Home
  By Author [ A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z |  Other Symbols ]
  By Title [ A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z |  Other Symbols ]
  By Language
all Classics books content using ISYS

Download this book: [ ASCII ]

Look for this book on Amazon


We have new books nearly every day.
If you would like a news letter once a week or once a month
fill out this form and we will give you a summary of the books for that week or month by email.

Title: Cartrefi Cymru
Author: Edwards, Owen Morgan, Sir
Language: Welsh
As this book started as an ASCII text book there are no pictures available.


*** Start of this LibraryBlog Digital Book "Cartrefi Cymru" ***


Transcribed from the 1896 Hughes A’i Fab Swyddfa’r Llenor edition by Jane
Gammie.  Some additional proofing by David Price, email ccx074@pglaf.org

                          [Picture: Book cover]

                      [Picture: Un o Gartrefi Cymru]



                             CARTREFI CYMRU.


                                * * * * *

                                   GAN
                             OWEN M. EDWARDS.

                                * * * * *

      I.  DOLWAR FECHAN.         VII.  CAER GAI.
     II.  TY COCH.              VIII.  CEFN BRITH.
    III.  GERDDI BLUOG.           IX.  GLAS YNYS.
     IV.  PANT Y CELYN.            X.  TY’R FICER.
      V.  BRYN TYNORIAD.          XI.  Y GARREG WEN.
     VI.  TREFECA.               XII.  TY DDEWI.

                                * * * * *

                                Gwrecsam:
                   HUGHES A’I FAB, SWYDDFA’R _Llenor_.

                                * * * * *

                                  1896.

                                * * * * *



CYNHWYSIAD.


I.—DOLWAR FECHAN,—CARTREF EMYNYDDES.

  Ymysg bryniau Maldwyn y mae Dolwar Fechan, yn un o’r hafannau bychain
  gwyrddion sydd rhwng Llanfihangel yng Ngwynfa a dyffryn y Fyrnwy.
  Gorsaf Llanfyllin yw’r agosaf.

  Ganwyd Ann Griffiths Ebrill 1776, bu farw yn Awst 1805.

II.—TY COCH,—CARTREF PREGETHWR.

  Saif yng nghysgod y graig aruthrol goronir gan adfeilion castell Carn
  Dochan ym Mhenanlliw ramantus, yng nghanol Meirion.

  Ganwyd Robert Thomas (Ap Vychan) yma, mewn tlodi mawr; a chyn marw,
  Ebrill 23, 1880, yr oedd wedi dod yn bregethwr enwog ac yn athraw
  duwinyddol.

III.—GERDDI BLUOG,—CARTREF BARDD.

  Yng nghanol mynyddoedd Meirionnydd, uwchben dyffryn cul a rhamantus, y
  mae’r Gerddi Bluog.  O Harlech neu Lanbedr yr eir yno.

  Dyma gartref Edmund Prys, swynwr yn ol cred gwlad, arch-ddiacon
  Meirionnydd wrth ei swydd, a chyfieithydd melodaidd y Salmau.  Ganwyd
  ef tua 1541, bu farw tua 1621.  Nid edwyn neb le ei fedd ym Maentwrog.

IV.—PANT Y CELYN,—CARTREF PER GANIEDYDD.

  Amaethdy ymysg bryniau Caerfyrddin, yn nyffryn Towi, yw Pant y Celyn.
  O Lanymddyfri yr eir yno.

  Ganwyd “per ganiedydd Cymru,” gerllaw iddo yn 1717; bu farw yno Ionawr
  11, 1791.

V.—BRYN TYNORIAD,—CARTREF GWLADGARWR.

  Y mae Bryn Tynoriad yn nyffryn yr Wnion, ar ochr y Garneddwen, yn agos
  i orsaf Drws Nant.  Y mae’r Ty Croes ar gyfer yr orsaf agosaf yng
  nhyfeiriad Dolgellau, sef y Bont Newydd.

  Ganwyd Ieuan Gwynedd: Medi 5, 1820, bu farw Chwefrol 23, 1852.

VI.—TREFECA,—CARTREF DIWYGIWR.

  Yn rhan brydferthaf Sir Frycheiniog, uwchlaw Talgarth, rhwng ffrydiau
  Wysg ac Wy, y saif coleg a phentref bychan Trefeca,—lle wnawd gan Howel
  Harris yn “gartref” cymundeb o dduwiolion diwyd.

  Ganwyd Howel Harris Ionawr 29, 1714; bu farw Gorffennaf 21, 1773.

VII.—CAER GAI,—CARTREF UCHELWYR.

  Hen balas Rhufeinig yw Caer Gai, ar fryncyn heulog uwch ben Llyn Tegid,
  yn nyffryn uchaf y Ddyfrdwy.

  Yr oedd y Fychaniaid, hen deulu Caer Gai, yn enwog am eu hathrylith.  Y
  ddau fwyaf adnabyddus ohonynt ydyw Gwerfyl Fychan a Rowland Fychan.  Yn
  amser y Rhyfel Mawr yr oedd Rowland Fychan yn byw, a Gwerfyl dipyn yn
  gynt.

VIII.—CEFN BRITH,—CARTREF MERTHYR.

  Ffermdy ar lethr mynydd Epynt, wedi gweld dyddiau gwell, yw Cefn Brith.
  O Langamarch yr eir yno hawddaf.

  Ganwyd John Penri yn y lle tawel hwn yn 1559; rhoddwyd ef i farwolaeth
  fel bradwr, Mai 29, 1593.

IX.—GLAS YNYS,—CARTREF BARDD CWSG.

  Y mae Glas Ynys ar fryn bychan yn codi o’r tipyn gwastadedd sy’n
  gorwedd rhwng mynyddoedd Meirionnydd a’r môr.  O Harlech yr eir yno
  gyntaf.

  Mab Glas Ynys oedd Elis Wyn, awdwr _Gweledigaethau Bardd Cwsg_.
  Treuliodd ei fywyd yma, o’i eni yn 1671, hyd ei gladdu yn 1734, yn
  Llanfair gerllaw.  Y mae ysgriflyfrau o’i waith yn perthyn i eglwys
  Llanfair.

X.—TY’R FICER,—CARTREF BARDD MOES.

  Y mae Ty’r Ficer yn hen dref Llanymddyfri.  Y mae’n awr yn adfeiliedig
  iawn.

  Ynddo y goleuwyd Canwyll y Cymry gan Rhys Prichard, “yr Hen Ficer,” a
  anwyd yn 1579, ac a fu farw yn 1644.

XI.—Y GARREG WEN,—CARTREF CANWR.

  Yn Sir Gaernarfon, rhwng Cricieth a Phorth Madog, y mae amaethdy’r
  Garreg Wen, ar lethr hyfryd, lle tyf blodau lawer mewn cysgod rhag
  gwynt y môr.

  Dafydd, mab y Garreg Wen, meddir, yw awdwr yr alawon _Codiad yr Ehedydd
  a Dafydd y Garreg Wen_.

XII.—TY DDEWI,—CARTREF SANT.

  Saif Tyddewi ar lan môr gorllewinol Dyfed, yn eithaf sir Benfro.  Ar
  draed neu mewn cerbyd yr eir yno, dros un bryn ar bymtheg o orsaf
  Hwlffordd.

  Cartref Dewi, nawdd sant Cymru, ydyw.  Yn ol pob tebyg, cenhadwr dros
  Grist at baganiaid rhannau gorllewinol Cymru oedd Dewi Sant.  Yr oedd
  yn byw rywbryd rhwng 450 a 600.



DOLWAR FECHAN.


YR wyf yn eistedd mewn ystafell hirgul, gyda nenfwd isel, a ffenestri yn
edrych allan i dri chyfeiriad, yn unig westy Llanfihangel yng Ngwynfa.
Dyma brif ystafell y pentre,—yn hon yr ymgyferfydd pob pwyllgor gwledig,
yn hon y bydd cinio rhent Syr Watcyn, yn hon yr ymgyferfydd y clwb, yn
hon y traethwyd doethineb cenhedlaethau o ffermwyr ar adeg priodas a
chynhebrwng.  Ond heddyw y mae’n ddigon gwag, nid oes ynddi ond y ddwy
res hir o gadeiriau, y ddau hen fwrdd derw, a minne deithiwr blin yn
ceisio dadluddedu ac ymlonni trwy yfed trwyth rhinweddol dail yr Ind.
Trwy’r drws agored gwelaf goesau meinion yr hen glochydd sy’n hepian wrth
bentan y gegin, a thrwy’r tair ffenestr gwelaf y gwlaw yn ymdywallt i
lawr trwy’r coedydd tewfrig deiliog, trwy’r onnen a’r fasarnen, ac hyd
gadwyni aur banadlen Ffrainc.  Y mae cerbyd gwlad yn fy nisgwyl, ond ni
wiw cychwyn trwy wlaw taranau mor drwm,—er byfryted ydyw ar ol poethder
llethol un o ddyddiau olaf Mehefin.  A thra bo’r gwlaw taranau’n peidio,
a’r coed yn gorffen dyferu, mi ysgrifennaf hanes digyffro taith y dydd.

Yn weddol fore cychwynnais o Lanfyllin i weled gwlad Ann Griffiths,—ei
bedd, a’i chartref, os medrwn.  Nid oedd y ffordd yn rhwydd i’w cherdded
ar ol y gwlaw, a phan ofynnais i hen fforddolyn tal ai honno oedd ffordd
Llanwddyn, atebodd yn awgrymiadol mai dyna ei dechre hi.  Ond yr oedd
perarogl y gwrychoedd a’r caeau, a’r lliwiau tyner, yn gwneyd iawn am
drymder y ffordd.  Wedi cerdded tua thair milldir dywedodd bachgennyn
arafaidd wrthyf fy mod yn Llawr y Cwm, lle gwelwn gapel Methodist bychan
yn ymnythu rhwng torlan ac afonig.  Cyn i mi fyned nepell ymlaen,
cyfarwyddodd torrwr cerrig fi i ffordd gul oedd yn gadael y ffordd fawr,
ac yn dirwyn i fyny hyd ochr y bryn.  Toc cyrhaeddais ben y tir, a gwelwn
droliau gwaith dŵr Llanwddyn yn ymlusgo i fyny’r dyffryn hyd ffordd y
gwaelod.  Wedi gadael cysgod coed, dois i gaeau agored, ar ben y gefnen,
a gwelwn hen ŵr rhyngof a’r goleu, yn sefyll, ac fel pe’n disgwyl.  Yr
oedd yn disgwyl ei fab adre o Loegr, ond buan y trechwyd ei siomedigaeth
gan gywreinrwydd.  Nid rhyw lawer o son sydd am Ann Griffiths ar orarau
Maldwyn yn awr, ebe’r hen ffarmwr, ac nid rhyw lawer o ganu sydd ar ei
hemynnau, dim hanner cymaint a chynt.  Wrth i ni ymgomio yr oedd llwyni o
goed ar fryncyn o’n blaenau, a gwelwn oddiwrth eu duwch fod ywen ymysg y
coed.  “Dacw Lanfihangel,” ebe’r hen ŵr, “a dacw fur y fynwent lle mae’r
hen Ann wedi ei chladdu.”  Cerddais o amgylch y fynwent i ganol y
pentref.  Y mae ar fryn gweddol serth, a’r eglwys a’r fynwent yn uchaf
man.  O ddrws y fynwent rhed y ffordd i lawr rhwng ychydig o dai, siop
pob peth, tŷ tafarn, ysgol waddolwyd gan un o Fychaniaid Llwydiarth, a
choed ddigon.  Eis i mewn i’r fynwent, sychodd pladurwr oedd yn torri
gwair y beddau ei chwys, a dywedodd,—“Ie, dacw gof-golofn yr hen Ann.
Peth digon rhyfedd fod y bobl yn ei galw’n hen Ann, a hithe wedi marw’n
saith ar hugain oed.”  Cyn i mi gael hamdden i sylwi ar y fynwent, gwelwn
lu o blant yr ysgol, plant iach a llawn bywyd, yn prysuro i edrych ar y
dyn dieithr.  Byddaf yn hoff iawn o blant gwlad,—nid ydynt yn hyfion ac
yn dafotrwg fel plant tref,—a bum yn holi plant Llanfihangel yng Ngwynfa
am hoff ddaearyddiaeth Cymru.  Yr oeddynt yn ddeallus, a gwelwn yn eglur
fod eu hathraw yn medru Cymraeg ac yn meithrin eu meddyliau.  Pan oedd
arnaf eisieu cael y fynwent drachefn heb neb ynddi ond myfi a’r meirw,
gofynnais faint oedd pris plant yn y pentref,—plant tewion graenus fel
hwy,—a chyda fod y cwestiwn dros fy ngwefusau, yr oedd eu cefnau oll tuag
ataf, a llu o draed bychain yn cyflymu i lawr y llwybr hir sydd rhwng
porth yr eglwys a drws y fynwent.  A gadawyd fi’n unig ymysg y beddau.

Safle caer yw safle mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa,—saif ar fryncyn,
nid yr uchaf yn y gymydogaeth, ond un o’r rhai uchaf.  O’r porth sy’n
wynebu ar y pentref rhed llwybr hir rhwng mangoed at ddrws yr
eglwys,—adeilad newydd.  Wedi cyrraedd hanner y llwybr, os edrych y
teithiwr ar ei aswy, gwel gofgolofn o wenithfaen,—nid un fwy na cholofnau
ar filoedd o feddau dinod ym mynwentydd Cymru, ac arni’r geiriau,—

                                    ER COF
                                      AM
                                ANN GRIFFITHS,
                                DOLWAR FECHAN,
                                 GANWYD 1776.
                                BU FARW 1806.

Nid oes Gymro fedr sefyll ger bedd Ann Griffiths heb deimlo ei fod ar
ddaear sancteiddiaf ei fynyddoedd.  Ac mor dawel ydyw’r fynwent!  Ni
chlywir swn ond su’r bladur wrth nofio trwy’r glaswellt draw,—y mae pob
aderyn yn ddistaw ar y bore hafaidd heulog, ni chlywir swn y plant sydd
yn yr ysgol lwyd gerllaw, prin y medrir clustfeinio digon i glywed dwndwr
yr aber sydd yn isel odditanodd yn y dyffryn.  Gorwedd y wlad fel
breuddwyd angel oddiamgylch,—yn dawel, dan ei blodau, ac yng ngoleuni
disglaer haul.  Rhwng y coed sydd gydag ymyl y fynwent, gwelwn
ddyffrynnoedd a choedydd, a’r mynyddoedd sy’n gwahanu Maldwyn a
Meirionnydd.  Ac arnynt i gyd gorweddai tangnefedd canol haf.  Ac i rai
sy’n huno ym mynwent ael y bryn y mae tangnefedd mwy.  Wedi ieuenctid
nwyfus, wedi pryder priodi a dechreu byw a geni, wedi tymhestloedd ac
ofnau, wedi cyfarfod Angau ymhell cyn i hwyrnos bywyd guddio hagrwydd ei
wedd, wedi hyn oll,—

    O ddedwydd ddydd, tragwyddol orffwys
       Oddi wrth fy llafur, yn fy rhan,
    Yng nghanol môr o ryfeddodau,
       Heb waelod, terfyn byth, na glan:
    Mynediad helaeth mwy i bara
       O fewn trigfannau Tri yn Un.
    Dwfr i nofio heb fynd trwyddo,
       Dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn.

    Byw heb wres, na haul yn taro,
       Byw heb ofni marw mwy;
    Pob rhyw alar wedi darfod,
       Dim ond canu am farwol glwy’;
    Nofio yn afon bur y bywyd,
       Bythol heddwch sanctaidd Dri,
    Dan dywyniadau digymylau
       Gwerthfawr angau Calfari.

Yn yr unig lythyr o’i heiddo sydd ar gael, llythyr ysgrifennodd wedi
priodi, a phan oedd ei bywyd byr ymron ar ben, dywed,—

    “ANWYL CHWAER,—’Rwif yn gweled mwy o angen nac erioed am gael treilio
    y rhan su yn ol dan rhoi fy hyn yn feunyddiol ac yn barhaus, gorph ac
    enaid, i ofal yr hwn su yn abal i gadw yr hyn roddir ato erbyn y dydd
    hwnnw.  Nid rhoi fy hun unwaith, ond byw dan roi fy hun, hyd nes ac
    wrth roi yr tabarnacle hwn heibio.  Anwyl chwaer, mae meddwl am i roi
    o heibio yn felus neillduol weithiau,—nid marw ynddo ei hun, ond yr
    elw mawr sudd yw gael trwyddo.”

Syrthiodd cysgodion tragwyddoldeb ar ei henaid pan nad oedd eto ond
ieuanc iawn; daeth y mynyddoedd tywyll i’r golwg pan oedd yn teithio rhan
rosynaidd heulog ei llwybr, a’i hysbryd yn ysgafn a’i ffurfafen heb
gwmwl; y mae nwyf a melusder ieuenctid yn ei chân, a mawredd
tragwyddoldeb hefyd.  Am bob un o’i hemynnau gellir dweyd y geiriau sydd
ar ddiwedd ei llythyr,—

    “Hyn oddiwrth eich chwaer yn cyflum deithio trwy fyd o amser i’r byd
    mawr a bery byth.”

Ac wedi ofni grym pechod, wedi “cario corff o lygredd,” wedi “wynebu’r
afon donnog,” aeth heibio i’r byd mawr a bery byth.

O’r fynwent trois tua chartref Ann Griffiths.  I’m cwestiwn parthed hyd y
ffordd cawn amrywiol atebion,—pedair milldir a hanner ebai un, tair
milldir ebai un arall, a sicrhai y trydydd fi mai dwy filldir a hanner
union oedd i Ddolwar Fach.  Cerddais i lawr y bryn, croesais afonig red
dan goed cysgodfawr, a dringais ochr bryn sydd ar gyfer y pentref.
Cefais fy hun ar ffordd fryniog, weithiau’n dringo bryn ac yn disgyn yn
ebrwydd wedyn, gan syllu ar addfedrwydd cyfoethog y wlad, a’r haul yn
gwenu drwy gymylau ar y gwlith,—

    “Gwlad dda, heb wae, gwlad wedi ei rhol dan sêl,
    Llifeirio mae ei ffrwyth o laeth a mêl;
    Grawn sypiau gwiw i’r anial dir sy’n dod,
    Gwlad nefol yw, uwch law mynegi ei chlod.”

Toc dois at groesffordd ar waelod cwm; trois ar y dde hyd ffordd a’m
denai i’w chysgodion.  Ar y naill law yr oedd craig, weithiau’n noeth,
weithiau’n dwyn baich o goed a blodau; ar yr ochr arall yr oedd caeau
gwyrddion serth.  Rhedai afonig yn dryloew, dan furmur yn ddedwydd.  Uwch
ei phen ymblygai bedw a chyll; estynnai y goesgoch ei phen dros y lan, i
weld ei llun mewn llyn tawel; aml lecyn gwyrdd welais ar fin y dŵr, llawn
o lysiau’r neidr a llafrwyn a’r olcheuraid, gyda chwys Mair a’r feidiog
las dipyn ymhellach oddi wrth y dŵr, a rhedyn tal yn edrych ar eu
prydferthwch oddiar ochr y bryn.  Canai miloedd o adar,—ni wiw i mi
ddechre enwi’r côr,—oddigerth pan ddistawent tra canai’r gog, yr hon oedd
heb weld gwair wedi ei dorri yn unlle.  Sylwn yn fanwl ar bopeth,
oherwydd gwyddwn fod Ann Griffiths wedi cerdded y llwybr hwn filoedd o
weithiau; gwyddwn mai wrth syllu ar ryw afonig neu fynydd y byddai’n
dechreu canu, ac yna ehedai ei meddwl ymhellach bellach oddiwrthynt at
bethau byd a bery byth.  Pwy a ŵyr nad yn swn yr afon hon y canwyd
gyntaf,—

    “Ffrydiau tawel, byw rhedegog,
       O dan riniog tŷ fy Nuw,
    Sydd yn llanw, ac yn llifo
       O fendithion o bob rhyw;
    Dyfroedd gloew fel y grisial,
       I olchi’r euog, nerthu’r gwan,
    Ac a ganna’r Ethiop duaf
       Fel yr eira yn y man.”

Ac ym miwsig yr afon, gyda’i nodau llon a lleddf, dychmygwn glywed geneth
yn canu o lawenydd ei chalon,—

    “Byw i weld yr Anweledig,
       Fu farw ac sydd eto’n fyw;
    Bythol, anwahanol undeb,
       A chymdeithas â fy Nuw.”

Yn nes ymlaen y mae’r afon, fel merch ieuanc yn wynebu treialon byd, yn
disgyn i lawr glynnoedd dyfnach,—weithiau yn y dyrysleoedd, fel pe mewn
anobaith; weithiau’n llithro’n wyllt dros greigiau, fel pechadur afradlon
ar ei yrfa; weithiau’n gorffwys mewn llyn tawel, dan wenu ar yr haul neu
lechu’n wgus dan goed.  Ychydig y mae Ann Griffiths wedi ganu am droion
yr yrfa,—Williams Pant y Celyn a’u darlunia hwy o’u canol, a David
Charles Caerfyrddin o fryniau Caersalem,—yr oedd ei hiraeth cryf am Dduw
yn gwneyd iddi hi anghofio blinder ac ofnau’r daith.  Ni sonia hi am
demtasiynau, ond er mwyn cael canu am goncwest; ni chân am flinder, ond
er mwyn cael canu am yr Hwn a’i cysurai,—

    “Digon mewn llifeiriant dyfroedd,
          Digon yn y fflamau tân.”

Toc gadawodd yr afonig a minne gwmni ein gilydd; aeth hi trwy gwm dwfn
tua’r Fyrnwy, dechreuais inne ddringo bryn lled serth, a gwelwn Ddolwar
Fawr ar y llaw dde i mi, dipyn o’r ffordd.  Yr oedd y cymylau erbyn hyn
wedi clirio, yr oedd yr hin yn boeth orlethol, ac yr oedd tarw mewn cae
cyfagos yn beichio dros y wlad ac yn dilyn ar fy ol.  Daeth i’m meddwl
bennill welais, wedi ei ysgrifennu gan Ann Griffiths â’i llaw ei hun,—

    “Er mai cwbl croes i natur
       Yw fy llwybur yn y byd,
    Ei deithio wnaf, a hynny’n dawel,
       Yng ngwerthfawr wedd dy wyneb pryd;
    Wrth godi’r groes, ei chyfri’n goron,
       Mewn gorthrymderau llawen fyw,
    Ffordd yn uniawn, er mor ddyrus,
       I ddinas gyfaneddol yw.”

Ni welwn o’m blaen ddim, cyfannedd nag anghyfannedd, ond y llwybr syth yn
mynd i fynu’r bryn, a’r gwrychoedd o bobtu’n gwywo yng ngwres llethol yr
haul poeth.  Ond yn y man, wrth edrych ar hyd y llwybr, fel yr oeddwn yn
dynesu at ben y rhiw, gwelwn fynyddoedd pell, fel breuddwyd gŵr ieuanc,
yn ymgodi’n brydferth a gwyrdd.  Cerddais hyd ffordd weddol wastad hyd
nes y dois at lidiart y mynydd.  Ar yr aswy yr oedd y mynydd rhydd braf,
gydag eithin a danadl poethion a brigau’r twynau’n tyfu ar hyd-ddo, a
bryniau Maldwyn yn hanner cylch y tu hwnt iddo.  Ar y dde gwelais
lidiart, a banadlen Ffrainc, yn holl gyfoeth ei chadwyni aur o flodau, yn
crogi uwch ei phen.  Eis trwy’r llidiart hon, ac wedi cerdded ychydig
funudau gwelwn Ddolwar Fechan o’m blaen.  Nid oes dim yn hynafol nac yn
rhyfedd yn y lle, gwelir ugeiniau o ffermdai tebyg rhwng bryniau hyfryd
Maldwyn.  Y mae’r ty’n newydd, a golwg lân a chysurus arno yng nghanol ei
erddi blodau ar lethr y bryn.  Ychydig yn nes i lawr, ar waelod y dyffryn
bychan, y mae’r adeiladau,—yr ysguboriau, y beudâi, yr helm drol,—rhai
ohonynt fel yr oeddynt pan oedd Ann Griffiths yn dysgu cerdded gyda’u
muriau.  Yn nes i lawr y mae’r cadlesoedd, dan gysgod pinwydd, ac yna
gweirgloddiau dan eu gwair.

Prysurais i lawr at yr adeiladau, gan groesi’r ffrwd sy’n rhedeg o’r
ffynnon,—dyfroedd gloew fel y grisial welodd Ann Griffiths lawer blwyddyn
cyn darllen hanes y dwfr yn tarddu dan yr allor yn seithfed bennod a
deugain Eseciel.  Oddiwrth yr adeiladau hyn, dringais i fyny at y tŷ, gan
geisio dyfalu pa fath bobl oedd yno.  Eis trwy lidiart yr ardd, a phan
oeddwn yn edmygu’r blodau, daeth hen wraig hardd, a’i gwyneb yn wenau i
gyd, i’m croesawu.

“Dyma Ddolwar Fach, ynte?”

“Ie, dowch i fewn o wres yr haul.  Ydech chwi’n dwad o bell, gen mod i
mor hyf a gofyn?”

“Mi gerddais o Lanfyllin; sawl milldir gerddais i?”

“Wyth.  Y mae arnoch chwi eisio bwyd; dowch at y bwrdd i gymeryd tamed o
ginio.”

Ni fynnwn ginio, ond gofynnais a roddai hi i mi gwpanaid o ddŵr oer.
Daeth a gwydriad o lefrith i mi, a’r hufen melyn yn felus arno.  Lawer
gwaith wedyn, pan yn yfed llefrith a’i hanner yn ddwfr a’i hufen wedi ei
hel yn ofalus oddiarno, bum y’n hiraethu am y glasiad llefrith a gefais
yn Nolwar Fechan.  Tra’r oeddym ni’n ysgwrsio, clywem droediad ysgafn ar
y llofft uwchben.  Gwelodd y wraig fy mod yn dyfalu pwy oedd yno, a
chododd ei llais i alw,—

“Ann!”

“Ann,” ebe finne, “a ydyw teulu Ann Griffiths yn yr hen gartref o hyd?”

“O nag ydyw, ar ol ei theulu hi y daethom ni”

“A oes rhai o ddodrefn yr hen deulu wedi aros?”

“Nag oes ddim, ac nid wn i a oes rhai o’r hen deulu yn aros ychwaith.”

Wedi i mi gael ysgwrs â’r wraig am amaethyddiaeth, ac â’r ferch am
flodau’r ardd, daeth yr ysgolfeistr, yr hwn a letyai yno, i’r tŷ.  Y
mae’n ŵr deallus, yn sylwedydd craff.  Dywedai am ei anhawsder i ddysgu
plant Cymreig, oherwydd Sais uniaith yw, a mawr ganmolai gyflymder meddwl
plant y bryniau rhagor plant Saeson y gwastadeddau.  Ond ni chlywsai air
erioed am Ann Griffiths; ac edrychai’n ddrwgdybus arnaf, fel pe bawn un
heb arfer dweyd y gwir, pan ddywedais wrtho ei fod yn byw yn nhŷ
emynyddes oreu’r byd.

Ni welais erioed liwiau mwy gogoneddus na lliwiau’r blodau y prydnawn
hwnnw; yr oedd y rhosynau gwylltion, welwn rhyngof ag awyr Mehefin ar
bennau’r gwrychoedd, yn orlawn o oleuni; yr oedd goleuni’r haul yn
brydferthach pan adlewyrchid ef o’u gwynder hwy na phan yr edrychid ar yr
haul ei hun, fel pan yn

    “Disgleirio mae gogoniant Trindod
          Yn achubiaeth marwol ddyn.”

Wedi’r ffordd hir hyfryd oedd cyrraedd mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa,
a gadael y gwres anioddefol, a myned i mewn i’r eglwys dywell oer.  Nid
oes dim neillduol yn yr eglwys; ond tra yr oeddwn ynddi daeth cyfnewidiad
dros y diwrnod,—yn sydyn duodd yr awyr, ymrwygai taranau dychrynllyd
trwyddi, fflachiai mellt nes y byddai’r eglwys dywell yn oleu a
beddergryff teulu Llwydiarth yn ymddangos, fel ysgrif gwledd Belsasar, yn
amlwg ar ei mur.  Doi rhyw ddarn emyn o waith Ann Griffiths i’m cof o
hyd,—

    “Pan fo Sinai i gyd yn mygu,
       Sain yr udgorn uchaf radd,
    Caf fynd i wledda dros y terfyn
       Yng ngrym yr aberth, heb fy lladd.”

Rhedais drwy’r gwlaw bras trysfawr i’r hen westy hwn, a dyma fi.  Y mae
amryw fforddolion fel y finne wedi troi i mewn am nodded ar fy ol, ac
mewn hwyl ysgwrsio â mi.  Treiais dynnu ysgwrs am ysbrydion a rheibio,
ond cynnil iawn oedd eu hatebion,—yr oeddwn yn rhy debyg i bregethwr.  Yr
oedd yno un dyn deallus a llais dwfn mwyn, ffarmwr o ardal Pontrobert;
nid oedd gan y clochydd air ond ambell i amen yng nghanol ysgwrs y
lleill; yr oedd yno was ffarm, wedi gorfod ymadael o’i le oherwydd yr
“wimwimsa,” fel y galwai yr _influenza_.  Efe oedd y prif siaradwr yn ein
mysg.  Cwynai nad oedd ganddo unlle ar y ddaear lâs i droi iddo, ie, ei
bod “wedi mynd yn draed moch ac yn botes llo” arno.  Wrth weled côt ddu
am danaf, dechreuodd siarad ar bwnc dybiai oedd yn gydweddol â’m chwaeth,
sef Sian Hughes, Pontrobert, glywais unwaith ar stryt y Bala, amser
Sasiwn, yn pregethu yn erbyn y diafol a sol-ffa.  “Mi fydde’n son am
iffern, a pheth whithig o bethe, wrth fechgin ifinc,” ebai’r gwas ffarm,
yr hwn a ddychrynasid lawer o weithiau, mae’n debyg, gan bregethau’r hen
wraig.  Yr oedd y Sian Hughes honno, os nad wyf yn camgymeryd, yn ferch i
Ruth, morwyn Dolwar Fechan, ar gof yr hon y cadwyd emynnau Ann Griffiths.

Ond y mae’r cerbyd wrth y drws yn disgwyl, rhyw fath o drol ysgafn gwlad,
ac ystyllen ar ei thraws.  Y mae’r awyr yn goleuo, y mae’r gwlaw wedi
troi’n wlithwlaw tyner, y mae’r aberoedd yn llawn at yr ymylon, y mae’r
coed yn tyfu i’w gweled wedi’r gwlaw maethlon.  Cyn hir bydd dau ar yr
ystyllen groes, mewn trol glonciog, ar ffordd Llanfyllin; a bydd un o
honynt, o leiaf, yn meddwl am emyn, os nad yn ei ganu,—

    “Gwna fi fel pren planedig o fy Nuw!
       Yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw;
    Yn gwreiddio ar led, a’i ddail heb wywo mwy,
       Yn ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy.”

