Home
  By Author [ A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z |  Other Symbols ]
  By Title [ A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z |  Other Symbols ]
  By Language
all Classics books content using ISYS

Download this book: [ ASCII ]

Look for this book on Amazon


We have new books nearly every day.
If you would like a news letter once a week or once a month
fill out this form and we will give you a summary of the books for that week or month by email.

Title: Nedw
Author: Davies, Edward Tegla
Language: Welsh
As this book started as an ASCII text book there are no pictures available.


*** Start of this LibraryBlog Digital Book "Nedw" ***

[Illustration: “DECHREUODD WEIDDI A CHAU EI DDYRNE.”]



                                 NEDW:

                                  GAN

                            E. TEGLA DAVIES.


                                WRECSAM:
                      HUGHES A’I FAB, CYHOEDDWYR.
                                   ——
                                 1922.



                    _Argraffwyd a Rhwymwyd y Llyfr_
                     _hwn trwyddo, yng Nghymru, yn_
                       _Argraffdy y Cyhoeddwyr,_
                     _Principality Press, Wrexham._



                                CYNNWYS.


                                                   _Tud._
                 I. —HET NEWYDD F’EWYRTH JOHN           5
                II. —GNEUD ZEBRAS                      14
               III. —ANTI LAURA                        23
                IV. —MESUR TIR                         33
                 V. —MAFON DUON                        41
                VI. —’RHEN NEDW                        54
               VII. —EOS Y WAEN                        64
              VIII. —BOD YN DDIYMHONGAR                73
                IX. —DEWYRTH A BODO                    84
                 X. —SEC                               95
                XI. —GWYNT Y DWYRAIN                  106
               XII. —IFAN OWEN TY’N LLWYN             121



                                 NEDW.



                      I.—HET NEWYDD F’EWYRTH JOHN.


“Nedw,” medde Wmffre Pont Styllod, “ddoi di i hel crabas yn lle mynd i’r
ysgol y pnawn ma?”

Er mwyn i chi ddallt pethe, fi ydi Nedw, a nghefnder ydi Wmffre.

Adeg hel cnau a chrabas yn y Tyno oedd hi. Does ene ddim coed yn y Tyno,
ond coed cnau a choed crabas. Ac ar yr adeg yma ar y flwyddyn, mae hi
bron bod yn nefoedd ar y ddaear arnom ni, fel mae nhw’n canu yn y capel.
Ni fase eisio dim chwaneg i’w gneud hi’n nefoedd hollol, onibae am
Joseph y Titshar. Ar ganol dydd y byddwn ni’n hel cnau, a fi ac Wmffre
ydi’r ddau heliwr gore. Mi ces hi’n ofnadsen gan Joseph un diwrnod, a
dene pam nad ydi hel cnau a chrabas yn nefoedd hollol. Roedd y scŵl ei
hun yn digwydd bod yn sâl. Mae o’n well siort na Joseph. Wedi bod yn hel
yr oedd Wmffre a minne, a lot o rai erill, ac yn dwad yn ol i’r ysgol
â’n pocedi’n llawn,—dwy boced ein trowsuse, a dwy boced ein jecedi, nes
oedden ni bob un yn edrych fel y peth mae nhw’n alw’n falŵn, sy â’i llun
yn llyfr Standard IV. Wrth lwc, roedden ni’n ddigon buan i’r ysgol y
pnawn hwnnw, ac am hynny doedd gan Joseph ddim byd i ddeyd, er ei fod
o’n llygadu’n arw wrth weld y bechgyn yn dwad i mewn fel clomenod wedi
hanner eu saethu, eu hadenydd nhw’n gostwng, a’u coese wedi chwyddo.
Roedd o wedi’n siarsio ni o’r blaen ynghylch torri’r cnau yn yr ysgol,
ac wedi deyd be fydde’r gosb. Pan oedd o heb fod yn edrych, mi fydde ene
dorri mawr, a gwthio’r blisg i hinjis y ddesc, a phan fydde raid codi a
gostwng y ddesc, roedd hi’n helynt. Aethom i’r ysgol y pnawn cyn yr un
yr ydwi’n mynd i sôn amdano fo, yn iawn. Wedi canu, dyma rannu’r slaets
i ddechre sgwenu. Yn hollol sydyn mi eis i yn wyn ac yn chwys drosta i
gyd.

“Edward Roberts,” medde Joseph, “ydech chi’n sâl?”

Edward Roberts ydi f’enw iawn i wyddoch; ond fydda i ddim yn ei glywed o
ond ganddo fo, a chan Jane Jones, Tyddyn Derw, pan yn mynd yno i nôl
llaeth. Fedrwn i ddim deyd wrth Joseph mod i’n sâl, o achos toeddwn i
ddim; a fedrwn i ddim deyd nad oeddwn i ddim, o achos roeddwn i’n teimlo
fy mod i. Mi ddeyda i chi be oedd y mater. Roedd fy mhensel i yng
ngwaelod fy mhoced, o dan y cnau i gyd, a’r cnau wedi’u gwthio i mewn
mor dyn fel na fedrwn i yn fy myw fynd yn agos ati hi. Fe welodd y
bechgyn i gyd yn syth be oedd y mater, am nad oedd o’n ddim byd newydd;
ond fedre nhw ddim cynnyg benthyg pensel i mi heb i Joseph weld. Doedd
dim i’w neud ond aros fel roeddwn i,—edrych arno fo heb ddeyd dim.
Meddyliodd Joseph mod i’n mynd i ffeintio, a gyrrodd fi allan i’r awyr
iach. Ac allan â mi gymint fyth. Yn hynny mi fethes. Mae’n debyg fod yr
hen Joseph wedi ameu ar fy ffordd o fynd allan nad oeddwn i’n rhyw
ffeintlyd iawn, am fy mod wedi mynd ar ddau gam. I ffwrdd â mi i gefn yr
ysgol o’r golwg, ac mi deimles fy ngore am y bensel o’r tu allan i
waelod poced fy nhrowsus, nes oeddwn i’n chwys. A thuchan a chwysu
roeddwn, pan ddaeth rhyw gysgod heibio imi. Mi godes fy mhen, ac mi fu
bron imi ffeintio mewn gwirionedd. Pwy oedd yn sefyll uwch fy mhen, yn
gwylio pob symudiad, ond Joseph. “Ho, dyma’r saldra,” medde fo.
Gafaelodd yn fy nghlust i, a gerfydd fy nghlust yr aeth â fi i mewn.
Roedd y bechgyn erill yn ofni ac yn crynu erbyn hyn. Aeth Joseph â fi at
y ddesc.

“Ffeindia dy bensel,” medde fo.

“Fedrai ddim, syr,” medde finne.

“Lle mae hi?” medde fynte.

“Yng ngwaelod fy mhoced i, syr,” medde finne. Mae’n bwysig galw Joseph
yn “syr” ar adege fel hyn.

Mi bwysleisies y “syr,” er mwyn y dyfodol, fel mae nhw’n deyd. Gneud i
mi dynnu’r cnau i gyd allan ddaru o, beth bynnag; ac wrth bob dyrned o
gnau, roeddwn i’n cael pinsh newydd yn fy nghlust, nes fy mod i’n
gweiddi, fel Jinny fy chwaer hyna, pan oedd mam yn tyllu ei chlustie hi
â’r nodwydd sanne, er mwyn rhoi ear-rings nain iddi. Dydwi ddim yn fabi
fel Jinny, chwaith. Er ei gwaetha wrth geisio peidio yr oedd hi’n
gweiddi, am mai hi oedd eisio’r ear-rings; ond wrth fy mhwyse, wedi
ystyried priodoldeb y peth, roeddwn i’n gneud.

Mi wages y cnau i gyd yn y man, ond doedd yno run bensel.

“Lle mae’r bensel?” medde Joseph. Wyddwn i ar y ddaear, o achos yn fy
mhoced chwith yr oeddwn i arfer a’i chadw hi, a’r pethe gwerthfawr erill
yn fy mhoced ddethe.

“Gwaga’r boced arall,” medde fo, gan newid ei afael o’r naill glust i’r
llall. Wel, doedd dim i’w neud ond gwagu’r llall, a gosod y cnau efo’r
lleill ar ei ddesc o, a gweiddi fel porchell mewn llidiard, o dan bob
pinshed. Wedi eu gwagu nhw i gyd, doedd y bensel ddim yno chwaith.
Wyddwn i ddim be i neud, o achos roeddwn i’n dechre gweled fod cnau’r
pocedi erill, pocedi fy jeced, mewn peryg o fynd. A mynd ddaru nhw, nes
bod un domen fawr o gnau ar ddesc y scŵl, ond wedi’r cwbwl doedd ene’r
un bensel. Mi chwilies ac mi chwilies, a Joseph erbyn hyn yn gafael o’r
tu ol imi yn fy nwy glust. Rhois fy llaw wedyn yn y boced yr oeddwn
arfer cadw mhensel ynddi hi; tynnes y boced allan, ac er fy syndod, beth
oedd yn y gwaelod ond twll, a rhaid bod y bensel wedi llithro trwy
hwnnw. Pan welodd Joseph y twll, gollyngodd fy nghlustie. Rhaid oedd imi
ddal fy nwylo wedyn a chael dau slap, ond nid cyn iddo fethu lawer
gwaith, o achos, rydech chi’n gweld, naturiol iawn ydi i greadur dynnu
ei law yn ol heb yn wybod iddo’i hun, pan y mae’r ffon yn dwad i lawr, a
chodi pen glin y goes sydd ar yr un ochor â’r llaw honno yr un pryd.
Mae’n rhaid eu bod nhw’n gweithio ar yr un llinyn, fel coese a breichie
mwnci ar bric. Pheidies i ddim â gneud hynny chwaith, nes teimlo fod
dyrnod mewn pen glin yn brifo mwy na dyrnod mewn llaw. Rhaid bod y
llinyn wedi torri ar ol y dyrnod hwnnw, am na chododd fy mhen glin wedyn
wrth i mi dynnu fy llaw i ffwrdd. Wedi i mi fynd i’m lle, dyma Joseph yn
deyd gair wrth yr ysgol i gyd. Mae o’n fwy llym na’r scŵl. Mae nhw’n
deyd ei fod o’n disgwyl cael mynd yn scŵl ei hun cyn bo hir. “Wel,”
medde fo, “rydwi wedi deyd be fydde’r gosb os daliwn i rywun, a dyma fi
wedi dal Edward Roberts.” (Roedd ganddo ryw lach arna i ers tro, rydwi’n
siwr). “Y gosb ydi i mi lenwi mhocedi efo’r cnau yma, a thaflu’r
gweddill allan i’r ffordd i bawb eu pigo nhw.”

Trodd at y ddesc, llenwodd ddwy boced tu ol ei jeced, ac wrth gerdded yn
ol a blaen yn yr ysgol y pnawn hwnnw, roedd o am y byd fel y llunie
welsoch chi o ferched ers talwm iawn, pan oedden nhw’n gwisgo’r peth mae
mam yn ei alw yn “bysl.”

Bedwar o’r gloch, dyma ollwng y plant allan, a hel y baich cnau oedd ar
y ddesc, a’u taflu nhw i gyd i’r ffordd, a Joseph yn sefyll yn nrws yr
ysgol tan wenu, i edrych ar y bechgyn yn scramblo amdanyn nhw, a finne â
mhwyse ar wal yr ysgol yn edrych,—minne hefyd yn gwenu, am fy mod i’n
nabod y bechgyn yn well na Joseph. Wedi eu hel nhw i gyd, heb un ar ol,
daeth Wmffre nghefnder ata i, a phob un o’r bechgyn ar ei ol o, a
rhoisant yn ol imi fy nghnau i gyd, gan eu gwthio i mhocedi. Codes fy
mhen i edrych ar Joseph, ac mi gwelwn o yn cau’r drws, ac yn mynd i mewn
i’r ysgol.

Dene’r pam fod Wmffre a minne wedi chware triwels[1] pnawn drannoeth. Mi
wyddem na feiddie Joseph neud llawer inni, am ei fod wedi gweld na chai
o mo’r bechgyn o’i blaid. Ond mi fase’n well i mi fynd i’r ysgol, beth
bynnag am Wmffre.

Aethom i’r ysgol bore drannoeth, heb feddwl o gwbl am y triwels yma, ac
aeth popeth yn ei flaen fel arfer. I ffwrdd â ni i hel cnau wedyn—ganol
dydd,—lond y ffordd o honom ni. Ymhen yr hwyr a’r rhawg, pan oedd
Wmffre yn nhop y pren crabas, a minne’n eu dal nhw iddo fo, canodd cloch
yr ysgol, ac am yr ysgol â ni am ein bywyd. Yn y man mi sylwes nad oedd
Wmffre yno. Trois fy mhen, a dene lle roedd o’n ceisio tynnu ei jeced yn
rhydd oddiwrth gangen y pren crabas. Doedd dim i’w neud ond mynd yn ol
i’w helpio fo, a chymyd ein siawns wedyn efo Joseph. Cyn gynted ag y
cyrhaeddes i yn ol at Wmffre, ac i’r bechgyn erill fynd o’r golwg, mi
dynnodd ei hun yn rhydd yn rhwydd ddigon.

“Ddoi di i hel crabas yn lle mynd i’r ysgol,” medde fo, “mae ene bren
ardderchog wrth ein tŷ ni. Dydi nhad ddim gartre, ac mae mam wedi mynd i
edrych am modryb Marged.”

Gweles drwy’r bachu wrth y pren yn syth, ac heb ddeyd gair chwaneg, i
ffwrdd â ni at Bont Styllod. Fuo ni ddim yno yr un hanner awr, nad oedd
pob poced yn llawn, a chan fod swp mawr o gnau ar lawr, oedd wedi eu
tynnu o’n pocedi ni, roeddem ni uwch ben ein digon.

Wedi bwyta nes mynd bron yn sâl, a digon o amser wedyn ar ein dwylo,
roedd yn anodd gwybod be i’w neud. Yng ngwaelod y cae yr oedd ceffyl
newydd f’ewyrth John, un broc, un o’r rhai hardda welsoch chi rioed. Dyn
od ydi f’ewyrth John, neiff o ddim deyd y drefn yn iawn wrthych chi, fel
dyn, am neud drwg. Mynd yn gaclwm gwyllt mae o, ac wedyn torri ei galon,
a hanner nadu, ac mae’n gâs gen i weled dyn yn torri ei galon.

“Be ddyliet ti o fynd ar gefn y ceffyl acw, a ffogieth[2] tipyn arno ar
draws y cae?” medde fi wrth Wmffre. Ac nid cynt y deydes i nad oedd
Wmffre wedi taro ar gynllun i’w ddal o, a dyma’r cynllun,—mynd â llond
desgil o India Mêl iddo, i Wmffre gymyd yr India Mêl, ac inni ein dau
redeg ar ei ol nes ei gael i gornel, i mi wedyn fynd y tu ol iddo fo,
rhag ofn iddo droi’n ei ol, ac i Wmffre fynd o’i flaen efo’r India Mêl,
a gafael yn ei fwng pan fydde fo yn ei fwyta. Er chwilio a chwilio,
fedre ni yn ein byw gael yr un ddesgil, na bwced na dim. Yr unig beth yn
y golwg yn unman, a ddalie rywbeth felly, oedd het i f’ewyrth oedd y tu
ol i’r drws yn y tŷ.

“Ei het ore ydi hi, wyddost,” medde Wmffre; “ond hidia befo, mi cymerwn
ni hi, fydd hi ddim yn anodd ei chnau hi wedyn.”

Wedi llenwi’r het ag India Mêl, allan â ni i’r cae. Pan welodd y ceffyl
ni, dyma fo’n dechre trotian i ffwrdd, a ninne ar ei ol, ac ar ei ol hyd
nes bod y ceffyl yn twymno ati hi wrth redeg, a ninne’n chwys diferol.
O’r diwedd cawsom ef i gornel, ac eis inne o’r tu ol iddo, gan feddwl
cael gafael yn ei gynffon, os methai Wmffre gyrraedd y mwng. Cawsom
lawer o hwyl ein dau wrth afael yng nghynffon Mejar, mul du’r Felin, ac
ynte’n ein tynnu ni fel y gwynt ar draws y caeau a thrwy’r gwrychoedd
a’r ffosydd. Ond mi spwyliodd Wmffre bethe efo’r ceffyl. Yn lle mynd yn
dawel at ei ben o, gan gofio nad ydi ceffyl ddim arfer cael bwyd mewn
het, rhedodd ato a dangosodd yr het yn sydyn o flaen ei drwyn, a rhaid
bod y ceffyl wedi dychrynnu. “Wb!” medde fo, ac mi deimlwn fy hun mewn
rhyw wlad ddiarth, rhwng twyll a gole, a rhwng twyll a gole y bu hi arna
i’n hir. O’r diwedd mi oleuodd dipyn mwy, a’r peth cynta weles i oedd
Wmffre efo llond yr het o ddŵr, yn golchi ngwyneb i.

“Frifest ti’n arw, Nedw?” medde fo.

“Brifo be?” medde finne, gan synnu be oedd Wmffre eisio yn y wlad honno.

“Rwyt ti wedi cael cic ofnadwy yn dy foch,” medde fo.

Teimles fy moch, ac yr oedd hi fel taswn i wedi cael tair neu beder
dannodd yn syth ar ol ei gilydd. Roedd hi wedi chwyddo’n fawr ofnadwy,
ac yn hongian. Codes ar fy nhraed, ond fedrwn i ddim sefyll. “Eistedd i
lawr am dipyn,” medde Wmffre, “ac mi awn ni am dro bach wedyn; ond gad
imi redeg â’r het yma’n ol yn gynta. Eidïa dda oedd y dŵr yma, mae’r het
rwan yn hollol lân, ond mi ges drafferth i gael yr India Mêl ohoni hi.”

Aeth Wmffre â’r het yn ei hol, ac am dro â ni. Doedd gennym ni ddim
llawer o flas i hel cnau a chrabas. Toc, dyma ni at y tŷ, ac mi glywem
ryw sŵn mawr pan yn nesu ato fo. Wedi dwad i’w olwg, be welem ni, ond
f’ewyrth John ar garreg y drws yn dawnsio, ac wedyn yn torri i nadu a
chrio, tan ddal ei het ore yn ei ddwylo, ac edrych i mewn iddi hi. A
nadu o ddifri yr oedd o, ac nid nadu o fregedd. Wel, fedra i ddim dal
gweled hen bobol yn nadu, ac mi gychwynnes adre, a rhag ofn styrbio
f’ewyrth cyn iddo gael ei nadu allan yn iawn, fe ddaeth Wmffre i’m
hebrwng i. Dydio ddim yn beth iach, medden nhw, rhwystro dyn i gael ei
nadu allan yn iawn.

Mi ddiolches lawer am y cic hwnnw. Arbedodd fi rhag ei chael hi wedi
mynd adre, o achos roedd Miriam, fy chwaer, wedi deyd nad oeddwn i ddim
yn yr ysgol y pnawn. Ac arbedodd fi yn yr ysgol drannoeth.

“Edward Roberts,” medde Joseph yn y bore, “tyn y peth ene allan o dy
gêg.” Roedd o’n meddwl mai llond fy moch o grabas, neu rywbeth felly,
oedd yn gneud y chwydd, o achos tase’r chwydd yn chwydd dannodd, mi fase
gen i wlanen goch am fy mhen, a hogle tyrpentein drostai i gyd; ond
doedd gen i ddim byd felly. Dechre nadu ddaru mi beth bynnag, ac mi
ffeindiodd Joseph fod rhywbeth mawr o’i le, am na fydda i byth yn nadu.
Esboniodd Wmffre iddo fo mai wedi cael cic gan ceffyl oeddwn i, a
chlywes i ddim chwaneg am y peth. Hwyrach fod cydwybod Joseph yn ei bigo
fo am y cnau rheini.

Mi edryches drwy mysedd ar het f’ewyrth ar yr hoel yn y capel dydd Sul,
pan oedden nhw’n gweddio, ac roedd hi’n edrych yn dda iawn a chysidro.

O! ia, mi anghofies ddeyd wrthych chi mod i wedi ffeindio fy mhensel yn
fy hosan, wrth fynd i ngwely nosweth helynt y cnau.

-----

[1] _Truant._

[2] Marchogaeth.



                           II.—GNEUD ZEBRAS.


Wedi i mi ac Wmffre fynd yn fawr, i Affrica yr yden ni’n mynd, i hela
zebras. Er ein bod ni wedi ceisio gneud rhai yn y wlad yma, chawsom ni
ddim rhyw lawer iawn o hwyl, am inni fethu dwad o hyd i’r oel iawn.
Ardderchog o beth fase dal zebra, mae o’n medru rhedeg ynghynt nag
unrhyw greadur arall. Mae o’n gyflymach hyd yn oed na mul bach, a ’does
dim anifel yn ein gwlad ni cyn gyflymed a mul bach. Mae mul bach yn
medru mynd ynghynt na’r trên, ac mi ddaru mul bach y Felin neud hynny
hefyd, pan oedd nhad yn blentyn, medde fo. Hen ewyrth i Spargo fase’r
mul hwnnw tase fo’n fyw. Wedi mynd ar y relwe yr oedd o, medde nhad, a
dyma’r trên yn dwad, ac i ffwrdd â’r mul bach fel y gwynt o’i flaen o,
ac mi fase wedi curo’r trên hefyd, onibae fod o’n mynd mor gyflym nes
methu gweled pont y relwe. I honno yr aeth o, ac yr oedd wedi marw cyn
i’r trên ei ddal.

Wedi inni ddarllen am y zebras yma yn llyfre’r ysgol, doedd na byw na
marw wedyn gan Wmffre na faswn i’n addo mynd efe fo i Affrica wedi i ni
fynd yn fawr, a dal zebras a’u ffogieth nhw. Ond y mae llawer o amser
tan awn ni’n fawr, ac y mae eisio llawer o arian i fynd i Affrica, hynny
ydi, os nad oes gennych chi Jac-yn-y-bocs. Mi neiff hwnnw yn lle arian.
Mae gen i Jac-yn-y-bocs, ond rhaid imi ei gadw rhag i Isaac ei dorri o.
Fy mrawd ieuenga i ydi Isaac, peder oed ydio, ac y mae o’n torri popeth
y caiff o afael arno. Mi wyddoch bedi Jac-yn-y-bocs. Wel, dene’r bocs
yntê, ac ar y bocs mae ene fach, agorwch y bach, a whiw! dene’r caead i
fyny, a chreadur bach penddu yn neidio allan ohono. Y gnethod sydd ag
ofn Jac-yn-y-bocs arnyn nhw! Chlywsoch chi rioed fel y mae nhw’n
gweiddi. Mi fu Wil Cae Du yn Affrica ddwyweth neu dair, a’r ail dro aeth
â Jac-yn-y-bocs efo fo. Pobol dduon sydd yn Affrica, medde fo, run fath
a’r rhai sy’n canu ac yn gneud gwynebe ar lan y môr yn yr ha, ac y mae
nhw run fath a rheini mewn peth arall hefyd, medde fo, tyden nhw byth yn
mynd i’r capel. Mae nhw’n meddwl mai Iesu Grist ydi lot o hen bethe bach
fel Jac-yn-y-bocs, ac yn lle mynd i’r capel, medde Wil, mae nhw’n mynd
ar eu glinie ac ar eu hyd ar lawr o flaen rheini. Ac fel yr ydech chi a
finne’n ofni i Iesu Grist ein gweld ni’n gneud drwg, mae nhwthe yr un
fath efo’r pethe yma,—y pethe yma ydi eu Iesu Grist nhw. Be ddaru Wil
pan aeth o yno’r ail waith, ond mynd â Jac-yn-y-bocs efo fo, a hel y
blacs yma at ei gilydd, ac agor y bocs yn sydyn o’u blaene nhw.
Chlywsoch chi rotsiwn weiddi, medde fo. Wedyn mi osododd y bocs a Jac yn
edrych dros ei fin, ar garreg, a deydodd wrthyn nhw, “gweithiwch chi
rwan, y cnafon, rydwi’n gosod hwn i’ch gwylio chwi,” ac roedden nhw’n
gweithio fel nigars trwy’r dydd, medde fo, a fynte’n cael cysgu’n dawel,
a fo oedd yn cael yr arian am iddyn nhw weithio. Felly, does dim isio i
chi fynd ag arian i Affrica, os bydd gennych chi Jac-yn-y-bocs.

Wel, mae gen i Jac-yn-y-bocs, ac rydwi’n mynd i’w gadw fo tan awn ni i
Affrica i ddal zebras, ac hwyrach y gwneiff y blacs yma eu dal nhw
drosom ni.

Fel y deydes i, mae llawer o amser tan hynny, tydi Wmffre na finne ddim
wedi gadael ein hysgol na dechre shafio eto, ac mae’n rhaid gneud hynny
cyn mynd i Affrica. Wedi meddwl am y pethe yma, a rhoi ein penne ynghyd,
mi feddylies i hwyrach y medrem ni neud zebras. Anifeilied gwynion, fel
mulod, a llinelle duon ar eu traws nhw, ydi zebras, medde llyfr yr
ysgol, a mul gwyn ydi Spargo’r Felin.

“Mi ddeyda iti be nawn i,” medde fi wrth Wmffre ryw bnawn Gwener, “mi
ffeindies i hen dun hanner llawn o baent, mewn cornel yn stabal y
_Crown_, ddiwrnod y cinio clwb. Mae o yno ers blynyddoedd yn siwr i ti,
o achos roedd o wedi ’i guddio â gwê prŷ copyn, a does neb ei eisio, neu
mi fase wedi mynd cyn hyn.”

“Iawn,” medde Wmffre, “ond sut y cawn ni o oddiyno?”

Y diwedd fu i Wmffre lwyddo i gael mynd i’r llan ar neges dros ei fam
ddydd Sadwrn, drannoeth felly, a llwyddes inne i neud yr un peth, ac yr
_oedd_ ein mame’n ein gweld yn fechgyn da’r Sadwrn hwnnw, o achos mae’n
gâs gennym ni’n dau negesa. Rhyw waith geneth ydio rywsut. Doedd ene neb
o gwmpas stabal y _Crown_, a dyma finne i mewn. Yno yr oedd y tun paent
ynghanol hen gelfi, â llwch a gwê prŷ copyn drosto fo. Wedi mynd i’r Cae
Cnau Daear, dyma chwilio’r tun, ac yr oedd o’n hanner llawn o baent, ond
fod y paent bron wedi sychu. Rhoddodd Wmffre ei fys ynddo fo, “Neiff o
mo’r tro,” medde fo, “paent gwyrdd ydi hwn, a marcie duon sydd gan
zebra.”

“Hidia befo,” medde finne, “does yma neb y ffordd yma wedi gweld zebra,
a wyddan nhw ddim amgenach.”

[Illustration: “SPARGO’N DAWNSIO.”]

Ond be gaem ni i feddalu’r paent? Roedd o’n galed ac yn sych. Paraffin
mae nhad yn ei iwsio, rydwi’n meddwl, ond nid ar neges i nol paraffin yr
oeddem ni, neu mi fase popeth yn iawn.

“Mi ddeyda iti be nawn ni,” medde Wmffre, “mae ene botel yn hanner llawn
o naw-math-o-oel yn y stabal acw, a siawns na neiff un o’r naw math y
tro, mi rown ni hwnnw arno fo. Wedi mynd â’n negese adre, mi gafodd
Wmffre’r oel heb lawer o drafferth, a ffwrdd â ni i’w gymysgu, ac mi
gymysgodd yn ardderchog. Doedd ene ddim brwsh yn unman, ond mi ddaeth
Wmffre o hyd i ddarn o glwt, a dyma ni’n rhwymo’r clwt am ben pric, ac
roedd o’n frwsh dan gamp dybygsem ni. Mi fuom drwy’r pnawn yn chwilio am
Spargo’r Felin, a’r paent wedi’i guddio yng Nghae Cnau Daear, ond methu
ddaru ni. Wedi methu dwad o hyd i Spargo, meddyliasom am ryw greadur
gwyn arall. Y mae gan Wmffre wningen wen, ond doedd o ddim yn fodlon
trio’r paent arni hi, hyd yn oed i edrych weithie fo.

“Wyddost ti,” medde fi, “dene Gweno’r Fron, mae hi cyn wynned a’r
galchen, ac mae’r gwartheg i gyd yn y Cae Pella.”

Cae ymhell o olwg pawb ar gwr y Tyno ydi’r Cae Pella, â choed o’i gwmpas
o. A buwch ddiniwed, lonydd, ydi Gweno.

“Iawn,” medde Wmffre, ac yno â ni ar ol cael y paent a’r brwsh. Roedd
Gweno’n pori ymysg y gwartheg erill, ond doedd hi ddim yn anodd ei chael
i gornel ar ei phen ei hun. Fi oedd y brwshiwr ac Wmffre’n dal y paent
a’r papur. Wedi rhoi’r rhês gynta mi welsom ein bod ni wedi rhoi gormod
o baent. A doedd y brwsh ddim yn rhyw weithio’n dda iawn, roedd o’n codi
gormod o baent, fel brwsh gwyngalchu, a’r paent dipyn yn dene, ond doedd
mo’r help. Mi gawsom well hwyl ar yr ail rês. Gan fod y paent dipyn yn
dene, rhedai’r diferion braidd ormod ar chwâl, ond pwy feder neud
zebra’n berffaith, mwy na dim arall, y tro cynta, yntê? Yr oedd y
drydedd rês yn well fyth. Efo’r gynffon a’r coese y cawsom ni’r
drafferth fwya. Fedrem ni yn ein byw rwystro’r llinelle i redeg i’w
gilydd. Doedd dim i’w neud ond rhannu’r fargen, a phaentio’r coese a’r
gynffon i gyd yr un lliw. Erbyn hyn yr oedd Gweno’n dechre mynd yn
anesmwyth, ac wedi inni orffen fasech chi ddim yn ei nabod hi. Yr oedd
rhesi gwyrddion ar draws ei chefn, a’i hochre, a’i gwddf, a’i choese a’i
chynffon yn wyrdd i gyd. Prin y cawsom ni roi’r brwshied ola arni nad
oedd hi i ffwrdd ar garlam, ac yn troi a throsi, a dyrnu ei hun â’i
chynffon. Gresyn oedd hynny, oherwydd does ene ddim llinelle croesion i
zebra, a dene oedd y gynffon yn neud. Ond roedd ysbryd zebra’n dechre
mynd iddi hi, roedd hynny’n glir, o achos welsoch chi rioed y fath
brancio a rhedeg. A deyd y gwir, doeddem ni ddim, yn ddistaw bach felly,
yn gweld rhyw lawer o debygrwydd ynddi i zebra wedi iddi fynd dipyn
oddiwrthym ni, ac aethom ymhellach wedyn er mwyn cael golwg well arni
hi.

“Wmffre,” medde fi, “be wyt ti’n ei feddwl ohoni hi, ydi hi’n
llwyddiant?” Tynnodd Wmffre’r darn papur o’i boced yr oeddem ni’n
gweithio wrtho. Llun zebra oedd o, wedi ei gymyd o lyfr yr ysgol. Roedd
y ddolen yn rhydd o’r blaen. Nid ni a’i torrodd hi allan. Edrychodd
Wmffre’n fanwl ar y llun, ac wedyn yn hir ar Gweno.

“Wel,” medde fo, “fedrai ddim deyd ei bod yn rhyw lwyddiant mawr, ond
hidia befo, welodd pobol y ffordd yma rioed zebra, fel y deydest ti.”

Aethom tuag at Gweno a’i chychwyn at y gwartheg erill, a hithe’n mynd
dan brancio a neidio fel zebra iawn. Dene oedd llwyddiant mwya’r
paentio. Ond pan welodd y gwartheg erill hi, chlywsoch chi rotsiwn beth.
Roedden nhw’n beichio ac yn rhuo, ac amdani â nhw fel un gŵr. Ac mi
fasen wedi ’i lladd hi yn siwr ddigon, onibae fod Gŵr y Fron wedi clywed
y sŵn, ac wedi dwad yno o rywle. Roeddem ni’n dau ar fin mynd i geisio’i
hachub o’u gafael ar y pryd, ond pan ddaeth Gŵr y Fron i’r golwg, mi
welsom nad oedd mo’n heisio ni, ac i ffwrdd â ni. Mae’n rhaid fod
zebra’n filen wrth wartheg yn Affrica, a nhwthe’n talu’n ol wedi ei gael
o i’w gwlad eu hunen, fel mae adar yn ymosod ar ddylluan yn y dydd, ond
hi ydi’r feistres yn y nos, yn ei hadeg ei hun.

Roedd digon o baent yng ngweddill i neud dau neu dri o zebras erill, a
dyma ni’n penderfynu ei gadw, rhag ofn y deuem ar draws Spargo’r Felin.
Ac yn wir i chi, be welem ni, wedi dwad i’r ffordd fawr, ond Spargo’n
pori’n dawel yn ochr y ffordd, gan lusgo’r drol ar ei ol yn aradeg. Ar y
Gefnffordd yr oedd o. Hen ffordd gul â gwrychoedd uchel bob ochr iddi
hi, ar odre’r mynydd, ymhell o’r llan, lle mae’r Jipjiwns yn aros, ydi’r
Gefnffordd, a dim tŷ yn agos yno ond y “_Black Crow_.” Wrth gwrs,
gwyddem mai yno roedd Gŵr y Felin, ac wedi unweth mynd yno na ddeue fo
oddiyno’n hir.

“Rwan amdani,” medde fi, “mi fydd Spargo’n zebra erbyn y daw’r hen ddyn
allan, dawn i byth o’r fan yma.” A fase fo ddim llawer o anfantes i
Spargo fod dipyn tebycach i zebra, o achos roedd o’n wahanol iawn i’w
hen ewyrth. Fase Spargo byth yn rhedeg yn erbyn pont y relwe heb ei
gweld hi, nid am ei fod o’n well am weld, ond am ei fod o’n salach
rhedwr, hynny ydi, fedre fo redeg dim.

Cawsom well hwyl ar Spargo, roedd practeisio ar Gweno wedi bod yn help
inni, ac mi fasech yn ei gamgymeryd am zebra wedi inni orffen efo
fo,—tase chi heb weld zebra o’r blaen. Y cwestiwn oedd ymhle i roi
Spargo i sychu, ac yr oedd ynte’n dechre magu ysbryd zebra. Ac yn yr
ysbryd hwnnw mi fase’n rhwbio ac yn cicio tasen ni’n ei rwymo.

