r _Sphinx_ yn warcheidwad drostynt.

Pwy ddaw hefo mi? Nid am nad all’swn fyn’d fy hun, tae fater am hyny;
ond cwmni gwael i ddyn mewn lle dieithr yw ei gysgod. Peth arall, nid
o’wn am osod fy hun at drugarredd yr _Arabied_ lladronllyd a heidient y
lle yn enw arweinwyr, rhag ofn yr ystripid fi o gyment ag a feddwn, y
dygid fi i’r anialwch ar gefn dromedari, ac y gwerthid fi’n gaethwas yn
un o farchnadoedd y _Sahara_! Bum yn darllen llyfre _Mayne Reid_
’stalwm, pan oedd corff a meddwl dipyn yn a’mrwd; ac un o’r pethe
rhyfedda’ i mi oedd, fod y darlleniade hyny y’mynu d’od i’r wyneb ar ol
dros ddeng mlynedd ar hugen o fedd.

Bid fyno, heb ragor o ymdroi, gwnaeth _Jones_ ei feddwl i fyny i dd’od
gyda mi; ac ar ol derbyn caniatad ei feistr, ni chym’rodd hyny ragor o
amser nag a f’asech yn gym’ryd i rifo bysedd eich dwylo. ’Doedd dim
posib’ gwneud heb _Ali_ chwaith. Yr oedd yn rhaid ini wrtho’n bena’ fel
amddiffyniad rhag beiddgarwch poenus y brodorion: ac er fod _Jones_ yn
gwybod mwy o _Arabeg_ na mi, nid oedd yn gwybod cyment ag _Ali_. O
ganlyniad, yr oedd yn rhaid ini wrtho fel dehonglydd hefyd.

[Illustration: _DARN O’R BAZAAR._]

Mae’r cerbyde trydanol y’myn’d a chwi bron at draed y _Pyramidie_. Onid
oes yma gymysgfa ryfedd? Bron nad aech ar eich llw fod y cymysg-bla gynt
heb fyn’d o’r wlad byth! Taith ardderchog y w hon! Allan o’r dre’,
drwy’r maesdrefi cywreinia’, lle mae mẁd-gaban y llafurwr a phalasdy’r
pendefig yn edrych i wynebe’u gilydd—i ganol y wlad, lle mae
gwastadedde llwydwyn a gerddi sychedig yn disgwyl am gynhyrfiad y dw’r.
Rhed y cerbyde bob cam fin-fin â’r brif-ffordd, ac yma drachefn y cewch
y golygfeydd dieithraf. Sgoroedd o gamelod yn dilyn eu gilydd yn un
llinyn—rhai yn llwythog o feichie, ac erill heb ond y gyrwr yn eistedd
ar yr hwmp. Crëadur cyfrwys yw’r camel. Os gosodir swm mawr o gelfi ar
ei gefn, ai tybied yr ydych y caria efe fôd dynol gyda hyny? Na thwyller
chwi. Mae camelod at gario celfi i’w cael, a chamelod at gario dynion;
ond arall yw gogoniant y naill, ac arall yw gogoniant y llall. Mae camel
y celfi yn gwybod ei fusnes i drwch y blewyn; ac os meiddia’r gyrwr
ymguddio y’mysg y dodrefn fry, buan y ca ei hun y’nghanol y llwch obry.
Mi weles olygfa felly wrth basio’r bore’ hwnw. Tybies i fod y dyn wedi
ei anafu’n dost, os nad wedi ei ladd; ond ce’s brawf i’r gwrthwyneb heb
aros yn hir. Rhwng ei flagardieth ef a difyrwch trystiog y finte, ’roedd
yno Eisteddfod!

Y’nes y’mlaen, mi glywes ddyn a dynes yn ffraeo mewn gardd, ac yr oedd y
ddau’n bur gyfartal yn y gystadleueth. Ni ddeallwn eu geirie, ond
deallwn eu symudiade, y rhai o’ent debyg i symudiade pobl y ffordd hon
pan wedi ymgolli’n eu pwnc. Cymere fy nghyd-deithwyr ddyddordeb mawr yn
yr helynt, a chalonogent y ddynes â bloeddiade a churo dwylo. Ai tybed i
ffrae gynta’r byd gymeryd lle mewn gardd? Ai rhwng dyn a dynes y hu
hono? Os gwn i a fynodd _Adda_ ac _Efa_ hi allan ar ol gadel _Eden_?
P’run o’r ddau ga’dd y gair ola’ tybed? Mi wn i ’sgrechfeydd y ddynes
hon ein dilyn am bellder wedi iddi hi a’i _Hadda_ fyn’d o’r golwg. Onid
oes rhyw feddylie diddeddf yn tramwy drwy’r galon weithie?

Yr o’em y’nghysgod y _Pyramidie_ o hyd. Tyfent arnom fel y nesem atynt,
ac ymddangosent i mi fel pe blotient y ffurfafen i’r cyfeiriad hwnw
allan o’r golwg. Ar ol cydredeg am yn agos filldir â’r darn prydfertha
o’r ffordd, a choed talion y palmwydd yn tyfu bob ochr iddi o fewn
pellder mesuredig i’w gilydd, cyraeddasom yr orsaf. Yr oedd y gwres yn
fawr, ond nid yn llethol. Rhuthrwyd i gael tamed o fwyd cyn troedio’r
tywod, ond yr oedd yno erill can newynog a nine. Ni weles gynifer o glêr
yr un pryd erioed yn fy mywyd. A’r fath glêr! Prin y gwelech y plât, heb
sôn am y bwyd arno. Dilynent y tamed i’r gene, ac yr oedd ambell un yno
o’i flaen. Nid wyf am wadu na lynces o honynt y pymtheng munud hwnw
ddigon i ffurfio gwladfa gysurus. Yr oedd eu sŵn yn boddi’r siarad, a
phrysurasom ymaith ar ol talu am y clêr.