                        [Picture: Dolwar Fechan?]



TY COCH.


ANAML y bu neb mor hoff o gartref ag Ap Vychan, ac anaml iawn y bu i neb
gartref tlotach.  Ymysg mawrion gwlad, soniai am gymdeithion dinod ei
ieuenctyd; ac o balasau ehedai ei ddychymyg i’r ty to brwyn yn yr hwn y
dioddefodd eisieu bara, ac o’r hwn y gorfod iddo gychwyn i gardota aml
dro.

                            [Picture: Ty Coch]

Saif y Ty Coch yn agos at aberoedd o ddwfr tryloew, yn ymyl hen ffordd
Rufeinig, dan gysgod castell rhy hen i neb fedru adrodd ei hanes, ar fin
mynydd sy’n ymestyn mewn mawredd unig o Lanuwchllyn i Draws Fynydd.  Y
mae’n anodd cael taith ddifyrrach na’r daith o orsaf Llanuwchllyn i
Gastell Carn Dochan, os gwneir hi yn yr haf, a chan un hoff o dawelwch ac
awel iach oddiar eithin a grug y mynydd.

Dyma ni’n gadael yr orsaf, gan syllu ar brydferthwch yr Aran draw.  Toc
trown ar y dde, a cherddwn dan goed sy’n taflu eu cysgodion dros y
ffordd.  Dyma’r “adwy wynt,” a hen gapel y Methodistiaid wedi ei droi’n
dai.  Wrth y tai hyn, yn enwedig wrth y siop draw, digon tebyg y cewch
rywun y gellwch dynnu sgwrs ag ef, os ydych yn hoff o ymgom.  Hwyrach y
tarewch ar hen ddiwinydd a’i bwys ar ei ffon.  Hwyrach y cyfarfyddwch a
rhywun bydol,—hen wr a gwallt fel nadroedd sonia wrthych am ddyfais
newydd i wneyd cribiniau, neu am ryfeddodau gwledydd pell.  Hwyrach y
cewch hen hanesydd ddywed wrthych fel y byddem ni yn Llanuwchllyn yn byw
yn yr hen oesoedd.  Os na fydd neb yno, a bydd y lle heb neb yn yr haf
weithiau, cerddwch ymlaen ar hyd y “Gwaliau,” ac wedi croesi’r bont cawn
ein hunain yng nghwr y Llan, rhwng y fynwent a thai fu unwaith yn dy
tafarn.  Yn y fynwent honno, y tu hwnt i’r eglwys, gorwedd Ap Vychan hyd
ganiad yr udgorn.  Ac yn y ty tafarn hwnnw temtiwyd ef, pan yn laslanc
tlawd, i yfed ei lasied cyntaf o gwrw mewn cyfarfod beirdd.

Wedi gadael y Llan yr ydym yn dod i ffordd y Bala, ac yn cerdded yn ein
blaenau ar hyd-ddi, hyd nes y down at y Bont Liw a phentref bychan Pen y
Bont.  Cyn croesi’r bont yr ydym yn troi ar y chwith, ac yn cymeryd
ffordd drol sydd yn ein harwain i gyfeiriad tarddle’r afon Liw.  Ar un
ochr i ni y mae gwrych; ac ar yr ochr arall y mae dôl lydan werdd, a’r
afon yn dwndwr gyda’i godreu.  Yr ochr arall i’r afon y mae’r Cei, ffordd
gul wedi ei chodi’n uwch na’r tir gwastad o bobtu iddi.  Ar hyd y cei
noethlwm hwn, dyfal gyrcha’r pererinion Anibynnol i’r Hen Gapel a welwn
draw.  Anodd cael rhodfa fwy dymunol na’r Cei yn yr haf, pan fo’r
brithylliaid i’w gweled yn chwareu yn yr afon, a phan fo awel ysgafn
gynnes yn crwydro dros laswellt a meillion aroglus.  Ond yn y gauaf, pan
fo dwfr oer rhewllyd o bobtu, pan chwyth awel lem finiog oddiar fynydd
sydd dan ei lwydrew, y mae golwg triglyd truenus ar lawer hen Gristion
ffyddlon yn tynnu yn erbyn y rhew-wynt tua’r cyfarfod gweddi.

Llawer gwaith y clywais fy nhad yn adrodd hanes gŵr tyn yn cerdded hyd y
Cei yn nyfnder gauaf oer.  Er mwyn cynhesrwydd, yr oedd wedi gwthio ei
ddwylaw i bocedi ei lodrau, ie, i’w gwaelod, oherwydd yr oedd yn erchyll
o oer.  Pan ar ganol y Cei, llithrodd ei droed ar y rhew, a syrthiodd ar
ei wyneb ar y llwybr.  Yno yr oedd mewn enbydrwydd mawr.  Yr oedd ei
ddwylaw’n ddyfnion, fel y dywedwyd, ym mhocedau ei lodrau.  Os ymegniai i
dynnu y naill law allan, treiglai oddiar y llwybr i’r dwfr ar y naill du,
oherwydd yr oedd y llwybr yn gul iawn.  Os tynnai’r llaw arall, ai
drosodd yr ochr aroll, ac yr oedd dwfr yr ochr honno hefyd, yr un mor
oer, a rhewllyd.  Nid oedd dim i’w wneyd ond aros yn llonydd hyd nes y
delai rhywun heibio.  Ni fedrai neb, fel y Lefiad a’r offeiriad y sonnir
am danynt yn yr Ysgrythyr, fyned “o’r tu arall heibio” a daeth rhyw
Samaritan o’r diwedd i fwrw ei anwyd trwy godi’r gŵr oedd yn methu tynuu
ei ddwylaw o’i bocedi.

Ond haf ydyw’n awr; y mae’r, defaid yn y mynydd, nid ydyw Awst wedi
darfod, y mae’r glaswenwyn a blodau’r taranau hyd y cloddiau, ac y mae’r
corn carw hyd lethrau’r mynydd.  Dyma’r llwybr yn dod a ni at yr afon
eto, a dacw’r “Hen Gapel” yr ochr draw,—hen gapel Lewis Rhys ac Abraham
Tibbott, Dr. Lewis a Michael Jones.  O’n blaenau y mae craig serth yn
ymgodi i’r nefoedd, ac ar ei hael y mae muriau toredig Castell Carn
Dochan.  Dywedir fod telyn aur wedi ei chuddio dan y llawr ar ben y graig
uchel acw; ond daw’n fellt a tharanau ofnadwy os dechreuwch, gloddio ati.
Nis gwn i sicrwydd a oes telyn aur dan lawr yr hen amddiffynfa, ond gwn
fod gwallt y forwyn yn tyfu yn rhigolau’r muriau, a gellir syllu ar ei
brydferthwch heb ofni mellt na tharanau na dim.

Ond dyma ni wrth y Deildref, cartref John Parry, athraw barddonol Ap
Vychan,—“bardd rhagorol, llawn o athrylith a thân awenyddol, fu farw o’r
darfodedigaeth yng nghanol ei ddyddiau.”  Ychydig yn uwch i fyny dyma’r
Deildref Ucha, cartref Cadwaladr Jones Dolgellau, hen olygydd y
_Dysgedydd_.  Ar y chwith, rhyw ddau hyd cae o’r ffordd, y mae’r Wern
Ddu, cartref yr hen Gadwaladr Williams garedig fu’n ceisio darbwyllo Ap
Vychan pan yn hogyn nad ai plant llygaid gleision i’r nefoedd, ac mai
Deio’r Graig oedd yn achosi’r taranau trwy fynd o ben y castell i lawr y
nefoedd, a gyrru olwyn ar hyd-ddo.  Ymhellach ymlaen, wedi mwynhau
golygfeydd rhamantus, dyma ni wrth y Ty Mawr lle y daeth Ap Vychan yn
hogyn cadw pan yn ddeg oed, a’r lle y bu am saith mlynedd, yn mwynhau
llawer o fanteision crefyddol, dan lywodraeth gref gariadlawn y wraig
fwyaf deallus mewn duwinyddiaeth a welodd erioed.

Cyn hir, gyda ein bod wrth droed craig y castell, dyma ffordd yn croesi
ein ffordd ni, ac yn rhedeg ar draws y cwm.  Trown ar y chwith ar
hyd-ddi, a dyma ni wrth Hafod y Bibell.  Clywodd llawer un Ap Vychan yn
dweyd mai yn Hafod y Bibell y dymunai fyw, Darluniai’r golygfeydd welid
o’r hafod honno,—y mynyddoedd, gwaelod dyffryn Penanlliw a Llanuwchllyn,
a Llyn Tegid hefyd am wn i.  Tybiai pobl ddieithr, wrth glywed Ap Vychan
yn darlunio’r lle, mai palas y gellid ei alw’n Ddymunol, yng ngwlad
Beulah, oedd Hafod y Bibell.  A dyma’r lle.  Y mae’n dechre adfeilio
erbyn hyn,—nid oes yno ond to diferllyd a ffenestri gweig ion, fel tyllau
llygad ysgerbwd.  Y mae das o hen wair yn y gadles yn ymyl, a llwybr
glaswelltog i’r caeau, llwybr nad oes erbyn hyn fawr o wahaniaeth
rhyngddo a’r cae.  Pe gwelai Ap Vychan ef yn awr, hawdd fuasai iddo
ddweyd geiriau Dafydd ab Gwilym am y murddyn welodd mewn lle y buasai
unwaith “yn glyd uwchben ei fyd mwyn,”—

    “Yn ddiau mae i’th gongl ddwy-och,
       Gwely im oedd, nid gwâl moch.”

Oddiyma awn i fyny hyd y caeau, gan adael gwaith aur y Castell ar y dde.
Toc croeswn gae, ac y mae’r Ty Coch draw yn ei gwr uchaf.  Y mae mawredd
gwaith bysedd Duw ar y creigiau sydd y tu cefn i’r Ty Coch, ond tlodaidd
iawn yw’r olwg ar y ty ei hun.

Gadewch i ni ddynesu ato.  Y mae’n eithaf clyd a glân, er mai bechan iawn
yw ei ffenestr a phur anwastad ei lawr.  Dyma ddau wr ieuanc yn dod o’r
ty i’n cyfarfod, ac yn cymeryd dyddordeb mawr ynnom pan ddeallant ein bod
ar bererindod i wlad Ap Vychan.  Peth digon hawdd i bobl ddieithr fel y
ni, a ninnau wedi darllen papurau newyddion ac yn medru siarad Saesneg,
ydyw ei lordio hi dipyn, fel y dywed pobl y fro hon, yng ngŵydd pobl
wledig.  Gwell i chwi beidio mewn cwm fel Penanlliw; y mae’r gŵr ieuanc
gwalltddu yna wedi gweled mwy ond odid, nag a welsoch chwi; ac y mae aml
un trahaus wedi gwingo dan ffrewyll awen chwerw’r llall.

Dan gyfarwyddyd dau nai Ap Vychan awn o amgylch y ty.  Yn y pen uchaf
iddo yr oedd tad Ap Vychan yn byw, darn sydd eto dan ei do brwyn.  Dyma’r
drws diaddurn o’r hwn y cerddodd Ap Vychan i’r byd gyntaf, i ymdrechu’n
galed am ei damaid bara i ddechreu, ac i gyfrannu bara’r bywyd i lawer
enaid newynog wedyn.  Dacw’r ffenestr eto’n aros drwy yr hon y gwelodd
oleuni dydd Duw gynta erioed rywbryd tua diwedd y flwyddyn 1809.  Dyma’r
lle y bu ei dad,—dyn duwiol, duwinydd, a llenor da,—yn ymladd yn galed yn
erbyn yr amseroedd enbytaf welodd y llafurwr Cymreig, efallai, yn holl
hanes ei wlad.  Dacw’r mynyddoedd, y naill y tu hwnt i’r llall, y
mynyddoedd sy’n ymddelwi yn enaid pob Cymro.  Bum yn meddwl lawer gwaith
fod Ap Vychan, wrth ddarlunio ieuenctyd Cadwaladr Jones, yn darlunio,—na,
nid ei ieuenctyd ei hun,—ond y peth ddymunasai’r bachgen tlawd fod.  Yr
oedd bywyd Cadwaladr Jones, “mab ffarm,” yn fywyd yr hiraethai’r “hogyn
cadw” am dano.

    “Gallwn yn hawdd ddychymygu iddo dreulio llawer dydd teg, yn hafau
    dyddiau ei faboed, ar lan y nant sydd yn myned heibio i’r Deildref
    Uchaf, a’r afon Liw, sydd yn golchi un ochr i ddôl a berthyn i’r
    tyddyn, yn chwareu, ac yn ceisio dal y pysgod gwylltion a heigient
    ynddynt.  A gallwn farnu, yr un mor naturiol, ei fod yn ddiwyd yn
    ymlithro ar hyd ei rhewogydd yn y gauafau, ac yn cael ei geryddu gan
    ei fam pan ddigwyddai gael codwm, a tharaw ei wegil yn y blymen, neu
    pan wlychai ei draed, oblegid torri o’r rhew o dan ei bwysau, a dyfod
    i’r ty, ati hi, i gwyno oblegid y damweiniau.  Gallwn feddwl mai
    dyddiau pwysig yn ei olwg ef, fel ereill, oedd dyddiau dasu y mawn,
    golchi y defaid a’u cneifio, dyddiau cael y gwair a’r yd, ffair Llan
    yr haf, a dydd cyfarfod blynyddol yr Hen Gapel.  Gallwn feddwl y
    chwareuodd lawer tua ‘Chwrt y Person’, wrth ddychwelyd yn y
    prydnawniau gydag ereill, o ysgol ddyddiol Rhos y Fedwen; a’i fod yn
    aml yn ofni ac yn petruso wrth geisio myned dros y sarn, pan fyddai y
    llif ychydig dros y cerrig, ac wedi cyflawni y gamp honno, yn neidio
    ac yn llemain o lawenydd am lwyddiant ei wrhydri, yn hynny o beth.
    Digon tebyg ei fod ef, fel ei gyffelyb o ran oed, yn brysur tua
    Chalanmai yn chwilio am nythod adar, ac ym Medi, yn chwilio am y cnau
    yn y byrgyll.  A hawdd i ni gredu ei fod ar lawer min nos yn dyfal
    wrandaw ar isalaw ddofn Rhaiadr Mwy, ac yn dyfod yn ei ol i’r ty yn
    llawer mwy sobr nag yr aethai allan.  Bu lawer noswaith, mae yn
    debyg, yn cael y fraint o aros ar yr aelwyd, yn lle myned i’w wely,
    pan fyddai cymydogion yn dyfod i gyfarfod nosawl i wau hosanau, i dy
    ei rieni.  Bu yn gwrando eu chwedleuon am amgylchiadau yr ardal, y
    rhyfel â Ffrainc, helwriaeth, ymddanghosiad ysbrydion, dewiniaeth,
    llofruddiaethau, ymladdfeydd rhwng personau unigol, yng nghyd ag
    ychydig o helyntion crefyddol yr Hen Gapel.”

Y mae’r Ty Coch ar fin y mynydd,—“y ty agosaf i’r mynydd.”  Rhwng y dwfr
glân a’r mynydd-dir iach sydd yn ymyl, y mae’n lle wrth fodd Cymro
athrylithgar fo’n magu plant.  Ond, yr oedd yr adeg honno’n gwasgu’n drwm
ar fwthynwyr, yn enwedig rhai’n deulu o ddeuddeg.  Dyma’r hanes fel yr
adroddir ef gan Ap Vychan ei hun,—

    “Yn fuan wedi terfyniad rhyfel Ffrainc, aeth ein bwthyn bychan ni, yr
    hwn oedd wrth dalcen y Ty Coch, yn rhy gyfyng i’r teulu cynyddol a
    gyfaneddent ynddo, a chafodd fy nhad ganiatad gan oruchwyliwr Syr
    Watcyn i ail adeiladu hen dy adfeiledig yn yr ardal o’r enw Tan y
    Castell.  Yr wyf yn cofio mai ty newydd tlawd iawn oedd ein ty newydd
    ni.  Yr oeddym erbyn hyn yn deulu lluosog; a swllt yn y dydd, ar ei
    fwyd ei hun, oedd cyflog fy nhad yn yr hanner gauafol o’r flwyddyn,
    ac yr oedd hanner pecaid o flawd ceirch yn costio i ni ddeg swllt a
    chwe cheiniog.  Felly, prin y gallem gael bara, neb son am enllyn,
    gan y drudaniaeth.  Buom am un pythefnos heb un tamaid o fara, caws,
    ymenyn, cig, na chloron.  Digwyddodd i ni gael ychydig o faip, a
    berwai ein mam y rhai hynny mewn dwfr, ac a’u rhoddai i ni i’w bwyta
    gyda’r dwfr y berwasid hwynt ynddo, ae nid oedd ganddi ddim oedd well
    iddi ei hun, er fod un bychan yn sugno ei bron ar y pryd.  Yr wyf yn
    cofio ei bod yn wylo am ei bod yn gorfod rhoddi i ni ymborth mor
    wael.”

                         [Picture: Tan y Castell]

Nid un ymffrostiai yn ei dlodi oedd Ap Vychan.  Y mae ymffrost ambell un
yn ei dlodi mor anerbyniol ag ymffrost un pen ysgafn yn ei gyfoeth.  Ond
adroddiad diaddurn, diymffrost o dlodi, adroddiad dyn ddagrau o lygaid y
caletaf, ydyw yr hanes rydd Ap Vychan wrth ddarlunio tlodi ei gartref ef.
Dywed haneswyr am ogoniant a bri buddugoliaeth y blynyddoedd hynny; yr
oedd mawredd yn ymwisgo, fe feddylient, ag anrhydedd tragwyddol.  Ond yn
nhlodi’r bwthyn wrth dalcen y Ty Coch yr oedd dyn gonest yn gorfod edrych
ar ei wraig a’i blant heb angenrheidiau bywyd, oherwydd uchelgais
pechadurus y milwr a’r uchelwr.

Ni ddaeth tlodi ei hun, daeth clefyd trwm i Dan y Castell.  Daeth mam y
penteulu yno, a bu farw dan y clefyd.  Daeth chwaer Dr. Ellis Evans i’w
gwylio y nos tra’n gweithio yn ei lle y dydd.  Gorfod troi at y plwy am
gymorth.  Dyma ddernyn o hanes yr amser hwnnw,—

    “Yr oedd gan fy rhieni y pryd hwnnw wely pluf da; ond gan ein bod ar
    y pryd yn cael cymorth plwyfol, daeth _overseer_ y plwyf, a’i fab
    gydag ef, i’n ty ni, a thynasant y gwely odditan fy nhad, yr hwn oedd
    i olwg ddynol ar y pryd bron a marw, a’i synhwyrau’n dyrysu’n fawr,
    gan rym tanllyd y clefyd, a gwerthasant y gwely i ddyn o’r ardal oedd
    ar gychwyn i’r America, a gosodwyd fy nhad i orwedd ar wellt.”

Cyn hir daeth iechyd, a dechreuodd y plant ennill tipyn.  Ond gadewch i
ni groesi, dan gysgod craig y castell, drwy goed mafon duon a heibio
cerrig enfawr sydd wedi treiglo o’r graig fry, at Dan y Castell.  Yr oedd
Ap Vychan a’i frodyr a’i chwiorydd yn adnabod pob un o’r cerrig hyn fel
eu cymydogion.  Un ffordd i ennill ambell geiniog oedd hel cen oddiar
gerrig.  Defnyddid y cen i lifo dillad, ac nid oes bosibl cael lliw
prydferthach.  Crwydrodd Ap Vychan llawer, yn hogyn byrdew, gyda brawd
hŷn nag ef, i hel cen cerrig ac i gardota.  Clywais hen frawd yn dweyd yn
ddiweddar ei fod wedi cyfarfod y ddau lawer gwaith.  Byddai gan Ap Vychan
got laes,—hen got oedd wedi disgyn iddo oddiwrth rywun hŷn,—a dwy boced
fawr y tu mewn iddi.  Yn y naill boced byddai cen cerrig a chardod flawd,
ac yn y llall byddai Beibl mawr.  Crwydrodd y ddau frawd unwaith cyn
belled ag Aber Ystwyth.  Cardodasant yn Sir Aberteifi, a chawsant lawer o
yd.  Ond cymerodd rhywun calongaled digydwybod fantais ar y ddau hogyn
deg ac wyth oed, a mynnodd eu blawd i gyd am y grot oedd raid iddynt dalu
am groesi’r afon Dyfi.  Ond yn y cwch dywedodd rhywun tirion,—“Yr wyf
fi’n talu dros y plant bach.”  “Ni ellais byth,” ebe Ap Vychan lawer
blwyddyn wedyn, “ar fy nheithiau pregethwrol, fyned heibio’r tai a’m
lletyasent, heb deimlo diolch-garwch i Dduw, ac i ddynion hefyd, am y
tiriondeb a dderbyniais yn nyddiau plentynrwydd a thlodi.”

Er hyn oll,—cafodd Ap Vychan ieuenctyd hapus.  Wedi’r clefyd, bu’r tad
a’r fam yn ddedwydd lawer awr.  A phwy na fu wrth fagu plant?  Dyma
ddarluniad o Dan y Castell,—

    “Yn nechreu haf y fwydden 1818 yr oedd gŵr a gwraig, at hyaid o blant
    nwyfus a chwareus, yn byw dan gysgod craig fawr ac ysgythrog, ac mewn
    ty bychan, a’i do o redyn y mynydd-dir oedd gerllaw iddo, ac nid oedd
    haul yn tywynnu arno am rai wythnosau yn nyfnder y gauaf.  Yr oedd yn
    cael ei gysgogi’n dda rhag gwyntoedd o’r gorllewin ac o’r deheu; ond
    yr oedd awelon oerion y gogledd a’r dwyrain yn ymosod arno yn
    ddidrugaredd.  Mynnai y mŵg hefyd ymgartrefu yn y ty a’r to rhedyn,
    gyda’r teulu, ac nid ai allan o’i fodd, os na fyddai’r gwynt yn
    chwythu o ryw bwynt a ryngai ei fodd ef.  Yr oedd megis un o’r teulu.

    “Yr oedd ffynnon o ddwfr iachus yn tarddu o ganol y mynydd mawr, yn
    union wrth dalcen y ty.  Ceid digon o danwydd o fawnog oedd yn y
    mynydd uwchlaw’r ty, yr hyn a barai fod yr aelwyd, ar nosweithiau
    hirion y dyddiau byrion, yn hynod o gysurus.  Eisteddai’r tad yn un
    gornel, a’r fam ar ei gyfer yn y gornel arall, a’r plant yn hanner
    cylch o flaen y tân, a phob un oedd yn ddigon o faint yn gwau hosan
    mor gyflym ag y gallai, fel y gallai’r fam fynd a hanner dwsin o
    barau i’r farchnad ar y Sadwrn, a’u cyfnewid yno am angenrheidiau
    teuluaidd.”

Gadewch i ni adael Tan y Castell, a throi ein gwynebau tua’r Ty Cerrig, a
“phulpud y Crynwyr.”  Sylwch ar y graig fygythiol ddaneddog, a’i chastell
yn goron doredig ar ei phen.  Yng ngwythienau’r graig acw y mae aur.  Pan
oedd Ap Vychan yn cardota ei fara ymhell yn Sir Aberteifi, yr oedd
gronynau aur yn nhalcen ei dy.

O’n blaenau dacw Foel Llyfnant a’r Arennig, a dyna isalaw ddofn Rhaiadr
Mwy.  Dacw’r mynyddoedd y bu Ap Vychan yn crwydro hyd ddynt i hel cen
cerrig, dacw dai hen breswylwyr Penanlliw,—pobl dal gyhyrog, pobl
ddi-wenwyn a heddychlon, pobl wedi eu trwytho â duwinyddiaeth gadarn ac
iach.  Llawer hanes rhyfedd adroddir am grefyddwyr y fro hon.  Ond dyma
ni wrth Dy Cerrig.  Yn y cyntedd o flaen y ty dywed traddodiad fod y
Crynwyr wedi ymgyfarfod laweroedd o weithiau.  Byddai rhyw gyfaill
crwydrol yn sefyll ar garreg agosaf i’r ty, ac yn traethu.  Eisteddai’r
cyfeillion mwyaf blaenllaw ar y garreg arall, a safai y dorf.  Ni wyddis
fawr o fanylion hanes y Crynwyr, ond y mae’n sicr eu bod wedi gadael rhyw
dynerwch enaid, a rhyw hoffder greddfol o’r efengyl yn y fro hon.

Ffurfiwyd meddwl Ap Vychan dan ddylan-wadau iach.  Gadewch i ni droi i
fyny tua, Chraig y Tân, lle y bu’n hogyn cadw’r caeau, ac mi adroddaf i
chwi beth glywais gan hen bobl am dano.  Bu am dymor pan y meddylid nad
oedd llawer iawn o ol gras ar ei fuchedd.  Pan oedd yn egwyddorwas yn y
Lôn draw, yr oedd wedi ei brentisio i ŵr crefyddol,—Simon Jones y Lôn.
Yr oedd gan Simon Jones fab,—un athrylithgar a direidus,—ac efe oedd hoff
gydymaith y prentis go.  Ambell dro canent i ryw elyn,—

    “Yr un aeliau, â’r un olwg,
       A’r un drem, â’r gwr drwg”

Cedwid Ysgol Sul yng Nghaer Gai; a holai Thomas Ffowc y plant.  Un tro
gofynnodd i hogyn bychan sydd erbyn hyn yn wr cyfrifol yn yr America,—

    “Oes gen ti adnod, fy mhlentyn i?”

    “Oes.”

    “Wel, tyrd a hi.”

                          “Bydded hysbys a gwir yw.
                       Lle crafa’r iar, y piga’r cyw.”

    “Da iawn, fy machgen i, pwy ddysgodd yr adnod ene i ti?”

    “Twm Seimon a Robin y Go.”

    “Roeddwn i’n meddwl.  Paid di a chymryd dy ddysgu gennyn nhw eto.”

Un tro cafodd Mari Jones y Lôn, un o’r gwragedd duwiolaf welodd ei
hardal, gan Robin addaw dod i’r capel y Sul wedyn.  Addawodd yntau ar yr
amod ei bod hi’n rhoddi caniatad iddo yn y bore.  Nos Sadwrn cymerodd Twm
siswrn a thorrodd un ochr yn unig o wallt hir Robin, ac eilliodd hefyd un
gern iddo.  Bore Sul ymddanghosodd Robin ger bron Mari Jones, gyda gwallt
hir ar un ochr i’w ben, a’r gwallt wedi ei dorri yn y gnec ar yr ochr
arall.  Ni welwyd Robin ymysg y duwiolion y bore Sul hwnnw.

Dro arall yr oedd Twm a Robin yn cychwyn i’r Bala i arddanghosfa
anifeiliaid gwylltion.  Nid oedd gan Simon Jones arian parod i’w roddi
iddynt yn eu pocedau, ond rhoddodd bapur i’w roi i hen wraig y King’s
Head, a ffigiwr dau arno.  Deallodd y ddau mai deuswllt oedd hynny’n
feddwl, a rhoisant ffigiwr un o flaen y ffigiwr dau.

Gwahanwyd y ddau gyfaill mynweswol ac athrylithgar hyn yn eu marwolaeth.
Y mae Ap Vychan yn huno ym mynwent Llanuwchllyn, yn ymyl Simon Jones a
Mari Jones.  Ac y mae Thomas Jones, mab y rhain, yn huno yr ochr arall
i’r Werydd, yn Utica.  Ond y mae ei enw yntau ar feddfaen ei deulu,—bu
farw yn 1847, yn chwech a deugain oed.

Na feddylier oddiwrth hyn fod Ap Vychan wedi byw’n fachgen gwyllt.  Ni
chollodd ei dad ei ddylanwad ar ei gymeriad.  Ychydig cyn ei farw, yr
oedd yn adrodd breuddwyd wrth Ifan T. Davies.  “Yr oeddwn i’n breuddwydio
neithiwr, Ifan,” meddai, “’mod i’n gweld fy nhad, a dene’r tro cynta i mi
i weld o er pan fu o farw.  Yr oeddwn i ag ef yn cerdded ar hyd ffordd
deg wastad-lefn.  Yr oeddwn i’n blentyn ac yn cydio yn i law o.  Hefo’r
ffordd yr oedd aber o ddŵr grisialaidd yn dwndwr.  Dros y gwrych yr oedd
dyrysni, o ddrain a rhedyn a mieri, fel y Wenallt, ac yng nghanol y
dyrysni ’roedd dyn.  A dyma fo’n gwaeddi ar fy nhad,—‘Ddyn anwyl, fedrwch
chi ddangos y ffordd i’r bywyd tragywyddol i mi?’  ‘Medra,’ medde nhad,
ac yn dangos i fys at y ffordd deg, ‘dyma hi, mae Rhobet a minne wedi bod
yn i cherdded hi ers blynyddoedd.’”

Y ffordd a’r aber wrth ei hochr oedd y ffordd y buom yn ei cherdded at y
Ty Coch.  A dacw’r t Wenallt.  Ymlaen y mae golygfeydd mynyddig rydd
orffwys i’r meddwl lluddedig, os crwydrir yn eu mysg.  Byddaf fi’n hoff
iawn o dreulio dyddiau yn y cymoedd hyn, a byddaf yn meddwl yn aml, wrth
bensynnu ar lannau’r aberoedd, am y bachgen fu’n ennill ei damaid prin
wrth wylio’r defaid a diosg eu gwisg oddiam gerrig y mynyddoedd.

                [Picture: Decorative graphic of house by mill]



GERDDI BLUOG.


YR oeddwn wedi meddwl llawer am weld cartref Edmwnd Prys, y cartref sydd
yng nghanol y mynyddoedd, y cartref lle cyfieithiwyd Salmau Israel i’r
iaith Gymraeg.  Tybiais mai canol haf oedd yr amser goreu i fyned yno ar
draws y bryniau, gan fy mod yn meddwl bob amser mai haf yng Nghymru
ydyw’r tymor ddarlunir yn y Salmau, pan hiraetho’r hydd am yr aberoedd
dyfroedd, a phan fo’r porfeydd gwelltog yn hyfryd ar lan dyfroedd araf.
“Gefn trymaidd yr haf,” chwedl pobl Harlech, y dechreuais ddringo’r
bryniau serth sydd rhwng glan y môr a’r cartref yn y mynyddoedd.