“Dyma nawn ni,” medde fi,—yr oedd yno lidiard fawr yn ymyl, llidiard y
mynydd, ac mi welodd Wmffre’r cynllun cyn gynted a minne. Dyma ni’n
gwthio breichie’r drol rhwng styllod y llidiard, ac yn rhoi Spargo yn ei
ol ynddi yr ochor arall i’r llidiard, wedi ei chau hi. Yr oedd Spargo,
felly, yn iawn yn y drol fel o’r blaen, ond fod y llidiard rhyngddo fo
a’r drol. Fedre fo ddim symud oddiyno. Tase fo’n bacio, fedre fo neud
dim ond bacio i’r llidiard, a tase fo’n tynnu, fedre fo ddim tynnu’r
drol drwy’r llidiard. Fedre fo ddim mynd i’r ochre chwaith i rwbio. Ac
yr oedd o erbyn hyn yn bur ysbrydol, fel zebra’n union. Dene lle roedd o
felly i’r dim, yn aros i sychu.

Toc, dyma sŵn traed yn dwad o’r pellter, a phwy oedd yn dwad ond yr hen
Bitar Jones y Felin, wedi hanner meddwi, a doedd dim i’w neud ond
cuddio. Safodd yn ymyl y drol ac edrychodd yn hurt arni. Wedyn edrychodd
ar Spargo, a theimlodd y llidiard rhyngddyn nhw. Fedre fo mo’u gweld
nhw’n glir iawn, yn enwedig Spargo, am ei bod yn dechre nosi, ac ynte
fel roedd o. Crafodd ei ben, “a-wel, a-wel, a-wel,” medde fo’n gyflym
efo phob crafiad, fel giar fynydd. “A-wel, a-wel,” mae gieir mynydd
Cymreig yn ei ddeyd wyddoch, a “go-back, go-back,” a ddywed gieir mynydd
Seisnig. Safodd Pitar Jones yn llonydd wedyn, a dechreuodd ail grafu ei
ben, a finne â nwy law ar gêg Wmffre rhag iddo fethu dal, ac medde Pitar
Jones, “A-wel, a-wel, yn eno—a-wel—, wel Spargo, sut doist ti fel
hyn?” Agorodd y llidiard a gwthiodd drwyddi i’r ochor arall at Spargo, a
Spargo’n dawnsio, heblaw bod yn rhesi gwyrddion, a’r ddau beth yn ei
neud yn wahanol iawn i’r hen Spargo. “Wel, wel,” medde fo, “rwyt ti wedi
dwad drwy’r llidiard yma fel ysbryd. Rhosa funud, bedi’r llinelle ’ma sy
arnat ti?” ac edrychodd arnyn nhw’n fanwl. “Ow! annwyl,” medde fo tros y
wlad, “ysbryd Spargo ydio!” ac i ffwrdd â fo am ei fywyd.

Wedi i Wmffre a finne ddwad atom ein hunen, aethom i dynnu Spargo o’r
ochor arall i’r llidiard, ond eyn inni fedru ei roi yn y drol, i ffwrdd
â fo ar ol ei fistar fel y gwynt, gan adael y drol ar ol. Welsoch chi
ddim tebycach i zebra yn eich oes, yn enwedig gan nad oedd hi ddim yn
ole iawn ar y pryd.

“Dydio’n rhyfedd,” medde fi wrth Wmffre, “fel y mae’r paent wedi rhoi
ysbryd zebra yn y ddau, Gweno a Spargo, er na chawsom ni ddim gormod o
hwyl ar eu paentio nhw.”

Mi drychodd Wmffre arnai’n syn ac yn bryderus am dipyn. “Wyt ti’n siwr,
Nedw,” medde fo, “nad y naw-math-o-oel sy’n eu smartio nhw?” Feddylies i
ddim am yr agwedd ene i bethe, ond doedd dim i’w neud ond gobeithio’r
gore, a mynd adre. Er i ni rwbio’n hunen ag ired, a gneud ein gore i
dynnu’r paent oddiar ein dwylo, methodd Wmffre a fi ei dynnu’n ddigon
llwyr, na’u bodloni nhw gartre yn ei gylch. Ymhen ychydig, daeth y stori
allan, a chlywodd nhad ac ewyrth John. Wmffre a fi ydi’r ddau debyca i
zebra yrwan, a rhesi duon sy ar ein cefne ni hefyd,—nid mor ddu a rhai
zebras hwyrach,—glasddu yden nhw.

Wnawn ni byth gymysgu paent efo naw-math-o-oel eto. Wmffre oedd yn ei
le. Yr oedd Spargo cyn llonydded ag erioed erbyn dydd Llun. Ond y
gwaetha ydi fod y paent wedi rhedeg dros Gweno a Spargo i gyd, yn lle
aros yn llinelle, a fase fo ddim yn gneud hynny dase fo’n oel iawn. Ond
rhoswch chi nes inni fynd i Affrica ar ol tyfu’n fawr.



                            III.—ANTI LAURA.


“Edward,” medde mam, ryw fin nos, wrth nhad, “ydech chi’n meddwl bod y
sciarlet ffefar yn gatshin?”

Eistedd wrth y tân yr oedd nhad ar y pryd yn darllen yr Esboniad tan gau
ei lygid, ac yn cyd-weld â popeth a ddarllennai, a barnu oddiwrth ei
waith yn nodio. Ac eistedd wrth y tân, yn syllu iddo, yr oedd mam, ac
Isaac yn cysgu ar ei glin, a minne’n gneud blaen ar bensel blwm, ac yn
ceisio cuddio’r hollt oedd yn gwaedu yn fy mys i, a wnaed pan slipiodd y
gylleth, neu ei cholli hi faswn i.

“Yn gatshin?” medde nhad, pan sensiodd o fod mam yn siarad, “ydi, debyg
iawn. Be wnaeth i chi feddwl?”

“Wel,” medde mam, “dene’r ysgol wedi cau, a hyd yn oed Wmffre dani hi,
ac mae o’n gryfach o lawer na Nedw ac Isaac bach.”

“Wel,” medde nhad, “os ydi hi i ddwad, mi ddaw, a does dim i’w neud ond
ei chymyd hi.”

“Dydi hi ddim yn y dre,” medde mam.

“Nagydi,” medde nhad, “ond pa help sydd yn hynny?”

“Hyn,” medde mam, dan grafu ei chlust â phin wallt. A phan wna mam
hynny, mae o’n arwydd bob amser ei bod o ddifri. “Mae Laura ’n
chwaer-yng-nghyfreth yn byw yno, a braidd yn unig â James oddicartre. Ac
roeddwn i’n meddwl y base Nedw ac Isaac yn cael mynd yno am bythefnos,
ac Annie’n cael mynd i dŷ Leisa fy chwaer.”

“Yr argen fawr!” medde nhad, “Laura! Feder honno roi dim bwyd o’u blaene
nhw ond tunie salmon, a chacenne ceiniog. Mi fyddan wedi llwgu, neu wedi
marw o’r beil, cyn pen hanner yr amser.”

Yr oeddwn i wedi moeli nghlustie ers meityn, ac Isaac wedi deffro. Ac
o’r diwedd, wedi i ni ein dau ddangos fel yr oedd arnom ni ofn y
sciarlet ffefar, cydsyniodd nhad. Ond nhad oedd yn iawn. Mi fase’n well
gen i erbyn hyn taswn i wedi aros gartre i gael y sciarlet ffefar, yn
lle cael Anti Laura, a’r sciarlet ffefar.

“Pryd cawn ni fynd?” medde fi wrth mam. “Dydd Llun,” medde mam. Ac yr
oedd hi yrwan yn nos Iau. Roedd tipyn o amser i aros, ond fase fo ddim
llawer onibae am Isaac. Peder oed ydio, ac mae’n amhosibl stwffio dim
i’w ben. Ac yr oedd arno eisio cychwyn bob yn ail munud. Bore drannoeth
dyma fo ata i, a gofyn pryd yr oeddem ni’n mynd i dŷ Anti Laura. “Yr
wythnos nesa,” medde fi. Ac i ffwrdd â fo. Dyma fo yn ei ol cyn pen pum
munud, ac yn gofyn,—

“Nedw, ai heddyw ydi’r wsnos nesa?”

“Nage,” medde fi, “mae eisio cysgu dair gwaith eto.” Ac i ffwrdd â fo
wedyn. Tuag amser cinio roedd o ar goll, ac mi fuom yn edrych trwy’r
pnawn amdano fo. Tua phedwar o’r gloch aeth mam i’r llofft, a dene lle
roedd Isaac yn ei wely yn ei ddillad. Neidiodd mam iddo fo, a deffrodd.
A’r peth cynta ofynnodd oedd, sawl gwaith oedd eisio cysgu wedyn cyn
mynd i dŷ Anti Laura, gan ei fod o wedi cysgu un ohonyn nhw yn barod.
Rhywbeth fel ene gefes i tan amser cychwyn. Mi fase’r sciarlet ffefar yn
well na’i holi o. A phnawn Sul mi ddaeth i’r pen arna i.

“Pryd yden ni’n mynd, Nedw?” medde Isaac.

“Fory,” medde fi.

“Ddoe,” medde Isaac.

“Nage,” medde fi, “fory.”

“Wel, ddoe ydi fory,” medde Isaac. Ac fel hyn yr oedd o tra buom ni yn
nhŷ Anti Laura.

Pnawn Sadwrn, deydodd mam wrth nhad,— “Mae’n siwr, Edward, fel y
deydsoch chi, na chân’ nhw fawr o drefn ar fwyd yno. Feder Laura druan
neud fawr o ddim ond dyrnu’r hen biana hwnnw. Be dasen ni’n anfon
gwningen a giar iddi hi, a thipyn o wye? Dase’r bechgyn yn mynd â’r
wningen efo nhw, ac inni anfon yr iâr erbyn y Sul.” Aeth nhad allan, a
chyn bo hir roedd o’n ol efo gwningen.

O’r diwedd dyma fore Llun yn dwad. Sôn am Wmffre yn sâl! Ynghanol y fath
blagio mi newidiwn ddau le efo fo yn y funud. Efo John Roberts y cigydd
roedden ni’n mynd, ac Isaac yn holi a thaeru fel melin bob cam o’r
ffordd. Wedi cyrraedd tŷ Anti Laura, fase’r brenin ddim yn disgwyl
croeso gwell. Mi cusannodd, ac mi cusannodd ni. Dase ni wedi cael cymin
o fwyd tra buom ni yno ag o gusanne, mi fasem wedi pesgi nes methu
symud. Ond feder neb dwchu rhyw lawer ar gusanne.

A dene ni at y bwrdd. Wyddem ni ddim sut i ddechre bwyta, ac yr oedd
Isaac yn cyrraedd at bopeth ar unweth. Rhywbeth gwyn fel pwdin yn trio
sefyll ar ei ben, a rhywbeth arall yn edrych reit neis, ond yn wag yn ei
ganol wedi i chi roi’ch dannedd ynddo fo, oedd y pethe pwysica. Cododd
Isaac a finne oddiwrth y bwrdd heb gael hanner digon. Mi gawsom enwe
newydd hefyd i’n dau gan Anti Laura tra y buom ni yno. “Mai Diar,” oedd
fy enw i, “Chubby” oedd enw Isaac. Doedd Isaac ddim yn cymyd at ei enw
newydd am dipyn, ond fu o ddim yn hir cyn arfer â fo.

“Nedw,” medde Isaac wrth i ni fynd i’n gwlâu, “roedd y pethe ene yn dda,
ond Isaac eisio bwyd eto. Fase fo yn leicio cael lot fel hyn,”—dan
ddangos siâp mynydd o’r peth gwyn hwnnw. Ac mi feddylies am Wmffre a fi
un tro yn lle ein tade yn y cinio clwb. Fel arall roedd hi yno. Wedi
bwyta nes methu symud dyma Wmffre’n deyd, “Wyddost ti be, Nedw, mi faswn
yn leicio taswn i’n ddafad.”

“Yn ddafad?” medde fi, “i be?”

“Mae gan ddafad beder stymog,” medde Wmffre. Ac mi weles drwy’r peth yn
syth.

Ar ol tê, dyma fi’n dangos y wningen a’r wye i Anti Laura, a hithe yn
gafael amdana i wedyn, ac yn fy nghusannu nes imi deimlo reit wan, gan
ei bod hi’n gwasgu fy stymog i, a finne newydd fwyta’r peth gwag hwnnw.

Bore drannoeth, wedi inni godi a chael brecwest o rywbeth â rhyw siort o
jam arno—chawsom ni rioed jam i frecwest o’r blaen,—aethom allan i
chware. Toc, dyma Anti Laura’n bloeddio arna i, a chrec yn ei llais. Mi
redes i mewn, a dene lle roedd hi’n edrych yn syn ar y wningen. “Mai
Diar,” medde hi, “sut ma mam chi’n cwcio hwn?”

“Mae eisio ei blingo hi yn gynta,” medde fi.

“Blingo!” medde hi, “What is ‘blingo?’”

Wel dydi bachgen deg oed, wedi byw ar hyd ei oes dan gysgod Coed y Plas,
ddim heb wybod be ydi blingo gwningen. Gofynes am fenthyg cylleth, a
chyn pen chwincied roedd ei chroen hi i ffwrdd, a hithe’n barod i’w
stiwio. Dase gen i gyrn ar fy mhen, fase raid i Anti Laura ddim edrych
yn rhyfeddach arna i. Oddiarna i edrychodd ar y wningen.

“Tydio’n tebyg,” medde hi toc, “i babi bach newydd cael bath poeth?”

Ac eis i allan at Isaac. Roedd yn dda mod i wedi mynd. Roedd o’n trio
gneud yr un peth i’r gath ag a wnes i i’r wningen, nes imi ei argyhoeddi
na fedre fo ddim, am fod y gath yn fyw. Ond wydde Isaac mo’r gwahaniaeth
rhwng peth byw a pheth marw, er iddo holi tua mil o gwestiynne ynghylch
hynny.

Rhwng helpio Anti Laura ac edrych ar ol Isaac, roeddwn i cyn boethed a
dase’r sciarlet ffefar arna i. Toc, tawelodd pethe, a finne ac Isaac yn
chware reit glên. Yn y man mi glywn yr hogle rhyfedda’n dwad o’r tŷ, a
rhedes i mewn. Dene lle’r oedd Anti Laura’n pilio tatws, a’r wningen yn
ffrïo ar y tân.

“Wel, Anti Laura,” medde fi, “nid ffrïo gwningen y mae nhw, ond ei
stiwio hi. Fase waeth i chi geisio ffrïo pen dafad yr un llychyn.”

“Bedi stiwio?” medde Anti.

Wyddwn i ddim be oedd y gair Saesneg am stiwio, ac mi ddeydes wrth hi
mai gair mam am ferwi oedd o. Mi gawsom wningen i ginio wedi hanner
ffrïo a hanner ferwi. Reit da hefyd ar y cyfan.

’Doedd gan Anti Laura ddim âm[3] at gwcio. Ac mi gafodd Isaac a fi hefyd
chware newydd i fynd hefo ni adre—chware Anti Laura’n golchi’r llawr
oedd hwnnw. Mae hi’n picio o gwmpas o un lle i’r llall, fel ceiliog
rhedyn, ac yn rhwbio tipyn ar bob smotyn y disgyn hi arno. Chwerthodd
Wmffre gymint wrth ein gweld ni, nes iddo fendio’n iawn oddiwrth y
sciarlet ffefar, ac ynte wedi penderfynu hefyd bod yn sâl o dani am fis.

Ac yr oedd gan Anti Laura ddull da i olchi’r llestri. ’Doedd hi ddim yn
cadw morwyn, er y basech yn disgwyl i un fel hi neud, ond cadwai gath.
Wedi gorffen pryd bwyd roedd hi’n rhoi’r platie i’r gath eu llyfu nhw,
ac wedi eu dipio mewn dŵr a’u sychu â’r llian, dene nhw i’r dim. Dene’r
ffordd glenia weles i rioed. A’r peth cynta wnes i ar ol mynd adre a
deyd y stori wrth mam, oedd ei chynghori i gadw cath. A barnu ar olwg
mam, mi fase pob cath yn deifio dano fo, fel gwlydd tatws dan farrug.
Oddiar gathod, fel ene, mae plant yn cael y sciarlet ffefar a’r
dipitheria, medde nhad.

Rhwng dull Anti o olchi’r llawr, golchi’r llestri, a chwcio, mi welsom
lawer o bethe newydd spon. Ymhen diwrnod neu ddau daeth yr iâr. Gan na
fedre Anti ddim blingo gwningen, mi feddylies y base hi’n gofyn am fy
help i bluo’r iâr, ond ddaru hi ddim. Ac eis i ac Isaac i chware, ond
heb fynd o gyrraedd galw. Toc mi glywn Anti yn rhyw grio-nadu, ac mi
redes i’r tŷ. Dene lle roedd hi â’i dwylo’n waed ac yn blu i gyd, yn
eistedd wrth y tân yn crio. Mi edryches yn syn arni hi. Pan ddaeth ati
ei hun,—“Mai Diar,” medde hi, “neith y giar ddim blingo.”

“Blingo bybê?” medde fi.

A dene hi â fi i’r bwtri. Welsoch chi rotsiwn beth. Roedd croen yr iâr
yn ddarne fel tase hi wedi ei rhidyllio, a’i phlu’n rhidens ynghanol
gwaed a strel. “Be fuoch chi’n neud, Anti?” medde fi.

“Trio blingo fo,” medde Anti.

“Blingo giâr!” medde fi. Mi anghofies ar y funud mai ag Anti yr oeddwn
i’n siarad. Gwnes y gore o’r gwaetha ac mi roddes yr iâr iddi.

Ond fy ngwendid fy hun a orffennodd bethe. “Mai Diar,” medde Anti,
“faint mae isio i’r iâr ffrïo?”

“Ffrïo giâr!” medde fi. Mi welwn mod i wedi ei digio wrth ddeyd hynny,
ac mi eis allan am dro.

Toc, mi waeddodd wedyn. “Mai Diar,” medde hi, “faint mae isio i giâr ’ma
berwi?”

Mi welwn mai potes giâr oedden ni’n mynd i gael. Mae’n well gen i iâr
wedi ei rhostio, ond rhaid oedd bodloni. “Dwy awr,” medde fi.

“Fi isio mynd i siop,” medde hi, “a rhoi giâr ar y tân cyn cychwyn. Ti
aros yn tŷ i edrych tan hi berwi, a rhoi ar papur pryd y mae hi dechre,
a ti mynd i chware wedyn, a mi yn ol cyn pen dwy awr.”

Aeth Anti Laura i’r siop, a minne’n aros yn y tŷ, ac Isaac yn fy myddaru
i eisio gwybod pa bryd yr oeddem ni’n mynd adre.

“Mae’r sciarlet ffefar gartre,” medde fi, i’w gysuro fo.

“Neith o frathu?” medde Isaac.

“Gneiff, ein bwyta ni’n fyw,” medde fi.

Meddwl am ei dawelu yr oeddwn i, ond dyma fo’n beichio crio, ac yn deyd
y base’r sciarlet ffefar yn bwyta nhad a mam. Roedd yn hwyr gen i weld
yr hen iâr yma’n dechre berwi, gael i mi fynd â fo allan. Mi sgwenes ar
bapur,—“Mae hi’n dechre berwi rwan.” Ymhen yr hwyr a’r rhawg dyma ni yn
ol. Roedd Anti Laura yn y tŷ, yn edrych yn syn ar y sospon, a hwnnw’n
dechre cochi yn ei waelod. “Mai Diar,” medde hi, “ti dim deyd pryd y
giâr yma dechre berwi, a mi ddim yn gwybod pryd i’w tynnu o.”

“Ffrïo mae hi rwan beth bynnag,” medde fi, gan gipio’r sospon oddiar y
tân, oedd wedi sychu’n lân, a’r iâr yn grimstin y tu fewn iddo.

“Ti dim deyd pryd hi dechre berwi,” medde hi.

“Do,” medde finne, ond wedi edrych ar y papur mi weles fy nghamgymeriad.

Wrth weld Isaac yn crio, a minne’n welw, mae’n debyg,—“Hidiwch befo,”
medde hi, “Mi wedi dwad â tun corn bîff, ni cael hwnnw i cinio a swper.
A wedi swper, canu wedyn. Mai Diar, canu i Anti Laura.”

Wel, fedrai ddim canu, ac mi spwyliodd hynny weddill y diwrnod i mi.

Cawsom y corn bîff, a chacenne mae nhad yn alw yn gacenne gwynt a dim.
Wedi i’r gath olchi’r llestri swper, aeth Anti â ni at y piano. Mi
gafodd Isaac ei ddyrnu o am dipyn, er mwyn ei dawelu. A dene Anti’n
dechre. Chlywsoch chi rotsiwn beth, mor ardderchog oedd hi. Roedd
dawnsio’n rhedeg i lawr eich asgwrn cefn, fel dŵr oer, ac i’ch sodle er
eich gwaetha.

“Mai Diar,” medde hi, “chi canu.”

“Fedrai ddim,” medde fi.

“Medrwch, medrwch,” medde hi, tan fy nghusannu, “pawb yn medru canu.”

Fedrwn i ddim ond “Tôn y Botel,” a honno ddim ond ar un gân.[4] Mae
Tomos y Felin wedi ei dysgu i ni ar “Llanfairpwyllgwyngyll.” Mi ofynnes
i Tomos ei rhoi i lawr i mi, a dyma hi:—

{| l_{1} :l_{1} _{‘}t_{1} _{‘}d |t1 :l_{1} |t_{1} :t_{1} _{‘}d _{‘}r |d
  .,t_{1} :l_{1} }
   Llan - fair-pwll gwyn-gyll - go - gerychwyrn-dro - bwll -

{| m :r _{‘}m _{‘}f |m .,r :d |r .,d :t_{1} |l_{1} :- |}
   Llan - ty - sil - io - go - go - goch.

Ac mi wyddwn fod “Tôn y Botel” yn mynd ar “Gosod  babell  yng  ngwlad
Gosen.”  Ond sut i gysylltu Llanfairpwyllgwyngyll â Gwlad Gosen oedd y
gamp, gan na fedrwn i ddechre “Tôn y Botel” ond ar y geiriau
“Llanfairpwyllgwyngyll.” Y gamp oedd medru dechre efo “Llanfair” a
neidio ar y canol i “Wlad Gosen.”

“Rwan,” medde Anti. Mi ddechreues, ac yn wir i chi, mi lwyddes. Fel hyn
y gwnes i, dechre canu “Tôn y Botel” trwy fy nannedd ar
“Llanfairpwyllgwyngyll,” a phan deimles fy nhraed dana, neidies i’r dim
ar “Wlad Gosen,” ac agores fy ngenau a chanu ymlaen.

Mae’r llythrenne mân yma’n tybio canu trwy ddannedd:—

{| l_{1} :l_{1} _{'}t_{1} _{'}d |t_{1} :l_{1} |t_{1} :t_{1} _{'}d _{'}r |d
  .,t_{1} :l_{1} |}
   Llan - fair-pwll-gwyn-gyll, yng ngwlad Gos - en.

Ac felly ymlaen.

Doedd dim diwedd ar waith Anti’n canmol a chusannu, a doedd na byw na
marw na chanwn i wedyn. Ond gan fy mod yn gwrthod, roedd yn rhaid i mi
addo canu nos drannoeth. Ac roeddwn i’n ofni hynny.  Fel  Mr.  Williams
y gweinidog yn dwad heibio acw efo’r saethwrs un diwrnod. Doedd o ’rioed
wedi gafael mewn gwn o’r blaen. Cododd gwningen, taniodd Mr. Williams, a
tharodd hi’n farw. Roedd pawb yn mynnu ei fod o’n hen saethwr, ac ynte’n
chwyddo, ond ei gamgymeriad oedd trio wedyn. A dene ofnwn inne os canwn
i wedyn.

Fel roedd pethe’n bod doedd dim dal ar Isaac eisio mynd adre drannoeth,
a’r diwrnod hwnnw oedd diwrnod marchnad y dre, a’r cerbyde’n rhedeg yno.
A gyrrodd Anti ni adre efo’r cerbyde.

Pan ddeydes i ’r hanes wrth mam,—“does ryfedd fod James, druan, wedi
torri ei galon, ac wedi mynd i’r Sowth i weithio,” medde hi.

O dan y Sciarlet Ffefar y mae Isaac yrwan, a finne’n disgwyl yn dawel
amdani. Fydd hi ddim gwaeth nag Anti Laura. Ac eto dydwi ddim yn siwr, o
achos roedd hi’n glên iawn yn ei ffordd.

-----

[3] _No aim_,—dim amcan.

[4] Er tegwch â Thomos y Felin, dylwn ddywedyd hyn rhag ei gyhuddo o
ladrad. Cyhoeddwyd hanes “Anti Laura” gyntaf yn y “Winllan” am fis
Ebrill. Yr haf wedyn cenid “Tôn y Botel” ar y geiriau
“Llanfairpwllgwyngyll” yn y seremoni gapio yn un o’n colegau prifysgol.
Gresyn a fuasai cyhuddo Tomos ar gam o ladrata ’r drychfeddwl.



                             IV.—MESUR TIR.


Y peth mae nhw’n alw’n llabwst ydi Jona’r Teiliwr. Wn i ddim pa grefft
ydi honno, ond rydwi’n siwr ei bod hi’n un ddifyr iawn, o achos byd braf
iawn ydi byd Jona. Anamal y mae o’n gneud dim ond gwagsymera, a dydi
honno, fel y gwyddoch chi, ddim yn grefft anodd iawn i’w dysgu. Rydwi’n
siwr o hyn, nad ydio ddim yn deiliwr. Rhyw enw ar y teulu, rywsut, ydi
teiliwr. Mae nhw’n galw bachgen ei chwaer o, sydd flynyddoedd iau na fi,
yn Robin y Teiliwr, a dydwi ddim yn siwr y gŵyr o’n iawn bedi nodwydd, a
barnu oddiwrth ei ddillad o. Mae’n hawdd coelio fod Robin yn credu mewn
awyr iach, o achos mae digon o dylle yn ei ddillad i awyr redeg
drwyddynt.

Un cyfleus iawn ydi Jona i fechgyn. O ran oed, mae o’n edrych yn
rhywbeth tebyg i nhad, ac eto mae’n gas ganddo bobol mewn oed. Mae o
wastad efo ni y bechgyn, ac yn lladd ar yr hen bobol, ac yn adrodd eu
tricie nhw. Felly, trwyddo fo, ryden ni’n dwad i wybod sut rai ydi’r
bobol yma sydd bob amser yn deyd wrthym ni fod pawb yn dda ond plant. Ac
y mae gan Jona ddigon o amser ar ei ddwylo bob tro y mae Wmffre neu fi
yn pasio. Byw ei hun y mae o, ac wastad ar ben y drws yn aros am ymgom
efo rhywun sy’n pasio.

Hwyrach mai ’r rheswm mai gwagsymera mae o wedi ei ddewis fel gwaith ei
fywyd ydi am ei fod o’n gloff. Rhyw hongol o beth ydio, yn hercian
cerdded pan fydd o’n mynd i rywle. Ac yr oedd Wmffre a fi efo fo pan
aeth o’n gloff. Mynd ar neges oeddwn i, i nol tatws at y Sul, ac Wmffre
i nol paraffin. Pwy welem ni’n dwad yn wyllt i’n cyfarfod ni, mor wyllt
ag y meder dyn efo traed clwb, â lli yn ei law, ond Jona. “Fechgyn,”
medde fo, “dowch efo mi i weithio i Mistar Huws, Plas Isa.” Ac i ffwrdd
â ni, heb hyd yn oed ofyn pa siort o waith oedd o.

Mae’n ymddangos mai mynd i lifio coed oedd gwaith Jona, a ffwrdd â ni
i’r Tyno, at yr hen dderwen. Mae ene dwll yn y dderwen ddigon maint i mi
ac Wmffre a dau arall fynd i mewn, ac yno ryden ni’n berwi dŵr i neud tê
yn yr ha. Pan aethom ni at y dderwen, dangosodd Jona gangen inni. “Mae
eisio honacw i lawr,” medde fo. Mi daflodd raff dros dop y gangen, wedi
rhwymo un pen am ei ganol, ac ene Wmffre a finne’n tynnu yn y pen arall,
i’w helpio i ddringo. O’r diwedd, eisteddodd ar y gangen, a dechreuodd
lifio. Cyn bo hir mi ddarun sylwi ei fod o’n llifio’r gangen rhyngddo
a’r pren. Ddaru ni ddeyd dim, o achos ein bod yn meddwl y base fo’n
gweld ei fistêc yn ddigon buan. A mwy na hynny, dydio ddim yn beth
priodol i blant gynghori dyn mewn oed. Dal i lifio yr oedd Jona o hyd, a
chael hwyl ar y gwaith. Pan ddechreuodd y gangen ysgwyd, roedd o’n
chwerthin nes oedd o’n sâl, ac yn ein gwahodd ninne i fyny i swingio efo
fo. Ond fedrem ni yn ein byw ddim peidio â chwerthin wrth weld Jona’n
chwerthin. Dene glec! ac i lawr â’r gangen,—a Jona. Ddaeth y gangen
ddim yn hollol rydd oddiwrth y pren. Yr oedd hi’n hongian gerfydd ei
gwrisg. Ond mi ddaeth Jona’n rhydd oddiwrth y gangen, a bowliodd fel pêl
am lathenni.

Doedd dim i’w neud ond rhedeg am ein bywyd i ddeyd wrth Mistar Huws,
Plas Isa. Roedd Jona wedi torri ei goes, a bu’n gorwedd yn hir, ac y mae
o ac Wmffre a finne’n ffrindie fel dur byth wedyn, am i ni fod mor barod
i redeg i nol help.

Wedi iddo fo fendio, mi heliodd yr ardal dipyn o arian i’w helpio, drwy
neud consart iddo fo. Roeddwn i’n digwydd pasio newydd iddo gael yr
arian, ac medde fo, “Nedw, wyddost ti be ydwi’n mynd i brynu efo’r pres
yma,—mashîn neud cywion, a’u magu nhw yn y cae y tu ol i’r tŷ.” Doeddwn
i rioed wedi clywed am fashîn neud cywion o’r blaen, ac mi sboniodd Jona
i mi. Rydech chi’n rhoi peth wmbredd o wye yn y mashîn yma, ac yn troi
handlen, a beth sy’n dwad allan yr ochr arall ond cywion. Aeth Jona i
ffwrdd yn ddistaw bach un diwrnod, a daeth yn ol efo’r mashîn. Bu’n
casglu wye am ddyddie, ond roedd ei stori o’n wahanol ar ol dwad yn ol
efo’r mashîn. Mae’n ymddangos nad drwy droi handlen yr ydech chi’n cael
y cywion, ond drwy ryw ffordd arall.

Ryw ddiwrnod mi glywn floeddio ofnadsen y tu allan i’n tŷ ni cyn i mi
godi, a hynny arna i. Pwy oedd yno ond Jona, a phen eis i’r
ffenest,—“Nedw,” medde fo, “mae acw gyw, ac un arall â’i ben drwy’r
plisgyn.”

I ffwrdd â mi i alw am Wmffre ynghynt na chynted gallwn i, ac ar ol
Jona. Yn wir i chi, roedd yno gyw a hanner yno. Ond yr oedd Jona mewn
helynt. Doedd o ddim wedi meddwl cael bwyd ar eu cyfer nhw. Ac i ffwrdd
â mi am fwyd. Roedd Wmffre wedi ei syfrdanu ormod i fedru symud. Pan
ddois i yn fy ol, roedd hi’n hwyr lâs i fynd i’r ysgol. A’i chael hi
ddaru ni hefyd am fod yn hwyr, ond roedden ni’n barod am hynny, ac yn
well allan na’r bechgyn erill wedyn,—doedd yr un ohonyn nhw rioed wedi
gweld mashîn neud cywion.

Ond marw ddaru pob cyw i Jona druan, er ei fod o wedi cael cannoedd. Ar
ol eu cael nhw, wydde fo ar wyneb y ddaear be i neud hefo nhw, o achos
er i chi fedru gneud cywion mewn mashîn, rhaid i chi gael gieir i’w magu
nhw. Newidiodd Jona’r mashîn am fochyn. A magu mochyn yn y cae y tu ol
i’r tŷ y bu o wedyn.

A’r cae bach y tu ol i’r tŷ ydi popeth Jona. “Y ffarm acw,” y mae o ’n
ei alw, a’r “pethe” y geilw’r mochyn. Ac am y ffarm a’r pethe y mae o’n
sôn fyth a hefyd, ond pan fydd o’n sôn am y senedd. Mae o wastad yn
gofyn i Wmffre a fi, be sy’n mynd ymlaen yn y senedd. Rhoi bwyd i’r
pethe y geilw roi bwyd i’r mochyn.

Un nosweth daeth tad Wmffre i’n tŷ ni am dro, ac Wmffre hefo fo. Aethom
ni i’n dau i chware gwadnu’r gath. Mae hi’n ddigon hawdd gwneud hynny,
os oes gennych chi flisg cnau ffreinig. Raid i chi ddim ond rhoi tipyn o
gliw ar y blisg, a rhoi hanner plisgyn ar bob un o draed y gath. Mae
hi’n dawnsio wedyn, y difyrra peth welsoch chi rioed.

Pan ar ganol y chware, clywes i nhad yn sôn rhywbeth am y senedd. Mi
wrandewes yn syth. “Be feddyliech o’r mesur tir newydd sy gerbron y
senedd?” medde nhad wrth f’ewyrth. Doedd yr hanes ddim yn rhyw ddifyr
iawn, a dyma orffen gwadnu’r gath.

Wrth ddwad o’r ysgol drannoeth, pwy oedd ar ben y drws ond Jona. Dyma fo
i lawr i’n cyfarfod ni, o achos mae’r tŷ dipyn o’r ffordd. Wedi adrodd
hanes y mochyn,—“Sut y mae hi’n dwad ymlaen yn y senedd, fechgyn?”
medde fo.

“Pasio i fesur tir mae nhw,” medde finne.

“Mesur tir!” medde Jona, “yden nhw’n meddwl mesur y ffarm yma?”

“Mae nhw’n mynd i fesur pob tir,” medde finne.

“Byth!” medde fo. “Mi fydd y fforch acw trwy’r cynta rydd ei droed ar fy
nhir i i’w fesur o.” Ac estynodd ei fys at y fforch.

O hyd ar ol hynny, am y mesur tir yma y mynnai sôn. Cyn bo hir mi gwelem
o ’n mynd â llwyth o ddrain i gau’r adwye, a phlethu drain drwy’r
llidiard, ac ni chawsom fawr o ymgom â fo am ddyddie.