Yr o’em yn y tywod er’s meityn; ac yr oedd mor sych, a meddal, a
thrwchus, nes gwneud cerdded drosto’n gryn dasg. O’r diwedd, dyma ni yn
sefyll o flaen y mwya’ o’r _Pyramidie_—_Cheops_ wrth ei enw. Paham y
gelwir ef felly, nis gwn, os nad dyna enw’r dyn a’i cododd. Mae ’beitu
haner dwsin o honynt yn sefyll heb fod y’mhell oddiwrth eu gilydd.
Gorchuddiant arwynebedd mawr o dir cydrhyngddynt; ac o’r gwaelod i fyny
meinhânt yn raddol, nes fod y pwynt ucha’n ymddangos fel llygad aderyn.
Gwneir hwy i fyny o gerig hirion a phreiffion, wedi eu trefnu’n risie, y
rhai oedd yn gofyn tipyn o hŷd mewn coes i’w cwmpasu. Yr oedd ochre’r
hen ffrind _Cheops_ yn frith o deithwyr ar eu ffordd i fyny ac ar eu
ffordd i lawr, ac _Arabied_ cyflogedig yn eu helpu. Efe oedd yr unig un
a ddringid i’w ben hyd y diwrnod yr o’wn i yno. Bid siwr, yr oedd
_Jones_ wedi bod yma droion, ac edryche o’i gwmpas yn ddifater tra’r
o’wn i’n agor fy safn o flaen _Cheops_. Ond yn sydyn, cyfeiriodd fy sylw
at un o’r lleill, a gwelwn ddynion ar ben hwnw. Ac erbyn holi, hwy oedd
y cynta i’w goncro, o fewn terfyne gwybodeth pawb oedd yn bresenol. Nid
diffyg cymhelliad barodd i mi aros i lawr, ond bwrw’r draul a wnes, a
oedd genyf ddigon o nerth i’w hebgor i ymgymeryd â’r anturieth. Mi ddes
i’r casgliad yn fuan nad oedd, ac ni allodd holl ddonie plant _Ismael_
fy symud.

Heb fod y’mhell o’r gym’dogeth, yr oedd gweddillion teml wedi cael ei
dwyn i’r golwg. Es i lawr, a bum yn crwydro am amser drwy’r ystafelloedd
a ddygent olion dyddie’r _Pharöed_—heibio’r colofne trwchus a’r meini
mawrion, gan ryfeddu’r nerth a’r medr oedd wedi bod wrth y gwaifch.
Argyhoeddid chwi bob cam a ro’ech fod a fyne caethion rywbryd â’r lle.
Yr oedd y slabie anferth yn ffitio i’w gilydd fel morteisie, ac yr oedd
un o honynt fel talcen tỳ cymedrol. Pe d’wedse rhywun wrthyf gydag
awdurdod taw gwaith yr _Hebrëwyr_ oedd y cwbl, ni f’aswn yn synu dim.

Pwy na chlywodd sôn am y _Sphinx_? Pen, gwyneb, ac ysgwydde dyn wedi eu
tori allan o’r graig, a marcie tywydd canrifoedd arnynt. D’wedir ei fod
yn hynach na’r _Pyramid_ hyna’. Pwy sy’n gwybod? Wyneba i’r anialwch, a
gwylia byrth toriad gwawr. Mae’n ara’ falurio drwy’r oese, ond erys
digon o hono ar ol i oroesi oese lawer eto. Mor ddystaw y mae! ac mor
oer a stoicedd! Nid yw pelydre haul y cyhydedd, na gerwin gorwyntoedd yr
anialwch wedi gwneud iddo syflyd ei emrynt gyment ag unweth drwy’r
hirfeth genedlaethe, ond pery i ddisgwyl, disgwyl mor ddyfal heddyw ag
erioed. Am ba beth, ’sgwn i? Mae hen draddodiad am y _Sphinx_ ei fod yn
gofyn cwestiwn i bawb ele heibio, ac yn lladd pawb a fethent ei ateb.
Ond i ryw ddyn dd’od heibio ar ei dro, a’i ateb ar ei gyfer; ac i’r
_Sphinx_ dori ei galon mewn canlyniad, a throi’n gareg yn y fan. Y
cwestiwn oedd hwn: Beth oedd y crëadur a gerdde yn y bore’ ar bedwar, yn
y prydnawn ar ddau, ac yn yr hwyr ar dri? Ai atebiad oedd _Dyn_—ei fod
pan yn blentyn y’more’i oes yn ymgripian ar ei draed a’i ddwylo, pan yn
ddyn y’nawnddydd bywyd yn cerdded yn unionsyth ar ei ddeudroed, a phan
yn henafgwr y’mỳnu ei ffon i’w helpu. Ond ’rwy’n meddwl taw am _Sphinx_
arall tua gwlad _Groeg_ y d’wedir y ’stori yna, er fod hwn yn edrych yn
ddigon creulon i ddilyn hobi o’r fath.

Fe ga’dd y _Sphinx_ fwy o effeth arnaf na’r _Pyramidie_, ac nid heb
iase’n ymsaethu drosof yr edrychwn arno dros f’ysgwydd wrth ffarwelio
â’r lle. Dyma lle mae anialwch tywodlyd y _Swdan_ yn dechre’ o du’r
gogledd, ac nid oedd genyf nemor ffansi i’r morgrug duon a’r ysgorpione
a redent drosto.

[Illustration]



                              PENOD XXIII.


                                   *

                      YCHYDIG O FRIWFWYD GWEDDILL.

CHWI gofiwch imi sôn am yr Amgueddfa yn _Alecsandria_, lle y cedwid y
cyrff a gladdesid yn y Bedde Tanddaearol. Yr wyf y’meddwl imi siarad am
dani dipyn yn ddirmygus—mai prin oedd ei hatdyniade—taw hyfdra’i
swyddogion duon oedd ei nodwedd amlyca’—ac nad oedd yn werth ei
chymharu â’i chwaer yn _Cairo_. Nid wyf am dynu’n ol ddim a dd’wedes.
Mae’r un sy’ genym y’_Nghaerdydd_ yn ei churo i ffitie. Ond am un
_Cairo_, mae’n sicr nad oes ei rhagorach yn yr holl fyd. Mae ei safle
ddaearyddol rhwng y ddinas a’r _Pyramidie_, mewn pentre’ o’r enw
_Ghizeh_.

Es yno un diwrnod gyda _Huws_, ac nid wyf yn meddwl imi flino nemor mwy
erioed ag a wnes y diwrnod hwnw. Cyn diwedd y dydd, mi allwn feddwl fod
fy nhraed yn llwythog o falaethe, a gwynegon, a chyrn, gan drymed a
phoenused o’ent—fy nghefn fel pe b’ai rhywun wedi rhoi cwlwm ar linyn
fy spein—a’m pen yr un fath yn union a phe b’ai’n efel go’ mewn pwll
glo, a chanoedd o forthwylion mewn llawn waith ar ganoedd o eingione.
Pan gofiaf am hyny heddyw, mae fy nychymyg yn bywiogi’n y fan, a bron
nad af ar fy llw fod pine bach yn chware’ drwy ’nghorff i gyd o’r coryn
i’r gwadn. Yr oedd fy ffrind wedi bod yno fagad o weithie o’r blaen, a
bydde fynyched ma’s a mewn—fynychach yn wir, oblegid gwaherddid ysmygu
oddifewn. Mi dybiwn i y bydde caniatau hyny’n welliant mawr. Ga’nad pa
mor wrthwynebus i rai pobl yw sawyr y ddeilen ysmygir, mae’n rhaid fod
cywreiniad eu ffroene yn òd o eithriadol i beri iddynt ddewis sawyr y
lle o’i flaen. Yr oedd hwnw’n drwm anarferol mewn ambell i ’stafell. Yr
oedd drymed nes y byddwn dan yr angenrheidrwydd weithie o redeg at y
drws i gael newid awyr; a’r prydie hyny, gwelwn _Huws_ ar ei hyd ar un
o’r sedde’r tu allan, y’mygu fel Swltan. Parod o’wn i eiddigeddu wrtho;
ond gan mai “unweth am byth” oedd f’ymweliad i â’r wlad, yr o’wn yn
benderfynol o’i “gwneud” mor llwyr ag y base f’amser a f’amgylchiade’n
caniatau. Ac yn ol yr awn bob tro.