Pan eisteddais i orffwys gyntaf, yr oeddwn ar fryn uwchlaw Castell
Harlech,—y môr odditanaf a’r mynyddoedd uwch fy mhen, y mynyddoedd sydd
rhwng glan y môr a gwastatir uchel Traws Fynydd.  Llecyn hyfryd odiaeth
oedd hwnnw.  Dros gaeau o datws gwyrddion, gydag ambell flodeuyn piws ar
y cae gwyrdd, gwelwn donnau gwynion afrifed y môr, a’r haul yn goreuro eu
hewyn.  Os wyt yn ymhyfrydu mewn lliwiau, buasai yn dda gennyt fod gyda
mi yno,—i weled y gwyrdd yn dy ymyl, a’r gwyn gyda gwawr aur arno draw
drosto.  Tybiwn ei fod yn gyfuniad o liwiau prydferthaf nef a daear; ac
yn y cyfuniad yr oedd ei swyn.  Heibio’r garreg yr eisteddwn arni rhedai
dyfroedd grisialaidd o ffynnon y Bedyddwyr, dwfr clir wedi codi’n foreu
ym mro y creigiau a’r grug.  Hyd ochrau sych hyfryd yr afonig, blodeuai’r
goesgoch a’r rhedyn, gan wasgar eu perarogl hyfryd gwan.  Ac ar ael y
bryn o’n blaenau gwelem Gutiau’r Gwyddelod, fel ysbrydion hen amseroedd.

Nid oeddwn fy hun yn y llecyn hwnnw.  Yr oeddwn i a gŵr ieuanc, oedd yn
treulio ei wyliau gartref yn Harlech, wedi dod yn ffrindiau mawr.  A chan
ei fod yn gwybod am bob troedfedd o’r ardal, yr oeddwn wedi erfyn arno
ddod yn gwmpeini i mi.  Ni fuasai’n bosibl cael diwrnod na chwmni gwell.
A rhag fod fy nghydymaith yn meddwl fy mod wedi blino eisoes, troais fy
nghefn ar olygfa oedd mor swynol i mi.

O’n blaenau yr oedd gallt serth, ac yr oedd corn simneu unig i’w weled
drosti, fel pe buasai’n codi o’r ochr draw.  Corn simneu Cefn y Filldir
oedd, a chlywais fod yno bregethwr unwaith, pregethwr y Bedyddwyr, yn
meddu dylanwad ar yr ysbrydion drwg.  Hawdd gennyf fi gredu hynny, ac ni
rown fawr am bregethwr os na fydd ar yr ysbrydion drwg dipyn o’i ofn
ambell i dro.

Yr oedd yr allt yn drom a’r dydd yn boeth, ac wrth ddringo igam ogam i
ben y bryn safem yn aml, a thaflem aml olwg yn ol ar y castell a’r môr.
Yr oedd swn y môr yn dod yn fwy gwan a suol o hyd, a phrin y clywem ef
pan ddoi swn gwenynen i’n clustiau, wrth iddi grwydro dros flodau mân y
mynydd.

Wedi cyrraedd pen y bryn, wele wastatir hir o’n blaenau,—cae hir eithinog
glas o’r enw y Fonllech Hir.  Yr oedd awel adfywiol yn crwydro o’r
mynyddoedd i’n cyfarfod, wedi casglu perarogl mewn cannoedd o gaeau
gwair.  Odditanom yr oedd cwm rhamantus Nancol, a morfa’r Dyffryn.  Dros
y rhain y gwelem Fochras a’i gregin, a Sarn Badrig yn y môr.  Ehedai aml
wylan tua’r tir rhyngom a’r awyr las, arwydd fod storm yn y môr.  Yr oedd
gorchudd o niwl dros y Wyddfa a’r Rhinog a’r Moelfre o’n blaenau.

Daethom i ffordd union deg yn rhedeg ar hyd y Fonllech, debyg i ffordd
Rufeinig, o Lanfair i Fedd Gelert a Nanmor.  Cerddasom ennyd ar hyd hon,
gan droi ar y chwith o’r llwybr gerddem o’r blaen.  Odditanom gwelem
ffermdai Drws yr Ymlid a Chil y Bronthyr.  Dilynai aber ni, gan fynd dan
y ffordd weithiau; efallai i ti ei gweled, ddarllennydd hoff, yn disgyn
yn gawod wen dros y graig yn ymyl castell Harlech.

Troisom o’r ffordd hir union wedi ei dilyn am beth amser, gan gyfeirio ar
y dde tua Chwm Bychan.  Yr oedd tarw’r Ffridd ar ein llwybr, ond ni
wnaeth fwy na rhuo.  Yr oeddwn wedi edrych o’m cwmpas am le i ddianc, ac
wedi methu canfod yr un.  Hyfryd i mi oedd gweled y tarw’n rhoi ei ben i
lawr, ac yn ail ddechreu pori mewn heddwch.  Bum mewn ffos unwaith, ag
ochrau cerrig iddi, a tharw yn bwrw â’i ben ataf, ond fod yr ochrau
cerrig yn rhy gul i’w dalcen ddisgyn arnaf.  Yr wyf yn cofio ei anadl
boeth ar fy ngwyneb o hyd; a pho leiaf o deirw fo’n y byd, goreu oll gen
i.

Caeau bychain caregog oedd yno, gyda darnau o dir amaethedig ymysg
corsydd a brwyn.  Yr oedd ffrydiau ardderchog o ddwfr gloew ymhob man.  I
lawr odditanom gwelem gaeau gwyrddion dyffryn yr Artro, a’r môr dyfnlas
draw dros y morfa llydan a’r traeth.  Yr oedd gwres yr haul wedi codi
cymylau i hulio’r nen.  Doi ambell heulwen danbaid trwy’r cymylau, ac yr
oedd lliw pob peth yn troi yn ogoneddus tan ei gwên,—lliw melynwyn
brenhines y weirglodd, coch gwan blodau’r grug, melyn tanbaid yr eithin,
a’r lliwiau afrifed rhwng coch-wyrdd y gwair addfed a glas-wyrdd yr egin
yd.  Yr oedd llawer o’r gwair wedi ei gynhauafa oddiar rosydd y Ffridd a
Rhyd yr Eirin, a’r syndod i mi oedd sut yr oeddynt wedi medru lladd y
byrwellt rhwng y twmpathau caregog, os nad â siswrn.  Ac yr oedd arogl y
mynydd yn dod i’n cyfarfod dros y caeau cneifiedig, arogl crawcwellt a
grug.

Wedi croesi’r gefnen hon eto, daethom i olwg y Cwm Bychan, ac wele wlad
Edmwnd Prys o’n blaenau.  Natur yn ei pherffeithrwydd sydd yno, ni welir
ond ychydig o ol llaw dyn arni, ac y mae’n sicr fod yr olwg a gawn ar y
Cwm Bychan yn union yr un fath a’r olwg gai Edmwnd Prys arni wrth
gyfieithu’r Salmau, dair canrif yn ol.

Gyda’n bod yng ngolwg y cwm, gwelem fynyddoedd yn codi’n sydyn o’n
blaenau, a golwg ddu fygythiol arnynt.  Pan welais y cwm gyntaf, nid fel
cyfieithydd y Beibl y daeth Edmwnd Prys i’m meddwl, ond fel y swynwr fu’n
ymryson â Huw Llwyd Cynfel.  Ond buan y cynefinodd fy llygaid â’r
mynyddoedd geirwon serth, a gwelais y llyn tawel sy’n gorwedd wrth eu
traed.  Yr oedd rhes o goed rhyngom ag ef, a gwelem ei ddyfroedd gleision
tawel rhwng y canghennau.  Y tu hwnt i’w gwr uchaf gwelem gaeau
llechweddog a rhai gwastad.  Y tu hwnt iddynt yr oedd y mynyddoedd o hyd;
yr oedd niwl ar ben Carreg y Saeth a’r Rhinog Fawr, ac nis gallem weled
pa mor uchel oeddynt.

Ond ymhle mae’r Gerddi Bluog?

Yn union odditanom, yr ochr yma i’r cwm.  Byddwn yno mewn ychydig
funudau.  Dechreuasom ddisgyn hyd y llwybr serth, drwy gaeau bychain,
llawn o goed gwern ac eithin a grug.  Ac hyd ochr y nant gwelem y feidiog
las a lliaws o flodau nad oedd gennym ni enwau arnynt.  Yr oedd yno un
math o goed bychain oeddym yn adnabod yn dda, sef coed llus.

O’r diwedd cyrhaeddasom y gwaelod, ac aethom drwy lidiart fechan mewn mur
o gerrig geirwon.  Ac wele’r Gerddi Bluog o’n blaen.  Wrth ei gefn yr
oedd llond y nant o goed, a ffrwd gref yn rhedeg yn wyllt ar hyd y graig
a’r graian odditanynt.  Ar lan y ffrwd hon gwelem yr adeiladau,—yr helm
drol a’r beudai a’r cutiau moch,—ac ymhellach draw na hwynt gwelem y ty.
Y ddau gar mawn wrth gefn yr helm, y cunogau llaeth yn sychu ar y graig,
y buarth glân, y coed cysgodol, yr olwg glyd a threfnus,—y mae’r Gerddi
Bluog yn debyg iawn i lawer hendre Gymreig.  Ond yr oedd y pinwydd yn
taflu rhyw wawr henafol a dieithr ar y lle.  Wrth i ni ddod i lawr
ochrau’r buarth, yr oedd arogl chwilys yr eithin a chamomeil yn
perarogli’r awel, ac yr oedd cymylau gwynion yr haf yn ymlid eu gilydd
uwch ein pennau dros y cwm.

Croesasom yr afonig, a dechreuasom chwilio am enwau maswniaid ar hen
furiau’r beudai.  Ar garreg las fechan wrth ffenestr dalcen un beudy
gwelsom hyn,—

    Morgan Prys
    HYDREF: 31
    1728: W. H.
    Pen.: Saur

O’r adeiladau daethom at y ty, a gwelsom yr enw M. P. a’r dyddiad 1667 ar
ran cydmarol newydd o hono.  Yr oedd ei gefn atom, a throisom am ei
gornel i gael golwg ar ei wyneb.  Cawsom olwg hen a phatriarchaidd iawn
arno.  Gwelais ar unwaith mai o’r drws acw ac ar hyd y palmant hwn y doi
arch-ddiacon Meirionnydd pan ar ganol rhoi’r salmau mewn Cymraeg mor
felodaidd.  Lle tawel a chlyd ac unig yw.  Y mae’r ty a’i dalcen i fryn
caregog serth.  Ar ben y banc y mae mur, a’r goesgoch yn tyfu gyda’i
waelod, a choeden onnen yn gwyro uwch ei ben.  Pan droisom am y gornel,
yr oedd y mur a’r bryn yn union o’n blaenau.  Ar y chwith yr oedd gwyneb
y ty.  Yr oedd y drws yn isel,—yn debycach i ddrws y dewin nag i ddrws
arch ddiacon,—ac yn hen iawn; yn amser ymosodiadau ar dai y cynlluniwyd
drysau felly.  Yn wyneb hir y ty yr oedd un ffenestr; ac un arall wedi ei
chau yn amser y dreth ar ffenestri.  Ar gyfer y ty, ac yn gwynebu ato, yr
oedd hen dy hŷn fyth, wedi ei droi yn dy mawn.  Rhwng y ddau yr oedd
llawr o graig neu o balmant, oddigerth lle tyfai blodau cochion mawr o
flaen y ty mawn.  Safasom ger drws y ty i weled pa olygfa geir o hono.
Yr oedd pinwydd duon yn ymyl, ac yr oedd awel ysgafn yn gwneyd iddynt
ysgwyd yn araf, fel hen wragedd y seiat dan awelon o Seion, fel pe
buasent yn clywed swn y Salmau byth.  Rhwng y pinwydd hyn gwelem
fynyddoedd ardderchog,—fel y mil o fynyddoedd y sonia’r Beibl am danynt.

Ond yr oedd yn bryd troi i’r ty.  Yr oedd y gŵr wedi dod allan atom,—gŵr
caredig prysur,—a rhaid i ffarmwr fod yn brysur iawn i fyw yn y dyddiau
hyn, pan y mae prisiau pob peth mor isel.  Aethom i mewn dan y garreg
fawr sy’n gapan i’r drws.  Yr oedd cyntedd hir o’n blaenau, yn mynd ar
draws y ty i gyd.  Ar ein de yr oedd palis pren, a drws tua’i ganol.
Troisom trwy’r drws hwnnw i gegin eang, gyda nenfwd isel hen ffasiwn.  Yr
oedd y llawr yn lân, fel yr aur, ac yr oedd golwg clyd ryfeddol ar y
gegin.  Draw ar ein cyfer yr oedd y simneu fawr hen ffasiwn, a’r tân
mawn, a’r crochanau.

Yr oedd plismon yn y ty, yn nillad ei swydd.  Nid am fod drwg-weithredwyr
yng Ngerddi Bluog yr oedd wedi dod, ond oddiar ysfa lenyddol.  Y mae aml
blismon yng Nghymru’n llenor; ac yr oedd hwn yn dod o gyffiniau llenyddol
Llanarmon Dyffryn Ceiriog.  Y tu ol iddo, gan sythed ag yntau, gwelwn
gloc enwog Edmwnd Prys.  Cas hir, o onnen, debygwn, yw cas y cloc.  Nid
yw’n mynd,—nid oes o hono ond pen a chas.  Ni fynnwn daflu angrediniaeth
ar hen draddodiad, yn enwedig pan fo Glasynys wedi ei wneyd yn destyn
cân; ond paham na fuasai’r “Morgan Price of Gerthi Blyog,” dorrodd ei enw
arno yn 1734, yn torri ei enw ar rywbeth heblaw’r hen gloc.

Mam yn Israel oedd gwraig Gerddi Bluog, gallaswn feddwl.  Gadawodd i ni
weld yr holl dy, a mynd i’r llofft i weled pren gwely Edmwnd Prys.
Aethom i fyny hyd risiau derw troellog, nes dod i’r llofft lle mae’r
gwely.  Beth bynnag am y cloc, nis gall fod amheuaeth am y gwely.  Gall
ei dderw du treuliedig fod yn llawer hŷn nag Edmwnd Prys, er feallai fod
y pyst wedi eu torri yn ei amser ef neu wedyn.  Uwch ben lle’r gobennydd
y mae’r pren wedi ei rannu’n banelau ac y mae ysgrifen o gwmpas y panel
canol rhywbeth yn debyg i hyn,—E. P., 1592.  O’m rhan fy hun, gwell gen i
na dim yw edrych ar y golygfeydd y bu rhai enwog ein gwlad yn edrych
arnynt.  Ond, er hynny, yr oedd rhyw foddhad imi deimlo fy mod wedi gweld
y gwely y bu Edmwnd Prys yn cysgu ynddo, a’r cloc allasai fod wedi tipian
llawer cyn i Forgan Price dorri’r ffigyrau 1734 arno.  Ond fy awydd oedd
crwydro o gwmpas y Gerddi Bluog.

Yr oedd y diwrnod haf yn ddiwrnod tlws.  Penderfynasom dynnu i fynu’r
mynyddoedd yr ochr arall i’r Cwm Bychan, i weled y grisiau wnaeth y
Rhufeiniaid, ac i gael golwg ar gartref a gwlad Edmwnd Prys.  Gwrthodasom
fwyd, heblaw llefrith i’w gofio; gan addaw dod yn ol at de.

Cychwynasom i lawr tua gwaelod y cwm hyd lwybr troellog, a chawsom ein
hunain mewn gwlad ramantus iawn.  Unwaith daethom i hafan goediog
gysgodol, gyda rhedyn tal yn dechreu melynu hyd ei hochrau, a heulwen wan
ar ei brwyn ac ar y dwfr gloewlas araf oedd yn llithro gyda’i min.  Ar
ochrau’r meusydd y mae creigiau toredig, fel meini wedi eu parotoi i
deml; ac yr oedd rhyw ddistawrwydd yn teyrnasu dros yr holl fro gysgodol,
fel pe buasai unwaith wedi bod yn lle prysur a llawn o bobl, ac yn awr
wedi adfeilio.

Cyn hir yr oeddym ar lan yr Artro, ffrwd wyllt o ddwfr grisialaidd yn
rhedeg rhwng dolydd gwyrddion.  Yr oedd y ffordd yn mynd yn fwy dyddorol
o hyd.  Wele’r Graig Ddrwg a Charreg y Saeth o’n blaenau, a gwelsom
raiadr ac aml lecyn rhamantus.  Yr oedd y ffordd yn myned ar hyd min y
llyn, ac yr oedd yr olygfa dros y dyfroedd tawel yn un i’w chofio.
Ymgodai Carreg y Saeth yn fawreddog y tu arall i’r dwr.  Ar y de yr oedd
llwyni o goed, a bryn yn codi y tu ol iddynt.  Ac ar y chwith yng
nghyfeiriad yr amaethdy sydd ym mlaen y Cwm Bychan, yr oedd hesg rhwng y
llyn a’r caeau gwair.  Y mae’r amaethdy hwn mewn lle tarawiadol, a
dywedodd fy nghyfaill ystori eithaf cyffrous am rai o hen deulu’r ty.  O
amgylch y ty y mae hanner cylch o greigiau, fel y darlun o greigiau Edom
sydd yn fy meddwl crwydrol i.  Y mae y creigiau ar lun muriau anferthol,
gwaith maswniaid oesoedd y cewri.  Rhwng y creigiau a’r llyn y mae
tir,—rhyw hanner gweirglodd hanner mawnog; a throsto gwelem y llyn o hyd
fel arian crych, a phinwydd duon yn sefyll fel myfyrdodau y tu hwnt iddo.
A thraw, dros y cwbl, yr oedd y mynyddoedd dan len deneu o niwl.

Gadawsom yr amaethdy o’n holau, a dringasom i fyny gyda chlawdd mynydd.
Buom yn teithio yn hir drwy hafan goediog; ond o’r diwedd daethom i’r
mynydd agored, a daeth awel hyfryd dros y graig i’n cyfarfod.  Yr oeddwn
wedi clywed llawer am y grisiau Rhufeinig yn Ardudwy, ac yr oeddwn wedi
meddwl mai rhyw ris neu ddwy oedd yno wedi eu naddu mewn craig.  A mawr
oedd fy syndod wrth weled llwybr o gannoedd, os nad miloedd, o risiau yn
arwain i fyny i’r mynydd.  Anhawdd iawn, hyd yn ced i’r ieuanc a’r
brwdfrydig, fuasai dringo’r mynydd heb y grisiau; ond yr oeddym yn myned
i fyny ar hyd-ddynt mor hawdd ag ar hyd llwybr gardd.  Anaml y bum mor
hapus wrth gerdded unrhyw lwybr ag wrth gerdded y llwybr Rhufeinig yn
Ardudwy.  Yr oedd yr awel yn adfywiol a thyner, yr oedd murmur y neint yn
felodaidd, yr oedd y blodau’n orlawn o fywyd, ac yr oedd tawelwch distaw
dwys y mynyddoedd yn adfywiol iawn.  Yr oedd y dwfr mor risialaidd, y
lliwiau mor danbaid, a’r hin mor heulog, fel mai prin y medrwn goelio fy
mod yng Nghymru.  Wrth weled y llwybr Rhufeinig, tybiwn er fy ngwaethaf
fy mod ar lethrau’r Apeninau Disgynnai’r afonig fechan i’n cyfarfod, o
graig i graig, gan fynd yn llai o hyd.  Weithiau gwelem fedwen yn crymu
uwch ben pistyll gwyn; dro arall gwelem y grug blodeuog wedi ymestyn dros
y llwybr.  Synnwn paham na threuliwn fy oes ar y mynydd, a daeth i’m
meddwl mor ynfyd oeddwn pan oeddwn yn treulio fy oes ar yr iseldiroedd.
Toc darfyddodd yr arber, a daethom at ffynnon loew ymysg cerrig mawr.
Ond nid oeddym eto ar ben y mynydd.  Yr oedd ochrau’r mynydd, erbyn hyn,
wedi cau at ei gilydd, yn furiau o gerrig enfawr.

Yr oeddym wedi edifarhau am wrthod bwyd yn y Gerddi Bluog.  Er llawenydd
i ni, yr oedd coed llus bob ochr i’r grisiau, ymron ar ben y mynydd.
Cawsom wledd arnynt, cyn dringo i ben y golwg.  Ac o’r diwedd, wele ni ar
ben y fynedfa; a gwelem lwybr hir yn dirwyn i lawr i wastadedd Traws
Fynydd.  Clywem yr afon yn murmur yn ddedwydd i lawr yn y gwaelod.  Ond
tybiwn i mai ar ben mynydd yn unig y mae dedwyddwch.

Edrychasom yn ol ar y llwybr gerddasem.  Gwelsom fod y niwl yn prysur
godi o’n holau.  Gwelem greigiau duon ysgythrog, fel tyrau dinasoedd
llosg yn codi o hono; ac yr oedd y niwl yn torri’n ddarnau wrth daro yn
erbyn y creigiau hyn.  Ac yr oedd y grisiau Rhufeinig yn arwain i lawr
i’r niwl.  Nid peth hawdd oedd colli golwg ar Draws Fynydd, a chychwyn i
lawr hyd y grisiau drachefn.  Cofiwn, wrth fyned i lawr ar hyd-ddynt, eu
bod yno cyn i’r efengylydd cyntaf ddod i’r wlad, a pheth hen iawn i
deimlad Cymro yw peth hŷn na’r efengyl.

Ni fedr dyn fyw ar lus yn unig.  Mwyn oedd am y gwahoddiad hwnnw i’r
Gerddi Bluog.  Yr oeddym yn newynog,—yr oedd awel y mynydd wedi dwyn
awydd am fwyd wrth roi terfyn ar ein lludded,—ond nid oedd y ffordd
brydferth yn rhy hir gennym, hyd yn oed wrth ei cherdded yn ol.

Heibio’r llyn drachefn a thrwy’r hafan unig cyrhaeddasom y Gerddi Bluog
yn ol.  Yr oedd y wraig garedig wedi ein gweled yn dod.  Arweiniwyd ni ar
unwaith ar hyd y cyntedd hir hwnnw, ac i’r parlwr yn aden y ty.  Cawsom
de heb ei fath; nid wyf yn meddwl fod cystal hufen yn unlle, na chystal
caws.  Un o’r Bedyddwyr Albanaidd, hen ddiadell y gŵr rhyfedd o Ramoth,
oedd y wraig.  Holais lawer arni, oherwydd y mae llawer rhamant am John
Jones o Ramoth.  Cynnil iawn oedd ei hatebion, a distawach na llawer
gwraig glywais yn adrodd hanes.  Pan ofynnais iddi am wisgoedd pobl ei
chapel, ni chefais yn ateb ond gwirionedd cyffredinol am ddynol ryw,—“Mae
pawb gen grandied ag y medra nhw yrwan,” ac yr oedd y symledd a’r
caredigrwydd sydd yn nodweddu’r seiat fechan yn amlwg yn y ty hwn.
Tawel, dirodres, a mwyn iawn y cawsom ni wraig un o’r Bedyddwyr Albanaidd
yn y Gerddi Bluog.  Hyfryd oedd meddwl wrth ymadael, fod hen gartref
Edmwnd Prys yn un o gartrefi croesawgar Cymru hyd heddyw.

Dringasom ochr y mynydd, gan droi’n ol yn aml i edrych ar wlad Edmwnd
Prys, a buan y cyrhaeddasom y ffordd Rufeinig hir sy’n mynd fel saeth hyd
y grimell.  Yr oedd nant yn cydddod a ni i lawr, gan ddawnsio a gwenu.
Daethom i olwg y môr, a gwelem gastell Harlech yn ddu rhyngom a’r traeth
melyn, fel angel coll yn crwydo ar ororau’r nefoedd.  Codai cymylau melyn
eurog i’r nen, yr oedd lliwiau bendigedig ar y tywod a’r ewyn môr.  Nid
oedd y castell ond megys corach du bach ym mhresen-oldeb y mynyddoedd a’r
môr.  Yr oedd y prydnawn yn darfod, ac yr oedd niwl a chysgodion yn
dechreu ymdaenu dros yr Eifl a Moel y Gest a’r Wyddfa.  A dyna ddiwedd fy
nhaith innau i gartref Edmwnd Prys.



PANT Y CELYN.


                   [Picture: Y fynedfa at Bant y Celyn]

“YM mhle _mae_ Pant y Celyn?” ebe athraw yn un o golegau’r Methodistiaid
Calfinaidd wrthyf unwaith.  Yr oedd tôn gwerylgar yn ei gwestiwn,
oherwydd ei fod yn gorfod gofyn peth oedd yn dangos cymaint o
anwybodaeth.  Nid oeddwn yn ddigon rhagrithiol i ddweyd fy mod yn synnu
at ei anwybodaeth, oherwydd ni wyddwn fy hun, cyn mynd yno, ymha un o
bedair neu bum sir yr oedd Pant y Celyn.  Er hynny nid oes odid aelwyd
yng Nghymru nad ydyw Pant y Celyn yn air teuluaidd arni.

Ryw ddiwrnod yn yr haf diweddaf yr oeddwn yn teithio o fynydd-diroedd
Llanwrtyd drosodd i ddyffryn Tywi, ac i lawr ar hyd y dyffryn enwog
hwnnw.  Wedi rhediad chwyrn i lawr hyd ochrau’r mynyddoedd, daethum i
Lanymddyfri gyda’r nos.  Ni welwn fawr o dref na dim, o’r orsaf; a
throais i’r gwesty cyntaf gefais.  Yr oedd yno dân braf,—yr oedd yr hin
yn oer a gwlawog, er mai haf oedd.  Yr oedd yno fwyd da ac iachus mewn
ystafell lân hefyd.  Fel rheol, pur anghysurus ydyw lletydai Cymru o’u
cydmaru a lletydai gwledydd ereill, yn enwedig tai dirwest.  Gadewir y
ffenestri yng nghauad ddydd a nos, nes y bo arogl anhyfryd ar yr
ystafelloedd ac ar y dodrefn; gadewir llwch i hen gartrefu ar bob astell
ac ym mhob cornel; a bydd rhigolau duon, digon i ladd archwaeth y cryfaf,
ar y _cream-jug_ o wydr tawdd.  Ond, yn y gwesty hwnnw ger gorsaf
Llanymddyfri, yr oedd popeth gen laned a’r aur; yr oedd ol dwfr
grisialaidd ar bob peth.  Yr oedd y llian gwyn fel yr eira, yr oedd y
siwgr fel pe’n disgleirio yn y llestr gwydr mawr, taflai’r tân oleuni
rhuddgoch ar gwpanau glân fel y cwrel.  Yr oedd y bara can, yr ymenyn,
a’r caws yn flasus, yr oedd yr hufen yn felyn dew, yn ddigon tew, chwedl
Kilsby, i geiniog nofio ar ei wyneb yn ddi-brofedigaeth.  Ac am y te,
wel, te oedd; nid y drwyth roddir o’m blaen yn aml, trwyth nas gwn ar
ddaear wrth ei hyfed beth sydd yn yr tepot gyda’r dŵr,—pa un ai ffa’r
corsydd ai dail carn yr ebol ai sug tybaco.

Wedi dadluddedu o flaen y tân, bum yn darllen gweithiau S. R. oedd yn yr
ystafell.  Ymgollais yn y rhai hynny hyd nes y daeth gŵr y gwesty i
ddweyd fod y tân bron a mynd allan.  Cefais hanes y wlad ganddo, yn
grefyddol a gwleidyddol yn bennaf, o safle Bedyddiwr Arminaidd.  Cefais
bob manylrwydd hefyd am y ffordd oreu i gyrraedd Pant y Celyn.  Yr oedd
pobl fonheddig o Saeson yn aros yn yr un ty, a thybiwn unwaith, gan eu
bod hwythau’n mynd i’r un cyfeiriad, y medrem gyd-logi cerbyd.  Ond,
erbyn cael ymgom, trwy wr y tŷ, nid oeddynt hwy wedi clywed gair erioed
am Williams Pant y Celyn.  Yr oeddynt wedi clywed llawer o son am Dwm
Sion Cati, ac i chwilio am ei ogof ef yr oeddynt yn mynd.  Pe buasai Twm
Sion Cati yn ei ogof, os gwir pob stori, ni fuasai’r brodyr hyn mor
awyddus am fynd yn agos ati.

Bore drannoeth, nid cyn i fwyafrif pobl Llanymddyfri godi, yr oedd cerbyd
wrth ddrws y gwesty, a gyrrwr ynddo, yn barod i’m cludo tua Phant y
Celyn.  Nid oedd y gyrrwr yn un siaradus; yn wir, pur anodd oedd cael
ystori o hono.  Rhoddodd ei ddistawrwydd fwy o hamdden i minnau edrych
o’m cwmpas, a meddwl am emyn ar ol emyn ddoi i’m cof wrth deithio ymlaen
hyd gynefin ffyrdd y per ganiedydd.  Rhedodd y merlyn, a’i fwng yn yr
awel, hyd y ffordd o’r orsaf i’r dref, heibio i ysgol Llanymddyfri.  Yna
trodd am y gornel tua’r gogledd; gan fynd yn chwyrn trwy’r brif ystryd.
Gadawsom gapel prydferth ar y chwith, capel coffadwriaethol Williams Pant
y Celyn,—capel Saesneg ysywaeth.  Ymhen tipyn, wrth fynd o’r dref i’r
wlad agored, yr oeddym yn pasio adeilad arall.  Ar y dde yr oedd hwn, ac
yr oedd golwg urddasol arno, er gwaethaf ei henaint a’i dlodi.  Gofynnais
i’r gyrrwr a’i hwnnw oedd ty’r Ficer, a dywedodd yntau mai ie.

Dôl werdd lydan a Llanfair ar y bryn i’w weld drosti,—dyna welsom gyntaf
wedi gadael y dref.  Gwyddwn mai yn y Llanfair hwnnw y claddwyd Williams.
Collodd Llanfair ar y bryn o’n golwg, a dilynasom ffordd wastad hyfryd
gydag ymyl y ddôl a than gysgod bryn creigiog.  Daethom i gwm cul, lle’r
oedd yr afon wedi torri ffordd iddi ei hun i adael y mynyddoedd.  Dyma
ddôl wastad eto, a choed o bobtu iddi, lle hyfryd ddigon.  Dacw fynydd yn
codi o’n blaenau; daeth awydd canu drosom,—

    “Ar ddisgwylfa uchel gribog
       Disgwyl ’rwyf er’s hir brydnawn,
    Edrych am yr hindda hyfryd
       ’Nol cawodydd geirwon iawn,
             Ac i’m hysbryd,
       Trwy’r cymylau, weld y wlad.”

Hyd yn hyn yr oedd wedi bod yn bwrw gwlithlaw, ac yr oedd y wlad dan niwl
llwydlas.  Fel yr oeddym yn agoshau at y mynydd hwnnw, daeth awel o’r de,
a dechreuodd y niwl dorri a chilio.  Llawer gwaith y gwelodd yr emynnwr
awyr lâs drwy’r cymylau ar y ffordd hon, a llawer gwaith yr hiraethodd am
dani,—

    “Pa bryd caf deimlo’r awel gref
    Sy’n chwythu i ffwrdd gymylau’r nef,
       I mi gael gweled Salem bur?
    Gogoniant ddwyfol uwch y rhod
    Nas gwelodd llygaid dyn erioed,
       Ac nas mwynheir mewn anial dir.”