Ryw fin nos roedd ene lot ohonom ni efo’i gilydd, yn methu gwybod beth
i’w neud. Roedd cyfnod y marbls wedi darfod, a chyfnod y pegi heb
ddechre.

“Wyddoch chi be nawn ni?” medde fi,—“Mynd i fesur tir Jona’r Teiliwr.”
Mi ddeydes hanes y mesur tir oedd gerbron y senedd wrthyn nhw, ac yr
oedd pawb yn barod, o achos mi fase’n fantes i Jona wybod mesur ei dir o
flaen llaw, rhag ofn i’r llywodraeth ei dwyllo. Rhaid er hynny oedd taro
ar gynllun i’w fesur o heb i Jona wybod ar unweth.

Roedd cartre Wmffre yn rhy bell iddo redeg i nol het ore’i dad, ac mi
eis i i lofft ein tŷ ni i nôl benthyg hen het silc taid, sydd acw rioed,
a spectols nhad. Aeth Jac y Gelli i nôl benthyg côt a throwsus ei frawd
hyna, a thâp mesur ei fam, o achos dresmecar ydi hi. Wedi cael y pethe
hyn a thipyn chwaneg gan y bechgyn erill, dyma gychwyn. Aeth pawb ond fi
at gae Jona. Eis i am ymgom at Jona ei hun. Mi fase’n biti inni fesur ei
dir heb i Jona wybod hynny, ac hefyd mi fase’n biti iddo fo gael gwybod
yn rhy fuan. Gan Wmffre yr oedd yr het silc a’r spectol.

“Jona,” medde fi toc, “mae’r mesur tir wedi dwad, mi weles ryw
fyddigions yn ei gneud hi am eich cae chi gynne.” Aeth Jona cyn wynned
a’r galchen.

“Bybê?” medde fo, a rhuthrodd i ddrws y cefn. Dene lle roedden nhw.
Mae’n ymddangos eu bod nhw wedi darfod mesur y cae, o achos ar ganol
mesur y mochyn oedd yn y cae yr oedden nhw ar y pryd. Neidiodd Jona i
ben y clawdd, a dechreuodd weiddi a chau ei ddyrne. Cododd y mesurwyr
tir eu penne ’n hamddenol. Rhoddodd Wmffre ei bensel yn ei glust,
cymerodd afael yn y tâp mesur, a daliodd ef rhyngddo a Jona, fel tase
fo’n mynd i fesur Jona hefyd. Neidiodd Jona i lawr oddiar ben y
clawdd,—

“Mae gen inne ddynion yn trin cwils[5] yn y dre ene,” medde fo, ac i
lawr y ffordd â fo fel yr oedd i gyfeiriad y dre fel mellten.

Erbyn hyn yr oedd popeth oedd i’w fesur wedi ei fesur. Doedd dim bellach
i’w neud ond cuddio’r pethe dros dro, gan fod Jona wedi ei chymyd hi y
ffordd y gwnaeth o, a mynd i chwilio pa mor bell i gyfeiriad y dre yr
oedd o wedi rhedeg. O achos doedd dim peryg iddo fynd ymhell iawn. I
lawr â ni o’r tu ol i’r gwrych. Mi welem Jona’n sefyll i siarad â
rhywun, ac yn handlo ei freichie fel melin wynt, ac yn tapio brest y dyn
yma, bob yn ail gair, i bwysleisio’r gair. Aethom yn nes atyn nhw y tu
ol i’r gwrych. Pwy oedd y dyn, o bawb, ond nhad.

“Mesur ’y nhir i mae’r cnafon, Edward Roberts,” medde Jona. “Mae gen
inne ddynion yn trin cwils yn y dre ene; oes siwr, mae gen inne ddynion
yn trin cwils.”

“Ydech chi’n siwr, Jona Thomas,” medde nhad, “nad plant yn cael tipyn o
hwyl oedden nhw?”

Sut y daeth o i wybod hyn wn i ddim ar wyneb y ddaear. Safodd Jona fel
tase fo wedi cael strôc.

“Dawn i byth yn symud!” medde fo. “Erbyn meddwl, roedd dyn yr het silc
honno braidd yn fychan i’w het, a throwsus y llall hwnnw braidd yn llac.
Ond meddwl ddaru mi mai dene’r ffasiwn rwan.”

Mi safodd am eiliad heb ddeyd dim,—“Edward Roberts,” medde fo, “mi
ddylech fod yn falch o’ch mab. Doedd o ddim efo’r gweilch. Efo fi yn y
tŷ yr oedd o ar y pryd. Fo a’i dangosodd nhw i mi.”

Anadlodd nhad yn drwm drwy ei ffroene, a dwedodd “pnawn da.” Synnwn i
ddim ar ei ddull o anadlu nad ydio wedi cael tipyn o annwyd.

Mi redes i yn fy ol, ac yr oeddwn yn y tŷ pan gyrhaeddodd Jona.

“Nedw,” medde fo, “pan ladda i’r mochyn, mi gei di ddarn o borc, a’r
unig un o’r bechgyn geiff ddarn wyt ti. Nhw sy’n mesur fy nhir i, medde
dy dad.”

Eis ar ol y bechgyn toc, ond ches i fawr o groeso ar y dechre, am fod
nhad wedi deyd wrth Jona mai nhw oedd yn mesur y tir. Ond wedi imi addo
tamed o borc bob un iddyn nhw, roedd popeth yn iawn.

“Welwch chi, fechgyn,” medde Jac y Gelli, “mi ddylem neud rhywbeth i
ddwad â fo at ei goed. Be sy genoch chi yn eich pocedi?” Matshis oedd
gan Wmffre, afal oedd gan Jac, cylleth oedd gen i. Roedd y bechgyn yn
deyd mai cylleth blwm oedd hi, a minne mai cylleth ddur. Darn o linyn
oedd gan Dic Twnt i’r Afon, a marblen a darn o fins pei oedd gan Bob y
Felin. Aethom â nhw i gyd, a’u gosod ar garreg drws Jona, wedi iddo
gau’r drws a mynd i’r tŷ.

Yna aethom at y ffenest i edrych be oedd Jona’n neud, o achos am guro’r
drws yr oeddem ni, a mynd rownd y gornel i wylio’r croeso a gai’r
presantie. Dydi hi ddim yn beth neis i ddangos gormod arnoch eich hun
wrth bresantio neb.

Plyges i fy nghefn, ac aeth Jac y Gelli ar fy nghefn, i edrych drwy’r
ffenest. Yn lle deyd beth welai, dyma fo’n dechre chwerthin a chwerthin,
nes i mi ei daflu i lawr. Cafodd pob un edrych drwy’r ffenest wedyn, y
naill ar ol y llall. Wrth y tân yr oedd Jona yn pendympian, â’i ben bron
ar far y grât. Yn ei law yr oedd fforcien, ac wrth y fforcien yr oedd
golwyth o facn yn hongian. I’w ffrïo y dalie Jona’r bacn, ond fel yr
oedd pethe, braidd yn bell yr oedd y bacn oddiwrth y tân. Dalie Jona un
pen iddo â’r fforcien, a’r gath yn bwyta’r pen arall. Piti fase
rhwystro’r gath ar ganol ei swper. Fase run ohonom ni yn leicio i neb
neud peth tebyg i ni, fel y mae’r titshiar bob amser yn deyd, pan yn ein
dysgu i fod yn garedig wrth anifeilied direswm. Wedi iddi orffen dyma
guro’r drws a gwylio. Dene sŵn yn y tŷ. Y gath ddaeth allan gynta. Roedd
hi’n edrych fel tase hi braidd ar frys. Ac wedyn Jona. Edrychodd yn syn
pan welodd y presantie.

“Mae’r cnafon wedi bod yn chware ar garreg fy nrws i, ac wedi anghofio’u
pethe,” medde fo. Dene’r diolch gawsom ni am fod yn garedig.

Neidiodd i’r gylleth. “Mi dorra ffon ar eu cyfer nhw y tro nesa y dôn
nhw,” medde fo. Ac i’r gwrych â fo i dorri ffon gollen braf. Ond y
bechgyn erill oedd yn iawn wedi’r cwbwl,—plwm oedd y gylleth, o achos
plygu ddaru hi yn lle mynd drwy’r ffon. Taflodd Jona hi i ffwrdd mewn
dirmyg, ac aeth i’r tŷ efo’r pethe erill. Fi oedd yr unig un, felly,
gafodd fy mhresant yn ol.

Cadwodd Jona ei air. Mi gefes ddarn o borc, ond doedd neb yn digwydd bod
yn iach yn ein tŷ ni pan eis i â fo adre. Ac yr oedd y bechgyn erill
wedi anghofio’r fargen, fel yr oedd yn rhaid i mi droi ato fy hun, ond y
darn a roddes i Wmffre.

-----

[5] _Penholders._ Cyfeirio at dwrneiod yr oedd.

[Illustration: “YDECH CHI’N LEICIO MAFON DUON”? MEDDE FI.]



                             V.—MAFON DUON.


Fi ydi’r unig un o’r bechgyn i gyd i siarad yn iawn â Jinny Williams. Ac
nid oes yr un eneth yn debyg iddi yn yr ysgol, heblaw mai geneth newydd
ydi hi. ’Does fawr er pan y mae hi yn yr ardal, ac y mae’r bechgyn yn
sâl eisio tynnu ymgom â hi. Mi gyffyrddodd Robin bach Ty’n Llidiard fin
ei gwallt wrth rannu’r llyfre unweth, medde fo. Ond ’does neb arall wedi
bod yn agos ati. Welsoch chi rioed mo’i delach. Dugoch ydi ei gwallt,
fel rhedyn wedi aeddfedu, ond ei fod o’n gyrls i gyd, ac yn sgleinio.
Mae o ymhobman rywsut,—ar ei hysgwydde hi, yn gweu am ei chlustie, yn
troi dan ei gên, yn clymu am ei gwddw, nes gneud ei gwyneb yn ei ganol
fel pictiwr mewn ffram wedi’i phlethu. Ac nid oes ganddi byth ddim am ei
phen. Am ei llygid, y mae nhw yr un fath a’r mawn sydd yng ngwaelod yr
Hen Ffynnon. Ni fedraf yn fy myw byth godi dŵr o’r Hen Ffynnon heb
feddwl am lygid Jinny Williams, o achos mae’r dŵr yn troi’r mawn yn
loyw.

Wrth yr Hen Ffynnon y cyfarfyddes i hi gynta i siarad â hi, dipyn wedi
dau o’r gloch y bore. Faswn i byth yn meddwl deyd dim wrthi, ddim mwy
na’r bechgyn erill, yn yr ysgol. Ond y mae pethe’n wahanol wrth yr Hen
Ffynnon am ddau o’r gloch y bore.

Ha sych iawn oedd yr ha dwaetha, a sychodd Pistyll y Llan, a doedd dim i
bobol y Llan neud, ond dwad i’r Hen Ffynnon, fel ninne pobol y wlad. Ar
ochor y Foel Fawr y mae’r Hen Ffynnon, yng nghanol grug a brwyn at eich
ysgwydde. Ac y mae’r holl wlad a’r mynyddoedd pell, hyd at y Foel Ddu,
i’w gweled oddiwrthi. O dipyn i beth, gan fod cymint o gario ohoni, aeth
yr Hen Ffynnon yn sych liw dydd, a doedd dim i bobol ei neud ond mynd
ati am y boreua. Aeth nhad yno un bore am bump o’r gloch, ond yr oedd
hi’n hollol sych. Aeth bore drannoeth am bedwar, a chyfarfu â
chynulleidfa’n dwad oddiyno. Y pnawn hwnnw, dene Huw fy mrawd hyna’n
deyd yr ai o i nol dŵr cyn mynd i’w wely, ar ol dwad o’r gwaith.
Gweithio’r nos yr oedd o cyn mynd i’r rhyfel, yn y gwaith plwm yr ochor
arall i’r Foel Fawr, a dwad adre tua dau o’r gloch y bore. Meddylies mai
iawn o beth fase medru deyd wrth y bechgyn mod i allan am ddau o’r gloch
y bore, ac mi gynhygies fynd efo fo.

“Olreit,” medde Huw, “cer i dy wely’n gynnar gael i ti fedru codi. Mi
fydd yn werth iti weld y wawr yn torri yn yr ha, am unweth yn dy oes.”

Mi es i ngwely’n gynnar, gan feddwl peth mor ardderchog oedd i fachgen
deg oed weld y wawr yn torri yn yr ha. Ond rydwi wedi sylwi ar ol hynny,
nad ydi’r pethe y mae pobol yn eu galw’n weledigaethe mor ddifyr am ddau
o’r gloch y bore ag y mae nhw fin nos. Cyn imi gau fy llygid yn iawn,
i’m tyb i, pwy oedd uwch fy mhen yn ceisio fy neffro ond Huw.

“N-e-d-w-w,” medde fo’n araf ac ysgafn, gan godi ei lais tua’r diwedd.
Ond doedd Nedw ddim yn ei glywed o.

“N-e-e-d-w-w-w,” medde fo wedyn, gan godi ei lais dipyn uwch tua’r
diwedd na’r tro cyntaf. Ond nid oedd na llais na neb yn ateb.

Mi sgydwodd chydig arna i. Ymhen tipyn,—“Nedw! Nedw!” medde fo fel
ergydion, ond cysgu’n drwm yr oedd Nedw.

“Nedwnedwnedwnedwnedwnedw,” medde fo wedyn, fel motor beic, gan fy
ysgwyd fel crud. Ond yr oedd Nedw cyn farwed a hoel.

Ar hyn dene mam yno,—

“Nedw, machgen i, deffra,” medde hi. “Mi golli dy tshans am weld y wawr
yn torri, yn siwr iti.”

Ond roeddwn i wedi penderfynu gneud fy ngore i ddal y brofedigieth
honno’n ddi-gwyn, ers meityn.

Ar hyn dene Huw’n deyd,—“Thâl peth fel hyn ddim,” ac yn gafael ynof, ac
yn fy rhoi ar lawr y siambar. Doedd hi ddim yn anodd wedyn imi weld fod
edrych ar y wawr yn torri o ymyl yr Hen Ffynnon yn brafiach na pheth fel
hyn, a doedd dim i’w neud ond codi. Mi welwch chithe’n union mai da oedd
imi fod wedi mynd at yr Hen Ffynnon i weld y wawr yn torri, wedi’r
cwbwl.

Dene gychwyn. Roedd hi’n bur dwyll, ac heb smic i’w glywed yn unman, ond
ambell i dderyn yn scrwtian ei adenydd yn y gwrych, ac ambell ddafad yn
cnoi ei chil wrth i ni ei phasio at yr Hen Ffynnon. Fel y dringem at y
ffynnon, yr oedd yr awyr fel yn rhyw ddechre sgafnu, a’r llwybyr trwy’r
grug yn dwad yn gliriach.

“Hsht,” medde Huw, “Mae ene rywun wrth y ffynnon.” Ymlaen â ni, ac wedi
mynd i ymyli,—

“Helo,” medde rhywun. Adnabu Huw ei lais, ac adnabum inne’r un oedd yn
llechu y tu ol iddo. Mi gwelwn hi rhwng twyll a gole rhynga i a’r Foel
Ddu. Pwy oedden nhw ond Jinny Williams a’i thad. Mi ddechreuodd Huw a’i
thad ymgomio am y sychter, a’r cynhaea a chant a mil o bethe felly. Ac
yr oedd Jinny a minne’n rhydd i ymgomio fel y mynnem y tu ol iddyn nhw.
Mi es yn nes ati, ond y peth cynta a wnes i oedd chwysu’n ddiferol, ac
wedyn dechre rhynnu nes i fy nannedd guro’n enbyd. Welsoch chi rioed
bethe mor anodd ydi gnethod i siarad efo nhw, pan ddaw’r tshans, heb neb
ond nhw a chithe. Mi ddechreues sgwenu fy enw ar y ddaear efo blaen fy
nhroed, a chyn belled ag y gwelwn i dan fy nghuwch fod Jinny’n gneud yr
un peth. Mi godes fy mhen, ac ni welsoch erioed ffasiwn beth. Roedd top
ei phen hi’n union ar gyfer pigyn y Foel Ddu, ac ni allech ddeyd ar y
funud prun ai sglein ei gwallt rhyngoch a’r gole a welech chi, ynte ai
yn yr awyr ei hun ar ben y Foel yr oedd y lliw. Mi weles toc mai yn yr
awyr yr oedd o, ond roedd o’r un ffunud a’i gwallt hi rhyngoch a’r gole.
Weles i rioed mo’r wawr o’r blaen yn yr ha,—y peth tebyca a welsoch chi
i wallt Jinny rhyngoch a’r gole ydi hi.

Ac yr oedd ei llygid yr un fath a gwaelod yr Hen Ffynnon yn union, a’i
chyrls fel tase nhw’n gneud eu gore i guddio ei gwyneb.

Mi fentres ddeyd gair wrthi,—

“Ydech chi’n leicio mafon duon?” medde fi, gan gnoi ngwinedd wedi methu
meddwl am ddim arall i’w ddeyd.

“Ydw, ymhle mae nhw i’w cael?” medde hi.

“Does ene ddim,” meddwn inne, gan ddechre gweld fy meddalwch. O achos mi
weles y funud honno mai peth gwirion oedd gofyn a oedd hi’n leicio
rhywbeth nad oedd gen i ddim ohono i’w gynnyg iddi. Ac am hynny, roeddwn
i’n teimlo braidd fel ci wedi torri’i gynffon.

Yr hyn a wnaeth imi feddwl am y peth oedd gweld walie y lle mae nhw’n
alw’n “Sgubor Robert Green,” yn dwad i’r golwg yn y pellter rhynga i a’r
awyr. Pwy oedd Robert Green fedrai ddim deyd, ond ochre hen dŷ ydi’r
Sgubor, a llond y canol o goed mafon duon. Dene’r mafon goreu yn y wlad,
medden nhw, ond dydi’r bechgyn byth yn mynd yno, am fod pobol yn deyd
fod yno ysbryd.

Edrychodd Jinny arnai’n hir heb ddeyd dim, fel tase hi wedi taro ar un
meddal am y tro cynta rioed. Edryches inne arni hithe heb fedru tynnu
ngolwg oddiarni. Dene su sydyn heibio inni, a pheth oedd yno ond y gôg
yn pasio dros ein penne ni, ac yn disgyn ar y pren surion gwylltion yn y
pellter, rhwng Jinny a thoriad y wawr. Ac er na weles i rioed mo’r wawr
yn torri o’r blaen, yn yr ha, fedrwn i ddim tynnu ’ngolwg oddiar Jinny,
i edrych arni hi a’r gôg. Dydio ddim yn beth neis i chi dynnu’ch golwg
oddiar eneth i edrych ar rywbeth arall, a chithe’n siarad â hi, hyd yn
oed i weld y wawr yn torri, rhwng dau a thri o’r gloch y bore, am y tro
cynta rioed yn yr ha.

Mi gofies am y gylleth a gefes i ar lawr y diwrnod cynt, ac mi dangoses
hi iddi. Mi rhoddes hi i’w gweled yn ei llaw a dene fys cynta fy llaw
chwith i yn cyffwrdd am funud bach y bys agosa i’w bys bach hi ar y llaw
ddethe. Mi gynhygies fotwm gloyw iddi hefyd, a gefes i ar lawr, a
chadwodd hwnnw ym mhoced ei brat. A bu tawelwch mawr, fel y mae’r Beibil
yn deyd.

Dal i siarad yn ddiddiwedd yr oedd ei thad a Huw.

“Ydech chi _yn_ leicio mafon duon?” medde fi wedyn toc, gan fod eidïa
newydd wedi fy nharo i.

“Ydw,” medde hithe’n ddihidio. Wedi ei siomi’r tro cynta yr oedd hi,
mae’n debyg.

“Mi wn i ymhle y mae’r rhai gore yn y wlad pan ddaw hi’n amser,” medde
fi.

“Ymhle?” medde hithe.

“Yn y fan acw, yn Sgubor Robert Green,” medde finne, “ond eu bod nhw’n
anodd i’w cael, ac am hynny, ’chydig o’r bechgyn sy’n mynd yno.”

“O!” medde hithe, fel tase hi ddim yn gwrando. Ond roeddwn i’n rhyw
ddechre ennill nerth erbyn hyn,—

“Mi a i yno i nol rhai i chi, os leiciwch chi,” medde fi, dipyn yn fwy
swil, o achos mi sylwes yn sydyn ei bod yn goleuo’n gyflym.

“Olreit,” medde hithe, wedi swilio braidd ei hun.

“Ddowch chi efo fi?” medde fi, dan fy llais.

“Olreit,” medde hithe yn yr un dôn.

Ar hyn mi welai Huw rywun yn dwad at y ffynnon, a dene fo a finne adre
un ffordd, a Jinny Williams a’i thad y ffordd arall.

Wel, yn wir, wyddwn i ddim ar draed pwy oeddwn i’n cerdded. Ac ni fedrwn
feddwl mynd i’r ysgol bore drannoeth heb goler,—

“Mam,” medde fi, y bore hwnnw, “hwyrach fod yr inspector yn dwad i’r
ysgol heddyw, ac y mae eisio i bawb fod yn deidi. Fase hi ddim yn well i
mi fynd yno mewn coler?”

Mi drychodd mam arnai, fel taswn i ddim yn gall,—“Coler!” medde hi,
“bedi dy feddwl di,—wyt ti’n mwydro?”

Mi fedres ei chael i ganiatau un i mi er hynny. Doedd ene ’run imi
chwaith, ond hen un i nhad,—coler droi i fyny, a phigie iddi, ac yr
oedd honno’n rhyw dair modfedd yn rhy fawr. Honno a ges i, ond bod mam
wedi torri darn o’i thu nôl, gan fod coler fy nghôt bron yn cuddio’r fan
honno, a gwnio’r ddau ddarn ynghyd yn bur deidi, a rhoi bach yn fy nghôt
y tu ôl, i’w fachu yn nhop y goler, i’w dal o’r golwg.

Wel, mi es i’r ysgol yn y goler yma fore drannoeth,—ond ddim yn y
pnawn. Y peth cynta a wnaeth Jinny Williams pan welodd hi fi, oedd codi
ei thrwyn arna i, fel tase hi rioed wedi ngweld i, a’r gnethod erill yn
chwerthin trwy eu bysedd bob tro y pasient fi. A’r peth a wnai’r bechgyn
oedd tynnu eu capie a bowio i mi, a chadw draw yn lle chware. Rhedent i
fy nghyfarfod fel tase nhw am chware. Safent yn sydyn,—

“Dacw’r Prince of Wales yn dwad,” medde nhw yn swil.

Tynnent eu capie, a bowient hyd lawr, ac aent heibio ar flaene eu traed,
gan ddeyd dan eu lleisie,—

“Lle mae’r hen Nedw, tybed, na fase fo yn yr ysgol?” “’Tydi’r Prince of
Wales yn debyg i Nedw?”

Daeth Wmffre ata i toc,—“Nedw,” medde fo, “fel hen ffrynd, cymer gyngor
gen i er dy les, cadw’r goler ene adre.” A dene a wnes i. Daeth Jinny
heibio i mi wedyn y pnawn, a’i gwallt yn chware yn y gwynt. Ac medde hi,
rhwng ei chyrls, wrth fy mhasio i,—“Cofiwch y mafon duon.”

Dene a wnaeth i mi fentro i le na bu’r un o’r bechgyn erioed
ynddo,—Sgubor Robert Green—i nôl y mafon duon. A phen es i yno, mi
weles beth mor debyg i ysbryd, fel yr oedd pobol yn deyd, nes y baswn i
wedi dychrynnu i ffitie, onibai bod Jinny efo mi yno.

Sôn am ddisgwyl, dene ddisgwyl, a disgwyl, am i’r mafon duon ddwad ac
aeddfedu. Yr oeddwn i ar fentro i Sgubor Robert Green amdanyn nhw bob
dydd i Jinny, ond bod fy nghalon yn dwad rhwng fy nannedd bob tro y
meddyliwn am yr ysbryd.

Un diwrnod roeddwn i’n dwad heibio i’r Sgubor, wedi bod yn hebrwng Robin
bach Ty’n Llidiard,—dene’r diwrnod y deydodd o ei fod wedi cyffwrdd
cyrlen i Jinny. Edrychai’r haul fel tase fo’n rhyw hel ei hun at ei
gilydd i fynd i lawr, a phwy a gyfarfyddwn i’n dwad i ’nghyfarfod ond
Jinny, fel tase hi ar frys, ond rwy’n siwr mod i wedi ei gweld yn codi
oddiar ei heistedd oddiar garreg yn ochor y ffordd pan ddois i i’r
golwg.

“Nedw,” medde hi dan wrido, “ymhle y mae’r mafon duon?”

“Rwan amdanyn nhw,” medde fi. “Ddowch chi efo mi?”

“Do i,” medde Jinny.

Ac i mewn â ni i Sgubor Robert Green,—y fi yn gynta i sathru’r coed
mafon. Roedd yn rhaid dringo darn o wal, a llusgo Jinny ar fy ol. A dene
ddechre hel. Welsoch chi rioed fafon tebyg. Heliai Jinny nhw oddiar
lawr, a minne’n dringo’r walie, ac yn eu hel i fy nghap, ac yn dwad â
chapeidie iddi hi. Dene’r munude difyrra aeth dros fy mhen erioed, ac
wedi anghofio popeth am yr ysbryd. Dringes i ben un o’r hen ffenestri,
a’r llwyn mafon yn pwyso. Trois i weiddi ar Jinny, ond dene lle roedd hi
â’i phwyse yn erbyn y wal yr ochor bella, yn rhythu i’r gornel dan y
llwyn yr oeddwn i uwch ei ben o, a’i gwyneb fel eira, ac yn edrych fel
tase hi wedi fferru. Beth oedd yno’n eistedd ar garreg, yng nghornel yr
hen Sgubor, wedi ei gwthio’i hun dan gysgod y llwyn mafon duon, a
hwnnw’n gwasgu arni, ac yn ei sgryffinio, ond hen hen wraig, digon hen i
fod yn nain i nhad. Roedd hi â’i phen rhwng ei dwylo, a’i phenelinoedd
ar ei phenneglinie, yn crio’n ddistaw. Codes y gangen yn uwch, i gael
golwg gwell, rhag ofn mai breuddwydio yr oeddwn i. Cododd yr hen wraig
ei phen, a gwelodd fi. “O! Willie bach, ac rwyt ti wedi dwad o’r
diwedd,” medde hi,—“lle buost ti, machgen i, mor hir, a dy fam yn dy
ddisgwyl di ddydd a nos.” Neidies i lawr, a rhuthrodd hithe i fy llaw i,
a gafaelodd yn dyn ynddi.

“Ddaru nhw dy frifo di’n arw wrth drwsio dy ben di?” medde’r hen wraig.
“Gad imi gusan, Willie bach.” A gwenodd arnai’n dyner, dyner. Rhoddodd
ei llaw am fy ngwddw, a chusannodd fi. Fedrwn i ddim yn fy myw feddwl am
ei rhwystro, ond o ran hynny, roedd hi reit lân.

“Mi feddylies y cawn i di yma,” medde hi, “dyma’r lle y brifest ti dy
ben, yntê? Ydi’r dolur yn fawr, ’machgen i? Yn y fan yma roeddet ti pan
ddisgynnodd y garreg, yntê?” Chwiliodd fy mhen yn ysgafn. “Wel,” medde
hi toc,—“mae o wedi mendio’n iawn,—a nhwthe’n deyd fod y garreg wedi
d’ orffen di! Ond choelie dy fam monyn nhw, ’machgen i. Ac rydwi wedi
chwilio amdanat a chael dy fwyd yn barod bob dydd, Willie bach, er pan
est ti i ffwrdd. A mynd â ti i’r gwledydd pell i dy fendio ddaru nhw?” A
thynnai ei llaw yn ysgafn yn ol a blaen trwy fy ngwallt, o hyd, o hyd.

“Lle cest ti’r eneth bach yma, Willie?” medde hi, “mae hi fel shou o
bropor,—feder hi siarad Cymraeg?”

“Na feder,” medde fi, a dene’r gair cynta a ddaeth dros fy ngwefus. Ac
roedd o’n wir, o achos fedre Jinny ddim, am y byd, ddeyd gair mewn
unrhyw iaith. Dal i sefyll yr oedd hi, yn erbyn y wal, yn edrych fel yr
angel ar garreg fedd y Plas, ond bod ei gwallt am ei gwyneb yn deyd na
fedre hi fod yn neb ond Jinny.

Daliai’r hen wraig i edrych yn fy llygid, dan wenu a rhwbio fy llaw
rhwng ei dwylo,—“Wel, Willie,” medde hi, toc, “tyrd, ’machgen i, mae dy
fwyd yn oeri. Ac mae hi’n dechre twllu.” A dene hi’n gwthio trwy’r coed
mafon heb feddwl am y sgryffinio, a finne’n ei llaw. Cyffyrddes law
Jinny wrth basio. Deffrodd hyn hi, a medrodd ei hysgwyd ei hun yn ddigon
i gychwyn ar fy ol.

Wedi dwad yn fwy i’r gole, trodd yr hen wraig i gael ailolwg arna
i,—“Rhosa di, Willie,” medde hi, “nid dyma’r siwt oedd gennyt ti’n
cychwyn oddicartre’r diwrnod hwnnw?” Edrychodd yn fanylach,—a hanner
neid oddiwrtha i. “Na,” medde hi, “nid Willie bach wyt ti wedi’r cwbwl.
Pwy wyt ti, dywed? Ai Edward y Wern?”

Roedd hi’n mynd yn dwllach o hyd. Edward y Wern oedd enw ’nhad, medde
fo, pan oedd o’n fachgen. A digalon ydi cael eich camgymeryd am eich tad
o flaen geneth.

“Wel, Edward,” medde hi, â’i gwyneb fel y galchen, ond y gwaed oedd
arno,—“ti oedd efo Willie pan frifodd o’n tê? Frifodd o’n arw, Edward
bach?”

Dechreuodd holi ynghylch brodyr a chwiorydd ’nhad, sy’n hen bobol,—ond
fel plant y sonie hi amdanyn nhw. Edrychodd arnai’n hir, a minne arni
hithe, a Jinny arnom i’n dau, fel tri mudan. Yn hollol sydyn beichiodd
grïo,—“Na,” medde hi, “wyddan nhw ddim byd am Willie bach, dim byd, dim
byd.” Gollyngodd fy llaw, fel tase hi’n lwmp o dân, ac yn ol â hi trwy’r
coed mafon duon, a’r rheini’n ei sgryffinio i’r byw, heb iddi wybod, ac
eistedd ar y garreg danyn nhw, yng nghornel y Sgubor, a rhoi’i phen
wedyn rhwng ei dwylo.

I ffwrdd â Jinny a fi ar sgruth nes cyrraedd Coed y Felin,—wedyn,
sefyll. “Rwan,” medde fi, “am siarad yn iawn â hi.” Ond choeliech chi
ddim mai’r cwbl fu rhyngom oedd hyn. Mi godes fy mhen i siarad, a dene
Jinny’n codi’i phen, ac edrych i fyw fy llygid i. Ac er bod fy
ngwefuse’n agored, wnaen nhw symud dim yn ol nac ymlaen. Roedd y gwrid a
gafodd trwy redeg, neu rywbeth, yn rhywbeth na fedrech siarad dim yn ei
olwg. Gwyrodd Jinny ’i phen, a dechre sgwenu’i henw efo’i throed, fel
wrth yr Hen Ffynnon. Fedrwn inne ddim peidio â dechre gneud yr un peth.
Beth wnai’r hen bobol, tybed, oedd heb ddysgu sgwenu, ar adeg fel hyn?
Dyma’r adeg y mae hi’n fantes bod dyn wedi cael tipyn o ysgol.

Mi lwyddes o’r diwedd i ddeyd gair, ond ddaru Jinny ddim ond gwrido, ac
edrych arnai, fel taswn i’n un oedd wedi achub ei bywyd hi,—a chychwyn
adre. Mi arhoses nes gweled ei bod bron cyrraedd eu tŷ nhw’n ddiogel, ac
wedyn fel awel â fi, wedi chwysu cyn cychwyn.

“Ymhle y buost ti mewn difri, Nedw?” medde mam.

“Yn hebrwng Robin bach Ty’n Llidiard,” medde fi. Sonies i ddim am y peth
mae nhw’n alw’n “ac felly mlaen.”

Fedrwn i fwyta fawr o dê, ac yr oedd mam yn bur bryderus.—“Fuost ti
ddim yn hel mafon duon?” medde hi,—“mae dy geg di’n ddu.”

“Dipyn bach,” medde finne. A dene’r ’gom i gyd.

Ar amser swper deydodd nhad wrth mam,—“Mae nhw wedi ffeindio’r hen
Fetsen Jenkins unweth eto.”

“Yden?” medde mam.

“Yden,” medde fo. “Jones y Plismon a’i daliodd hi’r tro yma yn edrych
allan trwy un o dylle ffenestri Sgubor Robert Green, ac yn gweiddi
‘Willie,’ â’i gwyneb yn waed i gyd.”

“Pwy ydi honno?” medde fi, yn wylltach nag y dylwn i. Ddeydodd neb ddim
am dipyn,—“Hwyrach mai’r ysbryd welson nhw, ’nhad,” medde fi, â fy
ngwyneb yn rhyw ddechre gwynnu er fy ngwaetha.

“Nage,” medde mam,—“does ene’r un ysbryd.”

“Pwy ydi Betsen Jenkins?” medde fi.

“Wel,” medde nhad yn ara, “hen wraig ydi hi o’r ochor arall i’r Foel
Ddu. Mae hi’n crwydro’r wlad ar adege, er pan ydwi’n cofio, bron. Roedd
ganddi fachgen unweth, tua’r un oed â fi, o’r enw Willie. Mi lladdwyd o
wrth hel mafon duon yn Sgubor Robert Green.” Ond mi gadwodd ’nhad y
gweddill o’r stori—ei fod o efo Willie ar y pryd—iddo fo’i hun.

Rhyw bigo’i bwyd ac edrych yn syn oedd mam. Toc, mi welwn ddeigryn yn
hel i gornel ei llygad,—“Nedw,” medde hi, “nei di addo un peth i dy
fam?” Dydi hi byth yn deyd “i dy fam,” ond pan fydd rhywbeth go anodd
i’w neud yn dwad.

“Bedi hwnnw?” medde fi.