Saif yr adeilad ar arwynebedd anferth o dir, ac y mae’r ystafelloedd
sydd ynddo’n ddirifedi ’mron. Cerdda _Arabied_ talion i fyny ac i lawr y
gwahanol adrane gyda mursendod chwerthinus; mae’n amlwg eu bod yn
mawrhau eu swydd y tu hwnt i bobpeth. Croesant eich llwybr i bob
cyfeiriad; deuant arnoch gyda sydynrwydd poenus allan o dylle a chornele
anhysbys i chwi; a phan y byddwch wedi ymgolli uwchhen gweddillion
rhydlyd rhyw hen _Pharo’_ neu gilydd, ond odid na fydd dau neu dri o’r
swyddwyr duon hyn wrth eich penelin, yn barod i chwi pytae’n eich bwriad
i fyn’d a _Pharo’_ i ffwrdd. Mae diwrnod yn rhy fyr i fyn’d drwy’r lle
“ar ’sgawt;” mae wythnos yn rhy fyr i fyn’d drwyddo’n feddylgar. Ceir
yma sgoroedd o _mummies_ perffeth, wedi eu casglu o bob cwr o’r _Aifft_.
Mae _Rameses_ yr ail a’r trydydd—_Pharoed_ amser _Joseph_ a
_Moses_—yma’n eu corffoleth, mor debyg a dim i’r darlunie gewch o
honynt. Pobl a phen heb galon iddynt, deall heb deimlad, gwareiddiad heb
foesoldeb. Nis gallaf byth edrych ar _Aifftwr_ o’r cynoesoedd, ar bapyr
nac mewn amdo, heb deimlo iâs yn cymeryd meddiant o f’asgwrn cefn.
Ymddengys i mi bob amser yn deip o greulondeb mewn gwaed oer, ac y mae’r
llygad llonydd yn eich dilyn i bob man nes eich gwneud yn gaethwas i ofn
nas medrwch rhoi cyfri’ am dano. Mae yma hen gôfadeilie o dywysogion
fuont unweth mewn bri—rhai’n weddol o gyfen, erill heb eu trwyne, a
nifer dda heb eu pene. Hen golofne sydd mor llawn o saetheirie fel taw
prin y gwelwch ddim arall. Hen ddarne aur o wahanol gyfnode, a hen
ddarne arian o wahanol rane o’r wlad. Breichlede, cadwyne, clustdlyse, a
darne o waith ede a nodwydd, y rhai oedd wedi bod mewn cistfeini am
filoedd o flynydde. Hen femrwne a’u hinc mor glir a’r diwrnod y cawsant
eu hysgrifenu;  a dillad oddiar gyrff wedi eu perarogli, heb fod fymryn
gwaeth i’r golwg. ’Roedd yma lon’d byd o ryfeddode y’mhob ystafell. Ond
O, mor iach oedd d’od allan i’r awyr agored, i ymloewi’n yr haul, ac i
yfed awelon adfywiol y gerddi!

Wn i yn y byd os ydych yn cofio imi dd’we’yd i _Jones_ a mine fyn’d
gyda’r trên i _Heliopolis_ ar brydnawn, lle gwelsom y nodwydd a’r pren.
Mi dd’wedes lawer o bethe am y lle hwnw, ond ’rwy’n meddwl imi ollwng
dros gof i dd’we’yd taw ’run yw’r wlad hono a _Gosen_ gynt. O leia’,
dyna’r dybieth; ac y mae cryfach sail iddi nag aml i dybieth debycach
i’r gwirionedd. Hwyrach y bydd gwybod cyment a hyna yn ’chwanegu at
ddyddordeb yr hanes i rywrai; oblegid mae amryw o bryd i’w gilydd wedi
bod yn fy holi i am wlad Gosen, fel pe baent ar fedr ymfudo iddi. Ga’nad
beth am hyny, nid dyna wy’n hala ato wrth ymdroi fel yma—ond hyn. Wedi
ini gymeryd ein lle yn y cerbyd, a phan oedd y peiriant yn rhoi’r arwydd
cychwynol, dyma’r drws yn cael ei agor eilweth, a phererin arall yn cael
ei wthio i fewn gan ddwylo duon a lleferydd duach dau neu dri o weision
yr orsaf, nes ei fod ar ei ben yn erbyn y drws cyferbyniol. A phe
digwyddase hwnw fod yn rhydd o’i glicied—fel y gweles hi lawer
gwaith—’does dim dwyweth nad allan y b’ase’r truan yr ochr arall. Ond
wedi i’r trên gychwyn, ac iddo ynte gael amser i hel ei hun at ei
gilydd, a gosod ei hun ar y sêt yn daclus, cawsom nine amser a
chyfleusdra i gymeryd ’stoc o hono. Dyn canol oed oedd, mi dybiwn, a
golwg wyllt arno—yn wir, ei lyged a hawlie’ch sylw gynta’, yr o’ent
ddysgleiried ac aflonydded. Yr oedd twrban gwyn ar ei goryn, ac esgidie
melyn am ei draed; dillad gwael am dano, a’r rhai hyny’n cael eu gwneud
i fyny o hen lodre canfas wnaed gan ryw deiliwr dorodd ar ei brentisieth
cyn dysgu ei grefft, a hen gôt oedd yn profi ffydd _Jones_ a mine i
gredu taw côt ydoedd. Ond prin oedd y pilin oedd am dano, a phrinach
oedd yr ymborth oedd ynddo. O, yr oedd yn deneu! Siarade âg e’i hun am
beth amser—am ei fod yn credu na all’se siarad â neb oedd gallach,
meddwn i; am ei fod heb orphen setlo cyflwr y bechgyn a’i gwthiasant i’r
cerbyd mor ddiseremoni, medde _Jones_. Bid fyno, bu’n ddall a byddar i
ni am ysped, ac yr oedd sylwade fy ffrind ar ei bersonolieth yn ddoniol.
Ond wedi ini basio’r ail orsaf, dyma’r hen frawd at _Jones_—yr hwn oedd
yn eistedd ar yr un fainc ag ef—ac yn clebran wrtho ei ore’ â’i dafod
ac â’i ddwylo, gan bwyntio ataf fi.