Dyma’r ffordd yn troi i’r ochr arall i’r dyffryn; dacw’r afon yn troelli,
ol a gwrthol, fel pechadur yn yr yrfa trwy’r anialwch.  Ond y mae swn
dedwydd yn ei dwndwr, wrth adael ei gyrfa wyllt yn y bryniau a dechreu
llifo’n esmwyth gydag ymyl y ddôl,—

    “Mi deithiais ran o’r anial maith,
    ’Dwy’n deall pellder pen fy nhaith,
       Mewn gwledydd sychion, dŵr nid oedd;
    Yn awr rwy’n disgwyl, fore a nawn,
    O’r nefoedd ddŵr a sypiau grawn,
       Wna’m henaid egwan wrth ei fodd.”

Dacw’r ffordd yn rhedeg yn syth yng nghyfeiriad y mynydd unig hwnnw.  Ni
wyddem beth oedd y bryn yn guddio,—dyffrynnoedd, gwlad wastad, ynte
mynyddoedd uwch.  Dyma drofa yn y ffordd, o honi gwelem draw, heibio’r
mynydd, fynyddoedd ereill, uwch o lawer, heb rif,—

    “Er c’uwch y bryniau uchel fry,
       A swn tymhestloedd tywyll, du.
    A’r holl freuddwydion ofnau sy,
       Anturiaf eto ’mlaen;
    Mae nerth y nefoedd fry yn fwy
    Na myrdd o’u dychryniadau hwy;
    Mae haeddiant dwyfol farwol glwy
       Yndrech na dŵr a thân.”

Gydag inni gael golwg ar y wlad y tu hwnt i’r mynydd, cauodd gorchudd o
wlaw am dani.  Dechreuodd y gwlaw yrru dros y dyffrynnoedd, ac yr oedd y
gwynt yn dolefain wrth ysgubo dros fryn a phant.  Pe buaswn yn hollol
ddieithr i’r wlad, tybiaswn mai dros ryw wastadedd mynyddig, heb ddim ond
pyllau mawn a chrawcwellt ac ambell ddafad esgymun, yr oer anadlai’r
awel.  Ond yr oeddwn wedi cael golwg ogoneddus ar y wlad dan haul nawn y
dydd cynt; a gwyddwn, oddiwrth emynnau Williams, fod ei gartref mewn
gwlad brydferth,—

    “Dyma’r man dymunwn drigo,
       Wrth afonydd gloewon, llawn,
    Syddyn llifo o ddŵr y bywyd
       O las foreu hyd brydnawn,
             Lle cawn yfed
       Hyfryd gariad fyth a hedd.”

Oddiwrth olygfeydd yr ardal hon y cafodd Williams ei liwiau i ddarlunio
gwlad yr hedd,—

       “Mi welaf draw, o bell,
       Baradwys hardd ei gwedd,
    A phrennau llawer gwell
       Yn perarogli hedd;
    O hyfryd wlad, tu draw pob gwae,
    Gwyn fyd gawn heddyw dy fwynhau.”

Ond y mae’r gwynt yn dolefain, a’i swn fel swn cornchwiglen, ond ei fod
yn fwy parhaus ac yn fwy lleddf.  Daethom at le yr oedd yr afon a’r
ffordd yn ymrannu’n ddwy.  Troisom ni ar y chwith i lawr ffordd serth, a
gwelem ffordd union o’n blaenau, a bryn uchel, a chlawdd ar ei draws, fel
cadwen wedi ei thaflu drosto.  Ond ychydig ymlaen fedrem weld, gan y niwl
a’r gwlaw.  Mynych ddymuniad oedd am i’r niwl godi, ac am gael gweled
gogoniant y wlad,—

    “Rwyf yn dechreu teimlo eisoes
       Beraroglau’r gwledydd draw
    Gyda’r awel bur yn hedeg,
       Diau fod y wlad ger llaw,
    Tyrd, y tir dymunol hyfryd,
       Tyrd, yr ardal sydd heb drai.
    Dy bleserau o bob rhywiau,
       Gad im bellach eu mwynhau.”

A chyn bo hir daeth awel eilwaith o’r de, ysgafnhaodd yr awyr, a gwelem
rimin glâs o fynyddoedd pell o’n blaen.  Yr oedd y ffordd erbyn hyn yn
debycach i ffordd dre ddegwm nag i brif-ffordd, yn dirwyn i fyny hyd ochr
bryn serth.  Wrth i ni godi i fyny, yr oedd yr olygfa’n ehangu o hyd, gan
roddi teimladau hyfryd i ninnau, a gwneyd inni feddwl ein bod yn gadael
gwlaw a’r gelltydd serth ar ein hol—

    “Rwyf yn teimlo gwynt y deheu,
       Yn anadlu awel bur,
    Ac yn ysgafn gario f’enaid
       Draw i fryniau Canan dir;
    Aeth y gauaf garw heibio,
       Darfu’r oer dymhestlog wynt;
    Na ddoed mwy’r cawodydd duon
       I fy mlino i megys cynt.”

O’r diwedd daethom i ben yr allt, a chawsom olwg ogoneddus ar y bryniau
dan orchudd ysgafn tyner o niwl.  Llawer gwaith y bu Williams yn syllu
arnynt oddiar y ffordd hon, ac nid rhyfedd fod ei emynnau gore mor llawn
o honynt.

    “Rwyf yn gweled bryniau uchel
       Gwaredigaeth werthfawr lawn,
    O na chawn i eu meddiannu
       Cyn machludo haul brydnawn;
             Dyma’m llef tua’r nef,
       Addfwyn Iesu, gwrando ef.”

Llawer gwaith, wedi taith flinderus, y bu Williams yn edrych tua bryniau
ei gartref oddiar y ffordd uchel hon, ac ar yr eangder o fynyddoedd welem
y tu hwnt iddynt,—

    “Rhwng cymylau duon, tywyll,
       Gwelaf draw yr hyfryd wlad;
    Mae fy ffydd yn llefain allan,—
       ‘Dacw o’r diwedd dy fy Nhad.
                Digon, digon!
       Mi anghofia’m gwae a’m poen.”

Ond nid ydym eto ym Mhant y Celyn, er ein bod yng ngolwg y wlad.  Rhed y
cerbyd yn chwyrn i lawr y bryn, a dyma ni mewn dyffryn cauad coediog,
gyda chapel bychan uwch ben y nant.  Capel Anibynwyr Pentre Tygwyn ydyw,
ac y mae’r dyddiad 1719 arno.  Ni chefais fawr o amser i edrych arno, ond
yr wyf yn cofio gweled bedd Daniel Howells o Lanymddyfri, fu’n pregethu
am bymtheng mlynedd a deugain.

Wedi gadael y pentre bychan hwn, yr oedd rhiw serth o’n blaen; ac erbyn i
mi ddod o fynwent y capel, gwelwn y cerbyd tua hanner y ffordd i fyny’r
rhiw, a’r ceffyl yn gorfod ei dynnu o ochr i ochr, er mwyn lladd yr allt
rywsut.  Deuai un o emynnau Williams i’m cof innau o hyd,—

    “Wel, f’enaid, dos ymlaen,
       ’Dyw’r bryniau sydd gerllaw
    Un gronyn uwch, un gronyn mwy,
       Na hwy a gwrddaist draw;
    Dy angrhediniaeth gaeth,
       A’th ofnau maith eu rhi,
    Sy’n peri it’ feddwl rhwystrau ddaw
       Yn fwy na rhwystrau fu.”

Ond dyma fi wedi dal y cerbyd, ac ar ben y rhiw.  O’n blaen, o bobtu’r
ffordd, yr oedd caeau gweiriog, ac awel esmwyth aroglus yn anadlu
drostynt.  Troisom trwy lidiart ar y dde, a dilynasom ffordd oedd yn
croesi’r cae gwair i gyfeiriad yr afon.  Toc daeth yr afon i’r golwg, a
gwelsom ei bod yn rhedeg gyda godrau’r cae.  Wrth i ni droi gyda’r ffordd
gwelem lwyn o goed o’n blaen, yr oedd coed hefyd yn nyffryn yr afon, a
throstynt oll gwelem y mynydd yn dawel a thlws.  Lle hyfryd, pell o dwrf
y byd, ydyw Pant y Celyn,—

    “Dyma’r man dymunwn aros
       O fewn pabell bur fy Nuw,
    Uwch terfysgoedd ysbryd euog,
       A themtasiwn o bob rhyw;
             Dan awelon
    Peraidd hyfryd tir fy ngwlad.”

Cerddais ymlaen tua’r ty, nid ydyw yn y golwg tan ddeuir i’w ymyl.  Wedi
mynd i mewn i’r buarth, gwelwn o’m blaeu dŷ newydd, gydag un talcen i’r
llechwedd a’r llall at yr afon.  Rhyngddo a’r afon yr oedd glyn bychan
swynol, llawn o goed.  Yn union o’i flaen, i dorri grym y gwynt ac i gadw
pethau, yr oedd hen dŷ to brwyn.  Teimlwn, er nad oedd dim yn darawiadol
iawn yn y ty, fod y fangre’n un hyfryd a tharawiadol iawn.  Eis ymlaen at
y ty, cnociais, a daeth geneth lygat-ddu, rhyw bedair ar bymtheg oed, i’r
drws.  Yr oeddwn wedi gweled y darlun o Williams sydd yn llyfrgell
Abertawe, a theimlwn fod yn rhaid fod yr eneth hon yn perthyn iddo.

                         [Picture: Pant y Celyf]

“Dyn dieithr o’r Gogledd ydwyf,” ebe fi, “wedi dod i weld Pant y Celyn.”

“Chwi gewch ei weld, a chroeso.  Dowch mewn.  Mae’n resyn eich bod yn
cael diwrnod mor wlawog.”

Arweiniwyd fi i mewn, a gwelais fod lletygarwch Cymreig o’r iawn ryw ym
Mhant y Celyn.  Nid oeddynt wedi’m gweled i erioed o’r blaen, ac ni
wyddent a welent fi byth wedyn.  Ond mynnent gael gwneyd te i mi; a phan
wrthodais, daethant a glasiad o lefrith oedd yn gwneyd i mi sylweddoli
dymunoldeb “gwlad yn llifeirio o laeth a mel.”  Arweiniwyd fi i ystafell
Williams, ystafell isel dan drawstiau mawr.  Yr oedd cader Williams yno,
yn yr hon yr ysgrifennodd ei hanes ysbrydol mewn cynifer o ddulliau.
Cynhygiwyd i mi eistedd yn y gader, ond yr oedd rhyw hanner ofn yn
rhwystro i mi wneyd hynny.  Yr oedd IHS,—Iesus hominum Salvator, Iesu
Gwaredwr dynion,—ar galchiad y nenfwd yn yr ystafell fechan unwaith.
Trwy’r ffenestr yr oedd llecyn gwyrdd bychan i’w weled, a’r ty to brwyn
dros ei ben.  Ar ben y grisiau, gwelais gloc Williams, gyda gwyneb o bres
gloew, a thic trwm marw.  Yr oedd yr hen gloc a’r hen gader yn dwyn i’m
meddwl lafur ei oes ryfedd.  Hwyrach fod llawer o’r Diwygwyr yn
bregethwyr mwy nerthol na Williams Pant y Celyn.  Ond ni weithiodd yr un
o honynt yn galetach, ac ni fydd dylanwad yr un o honynt mor barhaol a’i
ddylanwad ef.  Efe, trwy ei emynnau, sydd wedi gwneyd y Diwygiad yn rhan
o fywyd Cymru, ac wedi gwneyd iddo esgor ar ddeffroad cenedl,—deffro i
feddwl ac i fyw.  Fel cydoeswyr Shakespeare yn Lloegr, nid edrychai
cydoeswyr Williams Pant y Celyn arno fel y bardd na’r meddyliwr mwyaf yn
eu mysg.  Barnent ei emynnau gan gofio am anhawsderau
cynghaneddu,—gwaith, o fawr ofal Rhagluniaeth am ddyfodol Cymru, na
cheisiodd efe ei wneyd.  Yr oedd mwy o ramadeg yn emynnau Thomas Jones o
Ddinbych a mwy o gynghanedd yn emynnau’r gŵr rhyfedd athrylithgar o
Ramoth, ond Williams ydyw’r per ganiedydd er hynny.  Clywais fod Dr.
Edwards wedi chwilio am un i ysgrifennu erthyglau ar hymnau Pant y Celyn,
a’i fod wedi gofyn i Eben Fardd ymgymeryd â’r gwaith.  Safodd Eben Fardd
uwch eu pennau fel gramadegydd.  Gwrthododd Dr. Edwards ei feirniadaeth,
a gofynnodd i Wilym Hiraethog sefyll uwch eu pennau fel bardd.  Clywais
ddweyd fod Williams wedi ysgrifennu gormod, ac y buasai’n well iddo fod
wedi aros mwy uwchben ei linellau, i’w gloewi gogyfer a’r beirniad
gor-fanwl byr ei lathen ddeuai gyda’r oes wannach oedd yn dod ar ei ol.
Dyna ddywedir hefyd am Wordsworth, dyna ddywedir am Geiriog,—ac y mae’n
dangos mor ddiwylliedig ac mor fas ydyw tir meddwl y rhai a’i dywed.

Ond dyma wr ty Pant y Celyn.  Diacon gyda’r Anibynwyr ydyw, ac un diddan
iawn ei ystori.  Gwyddai hanes John Penri’n dda, ac yr oedd yn cofio’r
Siartwyr yn y De.  Ond, rhag ofn i mi feddwl ei fod yn rhyw eithafol
iawn, dywedodd, gyda gwên chwareus yn ei lygaid, ei fod yn talu’r degwm
fel yr oen.

Yr oedd hen gloc Pant y Celyn, gyda’i dipiadau trymion, yn mynd mynd ar
ben y grisiau, a gorfod i minnau ymadael heb gael holi ond ychydig iawn.
Ond dymunol i mi oedd teimlo fod teulu’r emynnwr ym Mhant y Celyn o hyd.

Wrth sefyll ger Pant y Celyn, teimlwn fy mod yn cael esboniad ar lawer
emyn.  Ar y llecyn hwn bu Williams, lawer tro, yn teimlo awel y deheu,
fel y teimlaf finnau hi’n awr, ac yn ei chroesawu,—

    “Deuwch yr awelon hyfryd,
       Deuwch dros y bryniau pell,
    Dan eich aden dawel, rasol,
       Dygwch y newyddion gwell;
    Dygwch newydd at fy enaid,—
       Fy enaid innau yno gaed,
    Dedwydd enw’n argraffedig
       Yn yr iachawdwriaeth rad.”

Yma y bu’n disgwyl am y gwanwyn, ac am yr awel dyner o’r de,—

    “Na’d i’r gwyntoedd cryf dychrynllyd
       Gwyntoedd cryf y gogledd draw,
    Ddwyn i’m hysbryd gwan trafferthus
       Ofnau am ryw ddrygau ddaw;
             Tro’r awelon
       Oera’u rhyw yn nefol hin.”

Yma y gwelodd y wawr, lawer diwrnod hyfryd, yn torri ar y mynyddoedd
draw, wedi noswaith o golli cysgu wrth ofni am ei ffydd,—

    “Draw mi wela’r nos yn darfod,
       Draw mi welaf oleu’r dydd,
    Yn disgleirio dros y bryniau,
       Melus yn y man a fydd;
    Ffy gelynion pan ddêl goleu,
       Ni all pechod, er ei rym,
    A’i holl wreiddiau yn fy natur.
       Sefyll haul cyfiawnder ddim.”

O’r llecyn hwn y bu’n gweld y caeau’n tyfu, a’r blodau’n lledu eu
hwynebau i oleuni cynnes yr haul.  Dacw’r llygad dydd ar y weirglodd
brydferth, a’r glaswenwyn, a mantell fair, a’r ben-galed, a chynffon y
gath,—ond

    “Ofer imi weld y ddaear
       Yn egino’i hegin grawn,
    Ofer imi weld yr heulwen
       Fawr yn estyn ei phrydnawn,
    Ofer imi weld y blodau
       Yn datguddio’u dirif liw,
    Tra fo neb rhyw un creadur
       Yn cysgodi gwedd fy Nuw.”

A dacw fynyddoedd yn ymestyn i’r gogledd, i gyffiniau Ystrad Ffin.  Yma y
bu’r hen emynnwr, pan na fedrai deithio mwy, yn canu ei emyn bendigedig
ei hun,—

    “Rwy’n edrych dros y bryniau pell,
       Am danat bob yr awr;
    Tyrd, fy anwylyd, mae’n hwyrhau,
       A’m haul bron mynd i lawr.”

Teimlwn, wrth adael Pant y Celyn, fy mod yn troi’m cefn ar un o lanerchi
mwyaf cysegredig Cymru.  Y mae golygfeydd y fro hon wedi ymddelweddu yn
yr emynnau sydd, yn eu tro, wedi rhoddi eu delw ar feddwl Cymru.  Synnwn
fod golygfeydd Pant y Celyn mor gartrefol i mi; yr oeddwn wedi eu gweled
yn yr emynnau, bob un.  Trwy’r golygfeydd hyn y cafodd Williams y
darluniadau o’r nefoedd sydd, erbyn hyn, yn rhan o freuddwydion ac o
obeithion pob Cymro.  Gwened yr haul arnat byth, ti gartref per ganiedydd
Cymru!

  [Picture: Bedd Williams Pant y Celyn.  Ger eglwys Llanfair ar y bryn]

Cyn y nos, ail gychwynnais o Lanymddyfri, a dringais i fyny i eglwys
Llanfair ar y bryn.  Y mae bedd a chofgolofn Williams wrth ochr Pant y
Celyn i’r eglwys.  Y mae golygfa brydferth oddiar ben y bryn hwn,
oddiwrth y bedd, ar y wlad oddiamgylch; ond ofer fuasai dechreu dweyd
hanes y fro hanesiol hon.  Y mae’r golofn o wenithfaen Aberdeen, ac y
mae’r argraff sydd arni wedi ei godi oddiar y garreg las oedd ar fedd
Williams o’r blaen.

Cyn i mi adael Llanfair ar y bryn daeth un heulwen hyfryd euraidd ar yr
yw ac ar wlith y beddau; ac yn fuan iawn gwelwn yr eglwys a’i bedd yn
diflannu o’m golwg yn y pellder ac yn y gwlaw.

Darllennais emynnau Pant y Celyn wedi mynd adre gyda mwy o flas nag
erioed.  Darllennais hwy droion wedyn, ac yr wyf yn barod i ddweyd gydag
Elfed wrth bob Cymro,—

    Dante—dos i’w ddilyn;
       Shakespere—tro i’w fyd;
    Cofia Bant y Celyn
       Yr un pryd.



BRYN TYNORIAD.


    Yna ganwyd Ieuan Gwynedd—hynaws.
          Ynghanol dinodedd;
       A’i wylaidd swyn hawliodd sedd
       Orielau anfarwoledd.

                                                                —GWAENFAB.

CARTREF Ieuan Gwynedd,—pa Gymro na theimla ei galon yn cynhesu wrth
feddwl am dano?  Yn y cartref tlawd ac anghysbell hwnnw y bu mam bryderus
yn ceisio dysgu ei Hieuan bach bregethu, ac yn agor i’w feddwl
plentynaidd gynnwys rhyfedd ei Beibl Coch,—oedd wedi brynnu gan Charles
o’r Bala ei hun, ac wedi talu am dano bob yn ychydig o’i henillion prin.
Pwy aberthodd fwy dros ei wlad na’r bachgen hwnnw, pwy welodd ddyfodol
Cymru â threm gliriach, pwy ddanghosodd brydferthwch bywyd ei gwerin mor
ddiofn?  A wnaeth rhywun fwy mewn oes mor fer a than gymylau mor dduon?
Naddo, neb.

Ar fore hyfryd yn yr haf diweddaf, cefais fy hun yng ngorsaf fechan y
Bont Newydd, rhyw dair milltir o Ddolgellau.  Aeth y tren ymaith, gan
adael dim ond meistr yr orsaf a minnau.  Ar un ochr yr oedd bryn coediog,
yr ochr arall yr oedd yr afon; a phrin yr oedd digon o le i’r ffordd fawr
a’r ffordd haiarn rhwng yr afon a’r bryn.  Ond dros yr afon yr oedd
ychydig o gaeau gwastad, a bryn coediog arall y tu hwnt iddynt.  Y mae’r
dyffryn ymysg y culaf o ddyffrynnoedd Cymru.  Ger yr orsaf, dyma bont i
groesi afon Wnion.  Y mae golygfeydd swynol i’w gweled oddiar y bont
hon,—mynyddoedd uchel gleision i’w gweled ymhob cyfeiriad dros lwyni o
goed, a’r afon risialaidd yn murmur yn ddedwydd rhwng y bryniau sydd fel
pe’n ymdyrru ati i edrych ar ei thlysni.  Gwlad goediog garegog ydyw hon,
y mae’n amlwg, a glynnoedd llawn o ir-gyll a rhedyn.

Ond rhaid peidio aros ar y bont.  Dyma ffordd deg, rhwng gwrychoedd cyll,
a rhosynau gwylltion claerwyn fel pe’n gwylio’r teithwyr anaml.  Ar
ochrau’r ffordd y mae blodau gwylltion lawer, y llysiau mel tal aroglus,
a gwawr felen ar eu gwynder; clychau’r gog gwelw-leision, rhyfeddod i
blentyn; a’r ben-galed arw, gyda’i thegwch cartrefol.  Ie, ar y ffordd
deg hon, ac ymysg y blodau hyn, y treuliodd y plentyn Ieuan Gwynedd lawer
o ddiwrnodau haf ei blentyndod.

Ond dyma’r Ty Croes yn ymyl.  Ydyw, y mae yn union fel y darlunia Ieuan
ef pan yn hiraethu am ei fam a bore oes.  Y mae ei dalcen atom, a’i wyneb
gwyngalchog i’r ffordd.  Dacw’r dderwen lydanfrig ar ei gyfer, dacw’r cae
porfa o flaen y drws, dacw’r pistyll bach mor glir a phan gyrchai
Catharin Evans ddwfr o hono a phan geisiai Ieuan Gwynedd gydio ynddo pan
yn ddwyflwydd oed.  “Cawsant ran y cyffredin o lafurwyr a mân amaethwyr
Cymru,” ebe Ieuan am ei fam a’i dad.  “Ni buont heb y fuwch yn y beudy,
yr ychydig ddefaid yn y Cae Porfa, na’r pistyll gloew grisialaidd o flaen
y drws drwy yr amser.”  Mewn ychydig funudau croesir y cwm o fryn i
fryn,—ond mor ddyledus ydyw Cymru i’r fangre fach!  Yn y bwthyn hwn y
bu’r bachgen yn darllen ychydig lyfrau ei dad,—Grawn Sypiau Canan, Taith
y Pererin, Llyfr y Tri Aderyn, Ffynhonnau yr Iachawdwriaeth, yr Ysgerbwd
Arminaidd, Bardd Cwsg,—a Beibl Coch ei fam.  Dyma’r garreg olchi; oddiar
ei phen y bu’r plentyn yn pregethu i’r dderwen fawr a’r pistyll,—blaenor
ac arweinydd y gân.  Ac yn rhywle yn ymyl y mae’r llannerch lle syrthiodd
ar ei liniau dan argyhoeddiad i weddio, llannerch yr ymwelai â hi bob tro
y deuai i edrych am ei fam.  Yma y dadblygodd ei feddwl, dan arweiniad
cariadus ei fam; oddiyma yr aeth yn fachgen ieuanc i ymgodymu â holl
gyfyngderau myfyriwr tlawd; yma y bu, yn Ionawr, 1849, yn edrych ar wyneb
ei fam cyn y wylnos,—yn awr heb na gair na deigryn fel y bu.  Pell y bo’r
dydd yr anghofio Cymru y fam hon a’r mab hwn.

“Faint o ffordd sydd oddi yma i Fryn Tynoriad?” ebe fi wrth wraig oedd yn
sefyll gyda dau blentyn wrth y drws.  Dywedai fod siwrne hir i fyny i
gyfeiriad pen y Garneddwen, hyd ffordd y Bala.  Bu dadl rhyngof a’r
bachgen bach am oed Ieuan Gwynedd pan symudodd ei rieni o’r Bryn Tynoriad
i’r Ty Croes.  O’r diwedd dywedai fod ganddo lyfr setlai’r cwestiwn,
llyfr oedd ei frawd hynaf, sydd yn gwasanaethu yng Nghwm Hafod Oer, wedi
ei yrru iddo.  Aeth i’r ty, a daeth a rhifyn o _Gymru’r Plant_ yn
fuddugoliaethus, i roi taw arnaf.

Cychwynnais hyd ffordd dan y coed tua Bryn Tynoriad.  O’m blaen yr oedd
Dôl Gamedd, ar fryn, yn debycach o bell i dy Elizabethaidd neu fynachlog
na dim arall.  Oddiyno cefais lwybr troed i lawr y cae a thrwy goedwig
fechan i’r ffordd haiarn.  Cerddais ennyd hyd hon, gan ryfeddu at
ddistawrwydd ac unigedd gwaelod y cwm, lle nad oedd prin le i’r afon a’r
ffordd.  Toc gwelwn feudy megis pe’n edrych arnaf dros ochr rugog y
ffordd.  Dringfais i fyny ato, a gwelais gaeau, yn lle coedwig fel o’r
blaen.  Dechreuais ddringo i fyny.  Yr oedd y distawrwydd yn teyrnasu o
hyd, oddigerth fod swn carnau meirch carlamus yn dod o’r ffordd islaw.
Ond wele wlad fawr boblog yn ymddangos wrth i mi ddringo i fyny, ffermydd
laweroedd a beudai, a chynhaeaf gwair prysur.  O gwmpas y cylch o
ffermydd yr oedd cylch pellach ehangach o fynyddoedd ysgythrog, a gwelwn
Gader Idris yn codi’n bigfain i’r niwl tua’r de.  Ni fum mewn lle
hyfrytach erioed nag ar ben y banciau hyn.  Aberoedd grisialaidd,
ffrwythau addfed, arogl gwair sych cynhauafus, awel y mynydd ac awel y
môr,—dyma le i’r gwan gryfhau.  Ar ein cyfer dacw’r Hengwrt Ucha; a thraw
ar fin y mynydd, uwch ei ben, dacw’r Blaenau, cartref Rhys Jones,
cynhullydd “Gorchestion Beirdd Cymru.”  Ymhellach fyth y mae’r Rhobell
gawraidd yn edrych i lawr ar y llethrau a’r dyffryn.

Cefais ymgom ddifyr â llawer amaethwr y diwrnod hwnnw.  Dywedent fel y
byddai pawb ar ei dir ei hun unwaith,—Pant y Panel, Coed Mwsoglog, Coed y
Rhos Lwyd, Maes y Cambren, Brith Fryniau, a llu ereill,—oll erbyn heddyw
wedi eu gwerthu i dir-feddiannwr mawr.  Sylwais gymaint yn dlysach oedd
yr hen dai na’r tai sydd newydd eu codi; ond nid oedd amser i holi beth
oedd y rheswm.

Heibio llawer cartref dedwydd, a phawb ond y plant a’r cwn yn prysur
gario gwair, cyrhaeddais Esgair Gawr.  Yr oedd y cerdded hyd ael y
bryniau a thrwy’r coed wedi codi mawr eisieu bwyd arnaf.  Cefais lawer
gwahoddiad gan y ffermwyr caredig i droi i mewn “i gael tamaid,” ond yr
oeddwn yn cadw fy hun at y te oedd yn Esgair Gawr.  O’r cartref croesawus
hwnnw cefais ffordd hyfryd, dros gaeau a than goed, i Fryn Tynoriad.
Gwelais y llyn lle y bu ond y dim i Ieuan Gwynedd foddi cyn bod yn ddwy
flwydd oed,—ond anfonodd Rhagluniaeth ryw ffermwr yno mewn pryd.  Y mae
Bryn Tynoriad yn agos iawn i ben y Garneddwen,—y mynydd sy’n gwahanu
dyffryn y Ddyfrdwy oddiwrth ddyffryn yr Wnion.  Y mae’n bur neilltuedig,
mewn cwm main, a gelltydd coediog bob ochr.  Yn awr y mae’r ffordd haiarn
yn mynd heibio iddo, a gorsaf Drws y Nant ychydig yn nes i lawr.  Ond
unig a thawel ydyw eto.  Y mae dwy aden i’r ty, a chanol, y canol yn dy
annedd, a’r adenydd yn ysgubor a beudy.  Wrth ei gefn y mae coed a ffridd
serth y Celffant.  O’i flaen y mae cae bryniog dymunol.  Oddiar y cae
gwelir yr Wnion fechan islaw, a’r Wenallt goediog ar gyfer.  Gwelir
agoriad rhwng y mynyddoedd i gyfeiriad y Bala, dros ddraenen y cymerodd
rhywun lawer o ofal gyda’i thyfiant.

Ond gadewch i ni fynd i’r ty.  Y mae ynddo wraig garedig, siaradus, a
doniol dros ben,—Anibynwraig bid siwr.  Awn i fyny gris neu ddwy, a
dyna’r gegin ar y dde.  Llawr tolciog ydyw, wedi ei lorio â cherrig
bychain.  Yr oedd yna dân braf o dan y simnai fawr, a’r tegell yn berwi
ar gyfer y cynhauafwyr gwair,—yr oedd y gwlaw wedi gorchuddio’r fro erbyn
hyn, a’r gwair mewn diddosrwydd neu ar y cae.

Ac yma y dysgodd Ieuan Gwynedd gerdded.  Nid oedd yn cofio llawer am y
lle; ond yr oedd yn cofio’r diwrnod mudo i’r Ty Croes, er nad oedd yn
ddwyflwydd oed, oherwydd ei fod wedi medru cario “ystôl mam” ar draws yr
aelwyd.  Ac ar yr aelwyd hon y suwyd ef gan ei fam, y magwyd ef gan ei
dad, ac y cusanwyd y “bachgen bach” gan ei frawd.  Danghoswyd y “siamber”
imi hefyd, yr ochr arall i’r drws, lle ganwyd Ieuan.

                                * * * * *

Ryw dro bu ef ei hun yn edrych ar fan ei eni.  “Amgylchais y ty yn ol ac
ymlaen.  Chwiliais am le y ffenestr o flaen pa un y’m ganesid; ac fel yr
oeddwn yn myned ol a blaen o gylch y fan, teimlwn fel na theimlais erioed
o’r blaen.  Dyna y llannerch lle y dechreuaswn fyw.  Yno ym
brys-fedyddiwyd rhag fy marw’n ddi-fedydd, a chael yr helbul o fy
nghladdu yn y nos ym mynwent Dolgellau, yr hon oedd dros saith milltir o
ffordd o’r lle.  Yno y gorweddaswn i a fy mam am oriau, a’r bobl yn
disgwyl i ni farw am y cyntaf; ac yno y cyneuwyd ynnof y ganwyll yr hon
na losga tragwyddoldeb allan.  Yno y dechreuaswn fyw, yno y dechreuaswn
farw.  Yno y dechreuais fy llwybr i’r wybrennau, ac yno y dechreuais fy
ffordd i’r bedd.”

                                * * * * *

“Ffordd i’r bedd,” a’r diwedd yn y golwg yn ddigon aml, oedd bywyd byr a
brau Ieuan Gwynedd.