“Peidio byth â mynd i Sgubor Robert Green, ’machgen i, i hel mafon
duon,” medde hi. Yna trodd ei gwyneb i ffwrdd, gan dynnu ei llaw trwy
’ngwallt i yn ara ac ysgafn,—peth nad ydwi ddim yn cofio ei gweld yn ei
neud o’r blaen. Wedyn mi drychodd yn hir i’r gwagle. Yna mi drychodd yn
rhyfedd ar nhad, fel tase hi’n gweld trwyddo fo i’r ochor arall, ac
roeddwn i’n meddwl fod golwg braidd yn euog arno.

Y ffordd y gofynnodd mam i mi, a wnaeth i mi ryw feddalu ac addo. Ond
beth petae Jinny’n gofyn imi fynd? Rydw i a hi’n dal yn ffrindie mawr, o
achos mae ene un peth na ŵyr neb ar wyneb y ddaear amdano, ond hi a fi.
A dene sy’n gneud ffrindie.



                            VI.—’RHEN NEDW.


Rhaid mod i’n hen, yn hŷn na John Huws, y Groshiar, a fo ydi’r dyn
hyna’r ffordd yma. Mae o’n byw wrth y Felin, a dyn dall ydio, a does
gyno fo ddim gwallt, ond tipyn bach o beth rhwng du a gwyn yn hongian,
fel cynffon chwiaden ar law, o’r tu ol, ac mae’i groen o’n felyn, ac yn
crychu fel swigen mochyn ar ol iddi sychu wedi ichi fethu ei chwthu hi’n
iawn, ac y mae’i wiscars o rhwng du a gwyn, ond y stripie melyn sydd dan
ei geg o.

Roeddwn i yn y capel nos Sul dwaetha, ac yn teimlo reit dedwydd yno, fel
roedd pethe’n bod. Waeth gen i pwy fydd yno’n pregethu ar Nos Sul, mi
rydwi’n gyfforddus iawn yno, os bydd y bleinds i lawr, a’r darn crwn o’r
ffenest o’u tucha nhw’n ddu, a’r lampie a’r canhwylle’n ole. Mae’n well
gen i’r capel ar Nos Sul yn y gaea, na’r ha. Dydi John Huws chwaith ddim
yn edrych mor hyll yr adeg honno. Yn wir, mae’r hen bobol yn y sêt fawr
i gyd yn edrych yn neis, yn canu ei hochor hi, a phob un ond John Huws
yn cau eu llygid. Eu hagor nhw y mae o, er ei fod o’n ddall bost.

Pan oedden ni’n canu nos Sul dwaetha, yn y cyfarfod gweddi—wel, doeddwn
i ddim yn canu fy hun, cnoi nghadach poced oeddwn i,—roeddwn i’n edrych
ar yr hen ddynion yma, ac yn deyd yn ddistaw, wrth edrych ar bob un
ohonyn nhw yn ei dro, “rydwi’n hŷn na thi, a thithe, a thithe, a
thithe,” nes mynd drostyn nhw i gyd. Wn i ddim ydech chi’n teimlo
weithie fel tasech chi wedi bod yn y byd yma rioed,—rydwi’n teimlo
felly weithie, yn hen, hen iawn, a’r adeg honno tydi Mynydd y Foel ddim
yn hen, na’r afon bach dan tŷ, na hyd yn oed Plas Bodidwal. Ac mae’r
cwbwl yn hŷn o lawer na taid, medde nhad, ac mae nhad yn hen ddyn, agos
i ddeugien oed, medde fo. Ar ol bod yn chware ar ffordd Mynydd y Foel,
ac i Wmffre, a Jac Ty’n y Wal, a Morus yr Allt, fynd adre a ngadael inne
fy hun, rydwi weithie’n teimlo mod i’n hen. Rydwi’n chware efo’r Foel
a’r afon bach, fel tase nhw’n blant. Wrth gwrs, dydi’r Foel ddim yn
rhedeg o gwmpas efo fi run fath a’r afon, mae hi’n llonydd, fel Isaac ’y
mrawd bach, pan fydd Wmffre a fi a fynte’n chware. Eistedd yn llonydd
mae Isaac, fel y byddwn ni’n deyd wrtho fo, ond mae o’n chware er hynny.
Felly y mae’r Foel, yn eistedd yn llonydd, a’r afon bach a finne’n
rhedeg a chwerthin. A faswn i ddim yn medru meddwl am John Huws y
Groshiar yn chware efo nhw. Mae nhw’n hŷn lawer na John Huws, medde
nhad, a rywsut fedra i ddim meddwl y base fo’n medru eu dallt nhw. Ac
wedi i mi fod yn chware efo nhw, rydwi’n edrych ar nhad a mam, fel mae
nhw’n edrych arna i bob amser, yn rhywun i’w ordro o gwmpas.

Fi sy’n clymu tei nhad ar fore Sul, feder o ddim clymu’r pethe ffasiwn
newydd yma, ac os bydda i wedi bod yn chware efo’r afon bach dan tŷ a’r
Foel, nos Sadwrn, rydwi fel taswn i eisio deyd wrtho fo am ofalu bod yn
fachgen da yn y capel, a pheidio bwyta fferins, a chnoi ei gadach poced,
fel mae nhw’n deyd wrthym ni. Mi ddeydes hynny wrtho fo unweth, heb
feddwl, a chlywsoch chi rioed fel roedd o a mam yn chwerthin, nes siglo
a gwasgu eu hochre. Meddwl oedden nhw mai smalio oeddwn i, a finne’n
cochi at fy nghlustie pan weles i be ddeydes i, ac, wrth gwrs, doedd dim
i’w neud ond cymyd arna mai nhw oedd yn iawn. Dydwi ddim wedi deyd y
pethe yma wrth neb, hyd yn oed wrth Wmffre nghefnder, rhag ofn iddyn nhw
chwerthin am fy mhen i, a meddwl nad ydwi ddim yn gall, ac os unweth y
gneiff y bechgyn feddwl nad ydech chi ddim yn gall, wel, mae hi’n amser
i chi adael yr ysgol, neu gael glasenw, a dydwi ddim ond deg oed eto.

Ond, yn wir, rydwi’n teimlo’n rhyfedd weithie. Dene’r hen dderwen fawr,
yn y coed mae nhw’n alw’n Nyrs[6] Goed Llus, mae hi â thwll digon maint
ynddi i chi gadw picnic ynddo fo, a dydi John Huws y Groshiar ddim yn ei
chofio hi’n cael ei phlannu, medde fo wrth lot ohonom ni oedd yn ei holi
yn ei chylch; ond pan oeddwn i yn y Nyrs, y diwrnod o’r blaen, ar fy
mhen fy hun, mi roddes fy mreichie amdani i’w chusannu,—roeddwn i’n
teimlo’n gymint o ffrindie efo hi. Rywsut, dydwi ddim yn leicio’r coed
ifinc, dyden nhw ddim yn cofio dim byd, ond rhaid fod y dderwen yn cofio
pethe sydd wedi digwydd ers talwm, cyn i John Huws gael ei eni, ac rydw
inne’n eu cofio nhw, weithie, pan fydda i ar fy mhen fy hun. Mae’n well
gen i ’r dderwen yma na’r un sydd wrth bont y Llan, am ei bod hi’n fwy
unig.

Dene’r hen dwmpath wrth odre’r Foel, yn ymyl Bedd y Porthmon, a’r afon
bach yn rhedeg heibio iddo fo. Mae ene borthmon wedi ei gladdu yn y fan
honno. Ystalwm iawn, medde nhad, roedden nhw’n pedoli gwartheg, gwartheg
cofiwch, nid cyffyle, yn y dolydd, ac yn eu cerdded nhw i Loeger, a’r
porthmyn ar gefne eu cyffyle yn eu gyrru nhw, ac yn dwad yn ol efo llond
pob man o arian. Wel, mi ddaru lot o ddynion oedd yn cyfarfod yn y
“_Black Crow_” fynd i gyfarfod un porthmon, a’i ladd o, a chymyd ei
geffyl a’i arian oddiarno, a rhedeg i ffwrdd o’r wlad, na welodd neb
byth monyn nhw, wedi ei gladdu o yn gynta yn y bedd yma, yn ymyl yr hen
dwmpath. Roeddwn i’n pasio’r hen dwmpath un pnawn Llun, y gaea dwaetha,
wrth ddwad o’r ysgol. Ryden ni’n byw ymhell o’r ysgol, ar odre’r Foel, a
does dim eisio i chi gario grug i gynnu tân yn ein tŷ ni, dim ond mynd i
dop y Foel, a thynnu baich na feder dyn mo’i gario fo, ac wedi ei rwymo,
rhoi cic iawn iddo. Welsoch chi rioed fel y mae o’n rowlio i lawr, ac yn
neidio tros y gwrych i’r ardd.

Mae ene dwll yn y twmpath, i lawr o’r golwg, dipyn yn llai na thwll
gwningen, ac roedd hi’n dechre nosi’r pnawn yma, pan oeddwn i’n pasio,
ond fedrwn i ddim peidio aros i orwedd ar y twmpath, i edrych i mewn i’r
twll, ac yr oedd yr afon bach yn rhedeg wrth fy nhraed i, ac yn cadw sŵn
fel arfer. Mi ddalies i edrych i’r twll yn hir, heb weled dim byd, nes
mynd i deimlo’n drymllyd. Mi feddylies toc mod i’n gweled gole’n symud
yn ei waelod o, heb fod yn ddim mwy na gole pry gole. Wrth imi ail
edrych, mi welwn rywbeth fel pry yn dwad i fyny’r twll, gan godi un
goes, a dal cannwyll fechan, fechan, â’i droed. Roedd arnai dipyn bach o
ofn i ddechre, ond rywfodd roedd arnai awydd mawr hefyd gwybod be oedd y
pry rhyfedd yma.

Pan ddaeth o i geg y twll, mi ddalies fy llaw, ac mi gamodd i’m llaw i,
gan ddal y gannwyll o hyd â’i droed. Mi geisies chwythu’r gannwyll, ond
pan ddaru mi hynny, neidiodd oddiar fy llaw i, a safodd ar lawr, a dyma
fo’n chwyddo, ac yn chwyddo, ac yn chwyddo, nes bod mor fawr a nhad, a
be oedd o ond hen ddyn. Wel, mi ddychrynnes dipyn, a phan welodd o fi
felly, chwerthodd dros y wlad. “D’wyt ti ddim yn fy nabod i, rhen Nedw?”
medde fo. “’Rhen Nedw” mae Wmffre’n fy ngalw i hefyd, pan fyddwn ni’n
fwy nag arfer o ffrindie.

Yr oedd rhywbeth mor gynnes yn chwerthin yr hen ddyn, nes imi benderfynu
mynd yn nês ato. Roeddwn i’n ei nabod o’n iawn, ond fedrwn i yn fy myw
gofio ar y funud pwy oedd o. Roedd o’n dawnsio mor ysgafn fel y
cynhygies i chware efo fo. “Ddim heno,” medde fo, “mynd i’n gwlâu mae’r
hen wraig a finne—edrych i’r twll.” Mi edryches wedyn, a’r hen ddyn yn
dal y gannwyll imi, a gwelwn bry arall yn dwad ohono fo. Dalies fy llaw
i’r pry hwnnw hefyd, ac mi ddaeth arni hi. “D’wyt ti ddim yn ei nabod
hi?” medde’r hen ddyn,—“edrych di’n iawn rwan.” Wrth imi ddal i edrych,
mi chwyddodd y pry hwnnw hefyd, a be welwn i o mlaen i, ond hen wraig yn
chwerthin mor lawen a’r hen ddyn. “Wel yr hen Nedw!” medde hi, gan daflu
ei breichie am fy ngwddw i, a ’nghusannu nes bod bron imi golli ngwyneb.
Ac er nad ydwi byth yn leicio’r hen gusannu yma, roeddwn i wrth fy modd,
a doedd neb yn edrych. Fedrwn i neud na rhych na gwellt ohonyn nhw, er
na fues i rioed yn fwy wrth fy modd efo neb. Roedden nhw’n nallt i
rywsut yn well na hyd yn oed nhad a mam, ac mi ddechreues ddeyd pethe
wrthyn nhw, nad oeddwn i ddim wedi meiddio eu deyd hyd yn oed wrth
Wmffre.

“Wel,” medde’r hen ddyn, “mae’n gamp iti ddeyd pwy yden ni er ein bod
ni’n gymint o ffrindie.”

Be ddeydwn i’n te, ond nad oeddwn i ddim yn cofio? Plygodd yr hen ddyn
ata i nes mod i’n clywed ei wynt o’n gynnes ar fy ngwddw, a deydodd yn
ddistaw, tan edrych o’i gwmpas,—“Enaid y Foel ydw i, ac Enaid yr afon
bach dan tŷ ydi hithe.” Roeddwn i’n methu dallt am funud be oedd o’n
feddwl, ond mi gofies fod y pregethwr y nos Sul cynt wedi deyd stori am
enaid rhyw fachgen bach yn mynd i ffwrdd, gan ddeyd be oedd enaid, pan
oeddwn i’n edrych ar y darn ffenest crwn oedd mor ddu uwch ben y bleind,
er mwyn gweled fase ne rywbeth yn edrych trwyddo fo o’r tuallan. Ac mi
ddalltes yr hen ddyn yn syth. Roedd o’n mynd i ddeyd rhywbeth arall, ond
dyma lais rhywun yn hanner nadu y tu ol i mi. Trois i edrych, ac er fy
syndod, roedd hi’n dwyll fel y fagddu, ond fod rhyw ole bach yn dwad o’r
pellter, a phwy glywn i’n gweiddi f’enw i ond mam. Dwad yr oedd hi i
edrych amdana i efo lantar. Roedd hi’n falch o ngweld i, a minne’n falch
o’i gweld hithe hefyd, gan ei bod mor dwyll, a’r hen ddyn a’r hen wraig,
erbyn hyn, wedi mynd. Ond welsoch chi rioed mor ifanc roedd hi’n edrych.
Ddeydes i ddim am fy ffrindie wrthi: gwyddwn na fase hi ddim yn dallt,
ac y base hi’n mynd i nadu wrth feddwl fod rhywbeth o’i le arna i,—mod
i’n deyd anwiredd, neu ddim yn gall. Mae Isaac yn methu dallt y pethe
sy’n mynd rhwng Wmffre a fi, a pheth diflas ydi ceisio sbonio pan na
bydd pobol yn dallt, a fase mam ddim gwell. Eis i ngwely reit gynnar y
nosweth honno, a hynny ohonof fy hun. Rywsut roedd nhad a mam yn siarad
am bethe anniddorol iawn i mi, wedi ymgom yr hen ddyn a’r hen wraig, fel
y mae Winnie ac Isaac, pan fydd Wmffre a fi’n chware. Babi ydi Winnie, a
dydi hi ddim yn ddwyflwydd eto, a chofiwch mod i’n ddeg.

Ond y nosweth ryfedda oedd honno pan oedd modryb Ann yn sâl, a minne’n
gorfod mynd i dŷ cipar Bodidwal i chwilio am wningen i neud potes iddi
hi, fel roedd y doctor yn deyd. Plas Syr Hugh ydi Bodidwal, a dydi Syr
Hugh ddim yno ers tro. Dydi’r Plas ddim digon maint iddo rwan, medde’r
cipar. Mae o wedi cael ei godi gan y llywodraeth, ac mae’r llywodraeth
wedi ffeindio lle iddo fo fyw yn Lloeger, medde’r cipar, mwy o lawer na
Bodidwal. Wedi cael ei neud yn fancrafft,[7] neu rywbeth fel ene mae o,
a’r cipar sy’n edrych ar ol Bodidwal rwan, ac yn byw yn ymyl. Roedd Syr
Hugh eisio mynd i’r Senedd unweth, ac roedd yn rhaid i bawb fotio er
mwyn iddo gael mynd yno, a daeth y cipar o gwmpas y tai i ddeyd os gwnai
pobol fotio iddo, y cawsen nhw wningen am ddim, dim ond gofyn, ac mi
fotiodd f’ewyrth John iddo,—dydi nhad ddim yn hidio am wningod, medde
fo. Dyn clên iawn ydi Syr Hugh. Mi roddodd pawb oedd gan fflagie rai i
fyny, pan aeth o i’r Senedd, ond doedd gennym ni run fflag, medde mam.
Doedd pobol ddim mor llawen ag y basech chi’n disgwyl pan gafodd o’i
godi’n fancrafft. Dydwi ddim yn meddwl fod pobol yn meddwl cymint ohono
fo rwan ag y buon nhw.

Pan oedd modryb Ann yn sâl, a’r doctor yn deyd y base potes gwningen yn
ardderchog iddi hi, mi es, ar ol tê un nosweth, dros f’ewyrth at y
cipar, i ofyn am un, gan nad oedd Wmffre gartre. Y mae tŷ’r cipar yn y
coed, dipyn oddiwrth Bodidwal, ac y mae’n rhaid i chi fynd drwy goed, ac
wedyn heibio Bodidwal, ac wedyn drwy goed, i fynd yno. Roedd hi’n dechre
twllu pan oeddwn i’n cychwyn, ac mae ene lofft wedi ei chloi ym Modidwal
na fu neb erioed ynddi hi, ac mae gwaed ar y wal, medde nhw. A deyd y
gwir i chi, roedd arna i ofn mawr wrth fynd drwy’r coed cyn dwad at y
Plas, a phan roddodd rhywbeth sgrech yn y coed, meddylies fod fy nghap
ar fy mhen i fel tase fo ar dop gwrych, fel yr oedd fy ngwallt i’n codi.
Roedd hi cyn dwlled a’r fagddu, ac roeddwn i braidd yn falch o hynny
weithie, ac yn cerdded ar flaene nhraed, ond er fy syndod, fel roeddwn
i’n agoshau at Fodidwal, roedd hi’n mynd yn oleuach o hyd.

Rhaid i chi fynd heibio ffrynt y Plas i dŷ’r cipar, ac ar wal y ffrynt,
uwchben y ffenestri, ffenestri bychin duon, mae ene rês o hen wynebe
cerryg. Mae ene un efo trwyn smwt, a’r llall wedi colli’i glust, a’r
llall efo clustie ci, a’r llall heb ddim ond un llygad. Penderfynes na
chodwn i mo mhen i edrych arnyn nhw, y rhedwn i heibio iddyn nhw fel y
gwynt, o achos mi fum i ac Wmffre’n lluchio cerryg atyn nhw fwy nag
unweth wrth basio’r Plas, a neb gartre, a dydwi ddim yn siwr nad ni a
roddodd drwyn smwt i’r un sydd hefo un rwan. Ond er imi benderfynu,
fedrwn i ddim yn fy myw beidio edrych. Pan godes i mhen roedd hanner
ucha’r Plas yn reit ole, a’r penne i gyd yn y golwg, a’r cynta yr
edryches i arno oedd yr un efo un llygad. Wedi edrych arno am funud,
fedrwn i ddim yn fy myw dynnu fy llygid oddiarno, ac yn wir i chi, be
wnaeth o ond wincian arna i efo’r llygad dall. Roedd o mor ddoniol, fel
na fedrwn i ddim peidio chwerthin, ac mi anghofies fod arnai ofn. Dene
fo’n wincian â’r llygad arall, ac yn crychu ei dalcen yn ol a blaen, fel
y bydd nhad yn ei chrychu pan fydd arno eisio i Winnie weld ei gorun o’n
ysgwyd, ac yr oedd y gole ar y Plas yn dwad yn is i lawr o hyd. A be
feddyliech chi, dyma’r gwyneb un llygad yma allan o’r wal, ac yn dwad
ata i,—dim ond pen, ond roedd o’n wincian ac yn gwenu, fel na fedrwn i
neud dim ond chwerthin.

“Wel, rhen Nedw,” medde fo, “ai ti wyt ti, dywed? Pwy fase’n meddwl dy
weld di’n y fan yma, er mod i wedi colli un llygad wrth chwilio am danat
ti.—Tyrd i lawr, Owen,” medde fo wrth y gwyneb oedd wedi torri ei
glust. A dene’r gwyneb hwnnw i lawr.

“Paffiwr ofnadsen ydi Owen yma,” medde fo, “fo laddodd y Sais mawr hwnnw
yr wsnos dwaetha, a fi claddodd o. Mi claddes o ar ei eistedd. Fedrodd y
Sais neud dim i Owen ond torri ’i glust o.”

“Paid a lolian,” medde Owen, “mae chwaneg o baffio i fod.”

Trodd ata i. “Faset ti ddim yn leicio’n helpio ni?” medde fo wrtha i.
“Rwan, tyrd yn dy flaen,—ac yn ol a blaen yr aethom ni ein tri am
hydoedd,—y ddau ben un bob ochor imi, a minne’n martshio yn y canol
rhyngddyn nhw, nes berwi o chwys, a’r penne erill yn ein gwylio ni a
gweiddi hwrê. A doeddwn i’n gweld dim yn od o gwbwl yn y penne heb ddim
cyrff yma. Mi anghofies bopeth am y wningen a phawb, dim ond disgwyl
gweld sowldiwrs diarth yn codi eu penne dros y graig oedd ar ochor y
Plas. Mi wyddwn mai Owen Glyn Dŵr oedd y pen cyfa yma, o achos roedd y
scŵl wedi deyd wrthym ni. Be feddyliech chi o feddwl eich bod chi’n byw
yn oes Glyn Dŵr?

“Helo,” medde rhywun o’r tu ol inni.

“Dene nhw’n dwad!” medde fi, gan droi mhen,—a phwy oedd yno ond y
cipar. Trois yn ol i edrych ar y penne, ond roedden nhw yn eu lleoedd ar
y wal, heb symud dim o gwbwl, yn edrych dros y coed, yng ngole’r lleuad.

Wyddwn i ddim yn iawn ar y dechre lle roeddwn i, ac yr oedd y cipar yn
edrych yn od arna i. “Be haru ti, dywed?” medde fo, “yn rhedeg o gwmpas
yng ngole’r lleuad yn y fan yma, yn lle bod yn dy wely?” A dene’r adeg y
cofies i mai bachgen oeddwn i, ac nid sowldiwr, ac fod gen i dad a mam.
Mi ddeydes fy stori wrtho, pan oedd o ar fin gafael yng ngholer fy jeced
i. A phan glywodd o enw f’ewyrth John, newidiodd ei wêdd, a daeth yn
ddyn neis. “Tyrd efo mi,” medde fo. Wel roeddwn i’n synnu ato fo’n
siarad braidd yn chwyrn, heb ddeyd “os gweli di’n dda,” wrth un oedd
gymint hŷn na fo, ond ddeydes i ddim byd. Waeth i chi heb ddeyd pethe
fel hyn wrth gipars. O ran hynny, fedrwn i ddim deyd yr hanes wrth nhad
a mam chwaith, pan oedden nhw’n synnu lle bum i mor hir, ac wedi bod yn
anesmwyth, medde nhw, a nhad ar fin cychwyn i edrych amdana i. Ond yn
wir yr oedden nhw’n edrych yn ifanc yn ymyl Owen a’r gwyneb un llygad
hwnnw.

Ydech chi’n teimlo’n hen weithie, deydwch, ac yn fwy cyfforddus efo
pobol oedd yn y byd yma ers talwm iawn, nag efo neb arall? Fydda inne
ddim yn teimlo felly, chwaith, o ran hynny, ond pan fydda i ar fy mhen
fy hun.

-----

[6] Nyrs—_Nursery_, llwyn mamaeth.

[7] _Bankrupt._



                            VII.—EOS Y WAEN.


Ddisgwyliodd Wmffre a fi rioed gymaint am ddim ag a wnaethom ni am
nosweth y Majic Lantar, a chawsom ni rioed ein siomi gymaint mewn dim.
Mi fase’n siom hollol onibae am un llygedyn yn y diwedd. A hynny am ddau
reswm. Y rheswm cynta oedd Daniel Williams, Eos y Waen, ac mi soniaf am
y llall yn nes i ddiwedd y stori,—mi drodd hwnnw’n dipyn o fendith i
ni.

Does arnom ni’r bechgyn ddim ofn neb yn yr ardal i gyd ond Daniel
Williams, Eos y Waen. Ac y mae o’n llwyddo i ddwad ar ein traws ni
ymhobman, hyd yn oed yn y lleoedd mwyaf annhebyg, fel y cewch chi weld.

Os sibryda rhywun pan fyddwn ni ar ganol chware fod Daniel Williams, Eos
y Waen, yn dwad, dene ddigon. Diflanna pawb fel tase’r ddaear wedi eu
llyncu ar darawiad amrant. Os bydd y llyncu hwnnw’n amhosibl, ryden ni’n
gadael ein tacle chware yn y lle y mae nhw, prun bynnag ai marbls, neu
pegi, neu gneuen goblo fydd ar droed ar y pryd, ac yn ffurfio’n llinell
mor agos i’r wal neu’r gwrych ag y medrwn ni, a’n gwasgu’n hunen iddyn
nhw nes i’r pigie fynd i’n cnawd ni, os gwrych fydd tu ol i ni. Fel y
daw Daniel Williams i’r golwg, ryden ni’n edrych arno heb dynnu’n golwg
oddiarno fo, a’i ddilyn â’n llygid gan sylwi’n fanwl ar bob symudiad, yn
enwedig ar ei chwythu o. Mi gaf sôn am hwnnw eto. Wedi iddo basio mae hi
bob amser yn helynt, a Morus yr Allt sy’n ei dechre fel rheol. Dydi
Morus ddim yn dwad i’n capel ni, ac y mae Daniel Williams, Eos y Waen,
yn dwad.

“Weldi o’n chwythu,” medde Morus bob amser ar ol iddo basio.

“Cofia di,” medde fi neu Wmffre, neu Willie’r Pant, neu rywun arall fydd
yn dwad i’n capel ni, “ei fod o’n fardd.” Os bydd bechgyn diarth yn ein
mysg ni, eu cwestiwn nhw bob amser ydi bedi bardd.

“Dyma ydi bardd,” ydi ateb Morus yr Allt, “dyn yn chwythu ac yn tagu fel
injian ddyrnu bob amser.”

“Nage,” ydi ateb Bob y Felin neu rywun tebyg iddo fo, sy’n mynd i’r
capel ucha,—“dyn yn medru codi——,” wel, mi gaf ddrwg am ddeyd yr un
gair ag a ddeydodd o, o achos un yn deyd geirie mawr ydi Bob. Ond yr hyn
mae o’n feddwl ydi mai dyn yn medru codi ysbrydion drwg ac yn eu rhoi
nhw i lawr ydio.

Ar hyn, mi neidia rhywun arall i mewn a deyd, “Os felly, dydi Daniel
Williams ddim yn fardd yrwan o achos mi ddaru’r ysbrydion drwg fynd yn
fistar arno fo unweth a’i dynnu drwy gant o wrychoedd.”

Rydwi wedi clywed yr ymgom ene bellach ugeinie o weithie. Ond er mod i
wedi hen arfer â hi, fedrai ddim pasio Daniel Williams heb arswyd. Ond y
tro cynta y clywsom ni hi i gyd, yr adeg honno y cawsom ni’n dychrynnu’n
iawn. Un diwrnod yn y gaea, ryw dair blynedd yn ol oedd hi, a nifer o
fechgyn wedi bod yn chware’n rhy hir ar eu ffordd o’r ysgol. Yr oedd
hi’n twllu’n gyflym cyn inni gyrraedd adre, ac mi ddaeth yn gawod drom o
law, a ninne’n aros i ymochel dan bren. Pwy a welem ni’n ymochel rhwng
twyll a gole yr ochr arall ond Jona’r Teiliwr. Dydi pobol ddim yn edrych
ar Jona fel yn rhyw gall iawn, fel y gwyddoch chi, heblaw ei fod yn
gloff a chanddo draed clwb. Ac efo’r plant y mae o’n leicio bod. Heb
baratoi dim arnom ni at y peth, dyma fo’n croesi atom ni ac yn
deyd,—“Mae Daniel Williams, Eos y Waen, yn medru codi cythreulied, a
dacw fo’n dwad yrwan.” Mae Jona yn cael caniatad pobol i ddeyd y gair
mawr ene am nad ydio ddim yn rhyw gall iawn. I’r gwrych i ganol y drain
dros ein penne â ni y funud honno, a chau’n llygid nes i Daniel Williams
basio. Yna i ffwrdd â ni fel yr awel adre. Yr oedd Jona wedi ei siomi’n
arw na fuasem ni’n aros am gom ar ol y newydd ene.

“Mam,” medde fi ar ol mynd adre, “ydio’n wir am Daniel Williams, Eos y
Waen, ei fod o’n medru codi’r pethe hynny?” “Pethe hynny” ydi enw mam
arnyn nhw.

“Ydi,” medde mam, “_wedi bod_, ond dydio ddim yn eu codi nhw yrwan.”

A dene hi’n deyd mai hynny oedd ei fusnes o un adeg, fod llyfre ganddo
i’r pwrpas, ac y galle fo eu codi nhw a’u gostwng pan fynnai. Ond iddo
fynd yn rhy hy arnyn nhw unweth, neu eu codi a methu a dwad o hyd i’w
lyfre’n ddigon buan, ac i rywun fore drannoeth ei weld o’n hanner marw
a’i ddillad yn rhidens. Mi losgodd ei lyfre wedyn yn ol y stori a
glywodd mam. Ond y drwg ydi nad oedd mam ddim yn glir ar y darn ola
ene,—ei fod o wedi gollwng ei afael ohonyn nhw.

Ac eto, mae hi’n anodd peidio â chwerthin wrth edrych arno fo os byddwch
chi’n sâff oddiwrtho, fel yn y capel neu rywle felly, o achos y chwythu
yma. Wrth gymyd ei wynt mae o’n tynnu ei foche i mewn nes eu bod nhw’n
cyfarfod ei gilydd yn ei geg o, wedyn gollwng ei wynt allan nes bod ei
foche’n mynd fel dwy swigen. A rhwng pob anadliad mae o’n crychu a chodi
a gostwng ei drwyn yr un fath yn union a gwningen. Yn y capel mae o’n
gneud hyn ore, ac mi wyddom oddiwrth ei ddull o sut bregethwr sy’n y
pulpud.

Weithie pan fydd y pregethwr yn gweiddi ac yn ratlo, nes bod yn goch ei
wryneb, ac Wmffre a fi’n meddwl mai dyma’r pregethwr gore a glywsom ni
rioed, mi drycha un ohonom ar Daniel Williams, yna pwtian y llall a
deyd,—“Dydi hwn fawr o bregethwr.”

“Sut y gwyddost ti?” medde’r llall.

“Dydi Daniel Williams ddim yn chwythu’r nesa peth i ddim,” medde’r
edrychwr.

Weithie fel arall y mae hi. Dyn tawel fydd ambell bregethwr, a ninne’n
mynd braidd yn anesmwyth, ac edrych o gwmpas. Yn sydyn, mi wêl un ohonom
Daniel Williams, ac mi ddywed wrth y llall,—

“Dy! lad, dyma iti bregethwr.” A’r achos o hynny ydi’r olwg ar Daniel
Williams. Mi fydd ei foche fel megin, a’i drwyn yn mynd i fyny ac i lawr
gymint fyth, a rhyw ole rhyfedd a diarth yn ei lygid o fydd yn ein
llonyddu, nes inni fethu â chwerthin, er gwaetha’r ystumie. Mi welwch,
felly, rhwng popeth, fod Daniel Williams yn ddychryn i ni i gyd. Mae gan
hyd yn oed nhad ryw hanner ofn Daniel Williams. Mi ofynnes iddo un
diwrnod,—

“Nhad, pam na newch chi roi smocio heibio?”

“Wel,” medde nhad mewn rhyw arswyd, “glywest ti’r stori honno am Daniel
Williams, Eos y Waen? Mi benderfynodd ynte unweth roi smocio heibio, a
threiodd hi am flwyddyn. Mi guddiodd ei faco a’i getyn mewn twll yn y
cae dan tŷ, a chyn brecwest bore pen y flwyddyn mi aeth yno i’w nhôl
nhw, a smocio mae o byth.” A lle sal oedd hi i nhad fedru ei roi heibio
os methodd Daniel Williams.

Mae ofn Daniel Williams ar bawb felly. Ond os oes gan bobol erill resyme
tros ei ofni o mae gan Wmffre a fi lawn mwy o resyme dros hynny na neb
arall, fel y gwelwch chi rwan.

Dyma i chi ddau dro y cawsom ni rywbeth i’w neud â fo, ac mae’r ola yn
dwad â ni at y Majic Lantar. Un nosweth y gaea dwaetha mi yrrwyd Wmffre
a fi i’r Seiat i gynrychioli’n dau deulu. Ac mae gennym ni gryn ddwy
filltir i’r capel. Ar y ffordd ryden ni’n pasio’r Mynydd Bach,—boncyn
llawn o eithin lle mae merched Pen Llan yn sychu dillad ar ddiwrnod
golchi. Yr oedd hi’n bur dwyll, ac wrth basio beth welwn ni ond fflam
fechan yn dechre yn yr eithin a rhywun yn gwibio’n ol a blaen heibio
iddi. Aethom yno, a phwy oedd yno ond Morus yr Allt, Dic Twnt i’r Afon,
Bob y Felin, a Jac y Gelli, yn dechre rhoi’r eithin yma ar dân. A rywsut
mi ddarum anghofio i ble roeddem ni wedi cychwyn, a dechre eu helpio nhw
’n ddiymdroi. Cyn pen ychydig o eiliade roedd y fflamie’n lliwio’r awyr
y peth propa welsoch chi. Ymhen tipyn dene’r sgrechian mwyaf anobeithiol
a ddisgynnodd ar glustie neb erioed, y tu ol i ni, a holl wragedd yr
ardal ar ein hole. Pan ddaru nhw gyrraedd yno, doedd yno neb i’w
croesawu, na siw na miw yn unman ond sŵn y fflamie. Wrth feddwl am
gartre, a be dase’r stori’n mynd yno, mi gofiodd Wmffre a fi’n sydyn mai
ar y ffordd i’r Seiat roeddem ni. A doedd dim rheswm gwell i’w roi dros
fod heb wybod am yr helynt na deyd ein bod ni yn y Seiat. Ac yno â ni.
Pan oeddem ni’n sefyll y tuallan i’r capel yn petruso trwy ba ddrws i
fynd i mewn, agorodd un o’r dryse, a’r bobol yn dechre dwad allan. Mi
ddechreuodd gwefuse Wmffre grynu. “Hidia befo,” medde fi, “raid inni
ddim deyd adnod.” A dene ni’n troi’n ol a dechre toddi i mewn i’r
gynulleidfa.