“Be’ mae’r hen gna’n ’i ddeud, _Jones_?” meddwn.

“Mor bell ag yr w i’n gallu ddeall o,” ebe ynte, “a ’dydi o ddim yn
waith hawdd, mae o am gael gwybod os ydach chi’n ddyn sanctedd.”

“Yn ddyn sanctedd! Be’ gebyst mae o’n feddwl? A phwy hawl sydd ganddo i
ame’n sancteiddrwydd i mwy na’ch sancteiddrwydd ch’i? ’Rwy’n siwr nad w
i ddim yn edrych yn fwy digymeriad na chithe, _Jones_.”

“Peidiwch gwylltio,” ebe fe; “nid y’ch caritor ch’i, ond y’ch swydd
ch’i, mae o’n feddwl.”

“O! Ond pa’m mae o wedi fficsio arna’ i, mi leiciwn wybod?” A tbybiwn fy
mod wedi pinio _Jones_ yn erbyn y wal â’r cwestiwn yna.

“Oblegid eich colar!”

Aethum yn fud, ac nid agores fy ngene. Fy ngholar! Hawyr, pa ddrwg a
wnaeth fy ngholar! Un gron oedd, o rywogeth yr Eglwys Sefydledig o
goleri, ac nid oedd digon o honi’n y golwg i dynu sylw neb. Heblaw fy
mod yn siwr ei bod yn ddyledus i’r twba golchi er’s dyddie. Gwelwn y dyn
yn edrych arnaf a math o “barchedig ofn” yn ei ymddangosiad, a chyn imi
gael amser i estyn allan fy llaw, yr oedd ar ei linie o ’mlaen, ac yn
parablu fel dyn yn d’we’yd ei bader. Mi godes ar fy nhraed yn union, ac
mi ddangoses y sêt iddo; cododd ynte, ac eisteddodd i lawr. Yna mi drois
at _Jones_:

“Rho’wch dipyn o ole’ ar y mater,” meddwn, gan geisio bod yn bigog.

“Mae o’n deud ’i fod o’n _Gristion_,” ebe fe, “yn _Goptiad_, wyddoch, a
mae o’n meddwl wrth shâp y’ch colar y’ch bod chithe’n _Gristion_. Mae o
wedi bod yn deud wmbredd o bethe wrtho i am danochi, yn ol dull y
Dwyreinwyr yma—megis y’ch bod chi’n ddyn glân, ac yn ddyn duwiol, a’i
fod o’n y’ch caru ch’i, ac na fydde dim yn well geno fo na bod yn was i
ch’i byth. Dyna oedd o’n dreio ddeud wrthochi pan ar ’i linie, ond fod
’i deimlade wedi myn’d yn drech nag e’.”

Mae clywed dyn arall yn eich galw’n ddyn glân, a chwithe heb gael
datguddiad cyffelyb er yn blentyn—ac yn ddyn duwiol, a chwithe’n gwybod
y bydde’n chwith gan neb sy’n eich ’nabod i gyfadde hyny, yn eich
toddi’n union; a mi edryches ar y crëadur craff dipyn yn fwy serchus.
Darllenodd fy llygad ar unweth, a gwnaeth osgo i fwrw ei hun i lawr
wed’yn. Ond mi weles ei bod yn bryd i ddwyn y benod i derfyniad.

“Os taw _Coptiad_ yw,” meddwn wrth _Jones_, “ceisiwch ganddo ddangos
llun y groes ar ei arddwrn.”

“Wel, ïe’n tê,” ebe fy nghydymeth, gan daro’i goes â’i law; “sut na
b’aswn i wedi cofio hyny?”

Trodd ato; ond mor fuan ag y gofynodd y cwestiwn iddo, gwelwn wyneb y
dyn y’newid, ei lygad yn tanio, a’r olwg fwya’ cythreulig y’myn’d arno.
Hisianodd ychydig eirie rhwng ei ddanedd, a symudodd i gongl bella’r
cerbyd, fel dyn wedi cael ei dd’rysu’n ei amcanion.

“Hwyrach y bydde’n well ini newid ein cerbyd yn yr orsaf nesa,” ebe
_Jones_.

“Pa’m? Be’ sy’n bod?” gofynwn.

“Mae ei gariad wedi troi’n gâs,” ebe ynte. “Hen gna’ twyllodrus ydyw, ac
nid yw’n fwy o _Goptiad_ na fine. Mae wedi deall rywsut mai ch’i
dd’wedodd am ei arddwrn; a phan geisies i ganddo ei ddangos, d’wedodd y
b’ase’n eich lladd yn y fan pe b’ase’i gyllell ganddo. Wedi cyfri’ ar
ein cydymdeimlad yr oedd, yn ddiame, ac ar ein harian wed’yn.”

Pan ddaeth y trên i’r orsaf nesa’, ni fu raid i ni symud. Aeth y twyllwr
allan ei hun, ac ni welsom ef mwyach. Ac wedi i’r trên gychwyn drachefn,
chwarddasom mor iach a chalonog nes fod pob twrban yn y lle yn hongian
allan o’r ffenestri.

Mae’n ddrwg gen i dd’we’yd na fum mewn gwasaneth crefyddol yn _Cairo_ o
gwbl, os na chyfrifir imi’n gyfiawnder y bore y bum yn yr Eglwys
_Fahometanedd_ gyda _Jones_ ac _Ali_. Mae llawer o bethe y’nglŷn â’r
gwasaneth hwnw yn fy ffafr. Ond mi gefes beder odfa yn _Alecsandria_.
D’wedaf air am danynt cyn dirwyn y benod i fyny.