Ymysg y gwladgarwyr newidiodd wedd meddwl Cymru yn y blynyddoedd
diweddaf, nid y lleiaf oedd ef.

Gwnaeth gymaint am fod ei fywyd mor debyg i fywyd ei frodyr, tra yr oedd
amcanion y bywyd hwnnw mor anrhaethol uwch.  Plentyn Cymru oedd ym mhob
peth,—ar y Beibl y cafodd ei fagu, sel dros ddirwest ddeffrôdd ei enaid,
awydd angerddol am wybodaeth wnaeth iddo fyrhau ei ddyddiau o fyfyrdod
tlawd a gwaith amhrisiadwy.

Dyhead ei fywyd oedd gweled Cymru’n lân ac yn rhydd; yn lân oddiwrth
bechod, a’i mheddwl yn anibynnol ar bawb ond ar ei Duw.  Ond er mor
chwerw oedd yn erbyn ei phechodau, ni fedrai oddef i neb ei chamddarlunio
a’i gwawdio, fel y dengys ei ysgrifau miniog yn erbyn bradwyr y llyfrau
gleision.

Fel ysgrifennydd y gwasanaethodd Gymru oreu.  Yr oedd ei sel,—a’i
afiechyd, efallai,—yn ei wneyd yn chwerw weithiau at ei wrthwynebwyr, ond
maddeuir pob gair garw pan gofir am ei lafur llethol gyda’r _Adolygydd_,
a chyda’r _Gymraes_ yn enwedig.  Gwelodd mor bwysig oedd merched Cymru;
gwyddai y medrent hwy newid y ffasiwn o ddirmygu iaith eu gwlad.  Gwelodd
fod ar feddwl Cymru eisieu sylfaen o wladgarwch oleuedig, a buasai wedi
ysgrifennu llyfr ar hanes Cymru pe tebyg y rhoddasai ei gydwladwyr
groesaw iddo.



TREFECA.


    “Dyma’r fan, tr’wy byw mi gofiaf,
       Gwelais i di gynta erioed,
    O flaen porth yr eglwys eang
       Heb un twmpath dan dy droed,
    Mewn rhyw ysbryd dwys sylweddol,
       Fel yng ngolwg dydd a ddaw,
    Yn cynghori dy blwyfolion,
       A dweyd fod y farn ger llaw.”

                        [Picture: Eglwys Talgarth]

A DYMA’R eglwys lle gorwedd Howel Harris, udgorn y Diwygiad!  Yn yr
eglwys acw yr argyhoeddwyd ef, a rhoddwyd ef i orwedd lle y clywodd lais
Duw yn cynnyg trugaredd iddo.  A dacw’r fan lle pregethai pan basiodd
William Williams, ar ei ffordd adref o’r ysgol i Bant y Celyn.  Bore
gofiwyd byth gan William Williams oedd hwnnw,—

    “Dyma’r boreu, byth mi gofiaf,
       Clywais innau lais y nef;
    Daliwyd fi wrth wys oddiuchod,
       Gan ei swn dychrynllyd ef.”

Ychydig o lanerchi ar ddaear Cymru sydd mor gysegredig i deimlad Cymro
a’r llannerch hon,—lle gwelwyd apostol cynhyrfus y Diwygiad yn pregethu
argyhoeddiad i emynnwr y Diwygiad.

Llannerch dawel, brydferth ydyw.  Y mae ar ychydig o godiad tir, a
dringir iddi o dref fechan Talgarth welwn o bobtu i aber Enig a helyg ac
ysgaw rhyngom a hi.  Y mae golwg hyfryd ar y wlad oddiamgylch, saif cylch
o fynyddoedd gwyrddleision fel gwylwyr uwchben y fynwent, a chyfyd tŵr
ysgwar yr eglwys i fyny’n uchel ac yn hyf, i ddangos yspotyn mwyaf
cysegredig y fro ddyddorol a phrydferth hon.  Y mae’n bedwar o’r gloch ar
gloc yr eglwys, ac y mae distawrwydd adfywiol nawn haf wedi disgyn, fel
gwlith, ar y wlad ffrwythlawn dyfadwy.  Y mae rhyw orffwys breuddwydiol
yn meddiannu f’enaid innau wrth neshau at y fynwent; a su hen
ddigwyddiadau, fel ysbrydion llawer cnul a llawer claddfa, yn llenwi’r
distawrwydd ar nawn haf.  Y mae hud dros bopeth, prin y mae digon o natur
beirniadu ynnof i gael poen oddiwrth y cerrig beddau di chwaeth, gyda’u
llythrennau efydd, sydd ym mhlith hen gerrig mwsoglyd y fynwent.  Sefais,
ar ddamwain, cyn dod at borth yr eglwys, a disgynnodd fy ngolwg ar enw
Howel Harris.  Carreg fedd ei dad oedd.  Ar hon y dywedir fod Howel
Harris yn pregethu pan safodd Williams Pant y Celyn wrth fynd heibio, i
glywed ei alwad ef ei hun.  Y mae’r llythrennau mor berffaith ag oeddynt
pan safai Howel Harris, os safai hefyd, ar y garreg i gyhoeddi ei
newyddion rhyfedd.  Yr oedd gwirioneddau’r byd tragwyddol mor fyw o’i
flaen ef fel mai prin y sylwai, hwyrach, ar yr olygfa o’i gwmpas.
Eneidiau anfarwol, nid mynyddoedd a lamant fel hyrddod a bryniau a
branciant fel ŵyn defaid, a welai ef.  Ond maddeuer i mi, o gyneddfau
gwannach a chyda llai o ddychymyg, am syllu ar yr olygfa.  Y mae’n araf
godi o’m blaen, fel yr oedd y diwrnod y daliwyd yr emynnwr â gwys oddi
uchod.  Dacw Howel Harris ar y garreg fedd, a’i lais yn ddychryn i’r
dyrfa sy’n gwelwi o’i flaen.  Dacw wr ieuanc ar ei ffordd adref o’r ysgol
wrth ddrws y fynwent, yn gwasgu’n agosach i gwr y dorf, ac yn colli golwg
arno ei hun wrth wrando, mewn syndod a dychryn, ar y llais taran hwnnw.
O flaen y pregethwr y mae chwech o yw mawreddog,—y maent yno eto yn eu
duwch wylofus,—a thref Talgarth.  Uwchben dacw’r Mynydd Du; ac o amgylch
y mae bryniau blodeuog ardal sydd ymysg ardaloedd tlysaf Cymru.

Ni raid myned ymhell i gael hanes olaf y pregethwr gynhyrfodd fwyaf ar
Gymru o’r holl bregethwyr fu yng ngwlad y pregethu erioed.  Eis ymlaen
trwy’r fynwent, ac at ddrws yr eglwys.  Y mae’r eglwys yn isel a llydan;
ac yn drymaidd iawn y tu mewn.  Cerddais yng nghyfeiriad y côr, a gwelwn
ysgrifen hanes Howel Harris ar garreg.

Gwelais lawer carreg fedd mewn llawer gwlad mewn llawer lle
rhyfedd,—gwelais y garreg ar fedd gwag Dante, gwelais fedd Chateaubriand
mewn craig yn nannedd y tonnau, gwelais feddau rhai enwog mewn eglwysi
mawrwych,—ond ni theimlais gymaint yn unlle ag yn eglwys drymaidd dywell
Talgarth.  Hyfryd i Howel Harris oedd huno lle y clywodd y bywyd newydd
yn ymweithio yn ei enaid.  Teimlwn fod mwy na bedd yn eglwys Talgarth;
teimlwn fy mod ar lecyn genedigaeth Cymru newydd.  Beth bynnag arall
fedrir ddweyd am ei hyawdledd ac am ei athrylith, ac am ei gynlluniau
rhyfedd, gellir priodoli deffroad Cymru, o gwsg oedd yn marweiddio ei
nherth cenhedlaethol, iddo ef yn fwy nag i neb arall.

Ond y mae ychwaneg na’i hanes ef ar y garreg, digon i’m hadgofio am y
teimladau daiarol,—teimladau ag arlliw y nef arnynt,—oedd mor gryf yn ei
enaid.  Ar ei deithiau pregethu, yn ei weddiau, yn ei freuddwydion, yn ei
ofnau, y mae un nad enwa yn bresennol yn barhaus.  Bum yn darllen ei
lythyrau ati, a’r cynnyg priodas.  Wedi hanes yr ymserchu a’r ofni,—stori
sydd mor hen, ac mor newydd,—dyma ei hanes olaf hithau, wedi siarad am yr
lesu â’i hanadl olaf.

Mewn awr hamddenol, ryw dro, cesglais lythyrau caru dyddorol.  Yn eu mysg
yr oedd un oddiwrth Nathaniel, mab Daniel Rowland, at ferch Howel Harris.
Y mae yma air o’i hanes hithau, unig blentyn eu gofal, ar waelod y
garreg.

Cwsg yn hyfryd, apostol Cymru,—

    “Cwsg i lawr yn eglwys Talgarth,
       Lle nad oes na phoen na gwae;
    Mi gai godi i’r lan i fywyd,
       Sy’n dragwyddol yn parhau.”

Cawsom fwynhau golygfeydd prydferth ac awel nawnol yn suo dros gae o
feillion peraroglus wrth gerdded y filldir sydd rhwng Talgarth a
Threfeca.

             [Picture: Trefeca.  Yr ochr agosaf at Dalgarth]

A dacw Drefeca yn y golwg.  Ymgyfyd fel llinell hir o gestyll a thai
diwedd y Canol Oesoedd, dros gaeau gweiriog.  Oni bai am y capel hyll ar
y chwith, buasai’n adeilad tarawiadol a phrydferth iawn.  Yma, mewn
tawelwch, y treuliodd Howel Harris y rhan fwyaf o’i oes.  Wedi’r
ymrafael, pan welodd ei fod yn colli gafael ar y dychweledigion drowd
trwy ei weinidogaeth ef ei hun, gadawodd ei bregethu teithiol, ac
ymneillduodd i’w gartref, gan wneyd Trefeca yn gartref i bawb hoffai
adael ei fro a dyfod i gydweithio ac i gyd-addoli.  Ffurfiai’r holl gwmni
un teulu, yr oedd eu heiddo’n gyffredin, ac yr oedd cynilun eu bywyd yn
debycach i freuddwyd rhyw athronydd nag i gynllun yn cael ei weithio
allan gyda brwdfrydedd a llwyddiant.  Tuag at gadw cymdeithas fel hyn
gyda’i gilydd yr oedd eisiau mwy na chrefydd a hyawdledd, yr oedd eisieu
medr anghyffredin mewn trin dynion.  Nid oes odid i ddim yn hanes Cymru
mor ddyddorol ag ymgais Howel Harris i sylweddoli, rhwng bryniau Cymru,
gynllun yr eglwys yn nyddiau yr apostolion.  Yng ngwyneb pob
anhawsderau,—diogi, ymrysonau, gwrthgiliad, priodi anghydmarus ymysg
aelodau’r teulu,—yr oedd Trefeca dan Howel Harris yn llwyddo ac yn
blodeuo.  Bu’n fwy llwyddiannus, hwyrach, na’r un a geisiodd sefydlu
cymdeithas o’r fath.  Yn grefyddwyr, yn filwyr, yn weithwyr,—enillodd
“Teulu Trefeca” barch ac edmygedd rhai wawdiai, ar y cyntaf, y syniad o
godi mynachlog yn Nhrefeca.  Ebe Williams Pant y Celyn,—

    “Pam y treuliaist dy holl ddyddiau
       I wneyd rhyw fynachlog fawr,
    Pan y tynnodd Harri frenin
       Fwy na mil o’r rhain i lawr?
    Diau buasit hwy dy ddyddiau,
       A melusach fuasai’n ’nghân.
    Pe treuliasit dy holl amser
       Yng nghwmpeini’r defaid mân.”

Nid yn aml y cofir mai ychydig o’i oes roddodd Howel Harris i bregethu.
Cwestiwn ei frodyr oedd,—

    “Pam y llechaist mewn rhyw ogof,
       Castell a ddyfeisiodd dyn.
    Ac anghofiaist y ddiadell
       Argyhoeddaist ti dy hun?”

Ond ffurfio “teulu,” tebyg, i’r eglwys yn adeg yr apostolion, oedd ei
amcan ef; a gwastraffodd ar Drefeca y llafur yr oedd holl Gymru yn dyheu
am dano,—

    “Ai bugeilia cant o ddefaid,
       O rai oerion, hesbion, sych,
    Ac adeilo iddynt balas
       A chorlannau trefnus gwych,—
    Etyb seinio pur Efengyl,
       Bloeddio’r Iachawdwriaeth rydd,
    O Gaerlleon bell i Benfro,
       O Gaergybi i Gaer Dydd?”

Dyma ni’n troi o’r ffordd, ar hyd rhodfa trwy gae gwair, at wyneb y
coleg.  O’i flaen y mae coed bytholwyrdd lawer; ac y mae golwg henafol ar
yr holl adeilad mawr di drefn, ar ei ffenestri crynion tyrog, gyda’r cloc
a’r lantar yn sefyll uwchben y cwbl.  Aethom heibio’r wyneb, a thrwy
ddrws yn yr ochr i ystafelloedd bychain, ond hynod ddiddos a chysurus.
Wedi hwyr-bryd blasus, digwyddais edrych ar nenfwd wyngalchog yr ystafell
yr eisteddem ynddi, a gwelwn enw Jehofah mewn llythrennau Hebraeg uwch
ein pen.  Dywedodd yr athraw wrthyf mai yn yr ystafell hon yr arhosai
Countess Huntingdon pan ar ymweliad â Howel Harris, ac y mae’n sicr fod
arddeliad mawr wedi bod ar lawer dyledswydd deuluoidd yn yr ystafell
gysegredig.

                   [Picture: Trefeca.  Rhan o’r wyneb]

Treuliais amryw ddyddiau dedwydd yn Nhrefeca.  Crwydrwn, wrth f’ewyllys,
drwy’r ystafelloedd lluosog, fu unwaith yn gartref i “deulu” rhyfedd
Howel Harris.  Teimlwn fod Trefeca yn gynllun o goleg,—mewn lle iach
tawel.  Hen weithdy’r “Teulu” ydyw un o’r ystafelloedd darlithio, a
danghoswyd i mi dwll trwy yr hwn y gallai Howel Harris weled, yr adeg a
fynnai, pa fodd yr oedd pethau’n mynd ymlaen yn y gweithdy.  Y mae’r
llyfrgell yn cynnwys un o’r casgliadau goreu o lyfrau Cymraeg welais
erioed; casglwyd hi, yr wyf yn meddwl, trwy lafurus gariad y Parch.
Edward Matthews.  Cynhwysa hefyd ddyddiaduron a llythyrau Howel Harris, a
llawer o lythyrau ereill deifl oleuni dyddorol iawn ar gynlluniau a
gwaith Howel Harris.

                                * * * * *

Nid oes fawr o ffordd o Drefeca i Lyn Safaddan.  Llecyn mwyn ydyw’r llyn
hwn, treuliais ddiwrnod hyfryd ar ei ddyfroedd.  Croesasom ef droion a
gadawsom i’r cwch sefyll ymysg yr hesg tal sy’n tyfu o waelod y llyn
tra’r oeddym yn gwylio’r eleirch ac yn mwynhau’r golygfeydd oedd wedi
ymddelwi yn y dyfroedd clir.  Dyma le tawel, lle wrth fodd y myfyrgar,
dan gysgod Mynydd Troed, ac o fewn ychydig i gyrchfannau miloedd glowyr y
Deheudir.  Tra’n mwynhau’r awelon hafaidd, cofiwn am y traddodiad sydd
ynglŷn a’r llyn,—fod ei ddyfroedd yn cuddio dinas bechadurus suddodd i’r
ddaear dan bwys ei drygioni.

Gadewais Drefeca yn blygeiniol, ac yr oedd awel iach y bore yn gwneyd fy
meddwl yn ddigon effro i gofio darluniad Williams adeg marw Howel
Harris,—

    “Mi af heibio i’r palas euraidd
       Sydd â’r angel ar ei ben,
    ’Drychaf ar y castell cadarn
       Sy a’i begynau yn y nen;
    Ac mi rof ochenaid ddofon,
       Gan ryw synnu ynnwyf f’hun,
    Fel mae’r nef yn trefnu ei throion
       I ddiddymu dyfais dyn.

    “Er cadarned yw’r adeilad,
       Ac er teced yw ei wedd,
    Y mae’r perlyn goreu ynddo
       Heddyw’n gorwedd yn ei fedd
    Ac nis gwel e mwy mo hono
       Fel y gwelodd ef o’r bla’n,
    Hyd y dydd bo’n cael ei losgi
       Gyda’r byd yn danllwyth dân.”

                    [Picture: Steps leading to house]



CAER GAI.


Y MAE’N ddiameu mai Gwerfyl Fychan ac Ann Griffiths ydyw dwy brydyddes
oreu Cymru.  Yr oedd Gwerfyl yn byw yn amser adfywiad dysg, a rhoddodd ei
hathrylith ar waith i weu caneuon aflendid,—ac y mae bron a medru gwneyd
yr aflan yn brydferth.  Yr oedd Ann Griffiths yn byw yn amser adfywiad
crefydd, a daeth emynnau pur o’i chalon fel dwfr glân o ffynnon y mynydd.

Y mae’r ddwy wedi eu claddu,—ac fel y mynnai pethau fod, yn yr un fan.
Yn Llanfihangel yng Ngwynfa y claddwyd Gwerfyl Fychan hefyd,—y mae’r un
ymddigrifodd mewn meddyliau cnawdol yn huno ochr yn ochr â’r hon
ymhyfrydodd mewn meddyliau sanctaidd.

Saif Caer Gai ar fryn uwch pen gorllewinol Llyn Tegid, a haul y bore’n
tywynnu arno’n gynta man.  Y mae traddodiadau boreuaf ein hanes ynglyn âg
ef.  Ar y dolydd islaw iddo, meddid, y cafodd Arthur ei addysg.  Bu’n
balas Rhufeinig; ac aml iawn y cwyd swch yr aradr briddfaen Rhufeinig,
neu garreg fedd rhyw filwr, neu ddarn arian a delw ymherawdwr arni, neu
ddarn o lestr loew goch.

Mewn amser diweddarach yr oedd yn gartref y Fychaniaid.  Y mae darnau o
brydyddiaeth Gwerfyl yn nofio ar gof gwlad eto.  Gŵyr pawb am yr hen
frenhinwr pybyr Rowland Fychan, cyfieithydd yr _Ymarfer Duwioldeb_.  Ond
gŵyr yr efrydydd am aml Fychan arall hyddysg mewn cywydd ac englyn.

Wrth rodio’r hen fynedfa i fyny at Gaer Gai, er cymaint o feddyliau ddaw
am hanes ein cenedl, rhaid syllu ar fawredd rhyfeddol y fro.  Y mae cefn
mawr llwm yr Aran tuag atom, y mae’r Garneddwen yn gorwedd yn isel rhwng
ei chwiorydd cawraidd, a gwga olion hen gastell Carn Dochan oddi ar gopa
craig serth ysgythrog ar ein cyfer.  Odditanom cwsg dyfroedd gloew Llyn
Tegid, ac ar ein cyfer, dros y dŵr, y mae bryniau gwyrddion uchel groesid
gynt gan ffordd Rufeinig.  Mae’r gerddi’n aros ar y llecyn heulog, ac y
mae pantle’r ffos yn amlwg; ond ni chlywais erioed hanes cloddio i
chwilio am drysorau neu feddau y Rhufeinwyr fu yma gynt.

Y ty adeiladodd Rowland Fychan, ond wedi ei adgyweirio ymron drwyddo,
sydd yno’n awr.  Y mae geiriau yr hen frenhinwr selog wrth ben y drws,—

    “Rho glod i bawb yn ddibrin,
       A châr dy frawd cyffredin;
    Ofna Dduw, cans hyn sydd dda,
       Ac anrhydedda’r brenin.”



CEFN BRITH.


                          [Picture: Cefn Brith]

    “Os anghofiaf di, Jerusalem, anghofied fy neheulaw ganu.  Glyned fy
    nhafod wrth daflod fy ngenau oni chofiaf di, oni chodaf Jerusalem
    goruwch fy llawenydd pennaf.”—SALM cxxxvii. 5–6.  Ar wynebddalen
    “Supplication” John Penri dros Gymru.

YR oedd cyfaill i mi unwaith yn cyd-deithio yn y tren â’r diweddar Barch.
J. Kilsby Jones, o Lanfair Muallt i Lanwrtyd.  Ymhen tipyn wedi gadael
Llechryd, dyma Mr. Jones yn tynnu ei het, ac yn dweyd,—“Yr ydym yn awr ar
dir clasurol.  A welwch chwi’r llwyn o goed acw?  Dacw Gwm Llywelyn.  A
welwch chwi’r ty ar ochr y bryn i fyny acw?  Dacw’r ty y ganwyd John
Penri ynddo.  John Penri a ddywedodd wrth yr Ymneillduwyr am fynd i’r
Amerig.  Ie, yn y bwthyn acw y ganwyd y syniad am weriniaeth fawr y
Gorllewin.”

Y mae’n sicr mai’r awydd am ryddid cydwybod,—yr awydd gafodd John Perni’n
ferthyr iddo,—a roddodd fod i’r weriniaeth fawr honno.  Ond nid am yr hyn
a wnaeth Penri i’r Weriniaeth nas gwelsai ond trwy ffydd, nid am hynny y
meddyliwn wrth ddisgyn yng ngorsaf Llangamarch ym mis Gorffennaf
diweddaf, eithr am yr hyn a wnaeth dros Gymru, cyn rhoddi ei fywyd ieuanc
i lawr drosti am bump o’r gloch y prydnawn, ar y nawfed dydd ar hugain o
Fai, 1593.

Y mae ardal Llangamarch yn un o’r ardaloedd mwyaf mynyddig yng Nghymru,
er nad yw Mynydd Epynt a mynyddoedd Aber Gwesin mor uchel a’u brodyr sy’n
sefyll rhyngddynt a gwynt ac eira’r gogledd.  Wrth fynd tua Llangamarch o
Fuallt yr oeddym yn dringo i fyny o hyd, yng nghyfeiriad y mynyddoedd
sy’n derfyn rhwng dyffrynnoedd yr Wy a dyffrynnoedd y Tywi.  Teithiem i
fyny dyffryn yr afon Dulais, un o ganghennau’r Wy; o bobtu i ni yr oedd
rhes o fynyddoedd, a gwlad fryniog rhyngddynt, a thai ar y bryniau.
Dyma’r tren yn aros ar lethr y dyffryn, mewn man cul arno.  Ar y llaw dde
y mae eglwys ar ochr y bryn, yr eglwys lle mae claddfa Cefn Brith, a’r
eglwys lle’r huna Theophilus Jones, hanesydd Brycheiniog.  I lawr
odditanom, ar y chwith, y mae’r Ddulais dryloew ond yn rhy bell i lawr i
ni glywed ei dwndwr ar ei cherrig a’i graian.  Cerddais i lawr o’r orsaf,
a sefais ennyd ar y bont sy’n croesi’r afon brydferth.  Tra’r oeddwn yn
edrych i fyny’r afon ar y glennydd coediog, ac ar y mynyddoedd oedd draw
dan eu gorchudd llwyd o wlaw, clywn swn troed trwm, swn rheolaidd fel swn
troed rheng o filwyr.  Heddgeidwad oedd yno.  “Rhagluniaeth a’i hanfonodd
yma,” meddwn wrthyf fy hun, “daeth i’r dim, caf ei holi am y ffordd.”

“Wr braf,” meddwn wrtho, “a welwch chwi’n dda gyfarwyddo dyn dieithr i
Gefn Brith?”

“I don’t know what you say, you should speak English.”

“Mae hynny’n orthrwm mawr,” meddwn innau, “na chawn siarad Cymraeg â
swyddogion cyflog mewn lle mor Gymreig a Llangamarch.”  Ffordd bynnag, er
siarad Saesneg âg ef, a Saesneg llawer gwell na’i Saesneg ef hefyd, ni
chefais ddim gwybodaeth ganddo.  Gwelais yn eglur mai nid Rhagluniaeth
wnaeth hwn yn heddgeidwad, ond prif-gwnstabl Seisnig.  A rhyfeddwn yn
fawr fy mod wedi camgymeryd gwaith y naill am waith y llall.  Ar ororau’r
Deheudir y mae llawer o syniadau hen ddyddiau’r Lords Marchers eto’n
aros, tybir gan yr awdurdodau mai llywodraethu’r Cymry yw eu gwaith, ac
nid eu gwasanaethu.  Ac y mae gormod o’u hen waseidd-dra yn y Cymry hyn
eto, mwy o ofn plismon anwybodus o Sais nag o ofn Cymro gonest a
chydwybodol.  Ond tybed, er hyn, mai Sais uniaith ddylai ofalu am heddwch
Llangamarch?

O’r bont cerddais i’r pentref, pentref bach ar lan yr afon dan gysgod
bryn.  Gofynnais i’r wraig gyntaf gyfarfyddais am y ffordd i Gefn Brith;
atebodd hithau, gen gynted a’r gwynt, drwy ofyn cwstiwn arall, “Ich chi’n
blongo iddi nhw?”  Wedi i mi ddweyd digon o fy hanes i’w boddloni,
rhoddodd gyfarwyddiadau manwl i mi, a desgrifiadau maith o ffyrdd,
trofeydd, coed, a thai.  Anghofiais y rhan fwyaf wrth gerdded i fyny gyda
glan yr afon; ac erbyn i mi holi yr ail waith yr oeddwn wedi mynd yn rhy
bell o lawer hyd ffordd Llanymddyfri, ac wedi anghofio troi.  Troais yn
ol; a gwelwn ffordd drol ar y llaw dde yn arwain o’r gwastad, ac yn
dirwyn i fyny ochr y bryn.  Cerddais innau hyd hon, ffordd leidiog is
na’r caeau o’i chwmpas.  Erbyn hyn yr oedd yn gwlawio’n drwm, a da oedd
cael cysgod y gwrychoedd uchel trwchus.  Bum am gwarter milltir heb weled
fawr ond bedw a gwern; yna, wrth i mi godi uwchlaw’r dyffryn, daeth y
wlad agored i’r golwg, ac ambell lygeidyn o haul arni trwy’r gwlaw.  Wedi
cyrraedd pen y bryn, cefais olygfa ogoneddus ar fryniau a dyffrynnoedd yn
ymestyn i’r gorllewin.  Bum yn cerdded am beth, amser hyd ffordd wastad,
gyda’r dyffryn ar y llaw dde, a mynyddoedd, at y rhai yr oeddwn yn dod
agosach agosach, ar y llaw chwith.  Ar odrau’r mynyddoedd hyn yr oedd
ffriddoedd, llawer glyn cul coediog, a llawer hafan werdd.  O’r diwedd
dois i olwg y ty; nid oedd y pellder gerddais ond rhyw ddwy filldir a
hanner, ond tybiwn ei fod yn ychwaneg, oherwydd fod cymaint o dynnu i
fyny a fod y ffordd mor drom gan y gwlaw.

Ond anghofiais bol lludded a dillad gwlybion wrth edrych ar yr olygfa
welir o ymyl Cefn Brith.  Gwelwn lwybr yn mynd at wyneb y ty trwy ganol
gweirglodd weiriog wlithog; ac yr oedd y ffordd yn rhoi tipyn o dro, ac
yn mynd heibio’r adeiladau.  I ba gyfeiriad bynnag yr edrychwn, gwelwn
fynyddoedd yn edrych arnaf or tu cefn i fynyddoedd.  I’r gorllewin, dros
Gefn Gorwydd a phentref a chapel mawr, yr oedd mynyddoedd Llanwrtyd ac
Ystrad Ffin; ac ar yr ochr arall yr oedd hafannau gwyrddion mynyddig,
gydag ambell goeden griafol ac ambell fedwen yn ymddyrchafu mewn tlysni
dan wlith y cawodydd a gwên yr haul.  Dyma’r ardaloedd y bu John Penri yn
meddwl am danynt pan yn ffoadur yn Lloegr a’r Alban, yr ardaloedd gafodd
bryder ei fywyd a’i feddyliau olaf.

Adeg ryfedd oedd yr adeg y bu Meredydd Henri yn disgwyl John adre o’r
ysgol i’r lle mynyddig hwn.  Yr oedd teimlad angerddol dros undeb Lloegr,
yn wladol ac yn eglwysig.  Dyma’r adeg yr oedd Elisabeth yn “Faerie
Queene” i Loegr a Chymru, dyna’r adeg yr aeth Lloegr drwy beryglon
oddiwrth alluoedd pabaidd Ewrob, dyna’r adeg y danghosodd Shakespeare mai
aflwydd ddaw i wlad lle y gwrthwynebir y brenin, eneiniog Duw.  Ufuddhau
i’r frenhines, caru’r eglwys genhedlaethol, a diolch i Ragluniaeth am
gael byw yn yr amser hwnnw—dyna dybiai ysbryd yr oes oedd dyledswydd dyn.
Ac i Gymro, beth oedd mor unol â’i natur?

Ond yr oedd yn yr amaethdy mynyddig hwn un welodd hanes oesoedd i ddod,
un ddanghosodd yn glir beth fyddai dyfodol Cymru.  Gwelai fod yr eglwys
yn esgeuluso Cymru, ac yn gwrthod rhoi yr efengyl iddi yn ei hiaith ei
hun; teimlodd rym yr efengyl a gwelai Gymru yn ei phechodau.  Agorodd
tosturi a phryder ei lygaid, a daeth mab yr amaethwr yn broffwyd ei wlad.

Ganwyd John Penri yng Nghefn Brith, yn y ty sydd o’m blaen, yn 1559.
Aeth i Gaer Grawnt yn bedair ar bymtheg oed, ac yno clywodd y
Piwritaniaid cyntaf,—rhai ddywedai nad oedd y Diwygiad wedi ei orffen.  A
feallai iddo gael cipolwg ar wirionedd mawr y dyfodol,—y medrai gwlad fod
yn gadarn ac unol heb grefydd genhedlaethol y gellid goddef i gydwybod
pob dyn ffurfio ei grefydd ei hun.  O’r brifysgol, deuai Penri i
fynyddoedd Brycheiniog yn ystod ei wyliau, ac nis gallai lai na theimlo
mor ofergoelus oedd Cymru,—gwlad oedd wedi colli ei Phabyddiaeth, ac heb
gael eto ddim yn ei lle.  Yn 1586 daeth i Rydychen, ac yma, y mae’n
debyg, yr ysgrifennodd ei bamffled ar sefyllfa resynus Cymru, y pamffled
anfonodd yn 1587 i’r frenhines a’r senedd.  Dychrynnodd y pamffled hwnnw
lawer, a pha ryfedd, oherwydd gofynnid ynddo am hawl i leygwyr Cymru
bregethu’r efengyl.  Er i’r hyn ddywedid ynddo gael ei ddweyd yr y Senedd
hefyd, gwysiwyd Penri o flaen yr awdurdodau eglwysig, o flaen yr
Archesgob Whitgift a’r esgobion.  Rhaid maddeu llawer i’r rhain pan
gofiwn mai cred eu hoes oedd fod yn rhaid, er diogelwch, lladd pob
gwrthryfel yn erbyn sefydliadau cenhedlaethol.  Dywedasant wrth Benri nas
gellid goddef ei syniad nad oedd clerigwr na phregethai yn weinidog
Crist.  Cyhoeddodd yntau ryfel yn erbyn yr awdurdodau trwy ddweyd y
collai ei fywyd cyn y rhoddai’r syniad hwnnw i fyny.