“Helo!” medde llais fel taran o’u canol nhw, “ymhle y buoch chi?” “Dowch
i mewn bobol,” medde’r llais wedyn, fel taran arall. Ac i mewn â phawb.
Wedi inni godi’n llygid, pwy oedd yn edrych i lawr arnom ni fel un o’r
pethe hynny fedre fo godi a gostwng, ond Daniel Williams. Ddeydodd o
ddim, ond edrych arnom ni. Ac roedd hynny’n ddigon. Roedd y distawrwydd
yn llethol, a’r torri cyntaf arno oedd ein gwaith ni’n snyffio crio. Yna
gofynnodd Daniel Williams inni am adnod.

“Cofiwch wraig Lot,” medde Wmffre dan ddal i snyffio crio.

“A Job a atebodd ac a ddwedodd,” medde finne yn yr un gyflwr a fo.

Dene lle buom ni wedyn allan o hydoedd yn gwrando ar Daniel Williams yn
deyd hanes Job a gwraig Lot. Mi allswn i feddwl ar ei stori o, yn ol yr
hyn oeddem ni’n ddallt arni, fod y ddau’n ffrindie mawr. Wedi iddo fo
orffen deyd hanes y ddau, aeth pawb adre.

Yr oedd arnom ni ofn Daniel Williams o’r blaen, beth am yrwan, te? A
dene sut roedd hi ar bethe rhyngom ni a Daniel Williams ddiwrnod y Magic
Lantar, pan ddaru ni neidio o’r badell ffrïo i’r tân.

Y gweinidog o’r dre oedd yn dwad i roi Magic Lantar, i dynnu tipyn ar
ddyled y capel. Mi ddaeth yn gynnar yn y pnawn i’r Hendre yn ei gerbyd,
a’i gelfi efo fo. Ond doedd dim lle i’r ferlen yno am mai gaea oedd hi,
a’r anifeilied i gyd i mewn, a’r Hendre’n ffarm fechan. Dyma air i’n tŷ
ni eisio i mi fynd i’r Hendre. Ac mi es i ac Wmffre.

“Nedw,” medde John Edwards yr Hendre, “fedri di ddreifio?”

“Medra,” medde fi. Fum i rioed yn gafael mewn awenne, ond wedyn doeddwn
i ddim gwaeth er trio.

“Fedrwch chi’ch dau fynd â’r cerbyd yma i’r Waen i dŷ Daniel Williams?”
medde John Edwards.

“Medrwn,” medde ninne efo’n gilydd.

“Ewch i mewn,” medde John Edwards.

Ac i mewn â ni, mi’n gafael yn yr awenne a John Edwards yn gafael ym
mhen y ferlen nes inni fynd o’r buarth i’r ffordd fawr. Wedi deyd wrthym
ni am gymyd gofal, aeth John Edwards yn ei ol. Mae’r ffordd o’r Hendre
i’r Waen yn agos i dair milltir, a’r un ffurf a’r llythyren Z, ac yn
ffordd fynydd bron i gyd. Wedi mynd o olwg yr Hendre, dene stopio’r
cerbyd i feddwl sut i neud. Roeddem ni wedi clywed lawer gwaith am
ddynion yn gyrru nes bod carne’r ceffyl yn gwichian. Ac mi ddarum
benderfynu y carem ninne glywed carne ceffyl yn gwichian am unweth yn
ein hoes. A dene yrru, a gyrru, ond doedd carne’r ferlen ddim yn
gwichian er ei bod hi’n rhedeg yn ofnadwy. Dyma ni’n trio cynllun
arall,—codi ar ein traed yn y cerbyd, a neidio ar i fyny, a disgyn yn
ol iddo, mor debyg i lwyth o gerryg ag y medrem ni. A phob tro y gwnaem
ni hynny, roedd y ferlen yn rhoi plwc newydd, ac yn chwyrnellu mynd, ond
doedd ei charne hi ddim yn gwichian. Wedyn dene drio sut y llwyddai
dawnsio yn y cerbyd a gneud oernade. Mae’n wir fod y ferlen yn mynd, ond
doedd ei charne hi ddim yn gwichian. Er tynnu at yr awenne a phlycio a
neidio, a sgrechian, doedd dim yn tycio,—methu â chael ei charne i
wichian ddaru ni.

Wrth gwrs, doedd gennym ni ddim syniad sut i droi trofa, neu basio
rhywbeth ar y ffordd. Y peth a wnaem ni’r adeg honno, oedd tynnu at yr
awenne nes i’r ferlen stopio, a mynd i lawr a gafael yn ei phen. Wedi
dwad heibio braich olaf y ffordd, yr oeddym yn rhydd i fynd fel y mynnem
wedyn, a chafodd y ferlen fynd, a ninne’n y cerbyd yn dawnsio a neidio a
gneud y sŵn mwyaf priodol i’r amgylchiade. Mi ddaru’n gyrraedd y Waen
rywsut heb feddwl, a phwy oedd yn sefyll ar ganol y buarth, yn chwythu
yn ddigon trwm i’n taro ni i lawr, ond Daniel Williams ei hun. Daeth
ymlaen heb ddeyd gair, gafaelodd yn y ferlen oedd yn laddar o chwys, a
throdd ei gefn arnom. Mi ddaru’n i’n dau sylwi fod ei war o’n goch iawn
wedi iddo droi. O’r cerbyd â ni fel awel, a heibio’r gornel o’r golwg
cyn i Daniel Williams ddwad yn ei ol, neu wn i ddim sut y base hi arnom
ni.

“Wel,” medde Wmffre, “dene ddigon ar Daniel Williams,—y Magic Lantar
bellach.” Doeddem ni ddim wedi meddwl am ddim arall ers wythnose. Ac i
feddwl ein bod ni wedi cael gyrru cerbyd dyn y Magic Lantar. Mi wyddem y
bydde dannedd y bechgyn i gyd yn rhedeg. Dene fynd i’r capel, a gosod
ein hunen mewn lle amlwg i weld pethe, ryw ddwylath oddiwrth y gynfas.
Toc, mi gododd y gweinidog. “Dydi’r cadeirydd ddim wedi dwad,” medde fo,
“ac mae’n bleser gen i ofyn i Daniel Williams, Eos y Waen, gymyd ei le.”
Mi gurodd pawb eu dwylo ond Wmffre a fi. Dyma Daniel Williams ymlaen, ac
eistedd yn syth o’n blaene ni, gan edrych i’n cyfeiriad ni, ac mi
spwyliodd y cwbwl.

O drugaredd mi aeth y gole i lawr a Daniel Williams o’r golwg, ond yn y
munud mi waeddodd Wmffre dros y lle,—“Mae rhywun yn fy mhinsien i.”
Wyddom ni ddim yn iawn hyd heddyw pwy ddaru, ond roeddem ni o fewn
cyrraedd braich Daniel Williams.

Mi ddarum feddwl y base rhyw gysur ar ol i’r gole fynd i lawr, ond mi’n
siomwyd wedyn, a dyma fi’n dwad at yr ail reswm y sonies i amdano.
Welsoch chi rotsiwn beth, roedd y lantar yn mygu fel odyn.

“Llun blacs o Affrica sy ar y gynfas rwan,” medde’r gweinidog. Ac mae’n
debyg ei fod o’n deyd y gwir. Welem ni mo’r gynfas, ond mi welem flacs
yn nofio yn yr awyr ymhob man. A beth bynnag a ddeydai’r gweinidog oedd
ar y gynfas, welem ni ddim ond y blacs yma, nid ar y gynfas, ond rhyngom
ni â hi.

Dene’r gole i fyny o’r diwedd, ac yr oedd Wmffre a fi, oedd yn ymyl y
lantar, fel blacs ein hunen, yn enwedig lle roedd Wmffre wedi crïo tipyn
ar ol y pinsh hwnnw. Ond roedd ene un cysur,—pan gododd Daniel Williams
i ddiolch i’r gweinidog, mi welem ei fod ynte fel blac hefyd. A fedre fo
ddim mynd yn ei flaen gan fel roedd pobol yn chwerthin am ei ben o. Ac
roedd cael chwerthin am ben Daniel Williams, Eos y Waen, yn beth mor
newydd nes ei fod o bron cystal â Magic Lantar.



                       VIII.—BOD YN DDIYMHONGAR.


Mae Wmffre a fi wedi cael diwrnod da iawn heddyw at ei gilydd. Doedd
ene’r un ysgol am fod merch y Cwm yn priodi, a’r scŵl eisio bod yn yr
Eglwys yn canu’r organ. Roedd y rhan fwyaf o’r bobol a’r plant wedi mynd
i weld y briodas a’r rhialtwch, ond tydi pethe felly ddim yn apelio atom
ni ein dau. Mynd i’r mynydd i chware at dŷ Winnie Jones y Llety ddaru
ni. Mae tŷ yr hen Winnie wedi ei wthio i’r mynydd, ac mi fedrwch gerdded
oddiar y mynydd ar y tô yn ddigon hawdd. Doedd yr hen wraig ddim gartre,
roedd hithe wedi mynd i weld y briodas, ac i ddawnsio yn yr helynt. Yr
ore yn y wlad am ddawnsio step y glocsen ydi hi, medde nhw.

Pan oeddem ni ar ganol chware, beth welem ni’n mynd i mewn i simdde’r
Llety ond jac-dô. Mae nhw’n bla yn yr ardal yma. Yn y simddeue y mae
nhw’n gneud eu nythod, a thrwy hynny yn eu cau i fyny.

“Wmffre,” meddwn i, “be tase ni’n ei ddal o?”

“Fedrwn ni ddim,” medde Wmffre, “mae ’i nyth o ’n rhy isel i lawr.”

Ar y funud mi gofies am geiliog Winnie Jones. Pe tase hi gartre chaem ni
ddim trio dal hwnnw. Mae hen bobol fel plant bach, medden nhw, wyddan
nhw ddim beth sy ore ar eu lles nhw. Sefyll yn eu gole eu hunen wna’n
nhw. Mi sylwes lawer gwaith pan ddisgynne jac-dô ar ein buarth ni, fod y
ceiliog ar ei ol o ’n syth.

“Be tase ni’n dal y ceiliog, a’i anfon i lawr y simdde ar ei ol?” medde
fi wrth Wmffre.

“I’r dim,” medde Wmffre, ac i chwilio am y ceiliog â ni.

Rhuthrodd Wmffre iddo fo, ac i ffwrdd â fo yn syth dros y gwrych i’r
mynydd. Mi weles yn union fod yr hen air,—“Yn ara dêg mae dal yr
iâr”—yn wir am geiliog hefyd. Ond y mae gan Winnie Jones ddau geiliog,
ac am y llall â ni. Wrth fynd yn amyneddgar cawsom o i’r cyt, a’i ddal
mewn dim amser. Dechre sgrechian dros y wlad wnaeth o, ond mi dewodd yn
fuan. I fyny’r tô â ni, a’i ddal uwchben y simdde. Buom yn petruso tipyn
ai’r peth gore oedd ei roi i lawr ai peidio. Cofies i fod mam reit amal
yn dal y gath a mynd â hi at dwll llygoden. Ac os gosod cath i ddal
llygoden, pam nad gosod ceiliog i ddal jac-dô? Doeddem ni ddim wedi
sylwi fod neb yn y golwg, a phan oeddem ni’n ymresymu ynghylch y
ceiliog,—

“Helo,” medde rhywun fel taran odditanom ni.

Mi ddychrynnes gymint nes gollwng y ceiliog o nwylo. I lawr y simdde â
fo, a dene’r jac-dô allan fel bwlet. Chlywsoch chi rotsiwn sŵn a’r un
ddoi o’r tŷ. Roedd y ceiliog yn sgrechian a gweiddi, ac fel tase fo
ymhob man ar unweth. Mi syrthiodd trwy’r simdde i’r gegin yn lle bachu’r
jac-dô ar ei ffordd. Mi ddaru ni cyn gadael gyfri saith o blatie’n
disgyn o rywle, ac yn torri’n chwilfriw.

Pwy oedd yn y ffordd yn aros amdanom ni ond William, brawd Wmffre, sydd
newydd ddarfod ei goleg. Bu raid esbonio’r neges ar ben y tô, a meddwl
ddaru William, wedi clywed y stori, nad oedd yr eidïa o roi ceiliog i
ddal jac-dô yn un ddwl, tase’r ceiliog yn un teilwng. Roeddem ni’n
meddwl mai rhywbeth fel ene fase ei ateb o, o achos mae William bob
amser yn sôn am ryw eidïa neu’i gilydd ar ol bod yn y coleg,—eidïa dda,
neu eidïa ddwl, neu eidïa heb fod mor ddwl. Dene fel y mae o yn eu
rhannu nhw.

“William,” medde fi wrtho, i droi’r stori, “bedi bod yn ddiymhongar?”

“Faset ti’n leicio gwybod, Nedw?” medde fo.

“Baswn,” meddwn inne.

Mi gipiodd fy nghap oddiar fy mhen, a rhoddodd o ar ei ben ei hun. Dydio
ddim arfer a gwisgo dim am ei ben, er mwyn bod yn y ffasiwn. Dechreuodd
neidio a rhedeg, a’r cap yma fel cocyn hitio ar ei ben o, o achos mae
pen William wedi gorffen tyfu. Rhoddodd gic i hen dun corn bîff oedd ar
ochor y ffordd, rhedodd i ben corn simdde Winnie Jones, ac edrychodd i
lawr, neidiodd dros giât yr ardd ac yn ei ol, a dechreuodd neud nade fel
pob math o greaduried.

“Mi allswn feddwl,” medde Wmffre wrtha i, pan oedd William yn mynd
trwy’r ciamocs yma, “nad ydi bod yn ddiymhongar ddim yn rhyw wahanol
iawn i fod ddim yn gall.”

Dene oedd yn rhedeg trwy fy meddwl inne, ond nad oeddwn i ddim yn leicio
deyd. Wedi’r cwbwl, y mae Wmffre’n frawd iddo, a minne’n ddim ond
cefnder, a nês penelin na garddwrn.

Wedi colli ei wynt yn lân, daeth William atom ni.

“Dene ydi bod yn ddiymhongar,” medde fo.

“Mae’n ddrwg gen i ddeyd,” medde fi, “nad ydwi fawr gwell eto.”

“Wel di,” medde fo, “mi fum i’n hogyn fel ti, yn gwisgo cap fel ene, yn
cicio tunie a neidio dros giatie, a gwatar creaduried, a thaflu pethe i
lawr simdde Winnie Jones, ond rwan rydwi wedi bod yn y coleg, ac wedi
newid. Dyma ydi bod yn ddiymhongar, cymyd arnat nad wyt ti wedi newid
dim o’r hyn oeddet ti estalwm. I fod yn glir,” medde fo, “dyma’r ysgol
yma,”—roedd ene ysgol yn pwyso yn erbyn ysgubor Winnie Jones,—“Mae
eisio iti ddringo i ben yr ysgol yma, ond er hynny cymyd arnat mai yn y
gwaelod yr wyt ti o hyd. Dyma fi wedi dringo’r ysgol a mynd i’r
Coleg,—bod yn ddiymhongar ydi actio fel taswn i heb ddringo dim.”

“Wyt ti’n deyd,” medde Wmffre, “mai actio ar ben ysgol fel tase ti yn y
gwaelod ydi bod yn ddiymhongar?”

“Dene fo,” medde William.

“Dydwi ddim yn gweld felly,” meddwn inne, “fod bod yn ddiymhongar yn
rhywbeth sâff iawn, a gadael allan y ffaith nad ydio ddim yn edrych yn
beth hynod o gall.”

“Rydwi o’r un farn â ti,” medde William, braidd yn chwerw, “ond rhaid i
mi ei thrio hi.”

Yr hyn gychwynnodd yr ymgom ene oedd y peth glywsom ni bob dydd ar ol i
William ddwad o’r coleg.

“William bach,” medde’i fam wrtho fyth a hefyd, “gofala di ddal yn
ddiymhongar.”

“William,” medde fy mam inne, “gofala, machgen i, fod yn ddiymhongar, a
phaid ag anghofio dy deulu.”

“William,” medde nain, “paid ag anghofio, ngwas i, y graig y nadded di
ohoni. Bydd yn ddiymhongar, machgen i.”

“William,” medde Modryb Marged, “mi dalith iti fod yn ddiymhongar ac
edrych am dy deulu, pobol felly sy’n wir fawr.”

“Beth sy gennych chi fechgyn i neud y pnawn yma?” medde William wrthym
ni ill dau.

“Dim byd o bwys,” medde ninne.

“Ddowch chi efo mi?” medde William. “Rydwi am drio bod yn ddiymhongar, a
chwilio am fy nheulu, a bod efo nhw fel ers talwm. A dene lle’r ydwi’n
mynd yrwan.”

“Lle byddi di amser tê?” medde Wmffre.

“Yn nhŷ modryb Elin,” medde fo. “Reit!” medde ni ill dau, ac i ffwrdd â
ni. Roedd yn bwysig bod yn siwr o fan y tê cyn cychwyn, o achos mae’n
anodd i ddyn ffansïo pawb o’i deulu yr un fath, wyddoch. Ond y mae
modryb Elin yn lân iawn.

Y lle cynta inni alw ein tri ynddo oedd tŷ Janet fy nghneither.

“Sut ydech chi yma heddyw?” medde William, pan aethom at y drws, a
ninne’n dau wrth ei gynffon o.

Roedd Janet yn eistedd ar stôl wrth y tân, yng ngodre tomen o ludw, a
babi ar ei glin, a gwenodd arnom heb ddeyd dim.

“Sut ydech chi yma heddyw?” medde William wedyn.

“Hy!” medde hi’n fodlon, dan wenu. Roedd yn ddigon hawdd gweld ei bod
hi’n falch o’n gweled ni, mor falch nes anghofio ein gwâdd ni i mewn.

“Mae hi’n braf,” medde William, oddiar garreg y drws.

“Hy!” medde Janet, tan wenu o hyd.

“Mi ddaw i lawio hefyd toc,” medde William.

“Hy!” medde Janet wedyn, a rhyw chwerthin gneud yng nghorn ei gwddw.

“Pnawn da,” medde William.

“Pnawn da,” medde Janet, a dene’r gair cynta ddaeth dros ei gwefuse hi.

“Y drwg ydi,” medde William ar ol mynd allan, “na neiff pobol ddim
gadael iti fod yn ddiymhongar efo nhw. Mi chwaraeodd Janet a minne lawer
efo’n gilydd ers talwm. A dene fi wedi trio bod yn ddiymhongar efo hi,
ond chai ddim.”

Y lle nesa oedd tŷ Leisa nghneither. Pan aethom ni at y drws, dene hi’n
gweiddi cyn inni guro, “Helo’r hen William, tyrd i mewn, a chofia paid
ag actio’r dyn mawr yma. Os wyt ti wedi bod yn y coleg, mi fu yno rai o
dy flaen di. Pwy ydi’r rhein sydd efo ti?—Wmffre a Nedw, y ddau hogyn
gwaetha yn y wlad. Be ddyliet ti o mhlant i?—mae ma naw. Mae John yma
wedi brifo’i law, ac wedi mynd at Marged Evans y Foel i’w phwltrisio
hi,” ac felly ymlaen. Daeth y cwbwl ene a chwaneg allan yn llinynne ar
un gwynt.

“Dyma le da i fod yn ddiymhongar,” medde fi wrthyf f’hun. Eisteddasom, a
gwrando ar Leisa’n brygowtha fel ene am chwarter awr yn ddi-daw, dan
siglo’r crud. Roedd ganddi hithe fabi. Mae’n teulu ni yn un mawr iawn mi
wela. Deffrodd y babi, fel y basech yn disgwyl, a dene hithe’n ei godi
a’i nyrsio.

“Helo!” medde rhywun o’r tuallan.

“Y cigydd,” medde hi. “Hwde hwn am funud, Wil, paid â bod yn sydêt, os
wyt ti wedi cael coleg.” Taflodd y babi i William, ac allan â hi.

Edrychwn i ac Wmffre’n reit syn, rhag ofn i ninne gael gwaith tebyg, o
achos mi welwn ddau neu dri erill yn edrych arnom ni braidd yn big
dlawd, heb i’r un ohonyn nhw fod yn fawr mwy na babi.

Mi glywem Leisa wrthi hi’n siarad â’r cigydd mor ddi-ddiwedd ag wrthym
ni. Edrych yn druenus iawn oedd William, a’r babi’n crïo ar ei lin nerth
asgwrn pen. Doedd dim i’w neud ond codi a’i ddandlo ar hyd y llawr.
Choeliech chi byth mor hir y bu raid iddo fod wrthi cyn i Leisa weld yn
dda ddwad i’r tŷ. Dwn i ddim yn iawn be oedd ein teimlade ni. Mi garem
chwerthin am ben William, ond roedd arnom ni ofn ein dau cael un bob un
o’r lleill i’w nyrsio pan ddoi hi i’r tŷ.

Rhyw hanner ganu a hanner chwyrnu, a deyd rhwng ei ddannedd nad oedd hi
ddim yn talu i fod yn ddiymhongar oedd gwaith William. Toc, dyma Leisa
i’r tŷ.

“Rydwi’n meddwl yr âi rwan,” medde William, pan ddaeth hi i mewn, “ryden
ni ar dipyn o frys. Pnawn da.”

“Pnawn da, Wil,” medde hithe, “a tyrd yma eto am gypaned pan fyddai’n
fwy trefnus, a phaid â bod yn sydêt.”

“I ble nesa?” medde Wmffre a fi, “dim cam ymhellach os na chawn ni dŷ
heb fabis a thomennydd lludw.”

Edrych reit digalon ddaru William. “Beth petase ni’n ei gneud hi am
gypaned i dŷ modryb Elin?” medde fo.

Doedd gen i fawr i ddeyd, am nad ydi’r modryb Elin yma’n perthyn dim i
mi. Modryb i William ac Wmffre o ochor eu tad ydi hi, a minne’n perthyn
iddyn nhw o ochor mam.

Wedi cyrraedd y drws a churo, dyma modryb Elin i’r drws.

“Ho!” medde hi reit chwyrn, “chi sy’ ’ma, ai ê? Dowch i mewn, yn lle
sefyll fel pyst ar garreg y drws. Pwy ydi hwn sydd efo chi?”—gan
bwyntio ata i. Deydodd William wrthi, ac eisteddodd pawb i lawr. Roedd
ei bachgen hi wedi methu yn y coleg, fel yr oedd mwya’r piti.

“Sut y mae dy dad, ydio’n dandlo cymint ar dy fam ag erioed?” medde hi
wrth William. Wydde William ddim yn iawn sut i ateb y cwestiwn dwbwl
yma, a bodlonodd ar ateb y rhan gynta’n unig.

“Mynd i nôl glo ar y tân oeddwn i,” medde hi, ac allan â hi.

Ac allan y bu hi am hydoedd a hydoedd, nes ein bod ni wedi mynd reit
bryderus am ei diogelwch hi, a’n stymogie ni hefyd braidd yn anesmwyth
erbyn hyn.

Eis allan i gymowta tipyn, o achos fum i rioed yma o’r blaen, ac mi
glywn siarad. Modryb Elin oedd yn deyd wrth wraig y drws nesa, “Mae’n
siwr eu bod nhw wedi hel eu hunen yma i dê, ond dydwi ddim am gynnyg tê
iddyn nhw, o achos ’does gen i ddim dyled i fachgen Edward Roberts ene.
Tase William ei hun yma mi fase’n beth arall.”

Syrthiodd fy ngwep i’n syth, o achos fi ydi y mab Edward Roberts dan
sylw wyddoch. Eis yn ol at ddrws y tŷ, a chodes fy mys ar Wmffre. Roedd
William ar y pryd yn edrych ar y llunie ar y wal. Pan ddeydes i ’r stori
wrth Wmffre,—“Wel, ta, ta, modryb Elin,” medde fo rhyngddo a fo ei hun.
Ac i ffwrdd â ni tuag adre’n ddiseremoni.

Wedi croesi cae neu ddau, mi welem lo modryb Elin yn pori’n dawel ar
ganol y weirglodd.

“Llo blwydd,” medde Wmffre. “Llo deunaw mis,” medde finne.

“Dim ods,” medde fo. “Ydi’r creaduried isddynol yn ddiymhongar tybed?”

[Illustration: “DROS EI BEN A’I GLUSTIE YR AETH O I MEWN.”]

Gair mawr John Jones y Gwŷdd yn yr Ysgol Sul ydi “creaduried is-ddynol.”
Fo ydi’n hathraw ni, ac y mae o’n sôn fyth a hefyd amdanyn nhw. Fel
enghreifftie mi ddaw ag asen Balaam, y llo pasgedig, y mul bach fu’n
cario Iesu Grist, a’r pethe hynny yn y gynfas honno a fwytaodd Pedr.
Felly, mi welwch mai mulod, lloue, gwningod, a phethe felly ydi
creaduried is-ddynol.

“Gad inni drïo,” medde fi, “os ydio’n ddiymhongar, actio fel llo neiff
o. Does dim achos iddo beidio â bod,—fu o rioed mewn coleg. Dos di ar
ei gefn o, mi dywysa inne, ac mi gei weld na symuda fodfedd.”

“O’r gore,” medde Wmffre, a neid ar ei gefn.

“Wb!” medde’r llo, ac i ffwrdd fel mellten. Ches i ddim ond rhuthro i’w
gynffon, na baswn i wedi ngadael ar ol. Dene lle roeddem ni’n rybedio
mynd,—Wmffre ar gefn y llo yn gafael yn dỳn yn ei flew, a minne’n ei
gynffon. Ac Wmffre’n gweiddi,—“Twy-llw-llw-wr y-di-i-o-o-o. Nid
llo-o-o-o ond ce-e-ce-ff-yl ra-a-as.” Fedre fo ddim siarad yn naturiol,
oherwydd bympiade’r rhedeg, a rhwng y bympiade yr oedd o’n cael ei eirie
allan. Peder gwaith rownd y weirglodd yr aethom ni, yna trwy adwy i gae
arall, ac i lawr fel mêl trên tua’r afon, trwy’r afon ac i lawr y
dolydd, ac Wmffre ’n deyd ei stori wrtha i bob yn dipyn fel y caniatai’r
bympio. Yng ngwaelod y dolydd y mae llyn o fwd, a thua hwnnw y
cyfeiriodd y llo. Mi gredes mai yno y basem ni ein tri. Ond pan o fewn
rhyw chwe modfedd, mwy neu lai, i’r llyn, stopiodd y llo yn stond.
’Daeth neb i’r llyn ond Wmffre. Dros ei ben a’i glustie yr aeth o i
mewn. ’Doedd dim i’w neud bellach ond gollwng cynffon y llo i’w gael o
allan.

Roedd golwg mawr arno, yn poeri baw, a rhwbio’i wyneb â glaswellt, a
disgrifio’r llo. “Nid llo ydio,” medde Wmffre, “ond ceffyl râs a mul
wedi’u cymysgu,—yn rhedeg fel ceffyl râs a stopio fel mul.”

Wedi cael Wmffre’n weddol lân, a’i dawelu, yr anhawster oedd beth i’w
neud â’r llo, o achos symude fo ddim. Doedd dim i’w neud ond ei droi yn
ferfa trwy godi ei ddau droed ol fel breichie berfa, a’i wthio.

Ond i ble i fynd â fo? Roedd ei gartre’n rhy bell i’r dull yma o
drafaelio. Roedd dwy ffarm yn ymyl,—y Graig a’r Waen. Cofiasom fod
llo’r Graig wedi marw ddeuddydd cyn hynny, a bod iddo, felly, le yng
nghornel hwnnw, ac yno ag ef. Doedd neb o gwmpas. Wedi gorffen dene
eistedd i lawr i orffwys, o achos gwaith caled ydi gneud berfa o lo.

Ymhen tipyn mi glywem sŵn. Seina ’r forwyn oedd yn dwad i odro. Doedd
dim i’w neud ond cuddio nes cael y ffordd yn glir i fynd adre.
Dechreuodd Seina odro, a phan oedd y stên bron yn llawn brefodd y llo
o’i gornel, cornel dipyn yn dwyll. Dene sgrech, y llaeth ar hyd y llawr,
a Seina allan o’r côr fel ergyd o wn dan weiddi,—“Y llo wedi adgyfodi
oddiwrth y meirw. Dyma’r diwedd wedi dwad. Yr udgorn a gân, a’r meirw a
gyfodant.” Un dda iawn am ddeyd adnode ydi hi. Rhag ofn fod rhywun arall
yn ymyl, doedd dim i’w neud ond mynd adre gynted gallem ni, oherwydd
roedd yn amlwg ein bod ni wedi gneud tipyn o gamgymeriad.

Pan yn ymyl y tŷ eisteddasom i orffwys,—“Nedw,” medde Wmffre, “ydi bod
yn ddiymhongar yn rhinwedd, dywed?”

“Wel,” medde fi, wedi meddwl tipyn, “dydio ddim yn rhinwedd mewn dynion,
ond synnwn i ddim nad ydio felly mewn lloue.” Cydsyniodd Wmffre’n
galonnog â hyn, oherwydd ei brofiad efo’r llo. Cydsyniodd William hefyd,
ymhellach ymlaen, pan welsom ef, oherwydd ei brofiad efo pobol.

O! ia, mi fu ceiliog Winnie Jones, a ddiangodd, am ddyddie yn gneud ei
ore i ladd yr un aeth trwy’r simdde, o achos ei fod yn meddwl mai
ceiliog diarth oedd o. Roedd hwnnw wedi troi o fod yn geiliog coch, i
fod yn un du.



                          IX.—DEWYRTH A BODO.


Un gwirion ydi dewyrth, beth bynnag, o achos mae o’n meddwl nad oes neb
yn gall ond fo, ond rydwi wrth fy modd efo fo er hynny. Gŵr bodo ydio.
Am bodo, un yn siarad bob amser fel tase hi’n gyrru’r gath allan o’r
bwtri ydi hi. Dydi dewyrth yn gneud dim byth pan fydd o hefo chi, ond
eich holi. Yr un math o gwestiyne sydd ganddo fo bob amser,—rhai o’r
Beibil. Ac rydwi’n leicio’i gwestiyne fo, o achos tydio ddim yn disgwyl
i neb eu hateb nhw. Eu gofyn mae o er mwyn cael cyfleustra i’w hateb
nhw’i hun, ac er mwyn cael ei wynt. Mae’i wynt yn fyr, ac y mae gofyn
cwestiyne’n fantes iddo fo orffwys wrth fynd i fyny allt.

Fel arall y mae bodo, ac mae’n gas gen i hi. Mae hi’n gofyn cwestiyne
fel tase hi’n awyddus i roi cweir i chi, ac yn gobeithio na fedrwch chi
mo’u hateb nhw, er mwyn iddi gael esgus dros neud.

Un bore yn y gwylie ha, roeddwn i’n mynd yno dros mam. Pwy oedd yn
eistedd i orffwys yng ngwaelod yr allt ond dewyrth.

“Rhosa, Nedw,” medde fo. “Wyt ti’n mynd acw?”

“Ydw,” medde finne.

“Cymer ofal,” medde fo, “dydi _hi_ ddim yn ei phethe heddyw. Mae’r ffit
lân arni hi. Rhaid iti dendio dy begie. Rhosa funud mi ddo i efo ti.”

Ac roedd o’n siarad fel y gwelsoch chi drên yn trio’i phwffian ei hun i
ben yr allt ar ddiwrnod gwlyb, a methu. Dene ni’n cychwyn ill dau. Wedi
mynd ryw ddwsin o game, mi welwn dewyrth yn chwilio am le i eistedd, ac
mi wyddwn y bydde ene gwestiyne i mi’n union, er mwyn iddo fo gael esgus
i eistedd, o achos tydio ddim am i neb wybod fod ei wynt o’n fyr.

“Nedw,” medde fo, wedi cael carreg i eistedd arni, “gad imi ofyn
cwestiwn iti,—pam fod yr efengylydd Ioan wedi sgwenu ei Efengyl mewn
geirie bychin?”

“Wyddwn i ddim ei fod o wedi gneud,” medde fi.

“Do,” medde dewyrth, ac yn ei flaen â fo. Roedd o wedi cael ei wynt ato
erbyn hyn.

“Nedw,” medde fo, ymhen tipyn, tan edrych o’i gwmpas am le i eistedd a
phwffian, “ddeydest ti ddim pam fod Ioan—pwff—wedi sgwenu’i
Efengyl—pwff a pheswch—mewn geirie bychin?”

“Naddo,” medde fi.

Erbyn hyn roedd o wedi cael ei wynt ato wedyn. I fyny â fo, ac yn ei
flaen. Mi gwelwn o’n crafu yn y man, ac yn pesychu fel ceubren, fel mae
pobol yn deyd, ac yn gorffwys ar foncyff draenen, wedi ymlâdd.

“Nedw,” medde fo, “faset ti—pwff a pheswch—yn leicio gwybod?”

“Baswn,” medde finne. Ond ymlaen a fo wedyn, wedi cael ei wynt ato
unweth yn rhagor. Ymhen ennyd dene arafu, ac eistedd ar wal, a phwffian
a phesychu na welsoch chi rotsiwn beth. Ond yr hwyl oedd ei fod o’n trio
cymyd arno nad oedd o ddim yn gneud.

“Nedw,” medde fo ar ol eistedd, “faset ti’n leicio gwybod?—pwff a
pheswch.—Wel, am na fedre fo ddim ei sgwenu hi mewn geirie mawr.”

“O,” medde fi, yn hollol fodlon ar ei ateb. Dene dewyrth yn edrych
arnai’n syn, fel tase fo’n deyd wrtha i,—“rwyt ti’n un gwirion, Nedw,
na faset ti’n gofyn i mi pam, er mwyn imi gael esgus arall i gymyd fy
ngwynt trwy aros i dy ateb di.”

“Pam?” medde fi.

“Mi ddeyda iti,” medde fo. Ond ddaru o ddim deyd. Mynd yn ei flaen ddaru
o. Yna gorffwys wedyn i bwffian a phesychu. “Ysbrydolieth a’i gorfododd
o, machgen i,” medde fo yn y man, rhwng y pwffiade a’r pesychiade.

“Bedi ysbrydolieth?” medde fi.

Yn ei flaen â fo. Yna eistedd wedyn a phwffian a phesychu, a chymyd arno
nad oedd o ddim yn gneud.

“Weldi’r sowldiwr acw?” medde fo toc, tan ddangos sowldiwr pren ar
hoelen a pholyn yn yr ardd yn troi efo’r gwynt.

“Gwela,” medde fi.

“O,” medde dewyrth, ac yn ei flaen â fo. Ymhen eiliad, eistedd wedyn, a
phwffian a phesychu fel tiwn gron.

“Sôn am ysbrydolieth oedden ni’n tê?” medde fo.

“Ia,” medde fi.