Mae dwy o eglwysi _Protestanedd_ gan y Saeson yn _Alecsandria_—yr
Eglwys _Sefydledig_, a’r Eglwys _Albanedd_. Ni weles y flaena’, ond bum
yn yr ola’ ddwyweth. Saif ychydig o’r tu allan i’r ’sgwâr y sonies am
dano, ac o fewn haner ergyd careg i’r môr. Gwelir ei binacl o bellder, a
gelwir yr eglwys ar enw _Andreas_. Mae’n gapel cysurus wedi myn’d iddo.
Llofft heb lawr ydyw. Ceir llawer capel y’_Nghymru_ yn llawr heb lofft;
ond mae hwn yn wahanol. Nis gwn be’ sy’ odditano, ond gwn fod yn rhaid
dringo dros wmbredd o risie ar ffurf corcscriw cyn y deuir o hyd i’r fan
lle mae _Andreas_ yn byw; a phe digwyddech sibrwd yn _Gymraeg_ ar ganol
dringo—“andras o le ydi hwn!”—ni bydde’n ymddangos gyment allan o le a
llawer man allasech enwi. Eistedda dros bum’ cant, mi allwn dybied, yn y
capel; ac yr oedd cynulleidfa barchus o dros ddeucant ynddo ar fore’
Sul. Yr oedd y canu’n galonog, a’r defosiwn y’naturiol. Tynwyd fy sylw
at ddarn o frethyn du oedd yn hongian ar draws yr adeilad, ychydig
uwchben y bobl, a dyfalwn beth alle fod. Mi ddealles wed’yn taw ei
bwrpas oedd i greu awel pan fydde’r gwres yn fawr yn yr ha’. Yr oedd ei
ysgwyd yn ol a blaen yn lliniaru rywfaint ar y poethder. Nid wyf yn
cofio beth yw enw’r pregethwr a glywes y bore’ cynta’ bum yno, ond
pregethodd yn rhagorol oddiar Ioan xx. 15. Mwynhês y gwasaneth yn fawr
drwyddo. Un odfa’n unig a gynelir yma ar y Sabbath, ond ceir odfa arall
yn yr hwyr yn y Sefydliad sy’n perthyn i’r morwyr yn ymyl y porthladd. I
derfynu’r dydd yn uniongred, es yno, a daeth y cadben hefo mi. Yr oedd
yma gynulleidfa o haner cant, oll yn forwyr ond nifer o gynorthwywyr o’r
ddinas. Dyn gweddol fyr, tywyll, tene, a bregethe, a’i dafodieth mor
ddwfn a dim a gynrychiolid ar ddydd y _Pentecost_. Yr oedd pump o bob
chwech o’i eirie’n myn’d i golli oddiarnaf, ac yr oedd ei fater a’i
ymdriniad mor bell oddiwrth ddeall a chydwybod ei wrandawyr ag yw’r
dwyren oddiwrth y gorllewin. Gofynodd y cadben i mi wrth ddychwelyd i’r
llong y noson hono be’ feddyliwn o’r bregeth.

“Cyfleusdra ardderchog wedi ei ollwng i golli,” meddwn; ac â hyn y
cytune ynte. Bum dan weinidogeth y brawd tafodrwm y bore’ Sul dilynol yn
eglwys St. _Andreas_, a thybiwn ei fod yn ffitio’n well yno nag y’mysg y
morwyr. Yr ail nos Sul cawd pregethwr cwbl wahanol yn y Sefydliad. Math
o ddiwygiwr tanllyd oedd hwn, a siarade wrth ei gynulleidfa fel pe baem
oll yn droseddwyr mewn carchar, ac yn euog o dori’r gorch’mynion bob un.
Yr oedd un pregethwr yn cymeryd yn ganiataol ein bod oll yn ddysgawdwyr;
yr oedd y llall yn cymeryd yn ganiataol ein bod oll yn lladron a
llofruddion. Y canlyniad oedd, fod y ddwy weinidogeth yn aneffeithiol.
Mi fydde ’beitu dwsin o honom yn aros ar ol i ganu tonau _Sanci_—dyn
o’r enw _Gammidge_, goruchwyliwr y Sefydliad, yn arwen, a dyn o’r enw
_Owen_, o _Morpeth_, yn chware’r offeryn. Ac yr wyf y’meddwl imi
dd’we’yd o’r blaen nad oedd neb yn canu’n fwy “harti” yn y cyrdde hyn na
chadben y llong y des drosodd ynddi.

Tradwy ar ol y Sabbath ola’ hwn, pan oedd y dyn yn pregethu oddiar
fynydd _Ebal_, y cododd y llong ei hangor, ac y trodd ei thrwyn i
gyfeiriad y gorllewin.



                              PENOD XXIV.


                                   *

                                 YN OL.

BELLACH, “teg edrych tuag adre’.” Wedi gwel’d llawer o bethe heblaw a
ddesgrifir yn y llyfr hwn, a chlywed rhagor nag a ddesgrifir yma, a
theimlo mwy nag a ellir ei ddesgrifio ar ddu a gwyn, “daeth yr awr i’m
ddïanc adre’:” a rhyngoch chwi a mine, ni ddaeth fymryn yn rhy gynar. Yr
oedd yn perthyn i’r fordeth yn ol rai helyntion oedd yn absenol o’r
fordeth allan. Llonydd ac unffurf oedd hono o’i chymharu â hon. Mi
dreiaf sôn am danynt cyn tewi.

Cychwyn i’r nos a wnaethom wrth fyn’d, a chychwyn i’r nos a wnaethom
wrth ddychwelyd. Yr oedd un o’r hen griw wedi cael ei adel ar ol yn
_Alecsandri_a, i fyw neu farw mewn ’sbyty. Efe oedd yr hwn y tosturiwn
wrtho gynt, pan yn troi’r olwyn. Ond caed un arall yn ei le, fel na fu
hyny’n golled i’r llong. Fe ddowd hefyd o hyd i hogyn un-ar-bymtheg oed
ar ol cychwyn, yr hwn oedd wedi ymguddio mewn rhyw gilfach o’r llestr
heb i neb ei wel’d. _Stowaways_ y gelwir y math yma o deithwyr. Nid
ydynt oll o’r un cymeriad; ond hwyrach fod y nifer luosoca’ o honynt yn
cymeryd at y dull yma o adel eu gwlad oherwydd eu bod wedi gosod eu
hunen yn llaw’r gyfreth drwy ryw amryfusedd neu gilydd. Nid ydynt yn
meddwl am y posiblrwydd iddynt osod eu hunen yn llaw’r gyfreth wrth aros
mewn llong heb ganiatad  wedi iddi gychwyn i’w mordeth. Ond dyna fel y
mae. Ceir erill yn anturio hyn oherwyth ffit o anesmwythder, neu ddïogi,
neu awydd i wel’d y byd. A cheir ambell i grwt amddifad yn eu plith, yn
defnyddio’r cyfle hwn i ddianc rhag gormes a chreulondeb meistr neu
berthynas. Ac un felly oedd hwn, os oedd coel ar ei ’stori. Y maent oll
yn cyfri’ ar gael eu darganfod yn fuan, ac ar natur dda’r cadben. Fe
allse hwn ddisgyn i ddwylo gwaeth, a chymerodd y _bos’n_ ofal o hono.