Yn 1588, blwyddyn yr oedd Lloegr yn hanner addoli ei brenhines a’i
heglwys wedi’r Armada, blwyddyn Beibl yr Esgob Morgan, yn y flwyddyn
honno cyhoeddodd Penri bamffled arall.  Mewn iaith hyawdl, condemnia’r
ymgais ffol i “geisio achubiaeth i ddynion trwy ddarllen iddynt yr hyn na
fedrant ddeall”

    “Ychydig salmau, gydag un bennod o’r Testament Newydd yn
    Gymraeg,—oherwydd ni siaradodd yr Hen Destament Gymraeg yn ein
    dyddiau ni, er ei fod, er llawenydd mawr i mi, yn barod i’w
    argraffu,—hyn yn unig yn cael ei ddarllen mewn dull gresynus, heb un
    mewn deg yn ei ddeall, ai dyma’r moddion, ysywaeth, a ordeiniodd Duw
    i hysbysu i bawb yng Nghymru beth yw cymdeithas y dirgelwch?”

Trydd at yr esgobion yn gynhyrfus,—

    “O chwi esgobion Cymru, y rhai a ddibrisia ei enw Ef, os gofynnwch pa
    fodd y dibrisiasoch ef, atebir mai trwy gynnyg y cloff a’r dall a’r
    anafus i weinidogaeth yr Arglwydd, gan ddweyd nad ydyw hyn yn ddrwg.
    Felly dibrisiwch enw Duw trwy ddweyd nad oes eisieu gofalu am ei
    wasanaeth.  Wrth weled eich bod chwi eich hunain yn gwybod, a fod
    holl Gymru’n gwybod, eich bod wedi rhoddi yn yr alwedigaeth
    gysegredig ddynion cnafaidd a drwg fu’n crwydro drwy’r wlad dan enw
    ysgolheigion, afradloniaid a gwyr gweini wnaeth y weinidogaeth yn
    noddfa olaf iddynt; wrth weled eich bod yn gadael yny weinidogaeth
    rai y gwyddis eu bod yn buteinwyr a meddwon a lladron a rhai’n
    tyngu’n erchyll, rhai y dywed Job mai gwaelach na’r ddaear ydynt,—oni
    ddywedwch, trwy hyn oll, nad oes eisieu gofalu am wasanaeth yr
    Arglwydd?  Os goddefwch hwynt, ac os arhoswch eich hunain yn
    lladronllyd o faes eich dyledswydd, a ydych chwi’n meddwll am
    anrhydedd yr Arglwydd ac am iachawdwriaeth ei bobl?”

Mewn adeg ogoneddus yn hanes a llenyddiaeth Lloegr yr ymddanghosodd y
llyfr chwerw hwn, pan oedd pob un yn tybied mai ei ddyledswydd oedd
cynnal breichiau’r frenhines Gymreig oedd ar orsedd Lloegr a’r Iwerddon a
Chymru.  Dyma gyfnod gwladgarwch ar ei gryfaf, oes aur Eglwys Loegr a
llenyddiaeth Seisnig.  Ond nid oes Gymro fedr ddarllen llyfr Penri heb
gydymdeimlo âg ef yn llwyr, a hynny ymhell cyn dod at y geiriau olaf,—

    “_Your poore countrey-man_, _who in all dutiful good will hath wholy
    dedicated himself to doe you good in the Lorde_.

                                                              IOHN PENRI.”

Yr oedd ar lywodraethwyr Cymru ofn yr iaith Gymraeg, yr oedd y gyfraith
yn gwahardd i’r un swyddog ei siarad, a gwelodd Penri nad oedd obaith i
Gymru oddiwrth y frenhines na’r Senedd,—yr oedd pregethwyr lleyg a
chyfraniadau gwirfoddol yn bethau rhy newydd.  Diangodd i’r Alban rhag ei
erlidwyr, ond ni fedrai aros mewn heddwch yno, gan ei gariad angerddol at
Gymru.  Daeth yn ol i Lundain, gan ddisgwyl cael caniatad i fynd i Gymru
i bregethu, ac ymunodd a’r ddiadell o Anibynwyr oedd yno.  Yr oedd ei
erlidiwr ar ei ol, a gwysiwyd ef o flaen y _Court of High Commission_,
llys eglwysig y frenhines.  Cyhuddid ef ar gam o ysgrifennu’r _Martin
Mar-Prelate Tracts_, rhai y mae eu hyspryd chwerw gwawdlyd yn anhebyg i
ysbryd tyner a difrifol ei ysgrifeniadau ef.  Ychydig o obaith am
gyfiawnder oedd i un garcherid gan weinidogion y Tuduriaid; ac yn l592 yr
oedd Penri yng ngharchar, wedi rhoddi i fyny bob gobaith am gael byw.
Peth anodd iawn oedd marw mor ieuanc, yn dair ar ddeg a’r hugain oed.
Peth anodd iawn oedd marw a gwaith mor fawr i’w wneyd, rhoddi’r efengyl i
Gymru dywell dlawd.  O garchar caeth, ysgrifennodd yn nechreu Ebrill,
1593, at ei wraig a’i bedair geneth fach.  Nid oedd ganddo ddim i’w adael
iddynt ond Beibl bob un.  Gofyn iddynt, os medrent rywbryd, wneyd
rhywbeth dros ryw blentyn o Gymru, ac yn enwedig i’w fam oedrannus oedd
wedi aberthu drosto pan yn fyfyriwr.

Ac yng Nghefn Brith yr oedd ei fam yn byw, a’i frodyr a’i chwiorydd oedd
i ofalu am ei enethod bach na wyddent eto beth oedd gweddi.  Ond gadewch
i ni anghofio’r dienyddiad hwnnw,—gwŷr yr hen oruchwyliaeth yn llofruddio
proffwyd y newydd,—ac edrych pa fath le yw ei gartref, dri chan mlynedd
ar ol iddo ei adael.

Eis i fyny at y ty hyd y ffordd, yr oedd gormod o wlith ar y llwybr.  Yr
oedd dyn ar ben das gwair yn ei doi, a dywedodd fod “llawer o
hynafiaethwyr” yn dod i edrych y lle,—yn enwedig o Landrindod a Llanwrtyd
ym misoedd yr haf.  Eis heibio’r beudy, ac i’r buarth,—lle wedi ei
amgylchynu bron gan adeiladau.  Ar un ochr i’r ysgwar y mae’r ty, a
phorth o’i flaen, a’r coed yn ei gysgodi o’r tu ol.  Yr oedd golwg dawel
arno, fel pe buasai wedi ei adael fel y mae er amser Meredydd Penri.  Nid
oedd dim arwyddion bywyd ond y cunogau llaeth oedd newydd eu golchi yn y
porth, a’r hen gi defaid gododd ei ben cysglyd i edrych arnaf.

Eis ymlaen heibio’r ty i’r caeau.  Rhedai aber risialaidd i lawr o’r
mynydd, ac yr oedd coeden wag wedi ei gwneyd yn gafn i’r pistyll.  A
thraw yr oedd y gweirgloddiau hyfryd, a’r mynydd y tu hwnt iddynt.  Nid
oedd yno greigiau nac ysgythredd, dim ond mawredd esmwyth a thawelwch.
Yr oedd edrych ar drumau prydferth Mynydd Epynt yn rhoi gorffwys i’r
meddwl, nid y gorffwys sy’n arwain i ddiogi, ond y gorffwys sy’n arwain i
waith.  Dyma orffwys fel gorffwys y nefoedd, gorffwys sy’n deffro’r
meddwl ac yn ei gryfhau at waith.  Nid rhyfedd mai meddwl effro a
gweithgar oedd meddwl John Penri.  Ni fedd y mynyddoedd hyn fawredd
mynyddoedd y gogledd, rhywbeth hanner y ffordd rhwng Bro Morgannwg a’r
Wyddfa ydynt.  Ac nid rhyfedd mai eu prydferthwch hwy, o’r holl
fynyddoedd, ddarganfyddwyd gyntaf, gan rai o’r ardaloedd hyn,—John Dyer a
Henry Vaughan.  Bum yn syllu’n hir ar y coed unig welwn hyd drumau’r
mynyddoedd, ac yna’n edmygu lliwiau’r rhedyn a’r ysgaw a’r drain.  Trois
wedyn i wylio’r gwenoliaid oedd wedi nythu tan y bondo, ac yna mentrais
i’r ty.

Eis trwy’r porth, a gwelwn ddrws cegin fawr yn agored ar y llaw dde.
Cegin eang, isel do, hen ffasiwn oedd, a llawer o gig moch yn crogi
oddiwrth y trawstiau.  Yn y pen draw yr oedd lle tân isel, ac ychydig o
dân gwiail ynddo.  Wrth y pentan yr oedd gŵr canol oed, a gofynnais hen
gwestiwn iddo,—

“Sut yr ydych chwi heddyw?”

“Gweddol fach, gweddol yn wir, dewch ymlân.  Mi ges yr anwyd yn y gaua,”
meddai, dan besychu, “ac mi cesho fe wedin yn y mish bach dewch ymlân.”

Eisteddais tan fantell y simdde, ac agorodd ci oedd yn cysgu ar y pentan
ei lygad i edrych arnaf, fel pe’n drwgdybio fod fy mryd ar gynnwys y
crochan enfawr oedd ar y tân.  Tybiai’r gŵr mai prynnu gwlan oedd fy
mwriad, a gofynnodd ai ni wyddwn beth oedd pris y gwlan ’nawr.  Llonnodd
pan ddywedais ei fod yn codi ychydig, ond gwelodd ar unwaith mai nid
porthmon oeddwn.  Yr oedd ganddo, meddai, bedwar neu bum cant o ddefaid
yn pori ar y mynyddoedd.  Tra’r oeddwn yn syllu ar yr hen ddodrefn derw,
daeth cwestiwn wedyn,—yr oedd ar wr y ty awydd gwybod o ba grefydd yr
own.  Atebais innau trwy ddweyd peth wyddai eisoes, sef mai Bedyddiwr
oedd ef.

“Pwi wedodd wrthich?”

“Ddywedodd neb; ond gwelaf ddarlun Spurgeon a darlun Christmas Evans, a
dyma Emau Robert Jones, Llanllyfni.  A glywsoch chwi hanes Robert Jones
yng nghanol y chwarelwyr meddwon?”

“Naddo i.”

“Wel, codi ei ddwylaw yn eu canol a wnaeth, a diolch fod gan Dduw uffern
i roi’r fath rai ynddi.”

“Gweid difrifol oedd e, cofiwch rhi.  O’r North yr ych chi’n dod?”

Wedi gwrando tipyn ar hanes y fro, gofynnais a gawn weld y rhannau hynaf
o’r ty.  Dywedodd y gŵr fod croeso i mi ei weld i gyd.  Aethom trwy ddrws
y gegin yn ol, a gwelem fynedfa hir yn rhedeg gyda mur y wyneb.  Rhwng y
fynedfa hon a mur y cefn yr oedd dwy ystafell, yn edrych i’r gadles,
ystafelloedd oerion lleithion, ac yn llaethdai y defnyddid hwynt.  O’r
rhain daethom yn ol i ddrws y ty, ac aethom ymlaen hyd y cyntedd hir hyd
nes y daethom at ddrws ymhen draw y ty, drws parlwr bychan, a’r lleithder
wedi amharu yr ychydig ddodrefn a darluniau oedd ynddo.  Danghosai’r
cynllun yn amlwg fod y ty’n hen iawn, ac nid oedd gennyf un amheuaeth nad
ydyw’n awr yr un fath yn union ag oedd pan ddysgodd John Penri gerdded
ynddo.  A braidd na thybiwn glywed y llais a ddistewyd gan yr archesgob
wrth glywed y gwynt yn codi,—

    “O chwi bobl Cymru, yr ydych on yn esgymun ac yn wrthodedig.  O chwi
    bobl Cymru, yr ydych yn estroniaid o gymundeb y wir eglwys.  O chwi
    bobl Cymru, nid ydych hyd yn oed yng nghyfamod yr addewid, yr ydych
    heb obaith dedwyddwch y nef.  O chwi bobl Cymru, pa wybodaeth bynnag
    o Dduw a ddywedwch sydd gennych, yr ydych yn wir yn anffyddwyr; ac
    heb Dduw,—pob un o honoch ar nas dygwyd, er yr adeg y daethoch o ogof
    eilunaddoliaeth a Phabyddiaeth, i gyfranogi yng ngallu Duw, yr hwn
    yw’r efengyl.”

Yna, wrth i’r gwynt yn y coed ostegu, tybiwn fod ei lais yn tyneru mewn
cydymdeimlad,—

    “Ond yn wir, fy mrodyr, ni phregethwyd yr efengyl i chwi, llenwir fi
    â gofid wrth glywed gwawdio enw Cymru.”

Pe crwydrai ysbryd John Penri heddyw trwy wlad a garai mor fawr, gwelai
fod ei weddi dros Gymru wedi ei hateb, a fod addoldai drwy’r broydd fu
gynt yn ofergoelus ac yn isel eu moes.  Os byth y rhydd Cymru gofgolofn
ar odrau Mynydd Epynt i ddweyd wrth ei phlant am dano, rhodder arni y
geiriau hyn anfonodd o’i garchar, yn ei ddyddiau olaf, at Burleigh,—

    “Gŵr ieuanc tlawd ydwyf, wedi’m geni a’m magu ym mynyddoedd Cymru.
    Myfi yw’r cyntaf, wedi blodeuad diweddaf yr efengyl yn y dyddiau hyn,
    lafuriodd i hau ei had bendigedig ar y mynyddoedd anial hynny.
    Llawenheais lawer tro o flaen fy Nuw, fel y gŵyr ef, am y ffafr o’m
    geni a’m magu dan ei Mawrhydi, er mwyn gwneyd y gwaith.  Yn fy
    nymuniad cryf i weled yr efengyl yng ngwlad fy nhadau, ac i weled
    symud y llygredigaethau a’i rhwystra, hawdd oedd i mi anghofio fy
    mherygl fy hun; ond ni anghofiais fy nheyrngarwch i’m Tywysog erioed.
    Ac yn awr pan wyf i orffen fy nyddiau, a hynny cyn dod i hanner fy
    mlynyddoedd yn ol trefn natur, yr wyf yn gadael llwyddiant fy llafur
    i’m cydwladwyr a gyfyd yr Arglwydd ar fy ol i, i orffen y gwaith, yr
    hwn, wrth alw fy ngwlad i wybodaeth am efengyl fendigedig Crist, a
    ddechreuais i.”

Trwy holl droion hanes Cymru, nid oes dim mor hyawdl i deimlad Cymro ag
ewyllys John Penri,—pedwar Beibl, gofal ei fam, a llwyddiant ei waith.



GLAS YNYS.


PAN fum i drwyddi, tybiwn mai priodol iawn fyddai galw bro Elis Wyn yn
Wlad Cwsg.  Tybiwn fod rhywbeth yn ddieithr yn ei goleuni, a fod su
esmwyth yn tonni trwy ei hawyr o hyd.  Prin y teimlwn y gwahaniaeth rhwng
bod yn effro ac ynghwsg ynddi.  Yr oeddwn fel pe’n breuddwydio wrth
gerdded drwyddi; a phan ddoi cwsg, nid oedd breuddwyd yn newid dim ar y
wlad.  Y mae delw’r wlad ar y gweledigaethau sydd wedi synnu ac wedi
dychrynnu cymaint.  Nis gallasai’r bardd ddychmygu fel y gwnaeth am y byd
ac angeu ac uffern, ond mewn gwlad fel hon.

Un peth tarawiadol ynddi ydyw ei distawrwydd.  Nid yn unig y mae’n
ddistawach na gwlad boblog, lawn o bentrefydd; y mae’n ddistawach na
mynydd-dir eang unig y Berwyn neu Blunhumon.  Ni fum mewn lle distawach
erioed.  Y mae’r don i’w gweled yn symud draw ymhell yn ewyn i fyny’r
traeth, ond mewn distawrwydd perffiaith.  Y mae’r wylan yn ehedeg uwch
ben; ond, o ran pob swn, gallai fod yn ddarlun o wylan ar ddarlun o awyr.
Ac y mae’r mynyddoedd mawr yn gorwedd yn berffaith ddistaw yng ngwres y
canol ddydd haf; tybiwn fod y defaid a’r aberoedd yn cysgu arnynt.

Peth tarawiadol arall yng ngwlad Bardd Cwsg ydyw cyfoeth ei lliwiau, ac
amrywiaeth ei chymylau a’i lleni teneuol o niwl.  Pan fo’r haul yn
tywynnu y mae melyn a gwyn y traeth y tu hwnt i ddesgrifiad; pan
fachludo’r haul, cyll y môr ei ddisgleirdeb ar unwaith, ac y mae golwg
ddu frawychus ar y llu mynyddoedd mawr sydd o gwmpas Gwlad Cwsg.  Ac nis
gall neb ddarllen y tair Gweledigaeth heb adnabod niwl a tharth Harlech,
ac heb weled mor hoff yw Elis Wyn o gyferbynnu goleuni disglaer a
thywyllwch dudew.  Fel Spenser a Milton yn llenyddiaeth Lloegr, y mae’n
hoff o ddesgrifio goleum tanbaid neu’r fagddu ddilewyrch.  Efe yw
Rembrandt llenyddiaeth Cymru.  Dacw belydryn yn gloewi o’r tu hwnt i
gwmwl melynwyn, fel hwnnw welodd y Bardd Cwsg pan weddiodd yng ngafael y
Tylwyth Teg,—“Gwelwn ryw oleuni o hirbell yn torri allan, O mor
brydferth!”

Gwaith caled ar ddiwrnod gwresog yw dringo i fyny dan gysgod castell
Harlech.  Rhaid fod Bardd Cwsg wedi treulio llawer o amser yn yr hen
gastell hwn; a hwyrach fod edrych i lawr dros ddibyn ei graig wedi ei
helpu i ddychmygu am y ceulannau a’r dibynnau y gwelodd daflu’r
colledigion drostynt yn ei Uffern.  A’r ffrwd acw, tybiaf i mi weled
darlun o honi fel un o raiadrau y Fall.  Ond dyma ben y bryn o’r diwedd,
a hen ŵr llygad-lon wedi bod yn fy ngwylio’n dringo.

“Mi gewch ddiwrnod braf i weld y wlad heddyw,” ebe’r hen ŵr a’m cyfeiriai
o Harlech tua Glasynys, “mi fydd y dydd i gyd fel y pelydryn yna gyda
hyn.”  A gwir a ddywedodd, cefais ddiwrnod poetha’r haf hwnnw.  Y mae
Harlech ar godiad tir serth, a rhaid cael un chwim iawn i ddod i fyny
iddi o’r traeth heb golli ei wynt.  Un ystryd hir y tybiwn ei bod, o
bobtu i’r ffordd sy’n rhedeg hyd y bryniau, yn gyfochrog a glan y môr.  Y
mae’n lân, er nad oes adeiladau mawrion yn ei rhan hynaf.  Hawdd gweled
ei bod yn hen dref oddiwrth ei chastell ac amlder ei thafarnau.  Trois ar
y chwith, hyd ffordd Talsarnau, a chefais gwmni bardd am ran o’r ffordd.
Toc gadewais y ffordd gysgodol sy’n rhedeg hyd fron y mynydd, a throais
hyd lwybr i lawr i’r gwastadedd glas odditanaf.  Ar ganol y gwastadedd
gwelwn fryncyn yn codi, ac o bob tu iddo,—ar ochr y mynydd ac ar ochr y
môr,—y mae amaethdy o’r enw Glasynys.  Oddiar ben y bryn y mae golygfa
ardderchog ar fôr a mynydd.  Ynys, mae’n ddiameu, oedd y bryn unwaith, ac
yr oedd y gwastadedd yn fôr.  Ar ein cyfer codai’r mynydd yn serth, gyda
choed yn aml ar ei lethrau.  Aml waith y bu Elis Wyn yn dringo i ael y
mynydd acw; a dacw’r llecyn, hwyrach, oedd o flaen ei lygad pan yn
darlunio ei weledigaeth gyntaf,—

    “Arryw brydnawn-gwaith teg o haf hir-felyn tesog, cymerais hynt i ben
    un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi yspienddrych, i helpu’m golwg
    egwan, i weled pell yn agos, a phethau bychain yn fawr; trwy yr awyr
    denau eglur, a’r tes ysblennydd tawel canfyddwn ymhell bell, tros fôr
    y Werddon, lawer golygiad hyfryd.  O hir drafeilio â’m llygaid, ac
    wedyn a’m meddwl, daeth blinder, ac yng nghysgod blinder, daeth fy
    Meistr Cwsg yn lledradaidd i’m rhwymo; ac â’i agoriadau plwm fe gloes
    ffenestri fy llygaid, a’m holl synwyrau ereill, yn ddiogel.”

Cerddais dros y bryn bychan gan ddod i lawr at gefn Glasynys y
bardd,—amaethdy a’i wyneb tua’r mynyddoedd.  Gwelais ar unwaith ei fod
wedi ei adeiladu fel y dylid adeiladu ty ar lethr craig; gyda drws i fynd
oddiallan i’w ystafelloedd uchaf, a mor naturiol ei safiad a phe buasai
wedi codi, fel blodeuyn, yng nghwrs natur ar ochr y bryn.  Curais wrth y
drws, a daeth merch ieuanc i’w agor.  Dywedodd fod croesaw imi weled
cartref y Bardd Cwsg, a danghosodd i mi brif ystafelloedd y ty.  Yr wyf
yn cofio fod rhyw hanner arswyd arnaf wrth grwydro trwy’r ystafelloedd
lle crewyd golygfeydd ofnadwy Bardd Cwsg; a thybiwn mai hyfryd i’r bardd,
pan fyddai ei ddychymyg wedi ei arwain trwy erchyllderau uffern a’r fall,
oedd sylweddoli ei fod ef mewn lle mor hyfryd.

                                * * * * *

Yr oedd llwybr Elis Wyn rhwng ei gartref a’i eglwys, rhwng Glasynys a
Llanfair.  Y mae Glasynys rhyw ddwy filldir o Harlach i’r gogledd, ac y
mae eglwys Llanfair rhyw ddwy filldir o Harlech i’r de.  Bum yn Llanfair
hefyd, lle y gorwedd Elis Wyn mewn bedd dinod, bron anadnabyddus.  Y
mae’r daith o Harlech i Lanfair yn fwy digysgod na’r daith i Lasynys, ar
wres neu ar gurwlaw, ond nid yw’n llai hyfryd.  Wedi tynnu i fyny’r rhiw
oddiwrth y môr, a gadael yr hen gastell gwgus ar ein hol, trown ar y dde.
Y mae mwy o Harlech i’w weled wrth fynd i Lanfair nag wrth fynd i
Lasynys.  Wedi cerdded drwy ystryd gweddol hir, deuir i lecyn dymunol
iawn dan goed, ar gyfer prif westy’r lle.  Y mae golwg brydferth iawn
oddiyma drwy’r coed ar y môr sy’n mhell odditanodd, ac y mae pob trofa
newydd ar y ffordd yn hyfrydwch.  Creigiau, coed, mynydd, a’r môr,—nid
oes braidd dŷ yn y cilfachau hyn heb olygfeydd o’i ffenestri y buasai
cynllunydd palas brenin yn falch o honynt.  Ond yn fuan iawn yr ydym yn
gadael yr hen dref ar ein holau, ac yn teithio hyd ffordd deg ar y dibyn
uwch ben y môr, a’r hen gastell du gwgus yn ein gwylied o’n hol.  Dyma
ffordd y bu Bardd Cwsg yn ei cherdded filoedd o weithiau, ac y mae
golygfeydd ei weledigaethau o’n hamgylch heddyw, er fod syniadau gwlad
wedi newid llawer er yr adeg y bu yn ei cherdded ddiweddaf, tua chant a
thrigain o flynyddoedd yn ol.

Aml dro, y mae’n ddiameu, bu Elis Wyn yn edrych ar ddyffrynnoedd fel
dyffryn Nancol; ac i’w feddwl ef, fel i feddwl pawb yn yr oes honno, yr
oedd yr aruthredd rhamantus yn erchylldra di-drefn.  Yn ei freuddwydion y
mae’r cwm mynyddig yn ymddangos yn uffern, lle gwelai’r colledigion, a’r
ysbrydion aflan

    “â phigffyrch yn eu taflu i ddisgyn ar eu pennau ar heislanod
    gwenwynig o bicellau geirwon gwrthfachog, i wingo gerfydd eu
    hymenyddiau; ymhen ennyd, lluchient hwy ar eu gilydd yn haenfeydd, i
    ben un o’r creigiau llosg, i rostio fel poethfel.  Oddi yno cipid hwy
    ymhell i ben un o fylchau y rhew a’r eira tragwyddol; yna yn ol i
    anferth lifeiriant o frwmstan berwedig, i’w trochi mewn llosgfeydd, a
    mygfeydd, a thagfeydd o ddrewi anaele.”

Weithiau tybiwn ein bod yn adnabod rhai o gymoedd Meirion, hyd nes y
dadlennir y darlun erchyll i gyd,—

    “Tu isaf i’r gell yma gwelwn rhyw gwm mawr, ag ynddo megis myrdd o
    domenydd anferth yn gwyrddlosgi; ac erbyn neshau gwybum wrth eu hudfa
    mai dynion oeddynt oll, yn fryniau ar eu gilydd, a’r fflamau cethin
    yn clecian trwyddynt.”

Nid un yn gwenu ar bechod oedd Elis Wyn.  Y mae’n amhosibl cael darluniad
mor ddychrynllyd o feddwdod ac aflendid ac anghrefydd, hyd yn oed ym
mhregethau’r Diwygiad, ag yn ei weledigaethau ef.  Ac nid arbed y
boneddigion na’u cynffonwyr.  Ychydig o lafurwyr welodd yn uffern; ac o’r
rhai welodd, os oedd rhai wedi dod yno am gau talu’r degwm, yr oedd
ereill wedi dod oherwydd gadael eu gwaith i ddilyn boneddigion.  Oes y
boneddigion oedd y ddeunawfed ganrif; hwy oedd yn rheoli mewn llan a
llys.  Hwy oedd yn y fyddin, hwy oedd yn ustusiaid, hwy oedd yn rheoli
ymhob man.  A dysgeidiaeth pulpudau’r oes oedd fod yn rhaid ymostwng
iddynt.  Ond trinir yr ustusiaid a’r cyfreithwyr a’r physygwyr yn
ddiarbed yng ngweledigaethau Bardd Cwsg.  Ie, unwaith clywodd chwerthin
yn uffern,—

    “A mi yn dyfod allan o’r gilfach ryfeddol honno, mi a glywn gryn
    siarad; ac am bob gair y fath hyll grechwen a phed fuasai yno bumcant
    o’r cythreuliaid ar fwrw eu cyrn gan chwerthin.  Ond erbyn i mi gael
    neshau i weled yr ameuthyn mawr o wenu yn uffern, beth ydoedd ond dau
    o bendefigion newydd ddyfod, yn dadleu am gael parch dyledus i’w
    bonedd; ac nid oedd y llawenydd ond digio’r gwŷr boneddigion.  Palff
    o ysgweier a chanddo drolyn mawr o femrwm, sef ei gart achau, ac yno
    yn dadgan o ba sawl un o’r Pymtheg Llwyth Gwynedd y tarddasai ef; pa
    sawl Ustus o heddwch, a pha sawl Sirydd a fuasai o’i dy ef.  ‘Hai,
    Hai,’ ebe un, ‘nid ych chwi ond aer y fagddu, fflamgi brwnt, prin y
    teli i ti lety noswaith,’ eb efe, ‘ac eto ti a gai ryw gilfach i aros
    dydd:’ a gyda’r gair, dyma’r ellyll ysgethrin â’i bigfforch yn rhoi
    iddo, wedi deg tro ar hugain yn yr wybr danbaid, ond oedd ef yn
    disgyn i geudwll allan o’r golwg.”

Y mae’n hawdd gweld athrylith Elis Wyn oddiwrth y gosb rydd i bob un yn
uffern.  Nis gŵyr y darllenydd yn iawn beth i’w wneyd wrth ddarllen hanes
y gosb, pa un ai dychrynnu ai chwerthin, gan mor anisgwyliadwy ydyw’r
gosb, ac eto mor naturiol.  Y meddw, y rhegwr, yr aflan, y rhodreswr, y
chwedleuwr,—y maent i gyd yn y fro erchyll honno wrth eu hen waith.  Er
esiampl, cymerer y pedwar ffidler oedd newydd farw, ac oedd yn eu bywyd
wedi bod yn lwcusach am gynulleidfa na’r person,—

    “‘Ffwrdd, ffwrdd, â’r rhai hyn i wlad yr anobaith,’ ebe’r brenin
    ofnadwy; ‘rhwymwch y pedwar gefn-gefn, a theflwch hwy at eu
    cymheiriaid, i ddawnsio yn droednoeth hyd aelwydydd gwynias, ac i
    rygnu fyth heb na chlod na chlera.”

Ond dyma Lanfair yn y golwg.  Dacw’r eglwys y bu Elis Wyn yn gwasanaethu
ynddi, a’r lle y claddwyd ef.  Y mae gwlad agored brydferth Llanfair a
Llanbedr o’n blaenau.  Y mae’r môr gryn bellder odditanom, a thraw ar ei
lan wele eglwys fechan Llandanwg.  Pentref bychan ydyw Llanfair, rhyw
ychydig o dai o bobtu i’r ffordd.

Gydag i mi gyrraedd y pentref ymgasglodd lliaws o’r plant, rhai yn
awyddus am rywbeth i’w weled neu i’w wneyd, o’m cwmpas.  Nid oedd yr un o
honynt wedi clywed gair am Elis Wyn nac am weledigaethau Bardd Cwsg.  Yr
oeddynt yn foddlon iawn i’m gwasanaethu, a medrodd un o honynt gael
allwedd y fynwent ac allwedd yr eglwys i mi.  Saif yr eglwys hir a’i
thalcen i’r mynydd, o fewn mynwent lawn a threfnus.  Yr oedd hanner
arswyd arnaf wrth fynd i’r eglwys, ac yr oedd y plant a’m dilynent mor
ddistaw a phe gwybuasent fod Bardd Cwsg, un ddychmygodd weled pethau mor
ofnadwy, yn huno yno.  Y mae’r allor yn llenwi y pen agosaf i’r mynydd
o’r eglwys, o fur i fur.  Hysbyswyd fi fod lle’r allor yn fyrrach
unwaith, a fod lle i un set rhwng yr allor a’r mur.  Tan y set honno, set
Glas Ynys, a claddwyd y Bardd Cwsg; ond erbyn hyn y mae’r allor dros ei
orweddle.  Ac ni wyddai plant ei bentref, oedd mor ddistaw a llygod yn yr
eglwys dawel, ddim am ei waith nac am ei enw.