“Wel, Ioan ydi’r sowldiwr pren, ac ysbrydolieth ydi’r gwynt sy’n ei droi
o,” medde fo rhwng hanner dwsin o bwffiade a phesychiade. Ac yn ei flaen
â fo wedyn. Stopiodd yn y man fel tase fo eisie i mi ofyn cwestiwn, ond
ddaru mi ddim.

“Wyt ti’n dallt?” medde fo.

“Dallt be?” medde fi.

“Dallt bedi ysbrydolieth?” medde fo.

“Rydwi’n meddwl mod i,” medde fi.

“Be?” medde fo wrth godi i ailgychwyn.

“Gwynt yn troi sowldiwr pren, yntê?” medde fi.

“Twt, lol,” medde dewyrth, ac yn ei flaen â fo nes dwad i ben ei dennyn.

“Fel hyn,” medde fo yn y man, “roedd ysbrydolieth yn gorfodi Ioan i
sgwenu mewn geirie bychin—pwff a pheswch—fel y gwynt y sowldiwr pren.”

“Ond tydi’r gwynt ddim yn gorfodi’r sowldiwr pren i sgwenu mewn geirie
bychin,” medde fi yn ffwndrus.

Aeth dewyrth yn gaclwm gwyllt yn y fan yma, nes i’w besychu roi pen ar
ei stori. Ac roeddwn i yn y niwl yn lân. Wyddwn i ar wyneb y ddaear pwy
oedd ysbrydolieth. Ond cyn i mi gael amser i ofyn iddo, i ffwrdd â fo.

Stopiodd wedyn i eistedd.

“Nedw,” medde fo toc, “prun ai dyn tal ynte dyn byr oedd Paul?”

Atebes i mono fo am dipyn. Roeddwn i’n meddwl am yr ysbrydolieth yma. Mi
allswn i feddwl ar dewyrth mai dyn wedi cael rhyw siort o strôc ydio, a
rhywun yn gafael yn ei law ac ynte’n ddiymadferth, a’i defnyddio hi i
sgwenu’r hyn mae o’n ddymuno. Ond yn ol y tipyn a glywes i am Ioan,
dydio ddim yn edrych yn debyg iawn i fel tase’i Efengyl o wedi’i sgwenu
gan ddyn wedi cael strôc. Mae’n rhaid, felly, fod rhyw ddrwg yn y caws,
ynglŷn â syniad dewyrth amdano fo. Erbyn imi gael fy meddwl at ei
gilydd, wedyn, ynghylch Paul, roedd dewyrth wedi mynd. Eis ar ei ôl o,
ac roedd o’n aros amdana i, ac yn pwffian a phesychu, a’i frest fel
rhegen rych.

“Prun, Nedw?” medde fo.

“Dyn tal,” medde fi. Cododd ac aeth yn ei flaen gam, ac eistedd wedyn,
dan yr un amgylchiade ag arfer.

“Sut gwyddost ti?” medde fo.

“Dwn i ddim,” medde fi, “ond mod i’n meddwl.”

“Thâl meddwl ddim i grogi dyn,” medde dewyrth yn ffrwt, a’i wyneb yn
goleuo. “Dyn byr oedd Paul,” medde fo, “y lleia ohonyn nhw i gyd.” Ac yn
ei flaen â fo. Eisteddodd wedyn, ac edrych arna i fel tase fo eisio i mi
ofyn cwestiwn arall.

“Sut hynny?” medde fi.

“Mae o’n deyd ei hun,” medde fo,—“Myfi y llai na’r lleiaf o’r holl
saint,—y byrra ohonyn nhw i gyd oedd o’n siwr i ti. Dene iti adnod ar y
pwnc i’w dysgu erbyn y Sul nesa.”

Erbyn hyn yr oeddem ni ar dop yr allt, ac yn ymyl ei dŷ o a bodo,—tŷ
bychan ar dop yr allt ydio,—a dewyrth, bellach, yn medru cerdded heb
bwffian a phesychu, ac am hynny ’doedd dim achos gofyn mwy o gwestiyne.

Wrth fynd at y drws, “Cymer di ofal,” medde dewyrth dan ei lais, “cofia
fod y ffit lân arni _hi_ heddyw.”

“Hi” mae dewyrth yn galw bodo, a “nacw” mae bodo’n ei alw fynte.

Ac roedd yn amlwg fod y ffit lân ar bodo’n drwm. A pheth diflas ydi’r
ffit lân, yn enwedig ar amser bwyd. Mae hi i radde er bodo bob amser.
Does ene ddim farnish ar yr un o’r cadeirie, mae bodo wedi’i rwbio i
ffwrdd wrth eu cnau nhw. Ac y mae cader dewyrth bron yn dwll, gan y
rhwbio parhaus arni, ac yn splintars i gyd. Am hynny, wedi i dewyrth
unweth eistedd yn ei gader, feder o ddim symud ond efo gofal. Ac am y
llawr,—llawr pren ydio,—mae o cyn wynned a thrensiwr. Os bydd y
cadeirie, a’r ffendar a’r heyrn tân, i gyd ar ben y bwrdd, mae hynny’n
arwydd fod y ffit lân yn drom iawn ar bodo.

Pan aeth dewyrth a fi i mewn, doedd yno ddim ond un gader ar lawr, a
honno wrth y drws, a’r gweddill i gyd â’u gwadne i fyny ar ben y bwrdd,
a’r ffendar a’r heyrn tân, a’r canwyllbrenni pres, a’r scelet, ar dop y
cwbwl. Doedd bodo ddim yn y tŷ, ond roedd ei sŵn hi yn y bwtri.

“Tyrd i mewn, Nedw,” medde dewyrth, “gad imi edrych am yr adnod honno
iti.” Ac estynodd y Beibil oddiar y dresal. Dene Bodo i mewn fel tân
gwyllt, ac yn cipio’r Beibil oddiarno fo, ac yn bloeddio fel gwraig
wallgo,—“Be haru’r dyn, deydwch?—yn darllen ei Feibil liw dydd gole
glân, a finne newydd ei ddystio fo hefyd.” Ar hyn, sylwodd arna i yn
eistedd ar y gader, yr unig un oedd i’w chael, a dene ddyrnod i mi ar
draws fy ngwyneb efo’r carp llawr, nes fy mod i’n speden.

“Eistedd ar y gader ene ar bob dydd!” medde hi, “a hel dy draed ar hyd y
llawr yma,—mae carreg y drws yn ffisiant i ti.”

Ac allan â fi ar garreg y drws, a dewyrth ar fy ol i fel oen llyweth.

“Tyrd am dro, machgen i, i weld yr ardd,” medde fo. Ac i’r ardd â mi.
Roedd yno fath o setl i eistedd arni, a dene ni’n dau yn eistedd, a
dewyrth yn pwffian yn ysgafn am yn hir fel tase fo’n smocio cetyn
anweledig. Toc, dene fo’n troi ata i,—“Nedw,” medde fo, “mi wnest dipyn
o gamgymeriad wrth eistedd ar y gader ene. Arni hi roedd o ’n eistedd ar
y Sul. A ’does neb byth yn cael eistedd arni o gwbwl rwan. Dydi _hi_
ddim yn ei phethe’n rhyw dda iawn byth er pan ddaru hi ddigio tipyn wrth
y Brenin Mawr. Dydi hi ddim ar delere da efo’r Brenin Mawr o gwbwl rwan.
Mi dreuliodd lawer ar ei glinie wrth y gader ene yn gofyn i’r Brenin
Mawr roi’i aden drosto _fo_, ond ddaru o ddim dybygswn i, os nad oedd
_o_ ’n gwrthod mynd dan ei aden o wedi cael cynnyg. Mae ffordd fel ene o
edrych arni, wyddost. Ac am wn i nid ar y Brenin Mawr oedd y bai.” Yn y
fan yma mi ddaru rhyw ddeigryn bach hel i gornel llygad dewyrth. “Gad
inni droi’r stori, Nedw,” medde fo. “Faset ti’n licio imi dy holi di
eto?”

Yn gweld y plesie hynny fo, mi ddeydes “baswn.”

“Wel,” medde dewyrth, “prun ai gŵr priod ynte hen lanc oedd Paul?”

“’Dwn i ar wyneb y ddaear,” medde fi. “Mi allswn i feddwl mai hen lanc.”

“Pam?” medde dewyrth.

“Doedd o byth adre,” medde fi.

“Dydi’r ateb ene’n deyd dim, mae o’n torri ddwy ffordd,” medde dewyrth.
“Gŵr priod oedd Paul iti.” Ac mi drychodd arnai’n hir tan smocio’r cetyn
anweledig yma, yn disgwyl i mi ofyn cwestiwn iddo.

“Sut ydech chi’n deyd hynny?” medde fi o’r diwedd.

“Mae ene adnod yn deyd,—’Pwy a’m gwared i oddiwrth gorff y farwolaeth
hon?’” Ac medde fo wedyn dan ei lais,—“Mae nhw’n deyd mai at ei wraig
roedd o’n cyfeirio. Ac mae’n hawdd gen i ’u coelio nhw, achos un garw am
siarad ar ddamhegion oedd Paul.” Bu’n ddistaw am dipyn wedyn, ac yna
dwedodd dan ei lais,—“Nedw, y peth sydd rhynga i a ti, rhynga i a ti y
mae o, yntê, machgen i?” Aeth ymlaen am dipym wedyn i smocio’r dim byd
yma, gan bwffian yn ysgafn o hyd.

“Dos ar flaene dy draed,” medde fo’n union, “ac edrych trwy ffenest y
siambar, i weld be mae _hi_’n neud.”

Mi es fel y deydodd o. “Ar ei glinie mae hi,” medde fi, wedi dwad yn ol,
“wrth y gader yr eisteddes i arni, ac yn ei dystio fel tase hi ddim yn
ei gweld hi, ac yn edrych i’r lle tân.”

Ac yn wir, roedd yr olwg ryfedda ar bodo. Ar ei glinie o flaen y gader
yma roedd hi, yn edrych fel tase hi’n cysgu â’i llygid yn agored, ac yn
dystio. Mae’n debyg mai ceisio dystio sêt y gader oedd hi, ond doedd hi
ddim yn ei chyffwrdd y rhan fwyaf o’r amser. Roedd hi’n dystio’r awyr
ryw ddwy neu dair modfedd uwchben sêt y gader, ac yn edrych felly i’r
tân, a siarad rhyngddi a hi ei hun.

“Meddwl amdano _fo_ mae hi,” medde dewyrth, “dene’i gader _o_ ar y Sul,
wyddost.”

“Ia,” medde dewyrth ymhen tipyn,—“ei gader _o_ ar y Sul oedd hi.” Yna
aeth â’i ben i’w blu. “Ia,” medde fo fyth a hefyd, “ei gader _o_ oedd hi
ar y Sul.” Ac anghofiodd dewyrth bopeth amdana i.

Mi rois gic bach i’w ffon o toc, ac mi ddeffrôdd. “Ia,” medde fo, “ei
gader _o_ oedd hi,—helo, Nedw, ac rwyt ti yma? Rhosa di,” medde fo dan
sirioli, “ddaru rhywun ddeyd wrthyt ti dy fod di’n debyg iawn iddo
_fo_?”

“Pwy ydi _o_?” medde fi.

“Be! doeddet ti ddim yn ei nabod _o_?” medde dewyrth, fel tase rhywun
wedi ei daro,—“ac mae cymint o amser a hynny? Erbyn meddwl, ’doeddet ti
ddim wedi d’eni. Mae’n rhyfedd meddwl fod neb yn y lle yma, hefyd, heb
ei nabod _o_. Ond rwyt ti’r un ffunud a fo, Nedw. Mae’r hen wraig wedi
deyd hynny lawer gwaith.”

Wel, wir, rydwi’n methu dallt pobol. Mae nhad a mam yn hollol wahanol
i’w gilydd. Ond mae rhai’n deyd mod i run bictiwr â nhad, eraill mod i
run ffunud â mam. A dyma ddeyd rwan mod i’n debyg iddo _fo_, ond neb yn
deyd mod i ’n debyg i mi fy hun.

“Nedw,” medde dewyrth toc, “dos eto ar flaene dy draed i edrych be mae
_hi_’n neud.”

Mi es, ac wedi dwad yn ol, “Ar ei glinie wrth yr hen gader y mae hi o
hyd,” medde fi, “ond bod ei phenelinie hi ar y gader rwan, a’i dwylo ar
ei gwyneb fel tase hi’n deyd ei phader, ac mae’i gwefuse hi’n mynd. Ond
rydwi’n siwr mai deyd rhywbeth arall y mae hi, o achos fase neb yn deyd
ei bader ar amser cinio, ai fase dewyrth?”

“Wel,” medde dewyrth yn drist, “mi fydd yn well toc. Gobeithio y
closhith hi dipyn yn nes at y Brenin Mawr.”

“Lle mae’r cadeirie erill?” medde fo yn y man.

“Ar dop y bwrdd,” medde fi.

“A’r ffendar a’r stôl haearn?”

“Ar dop y bwrdd.”

“A’r canwyllbrenni pres a’r scelet?”

“Ar dop y bwrdd.”

“A’r setl?”

“Ar dop y bwrdd.”

“Ia, meddwl amdano _fo_ mae hi,” medde dewyrth, “a phan fydd hi’n meddwl
mwy na’i gilydd amdano _fo_ mae hi’n cael y ffit lân yn drom iawn. Mi
fase’n biti iddo fo ddwad i dŷ budur. Dos i edrych eto.” A dene fi’n
mynd.

Roedd hi ar ei thraed yrwan, yn sychu sêt y gader, oedd yn wlyb, yn
ofalus. Ac wedyn yn mynd i dynnu’r cadeirie erill i lawr.

Wedi imi ddeyd hynny, “Mi awn ni’n ol ymhen rhyw funud neu ddau,” medde
dewyrth.

Ac ymhen munud neu ddau, yn ol â ni, a minne’n cadw tu ol i dewyrth. Pan
aethom ni i mewn,—

“Nedw,” medde bodo, mewn llais na chlywes i mono ganddi hi rioed o’r
blaen, llais toddedig a meddal fel yr afon bach dan tŷ pan ydech chi’n
dal y’ch llaw ynddi hi. “Nedw,” medde hi, “tyrd yma, ’ngwas i.”

Dene fi i mewn. “Dyma iti frechdan jam,” medde bodo. A rhoddodd frechdan
jam dan gamp i mi. “Tyrd yma, Nedw bach,” medde hi wedyn. Mi roddodd y
gader y tarodd hi fi â’r carp llawr am eistedd ynddi, ar ganol y llawr.

“Nedw,” medde hi, “eistedd yn honene â’r frechdan jam yn dy law, a rho
dy draed, fel ene, ar ffon y gader.” Ac mi ddarum, er bod fy esgidie i’n
fudron.

Edrychodd hithe arna i. Cymerodd gam yn ol, ac edrychodd wedyn. Cymerodd
gam arall yn ol, a daliodd i edrych. A dewyrth yn edrych dros ei
hysgwydd hi.

“John,” medde hi wrth dewyrth toc. Ond pan drodd hi ei phen ’doedd
dewyrth ddim yno. “John,” medde hi wedyn, ond ddaeth dewyrth ddim i’r
golwg.

Mi aeth i drôr y dresal, a chymyd cylleth wedi rhydu oedd yno, ag un
llafn iddi wedi torri, a’i rhoi hi i mi. “Hwde, Nedw,” medde hi, “cadw
hon yn ofalus, a dos adre.”

Wrth fynd beibio’r penwar bach, pwy oedd yn eistedd ar garreg â’i ben
rhwng ei ddwylo, yn siarad â fo’i hun bob yn ail ag edrych fel tase fo’n
dal i smocio’r cetyn anweledig yma, ond dewyrth.

“Cymyd ar ol teulu’i fam mae Nedw,” medde fo, “mae o run fath a _fo_ i’r
dim.”

Dene fi’n rhoi clec mawr ar y penwar. Mi gododd dewyrth ei ben.

“Ac rwyt ti’n mynd?” medde fo. “Hwde, machgen i.” Mi aeth i’w boced, a
thynnodd swllt allan, a rhoddodd o yng nghil fy nwrn i gan wincio arnai,
ac edrych yn hir arnai wedyn heb ddeyd dim. “Wyddest ti be?” medde fo
o’r diwedd, tan ochneidio, “mi leiciwn o waelod fy nghalon tase d’enw
di’n Isaac. Rhed adre rwan.” Ac i ffwrdd â mi.

Wedi cyrraedd gwaelod yr allt mi dryches yn ol. Dene lle roedd dewyrth a
bodo ar ben y drws, a bodo a’i braich ar ysgwydd dewyrth, fel tase dim
wedi bod rhyngddyn nhw, yn edrych ar fy ol i, ac yn chwifio’u dwylo.

“Mam,” medde fi ar ol mynd i’r tŷ, “pam fod Isaac ni yn Isaac?”

“Ar ol bachgen dewyrth a bodo,” medde mam.

“Lle mae o, ydio wedi marw?” medde fi.

“Rhed, machgen i, i Dyddyn Derw, mewn munud i nol cnegwarth o laeth, cyn
iddyn nhw gychwyn i’r dre,” medde mam, gan dorri ar fy nhraws i.

Ac i ffwrdd i Dyddyn Derw â mi. Mi welwn ar wyneb mam ar y pryd mai dene
oedd ore.



                                X.—SEC.


Ddychrynnes i fawr erioed yn fwy na’r nos Iau cyn y dwaetha. Roedd hi
wedi mynd braidd yn hwyr, ac yn twllu yn o drwm, a minne’n croesi Pont y
Llan. Mae ene adwy yn ochor y bont, a phren derw mawr, gwag, yn ei
chanol, a gwrych coed cnau mawr bob ochor i’r ffordd wedyn. Wrth basio’r
adwy a’r pren derw, rhwng twyll a gole, mi welwn rywbeth gwyn yn estyn
allan o ganol y twll, ac yn gneud sŵn gwichlyd,—“Ne-ene-ene.” Mi roddes
neid ac i ffwrdd â mi fel y fellten. Wedi mynd heibio’r gornel, mi sefes
i wrando, ac mi glywn wedyn y llais yn uwch a mwy
nadlyd,—“Ne-ene-ene-edw, Ne-e-dw.” Adwaenes o’n syth, a throis yn fy
ol. Llais Sec oedd o. Pwy ydi Sec, fedrai ddim deyd wrthych chi, ond
Eseciel Bingley ydi ei enw fo ar lyfr yr ysgol, ac y mae o’n byw efo’r
hen Jinny’r Gardden, yn Nhwnt i’r Afon. Dydio fawr o beth, i ddwad o dŷ
Jinny, o achos mae hi ei hun yn garpie, a’i chroen fel melyn ŵy wedi
torri, a ffrïo gormod—yn grebachlyd, heblaw bod yn rhyw felyn-ddu. Un
ryfedd ydi Jinny. Hi ydi’r wraig sy’n mynd allan o’r capel i boeri. Mae
hi’n eistedd yng ngwaelod y capel, a reit amal, pan mae’r pregethwr yn
dechre mynd i hwyl, fe gyfyd Jinny yn sydyn, ac aiff allan i boeri, ac i
mewn yn ei hol i wrando, fel tase dim byd wedi digwydd.

Daeth Sec ati hi’n sydyn, na ŵyr neb o ble, pan oeddwn i yn Standard I.,
a rhoddwyd ynte’n Standard I. Rydwi yn Standard IV. yrwan, ond dal yn
ffyddlon yn Standard I. y mae Sec o hyd. Doedd fawr o bwys ymha Standard
y basech chi yn ei roi o, cyn belled ag yr oedd dallt pethe yn y
cwestiwn, ond gan mai Standard I. fu’n ddigon caredig i’w dderbyn o,
mae’n ymddangos nad ydi ynte am droi ei gefn ar hen ffrynd. Dene a
ddywed Joseph y Titshiar.

“Wel, Sec,” medde fi, “be wyt ti’n ei neud yma?”

“O-o-es ge-n-n-o-t ti fa-a-ra b-b-ri-i-ith, Ne-ene-edw?” medde fo.

Dwad adre o de parti’r Ysgol Sul yr oeddwn i, ac yr oedd yn naturiol imi
fod wedi celcio tipyn o fara brith, fel y bechgyn erill i gyd, a’r un
mor naturiol i Sec dybio hynny.

“Oes, was,” medde fi.

“Ga-a-i da-a-me-ed?” medde fo,—“i-i-sh-i-o—”

Ond mi dorres ar ei draws o. “Dene be’ sy’ i gael am beidio â dwad i’r
Ysgol Sul,” medde fi, ac i ffwrdd â mi, a thros y gamfa, ac i’r Nyrs
Goed Llus. Erbyn hyn roedd hi’n mynd braidd yn dwyll. Pan yn nyfnder y
nyrs,—“Ne-ene-ene—” medde rhywbeth dan fy nhraed i, ac mi roddes waedd
a neid. Fedrwn i symud dim am funud, a dene’r “Ne-ene-ene—” hwnnw wedyn
dan fy nhraed i. Beth oedd o ond sŵn bwrlwm y ffos fach dros garreg. Mi
godes fy nghalon, ac ymlaen â fi yn bur ddewr, nes
clywed,—“i-i-ish-sh-sh-i-o—” yn fy ymyl wedyn, a’m fferodd. Beth oedd
o ond cangen yn rhwbio’r wal.

[Illustration: “Y—SY—SY—SLUM,” MEDDE SEC.]

“Thâl hi ddim fel hyn,” medde fi, “mi â i yn ol, a rownd y ffordd. Pan
eis i at y gamfa, pwy oedd yn crïo â’i ben arni ond Sec, ac yn dal
rhywbeth yn hongian yn ei law.

“Bedi’r mater, Sec?” medde fi.

“A-a Ne-ene-edw i-i-ish-i-o-o bw-bw-yd,” medde Sec. Ac mi ddalltes mai
trïo deyd hynny yr oedd o pan adawes i o. Ond cyn imi fedru ei ateb,
dene fo’n dangos y peth oedd yn ei law i mi.

“Bedio?” medde fi.

“Y-sy-sy-slum,”[8] medde Sec, “u-u-n by-w-w, mi-i c-c-ei o a-am
d-a-a-me-ed.”

Ac yn wir i chi, be oedd o ond slum y nos. Roedd o wedi dwad o hyd iddo
yn yr hen geubren derw wrth Bont y Llan, y lle y bydde fo, gan amlaf, yn
cysgu ynddo y nos, medde fo, er fy syndod i. Ac mi ddeydodd fod chwaneg
yno, ac y cawn i stoc ohonyn nhw am damed o rywbeth bob dydd. Roedd
pethe’n dechre gloywi erbyn hyn,—a gwyneb Sec yn llwyd. Wel allan â’r
bara brith. Doedd o, rywsut, ddim mor flasus ar ol gweld gwyneb Sec. Mi
cafodd o i gyd, ac mi wnaeth i minne gymyd y slum.

Dene a ’nghychwynnodd i yn ddelar[9] slumod a gwningod. Mi ddeydes “nos
dawch” wrth Sec, ac er ei bod hi’n bur dwyll erbyn hyn, roeddwn i adre
heb yn wybod i mi fy hun, wrth feddwl beth ddeyde’r bechgyn fore
drannoeth wrth weld slum byw gen i yn yr ysgol. Doedd y rhan fwyaf
ohonyn nhw erioed wedi gweld yr un yn nes na’r awyr.

Mi cadwes o ym mhoced fy nhrowsus dros y nos, a’r unig anlwc oedd iddo
fo ddwad yn rhydd, ac i minne dorri orniment wrth ymbalfalu amdano yn y
twllwch. Ond deliais o’n sâff, a chadwes o dan y gobennydd tan y bore.

Sôn am boblogiedd,—doedd dim siawns i neb ond fi bore drannoeth. Chai
neb weld y slum, ond ar yr amod eu bod nhw’n dwad â hanner dwsin o
biwied i’w fwydo, o achos mai ar biwied y mae o’n byw. Wmffre oedd yn
derbyn a chyfri’r piwied, a minne wedyn yn dangos y slum. Wedi ei weled
o, doedd na byw na marw na chai Robin bach Ty’n Llidiard y slum yn eiddo
iddo fo’i hun. Roedd o’n barod i roddi unrhyw bris amdano, medde fo, o
feipen i wningen fach. A dene’r slum yn mynd iddo am wningen. Ond erbyn
bore drannoeth roedd y slum wedi marw. Robin oedd wedi trïo rhoi pry
copyn yn fwyd iddo, ac ynte’n byw ar y pethe a ddalie pan ar ei aden. A
phwy erioed a welodd bry copyn yn hedeg? Felly, mi welsom un peth, fod
pryfed cop yn wenwyn i slumod.

Ar amser chware, dene Sec yn codi ei fys arna i,—

“En-ne-edw,” medde fo,—“by-by-brech-d-a-an i m-i-i am sy-sy-slum.”

A dene fargen. Roedd gen i slum arall yn mynd i mewn ar ol amser chware,
ac mi werthes hwn hefyd i Robin am wningen. Roedd rhyw wendid am slumod
wedi dwad ato fo. Erbyn hyn roedd gen i ddwy wningen. Roedd gan amryw
o’r bechgyn wningod, a dene’r gair allan fod Nedw’n barod i werthu
unrhyw nifer o slumod i’r bechgyn am wningen yr un, neu ryw bris
rhesymol arall. Welsoch chi rotsiwn beth y pnawn hwnnw. Roedd gan bron
bob bachgen yn yr ysgol wningen efo fo, a chyn gynted ag y troai’r scŵl
ei gefn, yn galw arna i—dydi’r scŵl ddim yn clywed yn dda o gwbwl—ac
yn dangos pen gwningen i mi o’u pocedi,—rhai o bob math a lliw, gwyllt
a dôf. Rydwi’n siwr fod ene tua naw neu ddeg, i gyd. Amser chware roedd
pawb yn gwthio ei wningen i mi am slum, a minne heb ddigon o slumod i’r
farchnad. Mi addewes ddyfod â stoc newydd i’r ysgol drannoeth. Llwyddodd
Sec i gael tri neu bedwar imi rywfodd, yn ystod y nos, ac addawodd
beidio â deyd gair wrth neb amdanyn nhw. O dipyn i beth daeth holl
wningod y lle yn eiddo imi. Ar ol i rai ohonyn nhw farw, ac i’r gath
fwyta dwy, roedd gen i bump wedyn. Mi gadwes dair a rhoi dwy i Wmffre.
Roedd hynny’n ardderchog, nes iddi ddwad yn bwnc o fwyd iddyn nhw.

Mae cael digon o brofant[10] i gymint ag oedd gen i o wningod yn dipyn o
beth. Mi weles ei bod yn haws dal piwied i slumod na hynny. Cynghorwn
bawb i gadw slum yn lle gwningen, yn enwedig gan fod rheswm arall tros
ei gadw y cai sôn amdano eto.

O’r diwedd darfu gwningod y bechgyn. Doedd gan neb yr un i gynnyg i mi,
ac yr oedd pawb eisio slum. A doedd hi ddim yn deg gwerthu rhai slumod a
rhoi’r lleill. Y peth y methe plant ei ddallt oedd, ymhle y cawn i ’r
holl slumod yma, ac yr oedd Sec wedi addo peidio â deyd, na gwerthu rhai
ei hun, ar draul colli ei damed. Felly, mi gefes, rydwi’n meddwl, y peth
mae nhw’n ei alw’n “patent” ar slumod, er nad ydwi ddim yn siwr mod i’n
dallt y peth yn iawn. Er mwyn bod yn siwr, mi ofynnes i John Roberts, y
post, ar y ffordd un diwrnod. Mae o’n giamstar ar y pethe yma, medde
nhw.

“John Roberts,” medde fi, “bedi ‘patent’?”

“I be wyt ti’n gofyn, Nedw, ngwas i?” medde fo’n reit glên.

“Rydwi’n meddwl, os nad ydwi’n methu, mod i wedi cael patent ar slumod,”
medde fi.

“Mae’r Brenin Mawr wedi cael patent arnyn nhw ymhell o dy flaen di, Nedw
bach,” medde John Roberts, yn gwynfanus, a throdd ar ei sawdl.

Dydwi ddim yn siwr eto, felly, o’r peth; ond does dim i’w neud ond deyd
wrth y bechgyn mai gen i mae’r patent, a chadw’n ddistaw ynghylch ei
ystyr o. Roedd hi wedi mynd, o dipyn i beth, i mi rannu ’nghinio efo
Sec, a phan fydde pawb o ’nghwmpas i ar ganol dydd, a’r farchnad yn o
boeth, fe gai Sec y cinio i gyd. Bob yn dipyn roedd graen go dda yn
dechre dwad ar ei wyneb, a minne’n gwerthu’r slumod am y pris ucha’n
bosib,—pensel lâs, neu feipen, neu addo cnau daear, a phethe felly.

Yn sydyn un diwrnod darfu’r slumod hefyd. Methodd Sec â dwad o hyd i’r
un yn unman. Wyddwn i ar y ddaear beth i’w neud, a minne wedi cael lot o
faip ac addo cnau daear ar dryst, ac Wmffre a fi wedi eu bwyta nhw, neu
neud lanterni maip. Ac am y feipen ges i gan Willie Ann Huws, roedd
honno’n ddigon maint i neud lantar i ffitio post llidiard y Plas.

Un min nos, a minne’n cysidro dros yr amgylchiade, â ’mhwys ar wal y
buarth, pwy a ddaeth heibio ond Sec.

“Ne-e-edw,” medde fo, “mi-i w-w-wn i ym-ym-mhle mae sy-slumod.”

“Ymhle?” medde fi.

A dene fo’n deyd ei fod wedi gweld rhai’n dwad allan y nosweth honno o
seilin yr ysgol, yn ymyl y gloch. Ond sut i gael i’r seilin oedd y
cwestiwn. Mi gofiodd Sec am y peth mae nhw’n alw’n fanol,[11] uwch ben y
cloc mawr yn yr ysgol, a’r llall uwchben y bôrd y mae’r scŵl yn sgwenu
arno.

Bore drannoeth wedi gweld Wmffre, dyma fi’n cyhoeddi y bydde gen i slum
bob un cyn nos i bob un yr oeddwn i yn ei ddyled, ac un am ddim i unrhyw
un o’r plant a’i cymere fo ar fy nhelere i. Roedd y lle yn fyw i gyd yn
syth. Ganol dydd, pan oedd y plant yn mynd allan, mi slipiodd Wmffre a
fi i’r cwpwr llyfre, ac mi addawodd Sec fod yn ddistaw. Dene bawb allan,
a’r rhai oedd yn bwyta yn yr ysgol yn ol at eu cinio, a Sec yn bwyta fy
nghinio i reit ddistaw. Toc, mi gliriodd pawb, a dene ni’n dau o’r
cwpwr, a dringo ochor y cloc mawr, i’w dop, yna oddiyno’n codi caead y
manol, ac i mewn i’r seilin. Doedd gennym ni ddim llai nag ofn, oherwydd
dene “shiw” mawr yn y seilin cyn gynted ag yr aethom i mewn. Wedi cau’r
caead dene dwllwch dudew. Roedd gennym ni focs o fatshis, gawsom ni gan
Sec. Un da am ddwad o hyd i bethe felly ydio. “Hei,” medde Wmffre, “dyma
un,” ac i’w boced â fo, slum braf iawn. Erbyn amser canu’r gloch,
roeddem ni wedi dal naw. Cyn inni feddwl am ddwad i lawr, dene’r gloch
yn canu, ac i mewn â’r plant. “Rwan am y telere,” medde fi wrth Wmffre,
“i’r un sydd eisio slum am ddim. Os meder un ohonyn nhw ddal hwn, mi
caiff o.” Mi godes y caead yn ddistaw bach. Yr oedd Standard I. bron
odanom ni, ac mi luchies y slum i’w canol nhw. Dene sgrech fyddarol, a’r
scŵl yno. Roedd y sgrech yma’n ddigon hyd yn oed iddo fo ei chlywed. Mi
glywen y scŵl yn gofyn yn wyllt,—“What’s this?”

Ddeydodd neb air am funud, ond toc dyma lais Sec,—“A-sy-sy-sy-slum
sy-syr, a-slumsyr.”

Dene’r tro cynta erioed i neb glywed Sec yn yr ysgol yn ateb cwestiwn yn
gywir.

“‘Bat,’ you mean,” medde’r scŵl yn wyllt.

“N-n-o-o b-a-a-at, sy-sy-sy-slumsyr,” medde Sec.

Gofynnodd y scŵl pwy ddaeth â fo. Wydde neb ddim, ond gan fod gan Sec
rywbeth od bob dydd yn yr ysgol, edrychodd pawb arno fo.

“Come out,” medde’r scŵl, ac aeth â fo at ei ddesc, ac mi cadwodd yno
nes cael amser i’w ddyrnu, a thaflodd y slum allan.

Safodd Sec fel dur heb glepian, a gwelsom ninne na thale hi ddim iddo fo
gael ei gweir am ddim byd. A gwyddem mai ei gweir gai o, o achos ni
chlepie Sec ddim arnom ni.

Tarawyd ar gynllun i’w achub o. Cerddasom fel cathod ar draws y seilin
at y manol arall, sy uwchben y bôrd y mae’r scŵl yn sgwenu arno. Mae
hwnnw ymhell oddiwrth y ddesc lle y safe Sec. Symudwyd y caead dipyn
bach o’r ffordd. Roedd Isaac y Graig wrth y bôrd yn gneud sym, a’r scŵl
y tu ol iddo. Methai Isaac neud y sym yma, a’r scŵl yn dechre malu ewyn.
Er mwyn ceisio tynnu sylw’r plant, dyma fi’n danglo slum yn eu golwg
gerfydd ei goes, ond ni sylwai neb gan fod Isaac yn methu gneud y sym.
Edrychai pawb yn fanwl ar y bôrd, gan drïo ei helpu trwy siarad rhwng eu
dannedd, rhag ofn i rywun arall gael ei alw at y bôrd. Gan nad ydi’r
scŵl ddim yn clywed, ryden ni wedi dysgu, i gyd, siarad yn uchel, heb
symud ein dannedd na’n gwefuse. Methu gneud y sym ddaru Isaac, beth
bynnag, a dene “hold out” iddo fo. Pan oedd y ffon ar fin dwad i lawr,
mi blygodd Wmffre ar fy nhraws i weld, gan wasgu ar fy mrest, ac ar y
funud, pan drois i fy mhen i ddeyd wrtho am beidio, mi drôdd y slum gan
sgryffinio fy llaw, a gollynges o heb yn wybod i mi fy hun. Roeddwn i
wedi bwriadu gollwng un ymhellach ymlaen, pan fydde cosb Sec ar
ddigwydd, er mwyn i’r scŵl weld nad oddiwrtho fo y doi’r slumod, ond nid
cyn hynny. Mi ddisgynnodd y slum yn union ar ben Isaac, ac wedyn
rhyngddo a’r scŵl, gan ddechre crafangu ei drowsus, a’i ddringo, a dene
sgrêch annaearol, a’r plant yn ferw i gyd. Chawsom ni ddim ond cau’r
caead, nad oeddem ni’n siwr fod pob llygad yn edrych tuagatom.