[Illustration: _CHEOPS A’R SPHINX._]

Yr oedd y’noson dawel, gynes, a’r gwynt o’r de. Daliodd goleudy _Pharos_
i d’w’nu arnom wedi ini fyn’d y’mhell i’r môr; ac wedi colli hwnw, es i
fy ngwely. Dranoeth, yr oedd y gwres yn llethol, ac yn sibrwd ’storm
y’nghlustie’r morwyr. Deue’r gwynt poeth dros yr anialwch; ac er fod
mynyddoedd uchel rhwng yr anialwch a’r môr, carie’r gwynt y tywod yn ei
gôl nes fod pob modfedd o’r llong yn orchuddiedig ganddo. Yr oedd y
gronyne mor fân a melfededd nes galw am y chwyddwydr i’w dadgysylltu.
Brodorion o’r _Sahara_ o’ent bob un, ac yr o’ent wedi teithio dros gan’
milldir dros dir a dw’r cyn cyredd y llong. Bu adar bach yn ein dilyn y
diwrnod cynta’ drwy’r dydd; nis gwn pa adar y gelwid hwy, ond yr o’ent
yn dlysion a dôf iawn. Aethant i golli’r ail ddiwrnod. Mae’r morwyr yn
hoff o grëduried, gwar a gwyllt, ar y llong; ac os lleddir un o honynt
drwy ddamwen neu fwriad, ceir hwy i ddarogan pob math o flinfyd i’r
llestr. Disgynodd crëadur tebyg i’r locust hefyd o gerbyd y gwynt;
daliwyd ef, a buwyd yn dyfalu tipyn am dano. Mi geisies ei gadw’n fyw
dros y fordeth, ond bu farw’r trydydd dydd. Erbyn hyn, yr o’em yn rhy
bell oddiwrth dir i dderbyn rhagor o hono.

Ce’s brofiad o ’storm ar y môr wrth ddych welyd,—yn wir, mi ge’s hyny
deirgweth. Daeth y gynta’ arnom pan o’em yn tynu at _Malta_, yn ymyl y
fan lle’r aeth yn llongddrylliad ar _Paul_; a bum yn ofni siwrne y
b’ase’n myn’d yn llongddrylliad arnom nine hefyd. Yr oedd rhai pethe’n
debyg rhwng ei daith ef a’n taith nine. O _Alecsandria_ y cychwynodd
ef—felly nine. Am y ddau ddiwrnod cynta’, cawsant hwy’r gwynt o’r
de—felly nine. Yna daeth “gwynt gwrthwynebus” a môr cythryblus i’w
llesteirio—felly nine. Ond yn y fan yna, derfydd y tebygolieth, a
dïolch am hyny. Ni chawsom ni’r “Euroclydon” fel hwy; enw presenol hwnw
yw _Simoon_. Ni chawsom ni ein bwrw ar ynys; aethom heibio i _Melita_
dranoeth yn ddïogel. Ond fe fu’n gryn helynt arnom nine.

Golygfa gyffrous yw ’storm ar y môr, i’w gwel’d o’r tir—ond mwy
cyffrous yw bod ynddi. Cynyddodd y “gwynt gwrthwynebus” ar hyd y dydd, a
chwyddodd y môr o dan ei guriade. Penod hir o dreigliade a thafliade a
fu hon. Golche tunelli o ddyfroedd yn ddibaid dros ben blaen ac ochre’r
llong, nes ein gorfodi i gau pob drws a ffenest’ o’r fath sicra’. Gwelid
llestri’r ’stiward yn ymryddhau oddiar eu bache, ac yn dawnsio’n wyllt o
gwmpas y lle, nes creu’r twrw creulona’. Dilyne gwrthddryche erill eu
hesiampl, gan ollwng eu gafel ar y dec. Erlidient eu gilydd, tarawent yn
erbyn eu gilydd, a neidient dros eu gilydd fel pe baent wedi eu
cynysgaeddu’n sydyn â rhyw fath o ddealltwrieth, ac y’methu dygymod â’u
sefyllfa newydd. Wrth sefyll yn ymyl drws y caban, cyn iddi fyn’d
cynddrwg, gwelwn y môr yn d’od ataf fel mynydd byw—y llong yn plymio i
lawr ar ei phen i ganol y dyfnder, a’r mynydd yn hollti’n filoedd o
frynie drosti; darne erill, fel eirth gwynion, yn dringo dros ei hochre,
tra cwyd y llestr ei phen o’r dyfnder drachefn, gan ysgwyd ei hun yn
rhydd o’r trochion, fel yr ysgwyd llew ei fwng yn rhydd o wlith y bore’.
Ac yn y blaen eilweth a tbrosodd. Neu, hwyrach y newidia ei symudiade,
ac, mewn ufudd-dod i’r llywydd, yr ysgoga bwynt neu ddau ar ei chwrs,
fel ag i beri iddi ogwyddo ychydig i un ochr, ac wrth hyny ddwyn ei
rhagfurie i ymyl y dw’r, a chodi tòn fydde’n pasio i fyny’n gorfforol
i’r dec—gan fyn’d dros yr un gwaith yr ochr arall. Neu, hwyrach y
tarewid hi ar ei hysgwydd gan foryn bradwrus, nes peri iddi golli ei
chydbwysedd am ychydig, heb wybod yn iawn beth i wneud, ai ymsuddo ai
ymrolio—ac yn gwneud pob un o’r ddau. Canlyniad hyny fydde dwyn eich
traed odditanoch; a mi ge’s brofiad anymunol o beth fel hyn yn y caban,
pan oedd y dymestl wedi cyredd ei gwylltineb eitha’. Eisteddwn ar fainc
yn un pen i’r ystafell, a dyma haner-ymroliad dirybudd yn fy nhaflu’n
ddiseremoni i’r pen arall; a phan o’wn ar fy ffordd i dd’od ’nol, dyma
haner-ymsuddiad yn cymeryd lle nes cael o honof fy hun yn cofleidio’r
’stôf oedd ar ganol yr ystafell, a’r fainc yr eisteddaswn arni wedi
newid y drefn, ac yn eistedd arnaf fi yn gysurus. Mi f’asa’r cofleidio
hwnw’n siwr o fod yn gynesach pe b’ase tân yn y ’stôf; ond ’roedd o’n
ddigon sylweddol fel yr oedd—braidd ormod felly, yn ol fy marn ar y
pryd. Ofn? Oedd; pa’m y celaf ef? Pe d’wedwn nad oedd, pwy’m crede? Eto,
prin y gwydde neb arall hyny; ac yr oedd ambell i anffod ddigri fel hon
y’nghanol yr helyntion i gyd yn help imi gadw fy hun rhag cael fy
llwyr-berch’nogi ganddo. Wedi ara’ dynu at _Malta_, a chael y tir i dori
rhysedd y gwynt, llonyddodd pethe, a chawsom hamdden i gymeryd ein
hanadl. Ond och fi! ni chwenychwn ail-argraffiad o’r peder-awr-ar-hugen
diwedda’.