Troais i unig westy’r pentref i ofyn lluniaeth, oherwydd yr oedd erbyn
hyn yn hen brydnawn.  Tra’r oedd y forwyn yn gosod y llian ar y bwrdd
mewn parlwr bach cysurus ddigon, gofynnais iddi,—

“Yn yr eglwys yma y claddwyd Elis Wyn o Lasynys, ynte?”

“Hwyrach wir, syr, ond ’doeddwn i’n nabod mo hono fo.”

Yr oedd gŵr y gwesty gerllaw, ac amryw las hogiau yn y gegin, ond nid
oedd yr un o honynt yn gwybod dim am Elis Wyn.  Dywedodd un y gallai’r
ysgolfeistr fod yn gwybod, fod llawer o bethau ynghadw yn ei ben ef, ond
ei fod ar ei wyliau ar hynny o bryd.

Wedi te troais yn ol tua Harlech, a daethum at y ffordd sy’n arwain i
lawr at Landanwg a min y môr.  Gwelwn mai rhibin hir iawn o ffordd
ydoedd, ond daeth awydd angerddol drosof am weled gorweddfan Sion Phylip.
Ac i lawr a mi, hyd ffordd ddigon tolciog, nes cyrraedd ty neu ddau heb
fod nepell o lan y môr.  Dywedwyd wrthyf na fu claddu ym mynwent
Llandanwg er ys blynyddoedd, ac nad oes un math o wasanaeth ynddi’n awr.
Croesais ffrwd ddwfr, a chefais fy hun mewn cae gwyrdd o flaen yr eglwys.
Yr oedd y llecyn yn un hyfryd ar y nawn haf hwnnw.  Chwythai awel dros y
môr, ag iechyd ar ei haden, ac yr oeddwn yn meddwl fod y ffrwd oedd ar
golli yn y môr yn berffaith loew, fod y glaswellt yn berffaith wyrdd, a
fod yr awyr yn berffaith bur.  Bechan iawn ydyw’r eglwys, a dieithr yr
olwg arni.  Ni welais ond llwybr i fynd ati, a hwnnw’n cithaf anodd ei
gael.  Y mae porth i fynd trwyddo i’r fynwent, ar gyfer ffenestr fawr y
dwyrain.  Y mae drws yr eglyws i’r stormydd a’r môr.  Saif yr eglwys yn
llythrennoll ar fin y môr, ac y mae’r tywod luchiwyd gan ystormydd hyd ei
llawr.  “Llan dan wg y môr” ydyw ystyr ei henw, ebe un hen ramadegydd
gyfarfyddais.  Mynwent unig a thawel, hyd yn oed ymysg mynwentydd, ydyw.
Y mae’r eglwys yn wag oddigerth fod yno ychydig o hen goed derw.  Anaml,
yn sicr, y bydd neb yn torri ar unigedd y fan.  Y mae enwau ffermydd yr
ardal ar y cerrig beddau, ond yr wyf yn meddwl mai anaml y cleddir yno’n
awr.  Gwelais fedd Sion Phylip, wedi tipyn o chwilio ymysg y twmpathau
gleision a’r cerrig beddau mwsoglyd.  Y mae yng nghysgod yr eglwys, yn
union dan ffenestr y dwyrain.  Wrth dynnu’r mwsogl oddiar y ddwy lythyren
a’r dyddiad a’r englyn sydd ar y garreg, ceisiwn gofio peth o Gywydd y
Wylan, cywydd goreu Sion Phylip.  Ac yn sicr ddigon yr oedd gwylan unig
yn hofran uwch fy mhen, fel pe’n gwylio bedd y bardd a’i darluniodd.

Bu Elis Wyn yn darllen gwasanaeth yr eglwys yma, yn swn y môr.  Tybed ei
fod wedi cerdded hyd y traeth, gan synfyfyrio, i aros i’r plwyfolion
ddod?  Ai ar y llecyn hwn, wrth syllu ar y feisdon, y dychmygodd yr
ymddiddan rhyngddo a Thaliesin Ben Beirdd, pan y gofynnodd Taliesin iddo
am y prydydd,—“Pa le mae’r pysgodyn sy’r un lwnc ag ef?  Ac mae hi yn fôr
arno bob amser, eto ni thyr y môr heli mo’i syched ef.”

Yr oedd y nos yn dod, a’m ffordd innau i’m llety yn hir.  Nosodd arnaf
cyn i mi ddod i’r ffordd fawr, ac ni welwn wahaniaeth rhwng daear a môr.
Nid oedd arnaf lai nag ofn yn y gwyll, yr oeddwn wedi meddwl cymaint yn
ystod y dydd am y bodau erchyll ddarlunnir gan Fardd Cwsg.  Gan nad oedd
ond amlinellau llymion y wlad i’w gweled, yr oeddwn bron a meddwl
weithiau fy mod yn y dyffryn hwnnw ddarlunnir yng “Ngweledigaeth Angau yn
ei Frenhinllys isaf,—

    “Mi’m gwelwn mewn dyffryn pygddu anfeidrol o gwmpas, ac, i’m tyb i,
    nid oedd diben arno; ac ymhen ennyd, wrth ambell oleuni glas, fel
    canwyll ar ddiffodd, mi welwn aneirif, O! aneirif, o gysgodion
    dynion, rhai ar draed, a rhai ar feirch, yn gwau trwy eu gilydd fel y
    gwynt, yn ddistaw ac yn ddifrifol aruthr; a gwlad ddiffrwyth, lom,
    adwythig, heb na gwellt na gwair, na choed nac anifail; a chwipyn, er
    maint oedd y distawrydd o’r blaen, dyma si o’r naill i’r llall, fod
    yno ddyn bydol.”

Y mae’n debyg fod Bardd Cwsg wedi llenwi bywydau llawer â dychrynfeydd,
wedi gwneyd pob nos yn llawn o ellyllon, ac wedi dyrysu synhwyrau llawer
un.  Pa ryfedd fod y llyfr hwn wedi effeithio cymaint ar fywydau dynion?
Mor dryloew yw ei arddull, mor gain a naturiol ei Gymraeg!  Ac mor ryfedd
ydyw ei ddychymyg pan yn crwydro trwy’r eangderoedd dychrynllyd hynny,
pan yn dilyn o’i ledol ar ol milwyr disglaer Lusiffer wrth iddynt deithio
fel mellt hyd y fagddu hyll!

Rhyfedd ac ofnadwy ydyw’r pethau ddarlunnir ganddo, ac nid heb ychydig
ofn y medrir meddwl am danynt ar ffordd unig fel hon wedi nos.  Cyn i
oleuadau Harlech ddod i’r golwg, yr oedd fy meddwl wedi troi at emyn y
Bardd Cwsg, emyn sy’n dangos beth fuasai ei weledigaeth ym Mharadwys pe’r
ysgrifenasai hi,—

    “Myfi yw’r Adgyfodiad mawr,
          Myfi yw gwawr y bywyd;
    Caiff pawb a’m cred, medd f’Arglwydd Dduw,
          Er trengu, fyw mewn eilfyd.

    “A’r sawl sy’n byw mewn ufudd gred
          I mi, caiff drwydded nefol
    Na allo’r angau, brenin braw,
          Ddrwg iddaw yn dragwyddol.

    “Yn wir yn wir, medd Gwir ei hun,
          Pob cyfryw ddyn sy’n gwrando
    Fy ngair gan gredu’r Tad a’m rhoes,
          Mae didranc einioes ganddo.”



TY’R FICER.


LLAWN o ddyfroedd oedd Llanymddyfri pan welais i’r lle gyntaf, er fod
hynny yn niwedd mis Mehefin.

    Brân a Gwydderig
    A Thywi fynheddig
    A Bawddwr fach fawlyd
       Yn rhedeg drwy’r dre,—

nid yn unig yr oedd y rhain yn llifo dros y dolydd, ond yr oedd y gwlaw
yn tywallt fel diluw.  Yr oedd wedi golchi swyddogion y ffordd haiarn yn
lân; a thybiwn innau, wrth edrych o’r tren pan safodd yn Llanymddyfri,
mai mewn dillad gwlybion y byddai raid i mi dreulio gweddill y dydd.
Gwelwn nad oedd y dref yn ymyl, ac ni welwn gerbyd fuasai’n noddfa rhag y
gwlaw.  Ond, wedi disgyn, gwelais westy ar fy nghyfer, a medrais ei
gyrraedd ar draws y ffordd cyn gwlychu at fy nghroen.

                      [Picture: Ty’r Ficer yn 1892]

Daeth gwraig dawel, a swn penderfyniad yn ei llais, i’m croesawu.  Yr
oedd golwg gysurus ar bob peth yn y ty, yr oedd tân braf yn cynneu yn y
parlwr cyn pen y chwarter awr, ac yr oedd pryd danteithiol o fwyd wedi ei
arlwyo.

Yr oedd yno lyfrau hefyd, dyna’r gwahaniaeth rhwng gwesty Cymreig a
gwestai ereill.  Cefais ymgom â gŵr y ty,—y mae hyn yn rhan o fywyd
fforddolyn,—a dywedodd bopeth wrthyf am grefydd a gwleidyddiaeth
Llanymddyfri.  Ond, fel gwestywr call, ni soniodd air am ei grefydd na’i
gredo wleidyddol ei hun; ac yr wyf yn meddwl iddo fethu cael gweledigaeth
eglur ar fy amryw dybiau innau.  Gŵr tawel oedd, yn siarad Cymraeg da.

Cyn huno, yn swn y gwlaw, bum yn ceisio dyfeisio fath dref a welwn yfory,
a fath dŷ oedd ty’r Ficer enwog.  Yr oeddwn wedi gweld y lle o bell.  Pan
oedd fy nhren yn croesi’r nentydd hyd ochr y mynydd, yr oeddwn wedi gweld
dyffryn swynol i lawr odditanom, a gwastadeddau coediog niwliog draw.
Ond cyn dychmygu darlun eglur yr oeddwn yng ngwlad cwsg.  A chyn hir
daeth yn ystorm yn fy mreuddwydion, a thybiais weled melldith y Ficer
wedi dod ar Lanymddyfri, a’r dwfr yn ei chludo hi a minnau tua’r môr.
Ond pan ddaeth y bore, yr oedd haul disglaer ar bob peth, a minnau’n
meddwl mor hyfryd oedd fy lle.

Wedi cael cyfarwyddiadau manwl, cychwynnais tua thŷ’r Ficer.  Gadewais
ysgol Llanymddyfri ar y dde, a chefais fy hun cyn hir ym mhrif heol y
dref.  Wrth grwydro drwyddi, tybiwn mai tref yn prysur adfeilio ydyw
Llanymddyfri.  Ni welais ddim gwaith yn cael ei wneyd yn unlle, ac nid
oedd neb prysur yn y golwg.  O’r negeseuwr i’r meddyg, yr oedd pawb yn
rhodio’n hamddenol, fel pe mai unig amcan bywyd ydyw treulio’r dydd i
ddisgwyl y nos a threulio’r nos i ddisgwyl y bore.  Ni welwn gwsmer yn yr
un o’r siopau; yr oedd pob siop fel pe’n hepian, a’r prentisiaid dan y
cownter yn disgwyl diwrnod ffair.  Gwelais siop lyfrau, arwydd sicr o
ddiwylliant, ond ol-rifynnau oedd yn y ffenestr, rhai’n traethu am
faterion gwleidyddol na chymer ond yr hanesydd ddyddordeb ynddynt yn awr.
Gwelais laswellt yn tyfu yn y farchnad, gwelais yriedydd yn golchi ei
gerbyd y drydedd waith er pan gafodd gludo neb, gwelais saer yn cysgu yng
nghanol ei _shavings_, gwelais gapel Wesleaid—pwy mor weithgar—wedi ei
gau.  Cyfarfyddais asiedydd deallgar, yr hwn ddywedodd lawer o hanes y
dref i mi.  Cyfeiriais fy ffon at laswellt oedd yn ceisio ymwthio i fyny
rhwng cerrig yr heolydd, a gofynnais a oedd Llanymddyfri’n adfeilio
Sicrhaodd fi nad oedd, ond ei bod yn sefyll,—yn cynyddu dim ac yn
adfeilio dim.

Cefais dŷ’r Ficer ymron ym mhen uchaf y dref.  Pasiais ef heb ei weled, a
chyrhaeddais y bont, lle y danghoswyd mynwent ar fryn uwch ben i
mi,—Llanfair ar y bryn, man bedd Williams Pant y Celyn.  Troais yn ol, ac
ar y llaw chwith gwelwn dŷ oedrannus, ac ychydig o ol gofal arno.
Meddyliwn wrth ei weled am hen foneddwr wedi torri, ac yn goroesi ei
gyfoeth mewn cot ddu lom a het dolciog a throwsus du seimlyd rhy fyr i
guddio ei esgidiau drylliog.  Daeth hen wraig, debyg iawn i’r ty, i’r
drws i gynnyg dangos y lle i mi, gan ostwng yn ei garrau wrth gynnyg.  Y
mae ambell ddernyn o bren cerfiedig a phlastr yn dangos mor fawr ydyw’r
cyfnewidiad ddaeth dros y ty hwn.  Unwaith bu yn orwych, yn awr y mae ei
ystafelloedd cyfaneddol yn gartrefi llwm i dlodion Llanymddyfri.

Daeth rhyw brudd-der drosof wrth adael yr ystafelloedd tywyllion gwag lle
y goleuwyd “Canwyll y Cymry.”  Meddyliais am y noson y safodd ceffyl heb
ei farchog wrth ddrws y Ficer, tra yr oedd corff llofruddiedig ei unig
fab yn y Tywi.  Meddyliais am lawer bore y bu’r Ficer yn cychwyn allan i
rybuddio mewn amseroedd enbyd, ac i rybuddio’n ofer,—

    MENE TECEL, tre Llanddyfri,
    Pwysodd Duw hi yn dy frynti;
    Ni chadd ynnot ond y sorod,
    Gochel weithian rhag ei ddyrnod.

    Bore codais gyda’r ceiliog,
    Hir ddilynais yn dy annog
    Droi at Dduw oddiwrth dy frynti,
    Ond nid oedd ond ofer imi.

    Cenais iti’r udgorn aethlyd
    O farn Duw a’i lid anhyfryd,
    I’th ddihuno o drwmgwsg pechod,
    Hwrnu er hyn ’rwyt ti yn wastod.

    Cenais bibau, ond ni ddawnsiaist,
    Tost gwynfannais, nid alaraist;
    Ceisiais trwy deg a thrwy hagar,
    Ni chawn gennyt ond y gwatwar.

    Esau werthai ei ’tifeddiaeth
    Am y ffiolaid gawl ysywaeth;
    Tithau wethaist deyrnas nefoedd
    Am gawl brag, do, do, o’m hanfodd.

Ond, pa beth bynnag fu ei hanes, y mae Llanymddyfri’n anwyl i bob Cymro,
ac yn anwyl yng ngolwg y nefoedd, oherwydd o honi hi y daeth y Ficer
Pritchard a Pher Ganiedydd Cymru.

Cerddais drachefn drwy’r dref, gadewais y castell ar y chwith, gadewais y
dref o’m hol, a dois i fynwent Llandingad.  Yma, meddir, y claddwyd y
Ficer, ond nid edwyn neb le ei fedd.  Yn wir dywed traddodiad nad ydyw
yma mwy, ond fod yr afon wedi rhuthro drwy’r fynwent unwaith, ac wedi
cario’r corff i’r môr.

Dychwelais trwy’r dref gysglyd dawel i’r gwesty i gael bwyd; ac yn y
prydnawn cychwynnais tua’r castell.  Saif ar dalp o graig yn ymgodi ar
lan yr afon.  Yr oedd dannedd y graig i’m gwyneb wrth i mi neshau ato, a
gwelwn yr eiddew yn ymglymu am ei fur toredig.  Cerddais rhyngddo a’r
afon, a dringais y bryn.  Y mae’n sicr fod llawer o dref Llanymddyfri
wedi ei hadeiladu â’i gerrig.  Nid oes ond dau ddarn o’r mur trwchus yn
aros, y darn agosaf at y dref, ond yr anhawddaf cael cerrig o hono.  Y
mae’r gornel, gyda thŵr mae’n debyg, wedi syrthio, ac yr oedd coed yn
estyn eu canghennau dros y muriau oddiar ben y bryn y tu allan.  Gwelwn
ddrysau y bu’r gwylwyr yn esgyn ar hyd-ddynt i’r muriau unwaith.  Tawel
iawn ac unig ydyw’r adfail, o’i gydmaru ag ef y mae eglwys a mynwent
Llandingad, welwn dros gornel y bryn, yn lle byw.  Bu Gruffydd ab Rhys yn
gwarchae arno, yn adeg amddiffyn Cymru.  Cymerodd Rhys ei fab ef yn 1202;
ac wedi hynny bu Gwenwynwyn, Rhys Ieuanc, a Rhys Grug yn ymladd yn ei
wydd.  Llawer un fu farw yn y ffos sydd eto i’w gweled yn amgylchu
darnau’r castell,—ond mwynach yw’r olygfa geir o hono heddyw na golwg ar
ei hanes.  Y mae gwastadedd bychan gwyrdd rhyngddo a’r afon, y mae’r dref
ar y gwastadedd odditano, ac onid ofer i mi geisio darlunio prydferthwch
dyffryn y Tywi?



Y GARREG WEN.


CYCHWYNNODD tri o Gricieth ar fore hyfryd ym mis Awst diweddaf i weled
cartref Dafydd y Garreg Wen, ac un o’r tri hynny sy’n ysgrifennu yr hanes
di-addurn ond cywir hwn.

Yr oeddym yn tybied, er i ni weled llawer bau tlws, na welsom ddim
tlysach erioed na Bau Cricieth y diwrnod hwnnw.  Yr oedd y môr diderfyn
o’n blaen, ac yr oedd y glesni hwnnw arnom na welsom yn unlle ond ar
draethell Môr y Canoldir, dan gysgod mynyddoedd Liguria.  Ar un ochr iddo
yr oedd bryniau Meirion, fel llinell euraidd rhy dyner i ddisgleirio.
O’n blaen ymgodai Moel y Gest fel caer anferth, a gwelem y ffordd hir yn
dirwyn hyd yr ochr tuag ati.  O’n hol safai castell Cricieth, yn hyf fel
pan y canai Iolo Goch iddo, ond heb ogoniant ac heb oleuni mwy.  Ar ein
chwith yr oedd pigau mynyddoedd gleision yn codi ac yn colli o’n golwg
gyda phob codi a gostwng yn y ffordd.  Ar ein llaw dde yr oedd y môr, ac
adlewyrch haul ar grib bob ton, yn gwneyd i ni feddwl am fyddin
Sennacherib,—

    “A phigau picellau fel ser ar y lli
    Pan dywynno yr haul ar las ddwr Galili.”

Anadlai gwynt braf o’r Wyddfa arnom wrth i ni deithio ymlaen, fel pe
buasai’r gauaf yn dod i ddweyd ei fod wedi tyneru, ac i ofyn cymod.  Yn
ol yr oedd hafannau o borfa las rhwng creigiau, a’r môr tawel dwfn islaw.
Ymlaen wele fynyddoedd a chreigiau mawr, ar ffurf muriau, megis wedi eu
codi drwy hud.  Ac yr oedd gwenau’r haul yn aros ar flodau gwylltion ochr
y ffordd.  Ffordd eithaf unig ydyw, yr oedd yn pasio tŷ bychan
adfeiliedig o hyd.  Yr oedd y tai hyn yn sefyll yn y lleoedd mwyaf
dymunol,—dan gysgod craig neu ar lan aber wyllt,—ond y mae eu preswylwyr
wedi mudo, mae’n debyg, i’r tai mwd newyddion sy’n codi megis cabanau
un-nos, o amgylch Cricieth.  Gwelsom un fynedfa adfeiliedig hefyd, gyda’r
glaswellt yn prysur orchuddio’r graian, fel pe buasai’n arwain at balas
anghyfannedd.

Wrth Fron y Gader, troisom o’r ffordd i lecyn caregog, ac yna i lawr i
gyfeiriad y môr.  Yr oedd yn boeth orlethol, ac araf iawn y teithiem
ymlaen.  Cawsom ein hunain mewn morfa hir.  Braich o’r môr oedd unwaith,
mae’n ddi-ddadl, ond llenwodd rhyw afonig fach brysur y gilfach â daear.
Y oedd ffosydd wedi eu torri ar hyd y morfa, ac yr oedd gwair yn ei
ystodiau yn sychu’n braf.  O ganol y morfa cyfyd bryn bychan, bryn fu’n
ynys unwaith, ac ar ben y bryncyn gwelem eglwys ddi-addurn.  Dyna Ynys
Cynhaiarn, ac yn ei mynwent y gorwedd Dafydd y Garreg Wen.  Cyfeiriasom
ati’n araf ar hyd y ffordd las gwmpasog, tra’r oedd y caeau a’r môr yn
ymddangos yn gydwastad,—y naill yn wyrdd a’r llall fel arian byw.

Yr oeddym braidd yn lluddedig, ac ni waeth cyfaddef nad oeddym wedi
bwriadu dadluddedu yn Ynys Cynhaiarn uwch ben cwpanaid o de Ond och!  Nid
oes yn ymyl yr eglwys, nac yn agos, ond beudy to brwyn adfeiliedig.  Y
mae porth yr eglwys ymron mynd a’i ben iddo, ond y mae rhyw fath o drwsio
musgrell wedi bod ar yr eglwys droion.  Morwyr ac amaethwyr sy’n gorwedd
yn y fynwent.  Y mae rhyw Lywelyn Cymreig yn gorwedd yno, a Charreg o
Gernyw, a Mac Lean o’r Alban.  Gwelsom fedd _pilot_ wedi boddi, a gwelsom
lawer enw prydferth heblaw Llwyn y Mafon.  O’r diwedd, yn un o’r corneli
agosaf i’r môr, cawsom y bedd yr oeddym yn chwilio am dano.  Carreg las
sydd ar y bedd hwnnw, ar ei gorwedd, ychydig yn uwch na’r lleill.  Ar ben
y garreg y mae llun telyn mewn cylch, ac yna yr ysgrifen hon,—

                               BEDD DAVID OWEN

                         _neu Ddafydd y Garreg Wen_.
                              y Telynor rhagorol
                               a gladdwyd 1749,
                                  Yn 29 oed.

    Swynai’r fron, gwnai’n llon y llu—â’i ganiad,
          Oedd ogoniant Cymru;
       Dyma lle cadd ei gladdu,
       Heb ail o’i fath, Jubal fu.

                                                                     E. O.

Y mae’r bedd yn un o’r rhai mwyaf dinod ymysg y beddau dinod sy’n
llenwi’r fynwent hon; ac oni bai am ofal Elis Owen o Gefn y Meusydd, ni
fuasai yno garreg o gwbl.  Uwch ben bedd y cerddor saif danadl poethion a
checs a llysiau bras, anhyfryd eu harogl.  Y mae’r fynwent a’r eglwys yn
ddarlun o bethau wedi eu gadael.  Y mae’r eglwys wedi ei phlastro
drostri, heb neb i ofalu am ei phrydferthwch, ac yn wag.  Y mae’r fynwent
mor anhrefnus a phe buasai pla wedi difa holl drigolion y fro, ac wedi
gadael i’r marw gladdu’r marw.

Eto i gyd, nid ydyw’r fan dawel unig heb brydferthwch.  Yr oedd un o
honom wedi blino, a rhoddwyd ef i gysgu ar fedd Dafydd y Garreg Wen, a’i
glust ar y delyn.  A glywodd alawon yn ei gwsg, nis gwn.  Cerddasom
ninnau, y ddau effro, o amgylch y llannerch gysegredig.  Gwelsom mai
mynwent bedair-onglog oedd, gyda choed yn estyn eu canghennau drosti.
O’i hamgylch y mae’r morfa isel, ac yna cylch o fynyddoedd yn edrych dros
y morfa arni.  Pan oedd yn ynys, yr oedd yn brydferthach nag ydyw’n awr.

Wedi treulio rhyw awr yn y fynwent, yr oeddym yn effro ein tri, ac yn
newynog iawn.  Troisom yn ol i’r ffordd, a chyrhaeddasom Bentre’r Felin.
Te fynnai dau o honom, byddai’n hawdd cerdded ar ei ol, llaeth fynnai’r
llall.  Troisom i dŷ hen ffasiwn a’r enw “Temperance” wrth ben ei ddrws.
Tra bo’r tecell yn berwi, buom yn edrych ar lun llongau oedd hyd y mur,
ac yn ysgwrsio â’r cwsmeriaid oedd yn dod i’r siop pob peth.  Yr oedd y
cloc awr yn rhy fuan, yr oedd Beibl a llyfr hymnau ar y bwrdd, ac yr oedd
cylch o addurniadau o amgylch carreg y llawr.  Gwnaeth y wraig garedig de
da, ac nid oedd yn esmwyth heb ganlyn arnom i fwyta’n ddibaid.

Wedi ymgryfhau fel hyn, ail gychwynasom hyd ffordd Porth Madog.  Gwelem
eglwys Ynys Cynhaiarn ar y gwaelod wedi dringo i fyny bryn ac yna collodd
y môr o’n golwg.  Teithiasom ymlaen ar hyd y ffordd lychlyd, ac yr oedd
yn mynd yn boethach o hyd.

O’r diwedd daeth y lle i droi o’r brif-ffordd i ffordd gwlad.  Yna cawsom
gysgod hyfryd coed derw bychain, ac yr oedd mantell Fair yn tyfu dan eu
cysgod.  Arweiniai’r ffordd i fyny o hyd, ac odditanom yr oedd
nant,—gwyddem ei bod yno oherwydd ei dwndwr mwyn ac oherwydd fod
brenhines y weirglodd yn tyfu uwch ei phen.  Cyrhaeddasom ben y golwg, a
daethom o’r coed.  Yr oedd y tawelwch yn adfywiol anesgrifiadwy,—nid oedd
yno ond su pell y môr a sain ambell aderyn mynydd, a gwelem ehedydd yn
codi ar ael y goleu.  Gwelem gastell Cricieth, a mynyddoedd Lleyn yn y
pellder y tu hwnt iddo.  A gwelem ein ffordd ninnau’n ymdroelli dros y
ffriddoedd a’r bryniau, drwy wlad o greigdir, dros y mynyddoedd oedd
rhyngom a’r môr.  Yr oedd anadlu’r awyr iach yno yn bleser,—yr oedd arogl
grug a rhedyn arni.  Yr oedd arnom eisiau bwyd er mai newydd fwyta
oeddym.  Gwyn fyd, ni a dybiem, y bobl sydd yn byw yn y fro iach hon.
Holasom y ffordd i’r Garreg Wen yng Ngarth Morthin, ac wedi dringo aml
fryn serth cyrhaeddasom eglwys Treflys.  Saif yr eglwys fechan hon yng
nghanol caeau gwair, heb na thŷ na thwlc yn agos ati, a buom yn crwydro
tipyn o’i hamgylch cyn darganfod llwybr troed i fynd ati.  Y mae golwg
newydd iawn ar yr eglwys ac ar y beddau; yr oedd y fynwent yn debycach i
fynwent ar hanner ei gorffen nag i hen un.  Gwelais lawer pennill ac
englyn tarawiadol.  Dyma bennill oddiar fedd merch Braich y Saint,—

    “Gorffwysodd, gadawodd yr anial ar ol,
       Tu draw i’r Iorddonen y glaniodd;
    A’r Iesu dderbyniodd ei hysbryd i’w gôl,
       Can’s ffyddlon yw’r hwn a addawodd.”

Dyma englyn, hefyd, am y Cristion,—

    “Os tan y gist mae’r Cristion,—ei ddu fedd
          Sydd fel man-blu’n union:
       Mae rhyw fwynhad mawr fan hon
       Yng nghlyw su engyl Seion.”

Dyma sydd ar fedd Bardd Treflys,—

    Gu ŵr, rhawg erys ar go’i ragoriaeth,
    Cywirdeg ydoedd, caredig odiaeth;
    O Seion o’i ol cyfyd swn alaeth,
    Am ei llawn noddwr trwm yw Llenyddiaeth,
    Am wawr hoffrudd, am air ffraeth—Bardd Treflys
    Drwy Eifion erys diderfyn hiraeth.

Y mae’r olygfa o fynwent Treflys yn ogoneddus.  Y mae mynyddoedd Lleyn,
Arfon, a Meirionnydd yn gylch am dani ac y mae un bwlch yn y cylch, a môr
glas pell sydd yn y bwlch hwnnw.  Buom yn eistedd ar y llethr, ar gae
adlodd, i synnu at yr olygfa, ac ni cheisiaf fi ei darlunio.  Daeth dyn
heibio, a danghosodd dalcen y Garreg Wen, draw ymhell, dros ddyffryn a
gwastadedd.

Yr oedd y dydd yn mynd, a’n ffordd ato’n hir.  Aethom i lawr gore gallom
hyd y caeau serth i’r Morfa Bychan, lle agored ystormus, gydag ychydig o
ddefaid yn blewyna hyd dwmpathau grugog dyfai yma ac acw yn y tywod.  Ond
dipyn oddiwrth y lan, yr oedd caeau gwastad fel bwrdd, dan wenith tonnog.
Wedi taith flin gadawsom y môr, a daethom at lyn ar ochr y ffordd, a
lili’r dŵr ar ei ymylon.  Oddiwrth y llyn arweiniai ffordd dywodlyd i
fyny at dy gwyn ar y fron.  Dringasom i fyny, heibio i ffynnon o
ddyfroedd clir.  Daethom at gefn y tŷ, ac yr oedd geneth fach yn cychwyn
i hel y gwartheg.

“Ai hwn ydi’r Garreg Wen?”

“Ie, mae meistres yn y tŷ.”

Gyda’r gair daeth gwraig ieuanc i’r drws, a dywedodd fod croeso ini weld
y tŷ.  Gwelodd fod yr ieuengaf o honom wedi blino.  Daethom yn ffryndiau
mawr, ac ni chawsom fwy o groeso yn unlle erioed.  Yr oedd y gwartheg yn
y fuches, ond cawsom de dan gamp.  Yna cawsom weled holl ystafelloedd
cartref y telynor.  Hen amaethdy clyd ydyw’r Garreg Wen.  Tŷ hir ydyw,
a’i dalcen i’r graig, yn un uchder llofft.  Y mae adeiladau o’i gwmpas
bron ym mhob cyfeiriad, a gerddi fel pe ar silffoedd craig, a choed
ffrwythau.  Oddiamgylch tyf gwynwydd a phys llygod a phob blodeuyn
gwyllt.  A thraw wrth gefn y tŷ y mae craig,—hwyrach mai hon ydyw’r
Garreg Wen,—yn cysgodi’r tŷ rhag gwynt yr ystormydd.  Yr oeddwn wedi
clywed mai wrth garreg ar ben y mynydd y cyfansoddodd Dafydd “Godiad yr
Ehedydd.”  Dywedwyd wrth enethig am ddod gyda fi i ben y caeau i ddangos
y garreg.  Yr oedd yr olygfa’n ehangu o hyd wrth i ni ddringo o gae i
gae, a dyma ddiwedd ysgwrs fu rhwng yr enethig a minne,—

“Fedri di ganu?”