“What’s this again?” medde’r scŵl. Ni atebodd neb am funud, ond yn y
man, ynghanol distawrwydd mawr, dene ateb o’r pen arall i’r ysgol,
oddiwrth ddesc y scŵl,—

“A-sy-sy-slum, sy-y-r, slumsyr.”

Doedd dim posib bod Sec wedi taflu hwn, ac ar bwys hyn anfonwyd ef i’w
le heb ei guro am y llall chwaith. Mi ochneidiodd Wmffre a fi yn rhydd
wedi gweld arbed Sec rhag ei gosbi.

Roedd yr ysgol yn ferw, fel y deydes i. Ond o ble doi’r slumod? Aeth y
scŵl a Joseph y Titshiar allan, wedi cysidro tipyn. Roeddem ni’n gweld
tipyn o’r symudiade trwy hollt bach yng nghaead y manol. Wedi iddyn nhw
fynd, dene fi’n codi’r caead ac yn edrych i lawr. Gwelodd pawb fi, a
dene tshiars i mi, o achos gwelsant yn syth delere’r addewid am slum yn
rhad,—eu dal wrth iddynt ddisgyn o’r seilin. Mi wyddwn na ddeyde neb
wrth y scŵl, o achos yr oedd rhai o fechgyn cryfa’r ysgol ymysg y rhai
oedd wedi rhoddi maip a phethe erill i mi am slumod ar dryst, a gwae neb
a achose iddyn nhw golli eu slumod.

Dene’r scŵl a Joseph yn ol yn y man, efo rhywbeth fel tri neu bedwar
coes brwsh wedi eu rhwymo wrth ei gilydd. Caeais y caead pan weles i
nhw’n dwad. Roedd yn hawdd gweled eu hamcan,—edrych oedd y caead yn
peidio â bod wedi symud, a’r slumod yn dwad y ffordd honno. Eisteddodd
Wmffre a fi ar y caead yn syth. Dene’r ffyn i fyny, a’u taro yn y caead
o hyd ac o hyd, ond symude fo ddim. “Mae honene’n iawn beth bynnag,”
medde’r scŵl. “Mi drïwn y llall rwan.” Roedd cymint o ferw a sŵn yn yr
ysgol erbyn hyn, fel nad oedd yn anodd i Wmffre a fi redeg ar draws y
seilin at y llall heb i neb ein clywed ni. Ac erbyn iddyn nhw gyrraedd a
dechre curo’r caead hwnnw, roeddem ni ill dau yn eistedd yn gyfforddus
arno. Dene ddistawrwydd mawr. Y cwestiwn i’r plant a ninne oedd, beth
wnai’r scŵl.

“Wel,” medde fo, “does dim amser i chwilio mwy tan ar ol yr ysgol. Awn
ymlaen yrwan efo’n gwaith.”

Ac ymlaen yr aethant, a ninne’n dau reit falch fod yr hen Sec yn sâff,
yn enwedig gan inni fod o dipyn o fantes iddo ymgodi, trwy fod yn achos
iddo ateb un cwestiwn yn gywir yn yr ysgol unweth yn ei oes.

Pnawn Gwener oedd hi. Cyn gynted ag y cawsom le, i lawr â ni twy’r
manol, ac efo ochor yr hen gloc mawr, ac allan trwy ffenest adre.
Llwyddasom i dalu ein dyled o slumod i bawb oedd wedi prynu rhai, cyn
iddi dwllu’r nosweth honno.

Roeddem ni’n meddwl mai ni fase popeth fore Llun, wedi llwyddo i gael
slumod i gymint o’r bechgyn, ac wedi dwad o hyd i stoc newydd, a
pharatoisom ein hunen ar gyfer y ganmolieth, trwy ofalu dwad i’r ysgol
wedi molchi ein gyddfe, ac iro’n sgidie. Meddyliem wrth glywed y bechgyn
yn canmol, y tynne hynny sylw’r merched. A dene lle byddem ni i dderbyn
eu sylw nhw yn smartiach na neb. Ond siomwyd ni yn fawr. Chawsom ni mo’r
croeso a ddisgwyliem o lawer. Yn wir, edrych yn bur ddigalon yr oedd y
bechgyn i gyd, bob tro y deuem i’r golwg, yn enwedig arna i, ac ambell i
un â golwg drymllyd iawn ar ei wyneb,—yn enwedig o’r rhai oedd wedi
prynu slum am wningen.

Methem ddallt pethe am dipyn, ond fuom ni ddim yn rhyw hir iawn heb
ddwad i’r gole,—y slumod oedd i gyd wedi marw, a’r gwningod gennym ni,
a hynny oedd yn spâr o’r maip.

Wedi bod dan y digalondid hwn o eiddo’r bechgyn am dipyn, a chysidro yn
o drwm, mi ddarun deimlo mai braidd yn ormod o faich i’w cadw oedd y
gwningod, yn enwedig pan fydde’r bwyd yn brin. Felly, fe’u gwerthwyd i’r
bechgyn yn ol, ar y peth mae pobol yn alw yn delere rhesymol. Y fargen
ore gês i, oedd darn o gŵyr crydd gan Shoni’r Pentre am ei wningen o yn
ol.

A dene’r rheswm arall y sonies amdano, pam ei bod hi’n fwy manteisiol
cadw slumod na gwningod,—mae nhw’n siwr o farw cyn i chi lân flino
arnyn nhw.

Fel y gallsech feddwl, dipyn yn dwyll ydi hi ar farchnad Sec yrwan. Ond
wedi’r cwbwl, wnaiff hi mo’r tro iddo lwgu, a ’does dim i neud ond imi
ddal i rannu fy nghinio efo fo, nes i’r cnau daear fod yn addfed.
Rydwi’n dallt arno fo nad oes mo’i well am eu ffeindio nhw.

-----

[8] Ystlum=_bat_.

[9] Ddelar=_dealer_.

[10] _Provender._

[11] _Manhole._



                          XI.—GWYNT Y DWYRAIN.


Fe wydde mam yn dda am wynt y dwyrain ers tro byd, o achos y fo oedd yn
dwad â’i bronteitus hi, ond wydde hi fawr tan yn ddiweddar am y dwyrain
ei hun, ond bod y doethion yn byw yno, a’r seren honno wedi cychwyn
oddiyno. A’r unig anhawster y gweles i mam yn ei gael o’r Beibil erioed
oedd paham yr oedd y doethion yn hoffi byw yn y dwyrain, a’r fan honno
yn gartref i’w wynt o. A hefyd sut na fase’r Beibil yn deyd rhywbeth eu
bod nhw’n diodde oddiwrth y fronteitus. O achos, medde hi, roedd yn
amhosibl i bobol fyw yng nghanol gwynt y dwyrain heb y fronteitus, os
oedd, pobol fel hi, mor bell o’r dwyrain, yn dioddef oddiwrtho. Cododd y
mater yn yr Ysgol Sul unweth, a gofynnodd y cwestiwn i’r hen Bitar, ei
hathraw, neu Pitar Isaac Roberts, fel y bydd hi yn ei alw,—mae mam yn
rhoi ei enw llawn ar bawb yn wastad. Ateb Pitar Isaac oedd nad oedd
bronteitus ddim wedi codi yn y cyfnod hwnnw, mai’r cyntaf yn y byd i’w
gael o oedd Teitus yr apostol, y dyn y sgwennodd Paul ato, a phobol
erill wedi ei gatshio oddiwrtho. Ameu’r esboniad ene braidd yr oedd
nhad, ond nid oedd waeth iddo dewi. Y mae gair yr hen Bitar yn ddeddf i
mam bob amser.

Doedd dim yn blino mam yn debyg i wynt y dwyrain, a’r syndod ydoedd ei
bod yn dallt mai gwynt y dwyrain oedd hi pan nad oedd gwynt o gwbwl. Mi
fum i lawer gwaith yn sefyll allan nes bod wedi rhynnu, yn dal pluen i
fyny yn fy llaw i edrych oedd ene wynt pan oedd mam yn y tŷ yn cwyno
oddiwrth y fronteitus, ac yn beio gwynt y dwyrain, a’r bluen heb symud
dim.

Pan oedden ni’n byw yn yr hen dŷ roedd mam yn gwybod yn iawn cyn i’r
fronteitus ddechre ymha gyfeiriad yr oedd y dwyrain, oherwydd ’roedd hi
wedi sylwi lawer gwaith mai pan chwythe’r gwynt ar draws y Foel Fawr y
bydde’i brest hi’n gaeth. Doedd hi’n cymyd fawr o sylw o’r caethiwed a
gai hi pan chwythe’r gwynt dros Lwyn y Brain, a hithe’n glychu ei thraed
wrth ddwad o’r capel. Ac oherwydd fod ein tŷ ni yn gwynebu’n union tua’r
Foel Fawr y bu raid inni ei adael. Yr oedd hynny ychydig ar ol i Huw fy
mrawd fynd i Ffrainc. Y mae ein tŷ ni rwan yr ochor arall i’r Foel.

Tŷ unig ydi’r tŷ newydd, yng ngodre’r Foel, ddim ymhell o’r “_Black
Crow_.” Ac ar nosweithie twyll y gaea ’does dim i’w glywed ond y gwynt
yn chwythu yn y derw yn nhop yr ardd, a’r pistyll bach sy’n ymyl y cyt
moch, a sein y “_Black Crow_,” yn cwyno wrth ysgwyd yn y gwynt. Ac am yn
hir ar ol inni ddwad yno, doedd dim gwynt yn taro’r drws fel yn yr hen
dŷ. A da oedd hynny, neu mi fase’r drws yn agor o hyd, oherwydd ’does
dim ond darn o glicied arno fo, a honno’n agor ar ddim.

Un nosweth yn y gaea ene, doedd dim byd yn y capel, a doedd Abram y Fron
ddim yn digwydd cael ffitie. Y tŷ agosa i ni ydi’r Fron, ac y mae Abram
yn diodde bob mis oddiwrth ffitie. A’r adeg honno y fi sy’n gorfod
rhedeg i’r Llan,—pellter o ddwy filltir,—i nol asaffeta i rwbio cledre
ei ddwylo a gwadne ei draed o. Peth da, medde nhw, ydi asaffeta, ond i
chi ei gymyd drwy eich dwylo a’ch traed. Gwn i mai peth ofnadwy ydio
wrth ei gymyd drwy’ch ceg. Lawer gwaith y rhedes i nol asaffeta i Abram
pan oedd y glaw yn patshio, a sein y “_Black Crow_” yn sgrechian, a’r
nos mor dwyll nes i chi fethu gweld eich llaw. Ond fel roedd y gore,
doedd Abram ddim yn sâl na dim byd yn y capel y nosweth yma, fel yr oedd
hi’n nosweth i mewn arna i.

A’r nosweth yma, hefyd, roedd pawb gartre. A lle digalon sydd yma ar ol
hanner awr wedi saith yrŵan, yn enwedig pan nad ydi Huw ddim gartre, ac
Wmffre a fi yn byw ymhell oddiwrth ei gilydd. Am saith o’r gloch ar
nosweth fel hyn mae’r swper wedi ei glirio, a’r plant lleia yn eu gwlâu.
Wedi golchi’r llestri y mae nhad a mam yn tynnu eu cadeirie at y tân,
neu’n hytrach mae nhad yn tynnu’r sgrîn, a mam y setl, ac os ydw inne am
dân, ’does dim i’w neud ond eistedd ar y blocyn. Dechre smocio ac edrych
i’r simdde y mae nhad fel rheol, a dechre gweu neu wnïo y mae mam, a
gorffen trwy bendympian.

Ar ol i mam olchi’r llestri y nosweth hon, mi gymerodd pawb eu
lle,—nhad â’i draed ar y ffendar, yn smocio a gneud cyrls o’r mŵg, a’u
gwylio’n toddi i’w gilydd, ac yna’n mynd yn un llinynne i fyny’r simdde.
Arhosai nes i’r llinyn ola ddiflannu, yna mi ddechreue wedyn ar neud y
cyrls mŵg, a hynny am allan o bob hyd, heb gofio o gwbwl fod yr amser yn
mynd. Yr ochor arall roedd mam yn gweu, ac am dipyn clywid sŵn y gweill
yn clician yn gyson, yna’n arafu, a sefyll. Edrych trwy’r Beibil yr
oeddwn i am adnod â’r gair “echdoe” ynddi. Dene’r tasg buddiol a gawsom
gan yr athraw y Sul cynt. Ac am y tro roedd Wmffre a fi wedi penderfynu
trio. Gwyddwn pam fod y gweill wedi sefyll heb imi edrych. Dene lle
roedden nhw ar lin mam, yn suddo’n ddyfnach, ddyfnach i’w glin hi o hyd,
a’i dwylo yn llithro o dipyn i beth heibio ei hochor, a’i phen yn dwad i
lawr gam a cham yn gyson, nes dwad i fan neilltuol. Yna, mi golle’r
balans, ac i lawr â fo. Arfer mam ar ol y sgytiad yma bob amser ydi
deffro’n sydyn, edrych arna i a ydwi’n gneud rhywbeth o’i le, yna cau ei
llygid, a’i phen yn cychwyn ar yr un daith wedyn. Dan swyn y symud yma
ar ben mam, mi anghofies chwilio am y gair “echdoe.” Ac roedd nhad yr un
mor ddiddorol a hithe. Pwysai ef ei benelinoedd ar ei benneglinie,
edrychai’n syn i fyny’r simdde, ac o amgylch ei ben yr oedd yr awyr yn
llawn cyrls mŵg, yn troi’n llinynne. Yr unig sŵn oedd tipiade’r cloc
bach, yr oedd y cloc mawr wedi stopio ar ol inni ddwad i’r tŷ newydd,
gan fod nhad wedi methu ei osod o’n union,—a gwich ysgafn fel dechre
bronteitus o frest mam. Ni chlywech hi’n anadlu o gwbwl. Dene beth ydwi
wedi sylwi lawer gwaith, nad ydech chi byth yn clywed pobol yn anadlu
pan fyddan nhw yn pendympian. A hefyd sŵn “w-pŵ, w-pŵ, w-pŵ,” araf o
gyfeiriad nhad, wrth y gwaith pwysig o neud cyrls mŵg. Wrth glywed y
wich yn dechre ym mrest mam, dechreues betruso beth oedd cysylltiad
gwynt y dwyrain â’r fronteitus tybed. Mi chwilies bob man yn esboniad
Idrisyn o dan y geirie “dwyrain,” “doethion,” “gwynt,” a “seren,” ymhob
lle y cofiwn eu bod yn y Beibil, ond ches i ddim goleuni. Dene’r fantes
y mae’n debyg o roddi chwilio am eirie fel “echdoe,” ac felly ymlaen, yn
dasg yn yr Ysgol Sul, oherwydd wyddoch chi byth pa bryd y daw gwybodaeth
o’u lle nhw yn y Beibil yn handi, fel ar adeg fel hyn i mi. Yna eis i
edrych y geiriadur—Geiriadur Dr. Davies—dan yr un geirie, ond doedd
dim i’w gael am gysylltiad gwynt y dwyrain â bronteitus. Yna eis i
edrych dan yr enw Teitus, ond doedd dim byd ar hwnnw chwaith. O dipyn i
beth eis i feddwl ymhle yr oedd y dwyrain tybed. Ar fy nglinie ar gader
wrth ben y bwrdd yr oeddwn i ar y pryd, yn pwyso mhen ar fy nwylo a’m
penelinoedd ar y bwrdd. Yna eis i feddwl am y doethion, ac ymhen tipyn
mi welwn y seren yn codi yn y dwyrain, a’r doethion yn dwad yn un haid
ar ei hol hi. Haid o bobol dduon oedden nhw, yn rhuthro ar draws ei
gilydd, yn ddigon i ddychrynnu gwraig â babi bach ganddi, a rhedeg am y
cyntaf roedden nhw am Fethlehem. Ar y funud pan oedden nhw yn nesu at y
lle, dene ddyrnod annaearol imi ar bont fy nhrwyn, nes imi weld miloedd
o sêr, ond dim un doethyn yn eu dilyn. Neidiodd mam ar ei thraed, a phan
welodd beth oedd yn bod, dene hi’n dechre llefaru. Wedi bod yn
pendympian oeddwn inne a mhen i wedi llithro’n sydyn o’n nwylo gan
ddyfod i gyfarfyddiad heb ei ddisgwyl â Geiriadur Dr. Davies. Wedi imi
olchi nhrwyn oddiwrth y gwaed, safodd mam uwch fy mhen yn traddodi
araith rymus ar beryglon pendympian fel gwendid ym mywyd bachgen
gobeithiol deg oed. A’r unig sŵn a glywn pan oedd hi’n cael ei gwynt ati
oedd tipiade’r cloc bach, y wich fach yn ei brest hi, ac “w-pŵ, w-pŵ,
w-pŵ,” cyson o gyfeiriad nhad. Ar adeg fel hyn pan fydd y wich fach yn
dechre, feder mam byth siarad yn hir, a meddiennes inne fy hun mewn
amynedd, gan wybod y bydde popeth wedi llonyddu’n fuan. Mi orffenes
olchi nhrwyn ac aeth hithe i’w lle i weu, a dene gliciade’r gweill yn
dechre mor gyson â thipiade’r cloc. O dipyn i beth arafai’r gweill, a
chodes inne mhen ar ol y gwaith ofer o chwilio am “Teitus” i wylio pen
mam yn dechre gwyro o gam i gam nes dwad at y dibyn, yna,—i lawr. Bob
tro y digwydde hyn, neidiai i fyny, ac mi ddechreue eilweth ar y gweu,
ac yna trwy’r un cwrs drachefn. Ar ol y trydydd cwymp o eiddo ei phen
ysgydwodd ei hun, a gofynnodd i nhad yn hanner chwyrn, fel tase hi wedi
digio wrtho am beidio â’i hateb eyn iddi hi ofyn iddo,—

“Edward, ymhle mae Belgiam?”

Cymerodd nhad ei amser i neud hanner dwsin o gyrls mŵg, ac edrych arnyn
nhw’n diflannu’n llinynne,—

“T’wnt i Wrecsam,” medde fo.

“Sut ydech chi’n deyd hynny?” medde mam yn hanner blin.

“Wel, trwy Wrecsam mae pawb yn mynd yno,” medde nhad, a dechreuodd
gyrlio mŵg wedyn.

Dechreuodd y pendwmpian drachefn, a dechreuodd y pen wyro, a gwyro bob
yn fodfedd, a modfedd, nes cyrraedd y jerc. Neidiodd mam i fyny
eilweth,—

“Edward,” medde hi, “ymhle mae Wrecsam?”

“T’wnt i Gaer,” medde nhad, ac yn ei flaen i blethu mŵg.

“O!” medde mam, a bodlonodd.

Dechreuodd mam weu wedyn am ysbaid, nes ei gorchfygu gan y pendympian,
ac i lawr â’r pen,—hyd y jerc. Yna neidiodd mam, trodd at nhad, a
gofynnodd,—

“Ond Edward, ymhle mae Caer?”

“T’wnt i Wyddgrug,” medde nhad, gan ddal gyda’r gwaith cyrlio mŵg.

Ond yr oedd mam wedi deffro drwyddi erbyn hyn. “Nid t’wnt i le’n y byd
ydwi’n feddwl, Edward,” medde hi, “ond prun ai’r ffordd ene, neu’r
ffordd ene, neu’r ffordd ene, neu’r ffordd ene, y mae Belgiam,” gan
bwyntio at y tân, y drws, y grisie, a’r ffenest, yn ei thro, gan fod y
pedwar hyn un ymhob ochor i’r tŷ.

Deffrôdd hyn nhad hefyd. Trodd ati’n bwyllog. Edrychodd arni’n hir a
syn, a mam â’i phen ar un ochor fel Robin Goch yn chwilio am beryg, a’i
bys yng nghornel ei cheg yn disgwyl wrtho.

“Wel, Ann,” medde fo, “fedra i ddim deyd, o achos tydwi ddim yn siŵr o
gyfeiriad llefydd o’r tŷ newydd yma.”

Y gwir ydi na fu o erioed yn siŵr, o’r hen dŷ chwaith, ond bod yn dda
cael rhyw esgus i mam pan fydde hi wedi deffro’n derfynol o’i
phendympian.

“Y cwbwl wn i,” medde fo, “ydi fod Belgiam ‘rywle yn Ffrainc,’ fel y
bydd y bechgyn yma’n deyd.”

Doedd hyn ddim yn ddigon i mam. Roedd arni eisio gwybod i ba gyfeiriad
yr oedd Belgiam o’r tŷ. A doedd na byw na marw na cheisiwn i gael allan
hynny iddi. Ond wedyn peth annifyr i fachgen yn Standard IV. ydi
bradychu ei anwybodaeth trwy chwilio’r map am le y gŵyr pawb amdano.

Ond ’roedd mam yn benderfynol o gael gwybod nes i lythyr ddwad ryw fore
oddiwrth Huw. Yna collodd bob diddordeb ym Melgiam. Roedd o wedi mynd i
rywle arall medde fo yn hwnnw, na wyddem ni ddim amdano. Pwy alwodd y
min nos hwnnw ond Mr. Edwards y gweinidog, ac y mae mam yn dangos pob un
o lythyre Huw iddo fo. Wedi iddo ddarllen y llythyr, dyma mam yn troi
ato fo, ac yn gofyn, “Lle ’rydech chi’n deyd y mae Huw, Mr. Edwards?”

[Illustration: “EDWARD, YMHLE MAE BELGIAM.”]

“Yn yr un fan, ym Melgium mae’n siŵr,” ebe Mr. Edwards.

“Ai yn Ffrainc y mae’r Pink ene hefyd?” medde hi.

“Pa Pink, Mrs. Roberts?” ebe Mr. Edwards.

“Dydio’n deyd ei fod o mewn rhyw le o’r enw Pink,” medde mam. Methodd
Mr. Edwards ei dallt hi am funud, nes imi ddangos y frawddeg iddo lle y
dywedai Huw, “don’t trouble about me, I am in the pink.”

Bu Mr. Edwards yn hir yn trio dallt y frawddeg, â’i gefn atom. Yna trodd
atom â’i lygid yn gochion, gan ddeyd mai lle ym Melgium yn ddiau oedd y
Pink yma.

“Mr. Edwards,” medde mam, “ymhle mae Belgiam?” Dywedodd ynte mai yng
ngogledd Ffrainc. “Ond yr hyn sydd arna i eisio wybod,” medde mam, “ydi
prun ai’r ffordd ene, neu’r ffordd ene, neu’r ffordd ene, neu’r ffordd
ene y mae o?” gan gyfeirio at bedwar pared y tŷ.

“Dowch i’r drws, Mrs. Roberts,” ebe Mr. Edwards, “welwch chi’r ceiliog
gwynt acw ar dô’r ‘_Black Crow_?’”

“Gwela,” medde mam.

“Welwch chi’r llythrenne N. E. S. W. acw o’i gwmpas o?” medde fo.

“Gwela,” medde mam.

“Wel,” ebe Mr. Edwards, “pan y mae pen y ceiliog bron yn cyfeirio tua’r
E. yna, gan droi oddiwrth yr S., y mae o’n cyfeirio tua Belgium.”

“Be mae’r ‘E’ ene yn ei feddwl?” medde mam.

“‘East,’ neu yn Gymraeg ‘Dwyrain,’” medde Mr. Edwards.

“Y dwyrain! Pam fod y ceiliog â’i ben weithie i’r dwyrain?” medde hi.

“Wel,” medde Mr. Edwards, “pan fo’r gwynt yn chwythu o’r dwyrain, y mae
pen y ceiliog yn troi tuag yno.”

“Gwynt Belgiam ydi gwynt y dwyrain te?” medde hi yn wyllt.

“Ia, os mynnwch chi,” medde ynte dan wenu.

Gwelwodd mam, dechreuodd ei gwefuse grynu, ac aeth i’r tŷ. Gwelodd Mr.
Edwards fod y sôn am Belgium wedi ei chyffwrdd, ac aeth ymaith heb ddeyd
gair.

Ar ol swper y nosweth honno, aeth mam dros stori Mr. Edwards yn fanwl i
nhad. “Rwan, felly,” medde hi, “mae grât y gegin yma i’r gogledd; a’r
grisie i’r de; y ffenest i’r gorllewin; a’r drws i’r dwyrain, wedi’r
cwbl, fel yn yr hen dŷ. Pan y mae’r mŵg yn taro i lawr, gwynt y gogledd
ydi hwnnw, pan y mae’r gwynt i’r drws, gwynt y dwyrain ydi hwnnw, pan y
mae’r ffenest yn ysgwyd, dene wynt y gorllewin, ac yr wyt ti ac Isaac,
Nedw, yn mynd tua’r de i’ch gwlâu.”

“Os felly,” medde fi, “mae ffenest fy llofft i i’r dwyrain. Mae’n dda na
dydech chi ddim yn cysgu yn y llofft honno efo’ch bronteitus.”

Bu nhad yn smocio tipyn, a mam yn pendympian, ar ol yr ymgom yma. Yna
aeth pawb i’w gwlâu.

Erbyn y nosweth wedyn, roedd mam wedi cael diwrnod o gysidro, Ar ol
swper, dene hi’n gofyn reit sydyn i nhad oedd o’n peidio â ngweld i’n
llwytach nag arfer. “Oes genot ti boen yn rhywle, Nedw?” medde hi.

“Yr ydw i’n iawn,” medde fi. “Nhroed i ydi’r unig le gwan arna i.”

“Dydwi ddim yn siŵr o hynny,” medde hi, “mae gen i ofn fod yr hen lofft
ene uwchben y siambar yn rhy oer iti, machgen i. Ac y mae Isaac yn
pesychu tipyn yn ddiweddar. Mi newidiwn ni heno, eiff dy dad a finne i
honno, ac mi gewch chithe ddwad i hon uwchben y gegin.”

“Dydi gwynt y dwyrain ddim yn blino troed bachgen a’i brifodd drwy
syrthio o ben pren eirin. Chlywes i rioed fod y fronteitus ar draed
neb,” medde fi.

Ond, gan fod mam yn deyd, ’doedd dim arall i fod. Yr oedd un peth
cysurus yn y llofft newydd—wynebu’r gorllewin, cartre Jinny Williams,
yr oedd y ffenest, ac yr oedd yn fwy cyfforddus o lawer, a chysges hyd
yn oed ynghynt na nhad y nosweth honno, o achos chlywes i mono fo’n
chwyrnu. A ’doeddwn i’n clywed dim oddiwrth wynt y dwyrain oedd yn
chwythu i ddannedd ffenest y llofft arall.

Rywbryd ynghanol y nos, mi glywes nhad yn gweiddi, “Ann, Ann, lle rydech
chi?” heb neb yn ateb. Gwaeddodd nhad wedyn, a dene lais mam, annhebyg
iawn i’w llais hi hefyd, yn ateb yn fain, o’r pellter, “Yn y fan yma.”

Taniodd nhad fatshen, ac ymddengys iddo weld mam yn eistedd ar gader, yn
ei becon nos, ac wedi codi’r bleinds, yn edrych i’r twllwch dudew tua’r
dwyrain.

“Ann,” medde nhad yn floesg, “bedi peth fel hyn da?—eistedd yn y fan
ene berfedd nos yn edrych i’r twllwch, heb ddim ond eich becon nos
amdanoch!”

“O!” medde mam, yn yr un llais main, “methu cysgu roeddwn i, rhaid fod y
tipyn caws ene gawsom ni i swper wedi gneud drwg imi,—fedrai byth gysgu
ar ol caws,—a chan ei bod hi’n nosweth glos, mi ddois yma i edrych oedd
y wawr ar dorri, o achos mi gwelwn hi o’r ffenest yma gan ei bod hi’n
edrych tua’r dwyrain.” Ac yr oedd ei llais hi’n mynd yn feinach,
feinach, nes darfod yn lân ar y gair ola.

“Dowch i’ch gwely, Ann bach,” medde nhad, ynte mewn llais meinach nag a
glywes i rioed ganddo fo, o achos baswr ydio, “mae bod yn y fan ene â
gwynt y dwyrain ar y ffenest yn ddigon am y’ch bywyd chi. Ac mae arnai
ofn, Ann bach, y bydd hi’n hir, hir, hir iawn cyn i’r wawr yr ydech
chi’n disgwyl amdani dorri.” A meinach, meinach yr âi ei lais ynte
hefyd, nes darfod yn lân ar y gair ola.

Y peth nesa a glywn i oedd nhad yn diffodd y gannwyll, a’r ddau yn y
twllwch, heb ddeyd gair wrth ei gilydd yn torri i sobian yn
ddilywodreth. A’r unig reswm y medrwn i ei gasglu dros hynny oedd fod y
nos mor dwyll, a’r wawr mor hir yn torri. Rhyfedd fod dau mewn oed a
synnwyr hefyd yn beichio crïo am fod y wawr yn hir yn torri.

Wrth frecwest bore drannoeth, gofynnodd mam i mi a oeddwn yn teimlo’r
llofft uwchben y siambar yn glos iawn pan oeddwn yno, ei bod hi’n dechre
credu’n wir fod gair Dr. Huws yn ddigon iawn mai amod iechyd oedd i bawb
agor eu ffenestri y nos, ei bod hi ers tro yn cael cur yn ei phen yn y
boreue, ac yn mynd oddiwrth ei bwyd yn arw.

“Wel,” meddwn inne, “dene’r peth gore yrwan y mae pawb ar eu lwfans.”

“Wedi’r cwbwl,” medde mam, “does dim tebyg i awyr iach.”

Y diwrnod hwnnw gwelwn fod pen y ceiliog tua’r “E,” ac er hynny nad oedd
fawr o wich ym mrest mam.

Wrth fynd i’n gwlâu medde hi wrthai, “Nedw, gofala agor dy ffenest heno.
Mi agorwn inne’n ffenest hefyd.”

“Gwynt y dwyrain ydi hi,” medde fi, “ac y mae’n beryg i chi gael
bronteitus.”

Gwelodd mam fod gwaith esbonio. Daeth yn ei hol, gosododd y gannwyll ar
y bwrdd, ac eisteddodd ar y setl. Yn ei gweld fel hyn, eisteddodd nhad
ar y sgrin, a minne ar y blocyn.

“Wyddoch chi,” medde mam yn bwyllog, “rydwi wedi meddwl llawer am y
peth, ac wedi dwad i’r penderfyniad nad oes a wnelo gwynt y dwyrain ddim
â’r fronteitus, o achos dydio ddim arnai weithie pan y mae gwynt cry o’r
dwyrain. Ond rhaid i chi drwsio’r glicied, hefyd,” medde hi wrth nhad,
“cyn i storm ohono fo ddwad.”

“Mae pawb yn meddwl,” medde fi, “mai gwynt y dwyrain sy’n codi
bronteitus.”

“Dydio ddim yn wir,” medde mam yn bendant. “Dene Dei Hurt yrwan sydd yn
stesion y dre, yn dwad yno o’i ben a’i bastwn ei hun efo’i chwisl. Mae
o’n chwislo, ac y mae’r trên ymhen tipyn yn mynd. Mae o’n meddwl fod y
trên yn mynd am ei fod o’n chwislo, ond mynd wnae’r trên prun bynnag a
fydde Dei yno druan ai peidio. Ac y mae hi yr un fath efo’r fronteitus
yn siŵr iti. Weithie mi ddaw pan fydd gwynt y dwyrain yn chwythu, ac
weithie mi ddaw hebddo.”

Cysgodd mam y nosweth honno â gwynt y dwyrain yn chwythu ar ei gwyneb, a
chododd yn llawen bore drannoeth, am nad oedd wedi rhoi’r fronteitus
iddi.

Ymhen diwrnod neu ddau dyma lythyr oddiwrth Huw yn deyd ei fod yn mynd i
gael “leave” ymhen yr wythnos, ac y bydde fo adre nos Lun wythnos i’r
nesa. Ac yr oedd mam uwchben ei digon. Parhaodd y gwynt i chwythu o’r
dwyrain ar hyd yr wythnos honno, a mam yn y drws y rhan fwyaf o’r dydd,
a’r awel yn chwythu ar ei gwyneb drwy’r nos, heb iddi gael bronteitus o
gwbwl.

Daeth y diwrnod i Huw ddwad adre, ac yr oeddwn i wedi disgrifio i mi fy
hun lawer gwaith sut y doi o i’r tŷ. Pan ddoi Huw i mewn, agorai’r drws
bob amser yn sydyn ac yn llydan, a doi fel awel o wynt ar ddiwrnod
heulog a gwên bob amser ar ei wyneb. Ddaru chi sylwi fod yn ddigon hawdd
nabod cymeriad dyn oddiwrth y ffordd y mae o’n agor y drws a dwad i’r
tŷ? Ond ’does gen i ddim amser i ddeyd chwaneg ar y pen ene heddyw.

“Nedw,” medde mam pan ddois i o’r ysgol, “dos i’r Llan i edrych am dun
salmon reit neis, fedrai ddim meddwl am ddim mwy wrth fodd Huw.” Ac mi
redes inne ynghynt na chynted gallwn, ac mi ddois â thun salmon reit
helaeth gan nad oedd salmon wedi bod yn y tŷ ers blynyddoedd, er bod ei
gael yn tolli ar ein lwfans cig ni. Bu mam trwy’r pnawn yn gneud cacen
datws, a chacen gri, pethe wrth fodd Huw.

Daeth nhad o’r gwaith, ymolchodd, a rhoddodd ei ddillad gore. Dydio byth
yn gneud hynny ganol wythnos ond ar adeg cyfarfod pregethu, neu ddiolch
am y cynhaea, neu ginio clwb—dydio byth yn dwad i de parti’r Ysgol Sul.
Ac arhosodd heb ei dê, dim ond rhyw damed bach i aros pryd.