Y’mhen tri neu bedwar diwrnod, daeth un arall ar ein traws; ac er na
pharodd c’yd a’r llall, yr oedd ffyrniced hob mymryn. O Gulfor _Lyons_ y
daeth hon, a’r gwynt a’r gwlaw oeraf a garwaf yn ei chôl. Deue i’n
herbyn gyda rhuthr, a chawsom ddwyawr gyffrous dros ben. Berwe’r môr yn
ffrochwyllt; tarawe’r gwynt ar ochr y llestr fel cyflegre, a neidie’r
dyfroedd i’r dec fel môr-ladron. Yr oedd yr hen long ar ei gogwydd ar
hyd yr amser, ac yr oedd hyd y’nod y ’stiward yn gwneud cryn ’stumie
wrth geisio cerdded yn gywir. Ond lliniaru wnaeth mor sydyn ag y
dechreuodd, fel ambell gyffroad y’_Nghymru_; a cha’dd _Bismarc_ a mine
rwyddineb i gerdded yn fwy parchus, heb ein bod yn cael ein drwgdybio o
fod wedi meddwi.

Daeth y trydydd argraffiad allan wedi ini gyredd y Sianel—Sianel
_Pryden_. Dim ond gwlaw a niwl—gwlaw a niwl oedd y drefn o’r amser y
daethom i fewn i’r amser yr aethom allan. Gwaith peryg’ yw mordwyo’r
sianel hon ar dywydd fel yma. Mae mwy o ofn y niwl ar y morwyr na’r
dymestl waetha’ pan fo’r awyrgylch yn glir. Mae’n anodd gwel’d y
goleuade, ar làn nac ar long, nes y byddwch yn eu hymyl. Ychydig all’swn
fod ar y dec, ac ychydig welswn oddiyno, pe mentrwn. Pasiem o fewn dim
ymron i’r làn heb ei wel’d. Ce’s gip ar Ynys _Wyth_ fel drychioleth ar
ein haswy. Dim ond un noson ar ei hyd dreuliasom yn y Sianel, a noson
ofnadwy oedd. Yr oedd yr elfene fel pe baent wedi eu gollwng yn rhydd
gyda’u gilydd i’n llyncu’n fyw ar ddiwedd y daith. Disgyne’r gwlaw
creulona’ drwy’r nos, gan waethygu at yr ail wyliadwrieth. Ysgreche’r
gwynt mewn natur ddrwg, ac ysgytie’r llong megis yr ysgytia ci neu gath
lygoden. Ymgynddeirioge’r môr o dan ffrewylle ysgorpionedd y gwynt, a
neidie dros y decie ucha’ wrth geisio dïanc, dan falu ewyn fel y lloerig
gynt. Ac i wneud pethe’n waeth, tewychu wnai’r niwl. Daeth niwl a gwlaw
yn lle gwlaw a niwl. Bu agos ini gam-gymeryd _Beachy Head_ am
_Dungeness_, ac ni fu ond trwch blewyn rhyngom a tharo ar _draethelle
Goodwin_. Mae f’asgwrn cefn y’myn’d fel colofn o rew’r funud yma-pan
gofiaf hyny. Ond dïolch  i Dduw, cyraeddasom Fôr y _Gogledd_ yn
ddïangol: a phan ofynes i’r cadben dranoeth y ddrycin, beth oedd ei farn
am y noson:

“_A very dirty night_,” ebe fe; a dyna’i gyd. Ond pan dd’wedaf wrthych
iddo ef fod ddeuddeg awr ar y bont heb newid ei ddillad na symud o’r
fan, cewch syniad gwell am y noson hono nag a gewch oddiwrth ei eirie ef
ei hun.

Mi ge’s rywfent o wybodaeth hefyd o’r peryglon a’r ofnadwyeth sy’n
gysylltiedig â gwrthdrawiad ar y môr. Tua deg o’r gloch y nos ydoedd, ac
yr o’em yn tynu at _Algiers_. Yr oedd y’noson dawel, braf, heb gwmwl
uwchben, heb dòneg odditanodd, na digon o chwa’n pasio heibio i symud
blewyn o’ch gwallt. ’Ro’wn i yn ystafell y siart hefo’r cadben, a’r prif
swyddog ar ei wyliadwrieth ar y bont. Mi ddigwyddes droi fy mhen ar
ganol siarad, a gwelwn y drws yn cael ei gil-agor yn araf, a bys yn
amneidio ar y cadben. Gwelodd y cadben ef hefyd, ac allan ag e’n union.
Wrth iddo agor y drws yn lletach, dyna lle’r oedd gwyneb y prif swyddog
fel gwaith sialc ar bared ddu. Ffroenes beryg’ yn union. Es ine allan, a
beth a weles ond llong anferth yn d’od tuag atom ar ein llwybr, heb ond
ryw haner chwarter milldir rhyngom â hi. Hi ddeue i lawr arnom heb newid
dim ar ei chwrs, fel pe na bai neb wrth y llyw, nac ar y wyliadwrieth.
Arosasom, a swniwyd yr arwydd o beryg’. Wedi i’n peiriane ni sefyll,
clywn beiriane’r llong arall yn curo’n uchel, ac yn uwch, a’r sŵn yn
disgyn ar fy nghlustie fel sŵn ffust y ’sgubor gynt, wrth ddisgyn ar y
llawr-dyrnu. Nid o’wn wedi clywed rheiny er pan o’wn yn grwt gartre’;
ond daethant i’m cof ar ganol Môr y _Canoldir_, dros gyfandir o bymtheg
mlynedd ar hugen. Wrth glywed y corn yn crïo allan, daeth y dynion i’r
dec yn dyrfa—y rhai oedd wedi myn’d i’w gw’lâu’n d’od yn eu cryse, a’u
gwynebe’n wynach na’r pilin oedd am danynt: oblegid dychryn mawr y
morwr, pan ar y môr, yw gwrthd’rawiad. Ar ol iddi dd’od mor agos atom ag
y medre ’mron, heb daro’n ein herbyn, mae’r fileines, yn lle cymeryd ei
llwybr prïodol, yn croesi pen blaen ein llong ni, yn cymeryd yr ochr
chwith yn lle’r ochr dde, ac yn diflanu i’r nos. Pe baem ni wedi
cyd-symud, a chadw ein hochr ein hun, i’r gwaelod yr aem yn anocheladwy.
Wrth basio, taflodd rhywun lenllïan mawr dros ei hymyl i guddio’i henw.
Gwaeddodd y cadben allan yn ddigon uchel iddynt glywed:

“_You deserve to be shot!_” Nid oedd y’mhell o’i le. Y tebygrwydd yw fod
yno ddawnsfa’n cymeryd lle, ac iddi brofi’n ormod o demtasiwn i’r
swyddog oedd ar y wyliadwrieth. Dyna fel y mae llawer llong y’myn’d i’r
gwaelod, heb neb ar ol i fynegi’r hanes. Es i’r gwely’n fuan wed’yn dan
ddiolch am y waredigeth; ond am y peryg’ y breuddwydiwn.