“Medra.”

“Fedri di ganu ‘Dafydd y Garreg Wen’ i mi?  Neu ‘Godiad yr Ehedydd’?”

Edrychodd y plentyn yn syn arnaf.

“Wyt ti ddim yn dysgu canu yn yr ysgol?”

“Ydw.”

“Wyt ti’n dysgu canu Cymraeg?”

“O nag ydw!”

“A ddysgodd neb erioed i ti ganu alawon Dafydd y Garreg Wen, a thithau’n
byw yn yr un wlad a fo?”

“Naddo.”

“Be fedri di ganu?”

“‘Little Ship’ a ‘Gentle Spring.’”

Yr un dystiolaeth brudd wyf yn gael ymhob man yng Nghymru.  Mae cartref
enwog yn ymyl y plentyn,—lle cyfieithwyd Gair Duw i’w iaith, lle rhoddwyd
ar gân ryw wirionedd wareiddiodd ei gyndadau, lle daliwyd rhyw alaw
nefolaidd i buro a diddanu meibion dynion byth mwy,—ond, druan bach, ni
ŵyr ef ddim am danynt.  Feallai fod ei athraw neu ei athrawes heb fedru
ei iaith, ac felly’n hollol anghymwys i’w ddysgu.  Feallai, mewn ambell i
ran o’r wlad, fod ei athraw yn Gymro, ond rhy anwybodus i ddysgu dim iddo
am ei wlad ei hun, ac yn rhy ddi-athrylith i weled gogoniant llenyddiaeth
Cymru.  Dysgir alawon yn yr ysgolion, ac eto ceir ardaloedd cyfain lle
nas gall y plant ganu “Llwyn Onn.”  Rhaid fod rhyw swyn anghyffredin yn
alawon Cymru, yn ogystal ag yn ei hiaith, onide buasai galluoedd
Philistaidd y byd hwn wedi eu llethu er’s llawer dydd.  Y Llywodraeth, yn
credu fod yr iaith Gymraeg yn draffeth i’w swyddogion tâl; arolygwyr,
wedi rhoddi eu cas ar iaith nas gallant ond ei hanner siarad; athrawon,
wedi dad-ddysgu Cymraeg da wrth ddysgu Saesneg sal,—neu heb fedru erioed
ond y Saesneg sal yn unig; goruchwylwyr anwybodus, yn credu fod nef a
daear yn agored i’w plant os medrant ddeall Saesneg bratiog porthmyn
Caer,—druan o eneidiau plant Cymru rhyngddynt oll.

Cyrhaeddasom y garreg.  Carreg fawr ydyw, ar ben cae glas.  Dywed yr
hanes fod Dafydd yn dod adre o Hafod y Porth ar lasiad y bore.  Yr oedd
yr haul yn dechre goreuro y mynyddoedd gogoneddus acw, ac yr oedd
ehangderoedd y môr yn y golwg.  A chododd ehedydd bach uwchlaw’r coed, ac
arllwysodd lawenydd y bore mewn cân.  Rhoddodd Dafydd ei delyn i lawr
wrth y garreg hon, a chyfansoddodd “Godiad yr Ehedydd.”

Wedi cyrraedd y Garreg Wen yn ol yr oedd gwahoddiad cynnes i ni aros
noson.  Ond yr oedd yn rhaid prysuro ymaith.  Cerddasom yn brysur tua
Phorth Madog, ar hyd rhiwiau lawer.  Gwelsom lawer hafan brydferth, ac
aml gip ar y Traeth Mawr a Chastell Harlech rhwng y coed.  Yr oedd tri yn
prysuro trwy ystryd hir Porth Madog, a chyda i ni eistedd yn y tren, yr
oeddym yng Nghricieth yn ol.  Teimlad dedwydd, wrth gysgu ar lan y môr y
noson honno, oedd y teimlad ein bod wedi gweled bedd y telynor ac wedi
bod yn y Garreg Wen.



TYDDEWI.


    “Cystal am ofal im yw
    Fyned deirgwaith i Fynyw,
    A myned, cynired cain,
    Ar hafoed hyd yn Rhufain.”

                                                                IOLO GOCH.

YR oedd wedi taro chwech o’r gloch y bore er ys pymtheng munud neu well
pan garlamai ein merlen hoew drwy heol hen Hwlffordd, gan deimlo nad oedd
mwy o bwysau yn ein cerbyd ysgafn na phe buasai ddim ond bwcwl addurnedig
i gadw’r awenau yn eu lle.  Naw o’r gloch y noson cynt, yr oeddwn wedi
gadael Llundain a’i chyffro, gan ddisgwyl gweled y bore’n torri ar
fynyddoedd Cymru, a chan wybod fod rhyw dawelwch yn gorffwys ar y
mynyddoedd hynny, tawelwch iachaol, heddwch a sudda fel balm i enaid y
neb a hir edrycho arnynt.  Heddwch y mynyddoedd,—dyna feddyginiaeth
meddwl pryderus, a dyna adnewydda y corff curiedig fel yr eryr.  Aml y
teithia enaid Cymro i fynyddoedd ei wlad.

Ar hyd y daith nos bum yn breuddwydio’n anesmwyth yn y tren.
Breuddwydiwn ein bod yn chwyrnellu drwy ddinasoedd distaw
anghyfannedd,—yr oedd Caerloew wedi ei hanrheithio gan bla, a’r glaswellt
yn tyfu ar hyd ei hystrydoedd; yr oedd Casnewydd dan y môr, a dim ond
rhyw drumau aur, fel crib, yn codi o’r tonnau oer brigwynion; yr oedd
adfeilion anferth Caer Dydd yn goedwig o eiddew a mieri, a’r môr wedi
cilio oddiwrth ei glan.  Ond yr oedd edyn aur y bore ar Lyn Nedd ac ar
fau Abertawe, er mai prin y medrai’r dydd fy argyhoeddi nad anialwch du
oeddwn wedi adael ar fy ol.  O wlad y nos i wlad y bore yr oedd fy
nhaith.

Nid oedd gennyf ond dwy noswaith a diwrnod i mi fy hun.  Rhaid oedd
treulio’r ddwy noswaith yn y tren, a mwyn oedd meddwl y cawn dreulio’r
diwrnod yn Nyfed, a mynd ar bererindod i Dyddewi.  Bu pererinion
dirifedi’n cyrchu ar hyd y ffordd hon, yn hen oesoedd cred, tua Thyddewi;
oherwydd yr oedd mynd yno deirwaith mor haeddiannol a phe’r eid dros dir
a môr i Rufain ei hun,—ceid yr un gollyngdod am bechod, yr un iechyd
corff, yr un heddwch meddwl.  Ac i’r neb deithiodd Ddyfed hyd Dyddewi yn
nyddiau cynnes hirion esmwyth yr haf, nid anhygoel yw’r traddodiad nad
oes afiechyd na gwenwyn na phechod yn trigo yn naear sanctaidd Dewi.

Gwell i mi gyfaddef ar unwaith mai nid marweiddio’r cnawd oedd amcan fy
mhererindod, onide buaswn wedi mynd yn y gauaf, a buaswn wedi cerdded
dros yr holl fryniau tonnog sy’n ymestyn rhwng Hwlffordd a Thyddewi.  Yr
oeddwn wedi deall y byddai un o geffylau goreu’r wlad, ac un o’r gyrrwyr
goreu, yn fy aros yng ngorsaf Hwlffordd.  Bu’n edifar gennyf droion yn
ystod y dydd na fuaswn wedi cerdded; ond, o ran hynny, gorfod i mi
gerdded llawer, ac nid o’m bodd.

A dyma ni’n carlamu drwy stryd Hwlffordd.  Mor hyfryd ydyw’r cerbyd
ysgafn ar ol y tren trwm, ac mor iach ydyw awel y bore dros y bryniau
gleision acw.  Y union o’n blaenau ymgyfyd castell Hwlffordd, gan wgu i
lawr arnom, ac ar yr hen dref ddyddorol yr ydym yn cyflymu drwyddi.
Toisom ar y dde wrth droed craig y castell, ac aethom drwy ystryd gul ar
garlam wyllt, er perygl nid ychydig i’r plant troednoeth coesnoeth oedd
yn ymhyfrydu yn y dŵr ac yn y llaid sydd ar hyd ochrau ac ar ganol y
Stryd Dywell.  Dywedai’r gyrrwr mai ym Mhenfro Seisnig y mae Hwlffordd,
ac na siaredir gair o Gymraeg ynddi.  Gwelwn yn amlwg oddiwrth enwau’r
siopwyr fod llawer cenedl yn trigo yn y dref.  Bleddyn Gymreig mewn
heddwch â Havard Normanaidd.

Sais oedd y gyrrwr, a charn Sais.  Ni wyddai ddim am Arthur, ni chlywodd
son am William Havard, ni wyddai ddim am hanes y dref.  Sur ac anfoddog
oedd ei drem, ac nid oedd ei iaith mor goeth ag iaith ambell un, oherwydd
yr oedd yn rhy hoff o son am drigolion y tywyllwch wrth eu henwau, a
mynych gyfeiriad a wnai at ei enaid byw.  Ceffylau, cwn, a da pluog oedd
hoff destyn ei ymddiddanion; ond am gyfarfodydd pregethu, neu ysgolion y
fro, neu ei cholegau, gwyddai lai na dim.  Yr oedd ganddo ddaliadau
gwleidyddol, ac nid oedd arno gywilydd eu harddel.  Yr oedd yn ddyn
gonest, yn eithaf caredig, ac yn barod iawn i dystio mai gwir bob gair
oedd yr holl ystraeon adroddai.

Dyma ni ar ben y rhiw cyntaf, a gwlad Dyfed hen wlad yr Hud, gwlad chwedl
am bagan a sant, yn ymestyn o’n blaenau.  Golwg oer a thrist sydd arni,
gwlad o fryniau penisel, yn ymestyn fel tonnau tua gorwel y gorllewin,
heb fôr yn y golwg, heb fynydd.  Ffermwyr, moch, gwyddau, peiriannau
lladd gwair,—edrychent am y pruddaf.  A thraw, yn hanner cylch o’n
blaenau, yr oedd cymylau gwgus yn llawn o wlaw oer.  Ceisiai’r gyrrwr fod
yn llawen, ond yr oedd amheuaeth yn ei lais wrth iddo ddweyd,—“Cloudy
mornin’, fine day, sir.”  Gyda hynny disgynnodd y gwlaw arnom fel pe’i
tywelltid o grwc, a chlywn y defnynnau’n rhedeg i lawr rhwng fy nghrys
a’m croen.  Anodd canu yn y gwlaw, ac eithaf digalon oeddwn innau.
Treiai’r gyrrwr fy nghysuro, a thynnu fy sylw at rywbeth oddiwrth fy
sefyllfa anghysurus ac anwydog.  Danghosodd ddyffryn bychan i mi, a
dywedodd gyda blas ei fod yn lle ardderchog am lwynogod a dyfrgwn.
Dywedais innau nad oeddwn yn cymeryd y dyddordeb lleiaf mewn llwynogod na
dyfrgwn; ac nad oedd dim casach gennyf na chwn hela, ond y bobl fydd yn
eu dilyn.  Daethom at afonig fechan dryloew, oedd yn rhedeg drog raian
glân, dan lwyni o frwyn a llysiau’r gwenyn; ac wrth fy ngweled yn edrych
ar y blodau, dywedodd y gyrrwr fod y nant yn lle ardderchog i bysgota
brithylliaid, a gofynnodd i mi a oeddwn yn ddaliwr da.  Dywedais fy mod
wedi dal un brithyll unwaith, a fod yn edifar gennyf byth; ond ni fedrai
ddeall hynny.  Yr oedd y gwlaw yn dal i ddisgyn, a’m calon innau’n drom.
A dechreuodd y gyrrwr ganu, gan wneyd pob swn rhwng swn hogi llif a swn
melin goffi.  Gofynnodd i mi toc a oeddwn yn hoffi canu, a dywedais innau
nad oeddwn wedi clywed canu er ys rai dyddiau.  Yr oeddwn yn ddrwg fy
hwyl, ac ni phetrusodd y gyrrwr ddweyd gan ba fod y blinid fi.

Ond, gyda hynny, peidiodd y gwlaw, a gwenodd yr haul ar Ddyfed.
Siriolodd y ffurfafen, a gwenodd Dyfed arni drwy ei dagrau.  Y mae gwên
yn disgyn ar rudd brenhines y weirglodd, dacw fynyddoedd a chastell a’r
môr, a gallasech glywed dau wlyb yn bloeddio canu dros yr holl wlad.
“Dydech chi ddim llawer o ganwr,” ebai’r gyrrwr, ar ddiwedd y gân.  “Nag
wyf,” ebe finnau, “nid ydych chwithau ddim chwaith, y mae fy llais i wedi
ei golli o hir ddistawrwydd, a’ch llais chwithau wedi ei andwyo gan ormod
siarad.”

Castell Roche oedd y castell a welem.  Un tŵr sydd o hono, a saif hwn ar
drwyn craig sy’n ymwthio i fyny drwy’r garreg galchaidd.  Gellir ei weled
o bell o bob ochr; y mae’n ddu ac uchel a balch fel gorthrwm, yn gwgu ar
holl ddyffrynoedd y wlad hon.  Wedi i ni ei adael dywedai’r gyrrwr ein
bod yn nesu at y terfyn rhwng Dyfed y Saeson a Dyfed y Cymry, a chefais
dipyn o hanes y ddwy genedl ganddo.  Nid oedd gwleidyddiaeth Cymry Penfro
wrth ei fodd, a gyrrai’n enbyd ar y personiaid am na ddysgent well credo
iddynt.  Ond dywedai eu bod yn gynnil, yn llwyddiannus, ac yn bobl iach a
chryf.  Ond anffawd fawr oedd eu bod yn siarad Cymraeg, ac yntau’n deall
yr un gair.

Tra’r oedd y gyrrwr yn traethu ei ddoethineb fel hyn, yr oedd golygfa
ogoneddus o’n blaenau,—creigiau’n taflu allan o’r ddaear ar y dde i ni, a
chastell Roche o hyd; a’r môr, gyda’i benrhynnoedd a’i ynysoedd, ar ein
chwith ac o’n blaenau.  Cyn hir, disgynasom ar hyd y rhiw at dafarn
Niwgel.  Y mae hon ar lan y môr; ac yn union ar y terfyn, fe ddywedir,
rhwng y wlad Gymraeg a’r wlad Saesneg.  Yr oeddym ninnau yma ar hanner
ein ffordd, ac yr oedd yn rhaid i’r ferlen a’r gyrrwr wrth lymaid.  Y
mae’r dafarn mewn lle unig, mewn pantle ar y lan, ac ymron yn anhygyrch
yn y gauaf, gallwn feddwl.  Ond y mae llawer o gyrchu yno yn yr haf.  Pe
buaswn yno drannoeth, buaswn yno ar y dydd dawnsio, sef dydd Iau.  Y mae
traeth o dywod melyn caled gerllaw’r dafarn, a chyrcha bechgyn a genethod
yr ardaloedd cylchynol yno ar nawniau Iau i ddawnsio, a daw lluoedd mewn
cychod o’r lan gyferbyn i’w cyfarfod.

Wrth i mi ddringo ar hyd y ffordd serth ar ol y ferlen o bantle’r dafarn,
gwelwn y traeth prydferth, ac ni welais erioed gymaint cynulleidfa o
wylanod y môr a’r dyrfa o honynt oedd yn edrych yn astud ar y llanw’n
mynd allan.  O hyn i Dyddewi yr oedd y wlad yn dlysach a’r bobl yn fwy
dyddorol.  Ochrau rhedynog oedd yno, a gwartheg duon,—yn codi hiraeth am
y llefrith melus hwnnw na cheir ond gan wartheg sy’n pori ochrau
mynyddoedd.  Brethyn cartref oedd gwisg y bobl, neu rywbeth ar ei
lun,—brethyn da, ffedog stwff, a bectwn yspotiog.  Holent fi’n awchus, a
methent wybod oddiwrth fy iaith o ba ran o Gymru y deuwn.  Gwahoddent
fi’n groesawus i’w tai, ond yr oedd yn rhaid i mi gyfeirio eu sylw at y
gyrrwr a’i geffyl yn llafurus ddringo’r gorifyny o’m blaen, ac ymron
cyrraedd pen y rhiw.  Byddai raid i minnau redeg, braidd cyn dechreu’r
ymddiddan, i ddal y cerbyd ac i neidio iddo, a rhedai’r ferlen yn chwim,
a’i mwng yn yr awel, hyd nes y deuem at riw drachefn.

Pan ddisgynasom i Solfach, unig sylw’r gyrrwr am y bobl oedd,—“awful
radicals.”  Hafan fach ddymunol sydd yma, ac y mae gwedd gyfoethog a
llewyrchus ar bob peth.  Tra’r oedd y gyrrwr a’i ferlen yn goblygu i
fyny’r rhiw, cefais amser i ysgwrsio â’r fforddolion ddigwyddent fy
nghyfarfod.  Hoffwn eu Cymraeg yn fawr, yr oedd mor syml a melodaidd; ac
yr oedd rhyw ledneisrwydd boneddigaidd ynddynt yn gymysg ag awydd aniwall
i siarad.

Ond y mae ein gwynebau ar Dyddewi o’r diwedd.  Nid oes bosibl peidio
cofio ei hen enw wrth edrych arni,—“Gwlad yr Hud.”  Y niwl teneu, pellder
diderfyn y môr, y creigiau ysgythrog acw,—dyma deilwng gartref i ddefodau
erchyll rhyw hen grefydd baganaidd, dyma wlad yr hoffai ysbryd aflonydd
rhyw hen forleidr crwydrol aros am ennyd ynddi, ar ryw benrhyn neu ynys
sydd eto’n dwyn ei enw.  Gwlad hyd a lledrith ydyw, wedi ei gwneyd gan
Ddewi yn wlad goleuni’r efengyl.  Ond y mae ei swyn a’i phrydferthwch fel
erioed.

Arhosodd y cerbyd yng nghanol Tyddewi, a disgynnais i westy cysurus a
phrydferth.  Wedi cael tamaid,—yr oedd erbyn hyn rhwng naw a deg o’r
gloch y boreu,—cerddais ymlaen i gyfeiriad yr eglwys gadeiriol.  Ni welir
hi nes dod i’w hymyl, oherwydd mewn pantle y mae.  Yna ymegyr ei
hardderchowgrwydd o flaen y llygaid synedig.  Er fod ol adgyweirio arni,
meddyliwn am anialwch mawreddog a phrydferth.  Yr oedd rhyw geinder a
heddwch rhyfedd wedi gorffwys ar yr hen fangre hanesiol anwyl.  Draw
heibio’r eglwys y mae palas yr esgob yn adfeilion.  Ond na feddylier ei
fod yn hagr, er ei fod yn adfeiliedig.  Y mae llaw amser wedi rhoddi
prydferthwch digymar arno.  Y ffenestr gron, y muriau hirion, y llwydni
henafol, y wisg iorwg,—ym mha le y ceir adfeilion mor gain mewn glyn mor
brydferth?

Rhed aber dryloew o adfeilion y palas, neu o ryw ffynnon rinweddol sydd
ynddynt, ac ymdroella dan furmur, fel genethig yn mynd adre o’r capel,
drwy’r dyffryn bach tlws tua’r môr.  Nid rhosynau na blodau gardd sy’n
tyfu yno, ond blodau gwylltion Cymru,—llysiau’r mel a chwilys yr eithin,
blodau’r grug a hesg, eithin a rhedyn Mair.  Ac y mae’r dyffryn yn
ddarlun o brydferthwch a sirioldeb iechyd.  A meddyliwn y gellid ddweyd
am y blodau eiriau Iolo Goch am offeiriaid Dewi,—

                        “Engylion nef yng nglan nant.”

Yn y pantle hwn, hwyrach, y cododd Dewi Sant ei babell pan ddaeth yn
genhadwr i bregethu’r efengyl i baganiaid Dyfed.  Ar lan yr aber dlos
dryloew, sy’n murmur mor ddedwydd ag erioed drwy’r adfeilion, y bu Dewi’n
cydweddio â’i ddisgyblion am i Grist gael holl Gymru’n eiddo iddo.  Ac
ychydig feddyliai’r sant yr adeg honno, y mae’n bur sicr, y doi
brenhinoedd ar bererindod at ei fedd ac yr edrychid arno fel archesgob
holl Gymru.  Bum neu chwe chan mlynedd ar ol ei farw, pan oedd ffarf yr
eglwys Cristionogol yng Nghymru wedi newid yn ddirfawr, ceisiodd Gerald
Gymro brofi fod Eglwys Cymru wedi bod yn un, ac yn anibynnol ar Eglwys
Loegr, dan archesgob Tyddewi, olynydd Dewi Sant; a hir y brwydrodd i
ailennill i Eglwys Cymru ei hanibyniaeth hwn.  Wedi darostwng esgobaethau
Cymru dan lywodraeth archesgob Seisnig, ac wedi darostwng Cymru i frenin
y Saeson, aeth Tyddewi yn anwylach i’r Cymry o hyd.  Pan gododd Glyn Dŵr
ei faner, yr oedd yn meddwl am wneyd Tyddewi yn archesgobaeth Cymru, a
phrydferth iawn yw darluniad ei fardd Iolo Goch o’r fangre hyfryd.  Lecyn
prydferth a thawel, y mae gwŷr goreu Cymru wedi bod yn hiraethu am yr
iechyd a’r tawelwch geir ynnot.  Ynnot ti y gorwedd Dewi Sant a Gerald
Gymro a William Morris.  A dyma finnau bererin wedi cael edrych ar dy
degwch, ar dy draeth euraidd ar dy ffynnon loew, ac ar dy flodau
gwylltion.



NODIADAU.


I.


TYBED fy mod wedi codi awydd ar rywun, yn y dalennau sydd yn y llyfr hwn,
i fyned ar bererindod i rai o gartrefi Cymru; neu i grwydro dros
fynyddodd anwyl ein gwlad?  A yw daear gwlad ein tadau ychydig yn fwy
cysegredig i rywun ar ol darllen y peth ysgrifennais?

Ein gwlad ni ydyw.  Y mae wedi ei chysegru â hanes ein cenedl.  Ynddi hi
y gorwedd ein tadau; mae eu beddau’n sancteiddio’i daear, o fedd Owen
Gwynedd yn eglwys gadeiriol Bangor i fedd Islwyn ymysg bryniau hyfryd
Gwent.  Mae cartrefi yma ac acw hyd-ddi, a phlant ynddynt, llawn o fywyd
a gobaith, fel y gwroniaid fu ynddynt gynt; onid gwaith da yw dangos i’r
plant gyfeiriad camrau y rhai gychwynnodd o’r cartrefi hynny o’u blaen?



II.


Gallu grymus fu gwladgarwch erioed, ac er daioni bob amser.  Y mae
hunan-aberth ynddo, collir hunan mewn gwlad; y mae ymsancteiddio
ynddo,—llosga hunanoldeb fel sofl sych a difa’r hen lid teuluol sy’n
chwerwder bywyd barbaraidd, a dug ddyn yn nes at Dduw.  Yng ngrym ei
wladgarwch y mae nerth pethau goreu cymeriad dyn; yn erbyn gwladgarwch y
mae’r pethau gwaelaf yn ei gymeriad,—awydd am elw, cas at ei gyd-ddyn,
rhagfarn.  Ai arwydd o ddiffyg gallu mewn gwleidyddwr yw gwladgarwch?  Os
felly, condemnier Alffred Fawr, y brenin galluocaf fu gan y Saeson
erioed?  Ai arwydd o wendid meddyliol ydyw?  Os felly condemnier Dante, y
gŵr o feddwl cawraidd wnaeth i syniadau’r Canol Oesoedd fyw byth.



III.


Cartrefi gwledig Cymru yw yr unig gofgolofnau i arwyr ein hanes ni.
Dinod,—anadnabyddus yn aml,—yw eu beddau; nid yw eu gwlad eto wedi codi
llawer o gofgolofnau i’w henw, oherwydd tlodi, nid oherwydd diffyg serch.
Ond y mae’r cartrefi’n aros.  Nid adnabyddir lle bedd Llywelyn na John
Penri na Goronwy Owen, ond gwyddom pa le y buont yn chware pan yn blant.

Ni bydd cyfundrefn addysg Cymru’n gyflawn heb amgueddfa genhedlaethol.
Nis gwn pryd y daw, ond y mae y bardd wedi ei gweled trwy ffydd.



IV.


    “I’r Oriel Wen daw tyrfa lân,
    O oes i oes, i wenu’n gu
    A’r ddelwau gwyn y dewrion hyn,—
    Y tad a’i fab, y fam a’i merch,
    Y llanc a’i rian wylaidd rudd,
    A’r gwron hen yn fyr ei gam,
    A’i ben yn wyn gan flodau hedd,
    A’r byd o’i ol a’r nef o’i flaen,
    A’i ŵyr bach gwrol yn ei law
    A’r byd a’i droion fyrdd i’w gwrdd,—
          ‘Gwel yma, blentyn, dyrfa gain,
          Gwroniaid dewr anfonodd Duw.
          I fyw a marw er ein mwyn.

          CARADOG hwn, yn hawlio’n hyf
          Ei serch i’w fwthyn tlawd a’i wlad
          O flaen gorseddfainc teyrn y byd.
          A llyma LLYWARCH HEN y bardd,
          Yn gwyro’n drwm ar faglau pren,
          Ag enaid arwr yn ei wedd
          Yn gwylio’r rhyd ar fedd ei fab.

          Ac wele drindod fu yn dwyn
          Yr enw Owen, mwyn ei sain,—
          Y cynta’n canu ’i hirlas gorn;
          Y llall â llain yn medi’n ddwys
          Ym maes Coed Eulo; ’r olaf un,
          Gwr hir y glyn, ‘a gwaew o dân,
          Dyred, dangos dy darian.’
          Ab Einion draw yn gwylio’r aig
          A thelyn Harlech yn ei law.

    Saif yma ddau, O enwau per,—
    Llywelyn Fawr wnaeth Gymru’n un;
    A’i ŵyr ef, olaf lyw ein gwlad,
    Ei fywyd drosti’n aberth roes,
    A chŵyn yr awel fyth ei frad
    Ar fryniau Buallt—lleddfus dôn.’”

                                                                —R. BRYAN.



V.


Ganwyd Ann Griffiths yn Nolwar Fach, Llanfihangel yng Ngwynfa, yn 1776.
Claddwyd hi Awst 12, 1805.  Geneth nwyfus, hoff o ymblesera oedd, nes
clywodd bregeth gan Benjamin Jones, Pwllheli, yn Llanfyllin.  Crwydrodd
lawer i gymuno i’r Bala, dros y Berwyn maith unig.  Ac onid oes beth o
fawredd dieithr y mynyddoedd yn ei chân?

Llyfr bychan dyddorol iawn yw Cofiant Ann Griffiths, gan Morris Davies,
Bangor.  Cynhwysa hefyd ei llythyrau a’i hemynnau; cyhoeddir ef gan Mr.
Gee. Dinbych; ei bris yw dau swllt.  Dyma ddau ddyfyniad o hono.

“Byddai golwg ddymunol iawn ar y teulu yn Nolwar yn nyddu, a’r hen ŵr yn
gardio, ac yn canu carolau a hymnau.  Droion ereill, byddai distawrwydd
difrifol megis yn teyrnasu yn eu plith.  Byddai Ann yn nyddu, a’i Beibl
yn agored o’i blaen mewn man cyfleus, fel y gallai gipio adnod i fyny
wrth fyned ymlaen â’i gorchwyl heb golli amser.  Mi a’i gwelais wrth y
droell mewn myfyrdod dwfn, heb sylwi ar nemawr ddim o’i hamgylch, a’r
dagrau yn llifo dros ei gruddiau, lawer gwaith.”

“Yn Hydref, 1804, priododd Miss Ann Thomas â Mr. Thomas Griffiths, brawd
i’r diweddar Barchedig Evan Griffiths, Ceunant, Meifod.  Yr oedd efe yn
ŵr ieuanc o deulu parchus, o’r un naws grefyddol a hithau; yr oeddynt
hefyd yn agos i’r un oedran, ac yn anwyl iawn o’u gilydd, fel yr oedd eu
hundeb priodasol yn cael edrych arno gan eu cyfeillion a’u cydnabod yn un
hapus iawn.  Daeth efe, ar ol eu priodas, i fyw ati hi i Ddolwar Fechan.

“Ymhen deng mis ar ol priodi, esgorodd Mrs. Griffiths ar ferch, yr hon
o’i genedigaeth oedd yn blentyn gwannaidd iawn, a bu farw yn bythefnos
oed.  Ymadawodd y fam serchog ymhen pythefnos ar ol ei merch fechan, er
galar trwm i’w phriod trallodedig, a lliaws mawr o berthynasau a
chyfeillion crefyddol.”



VI.


Ar ol tynnu’r darlun sydd yn y llyfr hwn, y mae’r Tŷ Coch, hen gartref Ap
Fychan, wedi ei dynnu i lawr, ac y mae tŷ newydd ar ganol ei adeiladu.
Bum heibio Dan y Castell hefyd ddiwedd yr haf diweddaf; cefais ef ar ei
draed, ond heb neb yn byw ynddo.  Y mae Castell Carn Dochan uwch ben mor
gadarn ag erioed, a hen fro hanesiol Penanlliw mor ramantus.



VII.


Merch Hafod Lwyfog, Bedd Gelert, oedd gwraig Elis Wynn o Lasynys,—Lowri
Llwyd wrth ei henw.  Hysbyswyd fi na chladdwyd Elis Wynn dan allor eglwys
Llanfair.  Yr oedd set Glasynys wrth dalcen yr allor, a than honno y
claddwyd “Bardd Cwsg.”  Ond, erbyn heddyw, y mae allor yr eglwys newydd
wedi ei hestyn dros y set a thros y bedd.



VIII.


Gresyn fod “Ieuan Gwynedd, ei fywyd a’i lafur, gan Robert Oliver Rees,
Dolgellau” mor brin.  “Llyfr i bobl ieuainc” ydyw; ac y mae’n un o’r
llyfrau mwyaf bendithiol y gall bachgen neu eneth ei ddarllen byth.  Y
sawl a’i meddo, rhodded fawr bris arno.



IX.


Nis gwn ddim i sicrwydd am Ddewi Sant.  Nid wyf yn barod i ddweyd ei fod
yn fwy na bod hanner dychmygol, fel Arthur.



X.


Cyflwynir y llyfr hwn i rieni Cymru, lle mae gwaith a serch yn gwneyd y
cartref yn lân a santaidd; ac i blant Cymru, a gofiant am eu cartrefi
anwyl byth.





*** End of this LibraryBlog Digital Book "Cartrefi Cymru" ***

Copyright 2023 LibraryBlog. All rights reserved.



Home