Daeth y nos, ac un dwyll oedd hi, ac yr oedd gwynt y dwyrain wedi codi’n
storm er y bore. “Mae ene un cysur,” medde mam, “mae o’n cael y gwynt
o’i du i ddwad dros y môr ene,”—ac aeth i’r drws. Doedd dim i’w glywed
ond y gwynt yn llwyn top yr ardd, a sein y “_Black Crow_” yn sgrechian
yn wyllt. Aeth nhad i lawr y ffordd dipyn. Yna ymhen ennyd taflodd mam
ei ffedog dros ei phen ac aeth ar ei ol, a minne’n aros yn y tŷ rhag i’r
gath fynd ar y bwrdd. Daeth y ddau yn eu hole, ac arosasant fel yr
oeddynt am ychydig. Tynasant eu pethe yn y man, ac eisteddodd nhad ar y
sgrîn a mam ar y setl. “Wyddoch chi be,” medde nhad, “mae gwynt y
dwyrain yma’n oer hefyd.”

“Ddim mor oer chwaith ag y base rhwfun yn meddwl,” medde mam, a chododd
i fynd i’r drws wedyn. Caeodd o wedi syllu’n hir i’r twllwch, a daeth yn
ol. Ymhen tipyn dene’r drws yn agor yn sydyn, nes taro yn erbyn y pared.
“Huw!” medde ni ill tri ar unweth. A dene’r plant lleia, oedd yn eu
gwlâu, i gyd ar eu traed. Ond doedd yno ddim heblaw pwff o wynt, a daeth
“bŵ-ŵ-ŵ-ŵ” mawr i’r tŷ efo fo. Chwythodd yr almanac oddiar y wal, a
diffoddodd y gannwyll, cyn i neb fagu calon i gau’r drws. Yn y man codes
i a chaues o. A bu gwrando distaw, maith, tan syllu i’r tân. “Bŵ-ŵ-ŵ-ŵ,”
medde gwynt y dwyrain, yn awr ac eilweth mewn llais bâs dyfn o dan y
drws, ond ni chlywem ddim sŵn arall yn unman.

Ddaeth Huw ddim y nosweth honno, ac aeth pawb i’w gwlâu heb y salmon.
Wedi meddwl, doedd neb yn hidio rhyw lawer am salmon. Ac er ei bod yn
storm, cadwodd mam y ffenest yn agored trwy’r nos i gael awyr iach. A
medrodd ddisgrifio i’r dim fel y torrodd y wawr o dipyn i beth fore
drannoeth. Un iawn am ddisgrifio ydi hi pan fydd hi mewn hwyl. Ac ni
chlowyd y drws chwaith y nosweth honno, ac yr oedd yn rhaid i rywun
godi’n barhaus i’w gau, am fod y gwynt o hyd yn ei chwythu’n agored.

Erbyn y nosweth wedyn, roedd mam wedi ail newid ei meddwl am gysylltiad
gwynt y dwyrain â’r fronteitus. Caeodd y ffenest yn dyn, er mai gwynt y
dwyrain—y gwynt oedd wedi lladd ei chur yn y pen—oedd yn chwythu.
Clowyd y drws a rhoddwyd sach yr aelwyd o dano. Ac yr oedd hi’n mynd i’w
gwely, a’i llygid yn gochion, ei phen yn drwm, a’r fronteitus arni nes
methu anadlu bron.

Dene’r bore drannoeth y daeth y llythyr melyn hwnnw o’r War Offis, yn
galw Huw—ein Huw ni—yn nymbar rhywbeth neu’i gilydd, a’r tipyn papur
hwnnw ynddo fo, o gydymdeimlad wedi’i brintio, oddiwrth y brenin.

Fedra i ddim tynnu o fy meddwl rwan y nosweth honno wrth yr Hen Ffynnon,
pan oedd Huw a finne yno am ddau o’r gloch y bore.



                       XII.—IFAN OWEN TY’N LLWYN.


“Nedw,” medde Betsen Jones y crydd pan es â thipyn o datws iddi oddiwrth
mam un diwrnod, “be sy ar dy ddwylo di’n gwaedu?”

“Taro’r ddafad yma mewn carreg ddaru mi,” medde fi.

“’Rargen fawr,” medde hi, “mae dy ddwylo di’n llawn defed. Wyddost ti
sut i’w mendio nhw? Galw yng ngefel Tomos Owen y gô a gofyn am gael
molchi dy ddwylo yn y dŵr y mae o’n oeri haearn ynddo fo, bob dydd wrth
fynd adre o’r ysgol, ac mi gei weld y clirian nhw i gyd ond iti beidio â
sychu dy ddwylo, ond gadael i’r dŵr sychu arnyn nhw ohono’i hun.”

Mi ddarum, ac mi ffeindies mai dyn clên iawn ydi Tomos Owen, hoff iawn o
stori, ac o dipyn i beth, aeth Wmffre a fi ac ynte’n hen ffrindie, ac
arhosem yno am gom bob dydd wrth alw i mi ’molchi nwylo. Dyn go newydd
yn yr ardal ydio, wedi cymyd yr efel pan fu farw William Pitars.

Un diwrnod yr ha dwaetha roedd hi’n llethol o boeth, ac yn bygwth trane
trwy’r pnawn. Roedd Wmffre a fi’n cychwyn adre wedi bod dipyn yn hwy
na’r gweddill o’r plant, oherwydd castie Joseph y Titshar. O’n blaene ni
roedd ene nifer o fechgyn yn mynd tuag efel Tomos Owen tan gomio. Dene
daran sydyn, a mellten, a tharan wedyn. Ac i ffwrdd â phob un ar sgruth
a throi i’r efel. Ac ni chawsom ninne ond cyrraedd y drws na ddaeth yn
gafod ofnadwy o law trane, ac yr oedd y mellt yn ddychrynllyd. Roedd
pawb wedi dychrynu, a Tomos Owen yn ceisio ein diddanu. Wrth ei weld mor
rydd, dene Morus yr Allt yn mentro gofyn iddo,—“Tomos Owen, o ble
’rydech chi’n dwad?”

“O Lanfangu, machgen i,” medde Tomos Owen.

“Sut le ydio?” medde Morus.

Ddeydodd Tomos Owen ddim byd am dipyn. “Meddwl amdano fo y bum i trwy’r
pnawn,” medde fo yn y man. “Mae’r pnawn poeth yma yn fy atgoffa am bnawn
poeth tebyg iddo fo dro’n ol yn Llanfangu, pnawn pur ryfedd. Fasech
chi’n leicio cael hanes y pnawn hwnnw?”

“Basen,” medde pawb.

“I ddechre,” medde fo, “rhaid i mi ddeyd sut le ydi Llanfangu, ac mi
ddechreua i yn y dechre. Dene’r peth gore am wn i.” Ac aeth Tomos Owen
ymlaen gyda’i stori, a dyma hi,—

“Lle rhyfeddol o dawel ydi Llanfangu,” medde fo, “a’i Eglwys a’i fynwent
yn ei ganol. Mwy o lawer iawn ydi trigolion y fynwent na thrigolion y
Llan ei hun. Hwyrach mai dene’r rheswm pam fod y lle mor rhyfeddol o
dawel, mai ymostwng y mae o, fel y dyle pob lle, i lywodraeth y
mwyafrif. Welwch chi’r un fynedfa ohono fo, ac y mae ei beder ffordd fel
tase nhw’n darfod ryw ganllath o’r Llan. Wedyn ’does dim i’w weled ond
mynyddoedd, a brynie, a choedwigoedd, ar bob tu. Lle ydio fase’n taro
bardd neu freuddwydiwr fel cilfach bell o sŵn y boen sy’n y byd. Ac
wedi’r cwbwl, ei le amlyca o, mhlant i, ydi’r fynwent.

“A’r pnawn crasboeth yma o fis Mehefin, roedd o’n ymddangos fel pe na
base yno leiafrif o gwbwl, a bod y mwyafrif wedi gadael eu cartref yn y
fynwent, a thrawsfeddiannu pob tŷ a thwlc o fewn y lle. Mor dawel oedd
hi yno ag y gellid clywed yn glir hen gloc mawr yr ysgol bob dydd yn
tipian cyn belled a buarth y _Crown_. Doedd na siw na miw arall ond y
sŵn hwnnw na ellwch chi mo’i ddeffinio, sy’n yr awyr pan fo popeth yn
berffaith dawel. Rhygnai ceffyl ei garn yrŵan ac yn y man ar gerryg
llawr stabal y _Crown_, ac mi clywech o’n rhoi ambell gno ar ei fwyd
rhwng ysbeidie o dawelwch, fel pe na base arno ddim angen am fwy o fwyd
nag a fase’n ei gynnal i freuddwydio, ac mai cipio tamed rhwng y
golygfeydd yr oedd o. Yr unig sŵn arall y gallsech chi ei glywed o’r
ffordd fawr oedd cliciade gweill yr hen Farged Roberts y Gwŷdd, a ddoi’n
ysbeidie di-reol trwy’r drws agored. Ac mae’n rhaid ei bod hi’n dawel
felly. Ac yr oedd yn reit hawdd dychmygu cyflwr yr hen Farged ar y
pryd,—mai gweu yr oedd hi, a phendympian bob yn ail. O dipyn i beth mi
dawelodd hithe’n llwyr, ac ni welech unrhyw arwydd o fywyd o’r cyfeiriad
hwnnw, ond y gath, a chwareuai ar garreg drws y ffrynt â hynny oedd yng
ngweddill o’r bellen ddafedd ar ol iddi ei rholio yno trwy ddrws y cefn
ac i lawr yr ardd a heibio talcen y tŷ.”

“’Rargen fawr,” medde Wmffre dan chwerthin.

“Mae o’n wired a’r pader i ti,” medde Tomos Owen.

“Toc,” medde fo, “dene sŵn traed yn dwad o’r pellter o gyfeiriad Allt y
Felin, a gŵr bynheddig yr olwg arno fo, yn dwad i lawr tua chanol y Llan
a’r fynwent. Daeth Elin Huws Nymbar Ten i’r drws, ac ar ei chyfer yr
ochor arall yr oedd Leisa Ifans Nymbar Nain, yn disgwyl yn ddyfal am i’r
gŵr diarth ddwad heibio.”

“‘Dyn diarth, Elin Huws,’ medde Leisa Ifans.

“‘Gŵr bynheddig, Leisa Ifans,’ medde Elin Huws.

“Mi ddaeth y gŵr bynheddig heibio iddyn nhw,—

“‘Sut ydech chi heddyw, Elin Huws a Leisa Ifans?’ medde fo. Mi swiliodd
y ddwy, a gwrido, a rhoi cyrtsi iddo fo, ond ddeydodd yr un o’r ddwy
air.

“‘Pwy oedd o, tybed?’ medde’r ddwy efo’i gilydd, wedi iddo basio, yr un
fath a chi’r plant mewn dosbarth holi ac ateb. Ac er na fedren nhw yn eu
byw ddyfalu pwy oedd y dyn diarth, roedden nhw’n bur falch fod un gŵr
bynheddig yn y byd mawr, llydan, yn eu nabod nhw.

“Ar y funud, dene sŵn curo ysgafn o’r fynwent fel tase hithe hefyd yn
ymysgwyd wrth sŵn troed y gŵr diarth. A daliodd y curo’n gyson, a
chryfhau bob curiad. I’r fynwent â’r gŵr diarth ar ei union. Roedd ei
ddyfodiad wedi bywiogi tipyn ar drigolion y tuallan i’r fynwent, ac
roedd hi’n debyg fel tase fo’n gneud yr un peth i rai o’r trigolion y
tumewn. Aeth y gŵr bynheddig heibio cornel yr Eglwys tua’r sŵn curo. Y
tu arall i’r Eglwys yr oedd gŵr ar ei linie o flaen carreg fedd
dywodfaen, cŷn yn y naill law, morthwyl yn y llall, a phot jam llawn o
ddŵr budr, a cherpyn, ar lawr wrth ei ochor o. Roedd golwg go fywiog ar
y gŵr yma erbyn hyn, pan ddaeth y gŵr bynheddig wyneb yn wyneb ag o, ac
yr oedd curiade’i forthwyl yn seinio dros y lle.

“‘Wel, Lias Tomos,’ medde’r gŵr bynheddig yn bwyllog, ‘sut mae hi’n dwad
ymlaen?’

“‘Da iawn, da iawn, syr,’ medde Lias Tomos.

“Ar y garreg fedd, mewn llythrenne newydd, oedd yn amlwg yn ffrwyth
ymdrech ddiweddar Lias Tomos, roedd y geirie yma,—

                                AC HEFYD
                                   AM
                               ELIN OWEN,
                      PRIOD Y DYWEDEDIG IFAN OWEN,
                             YR HON A FU FA

“Fel hyn welwch.” A dene Tomos Owen yn sgwenu’r peth ar ddarn o bapur i
ddangos i ni fel yr oedd o.

“Dene cyn belled ag yr oedd ffrwyth llafur Lias Tomos yn cyrraedd,”
medde fo.

“Mi drychodd y gŵr bynheddig ar y geirie yma, ac wedyn yn ddwys a hir ar
eirie twyll, dipyn yn aneglur, uwchlaw iddyn nhw,” medde Tomos Owen.

Ddeydodd o run gair am dipyn wedyn, a ninne’n ofni anadlu, gan y gwyddem
fod rhywbeth mawr ar ei feddwl o. Ysgydwodd ei hun toc, ac aeth yn ei
flaen. Ac medde fo,—

“‘Ac mae o wedi marw ers deunaw mlynedd ar higien?’ medde Lias Tomos gan
weithio’r llythyren “r.”

“‘Ydi, ydi,’ ebe’r gŵr bynheddig, a dwyster ei wedd yn dyfnhau.

“A dyma’r geirie.” A sgwenodd Tomos Owen y geirie ar bapur. Edrychodd
arnyn nhw’n hir, yna dangosodd nhw i ni. A dyma nhw,—

                       ER SERCHUS GOFFADWERIAETH
                                   AM
                               IFAN OWEN,
                       TY’N LLWYN, O’R PLWYF HWN,
                  YR HWN A FU FARW RHAGFYR 2IL, 1891,
                          YN 39AIN MLWYDD OED.
                                   —
                “Yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angau.”

“Ochneidiodd y gŵr bynheddig,” medde fo, “a throdd draw. Ochneidiodd
Lias Tomos, ynte, ochenaid swyddogol, a daliodd i weithio’r llythyren
‘r’.”

Cododd Tomos Owen ar ei draed, ac aeth i edrych trwy’r ffenest, a ninne
fel llygod, a’r trane’n rhuo’r tuallan, a’r glaw fel tase rhywun yn ei
dywallt o fwcedi. Daeth yn ei ol, ac ysgydwodd ei hun fel pe tase fo’n
trio ’i ddeffro ei hun. Ac aeth yn ei flaen.

“Ryw ddegllath oddiwrth y garreg yma,” medde fo, “roedd carreg farmor
odidog. Ac am ysbaid wedyn edrychai’r gŵr bynheddig i bobman yn y
fynwent ond ar garreg dywodfaen Ifan Owen a’i wraig, ac ar y garreg
farmor ddegllath i ffwrdd. Ac mi ddeyda i chi’r rheswm pam.

“Does dim Ty’n Llwyn yn bod i blant heddyw,—dim ond lle yng ngodre Coed
y Garth o’r enw Cyt y Bugiel. Ond mi fu Ty’n Llwyn yno unweth, a
chenhedlaeth ar ol cenhedlaeth yn byw ynddo fo,—yn cael eu geni ynddo,
yn priodi ohono; yn gofidio, a llawenhau; yn pechu a chrefydda; yn torri
clonne a’u cyfannu; yn diodde a marw. Ac un o’r rhai ola i fynd drwy’r
driniaeth yno oedd Ifan Owen.

“Er nad oedd mynd i fyw i Dy’n Llwyn yn rhyw ddyrchafiad mawr, mi
lawenychodd Ifan Owen â chalon lawn pan aeth yno o’r capel, fore ei
briodi ag Elin y Llety, â’i wraig ifanc yn pwyso ar ei fraich. Mi
lawenhaodd uwch ben geni pob un o’i blant, ac mi ddiolchodd yn ddwys i’r
Brenin Mawr bob tro y dychwelai’i wraig yn ol i’r gornel. Mi ddioddefodd
Ifan Owen hefyd wrth edrych i wynebe ’i wraig a’i blant, a’r diodde yma
a’i hanfonodd o i’w fedd yn beder ar bymtheg ar higien oed.”

Rhwng popeth, roedden ni wedi rhyw hanner ddychrynu. Mi wnaeth hanes
Ifan Owen yn priodi i mi gofio am briodas Lisi’r Pentre, ac Elis y Graig
wedi cael hanner pwys o reis i luchio am ei phen, ond yn ei dywallt yn
dawel ar lawr pan oedd pawb arall yn lluchio, am ei fod o’n swil. Ac er
mai Elis oedd yn eistedd yn fy ochr i yn yr efel, roedd arnai ormod o
ofn i edliw’r peth iddo fo.

“Tŷ â hanner ei do’n wellt, a’i hanner yn slaets, a slabie cerryg, a
thywyrch, oedd Ty’n Llwyn,” medde Tomos Owen. “Roedd ei lawr yn bridd,
ag eithrio carreg yr aelwyd, a’r garreg oedd dan draed Elin Owen yn y
gornel y mage hi ei phlant ynddi, a’r garreg oedd yn y gornel arall dan
linie Ifan Owen rhag i’r llawr pridd godi crydcymale ar ei benneglinie,
gan mor gyson yr oedd o arnyn nhw yn y gornel honno. A doedd dim llun
carped yn unman, dim ond dau ddarn sach, gymint â chadache poced, ar y
ddwy garreg o bob tu i’r aelwyd.

“Y tu ol i Dy’n Llwyn yr oedd nyrs fawr o goed pinwydd,—cartre mebyd
ffesants y plas. O flaen y tŷ dan garreg y rhiniog roedd ffos ddŵr. Ac
wedi nos, anamal y clywid dim sŵn oddiallan ond sgrech ambell ffesant a
ddychrynid gan heliwr, a murmur parhaus y ffos. Ac yn nyfnder nos sŵn
ceffyl Mr. Richmond, ffarm y Daran Fawr, yn dwad adre o un o dafarne’r
Llan, a sŵn y marchogwr ei hun yn rhygnu rhegi trigolion yr ardal am na
wnai’r un ohonyn nhw ymostwng i’w wasanaethu o fel y dylent, ac ynte’n
Sais. Ac ni bu storm drane er y dyddie hynny heb i blant Ty’n Llwyn
gofio am Mr. Richmond y Daran Fawr.

“Gwas yr Hafod oedd Ifan Owen. Mi gode gyda’r wawr, a dychwelai adre
gyda’r machlud, hyd yn oed yn yr ha. Prin oedd ei gyflog o, ond medrai
Elin Owen ei estyn cyn belled â neb heb neud gwyrth. A chyda help ambell
i gypaned o laeth enwyn a meipen, magodd ei phlant heb iddyn nhw fawr
erioed wybod beth oedd eisio bwyd.

“Ond mi ddaeth tro ar fyd, ac mi ddechreuodd Ifan Owen nychu. Daliodd
Mr. Huws yr Hafod o, gefn dydd gole, yn pwyso ar ei fforch ar ganol cae,
ac mi gwyliodd o am ddeng munud heb weld osgo ynddo i symud. Rhoddodd
wers o’r ysgrythur iddo ar olwgwasanaeth, ac mi rhybuddiodd o na fedre
fo ddim goddef hynny wedyn. Ond mi daliodd o drachefn ymhen deuddydd yn
eistedd ar garreg yng nghanol cae, pan ddylase fo fod yn agor ffos, ac
mi hysbysodd o mai gartref oedd y lle i orffwyso. Mae’n wir fod Ifan
Owen newydd gael cwrs o besychu nes bod bron darfod amdano. Ond roedd
Mr. Huws, druan ohono, yn bur drwm ei glyw ar adeg felly. Mi blediodd
Ifan Owen yn ddwys ger ei fron dros ei wraig a’i blant, ac mi fentrodd
hyd yn oed gyfadde iddo fo ei nychtod. Ateb Mr. Huws oedd fod rhybuddio
unweth yn ddigon, nad hospitol oedd yr Hafod, ond ffarm, ac mai dynion
cryfion oedd eisio ar ffarm. A chan y cydnabyddid Mr. Huws yn grefyddwr
selog, dylid ei gymyd ar ei air. A gwir a ddeydodd o mai ffarm oedd yr
Hafod. Ffarm fwyaf yr ardal oedd hi, â deugien o wartheg godro ynddi, a
dwy fil o ddefed ar ei moelydd. A rhyfedd oedd dylni Ifan Owen os
camgymerodd yr Hafod o bobman am hospitol.

“Mi drodd Ifan Owen tuag adre i ddeyd wrth ei wraig nad oedd o’n
weithiwr yn yr Hafod mwy. Mi drychodd hithe arno am dipyn, ond gwelodd
ei wyneb yn llwydo fwyfwy, yna mi drodd ei gwyneb a syllodd yn gadarn
i’r tân. Lle da, mhlant i, ydi tân am sychu dagre, hyd yn oed cyn iddyn
nhw adael cartre. Mi grwydrodd Ifan Owen lawer o ffarm i ffarm, ond nid
oedd ar neb eisio gweithiwr a ddaliwyd yn gorffwyso gefn dydd gole. Mi
fu ymhobman yn ei dro ond gyda Mr. Richmond, y Daran Fawr. Doedd unrhyw
was yn ddigon rhyfygus i’w iselhau ei hun trwy ofyn am waith i Mr.
Richmond pe tase rhithyn o obaith am le yn rhywle arall, o achos onid
Mr. Richmond oedd y gŵr, ar ddiwedd cynhaea gwlyb, a regodd Dduw o dop y
dâs. Roedd yr ardal yn ofni cynhaea gwlyb arall am y beiddgarwch ysgymun
yma. Ac mi draddododd Mr. Huws yr Hafod araith ddwys i’w weision ar
barchedigaeth. O achos ofnai Mr. Huws Dduw, a chredai mai Duw a
lywodraethai’i gynhaea o.”

Yr oedd golwg ofnadwy ar Tomos Owen erbyn hyn, a wyddem ni ddim yn iawn
pa un ai bod efo fo yn yr efel, neu allan yn y trane oedd fwya
dychrynllyd. Roedd o’n cerdded o gwmpas yr efel ers meityn ac yn bwrlymu
siarad, a’i lygid o’n wyllt ac yn gochion. Yn y fan yma mi safodd yn
sydyn, a bu am dipyn heb ddeyd dim, a ninne’n edrych ar ein gilydd, a
Wil Tŷ Hen yn rhyw ddechre crio. Eisteddodd Tomos Owen i lawr, a
dechreuodd wedyn yn fwy tawel, a chryndod yn ei lais.

“Wel, mhlant i,” medde fo’n ddwys, “mi feddyliodd Ifan Owen gymint am ei
gyflwr di-waith nes anghofio’i nychtod, ac mi ddaeth rhyw nerth iddo i
grwydro na feddyliodd erioed amdano. A thystiai bob nos wedi chwilota
cyson trwy’r dydd nad oedd o wedi blino dim. Pan gyrhaeddodd o adre un
nosweth roedd y ddau blentyn ienga yn eu gwlâu, a’r ddau hyna,—Hannah a
John,—wrth eu swper. Sgrifennu roedd Hannah ei henw ar damed o fara efo
gwaelodion tun trieg, a John yn ei fwynhau’i hun trwy ddotio at ffurf ei
ddannedd mewn brechdan doddion. Roedd Jane Jones, Pant yr Afon, wedi
galw yno’n ystod y dydd efo’r toddion. Gwas ffarm oedd ei gŵr bithe, ond
roedd hi wedi cael dau botied o’r ffarm ar ol priodas y ferch hyna yno.
Ac roedd gan Ifan Owen, ynte, newydd da,—roedd o wedi cyfarfod â Mrs.
Huws yr Hafod yn ystod y dydd, a hithe wedi deyd wrtho y cawse fo
gwpaned o laeth enwyn yn rhad ond i rywun fynd i’w nol. Aeth John, y
bachgen hyna, yno drannoeth i’w nol o, ac mi gafodd nid yn unig dunied o
laeth, ond dwy feipen braf hefyd. Pan ddychwelodd Ifan Owen o’i
grwydriade y nosweth honno, wylodd Elin Owen mewn diolchgarwch distaw,
mhlant i, wrth y tân am fod y byd mor rhyfeddol o garedig wrth bobol ar
lawr. Ac mi ddiolchodd Ifan Owen, ynte, ar ddiwedd y dydd, yn wresocach
nag erioed, ar y tamaid carreg las a’r darn sach, am hael drugaredde
Rhagluniaeth. Roedd o’n pwysleisio nad oedden nhw eto wedi eu darostwng
i fara sych. Ac er nad oedd o ’n cofio, yng ngrym ei ddiolchgarwch, ddim
ond am y nosweth honno, gwir a ddeydodd,—ia, gwir a ddeydodd o, canys
roedd Rhagluniaeth wedi darparu digon o ddŵr genau hyd yn oed iddyn nhw
i fwydo’u bara. Oedd, roedd digon o hwnnw.”

Ac yn y fan yma cododd wedyn a phoerodd i bendraw’r efel. Erbyn hyn
roedd pawb yn edrych arno fel tase ganddo gyrn ar ei ben. A fynte’n ddyn
diarth hefyd. Dyna’r pnawn rhyfedda aeth dros ein penne ni. Dene fo’n
eiste ac yn gafael mewn morthwyl, ac yn dechre siarad wedyn gan gadw
amser ar yr eingion am dipyn efo’r morthwyl yma.

“Ond darfu’r llaeth enwyn,” medde fo, “a’r maip, a’r trïeg, a’r toddion,
a nosweth ryfedd oedd honno y bu raid i Ifan ac Elin Owen fod o bnawn un
diwrnod tan drannoeth heb damed, rhag i’r plant ddysgu beth oedd eisio
bwyd. A nhw’n myfyrio ar eu dyfodol o flaen ychydig farwor, y goedwig yn
llethol dawel, a hyd yn oed y ffrwd wedi distewi yn eu myfyrdod nhw,
dene sŵn rhoncian ymlaen o’r tuallan,—gŵr y Daran Fawr oedd yn pasio,
ac yn melltithio’r Cymry rhwng rhegfeydd am na wnae nhw ymostwng i’w
wasanaethu o, gan bwysleisio gogoniant llachar y genedl y tarddai o
ohoni hi.

“Mi wrandawodd y ddau arno fo’n dwad, yn pasio heibio, ac yn mynd, nes
i’r sŵn golli yn y pellter. Edrychodd Ifan Owen ym myw llygid ei wraig,
edrychodd hithe i fyw ei lygid yntau, y ddau am y llwyta,—ond cochni
annaearol y marwor oedd yn tywynnu ar eu gwedd.

“‘Wel,’ medde Ifan Owen toc, ‘yfory amdani.’

“Mi ddechreuodd gwefuse Elin Owen grynu, ond ddaeth cysgod deigryn ddim
i’w llygid hi. Ond bore drannoeth roedd ei gobennydd hi’n wlyb ddiferol,
am fod ei gŵr wedi ei ddarostwng i ofyn am waith i ŵr y Daran Fawr, o
achos gwydde hithe’n rhy dda na pharche’r ardal byth mwy neb fase’n
ymostwng i weithio iddo fo. Ond wedi’r cwbwl beth sydd i ddyn i’w neud,
â’i blant yn gwelwi bob dydd?

“Mi gafodd Ifan Owen waith yn y Daran Fawr, ac ymhen yr wythnos mi
ddaeth â chwe swllt i Elin,—chwe swllt, mhlant i,—chwe swllt yr
wythnos a’i fwyd oedd cyflog Ifan Owen i wynebu’i deulu. Ar bnawn y dydd
cynta o Ragfyr, mi ddaeth Mr. Richmond ato i ddeyd bod yn rhaid iddo
fynd dros y nos honno i nol glo. A thaith bell oedd y daith i’r glo. Mi
gychwyunid un min nos, a theithio trwy’r nos, a dwad yn ol ddyfnder nos
drannoeth. Welai Ifan Owen fawr o ddim yn hyn nes i Mr. Richmond enwi’r
cyffyle,—Bocsar, hen geffyl musgrell a bregus oedd un, a cheffyl ifanc
newydd ei dorri i lawr oedd y llall. Roedd Ifan Owen yn ofni’r ceffyl
ifanc yn fawr, o achos mi wydde fwy am ei nychtod na neb arall,—na hyd
yn oed ei wraig ei hun.

“Nosweth oleu, rhwng ysbeidie o fwrw eira oedd y nosweth honno, a
chaenen o eira tros y wlad. Rhaid oedd mynd ddwy filltir cyn cyrraedd
Llanfangu ei hun, ac wedyn i’r mynydd, a ffordd anial, unig, am
filltiroedd maith oedd y ffordd fynydd. Mi elwid rhan o’r mynydd, oedd
ar godiad tir, yn Faes y Lladron, o achos bod traddodiad ar droed mai
yno y llechai’r lladron ddyddie pedoli’r gwartheg a mynd â nhw i Loeger,
ac ysbeilio porthmyn ar eu ffordd yn ol. Anodd oedd gweld y ffordd
fynydd ar nos eira, ac roedd Elin Owen yn meddwl yn bryderus trwy’r nos
am hynt ei phriod.

“Roedd hi’n bwrw eira wedyn drannoeth, ac Elin Owen yn dwad o’r siop fin
nos lle bu hi’n toddi tipyn ar y ddyled efo’r cyflog. Ar y funud honno
roedd yr awyr yn glir, y sêr yn fflamio mwy nag arfer, a’r wlad yn wen
ddisglair dan y gawod oedd newydd ddisgyn, ac Elin Owen yn brysio adre
at ei phlant dan synfyfyrio uwchben eu rhagolygon. Mi wibiodd seren ar
draws yr awyr, a chododd hithe ei golwg i edrych arni. Wedi ei dilyn nes
iddi ddiffodd, mi dynnodd ei golwg yn ol ar y ffordd fawr. A gwelai
rywun yn siglo dwad i’w chyfarfod gan sefyll o’i blaen. Fferrodd ei
gwaed pan adnabu hi ei osgo. Pwy oedd o ond Ifan Owen ei gŵr, a hithe’n
tybio ei fod o ymhell iawn o’r fan honno.

“‘Ifan,’ medde hi, ‘be ydech chi’n ei neud yma?’

“Atebodd Ifan ddim un gair iddi, ond aeth heibio iddi gan edrych yn
ofnadwy ddwys. Mi drodd hithe drach ei chefn i alw arno eilweth. Ond
doedd Ifan Owen ddim yno, na siw na miw amdano. Mi drychodd Elin Owen yn
wyllt ar y ffordd fawr, ond doedd ôl ei draed ddim yno chwaith.

“Na, mhlant i,” medde fo â chrec yn ei lais, “doedd Ifan Owen ddim yno,
a ’dallse fo ddim bod yno, o achos ar y funud honno roedd o newydd
orwedd i orffwys, am ei dro ola ar ganol ei waith, ar allt Maes y
Lladron. Yn gorwedd ar draws ei draed roedd olwyn trol, ac ar ei gorff
lwyth o lo. Yn ei ymyl roedd hen geffyl yn gruddfan gan guro’i ben ar y
ddaear, ac yn y pellter clywid sŵn myglyd carne ceffyl ifanc yn carlamu
trwy’r eira, a’i gadwyne’n llusgo ar ei ol. Roedd y sŵn yn cyrraedd
ymhell, ond er pelled ei gylch, roedd trigfanne dyn ymhellach.

“O’r diwedd mi dawelodd y cynnwrf. Doedd dim sŵn yn unman,—dim ond
siffrwd yr eira ar lyn oedd yng ngwaelod yr allt. Disgynnai’n gyson gan
wynnu’n ddiwyd a charuaidd hen geffyl llonydd, a throl lo, a nyddu’n
dyner gwrlid dros wyneb y gorffwyswr tawel dan y llwyth. O achos doedd
yno neb ond yr Un a daenellai’r eira, i ddiweddu Ifan Owen Ty’n Llwyn.”

Wedi deyd hyn, mi drychodd Tomos Owen yn hir i’r lle tân heb gymyd arno
ei fod o’n gwybod ein bod ni yno. “Ddoi di adre?” medde fi wrth Wmffre,
a dene ni’n rhyw ymysgwyd tipyn gan feddwl llithro allan. Deffrodd hyn
Tomos Owen,—

“O ia,” medde fo’n siriol, “sôn am bnawn crasboeth o fis Mehefin fel hwn
oeddwn i ar y dechre, yntê? Wel, ar y pnawn crasboeth yma o Fehefin, mi
safe John, mab Ifan Owen, fel gwrbynheddig ar lan bedd ei rieni. Wedi
methu’n hir, mi drodd o’r diwedd ac mi syllodd ar y garreg, wedyn mi
drodd ei wyneb at y garreg farmor. Casglodd ei boer, anadlodd yn drwm,
ond mi ymataliodd. Tarodd i’w ben yn sydyn y gellid sarhau hyd yn oed
boeryn wrth ei fwrw ar ambell fedd.” A gwenodd Tomos Owen yn hir tan
edrych tua’r drws fel tase fo wedi anghofio wedyn ein bod ni yno. Roedd
y glaw wedi stopio erbyn hyn, ac mi gododd pawb i fynd allan. Cododd
Tomos Owen ar ei draed hefyd. Wmffre a fi oedd y ddau ola’n mynd drwy’r
drws. Tynnodd Wmffre at fy nghôt ac mi aethom i’n dau yn ein hole.

“Tomos Owen,” medde Wmffre, “Ar fedd pwy yr oedd y garreg farmor,—ar
fedd Mr. Huws yr Hafod neu fedd Mr. Richmond y Daran Fawr?”

“Dydio fawr o bwys, mhlant i,” medde Tomos Owen, tan wenu, “ewch adre
rwan, mae hi’n codi’n braf ar ol y storm,—dacw i chi bont[12] law. A
dydio fawr o bwys gan y dyn a wlychodd yn y storm pan wêl o ’r bont law.
Diolch am bob pont law’n tê, mhlant i?”

Ac i ffwrdd â ni. Ond wrth fynd drwy’r drws mi glywem Tomos Owen yn deyd
rhyngddo a fo ei hun, dan ddechre curo’r eingion,—“Do, mi welodd Jac fy
mrawd bont law y pnawn hwnnw.”

-----

[12] Pont law=enfys, _rainbow_.

                                DIWEDD.

                 *        *        *        *        *

Transcriber’s Notes:

Spelling and punctuation have been left as in the original. Some
illustrations have been moved slightly from their original positions to
keep paragraphs intact.

[End of _Nedw_ by Edward Tegla Davies]



*** End of this LibraryBlog Digital Book "Nedw" ***

Copyright 2023 LibraryBlog. All rights reserved.



Home