Chwi gofiwch imi fyn’d heibio Craig _Gibraltar_ yn y nos pan es allan,
ac mai’r help a gefes i ymgynal dan y siomedigeth oedd cofio y b’aswn,
os arbedid fi, yn d’od y ffordd hono eilweth wrth ddychwelyd. Yr oedd
pellder o ddeugen milldir rhyngom â hi pan welsom hi gynta’. Fel y deuem
y’nes ati, enille arnom fel y _Pyramidie_. _Pyramid_ y môr oedd hon, ac
o waith natur. O’r diwedd, yr ydym yn ei gwynebu, ac y’morio o fewn
haner milldir iddi. Craig anferth ydyw, yn codi’n syth o’r mor i ganoedd
o droedfeddi o uchder, ac yn dinystrio pob gobeth i neb fedru ei dringo
byth o’r gogledd nac o’r dwyren. Ar yr ochr orllewinol, llithra i lawr
yn raddol i’r bau, lle mae tre’ _Gibraltar_ yn gwynebu tref _Algeciras_
yr oehr arall. Gysylltir y graig â thir _Sbaen_ gan lain main ac isel o
dir a elwir “Gwlad Neb”—tir canolog, yn wleidyddol a daearyddol. Ni
pherthyn i _Sbaen_ na _Pryden_; a d’wedir nad yw’r bobl sy’n byw yma’n
talu rhent na threth. Hapus dyrfa! Dan y graig angore llong ryfel, ac yn
y bau rhifes ddeuno. Gweles fâd _torpedo_ yn hwylio tuag at y gynta’.
Darn hir, cul, bâs, main, a thywyll oedd, yn symud yn ddistaw a chyflym,
a’i osgo’n d’we’yd taw crëadur peryg’ i ymhel âg ef ydoedd. Gwelir
cyflegre ’mhob man ar goryn a gwyneb y graig, ac y mae’r nifer luosoca’
o’r golwg. Mae _Ceuta_’r ochr arall i’r Culfor. Perthyna hono i _Sbaen_,
fel ad-daliad am golli _Gibraltar_, ac y mae’n dre’ dlos dros ben. Nid
oes ond tua saith milldir rhyngddynt. Tery’r Graig y meddwl dynol â
syniad diapêl am allu _Pryden Fawr_. Teimlwn yn falch wrth basio fy mod
yn _Brydeiniwr_, yn enwedig pan gofiwn fod holl alluoedd y lle at fy
ngwasaneth i i’m hamddiffyn, pe bydde taro. Bu adeg pan oedd _Sbaen_ yn
brif allu’r Cyfandir, os nad y byd; ond heddyw, delir ei thrwyn ar y
maen llifo gan y _Sais_. Oni bai hyny, gwae fydde i _Ewrop_. “_England,
with all thy faults, I love thee still._” Yr wyf yn ddigon o _Gymro_ i
gydnabod rhagoriaethe fy nghymydog heb genfigenu wrthynt. Nid oes
gyffelyb iddi y’mysg holl wledydd y byd. Y feddyginieth ore’ i
wrthweithio rhagfarn gwrth-_Brydeinig_ yw myn’d allan i wel’d ei gallu
yn y Trefedigaethe. Fynycha’, y bobl sy’n rhegi eu gwlad yw’r bobl sy’n
byw ar hyd eu hoes o fewn golwg i ffumer y tŷ lle ganed hwy. “Duw
Gadwo’r Brenin.”

Mi gefnes ar yr _Aifft_ gan deimlo ’mod i’n cefnu ar olion gwareiddiad a
ragore mewn rhyw bethe ar wareiddiad yr ugeinfed ganrif. Ond beth yw
gwareiddiad heb Gristionogeth? Bedd wedi ei wyngalchu, a’i du fewn yn
llawn malldod a melldith—addurniade gwychion ar gorff marw—crochan
wedi ei baentio, ac angeu’n byw ynddo. Ni fedr gwareiddiad heb
_Grist’nogeth_ waredu na phobl, na chenedl, na gwlad. B’le mae _Rhufen_
a’i gallu heddyw? B’le mae _Carthage_, ei gwrthymgeisydd mewn awdurdod?
B’le mae _Assyria_ a _Babilon_? B’le mae _Groeg_ a’i cherflunieth, ei
hyodledd, a’i philosophi? Y gwledydd mwya’ gwâr y t’w’nodd haul Duw
arnynt erioed—pa le y maent? Eu gwareiddiad nis achubodd hwynt, a’u
hathrylith nis cadwodd hwynt yn fyw. Dïolch i Dduw am wareiddiad, ond
dïolch yn fwy am Gristionogeth.

Am y gweddill o f’anturiaethe y’nhir _Ham_, onid ydynt i’w cael ar gof a
chadw erbyn dydd datguddio?

                 *        *        *        *        *

                GWRECSAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES A’I FAB.

                 *        *        *        *        *

Transcriber’s Notes:

Spelling and punctuation have been left as in the original. Some
illustrations have been moved slightly from their original positions to
keep paragraphs intact.

[End of _I’r Aifft Ac Yn Ol_ by D. Rhagfyr Jones]





*** End of this Doctrine Publishing Corporation Digital Book "I'r Aifft Ac Yn Ol" ***

Doctrine Publishing Corporation provides digitized public domain materials.
Public domain books belong to the public and we are merely their custodians.
This effort is time consuming and expensive, so in order to keep providing
this resource, we have taken steps to prevent abuse by commercial parties,
including placing technical restrictions on automated querying.

We also ask that you:

+ Make non-commercial use of the files We designed Doctrine Publishing
Corporation's ISYS search for use by individuals, and we request that you
use these files for personal, non-commercial purposes.

+ Refrain from automated querying Do not send automated queries of any sort
to Doctrine Publishing's system: If you are conducting research on machine
translation, optical character recognition or other areas where access to a
large amount of text is helpful, please contact us. We encourage the use of
public domain materials for these purposes and may be able to help.

+ Keep it legal -  Whatever your use, remember that you are responsible for
ensuring that what you are doing is legal. Do not assume that just because
we believe a book is in the public domain for users in the United States,
that the work is also in the public domain for users in other countries.
Whether a book is still in copyright varies from country to country, and we
can't offer guidance on whether any specific use of any specific book is
allowed. Please do not assume that a book's appearance in Doctrine Publishing
ISYS search  means it can be used in any manner anywhere in the world.
Copyright infringement liability can be quite severe.

About ISYS® Search Software
Established in 1988, ISYS Search Software is a global supplier of enterprise
search solutions for business and government.  The company's award-winning
software suite offers a broad range of search, navigation and discovery
solutions for desktop search, intranet search, SharePoint search and embedded
search applications.  ISYS has been deployed by thousands of organizations
operating in a variety of industries, including government, legal, law
enforcement, financial services, healthcare and recruitment.



Home